Y Ffordd Ymlaen i Gymru

Page 1

Y ffordd ymlaen i Gymru

1

plaid.cymru partyof.wales

/PlaidCymruWales

@Plaid_Cymru


Dewch i ddarganfod mwy am weledigaeth Plaid Cymru am Gymru decach a mwy ffyniannus yma:

Cymru Gyfoethocach................................... 4

www.plaid.cymru

Cymru Iachach ............................................. 5

Facebook

Cymru Glyfrach ............................................ 6

PlaidCymruWales Twitter

@plaid_cymru Ff么n

029 20 472272

2

Cynnwys

plaid.cymru partyof.wales

Cymru Wyrddach ......................................... 7 Cymru Garedig ............................................. 8 Cymru Decach ............................................. 9

/PlaidCymruWales

@Plaid_Cymru


Arweinyddiaeth gref Cyfeiriad Clir Mae gan Blaid Cymru dîm cryf sy’n barod i arwain. Cenedl gyfoes, sy’n ffynnu – mae gan Gymru yr holl nodweddion sydd eu hangen i lwyddo. Mae gennym gyfoeth o adnoddau naturiol. Mae lleoliad daearyddol Cymru o fantais fawr i ni – gwlad ystwyth, ddwyieithog drws nesaf i un o economïau mwya’r byd ac yn rhan o floc masnachu mwya’r byd. Mae tirlun a hanes y wlad yn plethu i greu cenedl gyda llu o gyfleoedd ym meysydd twristiaeth a’r celfyddydau. Yn bennaf oll, mae gan ein pobl

www.plaid.cymru/www.partyof.wales

- yn unigolion a gyda’i gilydd - hanes balch fel dyfeiswyr, arweinwyr ac arloeswyr. Bydd Plaid Cymru yn atgyweirio, adfywio ac ailgodi’r genedl. Mae pobl yn haeddu llywodraeth sy’n cael ei harwain gan y rheini sydd â gallu, uchelgais ac sydd eisiau gweld Cymru’n llwyddo.

ni ar gyfer y ffordd ymlaen i Gymru. Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan yn y sgwrs genedlaethol hon i sicrhau mai llywodraeth nesaf Cymru fydd y fwyaf llwyddiannus yn ei hanes.

Mae Plaid Cymru eisiau cryfhau ein cymunedau, adfer ein gwasanaeth iechyd a rhoi’r cyfle gorau mewn bywyd i’n pobl ifanc. Gwyddom fod gan Gymru yr hyn sydd ei angen i lwyddo. Yn y tudalennau canlynol rydym yn datgelu ein gweledigaeth

Arweinydd Plaid Cymru

AC

3


Cymru Gyfoethocach Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn adfywio’r economi Gymreig drwy ganolbwyntio ar greu swyddi a thwf. Economi gref a llwyddiannus yw un sy’n darparu lefelau uchel o gyflogaeth, lleihau anghydraddoldeb a thlodi, a chreu cyfoeth i sicrhau fod ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn cael eu cyllido’n iawn. Byddai ein cynllun Contractau i Gwmnïau Lleol yn creu hyd at 50,000 o swyddi newydd. Mae ein sector cyhoeddus yn gwario £4.3bn ar gontractau, ond mae bron i hanner ohonynt yn cael eu hennill gan gwmnïau y tu allan i Gymru. Pe bai’r arian cyhoeddus hwn yn cael ei wario yn lleol, byddai’n arwain at gyflogi mwy o weithwyr lleol a gwario mwy o arian yn ein cymunedau lleol. Drwy ddatblygu’r ddolen gyflenwi gallwn ddarparu mwy o arbenigwyr mewn mwy o feysydd – sefyllfa sy’n elwa pawb. Byddai ein cynllun ‘Build 4 Wales’ yn ariannu prosiectau isadeiledd hanfodol fydd yn helpu i gysylltu ein gwlad gyda’r byd ehangach. Byddai’r buddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad yn creu swyddi ac adeiladu canolfan wybodaeth

