Glynog Davies - Quarter Bach

Page 1

Yr hyn sy’n bwysig : Iechyd - Mae gan yr ardal broblemau iechyd difrifol a llawer o rheiny yn hir dymor. Rwy’n poeni fod y niferoedd sy’n dioddef o afiechyd y galon a’r fogfa yn uchel. Rhaid sicrhau ein bod yn gwasanaethu’r bobol yn y ffordd orau posib gyda chynnydd yn y ddarpariaeth gymunedol a gynigir. Rhaid gofyn y cwestiwn, pam, mewn pentre’ mor fawr â Brynaman mai dim ond ar 4 bore’r wythnos mae’n bosib i weld doctor? Pam nad oes syrjeri hwyr?

ETHOLIAD CYNGOR SIR GAERFYRDDIN CARMARTHENSHIRE COUNTY COUNCIL ELECTION

CWARTER BACH QUARTER BACH

Gofal i’r henoed - Mae’n bwysig gofalu am y bobol sydd wedi cyfrannu’n helaeth i’n cymdeithas ond sydd bellach eisiau help. Mae’n rhaid i’r gofal yma fod o’r radd flaena’ - nenwedig os mai dewis yr unigolyn yw aros ar yr aelwyd gartre’. Mae’n ofid nad oes ‘Tai Cysgodol’ ymhob un o’r pentrefi. Rhaid gofyn pam? Onid yw’n ofynnol fod y lefel ucha’ a phob math o ofal ar gael. Yr ifanc – diolch am y bobol ifainc sy’n dewis aros yma, ond mae’n rhaid sicrhau fod tai fforddiadwy ar gael ac adnoddau hamdden sy’ heb fod yn rhy bell. Hefyd dyw sefydlu busnesau bychain ddim yn amhosibl - busnes yn y cartre’ efallai gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddara’. Byddai cyngor da yn fuddiol. Hewlydd - Mae’r hen ddiwydiannau mawr trwm wedi diflannu a does dim llawer o waith ar garreg y drws. Mae’n rhaid felly sicrhau buddsoddiad digonol i wella’n system hewlydd. Gan fod canran uchel o’r gweithle yn gorfod teithio milltiroedd i’w gwaith rhaid trio gwneud y siwrne’n fwy hwylus. Hefyd mae prinder palmentydd mewn rhannau o bentre’ Brynaman yn ofid, gan fod yr hewlydd yma i fod yn ddiogel ar gyfer y plant sy’n cerdded i’r ysgol.

THURSDAY 3 MAY

DYDD IAU 3 MAI

ORIAU PLEIDLEISIO

7am – 10pm

VOTING HOURS

Parcio – Mae gofyn edrych ar frys ar y mater o barcio ceir oddi ar y stryd fawr. Llwybrau – Ers i’r sir gymryd y cyfrifoldeb o ofalu am y llwybrau cyhoeddus mae’r gwaith cynnal a chadw yn ddiffygiol ac annigonol.

What’s important : Health - We have dire health problems and many are long term. I am concerned that there are higher than average incidences of Coronary Heart Disease and Asthma. Access to health facilities can act as a barrier and demonstrates a need for more community based provision. I must ask why is it that in such a large community as Brynaman it is only possible to see a doctor on 4 mornings every week? Why is there no evening surgery? Care for the elderly - It’s important to provide care for the people who have contributed greatly to our community. This must be of the highest possible standard - especially when the individual’s wish is to remain in their own home. It concerns me that we have no sheltered accommodation in all of the three villages. We must ask why is this? Isn’t it paramount that the highest level and all kinds of care are on offer? The young - Thanks for those young people who choose to stay in the area. We must strive to ensure affordable housing and leisure facilities that are within reach. Also setting up a small business is not impossible – possibly a home based business using the latest technology. Good advice must be available Roads - The old traditional heavy industries are gone and there is very little opportunity for work locally. We must therefore prioritise sufficient investment in order to improve the road networks. As a high percentage travel some distance to work we must strive to make it easier to commute. Also parts of the village of Brynaman have no pavements, and these are supposedly on the safe walk to school route. Parking - Off road parking in certain areas needs to be seriously addressed. Footpaths - Since the county took over the responsibility for the community’s footpaths the quality of upkeep is unacceptable and inadequate.

DAVIES, Glynog

X

GLYNOG DAVIES Gwynfryn, 47 Stryd y Neuadd / Hall Street, Brynaman SA18 1SG 01269 823240 / 07866 567013


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.