1
Gweithlu GIG cynaliadwy i Gymru gyfan– 1000 o feddygon yn ychwanegol
Papur Ymgynghori
2
Cefndir – yr argyfwng staffio yn y GIG Mae’n dod yn gliriach fyth y bu methiant sylweddol o ran cynllunio yn y GIG. Mae prinder staff yn cael y bai am gamgymeriadau mewn triniaethau meddygol, cau wardiau, ac anallu GIG Cymru i gynnig gwasanaethau craidd mewn amrywiaeth o ysbytai dosbarth cyffredinol. Dyma’r cefndir y tu ôl i addewid diweddar Plaid Cymru i recriwtio 1000 yn ychwanegol o feddygon dros ddau dymor llywodraeth. Erbyn 2025, byddai gan y GIG 1000 o feddygon yn ychwanegol dan ddau dymor o lywodraeth Plaid Cymru. Mae mwy i brinder nac arbenigeddau penodol - ar hyn o bryd, dim ond dod i ben y mae llawer o wasanaethau, ac y mae sawl her ar y gorwel a allai beryglu gallu Cymru i fod â GIG cynhwysfawr. Mae’n annhebygol y gellir “datrys” yr argyfwng tebygol o ran cyrchu meddygon teulu yn rhannau gwledig ac ymylol Cymru trwy ganoli gwasanaethau meddygon teulu mewn llai o feddygfeydd y bydd yn rhaid i gleifion deithio iddynt. Rhaid cynyddu recriwtio yng Nghymru os ydym am gael GIG Cymru yn y dyfodol. Wrth ystyried staffio meddygol, byddai’n synhwyrol edrych ar y categorïau gwahanol o staff meddygol, oherwydd bod materion penodol yn ymwneud â phob un. Recriwtio a hyfforddi meddygon Prinder staff meddygol (meddygon) sydd fwyaf cronig ac anodd i’w datrys. Mae hyn yn amrywio o feddygon iau yr holl ffordd at uwch-ymgynghorwyr arbenigol. Mae’r problemau ynghylch y prinderau hyn yn weddol hysbys i bawb: •
Effaith y gyfarwyddeb Ewropeaidd oriau gweithio - mae hyn yn effeithio’n arbennig ar feddygon iau a’r oriau y caniateir iddynt weithio.
Prinder byd-eang – gall ymgynghorwyr ddewis lle i weithio – mae meddygon mewn gwirionedd yn dewis llefydd i ddatblygu gyrfa. Mae llawer o feddygon yn gadael diwylliant oriau maith ac obsesiwn targedau’r GIG am Awstralia, Canada a llefydd eraill. 1 · ·
Mae twf llwybrau gyrfa proffidiol mewn meddygaeth breifat yn golygu llai o oriau i ymgynghorwyr allu eu cynnig i’r GIG.
·
Diffyg llwybrau gyrfa eraill yn y gwyddorau (e.e., y diwydiant fferyllol) ar gael yng Nghymru i’r sawl sy’n penderfynu peidio â mynd ymlaen i weithio fel meddygon ymgynghorol.
·
Mae gorddibyniaeth ar feddygon iau yn golygu nad yw llawer o feddygon iau yn cael amser hyfforddi wedi ei warchod. O ganlyniad, nu cyfraddau pasio yn is yng Nghymru nac mewn mannau eraill. Gall hyn atal myfyrwyr rhag gwneud cais i astudio meddygaeth yng Nghymru.
·
Nid yw’r diwylliant yn y GIG yng Nghymru yn gydnaws ag ymchwil clinigol. Mae meddygon ymgynghorol yn llunio gyrfaoedd trwy ymchwilio a chyhoeddi. Mae hyn hefyd yn golygu’r gallu i fynd at driniaethau a thechnolegau mwy modern.
1
Gweler http://www.bbc.co.uk/news/health-‐24396884 a 3 astudiaeth achos o feddygon sydd wedi gadael y DG.
3 ·
Mae ardaloedd gwledig ac ymylol yn dioddef rhwystr ychwanegol natur ddeniadol dinasoedd mawr o ran adloniant ac ansawdd bywyd, gan gynnwys i deuluoedd, gw r a gwragedd Mae’r ddeddf gwrthdroi-gofal yn golygu fod ardaloedd difreintiedig yn aml yn cael gwasanaethau iechyd gwaeth, gan fod llawer o feddygon yn dewis gweithio mewn ardaloedd mwy ffyniannus Y gobeithio gwell am ddatblygu proffesiynol mewn ysbytai sy’n gysylltiedig ag ysgolion meddygol, sy’n dueddol o fod mewn dinasoedd.
· ·
Meysydd penodol lle mae problemau Er bod problem recriwtio yn gyffredinol, mae amcangyfrifon o ardaloedd mewn gofal eilaidd sy’n cael anhawster recriwtio yn adroddiad Longley ac fe’u gwelir isod 2· : Arbenigedd
D&A Pediatreg Iechyd Meddwl /GIMPPhI Radioleg Clinigol Meddygaeth/Geriatreg* Anaestheteg Microbioleg Obs a Gynae
Nifer BI gydag anawsterau with recriwtio 6 6 6 4 4 3 3 3
Prinder cenedlaethol?
Oes Oes Oes Na ? Oes Oes Oes
Mae’r prinderau hyn yn aml yn cael eu rhoi fel rheswm pam fod angen cyflunio gwasanaethau, oherwydd bod byrddau iechyd eisiau defnyddio eu gweithlu presennol yn nes at ei gilydd. Fodd bynnag, mae prinder staff yn fwy na dim ond anawsterau mewn arbenigeddau - maent yn ymestyn ar draws y GIG ac i ofal sylfaenol. Mewn geiriau eraill, fe fyddant yn bod wedi canoli gwasanaethau, ac y maent yn rhwystr i’r math o ail-gyflunio gwasanaeth fyddai’n golygu cyflwyno gwasanaethau yn y gymuned. Mae adroddiad Longley yn ei gwneud yn hollol eglur fod problemau ehangach na swyddi ar lefel ymgynghorwyr:
•
“Y tu allan i ysbytai, mae’r sefyllfa gyda meddygon teulu hefyd yn creu anawsterau. Bydd llawer o feddygon teulu yng Nghymru yn debygol o ymddeol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, ac y mae recriwtio ar gyfer swyddi hyfforddi meddygon teulu eisoes yn broblem yn rhai rhannau o Gymru (maes lle bu Cymru gynt yn gryf). Bydd hyn hefyd yn her i wasanaethau, lle bwriedir trosglwyddo rhai gwasanaethau i’r gymuned.”3
2
Yr Athro Marcus Longley, Y Cyfluniad Gorau i Wasanaethau Ysbyty i Gymru 2012, Papur Crynhoi, tudalen 20 Adroddiad Longley. Cyfeirir ato o hyn allan fel Adroddiad Longley 3 Adroddiad Longley, crynodeb tudalen 21
4
Nid yn yr ardaloedd gwledig yn unig y mae hyn yn digwydd. Yng nghymoedd y de, gall hyd at 40% o feddygon teulu ymddeol dros y ddegawd nesaf, heb neb i gymryd eu lle4. Yn gyffredinol, mae rhyw 20% o’r gweithlu meddygol a deintyddol dros 50 oed, a disgwylir iddynt ymddeol dros y ddegawd nesaf.5 Mae hyn ochr yn ochr â thwf disgwyliedig yn y galw am feddygon teulu oherwydd newidiadau demograffig yn argoeli’n ddifrïol. Cyd-destun rhyngwladol - Sut mae Cymru yn cymharu â gweddill Ewrop. Mae’r graff isod yn dangos y broblem. Gan Gymru y mae un o’r lefelau isaf y pen o feddygon yn yr UE. Graff yn dangos nifer y meddygon mewn perthynas â phoblogaeth yn yr UE 6
Nifer meddygon mewn perthynas a phoblogaeth yn yr UE 50 40 30 20 10 0
Austria Spain Sweden Italy Beligium Bulgaria Czech Republic Germany Lithuania Denmark Hungary France Estonia Malta Scotland Slovakia Finland Latvia Luxembourg United Kingdom England Northern Ireland Cyprus Slovenia Wales Romania Poland
Meddygon am bob 10,000
60
Hyfforddi Gan Gymru y mae’r gyfradd isaf o brofiad hyfforddi, ac yn rhy aml yn y gorffennol, mae hyfforddeion wedi cael eu defnyddio yn amhriodol – gyda gormod o amser yn cael ei dreulio yn yr ysbytai i lenwi rotas a dim digon o amser yn hyfforddi. Hefyd, mae diffyg goruchwyliaeth gan uwch-feddygon. Oherwydd hyn, amlygodd arolwg y GMC o hyfforddeion fod yr hyfforddeion yng Nghymru yn gweithio mwy o oriau nac yn unman arall yn y DG7. Gydag ysgolion meddygol yng Nghaerdydd, ac yn fwy diweddar yn Abertawe a Bangor, mae 4
Gweler http://www.walesonline.co.uk/news/health-‐news/2009/09/12/wales-‐facing-‐shortage-‐of-‐gps-‐as-‐ more-‐doctors-‐head-‐for-‐retirement-‐91466-‐24669232/ 5 Longley et al, Y Cyfluniad Gorau i Wasanaethau Ysbyty i Gymru 2012, papur gweithlu, tudalen 15 6 Ffynhonnell y ffigyrau yw Sefydliad Iechyd y Byd, ystadegau iechyd y byd 2013, http://www.who.int/gho/publications/world_health_statistics/EN_WHS2013_Full.pd Ystadegau Cymru yn dod o stats wales 7
Gweler Arolwg Hyfforddeion y GMC 2011– dyfynnwyd ym mhpaur gweithlu adroddiad Longley, tudalen 5
5 hynny’n gadael llawer iawn o ysbytai yn rhy bell o ganolfannau hyfforddi i wneud lleoliadau yn y mannau mwy ymylol yn bosib. Mae recriwtio pobl i wneud hyfforddiant ôl-raddedig yn rhan hanfodol o ofalu bod digon o feddygon i roi gwasanaeth, am fod pobl sy’n dilyn hyfforddiant ôl-raddedig yn fwy tebygol o aros i weithio yng Nghymru. Yn 2010 awgrymodd adroddiad gan Ddeoniaeth Cymru y bydd 95% o feddygon yn aros yng Nghymru wedi iddynt gwblhau eu hyfforddiant8. Mae llawer peth sy’n rhwystr i ddenu hyfforddeion: Canfyddiadau negyddol am Gymru – nid yw myfyrwyr eisiau byw a gweithio y tu allan i ddinasoedd, a dywedodd deoniaeth Cymru fod llawer o fyfyrwyr yn tybio nad oes gan Gymru hyd yn oed fand eang, fod ei harian eu hun gan Gymru, neu fod angen i fyfyrwyr siarad Cymraeg9· . ·
Mae’r ysgolion meddygol yn Abertawe a Bangor yn gymharol newydd a heb eto ennill yr enw da sydd gan Gaerdydd am hyfforddi.
·
Bydd y diffyg gobeithio am swyddi i raddedigion o ysgolion meddygol y tu allan i’r GIG yn peri nad yw Cymru yn ddeniadol - rhaid i ni hefyd roi mwy o gyfleoedd am yrfa i raddedigion mewn gwyddoniaeth fel y gall myfyrwyr sy’n penderfynu nad meddygaeth yw’r yrfa iddynt hwy newid i wyddorau eraill a chael gobaith rhesymol am yrfa.
