Y Ddraig Goch: Hydref 2015

Page 1

Hydref 2015

£1

Y Ddraig Goch Mae ar Gymru angen Plaid Cymru yn awr yn fwy nag erioed Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru

M

ewn cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol mawr, fe ddaw cyfle i bobl newid cwrs eu hanes. Does dim modd gwrthdroi’r symudiad sylfaenol yng ngwleidyddiaeth y DG: aeth un genedl trwy ddadl ynghylch ymwahanu, cafodd un blaid fu gynt mewn llywodraeth ei chwalu yn etholiadol, mae cwestiwn ynghylch aelodaeth y DG o’r UE , mae sylfaen nawdd cymdeithasol yn cael ei ddatgymalu, a bydd plaid fawr yn rhyfela’n fewnol am flynyddoedd i ddod. Mewn cyfnod o ad-drefnu sylfaenol, y wers i fudiad cenedlaethol Cymru a’r blaid sy’n ei harwain yw y bydd newid yn ein cenedl yn digwydd os penderfynwn lunio ein llwybr yn unig yn hytrach na gwneud dim ond gwylio o’r cyrion. Mae ein tynged yn ein dwylo ein hunain ac mae cyd-destun datganoli yn rhoi cryn fantais i ni er mwyn symud Cymru yn ei blaen. Dros yr haf, buom yn dathlu naw deng mlynedd o Blaid Cymru. Beth fyddai’n cyndeidiau wedi ei roi i gael y cyfle sy’n wynebu Plaid Cymru heddiw? Bydd newyddiadurwyr a sylwebyddion yn ceisio cyflwyno etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol fel fawr mwy na brwydr o gyfuniadau; pa gyfuniad o bleidiau all yn realistig arwain llywodraeth nesaf Cymru?

Rwy’n erfyn ar ein haelodau i beidio ag ildio i’r hyn sy’n cyfateb i gymryd pobl a chenedl yn ganiataol. Nid yw Plaid Cymru yn ymladd yr etholiadau hyn er mwyn ychwanegu at y rhifau, i chwarae’n saff, gan obeithio gwneud ‘sioe go dda ohoni’. Fel pob un ohonoch, fe ddes i wleidyddiaeth er mwyn trawsnewid gwleidyddiaeth gan gychwyn gyda’n cenedl ein hunain. Dyma’n cyfle i wneud yr union beth hwnnw. Fe fydd hyn yn golygu ymgyrch ar lawr gwlad fydd yn dwyn i gof ddyddiau cyffrous 1999.

Ymgyrchu egnïol, wedi ei dargedu, fydd yn llawn optimistiaeth a phenderfyniad. Mae ar Gymru angen Plaid Cymru yn awr yn fwy nag erioed. Mae ar bobl angen dechrau newydd ac arweiniad cryf. Nid dewis rhwng dau arlliw o’r un llwyd sefydliadol yw hwn. Er mwyn sicrhau bod ein syniadau a’n polisïau ar yr agenda wleidyddol a fydd gerbron pobl ym mis Mai, carwn ofyn i bob un ohonoch gysylltu â’ch timau ymgyrchu a chynnig eich amser i gyrraedd etholwyr, i newid meddyliau, i ennill calonnau. Lle’r ydym yn gweithio, fe allwn ennill. Pan fyddwn yn ennill, bydd cenedl yn deffro o’i thrwmgwsg.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.