Rhaglen Artistig Ionawr-Ebrill 2023

Page 1

Gydag... Opera Cenedlaethol Cymru / Pijin / Croendena / Gŵyl Gerdd Bangor / Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC / Pedair …a mwy!
COPI AM DDIM Beth sydd ymlaen Ionawr - Ebrill 2023
Canolfan Celfyddydau ac Arloesi
Arts and Innovation Centre Bangor
Sut i archebu Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, neu fersiwn glywedol, cysylltwch ar 01248 38 28 28 Arlein pontio.co.uk Dros y ffôn 01248 38 28 28 Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ Am fanylion agor a chau ewch i pontio.co.uk PontioBangor TrydarPontio PontioBangor pontio_bangor Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu. Rhif Elusen: 1141565
i Fienna Nos Wener 6 Ionawr, 7.30pm Theatr Bryn Terfel £20.50 - £5 Dathlwch y gorau o gerddoriaeth Fiennaidd, mwynhewch yr enwog Blue Danube gan Strauss II, y Radetzky March bywiog gan Strauss I, yr hiraethus Straussiana Polka gan Korngold, a mwy. CERDDORFA OPERA CENEDLAETHOL CYMRU Y trac sain berffaith i ddechrau’r Flwyddyn Newydd Sgwrs cyn cyngerdd 6.45pm Sgwrs am ddim ym Mar Ffynnon gyda'r bariton Dafydd Allen
Dychwelyd
Ymunwch â Sefydliad Confucius, Prifysgol Bangor i ddathlu Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 2023, Blwyddyn y Gwningen Gweithdai Caligraffi Tsieineaidd 10am + 2pm Dewch i roi tro ar grefft hynafol Caligraffi Tsieineaidd GWEITHDAI GALW MEWN Breichledau a Chlymau Tsieineaidd 11.45am + 3pm Dysgwch sut mae gwneud clymau a breichledau Tsieineaidd GALA BLWYDDYN NEWYDD TSIEINEAIDD DYDD SADWrN, 21 IoNAWr Cadwch lygad am ddangosiad sinema arbennig yn Sinema Pontio i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd!

PErFForMIADAU AM DDIM

Cerddoriaeth Tsieineaidd

11am – Perfformiad byw o’r guzheng Tsieineaidd gan Kewen Yu

3.50pm - Bydd Mengling Li yn chwarae Xun traddodiadol, y ffliwt ‘vessel’

Tai Chi ac Wu Qin Xi

11.30am Ymunwch â ni i fwynhau perfformiad o Tai Chi ac Wu Qin Xi gan aelodau o Sefydliad Confucius, Prifysgol Bangor ar y Plaza.

Gala Tsieineaidd

12.30pm Am ddim, ond gyda thocyn Gwledd glyweledol ysblennydd o gerddoriaeth a dawns draddodiadol Tsieineaidd. Bydd arddangosfa o berfformiadau hynod ddiddorol gan grŵp o artistiaid ifanc o Brifysgol Goldsmith yn cynnwys dawns Tsieineaidd a pherfformiad cerddorol yn cludo'r cynulleidfaoedd i galon Tsieina!