Yr hyn sy’n amlwg yw mai damcaniaethol yw’r rhesymau uchod. Heb ddadansoddiad cadarn o ddifrif o’r rhesymau pam nad yw myfyrwyr yn dewis Cymru, bydd y rhesymau yn aros ym myd dyfalu. Nyrsio a’r gweithlu ‘anfeddygol’ Mae’r problemau o ran recriwtio nyrsys yn wahanol iawn. Does dim prinder pobl sydd eisiau gweithio fel nyrsys yng Nghymru. Y broblem yw nifer y swyddi nyrsio a grëwyd. Dros y blynyddoedd diweddar, mae byrddau iechyd wedi dechrau lleihau nifer yr uwch-swyddi nyrsio oherwydd teimlad fod gormod o nyrsys ar fandiau uwch, ac y byddai lleihau’r nifer yn arbed arian. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud i ffwrdd â’r fwrsariaeth fel modd o gynnal nyrsys. Er hynny, y mae problemau: ·
Mae cyfyngiadau ariannol wedi golygu colli nyrsys profiadol ac uwch-ymarferwyr nyrsio. Mae hyn wedi golygu nad yw hyfforddeion o raid wedi cael y mentora fu’n wastad yn rhan anffurfiol o hyfforddi nyrsys.
·
Nid yw byrddau iechyd chwaith wedi buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygu nyrsus arbenigol i helpu i gyflwyno gofal yn y gymuned. Ar adeg pan yr honnir fod byrddau iechyd yn bwriadu symud gwasanaethau i’r gymuned, mae nifer y swyddi nyrsio arbenigol yn cael eu lleihau.
·
Ymhellach, mae nyrsus dan hyfforddiant yn cael llawer iawn o waith di-dâl yn y GIG fel rhan o’u hyfforddiant - gall hyn ostwng ysbryd gweithwyr a chynyddu’r
8 9
Papur gweithlu Longely, tudalen 5 Sgyrsiau gyda gwahanol weithwyr iechyd proffesiynol
6 demtasiwn i fyrddau iechyd ddibynnu ar hyfforddeion yn lle nyrs gyda chymwysterau llawn. Mae hyn yn effeithio ar ofal cleifion ac yn cyfrannu at faint o fyfyrwyr sy’n gadael cyrsiau. ·
Mae strwythurau gyrfa anhyblyg yn golygu cyfyngu ar ddatblygu proffesiynol.
•
Mae 29% o staff nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru dros 50 oed, a 12% dros 55 oed 10. Mae yma felly weithlu sy’n heneiddio ac angen ei adnewyddu. Nid yw hyn yn argyfwng eto, ond mae’n rhaid gofalu fod nyrsio yn ddewis deniadol o yrfa.
Mae Longley yn dyfynnu’r gweithlu sy’n heneiddio fel her i’r cyflenwad o nyrsus cymunedol11 · ·
Er y gwnaed cynnydd o ran rhoi cyfrifoldebau ychwanegol i uwch-ymarferwyr nyrsio megis rhagnodi cyffuriau, erys gwrthwynebiad o du proffesiynau eraill (am amrywiaeth o resymau) tuag at gael nyrsus yn lle proffesiynau eraill
Gweithwyr iechyd proffesiynol eraill Fel mewn nyrsio, does dim prinder o bobl sydd eisiau mynd yn ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, cwnselwyr iechyd meddwl ac ati, ac sydd eisiau gweithio yng Nghymru. Y broblem yw cael y byrddau iechyd i gyllido’r swyddi angenrheidiol a rhoi’r arian yn ei le i ddefnyddio eu rôl fel rhan o wasanaethau yn y gymuned. Erys integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol yn broblem, ac y mae’n effeithio ar ddatblygu’r rhannau hyn o’r gweithlu. Gweithwyr cefnogi gofal iechyd (GCGI) Nid yw recriwtio GCGI yn broblem, ond y mae diffyg hyfforddiant a datblygu gyrfa GCGI yn broblem. Mae trafferth hefyd pan ddefnyddir gormod ohonynt yn lle nyrsus am resymau ariannol, wrth i ofal am gleifion ddirywio a nyrsus gael eu dal yn gyfrifol. Y mae i GCGI ran mewn cyflwyno gwasanaethau, ond yn sicr ni ddylem ystyried recriwtio fel problem yma. Materion ychwanegol Dyma faterion eraill y dylid eu hystyried: ·
Mae newid yn natur a dull cyflwyno gwasanaethau angen gweithlu o safon uchel all ymateb yn hyblyg i ffyrdd newydd o weithio a swyddogaethau newydd, a datblygiadau newydd yn y modd o arfer meddygaeth.
·
Mae gofal iechyd yn cystadlu gyda diwydiannau eraill seiliedig ar wyddoniaeth i oedolion ifanc, gan gynnwys graddedigion sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth, felly mae angen strwythur gyrfa clir a deniadol i’r gweithlu gwyddoniaeth gofal iechyd.
·
Mae a wnelo llawer o’r materion a godwyd â sicrhau cynllunio gweithlu’r GIG yn fedrus, gyda hyfforddiant a datblygu proffesiynol clir i’r gweithlu. ·
Casgliad
10
Papur gweithlu Longley tudalen 6 Adroddiad Longley, tudalen grynhoi 22
11
7 ·
Mae Cymru yn wynebu nifer o faterion problemus o ran hyfforddi a datblygu’r gweithlu a fydd yn bygwth ein gallu i ddarparu GIG mewn llawer rhan o Gymru dros y 10-20 mlynedd nesaf, yn enwedig gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol yn ogystal â rhai gwasanaethau ysbyty. Rhaid i ni fod yn greadigol ac yn arloesol wrth ddatrys y problemau hyn, yn hytrach na dim ond derbyn y dadleuon dros symud gwasanaethau o ardaloedd anghysbell. Ni fydd agwedd Llywodraeth Cymru o ganoli rhai gwasanaethau ar lai o safleoedd yn gweithio mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol.
Cynigion Polisi i ddatrys y problemau a nodwyd Does dim un ateb syml i broblemau recriwtio, a rhaid i’r polisïau a amlinellir gael eu hystyried fel rhan yn unig o strategaeth gyfun o gynllunio gweithlu. Nid oes ateb hawdd, ond bydd y polisïau oll yn cyfrannu tuag at ysgafnhau’r pwysau. Hefyd, dylid cofio, unwaith i rai o’r polisïau ddechrau dangos canlyniadau, y bydd y GIG Cymreig yn cychwyn ar ffordd i fyny a fydd yn ei gwneud yn haws recriwtio eto. Bydd yn haws recriwtio’r 1000fed meddyg na recriwtio’r 10fed meddyg. Y rheswm am hyn yw bod y pwysau y mae’r gwasanaeth yn wynebu ar hyn o bryd ynddynt eu hunain yn cyfrannu at y broblem. Nid yw hyfforddeion yn cael amser hyfforddi wedi ei warchod, na goruchwyliaeth pan fyddant ar y safle, oherwydd y problemau gyda rotas staffio. Felly maent yn dueddol o chwilio am rywle arall i gael yr hyfforddiant hwn. Ond bydd cychwyn y broses o gynyddu recriwtio yn lleihau’r pwysau hyn. Po fwyaf o feddygon fydd gennym, hawsaf fydd hi i gyflwyno arferion gwaith fel amser hyfforddi wedi’i warchod, gwell cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd am rwydweithio clinigol. Mae’r cynigion sydd gennym ni yn disgyn i nifer o gategorïau, er eu bod oll wedi eu cysylltu ac y dylid eu hystyried fel rhan o strategaeth gyfan. Mae’r polisiau yn ffitio i 4 prif thema, er bod gorgyffwrdd a chysylltiadau rhyngddynt oll: (1) Defnyddio cymhellion ariannol i recriwtio a chadw staff, (2) GIG arloesol a all ddenu staff, (3) Ailwampio a buddsoddi mewn hyfforddiant i ddenu’r genhedlaeth nesaf o feddygon, gan gynnwys meddygon cynhenid, a (4) recriwtio rhyngwladol i gau bylchau dros dro. Byddai rhai o’r polisiau yn dechrau lliniaru’r pwysau ar rai arbenigeddau problemus, a dyma yn amlwg fyddai’r flaenoriaeth amlwg i’r gwasanaeth iechyd o’r cychwyn cyntaf. Fodd bynnag byddai manteision llawn y polisiau hyn yn cael eu gweld wedi dau dymor o lywodraeth Plaid Cymru, unwaith i ni fanteisio i’r eithaf ar yr hyfforddeion y buasem yn gobeithio eu denu a’u datblygu yn feddygon. Mae un llywodraeth ar ôl y llall yng Nghaerdydd a Llundain wedi creu problemau trwy ganolbwyntio ar y tymor byr; i ymdrin â’r problemau bydd angen meddwl yn y tymor hir a chael canlyniadau yn y tymor hir. Fe gymer ddeng mlynedd o leiaf i ymdrin yn llawn â phroblemau cynllunio gweithlu. Bydd recriwtio 1000 o feddygon yn ychwanegol dros y cyfnod hwn yn gychwyn da, ond fe gymer 10 mlynedd. Serch hynny, byddai’r holl bolisïau a amlinellir isod yn cael eu gweithredu o ddiwrnod cyntaf llywodraeth Plaid Cymru. Fe welir isod amcangyfrifon dangosol o faint o feddygon y buasem
8 yn ddisgwyl i bob thema gynhyrchu, ynghyd ag amcangyfrifon o amserlenni ar gyfer cyflawni hyn.