4

plaid.cymru partyof.wales

arbenigol mewn caffael a rheolaeth prosiectau. Nod Plaid Cymru yw sicrhau y bydd pob rhan o Gymru’n elwa o fuddsoddiad o’r fath – cymunedau wedi eu cysylltu’n well, teithiau cyflymach i gymudwyr, a band eang cyflym i bawb. Bydd Plaid Cymru yn sefydlu cwmni hyd-braich i redeg rheilffyrdd Cymru; rheilffyrdd sydd yn gwasanaethu’r cyhoedd. Byddwn yn sicrhau gymaint o reolaeth gyhoeddus â phosib yn y fasnachfraint nesaf a byddwn yn manylu y dylai’r fasnachfraint gynnwys safleoedd ar fwrdd y cwmni i bobl sydd yn defnyddio ac yn gweithio i’r gwasanaethau rheilffordd. Byddwn yn sicrhau bod unrhyw elw yn cael ei ailfuddsoddi yn y busnes i wneud prisoedd yn fwy fforddiadwy a gwasanaethau yn ddibynadwy. Byddwn yn gwthio am drosglwyddo pwerau dros reolaeth a chyllid isadeiledd rheilffyrdd yn llawn fel bod modd inni agor mwy o linellau rheilffordd a buddsoddi mewn gorsafoedd.

Byddai Banc Datblygu Cymreig yn darparu cefnogaeth i fusnesau newydd. Bydd ein menter masnach dramor yn cefnogi busnesau Cymreig i allforio a byddwn yn cynyddu ein cyrhaeddiad rhyngwladol gan arddangos Cymru i’r byd a datblygu ein sgiliau a’n brand. Drwy ddiwygio cyllid cyhoeddus yn y fath fodd gallwn ei gwneud hi’n haws i fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol cynaliadwy, gan gefnogi entrepreneuriaid ac economïau lleol. Byddwn yn helpu eich stryd fawr leol hefyd, drwy sicrhau na fydd dros 70,000 o siopau yn talu unrhyw drethi busnes, a rhoi hwb i’n diwydiant twristiaeth hanfodol drwy gynyddu’r nifer o ymwelwyr ledled Cymru a chreu mwy o swyddi lleol. Bydd cynadleddau rheolaidd, i gydweithio gyda busnesau a mudiadau masnach, yn helpu i ddatblygu ffordd ymlaen i’r economi Gymreig – yn seiliedig ar sgiliau uchel a thâl da yn ffurf Cyflog Byw i bawb.

/PlaidCymruWales

@Plaid_Cymru


Cymru Iachach Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw un o gyfraniadau balchaf Cymru i’r byd. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn adfer ei enw da drwy wella canlyniadau iechyd a sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn derbyn y gofal y byddwch ei angen, ble bynnag a phryd bynnag fo hynny. Mae ar Gymru angen cynllun iechyd i wneud yn siŵr fod ein gwasanaeth cyhoeddus mwyaf gwerthfawr yn aros mewn dwylo cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae Cymru ymysg y gwledydd Ewropeaidd sydd â’r nifer lleiaf o feddygon y pen. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn hyfforddi a recriwtio mil o feddygon ychwanegol i ostwng amseroedd aros ar gyfer profion

www.plaid.cymru/www.partyof.wales

ac apwyntiadau, gan warchod eich ysbyty lleol a’i wasanaethau. Ni ddylai unrhyw un orfod teithio mwy nag awr i gyrraedd cymorth brys i achub bywyd. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cynllunio a threfnu gwasanaethau iechyd fel eu bod o fewn cyrraedd pawb, beth bynnag fo eich côd post. Bydd Plaid Cymru yn cyflwyno Cronfa Triniaeth a Chyffuriau gwerth £50m ar gyfer afiechydon prin ac afiechydon sy’n bygwth bywyd, gan gynnwys canser. Byddwn yn gwella mynediad i driniaethau iechyd meddwl drwy gyflwyno targed o

ymgynghoriad i therapïau ar gyfer cleifion o fewn tair wythnos ble fo hyn yn briodol. Dan lywodraeth Plaid Cymru bydd dioddefwyr dementia, awtistiaeth a chlefyd siwgwr yn derbyn cefnogaeth ddigonol. Bydd ein cynllun deng mlynedd ar gyfer y gweithlu iechyd cenedlaethol yn cael ei gyflwyno i atal diffyg staff a phwysau gormodol ar weithwyr. Byddwn yn integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn fel bod gofal i’n henoed ac unigolion bregus yn cael ei gynllunio yn gyson a gydag urddas.

