Rhaglen Artistig Mai-Awst 2023

Page 1

Gyda ... DakhaBrakha, Cwmni Theatr Maldwyn, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Ballet Cymru, Creigiau Geirwon a mwy! AM DDIM Canolfan Celfyddydau ac Arloesi
and Innovation
Beth sydd ymlaen Mai - Awst 2023
Arts
Centre Bangor
Sut i Archebu Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, neu fersiwn glywedol, cysylltwch ar 01248 38 28 28 Ar-lein pontio.co.uk Ffôn 01248 38 28 28 Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ Am oriau agor ewch i pontio.co.uk PontioBangor TrydarPontio PontioBangor pontio_bangor Mae'r wybodaeth yn gywir adeg argraffu. Rhif Eluse: 1141565

DAKHABRAKHA

Nos Sadwrn 22 Ebrill, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£22 / £20

Mae DakhaBrakha yn bedwarawd cerddoriaeth o Kyiv, Wcráin. Gan

adlewyrchu elfennau sylfaenol o sain ac enaid, mae'r band ethno-anhrefn yn creu byd o gerddoriaeth newydd annisgwyl.

Crëwyd DakhaBrakha yn 2004 yng

Nghanolfan Celf Gyfoes Kyiv “DAKH”

gan y cyfarwyddwr theatr avant-garde –

Vladyslav Troitskyi – a rhoddwyd yr enw

sy’n golygu “rhoi/cymryd” yn hen iaith

Wcráin iddi. Mae gwaith theatr wedi

gadael ei ôl ar berfformiadau’r band –

mae eu sioeau bob amser yn cael eu

llwyfannu gydag elfen weledol gref.

Ar ôl arbrofi gyda cherddoriaeth werin

Wcráin, mae’r band wedi ychwanegu

rhythmau’r byd o gwmpas i mewn i’w

cerddoriaeth, gan greu sŵn llachar, unigryw a bythgofiadwy DakhaBrakha.

Maent yn ymdrechu i helpu i agor

potensial alawon Wcráin a dod â

hynny i galonnau ac ymwybyddiaeth y

genhedlaeth iau yn Wcráin a gweddill y byd hefyd.

Y CWMWL / CLOUD

Nos Iau 4 Mai, 7pm

Theatr Bryn Terfel

£4.50 - £20

Dim digon o le? Dim problem, defnyddiwch Y Cwmwl.....

Sioe ddyfeisiol gan griw BLAS Bach. Bydd y sioe yn seiliedig ar syniadau’r plant yng ngweithdai wythnosol BLAS, gyda Gwion Aled Williams a Sarah Mumford yn dod â’r syniadau ynghyd.

THE SCORCHED

EARTH TRILOGY

Nos Wener 12 + Nos Sadwrn 13 Mai, 10pm

Tu Allan i Pontio

£3

Opera fel actifiaeth, wedi’i daflunio ar waliau ar ffurf celf stryd. Efallai y byddant yn gwneud i chi chwerthin, ond hefyd i fynnu newid.

Mae Music Theatre Wales yn cyflwyno cyfres newydd o dair opera fer celfyddyd y stryd, sy’n adlewyrchu ar y drychineb amgylcheddol rydym

yn ei hwynebu, a’r diffyg gweithredu o ddifrif ar broblem yr hinsawdd.

Bydd yr holl gyflwyniadau’n digwydd yn yr awyr agored, gyda’r gynulledifa’n gwrando ar yr operâu drwy glustffonau di-wifr – a ddarperir gennym ni.

YN CYFLWYNO
BLAS BACH
MUSIC THEATRE WALES YN CYFLWYNO

COSI FAN TUTTE

Nos Wener 12 Mai, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£18 / £12

Cariad pur sydd fel y dur? Peidiwch a bod mor siwr!