Thema 1 - Cymhellion ariannol i recriwtio ôl-raddedigion a llenwi swyddi anodd eu llenwi Gwelsom yn gynharach fod her i recriwtio yn rhai rhannau o Gymru, ac mewn rhai arbenigeddau hefyd. Fodd bynnag, dengys arolwg deoniaeth Cymru a ganfu fod 95% o’r meddygon sydd yn cwblhau eu hyfforddiant yng Nghymru yn aros yng Nghymru 12 fod modd datrys problemau penodol y gweithlu trwy sicrhau fod hyfforddeion ôl-raddedig yn hyfforddi yn y meysydd a’r arbenigeddau lle rhagwelir y bydd prinder. Un polisi o bwys fydd o help i ni gyflawni hyn yw i Lywodraeth Cymru gynnig cymhellion ariannol i recriwtio meddygon i ardaloedd ac arbenigeddau lle mae prinder, neu lle rhagwelir y bydd prinder, er enghraifft, meddygon teulu yng nghymoedd y de. Un agwedd at y math hwn o fenter polisi yw cynllun bond Seland Newydd13. Rhedir y Cynllun Bondio Gwirfoddol gan Weinyddiaeth Iechyd Seland Newydd. Cynllun tâl cymhelliant yw hwn sydd yn gwobrwyo meddygon sy’n cytuno i weithio mewn ardaloedd neu arbenigeddau anodd eu staffio trwy wneud taliadau yn erbyn benthyciad myfyriwr graddedigion (neu’n uniongyrchol i’r myfyriwr graddedig os nad oes benthyciad myfyriwr) a byd dyn talu digon i ganiatáu i feddyg fod wedi ad-dalu’r benthyciad ymhen pedair neu bum mlynedd. Gyda chyfartaledd dyled rhywun sy’n gadael ysgol feddygol yn £75,000, mae hwn yn gryn gymhelliad.14. •
Yng Nghymru, fe allem fabwysiadu system lle bydd meddygon sy’n cytuno i ddilyn hyfforddiant ôl-raddedig yn derbyn cymhelliant ariannol i astudio yng Nghymru. Gallai hyn fod ar ffurf ad-dalu swm penodol o’r benthyciad myfyrwyr am bob blwyddyn o wasanaeth, unwaith y cytunir ar gyfnod cymhwyso o hyfforddiant - yn Seland Newydd, rhaid i feddyg dreulio 3 blynedd yn yr ardal/arbenigedd cyn y telir unrhyw swm. Mae’n werth nodi fod cynllun tebyg wedi ei redeg yn llwyddiannus gan Cymru’n Un i recriwtio deintyddion, a arweiniodd at recriwtio 200 o ddeintyddion yn ychwanegol15. Ymysg dulliau eraill o ddefnyddio cymhellion ariannol mae: Croeso euraid /bonysau am swyddi anodd eu llenwi Lle byddai gan fyrddau iechyd swyddi penodol anodd eu llenwi, byddai Llywodraeth Cymru yn peri bod cyllid ar gael i gynnig ‘croeso euraid’ neu gymhelliant ariannol ychwanegol i lenwi’r swydd. Byddai’n rhaid i hyn gael ei weinyddu’n ganolog gan Lywodraeth Cymru, a byddai’n rhaid cael camau diogelu er mwyn sicrhau fod y swyddi mewn gwirionedd yn anodd eu llenwi. Byddai hefyd yn amodol ar delerau gwasanaeth gwarantedig. Meddygon teulu sy’n cael eu cyflogi yn uniongyrchol
12
Dyfynnir yn Adroddiad Longley, papur gweithlu, tudalen 6. Gweler http://www.healthworkforce.govt.nz/our-‐work/voluntary-‐bonding-‐scheme am fwy o wybodaeth am y cynllun hwn 14 Gweler http://fds.oup.com/www.oup.co.uk/pdf/medicine/Cost_Medical_school.pdf 15 Gweler http://wales.gov.uk/docs/statistics/2011/110818sdr1382011en.pdf. 13
9 Mae problem hanesyddol ers amser gyda denu meddygon teulu i weithio mewn ardaloedd daearyddol penodol. Mae meddygon teulu ar hyn o bryd yn gontractwyr i’r GIG, ac yn derbyn cyllid yn dibynnu ar sut y maent yn cwrdd â thargedau perfformio penodol. Mae llawer o feddygon eisiau gwneud i ffwrdd â’r drafferth o fod yn hunangyflogedig neu redeg eu busnes eu hun, felly gallai sefydlu meddygon teulu sy’n uniongyrchol gyflogedig mewn ardaloedd o’r fath drin y broblem. Dyma sut y cynyddwyd nifer y deintyddion oedd yn gwneud gwaith i’r GIG dan lywodraeth Cymru’n Un. Fe fuasem ni yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol gyllido’r swyddi hyn yn uniongyrchol lle teimlent fod angen hynny. Hyfforddiant am ddim yn gyfnewid am oblygiadau gwasanaeth dan gontract Mae gan ryw 70 o wledydd y byd, gan gynnwys Norwy a nifer o daleithiau Canada, gymhellion ariannol neu ofynion cofrestru gorfodol o blaid treulio peth o hyfforddiant a chyflogaeth gynnar meddyg mewn ardal brin ei gwasanaethau. Gallai hyn fod yn amod derbyn hyfforddiant meddygol am ddim. Ehangir ar y pwynt hwn yn yr adran ar hyfforddiant. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn dechrau cynnig y cymhellion hyn cyn gynted ag y bo modd, gan flaenoriaethu ardaloedd ac arbenigeddau sydd â phroblemau recriwtio yn awr. Fodd bynnag rydym yn rhagweld y bydd angen i bolisiau o’r fath barhau y tu hwnt i dymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru. Rydym yn tybio y gallwn recriwtio 350 o feddygon (200 yn y tymor cyntaf, 150 yn yr ail dymor) trwy’r polisiau hyn.
Thema 2 -GIG arloesol i ddenu mwy o feddygon Mae’r thema hon yn ambarél i’r syniadau sydd gan Blaid Cymru am greu system gofal iechyd a chymdeithasol i’r 21ain ganrif. Rhaid gweld y syniadau hyn fel rhan o agwedd holistaidd at ddenu meddygon newydd, ac y mae cysylltiad clir rhwng y syniadau yma a’r syniadau a fynegir yn nes ymlaen yn y cynigion am ailwampio a gwella ansawdd hyfforddi. Mae hwn yn becyn o fesurau y dylid edrych arno yn ei gyfanrwydd. Gyda’r GIG yn Lloegr yn wynebu’r ailstrwythuro mwyaf ers ei ffurfio, a llawer o ansicrwydd am rôl cwmnïau preifat a chomisiynu consortia meddygon teulu, mae cyfle gwych i wneud pethau yn wahanol yng Nghymru. Mae’n gyfle i gadw ethos cadarnhaol gwasanaeth sydd am ddim ar bwynt ei gyflwyno, a chyfle i greu gwasanaeth gofal iechyd a chymdeithasol sy’n gofalu am bob claf ym mhob sefyllfa. Mae llawer peth sy’n rhaid ei wneud er mwyn i’r GIG fod yn fwy deniadol i weithio ynddo, a fydd yn cyfrannu at ddenu pobl. Ymhlith y polisiau mae: Denu mwy o gyllid ymchwil Yr hyn sy’n apelio’n fawr at feddygon sy’n dewis lle i weithio yw a fydd ganddynt y gallu i gynnal treialon clinigol a chyhoeddi ymchwil. Mae gweithwyr clinigol hefyd yn hoffi gweithio gyda’r technolegau a’r driniaeth ddiweddaraf, sydd weithiau ond ar gael fel rhan o gynnal treialon clinigol. Fel y nodwyd, mae gofal iechyd yn cystadlu gyda llwybrau gyrfa gwyddonol eraill, ac y mae’n rhaid cynnig amgylchedd deniadol i ddarpar ôl-raddedigion ddilyn gyrfaoedd eraill oni fydd meddygaeth yn apelio atynt. Mae cyfleoedd i wneud ymchwil yn hanfodol i hyn. Rydym eisoes wedi cynnig yn ein maniffesto am etholiadau Cynulliad 2011 nifer o bolisiau oedd â’r nod o gynyddu swm
10 yr arian ymchwil a ddeuai i Gymru. Byddai’r polisiau hyn, a’r dewisiadau pellach a amlinellir isod, yn helpu i ddenu arian ymchwil: ·
Cynnydd mewn gwario ar Y+D fel mae arian yn caniatáu, gyda phob adran o Lywodraeth Cymru yn cael cais i gyfrannu tuag at wneud Cymru yn lle sy’n croesawu ymchwil. Ymysg y meysydd blaenoriaeth mae iechyd, gwyddorau bywyd a’r economi digidol. Buasem yn cynyddu gwariant LlC ar Y+D o 2% i 5% ar feysydd blaenoriaeth sydd yn cynnwys iechyd a biowyddorau a’r economi ddigidol.
·
Byddid yn galw Cynghorau Ymchwil i gyfrif ynghylch cwynion cyson nad yw cynigion am ymchwil sy’n canolbwyntio ar Gymru yn cael eu cyllido. Oni cheir gwelliant, buasem am ddatganoli cyllid ymchwil ar sail y pen.
·
Sefydlu cysylltiadau agosach rhwng yr ysgolion meddygol hyn ac ysbytai presennol fel y gallwn ddechrau gwella’r profiad hyfforddi. Bydd prif-ffrydio ymchwil clinigol (gweler isod) yng ngwaith bob-dydd y GIG yn helpu gyda hyn.
Prif-ffrydio Ymchwil Clinigol mewn arfer bob-dydd Fel y nodwyd yn gynt, mae gweithwyr clinigol yn dewis lle i weithio. Mae llawer o feddygon iau yn uchelgeisiol ac eisiau llwybr gyrfa fydd yn heriol ac yn eu boddhau. Mae llawer eisiau cynnal treialon a chyhoeddi fel y gallant hyrwyddo eu gyrfaoedd eu hunain. Bydd cynnig y cyfle iddynt wneud hynny yn gwneud Cymru yn gyrchfan fwy deniadol am yrfa mewn meddygaeth. Ymhellach, bydd hefyd yn denu buddsoddiad o gynghorau ymchwil, diwydiant a gwyddorau bywyd, ac y mae hyn yn golygu y gall y GIG gychwyn ar y ffordd angenrheidiol i fyny i fod yn lle deniadol i weithio. Daeth llawer syniad newydd i’r amlwg hefyd am brif-ffrydio ymchwil treialon clinigol yn ddiweddar. Ar hyn o bryd, sylfaen gyfyngedig o dystiolaeth sydd ar gyfer rhai triniaethau, yn enwedig mewn sefyllfaoedd brys, ac y mae problemau ynghylch pa mor gynrychioliadol yw rhai samplau mewn llawer o dreialon clinigol. Felly mae’r proffesiwn meddygol wedi dechrau meddwl sut i gynnal treialon amser-gwirioneddol mewn sefyllfaoedd clinigol.16 Trwy dechnoleg fodern, mae modd cynnal treialon clinigol amser-gwirioneddol ar draws amrywiaeth o safleoedd. Mae cyfrifiaduro cofnodion meddygol yn gwneud astudiaethau tymor-byr o’r hyn sy’n gweithio mewn sefyllfaoedd brys, ac astudiaethau hwy o driniaethau mewn cymuned, yn hyfyw. Mae erthygl yn y British Medical Journal yn esbonio manteision treialon o’r fath: “Lle nad oes tystiolaeth i fod yn ganllaw i feddygon a chleifion, mae’n foesegol dderbyniol ac yn bendant yn ddymunol cynnig dewis i’r cleifion o fod mewn prawf ar hap i asesu pa driniaeth sydd orau. Mae canllawiau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn mynnu bod meddygon yn datrys ansicrwydd ynghylch effeithiau triniaethau, ac y mae arfer meddygol da yn mynnu fod meddygon yn cyfleu tystiolaeth yn glir i gleifion. Gosod ar hap gyda chasglu data yn systemaidd yw’r ffordd fwyaf rhesymegol a moesegol i ddatrys ansicrwydd. Byddai gwreiddio gwerthusiadau ar hap mewn arfer clinigol arferol yn fodd o gyrraedd y nod hwn, ac yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd gweithwyr clinigol yn
16
Am fwy o fanylion, gweler Ben Goldacre, Bad Pharma,2012.
11 dweud yn onest wrth eu cleifion lle mae ansicrwydd ynghylch manteision cymharol dewisiadau triniaeth eraill.”17 . Mae technoleg hefyd yn golygu na fydd yn rhaid i dreialon clinigol bellach gael eu cynnal yn y prif ysbytai athrofaol. Gallai GIG Cymru arwain y byd o ran cynnal treialon fel rhan greiddiol o’i weithgaredd. Byddai diwylliant sy’n gwerthfawrogi ymchwil nid yn unig yn gwella ansawdd y driniaeth wrth i fwy o wybodaeth gael ei gasglu, ond byddai hefyd yn denu gweithwyr clinigol sy’n gobeithio gwneud ymchwil, a hefyd yn denu arian ymchwil a’r diwydiannau gwyddorau bywyd cysylltiedig. Dyma un maes lle gallai iechyd gwael poblogaeth Cymru fod yn fantais. Gallai ardaloedd megis cymoedd y de arloesi o ran mabwysiadu triniaethau newydd i gyflyrau resbiradol oherwydd lefelau uwch cyflyrau felly yn yr ardaloedd hyn. Gallai meddygon teulu yn y cymoedd ymwneud a monitro effeithiau tymor-hir triniaethau (gyda meddalwedd cyfrifiadurol eisoes yno i sicrhau na fyddai’n rhaid i’r meddyg teulu wneud llawer mwy o waith ychwanegol pe na bai’n dewis ymwneud yn agos â’r astudiaethau hyn), gydag Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn ganolfan ymchwil i’r cyflyrau hyn. Mewn mannau eraill yng Nghymru, gallai ysbytai Bronglais a Llwynhelyg fod yn ganolfannau ymchwil i astudiaethau iechyd gwledig a ffyrdd newydd o gyflwyno gwasanaethau iechyd i gymunedau lle mae’r gwasanaethau hyn mewn perygl. Er mwyn annog diwylliant o ymchwil , gallem fabwysiadu polisiau ychwanegol fel: ·
Gofalu bod prifysgolion yn ffurfio cysylltiadau gyda byrddau iechyd i gynnal ymchwil. Dylai pob staff meddygol fod yn ymwybodol o gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil.
