Saith addewid ynghylch yr iaith Gymraeg i lywodraeth nesaf Plaid Cymru 1. Ymchwilio i wario effeithiol ar hybu a chefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith a gwarchod y gwariant hwnnw dros gyfnod y llywodraeth Yn ystod ein blwyddyn gyntaf mewn llywodraeth, fe fyddwn yn cynnal dadansoddiad llawn o wariant y llywodraeth ar yr iaith Gymraeg a pha mor effeithiol ydyw. Byddwn yn comisiynu gwaith annibynnol i roi cyngor ar yr arferion gorau yn rhyngwladol, yn enwedig o ran cynnal yr iaith yn y cymunedau Cymraeg. Byddwn yn cynhyrchu cyllideb ar gyfer gweithredu ar yr iaith Gymraeg ar sail yr ymchwil a’r dadansoddiad hwn, ac fe wnawn ymrwymo i’r gyllideb honno am dymor cyflawn y Cynulliad. Byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd hyn tua diwedd y tymor er mwyn dwyn gerbron argymhellion ar gyfer unrhyw lywodraeth ddilynol. Byddai’r gyllideb hon yn cwmpasu gwariant ar Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg; y mentrau iaith; Cymraeg i oedolion; cyhoeddi Cymraeg; digwyddiadau diwylliannol ac yn y blaen. Ni fyddai’n cynnwys gwariant ar addysg orfodol, addysg bellach nac addysg uwch. Ymdrinnir yn rhannol â hyn isod. Byddai’r gyllideb yn cynnwys darpariaeth gyfalaf ar gyfer cyfleusterau i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, megis clybiau a thechnoleg fodern. 2. Cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen yn Gymraeg i bob disgybl yng Nghymru
1
Dengys y dystiolaeth yn glir ei bod yn haws dysgu ail iaith, neu drydedd iaith hyd yn oed, yn ifanc iawn. Fel rhan o’n rhaglen amlieithrwydd (a gyhoeddwyd ar wahân …) bydd Plaid Cymru yn gweithio tuag at y nod o Gyfnod Sylfaen Cymraeg i bob plentyn sy’n mynychu ein hysgolion. Gwyddom fod dwyieithrwydd yn sgil gwerthfawr, a’i fod o les i ddatblygiad gwybyddol plant. Credwn y dylai pob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i gael ail iaith (Cymraeg neu Saesneg) a thrydydd hefyd wrth i ddatblygiadau ganiatáu. Byddwn yn gosod targed o Gyfnod Sylfaen hollol Gymraeg ymhen 20 mlynedd. Ein nod yn gyntaf fydd sicrhau, ymhen deng mlynedd, fod 50% o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn defnyddio’r Gymraeg fel y prif gyfrwng yn y Cyfnod Sylfaen, a’u bod yn gwneud darpariaeth ar gyfer parhad ieithyddol yng Nghyfnod Allweddol 2. Y flaenoriaeth ar gyfer y datblygiad hwn fyddai ysgolion mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith neu’r cymunedau hynny sydd â phresenoldeb cyson gryf o siaradwyr Cymraeg. Er enghraifft, byddai hyn yn adeiladu ar y gwaith a argymhellwyd eisoes gan Cefin Campbell ar gyfer Sir Gaerfyrddin ac a dderbyniwyd gan yr awdurdod lleol. Buasem yn gofalu bod targed pellach yn cael ei osod wedi deng mlynedd i sicrhau bod gweddill yr ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn dilyn yr un patrwm. 3. Byddwn yn cyflwyno darpariaeth bellach mewn addysg bellach cyfrwng-Cymraeg gan ddefnyddio model y Coleg Cymraeg Bu’r Coleg Cymraeg yn fenter newydd lwyddiannus a gyflwynwyd pan oedd Plaid Cymru yn llywodraeth Cymru’n Un. Nawr bod gan y sector AB gontract cyflogaeth cyffredin, fe fyddwn yn cymhwyso’r un dull o weithio er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth dysgu cyfrwng Cymraeg yn y sector AB. Er bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu yn y sector, mae’r dewis cynyddol o bynciau galwedigaethol yn y llwybrau dysgu 14-19 a’r angen i sicrhau sgiliau da yn y Gymraeg mewn llawer sector (fel y gwelwyd yng nghyhoeddiad ymchwil Llywodraeth Cymru Anghenion o ran sgiliau Cymraeg mewn wyth sector 2