Cynhyrchiad newydd o gampwaith digri Mozart am natur fregus cariad. Â chyfieithiad Cymraeg bywiog, bydd y

cynhyrchiad yma yn dathlu doniau aruthrol y genhedlaeth

ifanc o gantorion, gan gynnwys Erin Gwyn Rossington a John

Ieuan Jones, yn ogystal â thalentau profiadol Rhys Jenkins a

Leah-Marian Jones. Dewch i ddilyn hynt a helynt stori serch

sydd ddim cweit yn cadw at y sgript, ac ymdrechion dau lanc i brofi ffyddlondeb eu cariadon!

Y MAB DAROGAN

Nos Sadwrn 13 Mai, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

SOLD OUT!

DIM TOCYNNAU AR ÔL

Wrth ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu’r

Cwmni, fe gawn weld y cynhyrchiad

newydd hwn sy’n olrhain hanes

gwrthryfel Owain Glyndŵr, un o’n

harwyr mwyaf fel cenedl.

OPRA CYMRU YN CYFLWYNO CWMNI THEATR MALDWYN YN CYFLWYNO

SISTEMA CYMRU

CODI’R TO

CYNGERDD PENBLWYDD YN 9 OED

P'nawn Iau 18 Mai, 1pm

Theatr Bryn Terfel

£3 (am ddim i blant)

Wedi'i ysbrydoli gan brosiect El Sistema o Venezuela, mae Codi'r To yn brosiect cerdd cymunedol, sy'n gweithio gydag ysgolion cynradd a'u cymunedau i ddarparu gwersi cerddorol i ddisgyblion. Dewch i ddathlu 9fed penblwydd Codi'r To gyda disgyblion Ysgol Glancegin fydd yn siŵr o godi'r to gyda chôr, band pres a band Samba bywiog!

VRï

Nos Wener 19 Mai, 8pm

Theatr Bryn Terfel

£15 / £13

Mae harmonïau tair rhan, chwarae ffidil syfrdanol ac ychwanegiad anarferol y sielo yn creu sain VRï sy’n gwbl unigryw. Ers ffurfio yn haf 2016, mae’r triawd wedi bod yn chwilio am esthetig ‘gwerin-siambr’ - gan gyflwyno eu halawon dawns brodorol bywiog tra’n cynnal gosgeiddrwydd a cheinder ensemble llinynnol.

CYNHYRCHIAD Y MWLDAN

RICHARD HARDISTY: SILLY BOY

Nos Sadwrn 20 Mai, 8pm

Stiwdio

£12

Dyma sioe gyntaf Rich Hardisty (Channel 4, Netflix, BBC) a bu disgwyl mawr amdani. Bydd yn mynd â ni ar daith drwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei fywyd anarferol.

BROADWAY AND BEYOND

P’nawn Sul 21 Mai, 4pm

Theatr Bryn Terfel

£15 / £10

Mae myfyrwyr ysgol ddrama enwog

Ava Williams wedi bod yn gweithio'n wirioneddol galed drwy'r flwyddyn i lwyfannu eu perfformiad diwedd blwyddyn ysblennydd.

“Mae Silly Boy yn anodd ei churo, stori sydd yn ei thro yn agoriad llygad, yn effeithio'n ddwfn ac yn hynod ddoniol”

Scotsman

Mae "Broadway and Beyond" yn gyfuniad perffaith o ganu, dawns a drama. Ymunwch â ni ar ein taith gyda chaneuon o Hairspray, Matilda a Beauty and the Beast ynghyd â rhai o'ch hoff ganeuon cyfoes.

18+
TAKE 2 THE STAGE YN CYFLWYNO

Diwrnod yr Wythnos

SINEMA CINEMA

PONTIO BANGOR

Tocynnau: £5.50 - £7.50

70 dangosiad y mis

1 llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr fyw

Rhaglen sinema ar gael yn y ganolfan

Newyddlen ebost wythnosol:

Crëwch gyfrif ar www.pontio.co.uk

Ffilmiau pnawn dim ond

Llun-Mercher am 2pm

£5.00

Ar Agor7

NT Live: GOOD

Nos Iau 20 Ebrill, 7pm

P’nawn Sul 23 Ebrill, 2pm

Mae David Tennant (Doctor Who) yn dychwelyd i’r West End mewn ailddychmygiad syfrdanol o un o ddramâu gwleidyddol mwyaf pwerus Prydain.

