Pontio, Bangor Rhaglen Ionawr i Ebrill 2018

Page 1

Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Bangor

COPI AM DDIM

Rhaglen Artistig Ionawr – Ebrill 2018 1


Croeso i Pontio Oriau Agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am-11.00pm Dydd Sul 12.00pm-8.00pm Ewch i pontio.co.uk neu holwch y Swyddfa Docynnau am oriau agor Pasg Tocynnau Ar-lein www.pontio.co.uk 01248 38 28 28 Ymholiadau: info@pontio.co.uk Ciosg Copa Lefel 5 Llun, Mawrth, Iau a Gwener 8.30am-5.30pm Mercher 8.30am-2.00pm

Caffi Cegin Lefel 3 Llun-Sadwrn 8.30am-6.00pm Ar gau ddydd Sul Bwyty Gorad Lefel 2 Llun – Sadwrn 8.30am – archeb bwyd olaf 8pm Sul 12.00pm – archeb bwyd olaf 6pm Bar Ffynnon Lefel 0 Llun - Sadwrn 11am-9.00pm (ar agor tan 11pm yn ystod perfformiadau nos) Sul 12.00pm- 6.00pm

Llinellau ffôn: 01248 38 28 28 Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10.00am-8.30pm Sul 12.00pm-6.00pm Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf ar www.pontio.co.uk @TrydarPontio PontioBangor pontio_bangor PontioBangor

Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, neu fersiwn glywedol, cysylltwch â ni ar 01248 388 421

Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu Rhif elusen gofrestredig: 1141565

Cynllun Seddi Theatr Bryn Terfel

llwyfan

d— dd— e— f— ff— g— ng— h— l— ll— m— balconi lefel 1 1a— 1b— balconi lefel 2 2a— 2b—

2

2ch—

c— ch—

1dd— 1d—

r— ph—

n— p—

2c—

1c— 1ch—

a— b—


Cipolwg Pontio Ionawr – Ebrill 2018 Ionawr Sadwrn 6 Sadwrn 6 Sul 13 Mawrth 16 Mercher 17 Iau 18 Gwener 19 Sadwrn 20 Sadwrn 20 Sul 21 Iau 25 Gwener 26 Sadwrn 27 Sadwrn 27 Chwefror Sadwrn 3 Mawrth 6 Iau 8 Sadwrn 10 Sul 11 Mercher 14 Gwener 16 Sadwrn 17 Sul 18 Mawrth 20 Mercher 21 Iau 22 Iau 22 Gwener 23 Sadwrn 24 Sadwrn 24 Mawrth Iau 1 Sadwrn 3 a Sul 4

Amser 1pm, 4pm 7.30pm 6.30pm 7.30pm (Rhagddangosiad) 7.30pm 7.30pm 7.30pm 11.30am - 1pm 7.30pm 2pm 8pm 8pm 11.30am a 2.30pm 8pm

Gweithdai Syrcas Sadwrn Blwyddyn Newydd yn Fienna Digwyddiad i Rannu Gwaith ar y Gweill: Drudwen Relentless Unstoppable Human Machine (RUHM) Relentless Unstoppable Human Machine (RUHM) Relentless Unstoppable Human Machine (RUHM) Relentless Unstoppable Human Machine (RUHM) Gweithdy Awyrol Relentless Unstoppable Human Machine (RUHM) Relentless Unstoppable Human Machine (RUHM) Y Clwb Comedi Cabaret Pontio: Elephant Sessions Teulu Pontio Family: Tom Thumb Crys a Maffia Mr Huws gyda DJ Rhys Mwyn

Tud. 4 7 5 10 10 10 10 11 10 10 13 15 16 17

Drwy'r dydd 10.30am a 7.30pm 7.30pm 7pm 2.30pm 8pm Drwy'r dydd Drwy'r dydd Drwy'r dydd 8pm 7.30pm (Rhagddangosiad) 8pm 7.30pm 2pm a 7.30pm 10.30am a 12.30pm 8pm

Gŵyl Gerdd Bangor 2018 2071 Syr Bryn Terfel a Hannah Stone Beauty and the Beast Beauty and the Beast Sophie Willan: Branded Gŵyl Cymru-Tsieina Gŵyl Cymru-Tsieina Gŵyl Cymru-Tsieina The Ensemble of St Luke’s Y Tad Theatr Genedlaethol Cymru Y Clwb Comedi Y Tad Theatr Genedlaethol Cymru Y Tad Theatr Genedlaethol Cymru Dafydd Iwan: Cwm-Rhyd-y-Rhosyn Mark Steel

18-19 20 21 22 22 23 24-29 24-29 24-29 30 32 31 32 32 33 34 35 36

Iau 8 Gwener 9 Sadwrn 10 Mercher 14 Iau 15 Iau 15 Gwener 16 Gwener 16 Sadwrn 17 Llun 19 Mawrth 20 Iau 22 Gwener 23 Mawrth 27 Mercher 28 Ebrill Mercher 4 Sadwrn 7 Gwener 13 Sadwrn 14 Mercher 18 Mawrth 24 Iau 26 Gwener 27 Sadwrn 28

7.30pm 8pm 7.30pm 1-3pm 1.30pm a 6.30pm 8pm 8pm 7.30pm 11.30am a 2.30pm 7.30pm 7pm 8pm 7.30pm 11.30pm - 2pm 10.30am, 12.30pm, 2.30pm

Cân i Gymru 2018 The BBC Songs of Praise Young Choir of the Year Competition 2018 Eugene Onegin Mid Wales Opera Cabaret Pontio: Chouk Bwa Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Yng Ngolau'r Lleuad Ŵy, Chips a Nain Kiri Pritchard McLean: Appropriate Adult Dr John Cooper Clarke gyda gwesteion arbennig Haydn a Mozart gyda Rachel Podger Teulu Pontio Family: Tacluso Cerddi o Bellter Cyngerdd Pen-blwydd Codi’r To yn 4 oed Y Clwb Comedi High School Musical Disgo Trac Sain Antur Bwni Basg Pontio!

37 38 39 40 41 42 43 44 45 46 47 48 49 52 52

11.30am - 2pm 11.30am a 2.30pm 7.30pm 8pm 8pm 7.30pm 8pm 8pm 8pm

Disgo Trac Sain Teulu Pontio Family: A Tiger's Tale RLPO: The Power of Love Colorama, Plu, Bendith Jon Boden – The Afterglow Tour Terra Firma Y Clwb Comedi Cabaret Pontio: TOKO TELO Shappi Khorsandi Mistress and Misfit

52 53 54 55 56 57 58 59 60

1


Cinio Swper Cyn y theatr Bydd bwydlen newydd cyn y theatr ar gael ar ddechrau 2018 Ar ben ein bwydlen arferol, bydd ein bwrdd wythnosol o brydau arbennig yn arddangos cynnyrch y tymor.

Pontio lefel 2

Bagels, cacennau, wafflau cartref a mwy Pontio lefel 3

Am amseroedd agor a bwydlenni, ewch i www.pontio.co.uk 2


Croeso i dymor newydd Pontio Wrth i ni droi’n golygon at flwyddyn newydd, rydym yn cyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau fydd yn eich ysgwyd, eich deffro ac yn sicr o’ch bywiogi. Edrychwn ymlaen at rediad arbennig o RUHM, sioe newydd a syfrdanol cwmni sy’n ffefryn yma yn Pontio - y mentrus a’r gwirion Pirates of the Carabina; cynhyrchiad newydd Theatr Genedlaethol Cymru Y Tad, sy’n agor taith o Gymru yma yn Pontio; ein Gŵyl Cymru/ Tsieina mewn partneriaeth â’n cwmni theatr cyswllt Invertigo; a pherfformiad cyntaf Syr Bryn Terfel yn y theatr o’i enw.

Bydd ail lansiad o’n Clwb Comedi – mewn partneriaeth â’r bobl y tu ôl i Ŵyl Gomedi lwyddiannus Machynlleth, ac fe groesawn Gerddorfa Frenhinol Ffilharmonig Lerpwl yn ôl atom. Bydd gweithgareddau Teulu Pontio, Cabaret misol, a Gŵyl Gerdd Bangor yn britho’r rhaglen – ynghyd â dangosiadau amrywiol ac amgen o ffilmiau a darllediadau byw yn yr

3

unig sinema ym Mangor – a gweithdai drama wythnosol i bobl ifanc yr ardal, yn cynnig BLAS o’r hyn sydd gan y celfyddydau perfformio i’w gynnig. Dewch, ymunwch â ni, profwch gelfyddydau ac adloniant i bawb! Elen ap Robert Cyfarwyddwr Artistig Pontio


Syrcas Music

Dydd Sadwrn 6 Ionawr 1pm 8-16 oed 4pm 16+ oed Cimera

Gweithdai Syrcas Sadwrn Sgiliau awyr a sgiliau syrcas i ddechreuwyr Stiwdio £3 Mae croeso i bawb ddod i roi cynnig ar ddysgu sgiliau syrcas. Dewch i ymarfer eich symudiadau a dysgu rhai newydd! Rhowch gynnig ar y cylchoedd awyr

a'r trapîs, dysgwch jyglo, cadw cydbwysedd a throelli platiau. Perfformwyr lleol o gwmni theatr syrcas Cimera sy'n arwain y gweithdai.

4


Nos Sadwrn 13 Ionawr 6.30pm Cimera

Digwyddiad i Rannu Gwaith ar y Gweill: Drudwen Stiwdio £3 Mae Cimera wedi bod yn gweithio yn Theatr Stiwdio Pontio yn datblygu sioe deithiol newydd o’r enw Drudwen. Chwedl dywyll yw Drudwen am ddewines sy'n achub efeilliaid a gafodd eu gadael yn y goedwig. Stori ydyw am ddewisiadau a chanlyniadau wedi ei mynegi trwy syrcas, y gair

llafar, theatr gorfforol, cerddoriaeth, comedi a phypedau. Caiff ei pherfformio yn ddwyieithog. Digwyddiad i rannu gwaith ar y gweill yw hwn a byddem wrth ein boddau pe gallai'r gynulleidfa aros i roi sylwadau i ni ar ôl y cyflwyniad.

5

Ysgrifennwyd gan Kate Driver Jones, Cyfarwyddwyd gan Sarah Davey Hull Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Creu Cymru a Pontio Canllaw oed - dros 7 oed Hyd 1 awr Taith gyffwrdd ar gael am 6pm, cystyllwch am fwy o wybodaeth.


Adnodd ar gyfer dysgu, ymchwil, addysgu’r cyhoedd a mwynhad.

