Llais cryf dros y Gogledd
www.plaid.cymru
N O F R A s o r d d d y w e Llais n
Siân Gwenllian Hyrwyddwyd gan Dafydd Meurig, Isfryn, Llanllechid, Gwynedd, LL57 3LB ar ran Siân Gwenllian, Awelfryn, Pen y Bryn, Y Felinheli, Gwynedd, LL56 4YQ. Argraffwyd gan Wasg Dwyfor, Pen-y-groes, Gwynedd, LL54 6DB.
www.plaid.cymru
Llun gan Kristina Banholzer
. . . d d y w e Llais n d a i f o r b o llwyth
Mae Siân Gwenllian yn awyddus i fod yn llais newydd i chi yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan fynnu chwarae teg i Arfon ac i Ogledd Cymru. • Bu’n newyddiadurwr efo’r BBC a HTV ym Mangor cyn dod yn gynghorydd sir dros Y Felinheli, y pentref lle cafodd ei magu. Hi yw Pencampwr Busnesau Bach Gwynedd, ar ôl bod yn arwain cyn hynny ar Addysg a Chyllid. • Magodd Siân bedwar o blant ar ei phen ei hun wedi i’w gwˆr, Dafydd Vernon o Benygroes, farw o ganser 16 mlynedd yn ôl. Roedd hyn yn her enfawr ond mae wedi ei gwneud yn gryf a thosturiol. Aeth y plant i’r ysgol yng Nghaernarfon. • Wedi ei haddysgu yn Ysgol Friars, Bangor ac ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, mae’n adnabyddus trwy’r etholaeth fel gwleidydd effeithiol, egwyddorol ac agos atoch.
www.plaid.cymru
Rhoi ARFON yn gyntaf Mynnu chwarae teg i’r Gogledd
Siân yn y Cynulliad gydag Arweinydd y Blaid, Leanne Wood
• Bydd Siân yn brwydro drosoch chi a’ch teulu, dros Arfon a thros Ogledd Cymru. O dan Lywodraeth Lafur bresennol Cymru mae’r Gogledd yn cael ei adael ar ôl. Mae popeth yn mynd i Gaerdydd a choridor yr M4. Bydd Siân yn gwneud yn siŵr na chaiff Gogledd Cymru ei anghofio. • Mae’r economi, gwasanaethau iechyd ac addysg i gyd angen sylw ar unwaith. Dim ond gwleidyddion Plaid Cymru fel Siân fydd yn gweithio’n galed i roi’r Gogledd ar y map eto, a gwneud Cymru’n genedl falch a hyderus. • Hi ydi’r olynydd naturiol i Alun Ffred Jones, Aelod Cynulliad presennol Arfon, sy’n ymddeol. Bydd yn cydweithio efo Hywel Williams, a gafodd ei ailethol yn AS Plaid Cymru dros Arfon ym Mai. • Mae Siân wedi ennill ei phlwy fel ymgyrchydd effeithiol sy’n gefn i’w chymuned. Mae wedi helpu i wneud yn siŵr na fydd peilonau dros Afon Menai, yn daer dros y diwylliant Cymraeg ac wedi arwain llawer o brosiectau cymunedol.
Trwy bleidleisio dros Siân ar Fai 5 gallwch wneud yn siŵr y bydd gennych CHI lais newydd cryf yng Nghaerdydd; rhywun sy’n benderfynol o wella bywydau’n pobl.
Siân Gwenllian Ffôn: 01286 672510 | 07775 642202
e
@siangwenfelin SianGwenllianArfon siangwenllian@yahoo.com
ol fel Aelod Cynulliad n Ffred Jones sy’n ymdde Siân Gwenllian gydag Alu
Blaenoriaethau Siân IECHYD
• Hyfforddi meddygon a gweithwyr iechyd. Fe fyddwn i’n ymladd i gael Ysgol Feddygol yn yr ardal i hyfforddi pobl ifanc lleol i weithio fel doctoriaid a gweithwyr iechyd eraill yn ein hysbytai lleol a’n cymunedau. • Rhaid inni hefyd gadw gwasanaethau sylfaenol yn Ysbyty Gwynedd, a gwneud yn siŵr na fydd unrhyw glinigau yn cael eu symud i’r dwyrain.
SWYDDI • Rhaid inni wneud yn siŵr fod mwy o gytundebau’r sector cyhoeddus yn mynd i fusnesau lleol a bod gwaith ar ffordd osgoi newydd Caernarfon-Bontnewydd yn mynd i gwmnïau a gweithwyr lleol. • Mae angen inni gefnogi busnesau lleol er mwyn iddyn nhw allu tyfu a chyflogi mwy o staff. Rydym angen mwy o swyddi i’n pobl ifanc, gan annog mentro. Rydym angen cefnogi amaeth a thwristiaeth a datblygu’r cyswllt rhwng y Brifysgol a byd busnes. • Pam fod rhaid i gymaint o swyddi ’r Llywodraeth fod yng Nghaerdydd? Mi fyddwn i’n pwyso am symud swyddi i Arfon, i roi cyfran deg o fanteision datganoli i’n hardal ni.
TEGWCH Mae Plaid Cymru yn mynnu • fod pob un o’n plant yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd ac addysg ragorol. • fod hawliau pensiynwyr yn cael eu diogelu. • ein bod yn cefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. • ein bod yn creu gwlad sy’n fwy teg, yn fwy gwyrdd ac yn fwy llewyrchus i’r dyfodol