BAGELS • B RECHDANAU PITSA • CACENNAU Am fwy o wybodaeth ewch i’r tudalennau bwyd a diod pontio.co.uk Archebwch eich diodydd ymlaen llaw yn y bar i’w mwynhau yn ystod yr egwyl 01248 383826 bwydabar@pontio.co.uk
Ar Agor7 Diwrnod yr Wythnos SINEMA CINEMA PONTIO BANGOR Tocynnau: £5.50 - £7.50 70 dangosiad y mis 1 llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr fyw Rhaglen sinema ar gael yn y ganolfan Newyddlen ebost wythnosol: Crëwch gyfrif ar www.pontio.co.uk Ffilmiau pnawn dim ond Llun-Mercher am 2pm £5.00
DANGOSIADAU THEATR BYW O’R NATIONAL THEATRE, LLUNDAIN YN SINEMA PONTIO GOOD Iau 20 Ebrill, 7pm Sul 23 Ebrill, 2pm David Tennant Mae David Tennant (Doctor Who) yn dychwelyd i’r West End mewn ailddychmygiad syfrdanol o un o ddramâu gwleidyddol mwyaf pwerus Prydain. OTHELLO Iau 23 Chwefror, 7pm Sul 26 Chwefror, 2pm Giles Terera, Rosy McEwen, Paul Hilton Cynhyrchiad newydd rhyfeddol o drasiedi fwyaf parhaol Shakespeare, wedi’i gyfarwyddo gan Clint Dyer gyda chast sy’n cynnwys Giles Terera (Hamilton), Rosy McEwen (The Alienist) a Paul Hilton (The Inheritance). THE CRUCIBLE Iau 26 Ionawr, 7pm Sul 29 Ionawr, 2pm Erin Doherty, Brendan Cowel Mae dameg rymus Arthur Miller am helfa wrachod yn Salem yn ôl gydag Erin Doherty (The Crown) a Brendan Cowell (Yerma). Ewch i pontio.co.uk i weld dangosiadau byw y Royal Opera House
PIRATE BONNIE Sadwrn 25 Chwefror 11.30am + 2.30pm Stiwdio £6.50 Teulu o 4: £22 Mae môr-leidr Bonnie yn chwilio am drysor - ond dim trysor cyffredin, oherwydd nid môr-leidr cyffredin mohoni. Y trysorau mae hi'n chwilio amdanynt yw straeon, straeon coll o amser maith yn ôl am fôr-ladron beiddgar. OED: 4+ Gweithdy creadigol AM DDIM gyda Carys Hughes i ddilyn pob perfformiad GIG ELUSENNOL Bryn Fôn Yws Gwynedd Meinir Gwilym Sadwrn 28 Ionawr, 6pm Theatr Bryn Terfel £15 / £10 Family of 4: £40 Family of 5: £50 Addas i’r holl deulu! I Deuluoedd WEDI GWERTHU ALLAN!

DIWRNOD TEULU PONTIO!

Sadwrn 18 Mawrth Drwy’r dydd

Diwrnod llawn digwyddiadau i’r holl deulu! Gan gynnwys gweithdy origami, DJ, celf, digwyddiad Caffi Babis arbennig, ysgrifennu a mwy!

Ewch i pontio.co.uk am ragor o wybodaeth.

Sadwrn 8 Ebrill 11.30am + 2.30pm Stiwdio £6.50 Teulu o 4: £22

OED: 3+

Mae rhywbeth ar droed yn y goedwig, clywir lleisiau, ac arogl metel yn yr aer. Mae peiriannau yn casglu gerllaw a chlywir sŵn rhyfedd ar draws y dyffryn.

Mae Laura’r Fuwch Goch Gota, Jeffrey’r Pry Cop, Brett y Pry Lludw a Willougby’r Gnocell y Coed yn poeni, ond mae Velda’r Llwynog yn gwybod pwy all eu helpu –Taid! Oes digon o amser? A allent achub y goedwig? A wneith y dieithryn rhyfedd eu helpu?

Gweithdy creadigol AM DDIM yn dilyn pob perfformiad

WOODLAND TALES WITH GRANDAD

FRÂN WEN

CROENDENA

Nos Iau 9 Chwefror, 7.30pm Nos Wener 10 Chwefror, 7.30pm Stiwdio £15 / £13 gostyngiadau

Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion. Hogia, hela a ffymbls maes parcio'r National Trust.

Mae'r haf ar droed. Mae’r gens yn barod am bartis ac mae bywyd yn llawn posibiliadau. Tra bod rhai perthnasau’n blodeuo, mae eraill yn dirywio. Ond ydi Nel yn gallu delio hefo hyn?