·
Datblygu a gwella cofnodion gofal cleifion unigol electronig.
·
Cyflwyno’r meddalwedd i gofnodi canlyniadau treialon i feddygfeydd - datblygwyd meddalwedd a bychan yw cost ei gyflwyno.
·
Sefydlu cyfnodolyn meddygaeth Cymreig i gofnodi a chyhoeddi canlyniadau treialon. Byddai hyn hefyd yn helpu i hybu gweithgaredd economaidd ynghylch meddygaeth gan y byddai cwmnïau ymchwil preifat yn gweld Cymru fel rhywle lle mae ymchwil yn digwydd.
Esiampl yr Alban Yn yr Alban, gwnaed cryn ymdrech i ddenu’r prif ymchwilwyr mewn meddygaeth, a hefyd brif-ffrydio ymchwil clinigol. Mae’r ymgyrch ‘Get Randomised’18 sydd â’r nod o gael cleifion i gymryd mwy o ran mewn ymchwil yn un enghraifft, ac yn rhan o’r rheswm pam y gallodd yr Alban ddenu buddsoddiad o’r gwyddorau yn gyffredinol, fel yr amlinellir isod. Mae hyn yn un rheswm pam y gallodd yr Alban gynyddu ei lefelau o feddygon i lefelau’r UE. Uno Gofal Iechyd a Chymdeithasol
17
Treialon pragmataidd ar hap gan ddefnyddio cofnodion iechyd electronig arferol: eu rhoi ar brawf, BMJ 2012;344:e55 ar gael o http://www.bmj.com/content/344/bmj.e55 18 Gweler http://getrandomised.org/ am fwy o fanylion
12 Mae’r achos dros integreiddio gwasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol i oedolion yn un cryf a drafodwyd ers llawer blwyddyn. Bydd Plaid Cymru yn ymgynghori ar union strwythur y gwasanaeth gofal iechyd a chymdeithasol newydd ar wahân. Mae’n gynyddol amlwg y bydd gwasanaeth cyfun o’r fath yn ddeniadol i’r meddygon hynny sy’n pryderu fwyfwy am y rhwystrau artiffisial mae eu cleifion yn wynebu o ran cael gofal. GIG di-bapur Mae angen i Gymru arwain y ffordd o ran cyflwyno GIG di-bapur. Bydd hyn yn gwneud y GIG yn fwy deniadol i staff, trwy ddangos fod y GIG yn arloesol ac eisiau gadael i’w staff ofalu am gleifion yn hytrach na wynebu biwrocratiaeth a gwaith papur. Problem gyffredin sy’n wynebu staff yw’r fiwrocratiaeth eithafol a’r gwaith papur sy’n gorfod cael ei lenwi, a dim rhyfedd fod hyn yn destun cwyno cyson. Gellid lleihau hyn yn sylweddol trwy fuddsoddi’n helaeth mewn TGCh. Er enghraifft, yr ydym oll yn gyfarwydd â’r problemau yn y gwasanaeth ambiwlans, ond mae hyn yn rhannol oherwydd nad yw ambiwlansys yn gweithio oherwydd bod parafeddygon yn gorfod llenwi gwaith papur deublyg am wahanol ddigwyddiadau. Gallai cyfrifiadur tabled syml leihau’r amser a dreulir ar waith papur a gall olygu mwy o ambiwlansys yn gwneud eu gwaith. Ail fantais yw y byddai technoleg yn galluogi gweithwyr clinigol i gyfathrebu heb fod ar yr un safle, y byddai modd anfon canlyniadau profion a phelydrau-x yn electronig, a gallai meddyg ymgynghorol anfon cyngor clinigol o bell. Mae hyn yn arbennig o fuddiol wrth gyflwyno gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig, lle gall amseroedd teithio i ysbytai fod yn faith. Mae hefyd yn galluogi ysbytai llai i gynnal gwasanaethau diogel gan y gallant gael mynediad at feddygon ymgynghorol i roi cyngor o bell i feddygon canolradd. Bydd GIG di-bapur nid yn unig yn arbed arian i’w ail-fuddsoddi mewn gofal cleifion, bydd yn galluogi rhannu cofnodion cleifion yn hawdd ac yn arwain at well triniaeth. Yng nghyddestun y papur hwn ar recriwtio meddygon, rhaid nodi y bydd GIG di-bapur hefyd yn boblogaidd gyda staff sydd â thudalennau o waith papur i’w gwblhau bob dydd. Bydd GIG dibapur yn lleihau’r amser mae meddygon yn dreulio ar waith papur, gan ryddhau meddygon i ofalu am gleifion, cynnal ymchwil neu gael mwy o hyfforddiant. Dewisiadau ar gyfer nyrsio a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill Mae GIG arloesol hefyd yn GIG fydd yn rhoi gwerth ar rôl gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Tra bod y papur hwn yn canolbwyntio ar feddygon, mae angen hefyd i weithwyr iechyd proffesiynol eraill gael eu hannog i chwarae rhan bwysicach yn y GIG. Bydd defnyddio’r arbenigedd a’r gefnogaeth a roddir gan weithwyr iechyd proffesiynol eraill yn galluogi meddygon i ganolbwyntio ar ddefnyddio eu sgiliau. Bydd sicrhau mwy o rôl i weithwyr iechyd proffesiynol eraill felly yn anuniongyrchol yn gwneud Cymru yn fwy deniadol fel lle i weithio. Mae rhwydwaith o nyrsus arbenigol yn gynyddol yn rhan hanfodol o wasanaeth gofal iechyd a chymdeithasol sydd am fod yn ataliol a galluogi pobl i aros yn eu cartrefi. Yn groes i recriwtio meddygol, y brif broblem o ran nyrsio arbenigol yw’r swyddi y mae byrddau iechyd yn barod i’w cyllido. Er nad dyma ganolbwynt hyn o bapur, mae’n bwysig amlinellu fod gennym bolisiau a fwriadwyd i wella nifer a rôl nyrsus arbenigol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sydd yn cynnwys:
13 ·
Cronfa ‘fuddsoddi i arbed’ iechyd ar wahân i alluogi byrddau iechyd i gyllido swyddi nyrsio arbenigol fel rhan o newidiadau ehangach gyda’r nod o helpu i reoli cyflyrau yn y gymuned. Bydd cyflwyno cyllidebau treigl tair blynedd yn helpu yma.
·
Mwy o rôl i nyrsus arbenigol / gweithwyr iechyd proffesiynol eraill mewn meddygfeydd i leihau dibyniaeth ar feddygon teulu (gallai cleifion archebu yn uniongyrchol gyda nyrs arbenigol)
Awgrymodd Buchanan 19 fod angen i ni ehangu’r sylfaen recriwtio ar gyfer nyrsio - gan ddadlau fod dibynnu ar ferched ifanc fel nyrs nodweddiadol yn dal y proffesiwn yn ôl. ·
Bwrw ymlaen gydag agenda cael nyrsus yn lle eraill lle mae tystiolaeth glinigol yn awgrymu y byddai hyn yn ddiogel ac yn gwella pethau i gleifion. Byddai hyn hefyd yn helpu i leihau dibyniaeth ar feddygon i weithio rotas lle na fyddai eu hangen a byddai’n rhan o ddewis arall yn lle canoli gwasanaethau.
·
Sicrhau datblygu proffesiynol parhaus i nyrsus er mwyn sicrhau cynnydd gyrfa. Mae llawer o’r problemau ynghylch hyfforddi meddygon iau (gorddefnydd, diffyg goruchwylio etc) hefyd yn wir am nyrsio.
Hybu Cymru yn ehangach fel lle i fyw a gweithio Mae llawer o’r polisiau a amlinellir yn y papur hwn yn eu hanfod am hybu Cymru a datblygu arbenigedd. Gwrthgyferbynnwch hyn â bwriad Llywodraeth Cymru i symud gwasanaethau arbenigol i fabanod newydd-anedig i Loegr, sydd mewn gwirionedd yn ildio i’r syniad na ddylai Cymru ddatblygu arbenigedd. Yn anad dim, mae angen i ni roi mwy o bwys o lawer ar y cryfderau sydd gennym. Pam na allwn anelu at ddatblygu arbenigeddau i ddenu cleifion o Loegr? Gyda gwasanaethau yn yr Amwythig a Chaer dan fygythiad oherwydd diwygiadau GIG Lloegr, mae cyfle i Gymru ddatblygu’r gwasanaethau hyn. Byddai ymrwymiad pendant i gadw ac adleoli arbenigeddau o GIG Lloegr yn anfon arwydd clir am ymrwymiad Cymru i gadw a buddsoddi mewn gwasanaeth iechyd gwirioneddol gyhoeddus, tra bod gwasanaeth Lloegr yn chwalu i wahanol ddarparwyr iechyd preifat amrywiol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Fodd bynnag, mae angen mwy o waith i hybu Cymru. Rhaid ymdrin â’r syniad fod gan ddarpar-feddygon ganfyddiad negyddol o Gymru. Gallai’r Gwasanaeth Iechyd gyfrannu tuag at herio’r fath syniadau negyddol fel a ganlyn: ·
Hybu llawer mwy ar ein cryfderau, gan gynnwys marchnata ein canolfannau rhagoriaeth presennol i gleifion yn Lloegr (gan fanteisio ar yr agenda dewis cleifion yn Lloegr)
·
Hybu harddwch naturiol Cymru i ddenu pobl i fyw yng Nghymru.
·
Ansawdd bywyd - Aiff cyflog meddyg yng Nghymru ymhellach nac yn ne-ddwyrain Lloegr ac fe allai rhywun gael dull gwell o fyw.
19
Gweler http://eresearch.qmu.ac.uk/16/1/bmj2.pdf
14 Ond y mae polisiau hefyd y mae angen i Lywodraeth Cymru eu mabwysiadu i gyfrannu tuag at wneud Cymru yn lle deniadol i fyw, gan gynnwys: ·
Buddsoddi yn y rhwydwaith band eang y tu hwnt i’r dinasoedd.
·
Gwell cludiant cyhoeddus fel y gall meddygon iau sy’n byw mewn ardaloedd gwledig gyrchu atyniadau dinasoedd megis Caerdydd.
