Gweledigaeth Amgylcheddol a Chynaliadwyedd 2020-2035

Page 1

Gweledigaeth Amgylcheddol a Chynaliadwyedd 2020-2035

ClwydAlyn.co.uk


Cynnwys 3

Rhagair - Neges gan y Prif Swyddog Gweithredol

4

Pwy ydym ni?

5

Ein Dyheadau

6

Ein Sefyllfa Bresennol

8

Ein Map Amgylcheddol a Chynaliadwyedd

9

Pum Maes Allweddol i Ganolbwyntio Arnynt

2

ClwydAlyn.co.uk


Rhagair Dyma ein Gweledigaeth Amgylcheddol a Chynaliadwyedd. Mae’r strategaeth hon yn nodi ein dull yn y tymor hir o ymdrin â heriau newid hinsawdd mewn ffordd gynaliadwy ac economaidd. Mae ClwydAlyn eisoes yn arwain y blaen o ran ymdrin â ‘Phroblemau Astrus’ fel tlodi, iechyd a llesiant a digartrefedd. Mae Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog wedi gosod targed i sicrhau bod yr holl gartrefi yn rhai Di-garbon erbyn 2050. Ond, ein huchelgais ni yw gyrru’r newid hwn yn gynharach!

Bydd y weledigaeth hon yn ein helpu i nodi map hyd at 2035 trwy roi ein pobl a’n cymunedau yn ganolog i’r hyn yr ydym yn ei wneud. Bydd hyn yn gadael i ni ymdrin â’r anghyfartaledd cymdeithasol sy’n bodoli ar hyn o bryd yn ein cymdeithas, yn ogystal â chreu amgylchedd iach a glân sy’n gynaliadwy.

Mae ymchwil yn awgrymu bod yr aelwydydd tlotaf yn gwario chwe gwaith yn fwy fel canran o’u hincwm ar ynni na’r rhai sy’n ennill mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Rydym am dorri tir newydd wrth wynebu’r heriau amgylcheddol sydd o’n blaenau.

Byddwn yn dechrau trwy leihau ôl troed carbon ein gweithgareddau busnes trwy wneud cartrefi ein preswylwyr yn fforddiadwy ac yn fwy effeithlon o ran ynni. Ein nod yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl, gan leihau’r effaith ehangach ar wasanaethau gofal iechyd a’n cymunedau.

Rydym yn cydnabod bod angen i’n busnes newid ei ymddygiad i ymdrin â’r brys sydd o ran yr argyfwng hinsawdd, sy’n gofyn am fuddsoddiad sylweddol o ran cyfalaf, adnoddau ac amser. Byddwn yn sicrhau bod ein Preswylwyr, Staff, Cartrefi, Busnes a Chymunedau yn cael eu hystyried yn ofalus ym mhopeth a wnawn. Mae gennym ddyletswydd i genedlaethau’r dyfodol i sicrhau ein bod yn ymwreiddio ein Gwerthoedd trwy ein Strategaeth Amgylcheddol, Gymdeithasol a Llywodraethu sy’n sail i’n busnes.

Trwy fod â gweledigaeth dymor hir byddwn yn gallu defnyddio’r cyfle hwn i gefnogi’r economi gylchol ar ein taith tuag at fod yn Ddi-garbon. Byddwn yn ddeinamig a rhagweithiol i sicrhau ein bod yn barod i wynebu unrhyw heriau amgylcheddol newydd fel y byddant yn digwydd yn ystod y 15 mlynedd a mwy nesaf. Rydym wedi cyffroi o gychwyn ar ein cenhadaeth i ddod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar a chynaliadwy ac rydym yn eich croesawu chi i ymuno â ni ar ein taith.

Clare Budden

Prif Swyddog Gweithredol Tai ClwydAlyn

3


Pwy ydym ni? Ffurfiwyd ClwydAlyn yn 1978 fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig anelusennol. Erbyn hyn rydym yn rheoli dros 6,000 o gartrefi ac yn cyflogi tua 750 o bobl sy’n gweithio gyda’i gilydd i drechu tlodi. Mae ein cartrefi a’n gwasanaethau yn cynnwys gofal a gofal nyrsio, tai â chefnogaeth, gwasanaethau datblygu a thrwsio a chynnal a chadw yn ardal saith awdurdod lleol ar draws gogledd a chanolbarth Cymru. Mae ClwydAlyn yn llawer mwy na darparwr tai cymdeithasol. Rydym yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Gogledd Cymru fel cyflogwr a buddsoddwr gyda gwariant cyfalaf sylweddol o £260m mewn Strategaeth Ddatblygu bum mlynedd ar brosiectau adeiladu o’r newydd. Yn ychwanegol, mae prynu nwyddau, crefftwyr a gwasanaethau yn lleol yn arwain at weld 80% yn dod o’r ardal leol, gan fod o fudd i fusnesau, cymunedau a chyflenwyr.

