Gwanwyn 2017
£1
Y Ddraig Goch Y Blaid Leol – Plaid y Bobl gan Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood
W
rth i ni nesáu at ein Cynhadledd Wanwyn yng Nghasnewydd, mae Plaid Cymru yn parhau i ateb yr her sy’n wynebu Cymru. Mae digwyddiadau yn y byd yn cael effaith sylweddol ar ein gwlad. Mae Cymru weithiau yn cael ei phortreadu fel gwlad blwyfol neu fewnblyg, gyda llywodraeth Lafur ddi-ffrwt. Yr unig dro mae Cymru yn wir yn gwneud ei nod naill ai ar lwyfan gwleidyddol y Deyrnas Gyfunol neu’r byd yw pan fo Plaid Cymru yn chwarae rhan. Ond mae’n werth cofio fod Cymru, yn fwy nac unrhyw genedl arall neu ran o’r DG, yn dibynnu’n drwm ar allforio nwyddau. Dyna pam fod ‘ Brexit Caled’ yn gymaint o fygythiad i economi Cymru. Y Farchnad Sengl Ewropeaidd yw ein marchnad allforio fewnol fwyaf. All yr un rhan arall o’r DG honni hyn i’r un graddau ag y gall Cymru. Bu Plaid Cymru yn amlwg yn amddiffyn ein safle o fewn y farchnad sengl. Mae rhai ymgyrchwyr ‘Gadael’ eisiau ailysgrifennu hanes a dweud fod yn rhaid i chi adael y farchnad sengl os ydych yn gadael yr UE. Gadewch i ni alw hynny wrth ei enw iawn – celwydd. Mae Norwy a Gwlad yr Iâ, dwy wlad lwyddiannus, y tu allan i’r UE ond yn y farchnad sengl. Nid slogan gan un o wleidyddion Plaid Cymru oedd “Fyddai hi cynddrwg a hynny bod fel Norwy?”, ond geiriau Nigel Farage cyn y refferendwm!
Byddwn yn dod at ein gilydd yng Nghasnewydd - dinas a sylfaenwyd ar allforion diwydiannol - gan wybod fod Plaid Cymru wedi sicrhau mai parhau yn y farchnad sengl yw safbwynt swyddogol Cymru o ran y math o ymadawiad rydym yn ei arddel. Mae’r modd y bydd Cymru a’r DG yn gadael yr UE yn fater rhy bwysig i’w adael yn nwylo’r blaid Lafur, a oedd, nes i Blaid Cymru gamu i mewn, yn llugoer iawn am gymryd rhan yn y farchnad sengl. Mae gennym frwydr fawr o’n blaenau yn awr i geisio dylanwadu ar Lywodraeth y DG. Yr hyn sy’n sicr yw na allwn ymddiried yn y blaid Lafur i sefyll dros Gymru. Ar yr un pryd, rhai lleol yw’r etholiadau nesaf a wynebwn, nid rhai cenedlaethol. Dros y flwyddyn a aeth heibio, enillodd Plaid Cymru fwy o seddi mewn etholiadau lleol nag unrhyw blaid arall. Fe wnaethom ennill mewn llefydd mor amrywiol â Grangetown,
Cilycwm a Blaengwrach. Er eu holl rethreg, ni enillodd UKIP unrhyw seddi ar gynghorau lleol. Ac y mae’r blaid Lafur yn mynd tuag yn ôl mor gyflym ag y gallant. Nid ym Mae Caerdydd yr enillir yr etholiadau ym mis Mai. Byddant yn cael eu hennill ar lawr gwlad, yn ein cymunedau. Mae angen i ni ail-godi Cymru o’r gwaelod i fyny. Datrys problemau lleol a chynrychioli cymunedau yw’r hyn sy’n bwysig i Blaid Cymru. Mae llawer o bobl nad ydynt yn cytuno â ni ar bethau eraill yn fwy na pharod i ymddiried ynom, ar lefel y cyngor lleol. Os nad ydych wedi dod ymlaen eisoes i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer y cyngor, gwnewch hynny nawr. Cysylltwch â Thŷ Gwynfor neu eich cangen leol, yna mynd allan i’r strydoedd. Lle’r ydym yn gweithio, gallwn ennill. A phan mae Plaid Cymru yn ennill, mae Cymru yn ennill hefyd.