2 minute read

Crynodeb o’r Gymuned

EICH CYMUNED CRYNODEB O’R

GYMUNED

Mae’r gymuned yn bwysicaf nac erioed felly mae’n braf gallu amlygu gwaith gwych ein staff a phreswylwyr yn ein cymunedau. Os hoffech chi rannu stori neu ddigwyddiad, anfonwch y manylion atom ni a communications@clwydalyn.co.uk

TŶ GOLAU Bu i un o’n tenantiaid talentog yn Nhŷ Golau wrthi’n creu pryfed pren yn ystod y misoedd diwethaf ar gyfer Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych.

Diolch i Sir Ddinbych yn gweithio, Cadw Prydain yn Daclus, Siediau Dynion Cymru a’r Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyf am gydweithio a chynnig y gofod, deunyddiau, gweithdy a’r cymorth i allu cyflawni’r gwaith. Cafodd y pryfed eu gosod ar y ffens ger rhandiroedd Y Rhyl ar Ffordd Crescent.

MIS YMWYBYDDIAETH CANCR Y FRON

Roedd yn hyfryd gweld ein cynlluniau’n dangos eu cefnogaeth tuag at fis Ymwybyddiaeth Cancr y Fron gyda Chartref Gofal Chirk Court yn Wrecsam yn gwisgo Pinc a Gofal Ychwanegol Tan y Fron, Llandudno yn trefnu stondin gacennau a raffl gan lwyddo i godi £139!! £139 WEDI EI GODI

Bu i breswylwyr a staff Pentref Pwylaidd Penrhos lwyddo i godi swm aruthrol o £685.55 tuag at Gefnogaeth Cancr Macmillan yn ystod eu bore coffi Macmillan

Roedd yn wych gweld pawb gyda’i gilydd yn mwynhau paned a chacen wrth godi arian i Macmillan Cancer. £685.55 WEDI EI GODI EICH CYMUNED

DIWRNOD IECHYD MEDDWL Y BYD – TÎM CHIRK COUR

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, bu i’n tîm anhygoel yn Chirk Court achub ar y cyfle i fywiogi eu cartrefi.

Mae’r tîm yma’n cyflawni llawer o waith gwych i gynorthwyo’r elusen ‘Young Minds’ drwy gydol y flwyddyn felly llongyfarchiadau a diolch yn fawr am eich haelioni! Rydych chi i gyd yn sêr.

DYFODOL

DIOLCH O’R GALON a llongyfarchiadau mawr i staff a phreswylwyr Dyfodol am ymuno gyda busnesau lleol (Skeffington Properties, PHR Plumbing Renewables) a’u teuluoedd mewn digwyddiad codi ysbwriel yn Y Rhyl.

MENTER NOFIO Roedd ein menter nofio yn llwyddiant ysgubol ymysg ein preswylwyr ifanc.

Cafodd y fenter ei chyflwyno ar y cyd â Travis Perkins a wnaeth helpu i ariannu’r digwyddiad. Bu inni hefyd gydweithio gyda’r cynghorau lleol yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych a wnaeth hwyluso’r gwersi nofio. Rydym yn gobeithio cynnal y fenter hon i’n preswylwyr eto mewn gwahanol siroedd.

This article is from: