Maniffesto Cefn Gwlad

Page 1

Maniffesto Cefn Gwlad Bwyd, Ffermio, Coedwigaeth a Physgota


Maniffesto Cefn Gwlad Mae Plaid Cymru eisiau gweld ein cefn gwlad yn gymuned fywiog a chynhyrchiol. Mae'n orlawn o adnoddau naturiol a photensial economaidd. Yn y Maniffesto Gwledig, mae Plaid Cymru am gadarnhau a thyfu'r potensial hwn i bobl Cymru. Mae'n canolbwyntio ar y meysydd polisi hynny sydd yn bennaf wledig, er nad yn wledig ynn unig. Mae meysydd polisi eraill hefyd yn bwysig i Gymru wledig, megis iechyd, addysg a thrafnidiaeth, ac fe gaiff y rhain eu hystyried yn ein Maniffesto cyffredinol. Elin Jones


Ffermio Y fferm deuluol yw conglfaen amaethyddiaeth Cymru. Mae perchenogaeth a rheolaeth tir ffermydd a dulliau cynhyrchu bwyd yn aros gyda ffermwyr Cymru. Rydym eisiau gweld mwy o fwyd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, ac amrywiaeth ehangach o fwyd. Fodd bynnag, rhaid gwneud hyn gyda llai o effaith ar ein hamgylchedd a'n hinsawdd. Byddwn yn cefnogi dwysau ein hamaethyddiaeth yn gynnaliadwy. Rydym eisiau gweld Cymru yn chwarae rhan lawn yn dylanwadu ar Adolygiad y PAC. Mae angen cyson i gynnal cyllideb PAC er mwyn cywiro diffygion yn y farchnad a hybu rheolaeth gynnaliadwy ar dir. Yn ein barn ni, dylid cynnal y cydbwysedd rhwng gweithgaredd Piler 1 a Piler 2 ar y lefel bresennol. Byddai safbwynt clymblaid y ConDemiaid ar PAC yn arwain at incwm sylweddol llai i ffermwyr Cymru gyda'u cynigion i dorri cyllideb PAC yn sylweddol a dirwyn Taliadau Sengl Fferm i ben. Fel y gwnaeth Elin Jones, fe fuasem yn parhau i wrthwynebu'r agwed dhon a cheisio dylanwadu ar drafodaethau yn Ewrop yn uniongyrchol. Credwn mai'r ffordd orau i gyflwyno mesurau amgylcheddol ar ffermydd yn wirfoddol dan drefniadau Piler 2. Byddwn yn parhau i adolygu Glastir er mwyn sicrhau ei bod yn gynllun sy'n ateb her newid hinsawdd, dirywiad mewn bioamrywiaeth, rheoli dŵr ac ynni adnewyddol, a'i fod ar yr un pryd yn asio'n dda gyda gweithgaredd beunyddiol ar y fferm. Mae brwdfrydedd pobl ifanc dros fynd i'r diwydiant amaeth yn amlwg yn llwyddiant y Cynllun Newydd-ddyfodiaid, a'r cynnydd dramatig yn nifer y bobl ifanc sy'n astudio pynciau amaethyddol yn ein colegau. Byddwn yn ceisio adeiladu ymhellach ar y llwyddiant hwn, ac yn parhau i ddatblygu'r Cynllun Newydd-ddyfodiaid. Mae ffermio laeth yn sector dwys ei gyfalaf. Byddwn yn ceisio darparu Grant/ Benthyciad Buddsoddi i ffermwyr llaeth i helpu eu cynlluniau buddsoddi o ran hybu effeithiolrwydd a chynyddu cynhyrchedd. Rhaid i'r llywodraeth nesaf ddal i roi'r flaenoriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru'n Un i ddileu'r diciâu. Feiddiwn ni ddim arafu yn awr, neu ni fydd y dileu byth yn digwydd. Byddwn yn trin y diciâu mewn gwartheg ac mewn bywyd gwyllt. Mae angen i Gymru ddarparu addysg Filfeddygol. Byddwn yn comisiynu astudiaeth ddichonoldeb lawn i sefydlu Ysgol Filfeddygol yng Nghymru.


Byddwn yn parhau i roi pwysau ar lywodraeth y DG i gyflwyno Ombwdsmon Archfarchnadoedd. Byddwn yn gofalu y bydd awdurdodau lleol yn gweithredu polisi cynllunio newydd TAN 6 Llywodraeth Cymru yn llawn ar gyfer tai mewn ardaloedd gwledig. Fodd bynnag, yn y Cynulliad nesaf byddwn hefyd yn cynnal adolygiad sylfaenol o'r system gynllunio ac yn creu Cyfraith Gynllunio newydd i Gymru – i gefnogi datblygiad, nid i'w lesteirio. Byddwn yn parhau i hybu cynhyrchu ynni adnewyddol ar ffermydd a mesurau effeithlonrwydd ynni.

Coedwigaeth Bydd Stad Fforestydd Cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn aros mewn dwylo cyhoeddus. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn y coetiroedd hyn i sicrhau mynediad i'r cyhoedd, adnodd economaidd a gwell buddiannau i'r amgylchedd. Byddwn yn creu'r Ddeddf Goedwigaeth Gymreig gyntaf. Byddwn am ddefnyddio'r tir cyhoeddus hwn er budd y cyhoedd – creu ynni adnewyddol a safleoedd i fastiau ffonau symudol i wella derbyniad mewn ardaloedd gwledig. Ceir cryn fuddsoddi mewn creu coetiroedd ar ffermydd, a thrwy hynny gyfrannu at liniaru nwyon tŷ gwydr.

Pysgota Byddwn yn parhau i ddatblygu ein pysgodfeydd arfordirol ac am ddiwygio'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin er mwyn galluogi Cymru i reoli ein pysgodfeydd yn fwy cynnaliadwy, er lles ein pysgotwyr a bywyd y môr. Byddwn yn buddsoddi mewn cyfleusterau prosesu ac oeri ar y cei fel y gall ein pysgotwyr ddatblygu mwy o farchnadoedd lleol i'w helfeydd. Mae ein sector pysgota mewndirol yn sector economaidd pwysig ac y mae ein hafonydd yn gynefinoedd naturiol a hamdden pwysig. Credwn ei bod yn bryd gweithredu Argymhelliad Adroddiad Pwyllgor Cynnaladwyedd y Cynulliad a chreu cynllun trwyddedu i holl defnyddwyr afonydd.


Bwyd Mae angen i Gymru gynhyrchu mwy o fwyd ac amrywiaeth ehangach o fwyd. Mae angen i ni brosesu mwy o'r bwyd hwnnw yng Nghymru, i gynyddu ei werth economaidd i Gymru. Byddwn yn parhau i gefnogi'r sector bwyd ac adeiladu ar frandio Cymru fel gwlad sy'n cynhyrchu bwyd rhagorol. Byddwn yn cynnal cynllun peilot ‘Bwyd Blasus, Bwyd Bro' i wella caffael cyhoeddus bwyd lleol. Byddai hyn yn golygu y byddai un ysbyty neu grŵp o ysbytai mewn un ardal yn prynu bwyd lleol. Gellid ailadrodd hyn i ysgolion a ffreuturau'r sector cyhoeddus.

Am wybodaeth bellach ewch i www.plaidcymru.org


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.