Betsan Ceiriog sy'n serennu yn y ddramedi Gymraeg newydd yma gan y dramodydd ifanc Mared Llywelyn sy’n un o leisiau mwya’ cyffrous theatr Cymru.

Croendena yw cynhyrchiad diweddaraf y dramodydd ifanc Mared Llewelyn sy’n un o leisiau mwya’ cyffrous theatr Cymru.

Yn gomisiwn newydd gan Frân Wen, mae’r fonoddrama yn cael ei chyfarwyddo gan Rhian Blythe.

14+
DRAMA

Mae digwyddiadau Cabaret

Pontio yn nosweithiau hamddenol, arddull cabaret yn Theatr Bryn Terfel. Ymunwch â ni a’r bandiau yma dros y gwanwyn!

IFY IWOBI

Nos Sadwrn 11 Chwefror, 7.30pm £10 | £5

Mae Ify Iwobi yn artist A-list BBC Radio Wales, yn bianydd clasurol / cyfoes a aned yn Abertawe, yn un o’r artistiaid sydd ymhlith y goreuon o Gymru ar BBC Radio Wales. Astudiodd Perfformio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Brunel yn Uxbridge.

PEDAIR + CERYS HAFANA

Nos Sadwrn 11 Mawrth, 8pm £15 | £13

Mae Pedair yn dwyn ynghyd dalentau pedair o artistiaid gwerin amlycaf Cymru: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James. Â'r pedair yn artistiaid rhyngwladol blaengar eu hunain, gyda’i gilydd, mae eu perfformiadau byw wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd, gyda'u harmonïau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o'r traddodiad, ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi.

17 - 18/ 02 / 2023 Thema: Byrfyfyrio D a v i d T o o p P a x D e m r T r i o Dros gyfnod o ddau ddiwrnod bydd Gŵyl Gerdd Bangor yn rhoi cyfle unigryw i archwilio creadigrwydd byr fyfyr gan brofi y diweddaraf mewn cerddoriaeth gyfoes ac arbrofol Bydd y digwyddiad ‘Diwrnod Byr Fyfyr’ ar y dydd Gwener yn cyflwyno cyfres o sgyrsiau a gweithdai ar y pwnc, gyda chyngerdd amser cinio gan David Toop a jas gyda’r hwyr gan Trio Pax Demir (mewn cydweithrediad â Cabaret Pontio) Yn ystod y dydd Sadwrn, bydd ensemble Tern yn archwilio’r byr fyfyrio rhydd gan grŵp siambr o offerynnau a Theatr Bryn Terfel fydd lleoliad y cyngerdd olaf lle bydd Electroacwstig Cymru yn ymuno gyda’r delynores dalentog Milana Zarić a’r artist sain a chyfansoddwr gwadd, Richard Barrett Drwy gydol yr Ŵyl cynhelir digwyddiadau cerddorol mewn gwahanol lefydd yn Pontio, gyda chyfle i’r cynulleidfaoedd ieuengaf brofi cerddoriaeth yng nghwmni Marie-Claire Howorth ynghyd â pherfformiadau o gyfansoddiadau myfyrwyr y Brifysgol gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor Ymunwch gyda ni yn y dathliad! GŴYL GERDD BANGOR 2023

