Maniffesto Plaid Cymru 2015 Hawdd i’w ddarllen
Dyma’n maniffesto Mae’n dweud beth ydym ni’n credu ynddo a beth wnawn ni dros Gymru os gwnewch chi bleidleisio i ni
Plaid Cymru ydym ni.
Leanne Wood yw ein harweinydd.
Ar 7 Mai 2015 bydd pobl yn pleidleisio mewn etholiad i ddewis Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol (DG) Y DG yw Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Mae Llywodraeth y DG yn gwneud rhai cyfreithiau a phenderfyniadau dros Gymru.
Rydym ni eisiau’r gorau i Gymru.
Mae’r maniffesto hwn yn dweud wrthych chi: beth yr ydym ni’n credu ynddo beth wnawn ni os gwnewch chi bleidleisio i ni 2
Economi gwell (Pethau fel arian a swyddi) Y prif bethau y byddwn yn gweithio drostynt Cymru yn gwneud mwy o’i phenderfyniadau ei hun. A phobl yng Nghymru yn cael mwy o lais am pwy sy’n penderfynu dros Gymru.
Gwneud yr economi yng Nghymru yn well o lawer. Er enghraifft: ei gwneud yn haws i fusnesau a phobl sy’n gweithio iddyn nhw’u hunain wneud yn dda
gofalu bod Cymru yn cael siâr deg o arian y DG a gwneud rheolau go-iawn am hyn
gwneud mwy o swyddi o lawer i fwy o bobl fe rown fwy o waith i gwmnïau yng Nghymru a gwneud cynllun am swyddi newydd 3
Economi gwell (Pethau fel arian a swyddi) Y prif bethau y gwnawn weithio amdanynt Gwneud trefi’n well gyda gwell trafnidiaeth a mwy o ganolfannau iechyd.
Gwell hawliau i bobl sy’n gweithio. Er enghraifft: gwneud yn siwr fod pobl yn ennill digon o arian i fedru bwy. Cyflog byw yw hyn gwneud gwaith yn fwy teg a stopio rheolau annheg. Er enghraifft, pobl fawr sy’n cael llawer mwy o arian mewn cwmni
Gwell help i bobl gael gwaith. Mae hyn yn wir am bobl anabl hefyd.
Rheolau trethi mwy teg. Er enghraifft, pobl sy’n ennill mwy na £150,000 y flwyddyn yn talu dipyn mwy o dreth. A mwy o help efo treth Yswiriant Gwladol i bobl sy’n ennill llai. 4
Gwell gofal a help efo iechyd Y prif bethau y gwnawn weithio amdanynt
1000 yn fwy o ddoctoriaid yng Nghymru. A gweld doctor yn gynt.
Ei gwneud yn haws i bobl gael gofal iechyd a help arall maen nhw ei angen.
Mwy o help adref i bobl sâl iawn. Gwneud yn siwr nad ydi’r GIG (NHS) yn cael ei redeg gan gwmniau preifat.
Gwell gofal i bobl sydd angen help efo iechyd meddwl.
Ei gwneud yn haws i bobl wneud chwaraeon a dod yn ffit.
Defnyddio cyfrifiaduron a thechnoleg arall i wneud gofal iechyd yn well.
5
Gwell addysg Y prif bethau y gwnawn weithio amdanynt
Hyfforddi athrawon yn well a rhoi mwy o amser iddyn nhw ddysgu.
Addysg dda i bob plentyn mewn ysgolion da.
Plant mewn addysg neu yn cael eu hyfforddi nes eu bod nhw’n 18 oed.
Gwell help a bwrw golwg ar ysgolion gwael.
Gwell addysg i blant mewn pethau fel: darllen, ysgrifennu, rhifo a chyfrifiaduron iaith a hanes Cymru ieithoedd eraill trin pawb yn deg Mwy o help i blant tlawd a phlant sydd angen mwy o help. Gwneud addysg prifysgol yn haws i’w fforddio. Gwell hyfforddi a help i bobl ifanc.
6
Gwneud Cymru’n fwy teg Y prif bethau y gwnawn weithio amdanynt
Gwneud budd-daliadau yn fwy teg. Budddaliadau yw’r arian mae rhai pobl yn gael gan y Llywodraeth. Er enghraifft, mi rown stop ar bethau annheg fel y dreth llofftydd. Dyma pan mae pobl yn cael llai o arian am dai oherwydd faint o lofftydd sydd ganddyn nhw. Helpu i atal teuluoedd a phobl hŷn rhag bod yn dlawd. Er enghraifft, rydym eisiau pensiynau gwell a mwy o help i bobl fedru fforddio bwyd a thwymo eu cartrefi.
