Gwanwyn 2014
£1
Y Ddraig Goch Rhoi Cymru’n Gyntaf yn Ewrop Jill Evans ASE
N
ôl ym mis Hydref, yn ystod ein cynhadledd flynyddol, soniais am y cynnydd a wnaethom yn Ewrop, a’r gwahaniaeth mae llais Plaid Cymru yn ei wneud i fywydau pobl. Heb y llais hwn, byddai’n llawer anoddach cyflawni gweledigaeth y Blaid ar gyfer Cymru. Mae gennym ni ymgeisyddion cryf, polisïau cadarn a gweledigaeth am Gymru flaengar. Mae’r ymgyrch Ewropeaidd yn cynnig cyfle delfrydol i adeiladu ar y cynnydd a wnaed llynedd yn Ynys Môn a Phenyrheol, gan adeiladu at etholiadau San Steffan, ac arwain at ddyfodiad Leanne Wood yn Brif Weinidog Cymru yn 2016. Mae Cymru’n elwa mwy gan yr Undeb Ewropeaidd na nifer o ardaloedd eraill yn y Deyrnas Gyfunol. Wrth ymgyrchu byddwn yn pwysleisio mai Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n rhoi Cymru’n gyntaf. Ni yw’r unig blaid i bleidleisio yn erbyn torri cyllideb yr UE, a’r unig blaid i bleidleisio yn erbyn torri taliadau uniongyrchol i ffermwyr. Byddwn yn canolbwyntio ar ein cefnogwyr, yn adeiladu o’r gwaelod i fyny. Fel y gwyddom, mae pob pleidlais yn cyfrif. Dyma’n pum addewid clir er mwyn sicrhau bod Ewrop yn gweithio dros Gymru.
Cytundebau Cymreig i gwmnïau Cymreig Rydym am leihau biwrocratiaeth a mân-reolau fel y gall busnesau Cymreig ennill mwy o gytundebau yng Nghymru. Ar hyn o bryd, dim ond tua hanner y cytundebau cyhoeddus sy’n cael eu dyfarnu
i gwmnïau Cymreig. Pe byddai’r ffigwr yma’n cynyddu i 75%, gallai greu bron i 50,000 o swyddi.
Swyddi i’n pobl ifanc Does dim yn bwysicach na sicrhau swyddi i’n pobl ifanc. Byddwn yn pwyso i weld gweithredu’r Cynllun Gwarant Ieuenctid fydd yn sicrhau gwaith, hyfforddiant neu addysg i bobl ifanc sydd wedi bod yn ddi-waith am bedwar mis.
Rhwydwaith drafnidiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain Fe gofiwn y sgandal diweddar wedi i Gymru gael ei hepgor o fap y coridorau trafnidiaeth hanfodol. Amlygodd Plaid Cymru’r ffaith nad oedd Llywodraeth Cymru na’r DG yn ymladd cornel Cymru. Byddwn yn parhau i gynnig arweiniad gan sicrhau bod arian yr UE yn cael ei gyfeirio at wella rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd ar draws Cymru.
Cydraddoldeb i’r Gymraeg a’r Saesneg fel ieithoedd swyddogol yr UE Mae’r addewid yma’n gwbl eglur. Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, fe ddylai hefyd fod yn yr Undeb Ewropeaidd. Gyda deddfwriaeth yr UE yn cael ei gweithredu’n uniongyrchol yng
Nghymru, ein hawl ddemocrataidd yw bod y ddeddfwriaeth yn llythrennol hefyd yn siarad yn uniongyrchol â ni.
Lleiafswm incwm yn holl wledydd yr UE Mae Plaid Cymru’n cefnogi cynigion dros leiafswm incwm digonol ymhob aelod wladwriaeth Ewropeaidd gan fod gan bawb yr hawl i safon byw digonol. Ni ddylai neb gael eu gorfodi i fyw mewn tlodi na chwaith i adael cartref er mwyn canfod gwaith yn sgil diffyg cyfleoedd yn eu mamwlad. Fe fydd Plaid Cymru’n ymladd dros y fargen orau bosib i Gymru yn Ewrop. Dyma nod ein hymgeisyddion. Ond ni allaf i na Marc Jones, Steven Cornelius na Ioan Bellin wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Fe fydd gennym ni ymgyrch lwyddiannus gan fy mod yn gwybod y byddwch chi yno hefyd, yn gweithio gyda ni, ac yn rhoi Cymru’n gyntaf.