Sesiynau gwirfoddoli rheolaidd pob dydd Mercher a dydd Gwener

Mae gan Ardd Fotaneg Treborth wlâu planhigion, glaswelltir sy’n doreithiog mewn rhywogaethau, pyllau, gardd goed, gardd Tsieineaidd, choetir hynafol a chynefin creigiog ar lannau’r Fenai. Mae chwech tŷ gwydr yn cynnig awyrgylch arbenigol ar gyfer casgliadau planhigion trofannol a thymherus, tegeirianau a phlanhigion cigysol.

DIDDORDEB MEWN GWIRFODDOLI? CYSYLLTWCH Â NI Gardd Fotaneg Treborth Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ www.treborth.bangor.ac.uk treborth@bangor.ac.uk 01248 353398

Rydym yn trefnu sgyrsiau, sêl planhigion, gweithdai arbenigol, crefftau (a mwy!) yn rheolaidd.

Archebwch eich diodydd ymlaen llaw i'w mwynhau yn ystod yr egwyl. Bwyd a Diod 6

Food & Drink


Nos Sadwrn 6 Ionawr 7.30pm Cerddorfa WNO

Blwyddyn Newydd yn Fienna Neuadd Prichard-Jones £18.50/£17.50 gostyngiadau/£7.50 myfyrwyr* yn cynnwys gwydraid o Prosecco £16.00/£15.00 gostyngiadau/£5.00 myfyrwyr heb wydraid o Prosecco *bydd angen cerdyn adnabod

Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru Cyflwynir a chyfarwyddir gan David Adams ar y ffidil Unawdydd Corn: Angus West Yn dilyn llwyddiant y cyngerdd hwn yn 2017 mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i Fangor gan barhau gyda’r berthynas bwysig â chanolfan Pontio. Neuadd Prichard-Jones yw’r lleoliad ar gyfer y Cyngerdd Calan traddodiadol eleni. Unwaith eto, byddwn yn

gadael yr arweinydd ar ôl a bydd y cerddorion a’r gynulleidfa yn dod ynghyd dan arweiniad David Adams, meistr cyngerdd y gerddorfa. Mae’r cyngerdd yn cynnwys un o weithiau enwocaf Mozart, Concerto Rhif 4 i’r Corn. Ynghyd â’r gerddoriaeth arbennig hon, bydd Neuadd ‘PJ’ yn cael ei llenwi gan sain rhai o’r waltsiau a’r polcas enwocaf o neuaddau dawns Fienna. Bydd y gwaith agoriadol, sef yr agorawd hyfryd i Der Freischutz gan Weber, yn 7

ddechreuad gwych i’r noson. Yn ystod yr ail hanner cawn ein swyno gan ein hoff waltsiau fel Wine, Women and Song, The Blue Danube a Gold and Silver, ynghyd â’r polcas Tritsch-Tratsch, Thunder and Lightning a Champagne a Radetsky March, a rhai gweithiau llai cyfarwydd. Fel arfer mae’r cyfan yn sicr o godi calon ar ddiwedd tymor y Nadolig…a gallwch ddisgwyl ambell sypreis yn ystod yr egwyl!


BARGEN FWYD

SINEMA

@

Pob Dydd Mercher *Ac eithrio rhai perfformiadau gweler gwefan am fanylion

TOCYN SINEMA

£10

TOCYN SINEMA

£15 :

bu I arche

Prif gwrs plentyn + diod feddal + popcorn Pitsa 10” + diod* (*naill ai gwydraid o win tŷ, potel o gwrw neu ddiod feddal)

Archebu ar lein www.pontio.co.uk Ffoniwch neu ewch i’n swyddfa docynnau ar 01248 382828 8

pontio.co.uk


Darllediadau byw i ddod yn Sinema Pontio…

ROH LIVE: Rigoletto Ionawr 16

ROH LIVE: Tosca Chwefror 7

NTLIVE: Cat on a Hot Tin Roof Chwefror 22

ROH LIVE: Winter’s Tale Chwefror 28

ROH LIVE: Carmen Mawrth 6

sinema cinema

NT LIVE: Julius Caesar Mawrth 22

ROH LIVE: Bernstein Centenary Mawrth 27

Oscar Wilde LIVE: Lady Windermere’s Fan Mawrth 20

Gweler y daflen sinema fisol am fanylion dangosiadau byw eraill nad ydynt wedi eu cyhoeddi eto a rhestr sinema lawn, neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01248938 28 28

ROH LIVE: Macbeth Ebrill 4


Syrcas

Ionawr 16 (Rhagddangosiad), 7.30pm Ionawr 17-20, 7.30pm Dydd Sul 21 Ionawr, 2pm Pirates of the Carabina yn cyflwyno

Relentless Unstoppable Human Machine (RUHM) Theatr Bryn Terfel Rhagddangosiad £14/£12 dros 60/£8 myfyrwyr a dan 18 £16/£14 dros 60/£10.50 myfyrwyr a dan 18 Cyfres arbennig o berfformiadau'r sioe syrcas fecanyddol newydd sbon gan wneuthurwyr FLOWN, cyn iddynt symud ymlaen i'r Roundhouse yn Llundain. Mentrwch i fyd o anrhefn mecanyddol, lle mae gan bopeth ei feddwl ei hun a chysylltiadau'n ymddangos mewn ffyrdd annisgwyl. Dyma sioe anarchaidd a gwefreiddiol fydd yn rhoi pleser digymysg

i chi gyda'i set hynod glyfar a cherddoriaeth fyw wreiddiol. Mae Relentless Unstoppable Human Machine (RUHM) yn treiddio'n ddewr i ddychymyg rhyfedd a rhyfeddol dau acrobat sy'n perfformio wrth ochr ei gilydd. Wrth i'r holl gelfi, gosodiadau a ffitiadau ddod yn fyw, mae ein harwyr yn dechrau cwestiynu lle maen nhw'n ffitio i'r cyfan ac maent yn mynd ati i addrefnu cydrannau eu byd. 10

Gyda thrapîs sy'n siglo'n fertigol, rhaffau di-ddiwedd, carwsél sy'n troelli, gwifren uchel a grisiau hynod anodd eu trin, mae RUHM yn ddameg chwareus, ddoniol, fodernaidd am amser, technoleg a'r grymoedd sy'n ein gyrru. Datblygwyd gyda chefnogaeth gan Pontio, Bangor, Roundhouse, Llundain, Ffwrnes, Llanelli a Chynghorau Celfyddydau Lloegr a Chymru.


Rhowch gynnig ar hedfan! Gweithdy Awyrol Arbennig! Sadwrn 20 Ionawr, 11.30am-1pm Theatr Bryn Terfel £12 Ar agor i bawb o 7-70. Cyfle i ddysgu triciau a siapiau syml yn yr awyr ar y Cylch a Sidanau Awyrol a phrofi’r wefr o hedfan! Dewch i gael hwyl, ennyn hyder, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau wrth brofi hwyl y syrcas.

Addas i bawb gan gynnwys plant, rhieni, neiniau a theidiau a phobl o wahanol allu. Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael felly archebwch yn fuan

11


Pontio Tocyn anrheg Anrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur Gydag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar gael yn Pontio, o ddrama i syrcas, cerddoriaeth byd a gigs i bale, panto, ffilm a mwy, prynwch docyn anrheg am £10, £20 neu £50.

Gallwch archebu oddi ar ein gwefan, pontio.co.uk, dros y ffôn ar 01248 38 28 28 neu ewch draw i’n Swyddfa Docynnau – bydd rhywbeth at ddant bawb.

Pryd Clwb Comedi

Byrgyr a Chwrw*

£10

Ar gael i bob digwyddiad Clwb Comedi

*Neu wydriad 175ml o win tŷ neu ddiod ysgafn Byrgyr llysieuol ar gael

I archebu: 01248 383826 bwydabar@pontio.co.uk 12

Bwyd a Diod Food & Drink


13


sinema cinema

Sinema i bawb yng nghanol Bangor

1 Sgrin 7 diwrnod yr wythnos 3D 70 dangosiad y mis 15 ffilm newydd y mis 1 llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr fyw Cyhoeddir rhaglen Sinema Pontio ar-lein a thrwy raglen fisol a ddosberthir yn lleol ac yn y ganolfan. I dderbyn bwletinau e-bost wythnosol, crëwch gyfrif ar-lein yn www.pontio.co.uk gan roi tic wrth ymyl ‘Sinema’ yn y categori diddordebau. Dilynwch y newyddion ffilm diweddaraf ar Trydar @sinemapontio

14

Archebwch ar pontio.co.uk 01248 38 28 28


Nos Wener 26 Ionawr 8pm Cabaret Pontio yn cyflwyno

Elephant Sessions Theatr Bryn Terfel £14/£13 gostyngiadau Yn ddiweddar, cafodd Elephant Sessions eu henwebu yng nghategori perfformiad byw'r flwyddyn yng ngwobrau MG Alba Scots Trad Music Awards 2016. Mae'r grŵp yn cyfuno dylanwadau gwerin a thraddodiadol gyda ffync, roc ac electronica gan gynhyrchu cyfuniad blaengar a chyfareddol.

