
1 minute read
Awgrymiadau am ddiogelwch yn y cartref yn ystod Nadolig eleni
from Resident Newsletter Welsh
by ClwydAlyn
Awgrymiadau ar gyfer Diogelu’ch Cartref yn ystod y Nadolig eleni
1.
Gwiriwch eich goleuadau Nadolig yn ofalus pob blwyddyn, gan gael gwared ar unrhyw geblau sydd wedi gwisgo neu gysylltiadau rhydd. 2. Gwiriwch fod eich addurniadau trydanol yn bodloni’r Safon Brydeinig. 3. Diffoddwch eich goleuadau Nadolig pan fyddwch yn gadael y tŷ a phan fyddwch chi’n mynd i’ch gwelyau. 4. Peidiwch â phlygio gormod o blygiau mewn socedi trydanol. 5. Peidiwch â phlygio cebl estyniad i mewn i gebl estyniad arall. 6.
Pan fyddwch yn gosod goleuadau’r tu allan, defnyddiwch dâp ynysu neu glipiau plastig yn lle hoelion neu daciau i’w gosod yn eu lle. 7. Ydych chi’n defnyddio ysgol neu stepiau i osod goleuadau? Dewiswch yr ysgol briodol a gofalwch bod rhywun yn dal yr ysgol pan fyddwch chi’n ei defnyddio. 8.
Gwiriwch eich larymau mwg pob mis i sicrhau eu bod yn gweithio’n ddigonol. 9.
Gofalwch nad oes modd i blant ac anifeiliaid anwes gyrraedd eich canhwyllau. Cofiwch chwythu’r canhwyllau pan fyddwch chi’n gadael yr ystafell neu’n mynd i gysgu. 10. Peidiwch â gadael y gegin pan fyddwch yn coginio. 11. Cysylltwch gyda pherthnasau a chymdogion hŷn yn ystod y Nadolig eleni i sicrhau eu bod nhw’n ddiogel.