Maniffesto Hawdd ei Ddarllen Plaid Cymru Etholiad San Steffan 2015
1
Cynnwys Rydym eisiau economi gwell i Gymru well ..............................................3 Rydym eisiau gwell amodau gwaith ........................................................6 Rydym eisiau gwell iechyd a gofal iechyd ...............................................9 Rydym eisiau gwell addysg ...................................................................11 Rydym eisiau gwell a thecach addysg brifysgol ....................................13 Rydym eisiau Cymru decach ................................................................ 15 Rydym eisiau gwell tai .......................................................................... 17 Rydym eisiau Cymru fwy diogel ............................................................ 19 Rydym eisiau gwell amddiffyn ............................................................... 21 Rydym eisiau mwy o gydraddoldeb rhyngwladol ...................................23 Rydym eisiau diwygio yn Ewrop ............................................................ 25 Rydym eisiau gwell seilwaith trafnidiaeth .............................................. 26 Rydym eisiau Cymru fwy gwyrdd .......................................................... 28 Rydym eisiau i bawb fod yn gyfartal ...................................................... 30 Rydym eisiau gwarchod ein hunaniaeth genedlaethol .......................... 32 Rydym eisiau rhoi gwerth ar greadigrwydd a chyfryngau cymunedol ....33
2
Rydym eisiau economi gwell i Gymru well
Cymru fwy annibynnol all wneud mwy o benderfyniadau drosti’i hun y tu allan i ddylanwad San Steffan am Gymru well a thecach.
Cyfansoddiad wedi’i arwain gan y dinasyddion (tebyg i’r hyn sydd ar gael eisoes yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban) lle bydd pobl Cymru yn penderfynu pa faterion sydd yn eu dwylo hwy a pha rai sydd yn nwylo San Steffan.
Cydbwyllgorau Gweinidogol, fydd yn caniatáu perthynas fwy democrataidd rhwng Cymru, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr, gyda phawb yn helpu ei gilydd.
Amodau gwell a mwy rhydd i unigolion a chwmnïau mentrus hybu’r economi rhoi terfyn ar fesurau ‘llymder’ niweidiol San Steffan.
Ein Mesur Tegwch Economaidd er mwyn gwneud yn siŵr fod Cymru yn cael ei chyfran deg o arian y DG a gosod rheolau a rheoliadau ynghylch effaith mesurau economaidd San Steffan ar Gymru.
3
Mwy o brosiectau pwysig a mentrus fel Parc Gwyddoniaeth Menai er mwyn hybu twf economaidd.
Creu 50000 o swyddi newydd trwy roi mwy o gontractau’r sector cyhoeddus Cymreig i gwmnïau sy’n gweithio yng Nghymru.
Mwy o ryddhad trethi busnes yng Nghymru a threthi busnes is mwy o help i 83000 o fusnesau bach a chanolig a 70000 o fusnesau heb fod yn talu trethi busnes o gwbl.
Banc datblygu Cymreig i greu llinellau credyd da i fusnesau yng Nghymru a rhoi mwy o hwb i’r economi.
Menter Fasnach Dramor i helpu allforion Cymreig ledled y byd.
Canol trefi gwell o lawer with gyda chludiant cyhoeddus wedi ei ailwampio, a mwy o wasanaethau lleol hanfodol, megis canolfannau meddygol.
4
Ein ‘Bargen Newydd Werdd’ i gefnogi ac annog busnesau Cymru i wneud gwell defnydd o ynni ac adnoddau naturiol.
Strategaeth gweithgynhyrchu newydd i Gymru er mwyn creu swyddi gyda sgiliau a gwerth uchel.
Mwy o brosiectau buddsoddi sy’n cael eu rheoli a’u gweithredu yn well.
1% yn ychwanegol o GDP y DG (£800m) yn cael ei wario ar brosiectau seilwaith Cymru.
Ein rhaglen ‘Adeiladu I Gymru’ fydd yn darparu canolfan seilwaith arbenigol.
Modelau busnes amgen; byddwn hefyd yn ymchwilio ymhellach i’n syniad o Sefydliad Perchenogaeth Gweithwyr sydd yn dwyn i mewn fusnesau sydd ym mherchenogaeth gweithwyr.
5
Rydym eisiau gwell amodau gwaith
Cynnydd yn yr isafswm cyflog a chosbau i gwmnïau nad ydynt yn cadw ato i greu cyflog byw.
Mwy o hawliau gweithwyr.
Mwy o wrthwynebiad i gontractau dim oriau a thoriadau yn y sector cyhoeddus.
Sector preifat cryfach.
