For a Better Wales

Page 1

Yn y Rhifyn yma: Pob Plentyn yn Cyfri’. Bydd y Blaid yn sicrhau bod ein plant yn cael y sgiliau sylfaenol yn iawn

Ieuan Wyn Jones yn trafod blaenoriaethau’r Blaid sef creu swyddi a chodi safonau

Dros Gymru Well

www.plaidcymru.org Talwyd am y daflen hon gan y Blaid. Caiff y daflen ei dosbarthu gan wirfoddolwyr yn eich cymuned sydd am weld Cymru well.

Cymru’n Dweud Ie! ‘Mae gennym Gynulliad mwy pwerus. Nawr rhaid bwrw ati gyda’r gwaith’ meddai Arweinydd Plaid Cymru Dywedodd bobl Cymru IE wrth bleidleisio o blaid cryfhau’r Cynulliad yn y refferendwm ar y 3ydd o Fawrth. Am rhy hir, roedd y sustem wedi costio gormod o arian a gwastraffu amser. Roedd pethau pwysig fel gwahardd ysmygu mewn llefydd cyhoeddus, sicrhau tai fforddiadwy, rhoi sprinclyrs yn erbyn tân mewn tai newydd yn cymryd blynyddoedd i gael eu derbyn oherwydd gormod o fynd nôl a ‘mlaen i San Steffan. Mae’r ffaith erbyn hyn na fydd yn rhaid gofyn am ganiatâd San Steffan i gyflwyno deddfau er lles Cymru yn gam mawr ymlaen i ddemocratiaeth yng Nghymru. Mae’r Blaid yn credu y dylai deddfau

sydd ‘mond yn effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Dros wythnosau nesaf yr ymgyrch ar gyfer yr etholiad ar y 5ed o Fai, bydd Plaid Cymru’n cyflwyno ei gweledigaeth am greu Cymru well. Rŵan fod gennym Gynulliad mwy pwerus, gall y Blaid wireddu rhai o’u syniadau radical ar gyfer trawsnewid Cymru.

Ymunwch gyda ni.... Dydd Iau y 5ed o Fai 2011 yw diwrnod etholiad Cymru. Dyma’ch cyfle i bleidleisio am lywodraeth uchelgeisiol i Gymru. Ar y 5ed o Fai, rhowch ddwy groes i’r Blaid dros Gymru well.

Plaid. Dros Gymru well. Etholiad Cymru yw hwn, a’ch cyfle chi i helpu i newid ein gwlad er gwell. Nawr fod gennym Gynulliad cryfach, rhaid i ni roi blaenoriaeth dros y blynyddoedd nesaf i’w ddefnyddio i’w lawn botensial gwella safonau mewn ysgolion a chreu swyddi o safon ym mhob cwr o Gymru. Yn yr amseroedd heriol hyn, mae ar Gymru angen plaid gref ac uchelgeisiol mewn llywodraeth, nid mwy o’r un fath gan y lleill. Petai popeth yn eu dwylo hwy, buasai Llafur yn parhau i adael i Gymru fod ar ei hôl hi. Mae ar Gymru angen y Blaid

I gael mwy o wybodaeth am ein polisïau uchelgeisiol dros Gymru well, ewch i:

mewn llywodraeth. Rydym wedi dangos beth fedrwn wneud i amddiffyn Cymru yn ystod y blynyddoedd anodd, ac mae bellach yn bryd gwneud mwy. Rhaid rhoi blaenoriaeth i godi safonau mewn ysgolion, creu swyddi newydd a gwella ein hysbytai. Os ydych eisiau llywodraeth uchelgeisiol yng Nghymru i fwrw ymlaen â’r gwaith, yna pleidleisiwch drosti. Yn etholiad Cymru, pleidleisiwch i Blaid Cymru – dros Gymru well.


Cynllun swyddi newydd yn ganolog i ymgyrch y Blaid

Bydd cynllun swyddi newydd y Blaid yn helpu i godi Cymru ar ei thraed yn y blynyddoedd heriol o’n blaenau. Mewn llywodraeth, mae camau pendant y Blaid wedi arbed miloedd o swyddi yn ystod y dirwasgiad caled. Bydd ein cynllun dros y 4 blynedd nesaf yn helpu Cymru i ddod ati’i hun

t r w y ’ r blynyddoedd anodd o’n blaenau. Bydd Cynllun Swyddi Newydd y Blaid yn help i greu miloedd o swyddi newydd ym mhob rhan o’r wlad. Plaid Cymru yw’r unig blaid llywodraeth yng Nghymru sydd wedi derbyn fod ein heconomi yn tangyflawni, fod yn rhaid iddi wneud yn well ac y gall wneud hynny. Mae’r Blaid eisiau gweld cyfoeth yn tyfu yng Nghymru, nid fel diben ynddo’i hun, ond er mwyn trawsnewid lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol teuluoedd a chymunedau. Gwyddom o brofiad chwerw pa effaith gaiff diweithdra a swyddi gwael ar iechyd a hapusrwydd ein dinasyddion. Mae iechyd da yn