Mewn mater o rai blynyddoedd yn unig, mae'r grŵp wedi dod yn enwog am gyflwyno sioeau byw gwefreiddiol, gan ymddangos yn Glastonbury ac yn Tønder yn Nenmarc, a gwerthu pob tocyn yn Celtic Connections 2017, a chyflwyno cyfres o 18 sioe yn y Showcase Scotland expo yn Lorient yn 2017, lle llwyddon nhw i dorri’r llawr. Ddwywaith! 15

"These Scots are using their instruments to destroy clichés. We love them!" Rolling Stone Magazine

"Absolutely Superb" Chris Hawkins, BBC Radio 6

"Almost definitely the gig of the festival [Celtic Connections]" Ticketmaster


Teulu

Dydd Sadwrn 27 Ionawr 11.30am a 2.30pm

teulu

Lyngo Theatre

family

Tom Thumb

Gweithdy celf AM DDIM gyda Luned Rhys Parri yn dilyn pob sioe

Stiwdio £6/£20 Tocyn Teulu a Chyfeillion (4 o bobl, o leiaf un o dan 18) Sioe gan MARCELLO CHIARENZA Wedi ei haddasu a'i pherfformio gan PATRICK LYNCH Cerddoriaeth wreiddiol gan CARLO CIALDO CAPELLI Cyfarwyddwr Cynorthwyol GIANNI BISSACA Cynorthwywr dylunio ELENA MARINI

Un noson mae Tom yn digwydd clywed ei fam a'i dad yn siarad - does yna ddim byd ar ôl i'w fwyta felly maent yn mynd i'w adael yntau a'i chwech o frodyr yn y goedwig! Mae Tom yn fwy cyfrwys na'i rieni a'r cawr ac yn dangos i bawb, er ei fod yn fach, ei fod yn dal yn nerthol wrth iddo ddiogelu ei frodyr, dod o hyd i'r trysor a gwneud yn siŵr na fyddant byth yn llwgu

16

eto. Caiff y sioe ryfeddol hon ei pherfformio'n gyfan gwbl ar fwrdd cegin, ac oddi tano, ac mae'n llawn o hud Lyngo gydag adar pluog yn troelli, tŷ sy'n hedfan a choedwig y gellir ei chludo. Mae'r cyflwynydd Cbeebies, Patrick Lynch, sydd wedi bod yn ei pherfformio am fwy na degawd, yn dod â'r stori glasurol yn fyw mewn sioe chwareus, ddifyr. Oedran 3+


Cerddoriaeth Family

Nos Sadwrn 27 Ionawr 8pm

Crys a Maffia Mr Huws gyda DJ Rhys Mwyn Theatr Bryn Terfel £10/£8 gostyngiadau Hir yw pob ymaros ond ar ôl alltudiaeth o 12 mlynedd mae’r band roc trwm Crys yn dychwelyd i Ogledd Cymru a Bangor gan ail lawnsio fersiwn newydd o’r gân ‘Lan yn y Gogledd’. Yn ymuno â nhw mae un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru a hogia lleol, yr howgets enwog, Maffia Mr Huws! Mae’n argoeli i fod

yn noson werth chweil o bendoncio a hel atgofion trwy gerddoriaeth wych caneuon cofiadwy. Cyfle i’r to ifanc newydd glywed 2 o fandiau mawr Cymru yn chwarae’n fyw unwaith yn rhagor! Ydych chi yn rhan o’n gêm bach ni? 16+ Gig sefyll 17


Cerddoriaeth

Dydd Sadwrn, 3 Chwefror Drwy’r Dydd

Gŵyl Gerdd Bangor 2018 Thema: GOFOD Bydd Gŵyl Gerdd Bangor yn gyfle i archwilio gofod, planedau, sêr a galaethau drwy gyfrwng cerddoriaeth a gwyddoniaeth a fydd yn ysbrydoliaeth i’r teulu cyfan. Caiff Cerddoriaeth y Bydysawd seinio yng nghyngerdd y pianydd a’r cyfansoddwr amryddawn Zubin Kanga, sy’n cynnwys comisiynau newydd gan Maja Palser a Claire Victoria Roberts, ynghyd â darnau eiconig gan George Crumb a Patrick Nunn. Yn Theatr Bryn Terfel a than arweiniad Scott Wilson bydd data gwyddonol o Wrthdrawydd Hadron yn sail i greu synau electronic byw yng nghyngerdd Electroacwsteg CYMRU ac Ymchwil Electroacwstig Ensemble Birmingham (BEER), ynghyd â cherddoriaeth acwsmatig gan Jo Thomas a chomisiwn newydd gan Ed Wright. Drwy gydol y diwrnod cynhelir y digwyddiadau eraill o fewn gwahanol leoliadau yn Pontio, gyda chyfle i brofi y Planetariwm, cerddoriaeth i’r ieuengaf ohonom gyda Marie-Claire Howorth a chreu synau electronig oddi ar wefan BEER. Cawn ein cyfareddu gan gyfansoddiadau myfyrwyr a berfformir gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor a chaiff offerynwyr lleol gyfle i fyr fyfyrio dan arweiniad Ensemble Fusion Prifysgol Bangor. Ceir digwyddiadau eraill megis dosbarth meistr piano a syllu ar y sêr ar y nos Wener. 18


Cerddoriaeth

PRIF GYNGHERDDAU

DIGWYDDIADAU AM DDIM

www.gwylgerddbangor.org.uk

www.gwylgerddbangor.org.uk

* Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ewch i

* Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ewch i

02/02/2018

02/02/2018

Dosbarth Meistr Piano * Zubin Kanga (piano) (mewn cydweithrediad â CGWM, GYWM a PB) Neuadd Mathias, Ysgol Cerddoriaeth, PB 4pm £15 cyfranogwyr/£3 arsylwyr

Profiad Syllu Sêr Bangor * Ymgynnull yng Nghyntedd Ysgol Cerddoriaeth 6.30-8pm/ 8-9.30pm/ 9.30-11pm

03/02/2018 The Music of the Spheres Zubin Kanga (piano) Stiwdio 1pm £12/£10/£5 myfyrwyr a dan 18 Dark Matter BEER + Electroacwstig CYMRU Theatr Bryn Terfel 7.30pm £15/£12/£5 myfyrwyr a dan 18

03/02/2018 Camau Nesaf Cerdd * gyda Marie-Claire Howorth (addas ar gyfer plant 4 i 7 oed, gyda goruchwyliaeth rhiant/gwarcheidwad) Lefel 0 10-11am/11am-12pm Digwyddiad Planetariwm * (addas ar gyfer oedran 10 i fyny) Ystafell Cemlyn Jones, Lefel 2 10am-12pm - Pob hanner awr 12.00pm Great Equatorial (David Bedford) Mannau cyhoeddus Pontio Moon Ensemble Fusion Prifysgol Bangor Bar Ffynnon 14.15pm Sesiwn A) Gweithdy Dark Matter * Ystafell Cemlyn Jones, Lefel 2 Sesiwn B) Byr fyfyrio Cerddorol Bar Ffynnon 3-4pm/4-5pm Orbit Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor Lefel 2 5pm Sgwrs cyn y cyngerdd a Derbyniad yr Ŵyl * Ystafell Cemlyn Jones, Lefel 2 6pm 19


Digwyddiad

Dydd Mawrth 6 Chwefror 10.30am a 7.30pm Cwmni Pendraw

2071 Prosiect Amgylcheddol Stiwdio £10/£8 myfyrwyr a rhai dan 18 Cynhyrchiad sy'n cwmpasu materion amgylcheddol llosg yr oes - llygredd awyr, gwastraff plastig, colli rhywogaethau, dadgoedwigo, diflaniad gwenyn ac wrth gwrs newid hinsawdd. Sioe lawn caneuon, cerddoriaeth, geiriau dramatig a delweddau fideo.

Y tîm creadigol yw Wyn Bowen Harries (Actor), Angharad Jenkins (Cerddor Calan), Gwilym Bowen Rhys (Cerddor - Plu) a Sion Eirwyn Richards (Fideo). Pam 2071 - "yn y flwyddyn honno bydd wyres yr Athro Chris Rapley, y gwyddonydd newid hinsawdd enwog, yr un oed ag yw ef heddiw. Sut fyd fydd o'i blaen?" 20

Wedi ei anelu at Flwyddyn 8 ac uwch Ffoniwch 01248 38 38 29 i drafod gostyngiad grŵp


Nos Iau 8 Chwefror, 2018 7.30pm Canolfan Gerdd William Mathias, Pontio a Phrifysgol Bangor yn cyflwyno Cyngerdd Lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru IV

Syr Bryn Terfel a Hannah Stone Theatr Bryn Terfel £40 Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Syr Bryn Terfel yn canu am y tro cyntaf yn Theatr Bryn Terfel, Pontio i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru IV ar yr union ddiwrnod y bydd Llywydd yr Ŵyl, Dr Osian Ellis CBE, yn dathlu ei benblwydd yn 90 oed.

Bydd Syr Bryn Terfel a’r delynores Hannah Stone yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf o Gylch o Ganeuon Gwerin gan Osian Ellis. Yn perfformio hefyd bydd nifer o gyn-fyfyrwyr Canolfan Gerdd William Mathias a enillodd Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel.

21

www.gwyltelyncymru.co.uk Bydd y tocynnau ar werth o 10am ar 10/10/2017 o swyddfa docynnau Pontio neu ar-lein o pontio.co.uk. MAE TOCYNNAU I’R DIGWYDDIAD HWN I GYD WEDI EU GWERTHU


Dawns

Nos Sadwrn 10 Chwefror, 7pm Dydd Sul 11 Chwefror, 2.30pm Ysgol Ddawns a Chanolfan Celfyddydau Perfformio Gwynedd

Beauty and the Beast Theatr Bryn Terfel £13 oedolion /£11 plant Mae Ysgol Ddawns a Chanolfan Celfyddydau Perfformio Gwynedd yn falch o fod yn ôl yn Pontio ym mlwyddyn dathlu eu pen-blwydd yn 20 oed, gyda pherfformiad pantomeim gwefreiddiol o hoff stori pawb 'Beauty and the Beast'. Fel bob amser, bydd myfyrwyr y Ganolfan Celfyddydau

Perfformio leol hon, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn defnyddio eu doniau amrywiol mewn sioe y bydd pawb yn ei mwynhau. Ceir canu, dawnsio ac actio gan ddisgyblion mor ifanc a blwydd oed i oedolion yn eu 70au ... sy'n profi nad ydych byth rhy ifanc na rhy hen i berfformio! 22

Gyda'u côr oedolion eu hunain, BanCôr, yn ymuno yn eu perfformiad eleni, mae'r gynulleidfa'n sicr o gael gwledd. Dewch i fwynhau penwythnos gwych o hwyl a sbri stori dylwyth teg gyda diwedd hapus iddi yn ôl yr arfer!


Nos Fercher 14 Chwefror 8pm

Enwebwyd am y sioe orau yng N gwobrau Comedi Cae redin 2017

Soho Theatre mewn cydweithrediad â UTC Artist Management yn cyflwyno

Sophie Willan: Branded Stiwdio £12/£10 myfyrwyr a rhai o dan 18 Yn syth o sioe a werthodd allan yng Ngŵyl y 'Fringe' Caeredin, mae'r seren newydd yma sydd wedi ennill gwobrau lu yn mynd ar daith! Mae Sophie Willan wedi cael ei brandio gan eraill gydol ei hoes. Yn ei sioe newydd lwyddiannus, mae'r seren hynod onest yma'n

dychwelyd i ddweud 'pam' wrthym ni. Disgwyliwch awr arw na welwyd ei thebyg o'r blaen gan y ferch llawn egni hon na fydd yn ymddiheuro am unrhyw beth. Fel y'i gwelwyd ar As Yet Untitled (Dave) ac fel y'i clywyd ar BBC Radio 4.

