Y Ddraig Goch - Gwanwyn 2015

Page 1

Gwanwyn 2015

£1

Y Ddraig Goch Does yr un cyfraniad yn rhy fach Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru

W

rth deithio o gwmpas ein gwlad yn cefnogi ein timau ymgyrchu, yr hyn sy’n fy nharo yn anad dim yw brwdfrydedd ac ymrwymiad cymaint o ymgyrchwyr y Blaid. Mae diwrnod yr etholiad yn nesáu, ac rwy’n argyhoeddedig fod dychwelyd ein tîm mwyaf erioed o Aelodau Seneddol i San Steffan yn ganlyniad sydd yn ein dwylo. Mae gan y Blaid garfan mor gref a dawnus o ymgeisyddion. Byddai pob un ohonynt yn gwneud pencampwyr cymunedol rhagorol i’w hetholaethau. Ein cryfder fel plaid yw ein hymroddiad, ein hymrwymiad a’n gwaith caled yng nghymunedau ein gwlad. Mae cymaint yn y fantol yr etholiad hwn, a po fwyaf o bobl y byddwn yn siarad â hwy, mwyaf y byddant yn sylweddoli’r gwir ddewis o’u blaenau. Mae mwy a mwy o bobl yn gweld drwy y dewis ffug a gyflwynir gan liwiau llwyd San Steffan. Mae Plaid Cymru yn sefyll yn glir yn erbyn mwy o lymder niweidiol. Rhaid sicrhau cydbwysedd economaidd parhaol yn y Deyrnas Gyfunol - gan symud oddi wrth sector ariannol warthus dinas Llundain ac o blaid diwydiannau newydd mewn ardaloedd sydd wedi eu hesgeuluso gan un weinyddiaeth ar ôl y llall. Rydym eisiau gweld ymdrech barhaol i gau bwlch anghyfartaledd y Deyrnas Gyfunol. Dim ond Plaid Cymru sy’n sefyll dros ymreolaeth ystyrlon i Gymru. Dylai hunanlywodraeth

olygu cydraddoldeb â’r Alban o leiaf, gyda’r un cyfrifoldebau ac adnoddau hefyd. Mae’n debyg y bydd senedd grog wedi’r etholiad nesaf. Doedd fawr neb yn ein cymryd o ddifrif pan awgrymon hyn yn 2010, ond ni oedd yn iawn. Gyda mwy o bobl yn derbyn
y posibilrwydd y tro hwn, gallwn ddweud yn glir beth fydd y blaenoriaethau y bydd Plaid Cymru yn eu mynnu. Ni ddylem anwybyddu’r hyn y gallwn sicrhau i’n cenedl gyda chanlyniad felly. Byddai sicrhau ymreolaeth i Gymru a chydraddoldeb adnoddau yn golygu y byddai gan Lywodraeth Plaid Cymru o 2016 ymlaen gyfle na fu ei fath erioed o’r blaen i drawsnewid gobeithion economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol Cymru. Yn y cyd-destun hanesyddol

ehangach, mae’n golygu y bydd Cymru, wrth dyfu mewn aeddfedrwydd gwleidyddol a hyder, gam yn unig i ffwrdd o ddod i’r amlwg fel cenedl annibynnol. Gall Cymru ddod allan o’r cysgodion yr etholiad hwn ar yr amod fod Plaid Cymru’n perfformio’n well nag erioed. Diolch am eich holl waith caled hyd yma. Gofynnaf i chi fwrw ati unwaith eto dros ein plaid a’n cenedl. Gall Tŷ Gwynfor eich rhoi mewn cysylltiad â’ch tîm lleol ac rwy’n gwybod y byddant yn ddiolchgar o unrhyw gefnogaeth y gallwch roi. Does yr un cyfraniad yn rhy fach, a gall pob cyfraniad ein helpu i wneud rhywbeth gwirioneddol rhyfeddol. Gadewch i ni gefnogi’n tîm o ymgeisyddion a rhoi un hwb enfawr. Ymlaen!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.