·
Sicrhau fod gweithgareddau diwylliannol ar gael y tu allan i Gaerdydd (mae meddygon yn mwynhau gweithgareddau diwylliannol fel pawb arall)
·
Manteisio ar lwyddiannau eraill (megis pêl-droed yr uwch-gynghrair) i hybu Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Mae GIG arloesol, fyddai’n defnyddio’r holl syniadau uchod, yn rhan bwysig o ddenu a chadw meddygon. Fodd bynnag, yn y tymor hir y gwelir manteision y polisiau hyn. Fe gymer amser i’r gair ledu ymysg y proffesiwn, ac i feddygon allu gweld manteision rhai o’r polisiau. Felly, yn ein barn ni, yn y tymor cyntaf, caiff rhyw 50 o feddygon eu recriwtio o ganlyniad i’r polisiau hyn (er y bydd cleifion ar eu hennill hefyd), ond 200 arall yn ail dymor llywodraeth Plaid Cymru wrth i’r gair fynd ar led ac i fanteision y polisiau hyn gael eu gweld.
Thema 3 -Gwella hyfforddiant meddygon a buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o feddygon Cymreig. Mae gwella gallu hyfforddi yn rhan hanfodol o recriwtio a chadw myfyrwyr. Dyma ddywed Longley: Longley:
“Mae cryn dipyn o bob addysg broffesiynol yn cael ei wneud wedi cymhwyso cychwynnol, ac i gyflwyno datblygiad proffesiynol parhaus o’r fath, mae angen cydweithredu agos rhwng y GIG a’r prifysgolion - i ryddhau staff ar gyfer swyddogaethau newydd tra’u bod dan bwysau o hyd yn eu rôl bresennol, a rhagweld pa sgiliau newydd fydd eu hangen.”20 Mae gallu hyfforddi presennol hyfforddiant yn y GIG Cymreig yn seiliedig ar ysgolion meddygol yn Abertawe, Caerdydd a Bangor, gydag Abertawe a Bangor yn gyfleusterau cymharol newydd. I ddenu’r genhedlaeth nesaf o feddygon mae llawer o bolisiau sydd gennym i adeiladu ar y cyfleusterau newydd ac ailwampio’r profiad hyfforddi. Buddsoddi mewn datblygu ysgolion meddygol Cymreig Yn ogystal ag enw da Caerdydd, sydd angen ei ddefnyddio’n well, ehangwyd ysgolion meddygol yn Abertawe a Bangor dros y blynyddoedd diwethaf. Rhaid ystyried yr ysgolion meddygol hyn fel rhan allweddol o hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o feddygon Cymreig. Gellir gweld llwyddiant yr ysgolion meddygol hyn yn y ffaith fod llawer mwy o ymgeiswyr nac o lefydd ar gael ar gyrsiau meddygaeth, ac y mae hyn yn gorfodi llawer o ddarpar-fyfyrwyr Cymreig i astudio yn Lloegr neu’r Alban, a llawer o fyfyrwyr o fannau eraill yn methu astudio yng Nghymru. Wedi datblygu cyfeillgarwch a pherthynas y tu allan i Gymru, maent yn fwy tebyg o aros yno yn y dyfodol. Felly bydd ehangu nifer y llefydd yn ysgolion meddygol Cymru 20
Adroddiad Longley, Crynodeb tudalen 21
15 yn cynyddu’r nifer o ymgeiswyr tebygol am swyddi yng Nghymru, a dylid ystyried hyn yn hanfodol. Buasem felly yn cynnig ehangu nifer y llefydd yn y tair ysgol feddygol, gan gychwyn gyda chynnydd blynyddol yn syth. I ddenu a chadw mwy o fyfyrwyr meddygol, buasem hefyd yn ystyried gwneud lle mewn ysgol feddygol am ddim i blant o Gymru, yn gyfnewid am wasanaeth gorfodol dan gontract pan fyddant yn graddio. Byddai’r cynllun hwn yn debyg i’r cymhellion ariannol a drafodwyd ynghynt, a buasai’n cyd-redeg â hwy. Mae myfyrwyr meddygol ar hyn o bryd yn gadael hyfforddiant gyda dyledion cronedig (gan gynnwys ffioedd, llety a chostau byw) o ryw 75k. Gall defnydd deallus o’r mathau o gymhelliant ariannol a grybwyllwyd yn thema 1 wneud Cymru yn fwy deniadol o lawer i hyfforddi a gweithio. Er mai ein nod yw denu mwy o fyfyrwyr meddygol o bob rhan o’r DG, oherwydd bod myfyrwyr meddygol gyda chysylltiadau lleol yn fwy tebygol o geisio llefydd hyfforddi a gwaith mewn sefydliadau Cymreig, byddai’n gwneud mwy o synnwyr i ganolbwyntio ar gynyddu nifer y myfyrwyr Cymreig sy’n mynychu ysgolion meddygol. Yr ydym yn cynnig y dylai ein holl ysgolion meddygol gael cwota ar gyfer myfyrwyr Cymreig er mwyn sicrhau fod pob myfyriwr sydd am aros yma i astudio meddygaeth yn cael cyfle i wneud hynny. Mae angen i ni gynyddu gallu dwyieithog y gweithlu meddygol. Cynigiwn felly y dylid gosod cwotâu priodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg, ar yr amod y bydd y myfyrwyr hynny yn cwrdd â’r safonau academaidd angenrheidiol. Buasem hefyd yn mabwysiadu’r polisiau canlynol er mwyn sicrhau y byddai’r ysgolion meddygol wedi eu cysylltu â rhedeg y GIG a bod addysg ac ymchwil wedi eu gwreiddio yn ddyfnach yn y GIG: ·
Buddsoddi mewn technoleg TGCh i ofalu bod myfyrwyr yn manteisio ar wybodaeth ac arbenigedd meddygon ymgynghorol mewn unedau y tu allan i ardaloedd a wasanaethir gan yr ysgolion meddygol hyn. Buasem yn annog uwch-ymgynghorwyr i chwarae mwy o ran mewn hyfforddi a mentora meddygon iau.
·
Pan fydd arian yn caniatáu, buasem yn cyllido ambell gampws lloeren bychan mewn ysbytai gwledig ac anghysbell fel y gallai myfyrwyr dreulio peth o’u hamser yn hyfforddi mewn amgylchedd gwahanol.
Gwella’r profiad hyfforddi i feddygon ôl-raddedig Mae gor-ddefnyddio meddygon dan hyfforddiant i lenwi rotas wedi golygu mai gan Gymru y mae un o’r cyfraddau methiant uchaf yn y Deyrnas Gyfunol. Oherwydd y defnyddiwyd gormod o feddygon dan hyfforddiant i gau bylchau yn y rotas, ni chafwyd y ffocws ar amser hyfforddi wedi ei warchod, ni chafodd yr hyfforddeion fawr ddim goruchwyliaeth gan feddygon ymgynghorol, ac o ganlyniad nid ydynt wedi llwyddo i basio’u harholiadau. Cafwyd sgil-effaith, gyda myfyrwyr, felly, yn mynd i sefydliadau eraill lle mae’r cyfraddau pasio yn uwch, a lle bydd ganddynt amser ar gael i hyfforddi. Cymerodd Deoniaeth Cymru gamau i ymdrin â hyn trwy leihau nifer y safleoedd lle bu hyfforddeion yn gweithio. Mae hyn yn anorfod wedi arwain at effaith ar y math o wasanaethau sydd ar gael yn yr ysbytai hynny lle na cheir hyfforddeion bellach. Yn wir, bu diffyg hyfforddeion yn un o’r sbardunau y tu ôl i’r cynigion i ganoli gwasanaethau. Heb hyfforddeion i gau’r bylchau mewn rotas, gadawyd rhai ysbytai yn brin o staff. Nid yw Plaid Cymru eto wedi eu hargyhoeddi fod canoli gwasanaethau hanfodol megis Damwain a Brys draw oddi wrth ysbytai ymylol yn ymateb priodol i brinder staffio, ac y
16 mae’r papur hwn ar gynllunio gweithlu yn rhannol yn cynnig ffordd arall. Mae trafnidiaeth wael, natur wledig a gwasgaredig y boblogaeth, a lefel uwch o afiechyd, yn gwneud canoli gwasanaethau o’r fath yn rhy beryglus i gleifion yn ein barn ni. Fodd bynnag yr ydym yn cydnabod pryderon y ddeoniaeth, ac yn derbyn fod newidiadau i’r modd mae hyfforddeion yn cael eu defnyddio yn bwysig. Gwneud y gorau o’r gwaethaf y mae’r Ddeoniaeth, ac fe’i gorfodwyd i weithredu yn dilyn blynyddoedd o esgeuluso gan Lywodraeth Cymru. Yr ydym, fodd bynnag, yn credu fod modd ymdrin â phryderon y Ddeoniaeth o ran rhai gwasanaethau trwy ddulliau eraill. Trwy reoleiddio, buasem yn gofalu fod pob hyfforddai yn cael amser hyfforddi wedi ei warchod, a byddai gofyn i fyrddau iechyd sicrhau nad oedd eu rotas yn dibynnu ar hyfforddeion. Fodd bynnag, rydym yn tybio hefyd fod achos dros sicrhau fod hyfforddeion yn gallu cael profiadau mewn gwahanol gymunedau, a buasem yn gyndyn o ganoli lleoliadau hyfforddeion mewn trefi a dinasoedd yn unig. Byddai Plaid Cymru felly yn cydnabod yr angen i hyfforddeion gael amser wedi ei warchod a goruchwyliaeth gan feddygon ymgynghorol, ond buasai’n trafod gyda’r Ddeoniaeth i i ofalu na fyddai hyn ar draul darparu meddygon gyda phrofiad o gyflwyno gofal iechyd mewn ysbytai gwledig neu ymylol. Ymdrinnir mwy â’r pwynt hwn yn y troednodyn am pam nad canoli yw’r ateb. Adolygiad Greenaway Mae adolygiad Greenaway 21 i ddyfodol yr hyfforddiant yn gyfraniad amserol i’r ddadl. Dadleuodd yr Athro Greenaway fod angen ailwampio hyfforddiant i gwrdd ag anghenion y GIG yn y dyfodol, gyda llawer mwy o ganolbwyntio ar weithwyr cyffredinol a hyfforddi meddygon gyda’r sgiliau angenrheidiol i symud rhwng arbenigeddau. Casgliad Greenaway yw bod y: “Cyhoedd angen mwy o feddygon sy’n gallu darparu gofal cyffredinol mewn arbenigeddau bras ar draws amrywiaeth o wahanol leoliadau” Er mwyn gwneud hyn, argymhelliad Greenway yw bod: “Angen i hyfforddiant ôl-raddedig ymaddasu i baratoi graddedigion meddygol i gyflwyno gofal cyffredinol diogel ac effeithiol mewn arbenigeddau bras...Rhaid i feddygaeth fod yn yrfa gynaliadwy gyda chyfleoedd i feddygon newid swyddogaethau ac arbenigeddau trwy gydol eu gyrfa.”22 Bwriad Greenaway yw cyfeirio hyfforddiant meddygol ar gyfer anghenion y gwasanaeth yn y dyfodol, ac y mae’n pwysleisio mewn llawer man mai anghenion cleifion lleol ddylai arwain yr hyfforddiant mewn ardaloedd lleol penodol. Mae cyd-destun poblogaeth sy’n heneiddio gyda chyflyrau cronig lluosog yn mynnu bod meddygon yn gyffredinolwyr os ydynt am reoli’r cleifion hyn. Er y bydd meddygon arbenigol iawn yn wastad yn rhan o’r GIG, bydd y gweithlu meddygol yn y dyfodol yn cynnwys llawer mwy o weithwyr cyffredinol i weithio ochr yn ochr â’r arbenigwyr hyn. Ar hyn o bryd, mae ailgyflunio hyfforddiant yn cael ei yrru yn rhannol gan yr awydd i greu cyfleoedd i bawb arbenigo, ac nid oes digon o ganolbwyntio ar feddygon cyffredinol. Mae gweithlu’r dyfodol angen y naill a’r llall, ac y mae angen i’r hyfforddiant a gynigir adlewyrchu hyn, gyda hyfforddeion yn cael profiad o wahanol amgylcheddau gofal 21
Yr Athro Greenaway, Sicrhau dyfodol gofal rhagorol i gleifion, 2013 ar gael o http://www.shapeoftraining.co.uk/reviewsofar/1788.asp 22 Greenaway 2013, tudalen 5
17 iechyd. Gall Cymru gynnig cyfle i hyfforddeion ddatblygu arbenigeddau i’r sawl sydd am ddilyn y llwybr hwn. Mae demograffeg a natur wasgaredig y boblogaeth yn cynnig gwell cyfle i Gymru ddatblygu’r meddygon cyffredinol a wêl Greenaway fel anghenraid. Hyfforddiant meddygol cyfrwng-Cymraeg Pwynt hanfodol i’w ystyried yn nyfodol cynllunio gweithlu y GIG Cymreig yw gofynion siaradwyr Cymraeg, a sut i ofalu y gall nifer digonol o weithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon, siarad Cymraeg. Mae cyfathrebu gyda chleifion yn rhan hanfodol o gyflwyno gofal o ansawdd uchel. Mae llawer o gleifion oedrannus neu rai gydag anawsterau dysgu yn colli’r gallu i fod yn ddwyieithog, ac y mae angen iddynt gael gofal gan weithwyr proffesiynol sy’n medru’r Gymraeg. Mae’n hanfodol fod cyfran o’r meddygon ychwanegol sy’n cael eu recriwtio yn siaradwyr Cymraeg a bod y gwasanaeth yn parhau i ystyried anghenion y boblogaeth Gymraeg eu hiaith. Er y dylid darparu cyfleoedd i bawb ddysgu Cymraeg, er mwyn hybu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y tymor hir, dylid hybu meddygaeth fel dewis gyrfa i fyfyrwyr o gymunedau Cymraeg eu hiaith, gyda bwrsariaethau a llefydd wedi eu gwarantu mewn ysgolion meddygol i siaradwyr Cymraeg sy’n ateb y gofynion. Buasem yn cynnig felly y dylid gwneud ymdrechion penodol i hybu meddygaeth yn yr ysgoilion Cymraeg. Buasem hefyd yn ystyried y canlynol: ·
Gwarantu llefydd mewn ysgolion meddygol i fyfyrwyr o Gymry Cymraeg sy’n ateb y safonau angenrheidiol.