5


Cymru Glyfrach

Bydd Plaid Cymru yn sicrhau fod pob plentyn yn derbyn y dechrau gorau posib mewn bywyd. Rhaid i’n hysgolion, colegau a phrifysgolion ddarparu awyrgylch ble fo myfyrwyr o bob cefndir yn ffynnu, beth bynnag eu hamgylchiadau a’u gallu. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cau y bwlch cyrhaeddiad rhwng plant o gefndiroedd difreintiedig ac eraill. I gyflawni hyn byddwn yn cyflwyno addysg feithrin llawn amser i bob plentyn tair oed. Bydd athrawon yn cael mwy o amser i addysgu diolch i’n cynlluniau i leihau biwrocratiaeth a dyblygiad gwaith ar gyfer arolygon drwy gyflwyno rheolwyr ysgol proffesiynol. Caiff athrawon hefyd fwy o ryddid i’w galluogi i fod yn greadigol er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer pob plentyn. Byddwn yn darparu addysg sy’n gweddu’r unfed ganrif ar hugain ble mae buddiannau codio cyfrifadurol a thechnoleg yn cael eu hyrwyddo ymysg disgyblion. Mae cyswllt clir yn bodoli rhwng cymryd rhan mewn chwaraeon a ffordd iach o fyw. Yn sgîl hyn bydd llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod ffocws cryf ar addysg gorfforol o fewn y cwricwlwm cenedlaethol.

6

plaid.cymru partyof.wales

Mae’r celfyddydau yn chwarae rôl bwysig ym meithrin hyder a chreadigrwydd ymysg pobl ifanc. Byddwn yn sicrhau bod ein sefydliadau addysg yn dathlu’r cyfoeth o gerddoriaeth, llenyddiaeth, drama a dawns sydd gan Gymru i’w gynnig. Rhaid i ddarpariaeth addysg Gymraeg fodloni anghenion lleol. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn hyrwyddo’r Gymraeg drwy’r Cyfnod Sylfaen gan alluogi pob plentyn yng Nghymru i fod yn ddwyieithog, a derbyn y cyfleoedd diwylliannol ac addysgiadol sydd ynghlwm â bod yn ddwyieithog. Bydd Plaid Cymru yn parhau i adeiladu ar ein cefnogaeth i brentisiaethau – yn enwedig prentisiaethau lefel uwch – mewn meysydd megis gweithgynhyrchu a thechnoleg. Byddwn hefyd yn sefydlu Coleg Sgiliau Gwyrdd, ble y bydd sgiliau ac arbenigedd yn y diwydiannau gwyrdd yn cael eu datblygu er mwyn troi Cymru’n esiampl ryngwladol o lwyddiant yn y maes.

Rydym eisiau i Gymru sefydlu enw da ledled y byd am ymchwil a dyfeisgarwch, a byddwn yn gweithio gyda’n prifysgolion i ddenu mwy o incwm ymchwil a datblygiad gan gynghorau cyllido ymchwil. Bydd hyn yn dod â phrifysgolion a’r sector breifat ynghyd i ddatblygu syniadau newydd fydd yn cryfhau ein heconomi a’n helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o ddyfeiswyr a chrewyr. Yn ddibynnol ar asesiad cadarnhaol, byddwn yn parhau i gefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n datblygu addysg cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion. Byddwn hefyd yn edrych ar gynyddu cyrsiau Addysg Bellach drwy’r Gymraeg yn yr un modd. Byddwn yn arwain peilot o gyrsiau israddedig dwy flynedd, yn enwedig ar gyfer myfyrwyr aeddfed, gan ddarparu’r un nifer o wersi oriau cyswllt tra’n lleihau’r amser maent i ffwrdd o’r farchnad waith ac yn colli incwm teulu. Bydd hyn yn ein helpu i ganolbwyntio ar ddysgu gydol oes go iawn.

/PlaidCymruWales

@Plaid_Cymru


Cymru Wyrddach Mae Plaid Cymru am greu economi gref, gynaliadwy wedi ei phweru gan ynni adnewyddadwy sy’n lleihau ein heffaith ar adnoddau naturiol y blaned. Credwn y dylid gwarchod a diogelu ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol. I wneud hynny, dylai ein Cynulliad Cenedlaethol gael rheolaeth lawn dros ynni ac adnoddau naturiol. Yn ystod can niwrnod cyntaf llywodraeth Plaid Cymru, byddwn yn cyhoeddi cynllun ynni adnewyddadwy gyda’r amcan o greu Cymru ble, erbyn 2035, bydd 100% o’r trydan a ddefnyddiwn yn dod o ffynonellau adnewyddadwy. Byddwn yn cefnogi cymunedau i ddatblygu ynni adnewyddadwy eu hunain ac archwilio sut y gallwn greu gridiau ynni lleol a chenedlaethol, gan gynyddu mynediad grid i gynhyrchwyr ynni ar raddfa fach. Bydd hyn oll yn rhan o raglen sy’n sicrhau fod cymunedau yn elwa o gynhyrchu, perchnogi, a buddsoddi mewn ynni yn lleol.

