Haf 2017
Y Ddraig Goch Ben Lake AS
yn ysgrifennu i’r Ddraig Goch am y tro cyntaf
“E
xcuse me, which way to the Chamber?” Pe bai unrhyw frawddeg yn cwmpasu cyfnod cyntaf Aelod Seneddol newydd, dyna hi. Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn daith swreal a di-stop o ganfod fy nhraed (weithiau’n llythrennol!) yn un o adeiladau mwyaf rhyfeddol y byd. Tydi Senedd San Steffan gyda’i phensaernïaeth fawreddog a’i milltiroedd o goridorau ddim yn gartref naturiol i unrhyw genedlaetholwr Cymreig, ond rydw i wedi mwynhau pob munud. Pan gefais fy newis yn ymgeisydd Plaid Cymru yn fy etholaeth enedigol, Ceredigion, ro’n i’n llwyr ymwybodol o’r her o’m blaen. Roedd Mark Williams yn Aelod Seneddol poblogaidd ac yn wyneb gwasgfa genedlaethol, fy mhrif amcan oedd cynnal ymgyrch bositif, egnïol y byddai ffyddloniaid diflino’r sedd, a’r Blaid yn genedlaethol yn falch ohoni. Dyna’n union fu ffrwyth llafur cannoedd o wirfoddolwyr ac rwyf mor ddiolchgar i bob un ohonynt am eu cyfraniad. Nid fy llwyddiant i oedd cipio’r sedd gan roi terfyn ar dros ganrif o gynrychiolaeth seneddol gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru (o dan wahanol enwau), ond ein llwyddiant ni. Yn wir, erbyn 6 o’r gloch ar fore’r 9fed o Fehefin ac ar ôl dau ail-gyfri, roedd hi’n gwawrio arna i mai gen i bellach oedd y fraint ddihafal a’r cyfrifoldeb enfawr o gynrychioli
Draig Goch - Welsh Nation haf 2017.indd 1
ardal arbennig bro fy mebyd.
mae fy nyled iddynt eisoes yn fawr.
Daeth y newid mewn ennyd. Llu o longyfarchion, cyfweliadau teledu ac etholwyr yn dechrau cysylltu yn syth gyda cheisiadau am gymorth ag achosion yn amrywio o fewnfudo i warchodaeth plant i drais yn y cartref.
Bydd fy mhortffolio yn cynnwys yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Materion Cyfansoddiadol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae sgôp ac amrywiaeth y pynciau’n enfawr ac rwy’n edrych ymlaen at gael y maen i’r wal o ran cryfhau’r achos o blaid datganoli rhai o’r meysydd hyn a sicrhau nad ydi diwydiannau allweddol yn cael eu hanfateisio yn sgil Brexit.
Erbyn y bore Mawrth ar ôl yr etholiad roeddwn ar y trên i San Steffan am y tro cyntaf fel Aelod Seneddol Ceredigion. O fewn deuddydd roeddwn wedi tyngu llw yn y Siambr ac yn barod i dorchi llewys gyda’r gwaith dydd i ddydd o sicrhau fod gan bobl fy etholaeth y llais cryfaf posib yn San Steffan. Diolch i gefnogaeth Grŵp Plaid Cymru yn Llundain, rwyf wedi gallu bwrw ati ar unwaith. Mae fy nghyd-Aelodau a’r staff wedi cynnig cyngor ac arweiniad amhrisiadwy i mi dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf ac
Dim ond megis dechrau mae’r gwaith ond yn barod rwy’n ysu i sicrhau fod pobl Ceredigion yn cael cynrychiolaeth sy’n deilwng o’u ffydd ynof fi. Rwy’n benderfynol o beidio eu siomi. Gwyliwch araith forwynol Ben yn Nhyˆ ’r Cyffredin: partyof.wales/benlakespeech
18/07/17 15:59