Camu 'Mlaen: Adfywio'r Blaid i Gymru

Page 1

Annwyl gyfaill, Croeso i Camu ‘Mlaen: Adfywio’r Blaid i Gymru. Mae’r broses yma yn gyfle euraidd i ni adfywio ac ail-rymuso’r blaid er mwyn gwneud y newidiadau yr hoffem yn y blynyddoedd nesaf. Ein nod yw gweld Plaid Cymru yn blaid sydd nid yn unig yn cystadlu am yr ail safle yng Nghymru, ond mewn sefyllfa i arwain y genedl. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ffyrdd i sicrhau bod cynifer o bobol a phosib yn cyfrannu at y broses. Mae ein gwefan, rhwydweithiau cymdeithasol , ynghyd a cyfarfodydd neuaddau tref ar draws y wlad yn cael eu defnyddio i wrando ar eich sylwadau. Caiff y broses adnewyddu ei arwain gan Dr Eurfyl ap Gwilym, wedi ei gynorthwyo gan Jocelyn Davies AC, Jill Evans ASE, Llyr Huws Gruffydd AC, Elfyn Llwyd AS a Dr Dafydd Trystan. Y cynllun y w cwblhau’r gwaith ac adrodd nol i’r Pwyllgor Gwaith cyn diwedd 2011. Bydd y broses yn edrych ar bump adran pwysig: 1. Strwythur a Staffio 2. Aelodaeth a Codi Arian 3. Gweledigaeth, Strategaeth a Pholisi 4. Ymgyrchu a chasglu Data 5. Cyfathrebu Rydym yn awyddus i wrando ar eich barn ar bob agwedd o’r blaid. Rydym wedi cynnwys nifer o gwestiynau ar pob adran i chi ateb. Mae croeso i chi, wrth gwrs, roi unrhyw sylwadau ychwanegol a syniadau ar unrhyw agwedd o’r Blaid.

Sganiwch gyda eich ffon clyfar! Lawr lwythwch y darllenydd QR i’ch iphone, mwyaren, android neu nokia yn: www.plaidcymru.org/QR ac yna pwyntio eich ffon tuag at y cod i gymryd rhan.

Camu ‘Mlaen: Adfywio’r Blaid i Gymru

www.plaidcymru.orgcamumlaen


Strwythur 1. Pa mor effeithiol yw trefniadaeth Plaid Cymru ar lefel cangen; etholaeth; Sir; rhanbarth; ac yn genedlaethol, a sut gellir gwella’r effeithiolrwydd? 2. Ydych chi’n mynychu cyfarfodydd cangen yn aml, os ydych chi beth yw’r weithgaredd e.e. materion gweinyddol, codi arian, trafodaeth wleidyddol? 3. Mae gan Plaid Cymru nifer cyfyngedig o staff llawn amser yn ganolog, gyda staff eraill yn cael eu cyflogi gan aelodau etholedig. Pa rôl a thasgau dylai’r staff yma ei wneud er mwyn cyrraedd ein nod fel plaid? 4. Pa mor aml ydych chi’n defnyddio cyfryngau electronig megis e-bost Facebook a Twitter i drafod trefniadaeth fewnol y Blaid fel materion y gangen; ac i hybu trafodaeth ehangach o’r Blaid. Os felly, oes gennych esiamplau o’r ffordd orau i wneud hyn yn effeithiol fel gellir rhannu’r wybodaeth gyda gweddill y blaid?

Ein Haelodaeth 1. Beth yw’r ffordd orau i hyrwyddo diddordeb yn Plaid Cymru ar lefel gymunedol, yn arbennig ymysg pobol ifanc? 2. Sut ydym ni’n adeiladu perthynas gryfach gyda mudiadau a grwpiau ymgyrchu sydd yn rhannu sawl amcan a ni? 3. Mae’r tal aelodaeth ar hyn o bryd yn £24 ar gyfer rhai cyflogedig a £9 ar gyfer rhaid digyflog. Fyddech chi’n barod i dalu mwy er mwyn derbyn mwyn o wybodaeth megis deunyddiau ymgyrchu? Ydych chi’n cefnogi y syniad o aelodaeth teuluol? 4. Sut allwn ni gynnig rhaglen o safon uchel ar gyfer addysg wleidyddol ac hyfforddiant i aelodau?

