
2 minute read
Rysait (Well fed
from Resident Newsletter Welsh
by ClwydAlyn
Caserol Selsig i gynhesu’ch tu mewn
Digon i 4
Blasus iawn gyda bara menyn.
Dysgl i rannu gyda gweddill y bwrdd. Mae’n berffaith ar gyfer dyddiau oer y gaeaf. Os chwiliwch chi am ‘calon dwym’ yn y geiriadur, dyma’r pryd y dylech chi ei weld gyferbyn.
CYNHWYSION:
8 Selsig (fe gewch chi ddewis eich hoff rai) 1 nionyn 3 sbrigyn o rosmari ffres x2 dun 400g o domatos hirgrwn aeddfed x2 dun 400g o ffa cannellini 2 lwy de o bâst harrissa 200ml o stoc cyw iâr Bydd angen joch o olew arnoch chi hefyd
Cyfarpar:
Padell ffrïo popty neu badell ffrïo arferol a dysgl caserol. Bwrdd torri llysiau Cyllell finiog Jwg mesur Llwy bren (neu rywbeth arall i droi’r cynhwysion) Gogor Pryd cysurus i gynhesu’ch tu mewn yn ystod y gaeaf sydd wedi’i rannu gan ein partneriaid, WellFed. Os hoffech chi roi cynnig ar bryd heb gig, gallwch ychwanegu selsig Quorn, bydd yr un mor flasus! Dewch inni gychwyn coginio!
1. Pliciwch a thorrwch y nionyn yn ddarnau bras, does dim angen iddyn nhw fod yn ddarnau taclus! 2. Tynnwch y dail oddi ar y rhosmari a’i dorri mor fân â phosib. 3. Ewch ati i baratoi’r stoc yn defnyddio dŵr berwedig a chiwb neu botyn stoc cyw iâr. 4. Nesaf, draeniwch y ffa yn defnyddio’ch gogor a’u rinsio ychydig o weithiau gyda dŵr oer i gael gwared ar unrhyw waddodion
5. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200°c.
6. Tywalltwch mymryn o olew yn y badell a’i chynhesu ar wres isel-canolig. Ychwanegwch eich selsig a’u ffrïo am oddeutu 5 munud nes eu bod wedi brownio.
Tynnwch y selsig o’r badell a rhowch nhw o’r neilltu am y tro.
7. Tywalltwch mymryn bach mwy o olew yn y badell ac ychwanegwch y nionyn wedi’i dorri. Coginiwch ar wres isel nes y byddan nhw wedi meddalu ac yn lliw euraidd. Ychwanegwch y rhosmari wedi’i dorri a phinsiad o halen yna trowch y cymysgedd. 8. Nesaf, ychwanegwch y pâst
Harrissa i’r badell a chymysgwch y cyfan (wnaethon ni fenthyg yr awgrym hwn gan Nigel Slater). 9. Ychwanegwch y tomatos wedi’u torri, y ffa cannellini a’r stoc i’r badell a chymysgwch y cyfan gyda’r cynhwysion eraill. Berwch y cymysgedd am ennyd cyn gostwng y gwres. Ychwanegwch y selsig wnaethoch chi roi o’r neilltu’n gynharach a throwch y cyfan gan sicrhau bod popeth wedi cymysgu gyda’i gilydd yn drylwyr.
10. Blaswch y cymysgedd ac ychwanegwch halen a phupur os oes angen, yna craswch y caserol yng nghanol y popty am 1 awr neu nes bydd y caserol wedi tewychu. 11. Os ydych chi’n defnyddio padell na ellir ei ddefnyddio yn y popty, rhowch y caserol mewn dysgl bopty a’i grasu yng nghanol y popty am 1 awr neu nes bydd y caserol wedi tewychu’n ddigonol. 12. Gweinwch gyda rhywfaint o fara crystiog neu stwnsh hufennog!
Mae Well-Fed yn cynnig Blychau Cartref sydd wedi’u dylunio i’ch cynorthwyo i fwyta’n dda a choginio’n ddidrafferth. Mae pob blwch wedi’u creu gan ein cogyddion medrus a chaiff ein holl brydau eu cynllunio gyda chymorth dietegwr cofrestredig. Gallwch fwrw golwg arnyn nhw ym www.cancook.co.uk/well-fed-at-home/