"Entertaining and inspiring… perfectly structured with a rare sensitivity and intelligence” The Times

"one of the best I’ve ever seen at the Fringe at any time in the last two decades” The New European

23

Comisiynwyd gan Contact Canllaw oed: 16+


Gwˆ yl Cymru-Tsieina 16-18 Chwefror 2018 Dathlwch y Flwyddyn Newydd Tsieinïaidd yn Pontio, Bangor wrth i ni archwilio’r cysylltiad creadigol rhwng Cymru a Tsieina drwy gyfrwng celf a diwylliant arloesol! Ymunwch â ni am benwythnos o arddangos diwylliant, iaith a chelf Cymru a Tsieina drwy gyfrwng dewis eclectig o berfformiadau, ffilmiau a gweithgareddau sy’n addas i’r teulu. Yr ŵyl amlieithog hon yw’r cyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle na welwyd ei debyg o’r blaen i lwyfannu straeon a chydweithrediadau rhwng cerddorion, artistiaid a dramodwyr o Gymru a Tsieina. Yn ogystal â chynhyrchiadau cyffrous a digwyddiadau byw, bydd ein sinema yn dangos nifer o wahanol ffilmiau Tsieinïaidd drwy gydol y penwythnos. Ar y dydd Sadwrn, mwynhewch gerddoriaeth fyw a digwyddiadau yn y cyntedd, a chymerwch ran mewn gweithdai crefft, addas i’r teulu i gyd ac yn rhad ac am ddim. Croeso i Flwyddyn y Ci!

Tocyn Gweld Mwy Arbed eich arian, a gweld mwy! Am £12 cewch fynediad i 2 digwyddiad byw ac 1 ffilm ar Sadwrn 17eg Chwefror. Lluniau gan (o’r chwith i’r dde): Kirsten McTernan, Francesca Rhydderch, Zsuzsa Zicho, Douglas Hook, Confucius Institute.

24


2018年2月16日至18 为迎接中国新年,我们将在Pontio举办一系列最受欢迎 的文化艺术活动。此次活动将探索威尔士与中国间的 文化联系。在这个周末,我们将为大家带来能充分展 现两地文化、语言及艺术特色的演出、电影和亲子活 动。这是威尔士地区首次举办此类活动,多语种的文 化节为威尔士和中国音乐家、剧作家、艺术家提供了 英国与东亚文化交流合作的平台。 除以上作品及现场活动,我们影院将在整个周末播放一系 列中国电影。 星期六,请在门厅欣赏现场音乐和弹窗式活 动,体验家庭友好式工艺间 - 全部免费。 翘首期盼狗年!

invertigotheatre.co.uk

查看更多通票 省錢,看更多! 12英鎊,您可以訪問任何2場現場直播和1部電影。 版权所有: Kirsten McTernan, Francesca Rhydderch, Zsuzsa Zicho, Douglas Hook, Confucius Institute. 25


Dydd Sadwrn, 17 Chwefror

The Rice Paper Diaries

Francesca Rhydderch a Yan Ying Ystafell Cemlyn Jones (Lefel 2), 3-4pm. £5 (Tocyn Gweld Mwy) Hong Kong, 1940. Mae teulu Cymraeg a mamaeth o Tsieina yn cael eu lluchio i ganol cyflafan gwrthdrawiad milwrol. Gan ddogfennu taith y teulu o Tsieina i bentref arfordirol yng Nghymru, mae’n stori deimladwy sy'n dangos effaith rhyfel ar fywydau unigolion. Wedi ei hysbrydoli gan hanes ei theulu, mae Francesca Rhydderch yn darllen o’i nofel arobryn (Llyfr y Flwyddyn Gwobr Ffuglen 2014), ac yn ymuno â hi mae Yan Ying sydd newydd gyhoeddi ei chyfieithiad o’r llyfr i’r Mandarin. Yn dilyn bydd sgwrs am ddigwyddiadau gwir y nofel, storïau traws-gyfandirol, a’r broses o gyfieithu.

Nos Wener, 16 Chwefror

Y Bardd Anfarwol The Gentle Good Theatr Bryn Terfel, 8pm £14/£13 gostyngiad Cyfle prin i glywed The Gentle Good yn perfformio caneuon o’u halbwm arobryn, Y Bardd Anfarwol (Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2014), a grëwyd gan Gareth Bonello mewn chwe wythnos tra’n Chengdu, De Tsieina. Gan blethu synau gwerin Celtaidd a Tsieinïaidd, mae’r perfformiad swynol hwn, sy’n rhan o gyfres Cabaret Pontio, yn dweud hanes bardd Tsieinïaidd o’r 8fed ganrif, Li Bai. Mae’r noson yn dechrau gyda set fer o alawon poblogaidd Tsieinïaidd gan Zining Wang syn chwarae offeryn traddodiadol - Pipa, yna bydd Zining yn ymuno â’r Gentle Good i berfformio caneuon o’r albwm. Cabaret: Cymraeg, Saesneg, Mandarin. 2 awr (gydag egwyl).

Darlleniad: Saesneg a Mandarin. 1 awr.

2月17日,星期六

《米纸日记》 Francesca Rhydderch Yan Ying (艾黎) Cemlyn Jones Lecture Room (Level 2), 3 - 4pm, 5镑(查看更多通票)

PONTIO歌舞表演: 中国/威尔士

1940年的香港,来自威尔士的一家人

节目。温柔之乐:不朽的吟游诗人 。 这是个千载难逢之机来倾听“温柔之乐”表演 他们的获奖专辑歌曲(威尔士2014年度专辑) 。“不朽的吟游诗人”是Gareth Bonello在华南 成都居住的六周期间所创作。这张专辑融合了 中国与凯尔特传统音乐,迷人的表演将八世纪 中国诗人李白的传奇故事娓娓道来。本次晚间 表演从中国音乐人王子凝以中国传统乐器琵琶 的短奏开始,其后子凝将加入“温柔之乐”,表 演专辑中的歌曲。 26

和来自广东农村的保姆深陷战争浩劫。 战争结束了,而战争的创伤难以愈合。 哪怕回到千万里外威尔士的滨海小城, 战争的风云仍在人们的心中奔涌。

Francesca Rhydderch的创作灵感源自家族 的故事,该书获2014年威尔士最佳小说奖。 作者将朗读小说选段,并和译者艾黎、听众 一起讨论故事背后的真实事件和翻译过程。 阅读。英语、普通话

1小时。


Lladron a Llanc

gan Hao Jingfang, addaswyd gan Steffan Donnelly Stiwdio, 7 - 8pm, £5 (Tocyn Gweld Mwy) Mae dau adeiladwr yn ceisio gwneud da lle bo drwg yn y gymdeithas drwy dorri mewn i gartref swyddog llygredig. Mae gan y ddau syniadau gwahanol am beth yw cyfiawnder.

Orlando Warrior Theatr Bryn Terfel. 4.30 - 5.15pm £5 (Tocyn Gweld Mwy) Wedi’i chyflwyno gan House of Absolute, a choreograffi gan Julia Cheng, mae’r ddawns gyfoes unigol hon gyda cherddoriaeth fyw yn archwilio chwedl Mu-Lan fodern. Wrth allanoli ei brwydr fewnol drwy grefft ymladd wu-shu a waaking, mae’r darn yn archwilio dadleoliad a hunaniaeth croesryw gan deithio drwy amser drwy luniau symudol Warrior Poet, gan guddio ymladdwr yang (gwryw) tu ôl i ffurf yin (benyw). Yn dilyn y ddawns bydd sgwrs gyda’r perfformiwr Sam Lu. Dawns: 45 munud.

Orlando Warrior Bryn Terfel 剧场 4.30 - 5.15pm 5镑(查看更多通票)。 由Julia Cheng编舞,House of Absolute表演的 当代独舞作品,随着现场音乐诠释了一个现代 木兰的神话。这部作品通过武术和甩舞表现出 其内心的挣扎,探究错位及混合的身份特征。 男性战士头戴女性面具,通过一位战士诗人画 像的舞动穿越时空。舞蹈之后是与演员Sam Lu 的讨论。 舞蹈。45分钟。

Première rhyngwladol addasiad newydd Steffan Donnelly o ddrama Tsieinïaidd gyfoes Hao Jingfang, Lladron a Llanc – sioe gomedi-trasig sydd â pherthnasedd byd-eang a ddengys anghydraddoldeb a chyfiawnder o fewn y gymdeithas fodern. Hao Jingfang yw'r ferch Asiaidd gyntaf i ennill Gwobr Hugo yn 2016 am ei nofela Folding Beijing, (ac roedd Stephen King yn cystadlu yn ei herbyn!), ac mae hi'n bysur wneud enw iddi ei hun fel awdur Tsieinïaidd o bwys. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, a’r Loteri Genedlaethol. Drama: Cymraeg, gydag is-deitlau Saesneg a Mandarin. 1 awr.

盗贼与少年 郝景芳创作 Steffan Donnelly改编 音响室, 7 - 8pm, 5镑(查看更多通票) 两个建筑工人转业为治安管理员,为寻求 社会正义破窗闯进一间高级顶楼公寓。 这是Steffan Donnelly《盗贼与少年》的首次公 演,该舞台剧改编自郝景芳 原创的中国当代剧 作,反映了当代社会普遍的,因社会不公而引发 的悲喜故事。 郝景芳是中国文坛的一位新星, 也是首位获得雨果奖的亚洲女性(2016年,同 年 竞争者包括斯蒂芬·金)。 由威尔士艺术委员会,威尔士政府及英国国家 乐透提供支持。 歌剧威尔士语,英文和中文字幕 1小时。 27


Celf

Dewch i weld mannau cyhoeddus Pontio a gwaith celf wedi ei greu i ddathlu’r ŵyl gan fyfyrwyr o Gwrs Celf Sylfaen Coleg Menai. Cadwch olwg am waith digidol ar y sgriniau ac am gomisiwn cyntaf ‘Wal Wen’ Pontio – tafluniad digidol graddfa fawr yn ymateb i thema TsieinaCymru (bydd amseroedd y dangosiadau yn cael eu cyhoeddi maes o law).

艺术 探索Pontio的公共空间,领略由Coleg Menai艺术预科课程的学生所创作的庆 祝该节日的艺术作品。 在屏幕上欣赏数 字艺术品,且切莫错过Pontio首个“Wal Wen”(白墙)委员会 – 为威尔士 中国主题举办的大型数字投影(放映时间 函待公布)。

Dawns Ddraig Tsieinïaidd

Cysylltiadau

Bydd ein hail ddiwrnod yn dechrau gyda Dawns Ddraig Tsieinïaidd a grëwyd gan y Confucius Institute - dawns liwgar i groesawu ymwelwyr ar y Dydd Sadwrn.

Stiwdio, 1-5pm, Am ddim Dewch i glywed straeon gan y gymdeithas Cymru-Tsieina leol wrth ymgolli yn y gosodiad sain a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer yr ŵyl gan Wang Minglu, a enillodd y Linbury Prize, a’r dylunydd sain Jethro Cooke.