www.plaid.cymru/www.partyof.wales

Gan ddilyn yr un egwyddorion, byddwn yn gwrthwynebu ffracio a mwyngloddio glo brig yng Nghymru, gwrthwynebu’r defnydd o beilonau drwy Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a chefnogi’r defnydd o geblau tanddaearol a thanfor ble fo hynny’n bosib. Bydd Plaid Cymru yn buddsoddi mewn rhaglen effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi Cymreig fydd yn torri biliau ynni, lleihau’r nifer o bobl sy’n byw mewn cartrefi gwael a lleihau allyriadau carbon. Rydym yn addo parhau i hyrwyddo datrysiadau gwyrdd ac amgylcheddol o ansawdd uchel mewn cartrefi newydd, gan gynnwys gofod gwyrdd digonol ar gyfer ymarfer corff, chwarae a lles. Byddwn hefyd yn edrych ar gyflwyno rhain mewn ardaloedd

mwy trefol fel y gall pawb elwa o ofod gwyrdd. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gosod targedau ailgylchu uchelgeisiol ac yn gweithio gyda chynhyrchwyr i leihau gwastraff pacio. Ein gweledigaeth ni yw Cymru Heb Wastraff. Byddwn hefyd yn cyflwyno Mesur Gwastraff Bwyd fel y gall cynhyrchwyr ac arwerthwyr leihau gwastraff bwyd a thaclo twyll bwyd gyda gwell labelu ac ymchwilio. Byddwn yn canolbwyntio ar dyfu ein marchnadoedd allforio a domestig ar gyfer bwyd a diod Cymreig. Bydd ein hymdrechion i gynyddu cefnogaeth a lleihau biwrocratiaeth i gynhyrchwyr Cymreig yn cael eu datblygu a’u cyflawni mewn partneriaeth â’r sector.

7


Cymru Garedig Bydd Plaid Cymru yn gosod cyfiawnder cymdeithasol wrth galon ein rhaglen lywodraeth. Byddwn yn gweithredu polisi dim troi allan i leihau effaith ‘treth llofftydd’ llywodraeth San Steffan, a chyflwyno rheoliadau rhent i atal landlordiaid rhag cymryd maintais o denantiaid. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cefnogi pobl hŷn i aros mewn cyflogaeth neu i ganfod gwaith, pe baent yn dymuno. Rydym hefyd yn cydnabod effaith economaidd gadarnhaol pobl hŷn yng Nghymru, a byddwn yn gwneud mwy i wneud ein cenedl yn lleoliad twristiaeth addas i’r henoed.

8

plaid.cymru partyof.wales

I sicrhau hyn, byddwn yn parhau i warchod y pas bws am-ddim sy’n galluogi’r henoed i gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a chynnal eu hannibyniaeth. Mae gofal yn fater hanfodol i’r henoed. Byddwn yn sicrhau fod gweithwyr cymunedol yn gallu treulio amser digonol gyda’r bobl maent yn gofalu amdanynt. Byddwn hefyd yn gwella dulliau a pha mor aml mae archwiliadau ysbytai, cartrefi gofal a chartrefi nyrsio yn cael eu cynnal, i sicrhau niferoedd digonol o staff

cymwys ac ansawdd gofal gwych. Bydd Plaid Cymru hefyd yn ceisio cefnogi lleoliadau i’r henoed gael cymdeithasu a rhyngweithio, i atal unigrwydd, a byddwn yn hyrwyddo cynlluniau o fewn y gymuned sy’n gwella ansawdd byw pobl hŷn. Rydym yn ymrwymo i weithio gyda mudiadau’r drydedd sector a’r heddlu i atal sgamiau sy’n ecsbloetio’r henoed, boed hynny o ddrws-i-ddrws, dros y ffôn, yn y post neu ar-lein.

/PlaidCymruWales

@Plaid_Cymru


Cymru Decach Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio gyda chynrychiolwyr o’r grwpiau cydraddoldeb ac undebau llafur i gyd er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed a bod pryderon pawb yn cael eu hystyried. Credwn y dylai menywod gael eu talu yr un faint â dynion am waith cymharol, a byddwn yn gweithio i waredu ar weithleoedd wedi eu gwahanu a rhagdybiaethau negyddol o waith menywod. Byddwn yn cefnogi mwy o fenywod a merched i ddilyn pynciau gwyddoniaethol, megis mathemateg, peirianneg, technoleg a gwyddoniaeth, i fod yn fwy llwyddiannus mewn busnes, ac i ymddwyn fel mentoriaid i’r rheini sydd yn eu dilyn i’r un meysydd. Bydd gan bob corff sydd yn cael ei ariannu yn gyhoeddus fyrddau rheoli a llywodraethu cydradd eu rhyw. Dan lywodraeth Plaid Cymru bydd troseddau casineb, o unrhyw fath, yn cael eu cymryd o ddifri a’u hatal gan yr heddlu a sefydliadau cymunedol. Byddwn hefyd yn cymryd radicaleiddio o ddifri ac yn gweithio gyda, ac o fewn, www.plaid.cymru/www.partyof.wales