<http://wales.gov.uk/statistics-and-research/anghenion-o-ransgiliau-Cymraeg-mewn-wyth-sector/?lang=cy>) yn mynnu newid llwyr yn y ddarpariaeth. Mae modd addasu model y Coleg Cymraeg, sydd yn caniatáu cyflogi tiwtoriaid yn uniongyrchol, yn ogystal â chyd-gordio gan wahanol golegau, i’r sector. 4. Datblygu strategaeth economaidd unswydd i gefnogi siaradwyr Cymraeg mewn entrepreneuriaeth a chefnogi datblygu busnesau yn yr ardaloedd Cymraeg Cred Plaid Cymru fod angen economi cryf yn rhanbarthol ac yn gymunedol yng nghadarnleoedd y Gymraeg i’r iaith ffynnu fel iaith gymunedol. Rydym yn cydnabod yr angen i hybu sgiliau Cymraeg a sicrhau bod busnesau a chyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Mae Plaid Cymru’n derbyn argymhellion y gweithgor a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru (http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/policy/wled/?s kip=1&lang=cy) y dylid darparu canolfannau twf Cymraeg yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth a Bangor/Menai fel man cychwyn. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn darparu cefnogaeth, mentora a hyfforddiant i bobl gychwyn busnesau eu hunain yn yr ardaloedd hyn gan edrych ar ddefnyddio arian Ewropeaidd. Byddai llywodraeth Plaid Cymru am adeiladu gweithlu gyda sgiliau Cymraeg mewn sectorau lle mae prinder, gan hybu buddion sgiliau Cymraeg i fusnesau a chyflogwyr. Yn benodol, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn adeiladu sgiliau Cymraeg trwy gynyddu’r nifer o brentisiaethau a chyrsiau galwedigaethol sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno elfennau Cymraeg mewn prentisiaethau a chyrsiau galwedigaethol lle fyddai hyn yn fuddiol. I gefnogi’r gwaith hwn yn y canolfannau twf, byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn defnyddio safonau’r Gymraeg i alluogi rhagor o awdurdodau lleol i ddilyn arfer da Cyngor Gwynedd a chynnal eu gwaith gweinyddu mewnol drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddem yn
3
sefydlu coleg sgiliau gwasanaethau cyhoeddus i’n cynorthwyo i gyrraedd y nod hwn.
5. Cyflawni’r gwaith o gyflwyno safonau iaith Gymraeg ac ymgynghori ar Ddeddf Iaith i ddelio gyda’r sector preifat Mae Plaid Cymru’n pwyso ar y llywodraeth bresennol i orffen y dasg o gyflwyno a deddfu ar y safonau iaith a amlinellir ym Mesur yr Iaith Gymraeg. Mae’r llywodraeth bresennol ar ei hol hi gyda’r gwaith hwn. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cyflawni’r gwaith ac, ar ol i’r safonau ymsefydlu a dangos cynnydd, ymgynghori ar ddeddf gynhwysfawr a fydd yn dileu anfanteision y Mesur presennol a ddeillia o’r dull deddfu cydsyniad ddeddfwriaethol ac ystyried mesurau priodol ar gyfer y sector preifat. 6. Gwneud yr iaith Gymraeg yn ystyriaeth allweddol mewn penderfyniadau cynllunio Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac yn y Cynulliad i gryfhau deddfwriaeth megis y Biliau Cynllunio a Chenedlaethau’r Dyfodol er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ystyriaeth allweddol mewn penderfyniadau cynllunio. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn defnyddio’r ddeddfwriaeth hon i roi canllawiau cryf i awdurdodau cynllunio trwy broses y Nodiadau Cynghori Technegol. Yn benodol, buasem yn ymgynghori ar gynnig parthau gweithredu iaith fyddai’n caniatáu i awdurdodau lleol gymryd camau i sicrhau bod yr iaith yn weledol mewn sefyllfaoedd megis hysbysebu, blaen siopau ac enwau llefydd hanesyddol. 7. Cefnogi datganoli darlledu i’r Cynulliad Cenedlaethol Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn pwyso’n galed am weithredu argymhelliad Comisiwn Silk y dylai fod gan y BBC gorff 4
llywodraethiant datganoledig i graffu ar gynnyrch yng Nghymru gyda’r cyfrifoldeb am gyllido elfen gwariant cyhoeddus S4C wedi ei ddatganoli. Byddai Plaid Cymru yn disgwyl i’r BBC gyflwyno ail wasanaeth radio yn y Gymraeg fel rhan o’i ymateb cyson i ddatganoli a newidiadau cyfansoddiadol yn y DG.
5