Cyngherddau'r Ŵyl

www.gwylgerddbangor.org.uk E e c t r o a c o u s t c W A L E S
- 17/02/2023
SADWRN - 18/02/2023
R i c h a r d B a r r e t t M l a n a Z a r c &
GWENER
13.00, Neuadd Powis, Prifysgol Bangor David Toop Gwrthrychau bob dydd fydd prif ffocws y perfformiad unigryw hwn gan y byr fyfyriwr unawdol, David Toop.
10 00-11 00 ac 11 00-12 00, PL2, Pontio Camau Cerdd Sesiynau cerddorol wedi eu bwriadu ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc iawn o dan arweiniad MarieClaire Howorth. 13.00, Stiwdio, Pontio Tern mewn cyngerdd Phil Wachsmann (feiolin), Emil Karlsen (offer taro), Martin Hacket (Korg MS10), ac eraill. Cyngerdd sy’n archwilio byr fyfyr rhydd ar gyfer grŵp siambr o offerynnwyr 19 30, Stiwdio, Pontio Cabaret Pontio : Trio Pax Demir Ymlaciwch i gyfuniadau o gerddoiriaeth Asiaidd a jazz byr fyfyriol yng nghwmni’r triawd cyffrous hwn 19.30, Theatr Bryn Terfel, Pontio Milana Zarić (telyn), Richard Barrett (cyfansoddwr ac artist sain) gydag Electroacwstig CYMRU Cyngerdd i gynnwys pefformiad cyntaf o ddau ddarn gan Barrett ynghyd â chomisiynnau’r Ŵyl gan Robin Haigh a Poumpak Charuprakorn Am holl ddigwyddiadau Gŵyl Gerdd Bangor sganiwch isod:

PIJIN / PIGEON

Yn seiliedig ar nofel ‘Pigeon’ gan Alys Conran

Addasiad llwyfan gan Bethan Marlow

Mae Pijin yn werth y byd. Wel, dyna farn Iola, ei ffrind gorau. Mae’n ddewr, yn ddoniol a braidd yn beryglus, ac mae hi wrth ei bodd yn ei gwmni. Ond, mae bywyd ymhell o fod yn felys. Wedi’i lleoli yng nghysgod chwareli’r gogledd yn y ’90au cynnar, dyma stori afaelgar am dyfu i fyny, am bŵer geiriau, cyfeillgarwch a pha

mor bell mae pobl yn fodlon mynd yn enw cariad. Yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus ‘Pigeon’ gan Alys Conran ac wedi’i haddasu i’r llwyfan gan Bethan Marlow. Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-blethu, a phob perfformiad yn cynnwys capsiynau Cymraeg a Saesneg.

Canllaw Oed: 13+ (Yn cynnwys iaith gref a themâu o drais yn y cartref)

Nos Lun 27 Chwefror – Nos Wener 3 Mawrth 7.30pm Theatr Bryn Terfel £16 - £10
CYNHYRCHIAD THEATR GENEDLAETHOL CYMRU A THEATR IOLO, MEWN CYDWEITHREDIAD Â PONTIO

OPRA HUMPERDINCK : HANSEL AND GRETEL

Nos Iau 9 Mawrth, 7pm

Theatr Bryn Terfel

£20 / £18 gostyngiadau

Mae’n gyfnod anodd i rieni Hansel a Gretel. Pan sylweddola mam orbrysur y plant eu bod yn osgoi eu cyfrifoldebau ac yn dawnsio, dyna’i diwedd hi. Mae hi’n eu halltudio i’r goedwig ac mae’r plant yn crwydro i grafangau gwrach ddrwg sy’n bwriadu eu troi yn fara sinsir. Gyda dim ond eu cyfrwystra o’u plaid, sut byddant yn dianc o’r popty?

Cenir yn Saesneg

LANGUAGE IS À VIRUS : A CHILE-WALES SOUND POETRY CONTAGION

Nos Sadwrn 11 Mawrth, 7.30pm Stiwdio

£5 / £3 gostyngiadau

Mewn noson amrywiol o waith unigol a chydweithredol, mae Andrés Anwandter, Martín Bakero, Felipe Cussen, Nia Davies, Adrian Fisher, Luna Montenegro, Zoë Skoulding a Rhys Trimble yn rhannu eu brwdfrydedd heintus dros iaith fel ffynhonnell sain yn ei holl dreigladau ac amrywiadau.

