Y Ddraig Goch - Rhifyn Haf 2014

Page 1

Haf 2014

£1

Y Ddraig Goch Trwy gyd-dynnu a gwneud y gwaith, fe allwn lwyddo Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru

D

iolch am eich holl waith caled yn etholiad Ewrop yn ddiweddar. Bu’n frwydr galed i ni fel plaid, gyda mwyafrif y cyfryngau fel petaent wedi gwirioni ar UKIP. Ond trwy gadw’n driw i’n hegwyddorion a pheidio ag ofni wynebu gwleidyddiaeth a’i bwyslais ar ymrannu, fe lwyddom i gadw ein sedd. Ni ddylem anghofio maint y dasg oedd yn ein hwynebu. Llwyddom i droi sgôr isel o 11% yn y polau piniwn yn llwyddiant (o drwch blewyn, rhaid cyfaddef) gyda 15.26% o’r bleidlais, gan wrthdroi sefyllfa dan amgylchiadau anodd iawn. Ni allai hyn fod wedi digwydd heb waith caled ar hyd a lled y wlad gan aelodau’r Blaid. Roedd hi’n galonogol ein gweld yn gwneud cystal ag yn adennill tir mewn mannau fel Ceredigion ac

Ynys Môn. Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, mae Plaid Cymru mewn sefyllfa dda i ennill tir yn etholiad y DG y flwyddyn nesaf. Tameidiog, fodd bynnag, oedd y canlyniadau ar hyd a lled y wlad. I’r holl dimau yn Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, y siroedd lle daethom i’r brig - diolch o waelod calon. Ble buom yn ymgyrchu ar lawr gwlad a chyfleu ein neges yn uniongyrchol i gefnogwyr – sy’n wybyddus i ni drwy gofnodion Treeware – fe gawsom well canlyniadau. O ganlyniad, mae sawl gwers i’w dysgu yn dilyn yr ymgyrch ddiweddar. Yn gyntaf, wrth finiogi’n neges o obaith yn wyneb gwleidyddiaeth a’i bwyslais ar ymrannu, fe lwyddom

i adennill momentwm yn y frwydr etholiadol, darganfod ein llais a llwyddo i ddenu cefnogaeth gan bobl a fyddai fel arfer yn pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol neu’r Gwyrddion. Roedd rhai hyd yn oed yn aelodau llawn o’r pleidiau hynny, ond am ei bod yn awyddus i Gymru gadw ei llais blaengar o fewn yr UE, benthycwyd eu pleidleisiau i ni. Yn ail, ble’r oedd y Blaid yn weithgar yn y gymuned, gwnaethom yn dda. Er mwyn ennill yn y dyfodol a llunio’r genedl lwyddiannus, annibynnol yr ydym am ei gweld, mae’n rhaid i Blaid Cymru gychwyn ar yr ymdrech lawr gwlad fwyaf yn ein hanes. Does dim amheuaeth am y berthynas uniongyrchol rhwng curo ar ddrysau a llwyddiant. Dros y flwyddyn nesaf, hoffwn i bob aelod ystyried hyn: beth fedra’i wneud i sicrhau fod y Blaid yn cysylltu’n uniongyrchol â mwy o bobl ar stepen eu drws? Trwy gyd-dynnu a gwneud y gwaith, fe allwn lwyddo.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.