ROH Live: SLEEPING BEAUTY

Nos Fercher 24 Mai, 7.15pm

P’nawn Sul 28 Mai, 2pm

Cewch eich syfrdanu gan gerddoriaeth wych Tchaikovsky a chynlluniau moethus

Oliver Messel gyda’r berl wirioneddol hon o’r casgliad clasurol.

NT Live: BEST OF ENEMIES

Nos Iau 18 Mai, 7pm

P’nawn Sul 21 Mai, 2pm

Mae David Harewood (Homeland) a Zachary Quinto (Star Trek) yn elynion gwleidyddol

yn nrama newydd arobryn James Graham (Sherwood).

ROH Live: IL TROVATORE

Nos Fawrth 13 Mehefin, 7.15pm

Mae llwyfaniad egnïol Adele Thomas yn gosod stori Verdi mewn bydysawd o ofergoeliaeth ganoloesol wedi’i hysbrydoli gan Hieronymus Bosch. Ar y podiwm, Antonio Pappano sy’n arwain sgôr ddramatig Verdi.

COLEG MENAI YN CYFLWYNO

Nos Fercher 24 Mai, 7pm

Dydd Iau 25 Mai, 2pm + 7pm

Theatr Bryn Terfel

£10 / £8

Wedi’i hysbrydoli gan stori wir ac yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd, mae Made in Dagenham yn gomedi gerddorol Brydeinig sy’n codi’ch ysbryd ac yn ymwneud â chyfeillgarwch, cariad a phwysigrwydd ymladd am yr hyn sy’n iawn. Wedi’i gyflwyno gan fyfyrwyr Coleg Menai.

GOLYGFEYDD

O’R PLA DU

Nos Fawrth 23 Mai, 7.30pm

Stiwdio

£15 / £13

1348, Pentreufargirec. Mae’r Pla wedi dod. Mae Duw wedi bradychu'r bobl ac mae gwallgofrwydd o bwyntio bys, hela cathod a llosgi hereticiaid wedi boddi'r pentref yn y toiled. I Twm y twyllwr, mae popeth yn gêm. Comedi ddireidus, dywyll am elwa o argyfwng a llygredd. Croeso i'r Pla Du - does dim byd doniolach.

Addas i rai 14+

Gymraeg

CYNHYRCHIAD THEATRAU SIR GÂR YN CYFLWYNO

I Deuluoedd

BROGS Y BOGS

Sadwrn 27 Mai, 11.30am + 2.30pm

Stiwdio

£7.50

Teulu o 4: £26

Addas i bob oed

Ymunwch â Brogs y Bogs, y llyffantod arwrol sydd hefyd yn blymwyr, i ddatrys trosedd a threchu’r Cwac Tŷ Bach yn y sioe deuluol ddoniol, llawn dawns, neidio a symud hon.

Sioe ddwyieithog

BALLET CYMRU YN CYFLWYNO

HUGAN FACH GOCH A’R TRI MOCHYN BACH

O ROALD DAHL'S REVOLTING RHYMES

Nos Wener 16 Mehefin, 7.30pm

P'nawn Sadwrn 17 Mehefin, 2pm (PERFFORMIAD HAMDDENOL)

Theatr Bryn Terfel

£13 / £11

Addas i bob oed

Tocynnau Teulu Perfformiad Hamddenol

Teulu o 4: £40

Teulu o 5: £50

Y storïwr mwyaf poblogaidd yn y byd, Roald Dahl, wedi’i osod i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr rhagorol Paul Patterson a’i ddawnsio gan y cwmni ballet digyffelyb, Ballet Cymru.