Helpu’r sawl sy’n chwilio am waith trwy osod Canolfannau Byd Gwaith yn nwylo’r Llywodraeth.
Rhyddhad trethi – i weithwyr hunan-gyflogedig a’r sawl sydd am hyfforddi ar gyfer gyrfa newydd.
Man gwaith tecach, gan gadw llygad barcud ar benaethiaid gwael a mwy o help i’r rhai sy’n ymdrechu i oresgyn rhwystrau i ddod o hyd i waith.
6
Cefnogaeth i ‘Warant Swyddi Ieuenctid’ yr UE sydd yn darparu hyfforddiant neu waithi unrhyw un dan 25 fu allan o waith am fwy na phedwar mis.
Cynllun ‘cyflog teg’ i gadw cyflogau’n nes at ei gilydd mewn cwmniau ac atal bonysau rhag codi i’r entrychion a chodiadau cyflog na ellir eu cyfiawnhau i uwch-swyddogion.
Cymru i dderbyn mwy o gyllid a mwy o bwerau trethu i’n dwyn yn gyfartal â’r Alban.
‘Comisiwn Annibynnol’ i ddatrys anghydfod ynghylch cyllido Cymru.
Cyfradd dreth 50c i’r sawl sy’n ennill dros £150000 y flwyddyn.
Trothwy lwfans personol uwch ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol i helpu gweithwyr ar gyflogau is.
7
Cynnydd yn y Terfyn Enillion Uwch ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd at £100000 y flwyddyn.
Cosbi osgoi trethi corfforaethol yn llym.
8
Rydym eisiau gwell iechyd a gofal iechyd
1000 yn fwy o ddoctoriaid yng Nghymru ac apwyntiadau cynt i weld meddygon teulu.
Gwell gofal iechyd a gofal cymdeithasol integredig i wneud yn siwr mai cleifion yn hytrach na busnesau sy’n cael sylw.
Mwy o help gartre fi bobl â salwch cronig fel nad oes raid iddynt fynd i’r ysbyty.
Dim preifateiddio’r GIG.
Gwell gofal iechyd meddwl a mwy o help a dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl.
Pecynnu plaen i sigaréts a rheoliadau llymach ar farchnata esigarets.
9
Gwell mynediad at gyfleoedd chwaraeon a ffitrwydd gan gynnwys ein rhaglen ‘Ysbrydoli Cymru’ sydd yn annog gweithgaredd chwaraeon.
Datblygu eIechyd a Thelefeddygaeth i gynyddu cyflymder ac ansawdd gofal iechyd.
10
Rydym eisiau gwell addysg
Gwell hyfforddiant i athrawon.
Dim un plentyn ysgol i’w adael ar ôl- mwy o ysgolion yn cael mwy o lais ar y ffordd maent yn cael eu rhedeg, gyda’r gorau yn ysgolion meincnod; y rhai llai llwyddiannus i gael yr help maent ei angen.
Arolygiadau ‘yn y fan a’r lle’ i ysgolion sy’n methu.
Rheoleiddiwr arholiadau annibynnol i warantu safonau uchel
Gwell darpariaeth amddiffyn plant.
Pwyslais ar addysg ‘perthynas iach’ sy’n canolbwyntio ar oddefgarwch a pharch i bawb.
Cwricwlwm Cenedlaethol newydd fyddai’n rhoi sylfaen gwell o lawer yn hanes Cymru.
11
Gwell addysg ‘sgiliau allweddol’ i bob plentyn – llythrennedd, rhifedd, sgiliau TG a sgiliau meddwl, a dealltwriaeth hanfodol o newid hinsawdd o oedran cynnar.
TGAU gorfodol mewn iaith fodern.
Pob plentyn i aros mewn addysg neu hyfforddiant nes eu bod yn 18.
Mwy o help i blant tlotach gyda’n Grant Amddifadedd Disgyblion.
Gwell addysg Gymraeg ar lefel leol.
Gwell addysg anghenion arbennig.
Adeiladau ysgol newydd neu rai wedi eu moderneiddio.
DIM ysgolion rhydd yng Nghymru.
12
Rydym eisiau gwell a thecach addysg brifysgol
Rydym yn credu mewn addysg uwch am ddim ac fe fyddwn yn parhau i ymchwilio i ffyrdd o’i ddarparu.
Help ariannol i fyfyrwyr o Gymru a dim ffioedd dysgu i’r sawl sy’n astudio pynciau hanfodol i’n heconomi fel gwyddoniaeth, technoleg a gofal iechyd.
Help arbennig i fyfyrwyr o gefndiroedd anodd.
Mwy o allu a chyllid ymchwil i brifysgolion Cymru.