Ein Gweledigaeth, Strategaeth a Pholisi 1. Mae Plaid Cymru yn aml yn siarad am ‘weledigaeth’ i Gymru. Ai gweledigaeth gyfansoddiadol tymor canol i dymor hir i’r genedl yw hwn neu oes gennym ni weledigaeth sy’n ehangach cynnwys syniadau dyfeisgar i drawsnewid ein gwlad yn raddol, neu yn nghyd destun y setliad cyfansoddiadol presennol yn y dyfodol? 2. A oes bylchau mawr yn ein polisi gweledigaethol, o dan y trefniant cyfansoddiadol presennol ac unrhyw drefniant arall posibl? Oes gennym ni bolisïau credadwy, cynhwysfawr ac apelgar yn y meysydd mae’r cyhoedd yn credo sy’n bwysig? Sut ydym ni’n cydbwyso ein gweledigaeth gyda pryderon yr etholwyr? 3. Yn fwy na dim, fel plaid, ai ein bwriad gweithredu newid cymdeithasol a gwleidyddol neu weithredu y gwahaniaethau hyn fel plaid o lywodraeth, neu allwn ni wneud y ddau? 4. Mae maniffestos pob plaid yn ceisio amlygu’r pwysigrwydd o gael ‘neges’ uwchben eitemau polisi . Ydym ni fel plaid yn llwyddo i roi syniad i’r etholwyr o ‘neges’ sy’n cwmpasu’r holl eitemau unigol yr ydym ni’n ei fabwysiadu?

Camu ‘Mlaen: Adfywio’r Blaid i Gymru

www.plaidcymru.org/camumlaen


Sut ydym ni’n Ymgyrchu 1. Beth yn eich barn chi yw’r ymgyrch fwyaf effeithiol yr ydych chi wedi bod yn rhan ohono? (Gall fod yn ymgyrch gan Plaid neu rhai eraill) 2. Sut fyddech chi’n asesu y gefnogaeth genedlaethol i’r ymgyrch yn lleol? Sut fyddwch chi’n ei wella? 3. Ydych chi’n defnyddio Treeware yn lleol? Os ydych chi – oes gennych chi awgrymiadau penodol ar ffyrdd i’w wella? 4. Wrth ymgyrchu – sut ydych chi’n targedu pleidleiswyr?

Cyfathrebu ein Neges 1. Sut gall Plaid gyfathrebu ei neges yn fwy effeithiol i bobol Cymru? 2. Mae sawl etholwr yng Nghymru yn derbyn y mwyafrif o’r newyddion trwy gyfryngau DG sydd rhan fwyaf o’r amser yn anwybyddu Plaid Cymru. Beth all Plaid Cymru wneud i gyrraedd y gynulleidfa yma 3. Sut all Plaid Cymru ddefnyddio TG a’r cyfryngau newydd yn fwy effeithiol er mwyn cyfathrebu ei neges yn well? 4. Sut gall Plaid Cymru wellai ei gyfathrebu mewnol a rhannu gwybodaeth yn fwy effeithiol gyda’r aelodaeth?

Sut i ddweud eich dweud Cyfrannu ar y wefan: Cyfrannu ar facebook:

www.facebook.com/PlaidCymruWales

E-bostio Eurfyl:

camumlaen@plaidcymru.org

Mynd i Gyfarfod Cyhoeddus Symud ‘Mlaen 1900-2100

Dydd Llun 17.10.11

Caernarfon - Neuadd Feed my Lambs

1900-2100

Dydd Mercher 19.10.11

Caerdydd - Duke of Clarence

1900-2100

Dydd Iau 20.10.11

Rhuthun - Gwesty Castell Rhuthun

1900-2100

Dydd Llun 24.10.11

Abertawe- Ystafell yr Arglwydd Faer (Guildhall)

1930-2130

Dydd Mawrth 25.10.11

Llanbedr – Neuadd yr Eglwys - San Pedr

Camu ‘Mlaen: Adfywio’r Blaid i Gymru

www.plaidcymru.org/camumlaen


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.