Y Ddraig Goch - Haf 2016

Page 1

Haf 2016

£1

Y Ddraig Goch Refferendwm i Gymru gan Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood

G

waith Plaid Cymru nawr, fel y buodd ers ein sefydlu, yw sicrhau buddiannau cenedlaethol Cymru. Fe wnawn ni barhau i weithio’n ddiflino yn ein gorchwyl o gael y canlyniad gorau posib i’n cenedl ar adeg pan mae gymaint yn y fantol. Er yr heriau lu a’r ansicrwydd sydd wedi cael ei achosi gan ‘Brexit’, mae ein plaid mewn sefyllfa gref. Cannoedd o aelodau newydd, cefnogaeth yn cynyddu yn yr arolygon barn a thîm unedig a thalentog o gynrychiolwyr etholedig – cyfuniad gwerth chweil. Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi teithio hyd a lled y wlad yn cynnal naw cyfarfod cyhoeddus i drafod y ffordd ymlaen i Gymru. Fe wnaeth y Blaid hefyd gynnal Cynhadledd Arbennig wnaeth ganiatáu i’n haelodau gael dweud eu dweud a gosod trywydd ein plaid. Fe wnaethant hynny yn huawdl a gydag arddeliad. Aelodau Plaid Cymru yw ei phrif gaffaeliad. Wedi eu hymbweru yn sgil y cyfle i siapio gweledigaeth ein plaid, mi fydd gan ein haelodau yn awr y cyfle i ennill hunanbenderfyniaeth go iawn i’n gwlad.

Byddwn yn mynd ati i wneud hyn drwy gynnal yr ymarferiad democrataidd mwyaf o’i fath yn hanes diweddar Cymru. Bydd ein hymgyrch nesaf, Datganiad o Ddemocratiaeth, yn mynd ati i sefydlu’r egwyddor y dylai penderfyniadau am ddyfodol ein gwlad gael eu gwneud gan bobl Cymru. Pan ddaw’r diwedd i’r Deyrnas Gyfunol wedi i’r Alban sicrhau ei hannibyniaeth, Cymru fydd yn dewis pa setliad cyfansoddiadol sydd orau i’n gwlad a hynny mewn refferendwm. Fesul stryd, fesul sgwrs, fe wnawn ni ddadlau bod yr amser

wedi dod i Gymru gymryd rheolaeth o’i thynged ei hun, yn rhydd o’r rhwystrau a’r cyfyngiadau a ddaw pan mae gymaint o’r penderfyniadau dros ein bywydau yn cael eu gwneud gan wleidyddion mewn gwlad arall sydd ddim yn malio amdanom. Rwy’n gofyn i chi gyfrannu tuag at ein hymgyrch gyda’ch amser a’ch egni. Gallwch chi fel aelodau rymuso’r Blaid drwy fod yn benderfynol o’i gweld yn llwyddo. Mae’n rhaid i ni gyd yn awr weithio gyda’n gilydd i rymuso ein cenedl hefyd a chyflawni ein nod o sicrhau mai Cymru fydd yn dewis.

Ymrwymwch heddiw i wneud rhywbeth dros Gymru a’r Blaid! Mae cannoedd o aelodau newydd wedi ymuno â ni yn ddiweddar ond mae angen i ni gael llawer mwy er mwyn ein helpu i gyflawni ein huchelgais dros Gymru. Allwch chi ymrwymo heddiw i gofrestru o leiaf un aelod newydd i Blaid Cymru? Gofynnwch i’r teulu,

eich ffrindiau a’ch cydweithwyr. Beth arall allwch chi ei wneud? Allwch chi sefyll fel ymgeisydd i’r etholiad cyngor neu gynnal digwyddiad i godi arian? Ymrwymwch heddiw i wneud rhywbeth dros Gymru a’r Blaid!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.