OPERA CANOLBARTH CYMRU
DEWCH I BROFI DIWRNOD AGORED YN 2023 Dydd Sadwrn, 01 Gorffennaf Dydd Sul, 20 Awst Dydd Sul, 08 Hydref Dydd Sul, 29 Hydref Dydd Sul, 26 Tachwedd bangor.ac.uk/diwrnodagored

Cerddorfa a Chorws Symffoni Prifysgol Bangor

Nos Sul 2 Ebrill, 7.30pm Neuadd Prichard-Jones

£12 - £5

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor

Nos Sul 12 Mawrth , 7.30pm

Neuadd Prichard-Jones

£12 - £5

Coleg Menai yn cyflwyno...

Showcase Evening

Nos Iau 2 Mawrth, 7pm £10 / £8

Cadwch lygad am ddigwyddiadau a pherfformiadau gan fyfyrwyr a chymdeithasau Prifysgol Bangor ar ein gwefan.

Nos Iau 28 Ebrill, 7pm

£10 / £8

Ymunwch â myfyrwyr Coleg Menai yn ein Stiwdio theatr ar gyfer perfformiadau arbennig gan fyfyrwyr celfyddydau perfformio.

An Evening of Musical Theatre

CERDDORFA GENEDLAETHOL GYMREIG Y BBC YN CYFLWYNO

TCHAIKOVSKY SYMFFONI RHIF 5

Nos Wener 17 Mawrth, 7.30pm

Neuadd Prichard-Jones

£15 - £5

Tocynnau Teulu ar gael

Mae Prif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau lu, yn cymryd ei le ar y podiwm ar gyfer y cyngerdd deinamig ac arloesol hwn, gan gychwyn y cyffro gyda Monolith: I Extend My Arms Tansy Davies. Mae haenau o ganonau tebyg i graig, sy’n drwchus ac yn dryloyw ar yr un pryd, yn ysbrydoliaeth ar gyfer y gwaith ergydiol, rhythmig a byrlymus hwn.

YMLACIWCH GYDA SIAN ELERI

Nos Sadwrn 18 Mawrth, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£12 - £5

Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a’r cyflwynydd radio Sian Eleri, yn Pontio am noson o glasuron ymlaciol. Tynnwch eich esgidiau, eisteddwch yn ôl ac ymlacio i seiniau'r gerddorfa symffoni, fydd yn chwarae rhai o'r darnau cerddoriaeth fwyaf llonyddol a ysgrifennwyd erioed.

PULSE / PWLS

Nos Iau 23 Mawrth, 7.30pm Theatr Bryn Terfel

£14 / £12 gostyngiadau

Dau ddarn o waith dawns corfforol gwefreiddiol fydd yn cyflymu curiad eich calon.

Mae Marcos Morau (a greodd Tundra) yn dychwelyd gyda’r Waltz atgofus, moethus a chwim. Tra bydd Sarah Golding a Yukiko Masui (SAY) yn gwneud i chi fod eisiau codi a dawnsio gyda SAY SOMETHING , gwledd weledol a sonig o symudiad a bîtbocsio. Ymunwch â CDCCymru am noson rymus o ddawns.

DARGANFOD DAWNS

I deuluoedd ac ysgolion

Dydd Gwener 24 Mawrth, 1pm

Theatr Bryn Terfel

£8

CWMNI DAWNS CENEDLAETHOL CYMRU YN CYFLWYNO

SYRCAS

KNOT

Nos Iau 6 Ebrill, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£18 | £15

Yn herio’n gorfforol ac yn adrodd stori sy’n cyffwrdd â’r galon, Knot yw’r sioe syrcas a dawns uchel ei chlod gan Nikki Rummer a JD Broussé. Mae’r perfformwyr yn defnyddio sgiliau syrcas arbennig i ddweud stori am ddewis amhosib: Sut gallwn fod yn onest i’n hunain heb frifo y rhai yr ydym yn ei garu? Mae Knot yn daith theatrig, celfydd sy’n dangos brwydrau ymrwymo. 7+

Y BONT / THE BRIDGE

Nos Sadwrn 1 Ebrill, 7pm Stiwdio

£10 / £8 gostyngiadau

"Mae rhywun yn ceisio cyfathrebu gyda ni" Kiefer Jones sy'n serennu yn yr opera un act gan Marian Bryfdir ac Edward Wright, fel rhan o brosiect a ariannir gan Cyngor Celfyddydau Cymru gyda rhaglen ymchwil dementia IDEAL. Yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb yn y profiad o fyw gyda dementia.