Gwneud pleidleisio yn decach. Rydym ni eisiau newid yr oed pleidleisio i 16. A newid y ffordd mae pobl yn pleidleisio i wneud i’r peth weithio mewn ffordd fwy teg. Gwneud yn siwr fod pawb yng Nghymru yn cael triniaeth deg. 7
Tai gwell Y prif bethau y gwnawn weithio amdanynt
Stopio rhenti rhag bod yn rhy uchel. A gwell hawliau i bobl sy’n rhentu tai. Hyn yw pan fyddwch chi’n talu arian i rywun i fyw mewn tŷ sy’n eiddo i rywun arall.
Mwy o help i bobl brynu eu cartref cyntaf.
Mwy o dai cyngor a chartrefi i bobl sy’n ennill llai.
Defnyddio peth o’r arian sy’n cael ei dalu i Lywodraeth y DG ar hyn o bryd ar gyfer cartrefi yng Nghymru.
Troi adeiladau gwag yn gartrefi
Mwy o help rhag i bobl golli eu cartrefi
8
Gwneud Cymru yn saffach Y prif bethau y gwnawn weithio amdanynt Cymru yn gofalu am ei phlismyn a’i llysoedd ei hun. Ffyrdd gwell o weithio efo pobl sy’n torri’r gyfraith i’w stopio rhag gwneud yr un peth eto.
Mwy o help i bobl sydd wedi dioddef oherwydd troseddau.
Gwneud mwy i helpu pobl sy’n cael eu curo yn eu cartrefi.
Mwy o help i bobl sydd efo problemau cyffuriau ac sydd angen help i wella.
Gwneud mwy o stopio pethau fel terfysgaeth.
Cefnogi cyfreithiau hawliau dynol fel bod pobl yn cael eu trin yn deg. Dim arfau niwclear i Gymru. 9
Gwell byd Y prif bethau y gwnawn weithio amdanynt
Trin pawb yn y byd yn deg.
Stopio pethau drwg rhag digwydd yn y byd, fel gorfodi pobl i weithio neu i gael rhyw efo pobl.
Gwneud yn siwr fod pobl hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol yn cael eu hawliau.
Helpu pobl yn y bydd sydd mewn gwir angen. Er enghraifft, pan fydd rhyfel neu bethau ofnadwy yn digwydd.
Dweud ei bod yn iawn i bobl o wledydd eraill ddod i Gymru i wneud gwaith fydd o help i ni. Gwneud i’r Undeb Ewropeaidd weithio’n well i Gymru. Grŵp o wledydd yw’r Undeb Ewropeaidd sydd yn gwneud penderfyniadau a chyfreithiau am Ewrop. 10
Trafnidiaeth well Y prif bethau y gwnawn weithio amdanynt
Gwell ffyrdd, rheilffyrdd, meysydd awyr a phorthladdoedd.
Dim cwmnïau preifat i ofalu am drenau. Pob trên i redeg ar drydan erbyn 2034.
Ei gwneud yn rhatach defnyddio Pontydd Hafren.
Prisiau petrol teg.
Cadw tocynnau bysus rhad a gwasanaethau bysus am ddim.
Cadw bysus yng nghefn gwlad. Bwcabws maen nhw’n cael eu galw 11
Gwneud Cymru yn well i’r amgylchedd Yr amgylchedd yw’r ddaear, y môr, cefn gwlad a phob dim sydd o’n cwmpas. Mae’n bwysig cadw’r amgylchedd yn saff.
Y prif bethau y gwnawn weithio amdanynt Cael ein gwres a’n trydan mewn ffyrdd sy’n well i’r amgylchedd.
Gwneud cyfraith newydd am yr amgylchedd
Helpu tai a busnesau redeg mewn ffyrdd gwell i’r amgylchedd.
Mwy o ailgylchu a help i archfarchnadoedd roi bwyd mewn bagiau a bocsys gwell.
Cefnogi ffermydd a bwyd sy’n cael ei dyfu’n lleol. 12
Bod yn falch o fod yn Gymry Y prif bethau y gwnawn weithio amdanynt
Gofalu fod pobl yn dal i siarad Cymraeg.
Mwy o raglenni teledu’n cael eu gwneud yng Nghymru.
Cadw papurau newydd lleol
Gwneud yn siwr fod pawb yn medru mwynhau pethau fel celf, cerddoriaeth, amgueddfeydd a dawnsio.
Lluniau gan Photosymbols. Nid yw Photosymbols a Making it Clear yn cefnogi’r un blaid wleidyddol benodol.
13