Hydref 2014
£1
Y Ddraig Goch Mae newid ar ei ffordd Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru
R
wy’n siwr fod pawb ym Mhlaid Cymru yn teimlo’n siomedig gyda chanlyniad refferendwm yr Alban. Fe fu llawer ohonoch yn gweithio’n ddiflino o blaid yr ymgyrch Ie, yn yr Alban ac yma yng Nghymru. Rhaid parchu ewyllys pobl yr Alban. Mae’n amlwg, er hynny, fod y Deyrnas Gyfunol wedi newid am byth – all pethau ddim bod fel y buont o’r blaen gydag un gorchymyn ar ôl y llall yn dod o San Steffan. Fydd Cymru ddim yn bodloni gyda setliad datganoli sy’n eilradd neu hyd yn oed yn y drydedd reng. Rhaid i ni fynnu cydraddoldeb â’r Alban. Yn ystod ymgyrch y refferendwm, rhoddodd pleidiau Llundain ryw arwydd y byddai peth cyflymu o ran gael i Gymru y pwerau y mae arnom eu hangen. Rhaid i hynny ddigwydd heb esgusodion a heb droi cefn ar yr addewid hwnnw. Nid yw’r DG bellach yn addas at y diben yn yr 21ain ganrif. Mae’r un peth yn wir am setliad datganoli Cymru. Daeth yn bryd i Gymru symud ymaith oddi wrth yr hen broses o ddatganoli gyda mymryn bach o newid bob hyn a hyn.Hyd yma, bu pob ffurf ar ddatganoli yn ddiffygiol. Mae angen i fwyafrif y pwerau fod yn nwylo pobl Cymru – mae cytundeb cyffredinol am hyn. Amheus yw Plaid Cymru o hyd am addewidion o bwerau newydd a wnaed yn ystod dyddiau olaf yr ymgyrch. Dylai cynigion a wnaed i’r Alban hefyd gael eu gwneud i Gymru. Byddai unrhyw beth llai yn annerbyniol.
Mae ar Gymru yn awr angen setliad ymreolaethol fydd yn para. Mae hynny’n golygu bod yn rhan o’r trafodaethau o’r cychwyn cyntaf. Buom yn gwneud dim ond gwylio fel cenedl, gan godi briwsion o fwrdd San Steffan. Rhaid i hynny newid. Yn hytrach na derbyn briwision San Steffan, rhaid i ni fynnu’r setliad y mae Cymru’n haeddu, a’r un mae ei angen. Dylai hunan-lywodraeth i Gymru olygu bod yr holl gyfrifoldebau yn gorwedd gyda phobl Cymru. Dylai fod yn fater i’r bobl pa bwerau y mynnwn eu rhannu gydag eraill. Blaenoriaeth Plaid Cymru yn y tymor byr yw arwain llywodraeth sydd yn adeiladu’r economi, datblygu’r sefydliadau cenedlaethol sydd gan yr Alban eisoes, gan gynnwys system gyfreithiol a phwerau ariannol, a meddu ar bwerau i ysgrifennu ein cyfansoddiad ein hunain. Rydym eisiau i Gymru fod mewn sefyllfa lle gallwn ni hefyd gael dewis ynghylch a ydym am i Gymru fod yn wladwriaeth annibynnol. Nod Plaid Cymru yw dod yn blaid llywodraeth a sicrhau’r pwerau mae arnom eu hangen fel y gallwn drawsnewid economi Cymru a gwneud ein cymdeithas yn fwy cyfartal. Byddwn yn ymgyrchu ac yn gweithredu’n gyson am newidiadau cadarnhaol eraill yn y cyfnod cyn annibyniaeth. Cred Plaid Cymru fod gan Gymru y potensial i ddod yn genedl
lwyddiannus. Credwn hefyd y gallwn adeiladu Cymru gynhwysol a hyderus i gyrraedd yno. Yn ein barn ni, mae mwyafrif pobl Cymru eisiau ein gweld yn cymryd mwy o reolaeth dros ein materion ein hunain. Yr oedd y deffroad democrataidd yn yr Alban yn rhyfeddol. Cofrestrodd degau o filoedd o bobl yn yr Alban i bleidleisio am y tro cyntaf. Chafwyd erioed o’r blaen 85% o’r boblogaeth yn troi allan. Allwn ni botelu’r teimlad hwnnw yng Nghymru? Allwn ni ddangos i bobl fod ganddynt lais ac y gallant ei ddefnyddio yn effeithiol trwy’r blwch pleidleisio i achosi newid a gwella eu bywydau? Dyna’r her i ni. Bydd Plaid Cymru yn parhau i gynrychioli buddiannau Cymru wrth i ni ddod i gyfnod o symud grym o’r canol.
Ond mae hyn yn sicr – mae newid ar ei ffordd.