Cyllid tymor-hir cynaliadwy i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn gwarantu mwy o addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Mwy o Brentisiaethau Lefel Uwch
Mwy o gymwysterau galwedigaethol ac anacademaidd i godi sgiliau ein gweithlu.
13
Ein Gwasanaeth Dinasyddion i helpu pobl ifanc i baratoi am fyd gwaith.
Gwell cydraddoldeb a dealltwriaeth rhwng y rhywiau trwy addysg uwch i gyd.
14
Rydym eisiau Cymru decach
Fe fyddwn yn DILEU y dreth llofftydd.
DIM System Credyd Cynhwysol heb adolygiad annibynnol trylwyr.
Gwell help i bobl anabl sy’n chwilio am waith.
Diwedd ar fanciau bwyd.
Gwell defnydd o gredydau treth i helpu i atal tlodi plant yng Nghymru.
‘Pensiwn Byw’ newydd un-haen i helpu i roi diwedd ar dlodi pensiynwyr.
Adolygiad o’r estyniad annheg ar oedran pensiwn y wladwriaeth.
Ei gwneud yn haws i bobl hunangyflogedig gael pensiynau. 15
Mwy o gamau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.
Diwedd ar gosbi defnyddwyr mesuryddion talu-ymlaen-llaw i helpu’r tlodion i dalu eu biliau ynni.
Parhad ein hymgyrch ‘Mynd ar y Grid’ i gael mwy o bobl ar y grid cenedlaethol.
Prynu ynni yn ei grynswth gan gymunedau fel bod biliau ynni yn fwy fforddiadwy.
Ymgyrch ‘Hawliwch e’ newydd i’r rhai sydd â hawl gael budddaliadau nad ydynt yn eu hawlio ar hyn o bryd.
Cap credyd ar fenthycwyr diwrnod cyflog.
16
Rydym eisiau gwell tai
Diwygio cynllunio tai fel rhan o gynllun ‘Adeiladu I Gymru’ i roi anghenion lleol yn gyntaf.
Camau newydd i reoli rhenti i gadw tai yn fforddiadwy.
Tai cymdeithasol a thai cyngor newydd.
Ail-fuddsoddi’r £70m o arian rhenti tai cyngor yr ydym am hyn o bryd yn ei dalu i’r Trysorlys yn Llundain mewn tai yng Nghymru.
Adeiladau gwag i’w troi yn gartrefi.
Ymestyn y cynllun ‘HomeBuy’ i helpu prynwyr tro cyntaf i gamau ar yr ysgol eiddo.
Taliadau treth cyngor uwch i rai ag ail gartrefi i fynd i’r afael a’r prinder tai.
17
Gwell hawliau tenantiaid a chanllawiau llymach i landlordiaid.
Mwy o help i’r rhai sydd angen llety wedi ei godi yn arbennig.
Atal digartrefedd trwy ymyrryd yn gynnar a gofalu am y sawl sydd mewn perygl o ddigartrefedd.
18
Rydym eisiau Cymru fwy diogel
Adsefydlu a phrofiannaeth yn hytrach na dedfrydau byr aneffeithiol nad ydynt yn atal ail-droseddu.
Help i droseddwyr gyda phroblemau iechyd meddwl.
Mwy o help i ddioddefwyr trosedd.
Mwy o help a chyfreithiau cryfach i fynd i’r afael â thrais yn y cartref.
Gwrthdroi y diwygiadau i Gymorth Cyfreithiol.
Gwell amodau mewn carchardai i garcharorion benyw, gan gynnwys help gyda sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol.
Rhoi i gamddefnyddwyr sylweddau yr help a’r addysg mae arnynt eu hangen ac nid eu trin fel drwgweithredwyr.
19
Cefnogaeth i ddadgriminaleiddio canabis.
Dod â’r gwasanaeth prawf Cymreig yn ôl dan reolaeth gyhoeddus.
Mwy o ganoli ar droseddau terfysgol a masnachu pobl.
Cyflwyno awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig i wneud ein cyfreithiau ein hunain.
Cefnogaeth i’r Ddeddf Hawliau Dynol a Chonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop a gwrthwynebu ymdrechion gan Lywodraeth y DG i dynnu’n ôl o’r naill a’r llall.
Llysoedd i gyn-filwyr i ymdrin yn benodol â’r problemau a wynebir gan y sawl sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog.
20
Rydym eisiau gwell amddiffyn
Diwedd i raglen wastraffus a drud (£100bn) adnewyddu Trident.
DIM arfau niwclear yng Nghymru (fel a gynigiwyd gan y Prif Weinidog).