cymunedau i’w atal drwy sicrhau deialog agored a chyfranogiad o fewn bywyd Cymreig ehangach. Bydd Plaid Cymru yn parhau â’r gwaith rydym eisoes wedi ei ddechrau drwy sicrhau bod ysgolion yn atal bwlio homoffobaidd ac erlid rhywiol. Byddwn yn gwthio i roi terfyn ar y gwaharddiad 12 mis sy’n atal dynion hoyw rhag rhoi gwaed gan ganolbwyntio ar ddangosyddion risg yn lle. Byddwn yn archwilio materion sy’n ymwneud â thai a chyfleusterau cymunedau LHDTh, yn enwedig mewn cymunedau llai ar draws Cymru. Byddwn yn hyrwyddo cyfranogiad LHDTh mewn chwaraeon a sicrhau bod cyrff rheoli chwaraeon yn gweithio â chlybiau a sefydliadau gwahanol i waredu ar agweddau negyddol, gan gynnwys homoffobia, hiliaeth a rhywiaeth.

Bydd Plaid Cymru yn gweithio gyda grwpiau anabl i sicrhau bod cymorth ar gael ar gyfer gofal plant ac yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a landlordiaid tai cymdeithasol i wneud yn siŵr bod tai addas ar gael i bobl anabl ar hyd eu hoes. Byddwn yn gweithio tuag at gyflwyno fframwaith Gwasanaethau Gofal Cynradd ar gyfer pobl trans a datblygu clinig hunaniaeth rhyw yng Nghymru. Rydym yn ymrwymo i barhau gyda’r rhaglen Bathodynnau Glas ac yn sicrhau bod gan ysgolion fynediad addas ar gyfer disgyblion sydd ag anabledd corfforol. Credwn y gall pawb yng Nghymru chwarae rôl, beth bynnag eu cefndir.

9


Mae hi’n bryd derbyn cyfrifoldeb newydd ar gyfer dyfodol Cymru

Mae hi’n bryd i’n llywodraeth gael ei arwain gan blaid sy’n derbyn ei dyletswydd i greu cyfoeth, i rannu cyfoeth, i gryfhau ein gwasanaeth iechyd ac i roi’r cyfle i bob plentyn lwyddo a ffynnu. Nid oes ar Gymru angen mwy o esgusodion gan lywodraeth ail ddosbarth sydd wedi gadael i fethiant ddiffinio ei record ym mhob prif faes cyfrifoldeb. Mae Plaid Cymru yn barod i gynnig yr arweiniad a’r dyfodol mae ein cenedl eu hangen. Mewn llywodraeth, bydd ein gweithredoedd yn cael eu harwain gan y gred fod pobl Cymru â’r hawl sylfaenol i’r canlynol:

10

plaid.cymru partyof.wales

· gofal iechyd fel y bo’r angen · addysg sy’n galluogi pawb i gyflawni eu llawn botensial · derbyn pob cyfle i weithio ac ennill bywoliaeth · cefnogaeth a gwarchodaeth pan yn fregus neu anghenus Rydym hefyd yn derbyn ein cyfrifoldeb i sicrhau y gall Cymru sefyll ar ei thraed ei hun a chymryd ei lle fel cenedl gyfoes Ewropeaidd lwyddiannus. Nid oes

gan unrhyw blaid arall lwyddiant a lles ein cenedl, ei hieithoedd, cenhedlaethau’r dyfodol a’r amgylchedd wrth galon ei hymdrechion. Gwyddom fod yr awydd am newid yn tyfu ynghyd â’r teimlad fod ar Gymru angen arweinyddiaeth gref a galluog gan ei llywodraeth. Mae Plaid Cymru yn barod, gyda’r tîm o bobl a’r rhaglen lywodraeth i gyflawni’r disgwyliad hynny, a gyda’ch cefnogaeth chi gallwn ddangos y ffordd ymlaen i Gymru.

/PlaidCymruWales

@Plaid_Cymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.