·
Byddai gan ysgolion meddygol gwota o lefydd i’w cynnig i siaradwyr Cymraeg, a byddai’n rhaid iddynt ateb y rhain.
·
Bwrseriaethau a chymhellion ariannol i sicrhau y gall myfyrwyr Cymraeg ddilyn cyrsiau meddygol.
Hybu meddygaeth a’r gwyddorau yng Nghymru Os ydym am lwyddo i ddatrys ein dewisiadau recriwtio, ac yn benodol i sicrhau fod gennym staff sy’n siarad Cymraeg, yna rhaid i ni wneud mwy i hybu meddygaeth a’r gwyddorau mewn addysg yng Nghymru. I wneud hyn, mae angen marchnata’r gwyddorau yn fwy creadigol yn ysgolion Cymru. Yn benodol, dylid hybu meddygaeth fel dewis o yrfa i blant o deuluoedd incwm isel sydd yn fwy tebygol o fod eisiau astudio yn lleol. Mae hyn oherwydd y gall hyd y cyfnod hyfforddi i fod yn feddyg fod yn rhwystr i blant o deuluoedd ar incwm isel ddewis gradd mewn meddygaeth yn lle pynciau eraill. Rhaid i ni adnabod plant talentog Cymreig yn gynt, a sefydlu cynlluniau mentora i’w hannog i astudio’r gwyddorau a dewis meddygaeth fel gyrfa. Denu gwyddorau bywyd i brifysgolion Cymru Nid yw meddygaeth yn bodoli mewn gwagle, ac er mwyn i ysgolion meddygol lwyddo, mae angen amgylchedd ehangach o blaid gwyddoniaeth. Os bydd darpar-fyfyrwyr meddygol hefyd yn chwilio am yrfaoedd yn y gwyddorau yn yr un lle, bydd yn gwneud ysgol feddygol benodol yn fwy deniadol. Bydd manteision ehangach hefyd i economi Cymru.
18 Dylem hefyd fod yn ceisio denu’r bobl orau i brifysgolion Cymru fel man cychwyn i ddenu arian ymchwil a sgil-ddiwydiant gwyddoniaeth. Mae siampl adfywio rhai prifysgolion yn yr Alban yn esiampl wych yma: Yr Alban Yn yr Alban, mae llywodraeth yr SNP wedi gwneud denu cyllid ymchwil a phrif-ffrydio ymchwil yn rhan allweddol o’u strategaeth economaidd. Byddant yn mynd ati i geisio arbenigwyr ac yn gofyn iddynt sefydlu timau ymchwil. Un enghraifft o hyn yw eu hymdrechion llwyddiannus i recriwtio Syr Phillip Cohen. Yr Athro Syr Philip Cohen 23 yw un o’r gwyddonwyr pwysicaf sydd yn gweithio yn sector addysg uwch y DG heddiw. Ef fu’r dylanwad allweddol yn natblygu Coleg y Gwyddorau Bywyd yn Dundee o floc stablau wedi ei addasu gydag 11 o wyddonwyr, i adeilad gyda bron i 800 o staff o 53 gwlad. Bu cyfraniad Syr Philip yn gatalydd eithriadol i adfywio economaidd Dundee i fod yn un o’r clystyrau biotec sy’n tyfu gyflymaf yn y DG heddiw. Datblygodd strategaeth i ddenu rhai o’r gwyddonwyr gorau i Dundee (mae mwy na 1% o wyddonwyr blaenaf y byd yn eu maes wedi eu lleoli yno) a bu’n fodd o godi mwy na £35m dros y 10 mlynedd ddiwethaf i sicrhau mai cyfleusterau gwyddonwyr gorau’r byd yw’r norm yn Dundee. Chwaraeodd ran flaenllaw yn denu amrywiaeth o gwmnïau biotec a fferyllol i leoli eu pencadlys yn Dundee, sy’n golygu bod dros 15% o’r economi bellach yn dod o wyddorau bywyd. O ganlyniad i hyn, bydd Dundee yn denu myfyrwyr meddygol aiff ymlaen i weithio yn y GIG yn yr Alban. Fe gymer amser i’r polisiau hyn gynhyrchu’r meddygon cymwys ychwanegol oherwydd yr amser mae’n gymryd i’w hyfforddi. Buasem yn disgwyl gweld cynnydd yn y niferoedd sy’n hyfforddi yn syth - un o gamau cyntaf llywodraeth Plaid Cymru fyddai cynyddu’r swyddi hyfforddi fyddai ar gael. Fodd bynnag, yn ail dymor llywodraeth Plaid Cymru fe fuasem yn dechrau gweld manteision y polisiau hyn, ac yn disgwyl i’r set gyntaf o feddygon dan hyfforddiant gyrraedd y wardiau, gyda chynifer â 300 o feddygon o’r polisi hwn.
Thema 4: Recriwtio rhyngwladol o’r UE a thu hwnt Anelwyd y themâu blaenorol at gael effaith yn y tymor canol a hir, oherwydd ei bod yn cymryd blynyddoedd lawer i hyfforddi fel meddyg. Ond fel yr amlygwyd ynghynt, mae arbenigeddau penodol sydd angen staff ychwanegol yn syth. Felly, dylid gweld recriwtio rhyngwladol fel rhan o’r ateb i broblemau recriwtio, yn enwedig yn y tymor byr. Ar yr un pryd, mae cyfyngiadau mwy llym ar fewnfudo a osodwyd gan San Steffan wedi rhwystro gallu’r GIG i recriwtio o lefydd megis India a Phacistan - gwledydd sydd yn draddodiadol wedi cyflenwi meddygon i’r DG. Felly yn yr adran hon, rydym yn edrych i weld sut y byddai Plaid Cymru yn cau’r bylchau trwy recriwtio yn rhyngwladol. Recriwtio o’r tu mewn i’r EU Gan nad oes cyfyngiadau mewnfudo yn yr UE, bwriadwn wneud llawer mwy o ddefnydd o’r UE i gau’r bylchau. Mae datgeliadau RhG 24 diweddar wedi dangos yn union cyn lleied o ddefnydd a wnaed o’r UE yng Nghymru. Mae’r tabl isod yn rhoi manylion:
Bwrdd Iechyd
Ymgyrchoedd a digwyddiadau recriwtio a fynychwyd
Aneurin Bevan
Dim
23
Gweler http://www.dundee.ac.uk/externalrelations/40/cohen.html am fanylion llawn Ceisiadau rhyddid gwybodaeth a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2013 gan Blaid Cymru i’r saith bwrdd iechyd
24
19 Abertawe BMU Betsi Cadwaladr Caerdydd a’r Fro Cwm Taf Hywel Dda Powys
Un daith i Sbaen ym mis Tachwedd 2012 - cynigiwyd 14 swydd ac yn cael eu prosesu Defnyddio asiantaeth i wneud peth recriwtio yn Hwngari yn 2011 Taith i Romania yn 2010 (pan oedd cyfyngiadau yn gymwys) Dim Dwy daith i Sbaen Dim
Rhaid gwneud mwy o ddefnydd o’n haelodaeth o’r UE , a byddai llywodraeth Plaid Cymru yn defnyddio mwy o recriwtio o’r tu mewn i’r UE i lenwi swyddi gwag. Dengys canlyniadau llwyddiannus teithiau ABMU i Sbaen fod defnyddio’r UE yn ffordd y dylid ymchwilio mwy iddo i gau bylchau dros dro. Buasem yn gofalu bod yr ymgyrch recriwtio hon yn cael ei chynnal yn ganolog gan Lywodraeth Cymru, yn hytrach na bodloni i adael pethau i fyrddau iechyd lleol. Ar lefel yr UE, byddai Plaid Cymru yn gweithio i sicrhau y byddai modd cludo cymwysterau meddygol i ymdrin ag unrhyw rwystrau all fodoli o ran recriwtio staff. Hefyd, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gofalu y byddai ein hysgolion meddygol yn sefydlu cynlluniau cyfnewid gydag ysgolion meddygol yn yr UE fel y gallai myfyrwyr elwa o wahanol amgylcheddau. Buasem yn cynnig fod GIG Cymru yn ymestyn cynlluniau cyfnewid o’r fath i staff presennol. Byddai cynyddu’r cysylltiadau yn golygu y byddai gan feddygon sy’n ystyried symud eisoes gysylltiadau diwylliannol a Chymru. Gyda pholisïau llym yn debygol o aros yn Ne Ewrop am flynyddoedd lawer, byddai llawer o feddygon yn mwynhau gweithio mewn GIG Cymreig lle mae swyddi gwag, cyfleoedd hyfforddi, a llywodraeth sydd wedi ymrwymo i Wasanaeth Iechyd Gwladol. Mwy o recriwtio yn rhyngwladol Ymhellach draw, y mae llawer enghraifft o gyfnewid o’r fath. Mae Ciwba yn allforio meddygon mewn gofal iechyd ac y mae ganddi gytundebau gyda rhyw 90 gwlad ledled y byd, gan gynnwys gwledydd fel yr Almaen. Yn ddiweddar, anfonodd 4,000 o feddygon i Frasil i ymdrin â’r diffyg darpariaeth gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig. Gwnaeth gwledydd eraill drefniadau tebyg i hwyluso rhannu gwybodaeth. Gall pob gwlad sy’n gwneud cynlluniau cyfnewid o’r fath elw o rannau gwybodaeth ac arferion da. Byddai gwledydd sy’n datblygu hefyd yn elwa o drefniant lle buasem ni yn hyfforddi meddygon o’r gwledydd hynny, iddynt hwy ddychwelyd i’w gwledydd ar ôl cael eu hyfforddi. Yn ystod eu hyfforddiant, wrth gwrs, buasent yn gweithio yn ysbytai Cymru, gan wella’r gwasanaeth trwy hynny. Mae manteision i’r wlad sy’n datblygu o allforio meddygon am gyfnodau byr - mae’r meddygon yn elwa o hyfforddiant o safon uchel yn y technegau diweddaraf a byddant yn datblygu profiadau mewn triniaethau cymhleth na fuasent yn debyg o gael gartref. Y peth allweddol yw gwneud i’r berthynas rhwng Cymru a’r wlad sy’n datblygu weithio er budd y naill ochr a’r llall. Ein cynnig ni yw i feddygon fyddai’n cael eu recriwtio o wledydd o’r fath gael eu cyflogi ar sail dros dro. Buasem hefyd yn gwneud iawn yn ariannol i’r gwledydd sy’n datblygu ac yn ymchwilio i ffyrdd o rannu gwybodaeth trwy gyfnewid a gofalu bod staff yn dychwelyd adref
20 yn well meddygon. Byddai trefniadau o’r fath hefyd yn cynnig cyfle i’n meddygon ni wneud gwaith datblygu, a allai gyfrannu tuag at wneud GIG Cymru yn fwy deniadol i’r meddygon hynny fyddai am ddewis hyn. Gallai defnyddio recriwtio rhyngwladol i recriwtio meddygon fod yn bolisi i’w roi ar waith yn nhymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru, a gellid ei ddefnyddio i gau bylchau yn ystod cyfnod hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o feddygon cynhenid Cymreig. Felly buasem yn disgwyl i 75 o’r meddygon hyn ddod yn nhymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru, a 25 yn ychwaneg yn ail dymor llywodraeth Plaid Cymru.