Mwy o unedau Cymreig y fyddin yng Nghymru.
Gwell help a chefnogaeth yn y tymor hir i’n cyn-filwyr gan gynnwys help gyda gofal iechyd, cyngor cyfreithiol, cwnsela a materion bod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol.
Mwy o ddiplomyddiaeth a chadw heddwch yn ystod rhyfeloedd.
Ymdeimlad mwy cynhwysol o hunaniaeth genedlaethol i gryfhau perthynas rhwng pob diwylliant yng Nghymru i helpu Cymru i ddod yn genedl fwy goddefgar a mwy ymwybodol.
21

Seilwaith seibr-amddiffyn gwell i gryfhau ein hamddiffyniadau yn erbyn troseddu cyfrifiadurol.
22
Rydym eisiau mwy o gydraddoldeb rhyngwladol
Gwneud mwy ynghylch anghydraddoldeb ledled y byd
Dim meddiannu gwledydd yn anghyfreithlon a gwneud mwy trwy’r Llys Troseddau Rhyngwladol ynghylch treisio hawliau dynol.
Cyhoeddi adroddiad Ymchwiliad Chilcot – fe wnaethom wrthwynebu ymosod ar Irac ac yr ydym o’r farn mai hawl y cyhoedd yw gweld y gwir am yr ymosodiad.
Mwy o ddealltwriaeth a mwy yn cael ei wneud ledled y byd ar hawliau LGBT (Lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol), anffurfio organau rhywiol menywod a chaethwasiaeth.
Help, trwy Gymorth Rhyngwladol, i wledydd sydd am ddringo allan o dlodi a thrychineb.
Bydd Cymru, lle bo modd, yn darparu cymorth dyngarol i’r sawl sydd yn yr angen mwyaf.
23
Bydd Cymru yn wastad yn cynnig lloches i’r rhai gafodd eu gyrru o’u gwledydd adeg argyfyngau mawr.
Bydd Cymru hefyd yn parhau i annog mewnfudwyr all ein helpu i lenwi swyddi gwag, a chael eu hannog i gymryd rhan ar bob lefel o gymdeithas. Mae Cymru yn genedl gynhwysol a goddefgar.
24
Rydym eisiau diwygio yn Ewrop
Er ein bod o blaid Ewrop, mae’n rhaid i rai pethau newid.
Rydym yn pryderu am gydbwysedd grym economaidd power yn Ewrop a rôl y corfforaethau a’r sawl sydd â buddiannau ariannol lleiafrifol yn hytrach na diddordeb yn lles pobl Ewrop.
Mwy o ymwneud Cymreig yn Ewrop, gan gynnwys croesawu uwch-gynadleddau mawr rhyngwladol yng Nghymru, a phwyso am Lywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd yn 2017.
Fe wnawn wrthwynebu’r ail Senedd Ewropeaidd ddiangen yn Strasbourg sydd yncostio £120m ac yn defnyddio 19000 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn.
25
Rydym eisiau gwell seilwaith trafnidiaeth
Fe wnawn ddarparu gwell ffyrdd, rheilffyrdd, meysydd awyr, pontydd a phorthladdoedd.
Rydym eisiau perchenogaeth gyhoeddus ar y rheilffyrdd yng Nghymru.
Rydym eisiau trydaneiddio pob prif lein reilffordd erbyn 2034.
Fe wnawn ymchwilio i bosibilrwydd ail-agor rheilffyrdd a gaewyd.
Fe wnawn gefnogi gwelliannau Llwybr Glas yr M4 sydd yn rhatach, yn fwy dichonadwy o lawer ac yn llai niweidiol o lawer na chynigion y Llwybr Du.
Rydym eisiau dod â Phontydd Hafren i berchenogaeth Gymreig a thorri tollau.
Fe wnawn greu rheoleiddiwr trethi tanwydd i atal codiadau sydyn mewn costau tanwydd ac yn gwthio am ostyngiadau ym mhrisiau tanwydd gwledig.
26
Fe wnawn gadw teithio am ddim ar fysus a gwasanaethau bws am ddim i redeg a gwneud yn siwr fod gan weithwyr y gwasanaethau bws mae arnynt eu hangen.
Fe wnawn ymestyn y cynllun Bwcabus i barhau i ddarparu bysus mewn ardaloedd gwledig.
Fe wnawn gefnogi trosglwyddo treth teithwyr awyr i Lywodraeth Cymru a gwell strategaeth nwyddau a datblygu teithwyr i Faes Awyr Caerdydd.
Fe wnawn wrthwynebu cynlluniau Llywodraeth y DG am faes awyr newydd yn Nwyrain Llundain.