中国舞龙 活动第二日将进行孔子学院的中国舞龙表 演 – 色彩纷呈迎接各位的莅临。

Gosodiad Sain: Cymraeg, Saesneg, Mandarin Yn dolennu (ailadrodd).

联谊

Prosiect BLAS

音响室,下午1点-5点, 免费 在此沉浸式虚拟音响设备中倾听来自本地 威尔士-华人社区的故事,本设备由获得 林伯里奖的设计人Wang Minglu (王明禄) 以及音响设计人Jethro Cooke 特别制作。 在一片独特的竹木建筑中展现出惊人的音 效故事,连接起威尔士与中国的声音。 音响设备, 威尔士语,英语,汉语 循环播放。 28

Mae theatr ieuenctid Pontio, BLAS, yn creu cyflwyniad ym mannau cyhoeddus Pontio, wedi ei ysbrydoli gan gymeriadau llên gwerin Cymru a Tsieina.

BLAS项目

BLAS青年艺术团将在Pontio公共区域为大 家带来他们的原创表演,该作品基于中国 动物及威尔士民间传说。


Gweithdai Am ddim

Ymunwch â ni ar Lefel 2 ar gyfer gweithdai a digwyddiadau i bob oedran ar themâu Tsienïaidd. Awydd trio caligraffi? Dysgu tai qi? Beth am beintio masg Opera Beijing neu flasu paned mewn seremoni de draddodiadol Tsieinïaidd? Bydd rhywbeth i bawb ar brynhawn Sadwrn 17 Chwefror. Mewn partneriaeth gyda Confucius Institute Prifysgol Bangor: www.bangor.ac.uk/confuciusinstitute.

文化活动 自由 2月17日星期六,参加我们在二层错层对所有 年龄段的人士开放的一系列中国主题的研讨 会和活动。尝试一下古老的书法艺术,体验 一下太极,画一个京剧脸谱,或者参加一个 传统的中国茶道。合作单位:合作单位: 班 戈大学孔子学院 。 www.bangor.ac.uk/confucius-institute

Gorymdaith Blwyddyn Newydd Tsieinïaidd Cloc Mawr Bangor

Sadwrn 24 Chwefror, 12-2pm

Sinema

Mae Gorymdaith Blwyddyn Newydd Tsieinïaidd Bangor yn dychwelyd ar gyfer Blwyddyn y Ci! Dyma arddangosiad egnïol o berfformiadau stryd Tsieinïaidd ar gyfer y teulu i gyd. Gyda pherfformiadau gan fyfyrwyr Ysgol Ein Harglwyddes a chan Confucius Institute Bangor a Southbank yn Llundain.

Bydd manylion rhaglen sinema’r ŵyl yn cael eu cyhoeddi’n fuan. Cadwch olwg am ddewis eang o ffilmiau ysbrydoledig a chyffrous o Tsieina!

春节游行 班戈钟楼

Holl ffilmiau £5

电影 所有電影£5. 我们即将公布艺术节展映影片的排片细节。 各类中国影片及短片将为大家带来全新的体 验和感悟。敬请期待!

2月24日,星期六,12-2pm 一年一度的班戈中国新年狗年游行又回来 了!这是一场充满活力的中国街头表演, 这一多彩的家庭活动不容错过。担纲演出 的是Our Lady学校的小学生,班戈大学孔 子学院及伦敦南岸大学孔子学院。

Mi fydd amseroedd digwyddiadau yn y cyntedd a’r rhaglen sinema ar gael ar-lein ac yn raglen yr ŵyl ym mis Ionawr.

彈出式活動和電影節目的詳細時間將在1 月份上線,並在節日宣傳冊中出現。 29


Cerddoriaeth

Nos Fawrth 20 Chwefror 8pm

The Ensemble of St Luke’s Stiwdio £12/£10 dros 60 / £5 myfyrwyr a rhai dan 18 Rydym yn parhau i ddatblygu ein perthynas gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl yn 2018 ac yn falch o allu cynnwys yr ensemble llai, Ensemble of St Luke’s, yn ein rhaglen. Sefydlwyd 'Ensemble of St Luke' yn 1992, pan fu i grŵp o ffrindiau, pob un yn aelodau o Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, benderfynu perfformio nifer o gyngherddau siambr i godi arian at wahanol elusennau.

Oddi ar hynny, mae wedi mynd o nerth i nerth, gan berfformio'n rheolaidd mewn clybiau a gwyliau cerddoriaeth ar draws Cymru a gogledd Lloegr. Yn 2012 gwahoddwyd yr ensemble i roi cyngerdd arbennig i ddathlu canmlwyddiant Cymdeithas Rodewald, un o'r cymdeithasau cyngherddau cerddoriaeth siambr hynaf yn y byd. Yn Awst 2014, nhw oedd y grŵp siambr cyntaf i'w cynnwys yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Lerpwl. 30

Maent yn hyfforddi'n rheolaidd ym Mhrifysgol Hope Lerpwl a Phrifysgol Lerpwl, gan ymddangos yn aml yng nghyfres gyngherddau'r ddwy brifysgol. Y tymor hwn, mae'r ensemble yn dathlu pum mlynedd ar hugain ers ei sefydlu.


31


Drama

Nos Fercher 21 Chwefror 7.30pm (rhagddangosiad) Nos Iau 22 Chwefror 7.30pm Dydd Gwener 23 Chwefror 2pm a 7.30pm Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Pontio

Y Tad gan Florian Zeller Theatr Bryn Terfel Rhagddangosiad £14/£12 gostyngiadau £15/£13 gostyngiadau Trosiad Cymraeg gan GERAINT LØVGREEN

i’r Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2016.

Cyfarwyddwr ARWEL GRUFFYDD

“Dwi yn ’y nhŷ fy hun, tydw? Yndw? . . . Nach’dw?. . . ’Y nhŷ i ydi hwn, yndê?”

“Mae ’na bethau rhyfedd yn digwydd o’n cwmpas ni. Wyt ti’m ’di sylwi?” Dyma stori ddirdynnol am ŵr sy’n methu â deall yr hyn sy’n digwydd iddo pan fo’i gof yn dadfeilio, a merch sy’n ceisio dygymod â salwch ei thad. Trosiad newydd i’r Gymraeg o Le Père, enillydd Gwobr Molière 2014 am y Ddrama Orau, ac enillydd cystadleuaeth Trosi Drama

Cast yn cynnwys: Dyfan Roberts, Catrin Mara, Dafydd Emyr, Fflur Medi Owen, Rhodri Siôn, Mirain Fflur.

Sgwrs cyn sioe i rai'n dysgu Cymraeg Nos Fercher, 21 Chwefror, 6.30pm Stiwdio

Canllaw oed: 11+

Sgwrs ar ôl y sioe

Gostyngiad grŵp ar gael, holwch y Swyddfa Docynnau.

Dydd Iau, 22 Chwefror Theatr Bryn Terfel

Bydd modd i’r di-Gymraeg ddilyn y perfformiad gydag ap Sibrwd. Manylion: theatr.cymru 32

Mae'r tocynnau AM DDIM ond rhaid eu harchebu ymlaen llaw.


Dydd Sadwrn 24 Chwefror 10.30am a 12.30pm Teulu Pontio Family yn cyflwyno

Dafydd Iwan: Cwm-Rhyd-y-Rhosyn Stiwdio £6/£20 tocyn teulu a chyfeillion (4 o bobl, o leiaf un o dan 18) Croeso i fyd Cwm-Rhyd -y-Rhosyn. Bydd Dafydd Iwan yn cyflwyno sesiwn o hwiangerddi Cymraeg a chaneuon cyfoes o'r gyfres boblogaidd Cwm-Rhyd -y-Rhosyn.

Bydd cyfle i’r plant fynd â thaflen weithgaredd adre efo nhw, gyda siawns i ennill bag o bethau da Pontio! Bydd nwyddau ar werth hefyd.

33


Comedi

Nos Sadwrn 24 Chwefror 8pm Mark Steel

Every Little Thing’s Gonna Be Alright Theatr Bryn Terfel £15 Yr adeg yma’r llynedd, roedd hi’n annhebygol iawn y byddai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd; roedd gennym wrthwynebiad rhesymol i’r Llywodraeth Dorïaidd; ffŵl oedd Donald Trump fyddai’n siŵr o golli i Hilary Clinton ac roedd Mark yn byw bywyd priodasol dedwydd. Flwyddyn yn ddiweddarach ac mae popeth wedi mynd i’r diawl! Ond peidiwch â phoeni oherwydd mae Mark o’r farn: Every Little Thing’s Gonna Be Alright. Datguddiodd sioe Mark Who Do I Think I Am, a werthodd allan, bod ei dad naturiol yn bencampwr byd backgammon. Erbyn hyn, ac yntau’n seren sioe Radio 4, Mark Steel’s in Town ac yn golofnydd papur newydd y

flwyddyn, mae Mark yn ei ôl gyda sioe newydd, sy’n siŵr o wneud y byd yn fwy gwallgof nag ydyw’n barod. Mae Mark wedi ysgrifennu a chyflwyno sawl cyfres o Mark Steel’s In Town ar BBC Radio 4 (bydd cyfres newydd allan yn fuan) ac wedi mynd â’r sioe ar daith o amgylch Prydain. Mae’n wyneb cyson ar Have I Got News For You ar BBC1 a The News Quiz ar Radio 4. Ymddangosodd hefyd ar QI a Room 101 ar BBC2. Mae hefyd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, gan gynnwys: Reasons To Be Cheerful a What’s Going On. Canllaw oed: 14+ (peth iaith gref a themâu oedolion)

34


Drama

Nos Iau 1 Mawrth

Cân i Gymru 2018 Mae’n bleser gan Pontio groesawu cystadleuaeth gyfansoddi enwocaf Cymru i Theatr Bryn Terfel ar Ddydd Gŵyl Dewi. Elin Fflur a Trystan EllisMorris sy’n arwain y noson wrth i’r genedl ddewis pwy

fydd yn ennill tlws Cân i Gymru ynghyd â gwobr ariannol o £5000. Cyfle i chi ymuno yn y pleidleisio a mynegi eich barn ar y rhestr fer o ganeuon fydd yn cael eu perfformio’n fyw.