Ystyriaethau Ariannol Mae llawer o bolisiau a gynigir yn y papur hwn fyddai’n cael effaith ar y cyllid sydd ar gael i’r gwasanaeth iechyd. Byddai llawer o’r polisiau a gynigir yn cael effeithiau ariannol cadarnhaol yn y tymor hir (er enghraifft, GIG di-bapur, dwyn arian ymchwil i mewn i’r GIG a chyfuno gofal iechyd a chymdeithasol). Ymhellach, canlyniad net 1000 o feddygon ychwanegol fyddai gwell gofal i gleifion trwy lefelau staffio mwy diogel, gwasanaethau ar gael yn lleol, a gwell mynediad at feddygon teulu i wella darparu gofal iechyd mewn cymunedau. Mae’n hanfodol bwysig fod pobl yn cydnabod mai gwneud arbedion ffug yw torri lefelau staffio yn y GIG - fe all arbedion gael eu gwneud yn syth o leihau costau cyflogau, ond mae diffyg staff yn golygu bod cleifion yn treulio mwy o amser yn yr ysbyty. Gall nyrs brofiadol yn arsylwi claf i weld a oes cymhlethdodau wneud y gwahaniaeth rhwng claf yn treulio wythnos yn hytrach na mis yn yr ysbyty. Mae gofal da i gleifion yn rhatach yn y pen draw. Hefyd, fel y dywedodd y byrddau iechyd eu hunain, nid cyllid ond prinder staff sydd wedi gwthio ailgyflunio. Bydd canoli gwasanaethau yn arwain at gynnydd mewn costau. Bydd Rhaglen De Cymru, os bydd yn penderfynu ar fodel 5 safle, yn ychwanegu £14 miliwn at gostau staffio gan y bydd angen cynnydd mewn lefelau meddygon i i’w gyflwyno 25. Mae ymchwil Sefydliad Iechyd y Byd hefyd yn awgrymu fod ysbytai mwy yn llai effeithiol, sydd yn arwain at ddiffyg economïau graddfa. Y maint gorau ar gyfer ysbyty, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, yw un gyda rhwng 200 a 600 o welyau. At bwrpas darlunio hyn, maen gan Ysbyty’r Waun yng Nghaerdydd tua 1000 o welyau, a Threforys ryw 750 o welyau. Ar y llaw arall, mae gan Ysbyty Brenhinol Morgannwg ryw 580 o welyau. Byddai rhoi mwy o wasanaethau yng Nghaerdydd a Threforys yn golygu mwy o gostau. Yn olaf, byddai 1000 o feddygon yn ychwanegol yn lleihau gwariant ar staff asiantaeth a locwm, sydd yn £60 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd. Felly, byddai rhai o’r polisiau uchod yn creu arbedion. Fodd bynnag, mae ychwanegu 1000 o feddygon at gyflogres y GIG yn gost sylweddol. Mae amcangyfrif y gost hon yn wyddor anfanwl. Yr anhawster mwyaf yma yw holl amrywiaeth y cyflogau sydd ar gael - mae cymaint o amrywiaeth o swyddogaethau ac yng nghyd-destun graddfa 9 pwynt, ac y mae cyflogau cyn ised â 22k a hyd at 102k. Nid yw gwybodaeth sy’n croesddweud ei hun am gyflogau o help chwaith 26. Fodd bynnag, er mwyn rhoi amcangyfrifon ar gyfer y papur hwn, rydym wedi cymryd pwynt canol/canolrifol y gyfradd gyflogau. Ar gyngor gwasanaeth ymchwil y Cynulliad, rydym hefyd wedi ychwanegu 20% am gostau ychwanegol megis YG y cyflogwr. 25
Gwybodaeth a roddwyd mewn digwyddiad ymgynghori ym Mehefin 2013 yn Llanilltud Fawr Gweler http://www.nhscareers.nhs.uk/explore-‐by-‐career/doctors/pay-‐for-‐doctors/ a http://bma.org.uk/practical-‐support-‐at-‐work/pay-‐fees-‐allowances/pay-‐scales-‐associate-‐specialist am wrth-‐ ddweud ar gyflogau 26
21 Bydd union ffurfiant y 1000 meddyg ychwanegol yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau. Fodd bynnag, mae’r cyfrifiadau isod yn dangos beth fedrai rhai o’r costau posib fod: 100 meddyg ymgynghorol (82k) i gynnal gwasanaethau mewn YDC: £8.2 miliwn 200 meddygon graddfa ganol (arbenigwr cysylltiol)(62k): £12.4 miliwn 300 meddygon teulu wedi cymhwyso’n llawn (70k): £21 miliwn 400 swydd meddyg iau (33k): 13.2 miliwn Cyfanswm ar gyfer 1000 = £54.8 miliwn Ychwaneger 20% am gostau cyflogi: £11 miliwn Byddai hyn yn rhoi cyfanswm o £65 miliwn i’w ychwanegu at gostau cyflogau’r GIG. Yng nghyd-destun llinell gyllideb o £6 billion, mae hyn yn gynnydd o ryw 1% yn y gyllideb. Byddai chwyddiant mewn cyflogau yn cynyddu hyn yn y pen draw, felly fe ddylem mewn gwirionedd weld y costau rhwng £50 miliwn a £200 miliwn. Gan ein bod hefyd yn bwriadu defnyddio cymhellion ariannol megis cynllun bond fel yr un maent yn ddefnyddio yn Seland Newydd i dalu dyled myfyrwyr ar gyfer swyddi anodd i’w llenwi, dylem hefyd gynnwys amcangyfrif ar gyfer hyn. Os rhagdybiwn y buasem yn talu 20% o’r ddyled am bob blwyddyn o wasanaeth /neu ei ohirio hyd nes y rhoddir X blwyddyn o wasanaeth i’r GIG. Byddai modd osgoi’r costau hyn yn llwyr yn nhymor cyntaf llywodraeth petaem yn mabwysiadu’r cynllun dileu gohiriedig, ond at ddibenion amcangyfrif costau posib, fe ddylem ragdybio dileu 50% wedi blwyddyn 3 ac yna 10% am bob blwyddyn ychwanegol. Felly o amcangyfrif dyled gyfartalog myfyriwr mewn ysgol feddygol yn £75k 27, byddai hyn yn gost ychwanegol o £52.5k am ddileu 70% o ddyled y meddyg. Os rhagdybiwn fod angen y cyfryw gost ar gyfer 250 swydd, yna cost unwaith-ac-am-byth fyddai hwn o £13.1 miliwn dros un tymor llywodraeth. Byddai modd amsugno’r costau hyn yn y gyllideb iechyd bresennol, yn enwedig gan y buasent yn cynnig dewis arall yn lle ailgyflunio drud yn ogystal â rhoi dewisiadau eraill i’r byrddau iechyd i wella galluedd a buddsoddi mewn atal afiechyd. Fodd bynnag, gyda llymder yn debyg o aros ar y gorwel waeth pwy fydd yn ennill etholiad 2015 San Steffan, byddai’n beth synhwyrol i Gymru ddechrau archwilio ffynonellau gwahanol o refeniw i ddechrau cyllido’r polisiau hyn cyn i gyllid cyhoeddus ddechrau gwella o 2018 ymlaen. Trethi Pigouviaidd Mae’n egwyddor gydnabyddedig fod llywodraethau yn defnyddio trethi pigouviaidd ar sylweddau niweidiol. Nodweddion trethi o’r fath yw eu bod yn lleihau’r defnydd o gynnyrch a hefyd yn codi refeniw. Defnyddiwyd trethi ar sigaréts ac alcohol yn y DG ers degawdau, ac y mae’r refeniw a godir yn talu am wasanaethau cyhoeddus. Mae gordewdra yn awr yn cael ei dderbyn fel yr her fawr nesaf mewn iechyd cyhoeddus, a bydd yn costio biliynau bob blwyddyn i’r GIG oni fydd y broblem yn cael ei thrin. Ac eto, does dim trethi ar ddiodydd siwgraidd na bwyd afiach. Cynigiwyd treth ar ddiodydd siwgraidd yn llawer o daleithiau UDA a gweriniaeth Iwerddon, ac y mae dan ystyriaeth yn llawer o wledydd Ewrop.
27
Gweler http://fds.oup.com/www.oup.co.uk/pdf/medicine/Cost_Medical_school.pdf ),
22 Yr ydym yn amcangyfrif y byddai treth o 20c y litr yn codi £60 miliwn. Dyma un ffynhonnell refeniw y gallem ei defnyddio i dalu am 1000 o feddygon. Mae cysylltu trethi ar gynhyrchion afiach yn benodol â gwario ar wasanaethau iechyd yn un dull o amlygu budd trethi o’r fath. Byddai’n helpu i fynd i’r afael â gordewdra. Gyda diabetes yn costio tua 10% o gostau’r GIG 28, mae’n hollol amlwg fod yn rhaid mynd i’r afael â bwyta bwydydd afiach. Pan welir manteision llawn y polisiau eraill yr ydym yn eu cynnig, gellir ail-fuddsoddi’r refeniw hwn yn rhywle arall yn y gwasanaeth iechyd. Dan gynigion Comisiwn Silk, rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod â’r grym i godi’r mathau hyn o drethi. Mae’r polisiau a amlinellir yn y papur hwn yn esiamplau o’r mathau o bolisiau y gellid eu cyllido trwy’r mathau hyn o drethi.
