2 minute read

Creu mentrau, creu cyfleoedd

Next Article
Tai Teg

Tai Teg

CREU MENTER, CREU CYFLE

Rydym yn canolbwyntio’n gryf ar Gyflogadwyedd yn ClwydAlyn, ac rydym yn credu y dylai fod cyfle i bawb fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant, datblygu a gwaith. Yn ddiweddar, bu inni gydweithio gyda mudiadau i gynnig hyfforddiant a gwaith i bobl gydag anableddau dysgu ac eraill sydd wedi wynebu rhwystrau’n draddodiadol rhag dod o hyd i waith. Eleni rydym yn cydweithio gyda phartner newydd i gefnogi mwy o breswylwyr i ddod o hyd i waith.

Sut mae ClwydAlyn yn cydweithio gyda mudiadau eraill i gynnig cyfleoedd i denantiaid? Mae ‘Creu Menter’, is-gwmni Cartrefi Conwy yn gontractwr adeiladu a chynnal a chadw blaenllaw sydd, fel menter gymdeithasol, yn buddsoddi unrhyw elw yn y gymuned i gynorthwyo trigolion yr ardal i fanteisio ar hyfforddiant, gwaith gwirfoddol a gwaith â thâl. Ami Jones ydy Mentor Cyflogadwyedd Creu Menter a bu iddi egluro sut mae eu ‘Academi Cyflogadwyedd Creu Dyfodol’ yn cynnig lleoliadau gwaith â thâl 12 mis o hyd ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol. Mae cyfle i’r tenantiaid ddatblygu sgiliau a phrofiad i ddod o hyd i waith cynaliadwy. Ymysg y gefnogaeth mae’r academi yn ei gynnig mae : cyngor ar lunio CV effeithiol, help gyda chwblhau ffurflenni cais am swyddi, paratoi ar gyfer cyfweliadau a llunio cynlluniau gweithredu personol i helpu goresgyn unrhyw rwystrau, er mwyn ichi allu cyflawni’ch nodau. Mae ganddyn nhw gyfleoedd amrywiol ac mae’r tîm wedi meithrin cysylltiadau rhagorol gyda chyflogwyr lleol, gan gydweithio gyda nhw i gynnig yr hyfforddiant a’r llwybrau i waith mwyaf addas. Unwaith ichi ddod i hyd i waith, maen nhw’n parhau i’ch cefnogi chi am fis ar gychwyn eich cytundeb! Mae cyfleoedd gwirfoddoli hefyd ar gael i hybu hyder pobl a datblygu eu sgiliau i ddod o hyd i waith. Er enghraifft, drwy gydol y pandemig Covid-19 bu i wirfoddolwyr gyflawni galwadau lles a nôl siopa a phresgripsiynau i breswylwyr bregus. Hefyd bu modd i denantiaid Cartrefi Conwy dderbyn cefnogaeth gan ‘Hyrwyddwyr Digidol’ a wnaeth gynorthwyo’r tenantiaid i ddefnyddio dyfeisiau wedi’u llogi iddyn nhw drwy’r prosiect er mwyn iddyn nhw allu cadw mewn cysylltiad gyda’u ffrindiau a theulu’n rhwydd. Maen nhw’n cynnig hyfforddiant ledled Gogledd Cymru ac mae’n ymwneud gyda: cyllidebu, hybu hyder a dysgu sut i ddefnyddio Facebook! Maen nhw hefyd yn cynnal rhaglenni ‘Pasbort i Ofal’ a ‘Pasbort i Adeiladu’ lle mae cyfle i unigolion ddysgu am wahanol rolau yn y diwydiant, dysgu’r manylion sylfaenol am iechyd a diogelwch a gloywi eu sgiliau dod o hyd i waith! Yn olaf, mae eu Prosiect Gweithio gyda’r Teulu, ‘Gwneud i Waith: Weithio i Bawb’ yn cefnogi teuluoedd sy’n gweithio yn Llandudno, Llandrillo-yn-rhos, Mochdre a Hen Golwyn. Bu i deuluoedd lleol adnabod rhwystrau y bu iddyn nhw eu hwynebu. Yn sgil hynny fe drefnwyd gweithgareddau ‘y tu hwnt i oriau ysgol’ a chynllun cerdyn ffyddlondeb, wedi’i gefnogi gan fusnesau lleol.

Dyma ychydig o’r ffyrdd y gallai Creu Menter helpu preswylwyr, ac eleni rydym yn yn falch o gydweithio gyda nhw i gynnig 10 lleoliad Academi gyda thâl sy’n arbennig i denantiaid ClwydAlyn (yn unig)! I wybod mwy, cysylltwch gydag Ami Jones, 01492 588980 neu e-bostiwch: employmentacademy@creatingenterprise.co.uk.

This article is from: