Mehefin 2013
£1
Y Ddraig Goch Etholiadau Cyngor Ynys Môn Llwyddiant ac ysbrydoliaeth
E
r bod Grŵp Plaid Cymru’n siomedig nad yw eu llwyddiant yn etholiad Cyngor Sir Ynys Môn wedi arwain at reoli’r Cyngor, mae eu hymgyrch wedi gosod y nod o ran ennyn brwdfrydedd a gweithgarwch ymhlith aelodau’r Blaid. Wrth ymateb i benderfyniad y cynghorwyr annibynnol i glymbleidio gyda Llafur, dywedodd yr arweinydd grŵp Bob Parry y byddai Plaid Cymru’n dal y weinyddiaeth newydd i gyfrif er mwyn sicrhau’r gorau i bobl yr Ynys.
Hynt y pleidiau
Cyfran
Seddi
Plaid Cymru
32.4%
12
Llafur
17.1%
3
UKIP
7.3%
0
Ceidwadwyr 6.0%
0
Dem. Rhydd. 5.2%
1
Roedd yr ymgeiswyr wedi eu hysbrydoli gan gefnogaeth aelodau Plaid Cymru o bob rhan o’r wlad, ac mae eu hegni a’u hymroddiad hwythau wedi bod yn hwb ac yn destun balchder. Ymhlith y 12 cynghorydd a etholwyd roedd Nicola Roberts, Llinos Medi Huws ac Ann Griffith, pob un yn sefyll am y tro cyntaf fel ymgeiswyr. Beth felly oedd y sbardun dros sefyll? Mae Ann Griffith, cynghorydd Bro Aberffraw, yn dweud iddi
deimlo rheidrwydd i sicrhau bod Cyngor Môn yn cynrychioli ac yn gweithredu er budd pobl yr Ynys. “Er i fi fod yn wleidyddol ers i fi gofio, “doeddwn i erioed wedi teimlo’r awydd i ymaelodi gyda phlaid wleidyddol,” meddai. “Ond roeddwn eisiau gweld cyngor agored a fyddai’n ymateb i anghenion pobl Ynys Môn, a dyna wnaeth gynnau’r tân yn fy mol. “Ar y stepen drws ‘roedd mor galonogol cwrdd â phobl oedd yn flin ofnadwy i ddechrau, a ddim am bleidleisio o gwbl, ond yn dod i weld Plaid Cymru fel opsiwn erbyn diwedd y sgwrs, yn dod i ddeall bod dim angen i bethau aros ‘run fath.” Er ei bod yn siomedig na fydd tîm Plaid Cymru yn rheoli’r cyngor, dywed ei bod wedi sylweddoli’n gyflym bod y sefyllfa yn un ddigon positif: “Mae gwrthblaid gref unedig yn mynd i fod mor bwysig wrth sicrhau bod y Cyngor newydd yn ystyried anghenion y bobl uwch bob dim. “ Nicola, Ann a Llinos yw’r unig aelodau benywaidd ar y Cyngor. Mae Ann yn teimlo nad yw’r sefyllfa honno’n foddhaol ac mae’n
annog merched i roi eu henwau ymlaen ar gyfer etholiadau San Steffan a’r Cynulliad. “Mae’n warthus,” meddai, “o gofio mai yn Niwbwrch y cynhaliwyd un o gyfarfodydd y suffragettes ryw ganrif nôl, mai dim ond tair o’r 30 cynghorydd newydd ar Ynys Môn sy’n ferched.” Er bod ymgyrch Ynys Môn ar ben, mae’r gwaith o ymgyrchu’n effeithlon i sicrhau dyfodol gwell i Gymru yn parhau. Mae Ann yn dweud iddi gael ei syfrdanu gan y gefnogaeth a’r croeso a gafodd gan aelodau Plaid Cymru ers penderfynu sefyll: “O’r dechrau tan y diwedd roedd y gefnogaeth a’r ewyllys da mor anhygoel gan aelodau cyffredin o bob man, gan yr Aelodau Cynulliad a Seneddol - roedden nhw’n dod dros y bont bob dydd a doeddwn i erioed wedi dychmygu’r ffasiwn gymorth. Dwi mor falch i fi gymryd y cam i ymuno â Phlaid Cymru.” Rhuanedd Richards ac ymgyrch Ynys Môn. Tudalen 4