Casgliad Pam nad yw canoli gwasanaethau yn ateb i gynllunio gweithlu gwael. Erys yn gred mewn llawer o fyrddau iechyd fod yn rhaid i ni, er mwyn recriwtio mwy o feddygon, ganoli gwasanaethau er mwyn i ni wella’r profiad hyfforddi a gwneud Cymru yn lle mwy deniadol i astudio meddygaeth. Y ddadl hon yw, trwy redeg gwasanaethau ar lai o safleoedd, y bydd gennym rotas digon mawr i sicrhau amser hyfforddi wedi ei warchod, a digon o gleifion trwy’r drysau i wneud yn si r y gall meddygon dan hyfforddiant ddatblygu’r sgiliau i basio arholiadau. Mae peth grym i’r ddadl - nid yw’n dderbyniol gwadu’r amser i feddygon iau hyfforddi a datblygu oherwydd prinder staff. Ond nid yw gwella’r profiad hyfforddi yn gorfod golygu tynnu gwasanaethau craidd o ysbytai gwledig ac ymylol. Mae hyd yn oed y panel a sefydlwyd gan y Gweinidog i archwilio i newidiadau mewn gwasanaethau yn Hywel Dda yn glir (ym mater gwasanaethau i fabanod newydd-anedig): “Nid yw’r ffaith nad yw meddygon dan hyfforddiant ar gael neu yn brin yn cau allan gyflwyno gwasanaeth Lefel 2 i fabanod newydd-anedig. Ymysg modelau eraill mae gwasanaethau yn cael eu cyflwyno gan feddygon ymgynghorol a/neu feddygon SAS (Graddfa Staff, Meddygon Arbenigol ac Arbenigwyr Cysylltiol) heb fod yn feddygon ymgynghorol ond sydd wedi cwblhau Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (RCPCH 2012).”29 Mae hefyd yn werth tynnu sylw at y ffaith nad yw’r newidiadau i’r gwasanaeth yn Rhaglen De Cymru yn mynnu fod pob safle yn darparu hyfforddiant. Mae Rhaglen De Cymru wedi nodi mai dim ond tair safle fydd a hyfforddeion ar y rota. Daeth i’r amlwg hefyd nad oes dim ond digon o feddygon i allu darparu rota lawn o staff ar y tair safle, ac y bydd cyflwyno pedwerydd neu bumed safle yn golygu recriwtio llawer mwy. Felly, os oes modd cynyddu recriwtio yn sylweddol i gyflwyno gwasanaeth wedi ei ailgyflunio, dylai fod modd recriwtio mwy o staff meddygol i ychydig mwy o safleoedd er mwyn cynnal y ddaprariaeth bresennol 28
Gweler http://www.diabetes.org.uk/In_Your_Area/Wales/Diabetes-‐in-‐Wales/ Adroddiad y Panel Craffu ar gynigion i newid gwasanaethau yn Hywel Dda 2013, ar gael o http://www.senedd.assemblywales.org/documents/s21388/September%202013%20Report%20-‐ %20The%20Scrutiny%20Panel%20Report%20on%20Proposed%20Service%20Change%20Proposals%20at%20G langwili%20.pdf 29
23 petaem yn mabwysiadu’r polisiau ychwanegol a amlinellir uchod. Mewn geiriau eraill, does dim angen ailgyflunio i sicrhau amser hyfforddi wedi ei warchod i hyfforddeion. Mae hyn yn arwain at yr ail reswm pam y dywedodd y Gweinidog fod angen ailgyflunio, sef y bydd ceisio darparu’r gwasanaethau hyn ar draws gormod o safleoedd yn golygu na fydd digon o gleifion i alluogi meddygon i gynnal a datblygu eu sgiliau. Credwn ami agwedd ddi-weledigaeth yw hon sydd yn dangos anallu i chwilio am atebion creadigol. Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, llawer mwy o gyflyrau cronig, a’n system gofal brys eisoes dan bwysau, chwerthinllyd yw cymryd arnom na fydd gan ein hysbytai dosbarth cyffredinol ddigon o gleifion. Mae meddygon mewn adrannau brys eisoes yn delio a gwasanaeth sydd dan ormod o bwysau. Yn eu hanfod, bydd adran damweiniau a brys yn gorfod ymdrin ag amrywiaeth o gyflyrau sy’n dod trwy’r drws, ac y mae nodi’r driniaeth briodol yn rhan greiddiol o’r gwasanaeth. Gall llawer o gleifion sydd yn dod i adrannau brys eu hunain gael diagnosis anghywir i ddechrau trwy triage fel rhai â chyflyrau y gallai nyrs eu trin, ond y mae presenoldeb meddygon yn peri y byddai’r mathau hyn o gamgymeriad yn llai peryglus. Byddai’r un mor chwerthinllyd felly cymryd arnom fod y cleifion y ‘math anghywir o gleifion’. Daw’r ddadl hon, fodd bynnag, yn fwy dilys pan fyddwn yn ystyried gwasanaethau eraill, mwy arbenigol – gwasanaethau megis rhai i fabanod newydd-anedig. Yma, mae rhesymeg sicrhau niferoedd digonol o gleifion yn gryfach. Fodd bynnag, y mae caveat yma. Buasem ni’n dadlau fod niferoedd y cleifion sydd eu hangen yn gymwys i bob meddyg unigol, yn hytrach nac i ysbyty penodol. Wedi’r cyfan, ni fydd meddyg fu allan o’r man gwaith am gyfnod o fisoedd wedi gweld unrhyw gleifion, hyd yn oed petai’r ysbyty lle mae’n gweithio yn ateb y gofyniad am niferoedd cleifion. Os yw hyn yn wir, yna byddai gan lawer o ysbytai gwledig ac ymylol mewn gwirionedd nifer uwch o gleifion i bob meddyg, oherwydd bod ganddynt lai o feddygon ar y safle. Mae rhai yn y proffesiwn, sydd am aros yn ddienw, wedi dweud wrthym fod Llywodraeth Cymru yn gor-bwysleisio pwysigrwydd y ddadl nifer-cleifion. Dywedwyd wrthym nad yw’r safonau hyn yn wir am feddygon iau a’r rhai sy’n hyfforddi, ac nad gwyddor fanwl-gywir mohoni, ond yn hytrach sylw cyffredinol fod angen i hyfforddeion, er mwyn pasio arholiadau, weld niferoedd digonol o gleifion penodol. Mae rhai yn y proffesiwn, sydd am aros yn ddienw, wedi dweud wrthym fod Llywodraeth Cymru yn gor-bwysleisio pwysigrwydd y ddadl nifer-cleifion. Dywedwyd wrthym nad yw’r safonau hyn yn wir am feddygon iau a’r rhai sy’n hyfforddi, ac nad gwyddor fanwl-gywir mohoni, ond yn hytrach sylw cyffredinol fod angen i hyfforddeion, er mwyn pasio arholiadau, weld niferoedd digonol o gleifion penodol. Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn gliriach o lawer am eu dadl yma. Serch hynny, hyd yn oed o roi’r cwestiynau hyn o’r neilltu, yn ein barn ni y mae ffyrdd creadigol i bob meddyg sicrhau y gall gwrdd â’r isafswm nifer o gleifion i’w gweld heb golli gwasanaethau o ysbytai gwledig neu bellennig. Yn eu plith mae: •
Rhwydweithio Clinigol – golygai hyn yn hytrach na chanoli gwasanaethau ar safleoedd penodol, ein bod yn canoli rotas yn unig ac yn rhedeg timau unigol o lawer safle. Mae hwn yn ddewis a awgrymir yn adroddiad Longley, a byddai’n gymwys i lawer arbenigedd.
24 •
•
Lleoliadau i hyfforddeion mewn canolfannau gyda llawer o gleifion - gallai hyfforddeion/meddygon iau sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig/ymylol na fyddai’n cael y nifer angenrheidiol o gleifion ychwanegu at y niferoedd trwy gwblhau lleoliadau mewn ardaloedd lle mae llawer o gleifion. Er enghraifft, efallai y byddai meddyg yn gweithio mewn adran D&B yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg 10% yn fyr o nifer y cleifion angenrheidiol (anhebygol yn y rhan hon o Gymru hyd yn oed cyn ailgyflunio!), ond hawdd y gallai drin y nifer angenrheidiol trwy dreulio mis neu ddau yn gweithio yng Nghaerdydd. Golygai hyn y gallai hyfforddeion weld y niferoedd angenrheidiol a hefyd allu dysgu gan wahanol feddygon ymgynghorol yng Nghaerdydd. Amser hyfforddi wedi ei warchod er mwyn gofalu y gallai meddygon mewn ysbytai llai fynd i ddigwyddiadau hyfforddi sy’n cael eu cynnal mewn ysbytai mwy
Dengys yr uchod fod dewisiadau amgen creadigol ar gael, ac y bydd y polisiau a amlinellwyd gennym yn datrys yr her mae Cymru yn wynebu o ran recriwtio. Unwaith iddynt ddechrau gwneud gwahaniaeth, gallwn wedyn fabwysiadu cyfres o bolisiau fel hyfforddi wedi ei warchod fydd yn gwneud Cymru yn fwy deniadol fyth. Trwy ddangos ein bod wedi ymrwymo i GIG i bawb, byddwn hefyd yn sicrhau y gall y genhedlaeth nesaf o feddygon ymddangos a gweithio mewn GIG i bawb yng Nghymru.
25
Ymateb i’r Ymgynghori – sut i gael dweud eich dweud Ein gobaith yw y bydd y syniadau a amlinellwyd uchod wedi dangos fod atebion ymarferol i broblemau gweithlu’r GIG. Yr ydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â barn am y papur hwn i gyfrannu at ddatblygu mwy ar y polisiau hyn. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl sy’n gweithio yn y GIG, ac y mae croeso iddynt gyfrannu’n ddienw os mynnant. Daeth llawer o’r syniadau a amlinellwyd uchod i ddechrau oddi wrth aelodau staff yn y GIG sy’n teimlo’n rhwystredig gyda diffyg uchelgais Llywodraeth Cymru, ac y mae’n amlwg mai staff y GIG sydd yn y sefyllfa orau i gynnig syniadau newydd a rhoi sylwadau adeiladol am ein syniadau. Amlinellir isod gwestiynau i chi eu hystyried yn eich ymateb. 1. A ydych yn cytuno fod problem gyda recriwtio i’r GIG yng Nghymru? Oes gennych chi unrhyw dystiolaeth neu enghreifftiau o hyn? 2. Sut y buasech chi’n gwella ansawdd hyfforddiant meddygol? 3. Oes gennych chi unrhyw sylwadau am recriwtio staff anfeddygol? 4. A oes gennych unrhyw farn ar Uwch-Nyrsio neu ehangu unrhyw swyddogaethau anfeddygol eraill? 5. A oes gennych unrhyw farn am ffyrdd penodol o fynd i’r afael â recriwtio meddygol a amlinellwyd gennym? a. Bonysau b. Cyflogau uniongyrchol c. Hyfforddiant am ddim am oblygiadau gwasanaeth dan gontract d. Recriwtio rhyngwladol 6. Oes gennych chi unrhyw farn neu sylwadau eraill am sut i ddenu staff meddygol?
I wneud sylwadau am y papur, ebostiwch Heledd Brooks-Jones, Cydlynydd Polisi, heleddbrooks-jones@plaidcymru.org.