MARK STEEL

Nos Wener 21 Ebrill, 8pm

Theatr Bryn Terfel

£17

Daw Mark Steel i Fangor! Yn wyneb cyfarwydd ar Have I Got News For You, QI (BBC) a News Quiz (BBCR4), wedi’i enwi yn golofnydd papur newydd y flwyddyn ac yn awdur y llyfr llafar arobryn Who Do You Think I Am 14+

Gweithdai

Yoga gyda Ceri Lloyd

Nosweithiau Llun, 8pm £8.50

Cynhelir yn y Gymraeg, ac yn addas i ddysgwyr

Dawnsio

ar gyfer

Parkinson’s

Dydd Mawrth, 1.30pm £3.50

Yn addas i unrhyw un sy’n byw gyda Parkinsons.

£3
Bob yn ail ddydd Llun £6 / £40 am 8 sesiwn 16+ Hedfan am Hanner Dydd Gwener cyntaf y mis
Hyd at 24 mis oed Caffi Babis
GWEITHDAI DRAMA WYTHNOSOL Nos Lun Blwyddyn 3 a 4 – 5-6pm Blwyddyn 5 a 6 – 6.15-7.15pm Nos Fercher Blynyddoedd 7, 8 a 9 6.30-7.30pm Blynyddoedd 10 – 13 7.45-8.45pm Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mared Huws ar m.huws@bangor.ac.uk Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru Pobl i Bobl Parc Cenedlaethol Eryri Castell y Penrhyn blas o BLAS! Dyma rai o’r bobl, cymunedau a chwmnïau rydym wedi cydweithio â nhw BLAS yw rhaglen ieuenctid Pontio sy’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gael blas o’r celfyddydau Caffi Kyffin Muintearas Teo Ysgolion yng Nghwynedd a Môn Amgueddfa Lechi

Leitir Móir, Iwerddon 2022

Yn dilyn tair blynedd o aros (diolch Covid!) aeth deunaw o griw hŷn BLAS ar daith ar draws yr Iwerydd i ganolfan Muintearas, yn Leitir Móir, Iwerddon. Y bwriad oedd rhoi cyfle iddynt ddysgu am Iwerddon, ei hiaith a’i hanes, a chanfod cysylltiadau rhwng y Cymry a’r Gwyddelod, eu hieithoedd a’u diwylliannau. Roedd y ganolfan wedi ei lleoli ar un o ynysoedd y Gaeltacht yng nghanol prydferthwch y mynyddoedd a’r môr, awr i’r gorllewin o ddinas Galway. Cafodd y criw groeso cynnes gan drigolion Leitir Móir a bu’n wythnos yn llawn dawnsio, dysgu, cerdded, brwydro’r elfennau a bwyta.

Rhai o uchafbwyntiau’r daith oedd dysgu’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng yr iaith Gymraeg a’r Wyddeleg, dysgu dawnsfeydd traddodiadol y ddwy wlad, ac i goroni’r cyfan, noson o gerddoriaeth gan aelodau BLAS, rhai o aelodau canolfan Muintearas a dau gerddor proffesiynol o Iwerddon. Mae’r grŵp yn gobeithio y bydd hi’n bosib i griw o Muintearas ddod draw i Gymru yn y dyfodol agos, er mwyn dangos Cymru iddynt a chadw’r cysylltiad yn fyw. Gair y daith – CIORCAL!