35

Caiff y digwyddiad ei ddarlledu’n fyw ar S4C. Tocynnau am ddim ar gael o 10am, 15fed Ionawr 2018 o Swyddfa Docynnau Pontio 01248 38 28 28 neu pontio.co.uk


Sadwrn 3 a Sul 4 Mawrth

The BBC Songs of Praise Young Choir of the Year Competition 2018 Cystadleuaeth newydd sbon i gorau ifanc dan 18 mlwydd oed, fydd y cael ei darlledu fel rhan o gyfres Songs of Praise ar BBC One ym Mhrydain. Wedi ei recordio fel digwyddiad byw yn Theatr Bryn Terfel ar y 3ydd a’r 4ydd

o Fawrth 2018, bydd deg côr dethol yn canu emyn o flaen panel o feirniaid adnabyddus, fydd yn dewis y chwech gorau i ganu eto am y tlws a’r teitl “Songs of Praise Young Choir of the Year 2018”.

36

Cyhoeddir manylion am sut i gael mynediad AM DDIM ym mis Ionawr 2018.


Operatif Nos Fercher, 7 Mawrth, 6–7pm Bar Ffynnon AM DDIM

Nos Iau 8 Mawrth 7.30pm Opera Canolbarth Cymru

Eugene Onegin Theatr Bryn Terfel

Bydd unawdwyr Opera Canolbarth Cymru'n ymuno â chantorion addawol lleol, yn cynnwys Kiefer Jones a Morgana Warren-Jones, i berfformio darnau operatig yn lleoliad anffurfiol Bar Ffynnon ar Lefel 0.

£19/£18 dros 60 /£10 myfyrwyr a rhai dan 18 Mae Eugene Onegin yn cyfuno stori rymus a thorcalonnus Pushkin gyda thelynegiaeth ysgubol Tchaikovsky mewn ymchwiliad trawiadol i themâu cariad, marwolaeth, bywyd a chonfensiwn. Mae'r stori deimladwy hon yn cyferbynnu symlrwydd bywyd cefn gwlad gydag

anghymedroldeb soffistigedig llys Rwsia cyn y chwyldro ac yn dweud hanes y garwriaeth ofer rhwng Tatyana ddiniwed a'r sinig Onegin, sydd wedi diflasu ar fywyd. Mae'n llawn o arias syfrdanol, yn cynnwys golygfa fawreddog llythyr Tatyana, un o orchestion repertoire sopranos.

37

Ceir cast gwych sy'n cynnwys sêr newydd a pherfformwyr o fri rhyngwladol. Dan arweiniad Cyfarwyddwyr Artistig Opera Canolbarth Cymru, Richard Studer a Jonathan Lyness, a chyfeiliant rhagorol Ensemble Cymru, bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn sicr o gyffwrdd a chyfareddu cynulleidfaoedd.


Nos Wener 9 Mawrth 8pm Making Tracks yn cyflwyno

Chouk Bwa Drymiau, barddoniaeth a pherlewyg o gefn gwlad vodou Haiti Theatr Bryn Terfel £14/£13 gostyngiadau Ensemble Mizik Rasin ('cerddoriaeth wreiddiau') draddodiadol o Haiti yw Chouk Bwa ac maent yn cyflwyno hanfod Vodou Haitïaidd heb unrhyw ffrils diangen. Mae eu cerddoriaeth yn codi'n donnau o offerynnau taro, lleisiau a dawns gan

gyfleu cyffro'r foment a dim byd ond llawenydd unigryw y naturioldeb hwn y maent yn ei rannu â'i gilydd ac â'r gynulleidfa. Gyda gwreiddiau dwfn yn nefodau crefyddol Vodún Gorllewin Affrica, mae eu repertoire yn gyfuniad o ganeuon traddodiadol

38

a chyfansoddiadau gan y prif leisydd a'r bardd Jean-Claude 'Sambaton' Dorvil. Mae grym dathliadol eu sain eisoes wedi tanio cynulleidfaoedd mewn gwyliau o bwys ledled y byd, yn cynnwys Roskilde, WOMAD ac Amsterdam Roots.


Nos Sadwrn 10 Mawrth 7.30pm

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Theatr Bryn Terfel £12/£10 dros 60 / £5 myfyrwyr a dan 18 Chris Collins a Graeme Cotterill (arweinyddion) Grace Williams: Ballads Sibelius: Symffoni Rhif 6

Mae Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol yn cyflwyno cyngerdd o gerddoriaeth atmosfferaidd, yn cynnwys dau gampwaith na chânt eu perfformio'n aml. Disgrifiodd Grace Williams, y cyfansoddwr o Gymru, ei chyfres gerddorfaol Ballads fel 'synthesis of medieval Welsh laments, proclamations, feasts and 39

combat’. Mae Symffoni Rhif Chwech Sibelius yn deffro atgof am orffennol digyfnewid tebyg, mae ei seinwedd yn dwyn harddwch y Ffindir a lliwiau'r goleuadau gogleddol i gof. Yn y cyngerdd hefyd ceir perfformiad concerto gan enillydd cystadleuaeth flynyddol yr Ysgol Cerddoriaeth i unawdydd.


s/ i Glyn Jone Llun: Dew ra Caws Theatr Ba

Dydd Mercher 14 Mawrth 1-3pm

Sion Trysta n a Carys G w yn Un Nos Ola Leuad ilym

Project BLAS Pontio yn cyflwyno

Yng Ngolau’r Lleuad Stiwdio £3 Yn dilyn llwyddiant ein sesiynau eraill yn edrych ar destunau Cymraeg o fri, byddwn yn dod â phanel o arbenigwyr ynghyd y tro hwn i drafod Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Cyhoeddwyd y nofel yn wreiddiol gan Wasg Gee yn 1961 ac mae wedi tanio dychymyg cenedlaethau o bobl yng Nghymru a thu hwnt gyda'i phortread byw o blentyndod ym Methesda dros ganrif yn ôl. Mae wedi'i pherfformio'n rheolaidd fel drama lwyfan hefyd.

Mae ein panel yn cynnwys: Dr J. Elwyn Hughes Betsan Llwyd, actor a chyfarwyddwr artistig Theatr Bara Caws Carys Gwilym, actor Siôn Trystan, actor Bydd dau actor o Gymdeithas Drama Gymraeg Prifysgol Bangor yn perfformio rhannau o'r ddrama ar y diwrnod.

40

Mae'r digwyddiad wedi'i anelu'n arbennig at rai sy'n astudio'r ddrama fel rhan o faes llafur CBAC, ond mae'n agored i bawb. Cofiwch am gynllun Ewch i Weld gan Gyngor Celfyddydau Cymru y gall ysgolion ei ddefnyddio i ariannu teithiau i weld digwyddiadau o ansawdd uchel ewch i www.arts.wales am fanylion.


Dydd Iau 15 Mawrth 1.30pm a 6.30pm Cwmni’r Frân Wen

Ŵy, Chips a Nain Theatr Bryn Terfel £8/£6 gostyngiadau Stori deuluol a gwirioneddol hyfryd sy’n dathlu’r berthynas unigryw rhwng Nain a’i hŵyr. Mae Guto wrth ei fodd yn treulio amser gyda’i Nain. Trip cwch i Iwerddon, picnic ar lan y môr, fflagiau semaffôr a thylwyth teg yn troi plant yn selsig!

Ond mae’r antur fwyaf eto i ddod…

Cast: GWENNO HODGKINS a IWAN GARMON

Wedi ei hysgrifennu gan Gwyneth Glyn, mae Ŵy, Chips a Nain yn ddarlun gonest o bwysigrwydd cariad, cyfeillgarwch a hwyl rhwng dwy genhedlaeth wrth wynebu bywyd gyda dementia.

Cyfarwyddwr: IOLA YNYR

41

Awdur: GWYNETH GLYN www.franwen.com


Nos Iau 15 Mawrth 8pm

Kiri Pritchard McLean: Appropriate Adult Stiwdio £12/£10 gostyngiadau Mae Kiri, a enwebwyd am Wobr Chortle, yn credu bod y byd yn troi o'i chwmpas hi, ond ni adawodd i hynny ei stopio rhag dymuno bod yn fentor i blant sy’n agored i niwed. O ganlyniad,

mae'n mynd i fod yn hynod ofalus beth mae'n dymuno amdano yn y dyfodol. Dyma stori foesoldeb gan ddigrifwraig anfoesol am ddiffyg moesau pobl eraill. Canllaw oed: 16+

"Packed with laughs, powerhouse Stand up” Guardian

"Passionate, smart and yes, bloody funny. There's a raw depth of feeling here that you won't find in many shows’ ” Scotsman

42


Nos Wener 16 Chwefror 8pm

Dr John Cooper Clarke gyda gwesteion arbennig Theatr Bryn Terfel £16 - £26.50 BARDD; SEREN FFILMIAU A ROC; CYFLWYNYDD RADIO A THELEDU; COMEDÏWR; SYLWEBYDD CYMDEITHASOL A DIWYLLIANNOL

â’i edrychiad adnabyddus a’r ffaith bod ei farddoniaeth wedi ei chynnwys ym maes llafur y cwricwlwm cenedlaethol, mae ei effaith ar gerddoriaeth fodern yn enfawr.

Daeth John Cooper Clarke i amlygrwydd yn yr 1970au fel ‘bardd y bobl’. Ers hynny mae ei yrfa wedi pontio diwylliannau, cynulleidfaoedd, ffurfiau celfyddyd a chyfandiroedd.

Gellir clywed ei ddylanwad ar sylwadau cymdeithasol brwd yr Arctic Monkeys a Plan B. Mae'r cydweithrediadau hyn yn golygu bod John wedi bod yn rhan o 2 albwm rhif 1 byd-eang yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf - gyda'r Arctic Monkeys yn cyfansoddi cerddoriaeth i un o’i gerddi cariad gorau, I Wanna Be Yours, ar yr albwm enwog A:M.

Erbyn heddiw mae JCC yr un mor fywiog ag erioed, a’i ddylanwad ar ddiwylliant pop yr un mor amlwg. Yn ogystal

43

Mae’n dychwelyd i’r ardal ar ôl perfformio yng Ngŵyl Rhif 6 y llynedd gyda'i sioe ddiweddaraf sy’n teithio Prydain ac Ewrop y flwyddyn hon. Mae’n gymysgedd o gerddi clasurol, deunydd newydd rhyfeddol, myfyrdodau doniol am fywyd modern, ‘gags’, ‘riffs’ a sgwrsio. Dyma gyfle i brofi arwr ar ei orau. Canllaw oed: 12+ peth iaith gref


Nos Wener 16 Mawrth 7.30pm Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Haydn a Mozart gyda Rachel Podger Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor £15/£13.50/£5 myfyrwyr a rhai dan 18 Tocyn Teulu: £15/£20 Haydn Symffoni Rhif 8 yn G fwyaf "Le Soir" Mozart Concerto Ffidil Rhif 1 yn B-feddalnod fwyaf Mozart Adagio yn E fwyaf i ffidil a cherddorfa Haydn Sinfonia Concertante yn B-feddalnod fwyaf i ffidil, sielo, obo a basŵn

Mae Rachel Podger yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ym Mangor fel unawdydd a chyfarwyddwr. Mae'n arwain y gerddorfa ar daith drwy beth o'i hoff weithiau o'r cyfnod baróc diweddar a chlasurol cynnar, yn cynnwys perfformiad o goncerto cyntaf Mozart i'r

44

ffidil, a'i Adagio yn E swynol ac emosiynol. Yn ogystal, bydd cerddorion o'r gerddorfa'n ymuno â Rachel i berfformio Sinfonia Concertante ysgafn Haydn.