Ynys Môn

Ein cenhadaeth yw ‘gyda’n gilydd i drechu tlodi’ - Rydym am i bawb yng Ngogledd Cymru gael mynediad at dai o safon ragorol, ac rydym am weithio gyda phartneriaid i ymdrin ag achosion ac effeithiau tlodi. A fydd yn ei dro yn helpu i gyfoethogi ein cymunedau trwy roi cefnogaeth lle mae ei angen, boed hynny yn helpu pobl yn ôl i waith, brwydro yn erbyn bod yn ynysig yn gymdeithasol neu gefnogaeth neu roi mynediad at fwyd maethlon. Ein gwerthoedd yw Gobaith, Ymddiriedaeth a Charedigrwydd. Rydym yn cynnwys y rhain ym mhopeth a wnawn.

Sir y Fflint

Conwy

Sir Ddinbych Wrecsam Gwynedd

Powys

Ein Gwerthoedd Ein gwerthoedd yw Ymddiriedaeth, Caredigrwydd a Gobaith. Rydym yn cynnwys y rhain ym mhopeth a wnawn.

4

ClwydAlyn.co.uk

Ymddiriedaeth

Caredigrwydd

Gobaith


Ein Dyheadau Lleihau faint o laswellt sy’n cael ei dorri ar ein stadau i helpu cynefinoedd naturiol a chryfhau natur trwy hau hadau blodau gwyllt.

Newid arferion ein pobl, preswylwyr, a rhanddeiliaid i ddod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd o ran eu gweithredoedd eu hunain yn y gwaith a thu allan iddo.

Cadw teithio busnes cyn lleied â phosibl

Rhoi pobl a chymunedau yn ganolog i bopeth a wnawn.

Gwrthbwyso carbon trwy brynu tir i blannu mannau gwyrdd ac nid adeiladau.

Cefnogi trosglwyddo swyddi o ‘Ddiwydiannau Llwyd’ i gwmnïau gwyrdd glân.

Prynu ein hynni o ffynonellau glân sy’n ystyriol o’r amgylchedd.

Herio’r dulliau traddodiadol ac arloesi gyda chydweithredwyr i archwilio ffyrdd gwahanol o fynd yn wyrdd.

Lleihau faint o blastigau a gynhyrchir ar gyfer ein hanghenion busnes.

Newid arferion pobl o ran problemau amgylcheddol.

Lleihau ein hôl troed carbon yn ein holl weithgareddau busnes.

Sicrhau bod gan ein cartrefi lwybr i allu bod yn Ddi-garbon.

Niwtral

Sicrhau bod yr holl ddatblygiadau newydd yn Ddi-garbon.

Lleihau ein defnydd o ynni. Dim ond defnyddio contractwyr sydd wedi eu hardystio fel rhai ag achrediad B gyda’n cadwyn gyflenwi.

Sicrhau bod ein holl benderfyniadau busnes yn gynaliadwy ac nad ydynt yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.

5


Ein Sefyllfa Bresennol Rydym yn cydnabod bod ein busnes yn cynhyrchu ôl troed carbon sylweddol yn flynyddol. O ran yr ardal ddaearyddol yr ydym yn darparu gwasanaethau ynddi, sut y mae staff yn gweithio, yr ynni yr ydym yn ei ddefnyddio a’r gwastraff yr ydym yn ei gynhyrchu a’r cartrefi yr ydym wedi eu hadeiladu. Ffeithiau Ynni ClwydAlyn * casglwyd Ebrill 2019-Mawrth 2020

Mae gan ClwydAlyn:

769

6,000+

o staff

o Gartrefi

49,500

o ddŵr yn cael ei ddefnyddio:

Litr

Sy’n cyfateb i bwll nofio maint Olympaidd!

Yn Hawlio:

O’r rheiny:

375,000

mi o filltiroedd busnes: Mae hynny’n fwy na gyrru o gwmpas y byd 15 gwaith mewn blwyddyn!

Gyda:

93

o Gerbydau Fflyd:

91 cerbyd diesel a 2 gerbyd petrol sydd yn Fflyd ClwydAlyn.

Sy’n gyrru:

1,717,488 o filltiroedd i’r fflyd: Mae hynny’r

un fath â mynd i’r Lleuad ac yn ôl dair gwaith a hanner!

6

ClwydAlyn.co.uk

mi

3274

3223

Cartref gyda bwyler nwy

t O wastraff yn cael ei gynhyrchu:

200

633

Cartref gyda bwyler olew

A:

100

Cartref gyda ffynhonnell gwres aer* * Y gweddill yn cael eu gwresogi â thrydan, LPG neu danwydd solid

Sy’n cyfateb i 280 bws deulawr y flwyddyn!

Eiddo â phaneli solar

Sy’n creu digon o drydan i gynhyrchu 490000 paned o de.

100

erw o dir glaswellt: Mae hyn yr un fath â thua 50 o gaeau pêl-droed.