mynd law yn llaw â chyflogau da a ffyrdd da o fyw. Yn nyfnder y dirwasgiad, dangosodd y Blaid ei gwerth mewn llywodraeth. Trwy weithio gydag eraill, arbedwyd dros 10,000 o swyddi mewn mwy na 200 o gwmnïau Cymreig trwy ein cynllun cymhorthdal cyflogau a hyfforddi. Cefnogwyd 15,000 eraill o weithwyr a gollodd eu swyddi a rhai diwaith trwy ail-sgilio a hyfforddi. Yn 2010 datgelodd y Blaid mewn llywodraeth hefyd gynllun radical am adferiad economaidd. Gydag “Adfywio Economaidd: Cyfeiriad Newydd”, trawsnewidiwyd y modd mae llywodraeth yn cefnogi busnesau i dyfu a ffynnu. Ein haddewid am dymor nesaf y Cynulliad yw trawsnewid yr amodau i fusnesau yng Nghymru fel y gall y sector breifat ffynnu yn gynaliadwy. Darllenwch fwy am ein polisïau trwy ymweld â www.plaidcymru.org

Pob plentyn yn cyfrif i Blaid Cymru Ni fydd yr un plentyn yn gadael yr ysgol gynradd heb allu darllen, ysgrifennu a chyfrif. Ar hyn o bryd mae gormod o blant yn gadael yr ysgol heb feddu ar y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i lwyddo - all hyn ddim parhau. Bydd cynllun addysg y Blaid, Pob Plentyn yn Cyfrif, yn codi safonau yn ein hysgolion ac yn gofalu fod ein plant yn mynd i’r afael â’r sylfeini. Meddai arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones: “Rwy’n sicr mai gwella addysg ein plant yw’r un pwnc pwysicaf os ydym am sicrhau llwyddiant economaidd Cymru yn y degawdau i ddod. Mae plant Cymru yn haeddu’r sustem

addysg orau yn y byd a rhaid i hyn gychwyn gyda gofalu fod gan ein plant y sylfeini. Fel rhiant a thaid, rwy’n fwy penderfynol nac erioed o sicrhau y caiff cenedlaethau’r dyfodol y cychwyn gorau posib mewn bywyd. Ymhen degawd, rwyf am fedru edrych yn ôl ar y modd y gosododd 2011 Gymru ar lwybr

newydd - llwybr sy’n gweld Cymru hyderus yn ein gallu ein hunain i wella bywydau pobl ein cenedl. Dylai 2011 fod yn flwyddyn pryd y cymerwyd camau pendant i godi safonau addysgol fydd yn help i ddatblygu ein heconomi a chreu gwell cymdeithas.”

Argraffwyd gan Trinity Mirror, Caerdydd, CF24 5HJ; hyrwyddwyd gan Plaid Cymru, Ty Gwynfor, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4AL

Rhaid mynd i’r afael â phris tanwydd

Prisiau petrol y DG yw’r rhai ail uchaf yn yr Undeb Ewropeaidd, ac y mae’r dreth ar ddisel yn uwch nac yn unman. Cafwyd codiad enfawr yng nghôst tanwydd yn ddiweddar ond nid cynnydd ym mhris olew sydd i gyfrif am hyn oll. Mae’r codiad mewn TAW ym mis Ionawr a’r cynnydd ar yr un pryd yn y dreth ar danwydd, yn golygu fod modurwyr wedi gweld ychwanegu 3.5c at gost litr - a than gynlluniau llywodraeth y DG, bydd prisiau’n codi’n uwch fyth ym mis Ebrill pan ddaw’r codiad o 1 geiniog eto ar y dreth tanwydd i rym. Yr ardaloedd gwledig, lle mae car yn anghenraid ac nid yn foethusrwydd, sydd yn ysgwyddo pen tryma’r baich hwn. Nid yw Plaid Cymru yn credu fod hyn yn deg. Nid dim ond modurwyr teuluol sydd yn ceisio ymdopi gyda phrisiau yn codi i’r entrychion (ar ben cyllidebau tynnach o lawer) ond mae cwmnïau cludiant cyhoeddus, cwmnïau bysus a thacsi hefyd yn teimlo’r straen ariannol. Cyflwyno Rheoleiddiwr Pris Tanwydd yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â hyn, am y rheswm syml y byddai’n gosod cap ar brisiau wrth y pwmp petrol fel nad yw pobl gyffredin yn cael trafferth o ganlyniad i natur gyfnewidiol prisiau olew. Nid dadlau yr ydym am rywbeth newydd heb ei brofi, oherwydd mae gan lawer gwlad fecanweithiau i reoleiddio pris tanwydd - mae gan Ffrainc reoleiddiwr tanwydd, ac y mae prisiau tanwydd rhanbarthol, hyd yn oed, yng Nghanada.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.