Dydd Sadwrn 17 Mawrth 11.30am a 2.30pm Peut-être Theatre yn cyflwyno

Tacluso Stiwdio £6/£20 tocyn teulu a chyfeillion (4 o bobl, o leiaf un o dan 18) Mae Peut-être Theatre yn dychwelyd i Pontio yn dilyn eu sioe poblogaidd Shhh…Bang! Pan mae pethau'n dechrau'n hynod drefnus does ond un ffordd y gallant fynd wedyn ... ac mae'r sioe theatr-dawns yma'n mynd yn llanast llwyr! Pam na all taclusrwydd fod yn gyffrous i blant neu anrhefn yn destun llawenydd i rieni? Pwy

ddywedodd bod yna 'ffordd iawn' beth bynnag? Wedi'i seilio ar awydd plentyn i greu trefn, patrymau a systemau, mae'r sioe hon yn daith hwyliog a dyrchafol i ganfod a all anrhefn a threfn fyth fyw'n gytûn efo'i gilydd. Gyda llond gwlad o syrpreisys, mae Tacluso yn barti nas anghofir! 45

Gweithdy creadigol AM DDIM gyda Nerys Jones yn dilyn pob sioe Datblygwyd y cynhyrchiad mewn partneriaeth gyda GOSH Arts, cleifion a theuluoedd ac Adran Gwasanaethau Seicolegol Ysbyty Great Ormond Street. Canllaw oed: 3+ Sioe ddi-iaith


Nos Lun 19 Mawrth 7.30pm

Cerddi o Bellter Byw gyda dementia - sgwrs gerddorol Stiwdio £10/£8 gostyngiadau Bydd Beti George yn arwain noson o gerddoriaeth fyw arloesol a sgwrsio am fywyd gyda dementia, gyda phwyslais arbennig ar deulu sy'n gofalu am rai sy’n byw gyda’r cyflwr. Bydd ensemble o 13 o gerddorion yn perfformio cyfres o ddarnau byrion sy'n cyfleu lleisiau pobl â dementia a'r partneriaid sy'n gofalu amdanynt. Mae'r cyfansoddwr Andrew Lewis

wedi creu'r portreadau cerddorol unigryw hyn o fywyd gyda dementia gan adeiladu ar waith cerddorol a drama a gyflawnwyd gan Celfyddydau Pontio mewn cartrefi gofal ac ymchwil dan arweiniad Yr Athro Bob Woods o Brifysgol Bangor. Y nod yw torri'r tawelwch sydd o gwmpas y pwnc hwn fel rheol, gan roi llais i brofiadau go iawn beunyddiol yr hyn sy'n prysur ddod yn brif gyflwr meddygol ein hoes. 46

Ynghyd â'r gerddoriaeth, bydd Beti George yn sgwrsio â nifer o westeion arbennig, yn cynnwys pobl sydd â dementia arnynt, gofalwyr, ymchwilwyr a rhai y clywir eu lleisiau yn y darnau. Gyda sylwadau a chwestiynau gan y gynulleidfa, bydd hon yn noson o gerddoriaeth a sgwrsio fydd yn codi'r ysbryd, gan ymdrin ag uchafbwyntiau ac anawsterau byw'n dda gyda dementia.


Nos Fawrth 20 Mawrth 7pm

Cyngerdd Pen-blwydd Codi’r To yn 4 oed Theatr Bryn Terfel £5/£2 Mae Sistema Cymru - Codi'r To yn broject cymunedol sy'n gweithio gydag ysgolion cynradd lleol a'u cymunedau i roi hyfforddiant cerddorol rheolaidd, gan weithio gyda grwpiau blwyddyn gyfan o blant. Seiliwyd y cynllun ar

raglen hynod lwyddiannus ac enwog El Sistema o Venezuela. Ymunwch â ni i ddathlu pen-blwydd Codi'r To yn bedair oed gyda disgyblion o Ysgol Glancegin wrth iddynt godi'r to efo'u côr, band pres a band Samba bywiog!

47


48


Nos Wener 23 Mawrth 7.30pm Cymdeithas Theatr Gerdd Prifysgol Bangor yn cyflwyno

High School Musical Theatr Bryn Terfel £10/£7 gostyngiadau Mae High School Musical yn seiliedig ar y ffilm Disney boblogaidd ac yn gynhyrchiad gan SODA, yr un gymdeithas o fyfyrwyr a gynhyrchodd 'FAME', a enillodd sawl gwobr. Ymunwch â Troy a Gabriella

wrth iddynt ddilyn eu breuddwydion ac annog eraill i beidio â 'glynu wrth y status quo'. Cewch gyd-ganu eich hoff ganeuon a dilyn y Wildcats wrth iddynt ddysgu ein bod 'i gyd yn hyn efo'n gilydd' ac

49

nad ydym yn wahanol iawn i'n gilydd wedi'r cwbl. Gwybodaeth: Mae'n cynnwys goleuadau sy'n fflachio, pyrotechneg a synau uchel. Gostyngiad 10% i grwpiau o 10 neu fwy.


BLAS yw cynllun cyfranogol Pontio, sy’n cynnig cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau’r celfyddydau. Rydym yn cynnal gweithdai drama yn Stiwdio Pontio Bob dydd Llun Blwyddyn 3 a 4 - 5-6pm Blwyddyn 5 a 6 - 6.15-7.15pm Blwyddyn 7, 8 a 9 7.30-8.30pm Bob dydd Mercher Blwyddyn 10 – 13 7.30-8.30pm

I archebu lle yn y gweithdai wythnosol, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28, neu cysylltwch â Mared Huws, m.huws@ bangor.ac.uk am ragor o wybodaeth. Yn ogystal â’r gweithdai mae BLAS hefyd yn gweithio yn y gymuned a chydag ysgolion.

50


'n Dyma flas o raf a d d e iw d h gwait

Gorymdaith Lleisiau / Gwledd Syrcas Voices

W T Yna? (Yn y meddwl)

Bu 5 ysgol yn gweithio gyda Chwmni Syrcas Cimera i greu gwaith celf 3D ar gyfer gorymdaith ar hyd Stryd Fawr Bangor i agor Gwledd Syrcas Pontio. Themâu'r orymdaith oedd Storïau Coll Bangor, gyda phob ysgol yn adrodd stori am hanes Bangor.

Mae dosbarth blwyddyn 7, 8 a 9 BLAS yn ymuno â dosbarth blwyddyn 10-13 i greu perfformiad arbennig. Mae'n chwarae â'r genre arswyd gan edrych ar gyfryngau cymdeithasol a byd breuddwydion.

Fe wnaeth 10 myfyriwr yn astudio drama a gofal iechyd a chymdeithasol gael cyflwyniad i ddementia gan Joan Woods, swyddog hyfforddi yng Nghanolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Prifysgol Bangor, cyn ymweld â chartref Plas Hedd i ddod i adnabod y preswylwyr dros gyfnod o bum wythnos. Recordiwyd y sgyrsiau hyn yn y cartref a'u datblygu'n ddrama air am air gan y bobl ifanc dan gyfarwyddyd Branwen Davies a Mared Elliw Huws, cydlynydd BLAS Pontio. 51


Hwyl gwyliau'r

PASG

yn Pontio

Dydd Mercher 28 Mawrth £5 10.30am, 12.30pm, 2.30pm

Antur Bwni Basg Pontio! Ymunwch â ni am sesiwn awr o hyd yn llawn hwyl ac yn addas i'r teulu cyfan. Fe wnawn ddechrau drwy greu clustiau a chynffonnau bach del i'r bwnis ac yna fe awn i gyd ar antur drwy Pontio i fwydo'r

cwningod bach llwglyd ’ma ac efallai ennill gwobr! Gweithgaredd i deuluoedd yw hwn ac ni all plant ddod eu hunain. Nifer cyfyngedig all ddod felly archebwch le rhag cael eich siomi.

Dydd Mawrth 27 Mawrth a Dydd Mercher 4 Ebrill 11.30am-2pm

£2

Disgo Trac Sain

Dros wyliau'r Pasg byddwn yn cynnal ein FFILM + disgo trac sain yn y Stiwdio ar Lefel 2 yn Pontio. Dewch i'w fwynhau cyn neu ar ôl ffilmiau. Mae croeso i chi wisgo fel eich hoff gymeriad ffilm! 52

Gweler y rhaglen sinema fisol am fanylion ffilmiau a ddangosir ar y dyddiadau hyn.


Dydd Sadwrn 7 Ebrill 11.30am a 2.30pm M6 Theatre Company

A Tiger's Tale Stiwdio £6/£20 tocyn teulu a chyfeillion (4 o bobl, o leiaf un o dan 18) Sioe newydd a ysgrifennwyd gan MIKE KENNY Cyfarwyddwyd gan GILLY BASKEYFIELD Cerddoriaeth gan JAMES ATHERTON Mae M6 Theatre (Mavis Sparkle, Whatever the Weather, One Little Word) yn cyflwyno cynhyrchiad rhyfeddol newydd gan y dramodydd Mike Kenny, enillydd sawl gwobr. Wedi'i

seilio ar stori anarferol Fenella, Teigr Holmfirth, mae A TIGER'S TALE yn gyfuniad hynod fywiog o syrcas, pypedwaith, cerddoriaeth fyw a chaneuon. O drên syrcas yn Ne Affrica, i long ager ar yr Iwerydd ac ymlaen i Orllewin Swydd Efrog, mae cwmni teithiol digon di-drefn yn adrodd stori wir anhygoel teulu o acrobatiaid a'r teigr bach a fabwysiadwyd ganddynt. 53

Ymunwch â Titch, Ma a Pa ar eu hantur dros ben llestri i fyd lle mae'r 'holl straeon gorau'n gorffen gyda syrpreis'. Oed 4+ Hyd y perfformiad: 50 munud Gweithdy creadigol AM DDIM gydag Eleri Jones yn dilyn pob sioe.