Ôl Troed Carbon Ein Pobl Trydan: Milltiroedd: Deunydd a Gwastraff:

Cyfanswm o 10746.4t*

8,150.5t 960.2t 1,635.7t

*tunnell o garbon

Ein Cartrefi

Nod ClwydAlyn yw cyflawni o leiaf band C EPC i bob eiddo erbyn 2030 Band EPC

Effeithlon iawn o ran ynni – costau rhedeg is

A

Rhif cyfredol

Nifer o gartrefi ClwydAlyn ym mhob band

29 B

698 C

1388 D

1843 E

145 F

Ddim yn effeithlon o ran ynni – costau rhedeg uwch

24 *Manylion 4127 eiddo yn Set Data Ynni Safon Ansawdd Tai Cymru

7


Ein Map Amgylcheddol a Chynaliadwyedd

2020-2025 • Bod â llwybr i fod yn Ddi-garbon yn ei le ar gyfer pob cartref gan gynnwys datblygiadau • Bod â rhaglen yn ei lle i ddeall sut i gyflawni camau lleihau carbon yn ein cartrefi yn unol â’r rhaglenni cyfalaf a gwaith a gynllunnir erbyn 2025

Bydd y map yn olrhain ein cynnydd hyd at 2035 gyda cherrig milltir a llwyddiannau i fod yn dyst i lwyddiant ein gweledigaeth. Bydd yn helpu i ddweud hanes ein hymrwymiad i fod yn Ddi-garbon a dod yn arweinydd busnes amgylcheddol wyrdd.

2025-2030 • •Bod â rhaglen bum mlynedd yn ei lle i gyflawni camau lleihau carbon yn ein cartrefi yn unol â’r rhaglenni cyfalaf a gwaith a gynllunnir

• Bod â pheirianwaith yn ei lle i fesur a chofnodi data amgylcheddol

• Sicrhau na fydd ein gwastraff i safleoedd tirlenwi yn fwy na 20%

• Penodi ‘arweinydd gwyrdd’ i greu strategaeth a rheoli’r deilliannau ar gyfer pob maes y canolbwyntir arno

• Byddwn yn sicrhau bod y defnydd o ddeunydd lapio plastig yn dod i ben erbyn 2030

• Byddwn yn sicrhau na fydd ein gwastraff i safleoedd tirlenwi yn fwy na 25%

• Ni fydd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig cyntaf i wrthbwyso carbon trwy brynu a phlannu coed cynhenid ar dir

• Bydd ein defnydd o ynni yn lleihau o 20% • Lleihau milltiroedd busnes o 50% • Ailgylchu 60% o wastraff busnes carreg filltir amgylcheddol 1

• Defnyddio ffynonellau ynni gwyrdd yn unig • Ailgylchu 75% o wastraff busnes • 50% o’r fflyd i fod yn gerbydau trydan

carreg filltir amgylcheddol 1

2030-2035 • Diweddaru ein safle a datblygu ein rhaglen bum mlynedd i gyflawni camau i leihau carbon • Byddwn yn sicrhau na fydd ein gwastraff i safleoedd tirlenwi yn fwy na 15% • Byddwn yn sicrhau ein bod yn ailgylchu 80% o wastraff busnes • Rydym yn defnyddio contractwyr gydag achrediad B wedi ei ardystio i ddatblygu ein cartrefi • Dim bwyleri nwy i gael eu gosod

carreg filltir amgylcheddol 3

• Yr holl dai i fod ar fanc C neu uwch

carreg filltir amgylcheddol 2

Erbyn 2035 • Byddwn yn sicrhau na fydd ein gwastraff i safleoedd tirlenwi yn fwy na 10% • Byddwn yn ailgylchu 90% o wastraff busnes • Bydd pob datblygiad newydd yn sero carbon • Bydd gennym fannau gwyrdd sylweddol ac yn annog cadwraeth ar draws Gogledd Cymru

carreg filltir amgylcheddol 4 8

ClwydAlyn.co.uk


Pum Maes Allweddol i Ganolbwyntio Arnynt Bydd ein nodau a’n hamcanion yn cael eu nodi mewn strategaethau a chyfarwyddyd. Byddwn yn addysgu a newid ymddygiad ein staff, preswylwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid y gadwyn gyflenwi i ymdrin â materion amgylcheddol. Byddwn yn cynhyrchu dogfennau strategaeth bob pum mlynedd, i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau ac yn derbyn datrysiadau fel y byddant yn esblygu ar ein taith tuag at fod yn Ddigarbon.

Ein Cymunedau

Ein Cartrefi Ein Staff

Ein Busnes

Ein Preswylwyr

Arloesedd

Addysg

Gwaith Tîm

Gwerthoedd

Ymddygiad 9


Rhadffon/Freephone: 0800 183 5757 E-bost/Email: help@clwydalyn.co.uk

@ClwydAlyn

ClwydAlyn.co.uk

Mae ClwydAlyn yn Gymdeithas Gofrestredig Elusennol ClwydAlyn is a Charitable Registered Society


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.