Sylwadau gan aelodau BLAS

“Ma’r trip yma wedi neud fi’n falch o Cymraeg’”
“Geshi breuddwyd cynta’ fi’n Gymraeg neithiwr”
“They gave us more food than air”

Ymunwch â’n tîm o wirfoddolwyr!

Diddordeb? gwirfoddolwyr@pontio.co.uk 01248 382666
- Ddiddordeb mewn theatr, cerddoriaeth fyw a ffilmiau - Brwdfrydedd i roi gwasanaeth arbennig o dda i gwsmeriaid - Awydd i ddysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd - Dymuniad i gyfarfod â phobl newydd ac adeiladu eich hyder
Credwn y dylai’r Celfyddydau fod yn gynhwysol ac felly rydym yn annog gwirfoddolwyr o bob cefndir i ymuno â niyr unig ofynion yw eich bod dros 16 oed, yn frwdfrydig, yn gyfeillgar ac yn ddibynadwy. Oes gennych chi ...?

Ionawr – Mai 2023

Catrin Gwilym: ‘Y mae stafell…’

3 Ionawr – 28 Chwefror 2023

Siwrne o grwydro, darganfod a myfyrio. O’r terfyn i gychwyniadau o’r newydd…

Madaraja

13 – 28 Chwefror 2023

Arddangosfa deithiol o waith comisiwn 15 o artistiaid ar draws Cymru a chyfandir Affrica wedi ei chydlynu gan Panel Cynghori Is-Sahara

Mawrth – Mai 2023

Nos Fawrth 7 Chwefror, 7pm

Am Ddim

Digwyddiad newydd, sy’n dod ag artistiaid at ei gilydd yn ein Ciosg Celf gan drafod celf, barddoniaeth a ffurfiau celfyddydol eraill. Rhagor o wybodaeth i ddod dros y misoedd nesaf.

Arddangosfa amlddisgyblaethol wedi ei chydlynu gan Pontio a Phrifysgol Bangor yn cyflwyno safbwyntiau amrywiol ar goed drwy gasgliad o osodiadau creadigol, digwyddiadau gwyddonol a pherfformiadau. Yn cynnwys comisiwn arbennig gan Anthony Morris a phreswyliad gan Utopias Bach.

CELF
CYMERWCH GIP AR EIN HARDDANGOSFEYDD YN Y GWANWYN

GWYBODAETH GYFFREDINOL

Archebion Grŵp

Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28.

Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www. pontio.co.uk/online/article/ termsandconditions

Tâl Postio

Codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post. Ni allwch ofyn

hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref.

Teuluoedd

Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed, oni nodir yn wahanol.

Gostyngiadau

cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim.

Cerdyn Hynt

Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun.

Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am

G a r d d F o t a n e g T r e b o r t h B a n g o r , G w y n e d d , L L 5 7 2 R Q w w w t r e b o r t h b a n g o r a c u k t r e b o r t h @ b a n g o r a c u k 0 1 2 4 8 3 5 3 3 9 8 C Y S Y L L T W C H Â N I Adnodd ar gyfer dysgu ymchwil addysgu r cyhoedd a mwynhad Mae gan Ardd Fotaneg Treborth gwlâu planhigion glaswelltir sy ’ n doreithiog mewn rhywogaethau, pyllau, gardd goed, gardd Tsieineaidd choedir hynafol a chynefin creigiog ar lannau’ r Fenai Mae chwech tŷ gwydr yn cynnig awyrgylch arbenigol ar gyfer casgliadau planhigion trofannol a thymherus tegeirianau a phlanhigion cigysol Rydym yn trefnu sgyrsiau sêl planhigion gweithdai arbenigol, crefftau (a mwy!) yn rheolaidd
gwirfoddoli rheolaidd
Mercher
Sesiynau
phob dydd
a dydd Gwener
DIDDORDEB MEWN GWIRFODDOLI?

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.