Nos Wener 13 Ebrill 7.30pm Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl

The Power of Love Theatr Bryn Terfel £18/£16 dros 60/£10 myfyrwyr a rhai o dan 18 VERDI Agorawd, The Force of Destiny DVOŘÁK Romance ar gyfer ffidil a cherddorfa WAGNER Preliwd a Liebestod o Tristan und Isolde BRAHMS Symffoni rhif 2 NATHALIE STUTZMANN arweinydd THELMA HANDY ffidil CERDDORFA FFILHARMONIG FRENHINOL LERPWL

Wrth i Tristan ac Isolde yfed diod hud, maent yn rhyddhau grymoedd na all neb eu rheoli - a chariad sy'n fwy pwerus na bywyd ei hun. Cariad yw pob dim heno: o agorawd danllyd Verdi, i gynhesrwydd hapus ac alawon diddiwedd symffoni lon Brahms, mae'r gerddoriaeth yn canu mewn hapusrwydd. Yr un sy'n gyfrifol am wireddu hyn yw'r ryfeddol Nathalie Stutzmann, fydd yn rhannu'r llwyfan gyda Thelma Handy o'r Gerddorfa i berfformio Romance hyfryd Dvořák. 54

Yn ystod eu hymweliad yn 2018 bydd Pontio yn gweithio gyda’r Gerddorfa i gynnal gweithgareddau ymgysylltu gyda grwpiau cymunedol a phroject Codi’r To.


Nos Sadwrn 14 Ebrill 8pm Pontio yn cyflwyno

COLORAMA PLU BENDITH Theatr Bryn Terfel £14/£12 myfyrwyr a rhai o dan 18 Mae Colorama, sef Carwyn Ellis - canwr ac awdur caneuon, cynhyrchydd cerddoriaeth a chwaraewr sawl offeryn a’i fand - yn dychwelyd i Fangor gyda gwesteion arbennig, sef Plu. Ffurfiwyd Plu - sef y ddwy chwaer Elan a Marged a'u brawd Gwilym Rhys - yn haf 2012. Maent yn chwarae cymysgedd o gerddoriaeth bop a gwerin Gymraeg, gyda harmonïau clos tair rhan yn asgwrn cefn i'w set amrywiol.

Fe wnaeth harmonïau'r triawd o Fethel gryn argraff ar Carwyn Ellis o Colorama a phenderfynodd ofyn i Elan, Marged a Gwilym Rhys gydweithio ag ef ar albwm o gerddoriaeth wreiddiol a pherfformio dan yr enw Bendith. Mae'r caneuon ar yr albwm wedi'u hysbrydoli gan wreiddiau - yr ymdeimlad o le, teulu a chartref - gyda'r rhan fwyaf o'r caneuon wedi eu seilio ar ran arbennig o Sir 55

Gaerfyrddin sy'n agos at galon Carwyn ac wedi eu henwi ar ei hôl. Cyfle prin i weld y cyfuniad hudolus yma o artistiaid talentog yn perfformio. Gig eistedd.


Cerddoriaeth

Nos Fercher 18 Ebrill 8pm

Jon Boden – The Afterglow Tour

"Vivid lyrics, striking imagery, fascinating ideas, challenging arrangements and Boden’s characteristically striking vocals…it has to be considered a Major Work.” fRoots review of Afterglow

Theatr Bryn Terfel £20/£18 myfyrwyr a rhai o dan 18 Bydd Jon Boden, cyn brif ganwr Bellowhead, yn dechrau ar ail gam ei daith yng ngwanwyn 2018 yn hyrwyddo ei albwm Afterglow, yr un cyntaf iddo ei ryddhau ers gadael Bellowhead ym Mai 2016. Yn y rhan hon o'r daith bydd Jon

yn perfformio ar ei ben ei hun, gyda'r gynulleidfa’n cael cyfle i fwynhau ei ddeunydd newydd heintus mewn sioe ddiaddurn, bwerus a phersonol iawn. Bydd Boden yn defnyddio ffidil, gitâr, consertina a'i flwch stompio nodweddiadol i berfformio 56

deunydd o'i yrfa pymtheg mlynedd, yn cynnwys caneuon poblogaidd Bellowhead, eitemau o'i broject www.afolksongaday. com a cherddoriaeth o'r albwm Afterglow.


offi an H io g ylun d h wait e, g ald iz L e org n: J Llu

Angharad Harrop: Lle

Nos Fawrth 24 Ebrill 7.30pm

Terra Firma Theatr Bryn Terfel £14/£12 gostyngiadau Coreograffi gan Caroline Finn, Marcos Morau a Mario Bermudez Gil. Mae Terra Firma yn adrodd straeon sy'n deillio o'r tir lle rydym yn adeiladu ein cymunedau; Mae The Green House yn dod â’r tu allan i mewn. Ar set deledu o fath Wes-Anderson, mae’r sêr

Wal Wen Pontio, ar ôl Terra Firma Mae cynllun ‘bydi dawns’ Creu Cymru yn creu partneriaeth rhwng artist dawns annibynnol a theatr neu ganolfan gelfyddydol. Mae'r ffilm Lle, gan y ddawnswraig Angharad Harrop, yn mynd â'r gynulleidfa ar daith i chwilio am fannau cudd Pontio trwy gyfrwng dawns, ffilm a sain. Wrth archwilio lleoedd a'r hyn a welir, mae'r ffilm chwareus hon yn cwestiynu ein persbectif ac yn ein galluogi i weld pensaernïaeth Pontio o onglau newydd.

yn sownd mewn dolen ddiddiwedd. Yn drawiadol o brydferth ac yn llawn cymeriad. Tirwedd anial yw Tundra lle mae creadigrwydd hynod fodern, sy’n adleisio dawnsiau gwerin a chwyldro Rwsia, yn ffrwydro’n fyw.

57

Mae Atalaÿ yn dŵr gwylio y gellir gweld tiroedd pell ohono i bedwar ban. Mae'n ddawns heintus y dylanwadwyd arni gan gynhesrwydd Môr y Canoldir. Mae'n cynnwys sgwrs ar ôl y sioe


58


Nos Wener 27 Ebrill 8pm Making Tracks yn cyflwyno

TOKO TELO Y gorau o Fadagascar: Traddodiadau teimladwy wedi eu hailddyfeisio yn hynod gelfydd Theatr Bryn Terfel £14/£13 gostyngiadau Mae Toko Telo, sef triawd disglair o wlad sydd â chyfoeth o gerddoriaeth, yn cynnwys gwaith gitâr syfrdanol D'Gary, dewiniaeth Regis Gizavo ar yr acordion a llais teimladwy Monika Njava. Mae'r cerddorion hyn o Madagascar wedi ennill clod ac anrhydedd yn eu gwlad eu hunain, a thu hwnt, a daw'r

tri at ei gilydd fel Toko Telo i rannu eu gwreiddiau deheuol. Trwy ddehongli arddulliau cerddorol traddodiadol fel tsapiky, jihe a beko gyda cherddoriaeth a chelfyddyd syfrdanol, mae Toko Telo yn rhoi'r cyflwyniad perffaith i beth o'r gerddoriaeth orau o Madagascar. 59

"Dynamic, fluid, complex and inventive” fRoots on Régis Gizavo

"The voice of Madagascar” Afropop Worldwide on Monika Njava


"She has plenty to say, and says it with pointedness and potency”

Nos Sadwrn, 28 Ebrill 8pm

The Guardian

Off the Kerb yn cyflwyno

Shappi Khorsandi Mistress and Misfit Theatr Bryn Terfel £15/£13 gostyngiadau Mae Shappi'n cyflwyno arwres anghofiedig Lloegr, Emma Hamilton. Am lawer gormod o amser mae wedi cael ei hadnabod yn unig fel 'meistres Nelson' a thipyn o hwran. (Dach chi'n cael UN job mewn puteindy, a dyna'ch enw da'n fwd!) Doedd rhyddid merched ddim yn bod yn y cyfnod Sioraidd, ac roedd rhaid i Emma symud mynyddoedd i godi ei hun o 'forwyn cegin' i 'Lady Hamilton'. Oedd, mi roedd hi'n dawnsio'n noeth ar fyrddau'n achlysurol i fynd ymlaen yn y byd, ond pwy sydd ddim wedi gwneud hynny ynte? Fel cyd-ddawnswraig noeth ar fyrddau, mae Shappi wedi cael ei chyfareddu gan Emma, er nad oes arni hi byth eisiau gwallt digon mawr i fod yn gartref i lygod. Yn seren Live At The Apollo, Michael McIntyre’s Comedy Roadshow, Friday Night

with Jonathan Ross, Have I Got News for You a Q.I , mae Shappi ar daith gyda'i sioe newydd sy'n denu cynulleidfaoedd mawr. Mae'n tanio jôcs fel bwledi ac yn ddiymdrech ddoniol wrth iddi drin a thrafod pob pwnc gyda ffraethineb hynod finiog. Eto'i gyd, mae ei dull cyflwyno direidus a'i phersonoliaeth swynol yn meddalu'r cyfan. Mae Shappi Khorsandi hefyd yn awdur y gyfrol hynod boblogaidd A Beginners Guide to Acting English, a chyhoeddwyd ei nofel gyntaf wych Nina is not OK gan Ebury yn 2016. Yn ddiweddar hefyd etholwyd Shappi yn llywydd Cymdeithas Ddyneiddiol Prydain. 14+ (Canllaw i rieni) Mae'n debygol y ceir rhegi a chynnwys addas i oedolion

60

"makes live comedy thrilling” London Evening Standard


Byddwch yn rhan bwysig o’n tîm Cwrdd ag ystod eang o bobl Dysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd

Derbyn cydnabyddiaeth am y sgiliau yr ydych yn eu datblygu a phwyntiau XP ar gyfer Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

Diddordeb? gwirfoddolwyr@pontio.co.uk 01248 382666

“Mae’n lle gwych ac yn ffordd ragorol o wybod beth sy’n digwydd ym myd y celfyddydau, yn ogystal â gwella fy Nghymraeg” Wendy, Gwirfoddolwr

"Dwi wrth fy modd yn gwirfoddoli fel ffordd o gyfarfod â phobl newydd" 61

Michael, Gwirfoddolwr


Gwybodaeth Gyffredinol Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28. Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www.pontio.co.uk/ Online/term Tâl Postio Ni chodir ffi pan fyddwch yn prynu tocynnau, ond codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post. Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref.

Teuluoedd Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed. Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim. Cynllun Mynediad Hynt Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofynion mynediad penodol, yn aml, gall mwynhau ymweliad â theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo.

62

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae Pontio yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg. Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.