27
Rydym eisiau Cymru fwy gwyrdd
Fe wnawn yn siwr fod gennym yr ynni y mae arnom ei angen trwy through ddefnydd gofalus o adnoddau a blaenoriaethu ffynonellau adnewyddol a thrwy gyflwyno Ynni Cymru nid-amelw, fydd yn rhoi ein hynni a’n hadnoddau yn ein dwylo ni.
Fe wnawn wrthwynebu gosod terfynau artiffisial ar ein hadnoddau.
Fe wnawn weithredu ‘Deddf newid Hinsawdd i Gymru’ i osod targedau ymarferol ond heriol i leihau nwyon tŷ gwydr.
Fe wnawn wella effeithlonrwydd dynni ledled Cymru trwy wneud cartrefi yn fwy effeithlon a helpu diwydiannau sy’n defnyddio llawer o ynni i dorri i lawr.
Fe wnawn osod targedau ailgylchu uchelgeisiol a helpu archfarchnadoedd i greu mwy o becynnau biobydradwy.
Fe wnawn wrthwynebu peilonau a hybu’r defnydd o geblau tanddaear a thanfor.
28
Na i ffracio
Rydym yn gwrthwynebu unrhyw bwerdai niwclear newydd.
Rydym yn gwrthwynebu twf GMOs (organebau a addaswyd yn ennynol) yng Nghymru.
Yr ydym yn cefnogi bwyd sy’n cael ei dyfu a’i gynhyrchu yn lleol a byddwn yn parhau i gefnogi ffermydd.
Fe wnawn gefnogi parhad y Polisi Amaethyddol Cyffredin.
29
Rydym eisiau i bawb fod yn gyfartal
Rydym eisiau gweld cyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy fel bod cynifer o bleidleisiau ag sydd modd yn cyfrif tuag at ethol cynrychiolydd.
Rydym eisiau gostwng yr oedran pleidleisio i 16
Fe wnawn yn wastad geisio gwarchod buddiannau lleiafrifoedd yng Nghymru. Fe wnawn annog cyflogwyr a chymunedau yn gyffredinol i ddeall a helpu’r sawl sydd y tu allan i’r mwyafrif. Bydd y sawl sy’n anabl, yn dioddef problemau iechyd meddwl, sy’n oedrannus, neu sydd ag unrhyw broblemau a all rwystro eu hymwneud fel dinasyddion Cymreig, yn cael yr help y mae arnynt ei angen.
Fe wnawn wrthwynebu pob camwahaniaethu a cham-drin ac fe wnawn yn siŵr fod ysgolion yn cofnodi unrhyw ddigwyddiad o fwlio homoffobig.
Fe wnawn weithio i ddarparu Gwasanaeth Gofal Sylfaenol i bobl Drawsrywiol a Rhyngrywiol a Chlinig Hunaniaeth Rhywedd yng Nghymru.
30
Fe wnawn yn siŵr fod menywod yn derbyn yr un cyflog â dynion am waith tebyg.
31
Rydym eisiau gwarchod ein hunaniaeth genedlaethol
Fe wnawn barhau i warchod ein hiaith trwy ofalu y gall pawb dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg ledled y wlad, ac fe wnawn barhau i gefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Fe wnawn gyflwyno cosbau llym i’r sawl sy’n gwrthod cadw at gyfarwyddebau addysg a chyflogaeth Gymraeg.
Fe wnawn fonitro digwyddiadau o wthio’r Gymraeg i’r ymylon er mwyn dyrchafu Saesneg, ac fe wnawn adolygu unrhyw ddeddfwriaeth nad yw’n gwarchod ein hiaith.
32
Rydym eisiau rhoi gwerth ar greadigrwydd a chyfryngau cymunedol
Rydym eisiau sefydlu Ymddiriedolaeth y BBC i Gymru a chynhyrchu teledu yn fwy annibynnol.
Fe wnawn bapurau newydd lleol yn ‘asedau cymunedol’ i’w gwarchod rhag y posibilrwydd o’u cau.
Fe wnawn y celfyddydau yn hygyrch i bawb, nid fel moethusrwydd ond fel rhan allweddol o ddiwylliant Cymru. Fe wnawn yn siŵr fod pobl ifanc, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig, yn parhau i allu mynd at y cyfryngau a’r celfyddydau, gan gynnwys trwy brentisiaethau yn y diwydiant.
Fe wnawn gefnogi sefydlu gwasanaeth newydd aml-gyfrwng arlein Cymraeg i adlewyrchu anghenion defnyddwyr Cymraeg eu hiaith.
33