SINEMA @CINEMA
PONTIO BANGOR
17-20 Tachwedd
17-20 November
Gŵyl Ffilmiau Affricanaidd deithiol Cymru Yn darlunio safbwyntiau newydd ar fywyd cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol Affrica trwy ddangos y ffilmiau diweddaraf gorau o Affrica.
Wales’ annual touring African Film Festival Dedicated to bringing fresh perspectives on African social, political and cultural life by showcasing the best African Cinema releases.
Blind Ambition
Warwick Ross, Robert Coe, 2022, 97m Iau 17 Tachwedd, 8.15pm, + Derbyniad gwin am ddim (gyda tocyn ffilm) i lansio’r ŵyl yn y bar am 7.30pm
Thursday 17 November, 8.15pm, + Free wine reception (with film ticket) to launch the festival in the bar at 7.30pm
Ffilm ddogfen am bedwar dyn o Zimbabwe sy’n creu’r tîm cyntaf o’u gwlad ar gyfer y Gemau Olympaidd Blasu Gwin. Ar ôl dianc rhag newyn a gormes yn eu mamwlad yn Zimbabwe, mae’r pedwar ffoadur yn goresgyn pob anfantais i ddod yn brif arbenigwyr gwin De Affrica. Maent yn rhoi eu bryd ar ennill y teitl arbennig ‘Pencampwyr Blasu’.
A documentary about four men from Zimbabwe who form their home country’s first Wine Tasting Olympics team. Having escaped starvation and tyranny in their homeland of Zimbabwe, four refugees have conquered the odds to become South Africa’s top sommeliers. They set their sights on the coveted title of ‘World Wine Tasting Champions’.
Neptune Frost
Saul Williams, Anisia Uzeyman, 2021, 105m Gwener 18 Tachwedd, 8.15pm + Dewch i fwynhau DJs yn troelli tiwniau Affro-ddyfodolaidd yn y bar o 7pm
Ffilm “seibr-gerddorol gwrthgyfalafol” cyffrous sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd. Mae’n dilyn hanes y crwydryn rhyngrywiol Neptune Frost sydd wedi rhedeg i ffwrdd o gartref ar ôl marwolaeth eu mam, maent yn cychwyn ar daith o hunanddarganfod ac ail-greu yn Burundi a Rwanda.
Friday 18 November, 8.15pm + Come and enjoy DJs spinning Afro-futurist tunes in the bar from 7pm
A vast Rwandan coltan mine and Burundian village turned techno scrapheap hacker encampment sets the scene for this non-conforming musical adventure. Blending Afrofuturistic music and styles and glitch aesthetics, Neptune Frost is a sensational “anticapitalist cyber-musical” that has wowed audiences around the world.
www.pontio.co.uk 01248 38 28 28
Blacula
Dangosiad 50 mlwyddiant / 50th anniversary showing William Crain, 1972, 93m Sadwrn 19 Tachwedd, 7.00pm + trafodaeth banel fyw trwy loeren gyda’r cyfarwyddwr William Crain
Saturday 19 November, 7.00pm + live panel discussion by satellite with director William Crain
Mae 2022 yn nodi hanner can mlynedd ers ymddangosiad Blacula, y ffilm arswyd ‘Blaxploitation’ gyntaf, yn ogystal â’r tro cyntaf i fampir Du ymddangos ar y sgrin. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, teithiodd y Tywysog Mamuwalde (William Marshall) o Affrica i Dransylfania i ofyn am help Dracula i ddod â’r fasnach gaethweision drawsatlantig i ben. Yn lle helpu, mae Dracula yn ei gondemnio i fywyd tragwyddol fel fampir. Rhai canrifoedd yn ddiweddarach, daw dau ddylunydd mewnol o hyd i’w esgyrn, ni ddaw heddwch i strydoedd 1972 Los Angeles hyd nes y bydd Blacula wedi talu’r pwyth yn ôl!
2022 marks the 50th anniversary of the very first Blaxploitation horror film, Blacula, as well as the first ever appearance of an onscreen Black vampire. In the late eighteenth century, Prince Mamuwalde (William Marshall) travels from Africa to Transylvania to seek Count Dracula’s help in ending the transatlantic slave trade. Instead of helping, Dracula condemns Mamuwalde to eternal life as a vampire. When, a few centuries later, a pair of unwitting interior designers uncover his bones, the streets of 1972 Los Angeles won’t know peace until Blacula has his revenge!
Yn cael ei gyflwyno ar y cyd gyda Gŵyl Arswyd Ryngwladol Cymru, Abertoir, a Bristol Black Horror Club www.indreamsaremonsters.co.uk
Presented in partnership with Wales’ International Horror Festival, Abertoir, and Bristol Black Horror Club www. indreamsaremonsters.co.uk
No Simple Way Home
Akuol de Mabior, 2022, 82m Cast - Nyandeng de Mabior, Nyankuir Garang de Mabior Sul 20 Tachwedd, 2.00pm
Sunday 20 November, 2.00pm
Roedd Akuol de Mabior yn 16 oed pan laddwyd ei thad mewn damwain hofrennydd – dim ond tair wythnos ar ôl iddo gael ei urddo’n is-lywydd Sudan. Wedi’i geni a’i magu fel alltud, mae’r cyfarwyddwr yn dilyn ei mam a’i chwaer i’r weriniaeth ifanc lle maent yn byw yn awr a lle mae’r ddwy wedi canfod eu prif bwrpas mewn bywyd. Mae Akuol yn gofyn iddi’i hun sut gall y wlad hon sydd wedi’i rhwygo gan ryfel cartref fod yn gartref iddi. Mae’r rhyddid newydd yn her enfawr i bawb.
Akuol de Mabior was 16 when her father was killed in a helicopter crash – just three weeks after his inauguration as Sudan’s vice president. Born and raised in exile, the director follows her mother and sister to the young republic where they now live and where they have both found their roles. Akuol asks herself how and if this country torn by civil war can ever become her home. The newly acquired freedom presents an enormous challenge for everyone.
Zongo
Elias Mierbeth, Michael Herzog, 2021, 70m Cast - Clement Matorwmasen Sul 20 Tachwedd, 5.30pm
Sunday 20 November, 5.30pm
Ar ôl tyfu i fyny ar y strydoedd a gwynebu marwolaeth a distryw yn y carchar, mae aelod ifanc dewr o lwyth ar fin torri’r cylch o ddioddefaint, trwy adeiladu pentref i freuddwydwyr gyda’i gymuned wledig o Ghana. Mae ZONGO yn adrodd stori Clement. Dyma daith ei lwybr o dlodi ac anobaith tuag at greu cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu’n gymdeithasol yn y rhanbarth gwledig.
After growing up in the streets, facing death and devastation in prison, a courageous young tribesman is about to break the circle of misery, by building a village for dreamers together with his rural Ghanaian community. ZONGO tells the story of Clement. It is the journey of his path from poverty and hopelessness towards creating opportunities for societal progress of the rural youth in the region.