Yn cynnwys gwisgoedd godidog, dawnsio anhygoel, a thafluniadau fideo syfrdanol, roedd y cynhyrchiad hwn a oedd yn peri i chi chwerthin yn uchel yn llwyddiant ysgubol i Ballet Cymru yn 2016.

ARAD GOCH YN CYFLWYNO

JEMIMA

Dydd Llun 19 Mehefin, 10am + 1pm

Theatr Bryn Terfel

£7

OED: 7+

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn

adnabyddus am ddramâu i blant; dyma gynhyrchiad cyffrous, newydd am un o fenywod pwysicaf yn hanes Cymru –

Jemima Nicholas. Hanes, cerddoriaeth, ychydig o ddireidi, a lot o hwyl wrth i ni roi sylw i’r arwres Gymreig o Sir Benfro.

DYN HYSBYS

CWRTYCADNO

Dydd Sadwrn 8 Gorffennaf

10.30am, 12.30pm, 2.30pm

Stiwdio

£7.50

Tocyn Teulu i 4: £26

OED: 3+

Stori antur hygyrch, addas i deuluoedd, yw Dyn Hysbys Cwrtycadno. Cewch chi ei chlywed a’i gweld yn, ac o gwmpas Pontio. Mae’ r sioe’n gyfuniad o helfa drysor a chynhyrchiad theatr, a bydd yn cynnwys disgrifiad integredig mewn BSL a disgrifiad sain byw. Ymunwch â ni ar gyfer y chwedl ryfeddol hon, sy’n dathlu llên gwerin Cymru, hud a’r tymhorau cyfnewidiol.

Sioe yn Saesneg

CWMNI THEATR TAKING FLIGHT YN CYFLWYNO
BAGELS • B RECHDANAU PITSA • CACENNAU Am fwy o wybodaeth ewch i’r tudalennau bwyd a diod pontio.co.uk Archebwch eich diodydd ymlaen llaw yn y bar i’w mwynhau yn ystod yr egwyl 01248 383826 bwydabar@pontio.co.uk

CERDDORFA FFILHARMONIG FRENHINOL LERPWL

Nos Wener 2 Mehefin, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£25 - £10

Vaughan Williams Pum Amrywiad Difes a Lasarus

Mozart Concerto Rhif 5 yn A Fwyaf i Feiolin a Cherddorfa

Beethoven Symffoni Rhif 7

Yn gerddorfa hynod boblogaidd gyda’n

cynulleidfaoedd, rydym yn hynod falch o wahodd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol

Lerpwl yn ôl i Pontio yn 2023. Dewch i

fwynhau rhaglen odidog dan arweiniad

Jonathan Bloxham gyda Jonian Ilias

Kadesha ar y feiolin.

FRÂN WEN A THEATR Y SHERMAN YN CYFLWYNO

IMRIE

Nos Fercher 7 Mehefin, 7.30pm (gyda BSL)

Dydd Iau 8 Mehefin, 1.15pm + 7.30pm Stiwdio

£15 / £13

Ffantasi Gymraeg newydd wedi ei hysgrifennu gan Nia Morais (A

Midsummer Night's Dream gan Theatr y Sherman), mae Imrie yn ddrama i oedolion ifanc am obaith a dewrder.

Cyfarwyddir gan Gethin Evans (Woof, Ynys Alys, Galwad)

Cynhyrchiad yn yr iaith Gymraeg

Oedran: 13+

DEWCH I BROFI DIWRNOD AGORED YN 2023

Dydd Sadwrn, 01 Gorffennaf

Dydd Sul, 20 Awst

Dydd Sul, 08 Hydref

Dydd Sul, 29 Hydref

Dydd Sul, 26 Tachwedd

bangor.ac.uk/diwrnodagored

CREIGIAU GEIRWON

Nos Iau 22 Mehefin, 7.30pm (RHAGDDANGOSIAD)

Nos Wener 23 Mehefin, 7.30pm

Dydd Sadwrn 24 Mehefin, 2.30pm + 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£16 - £8

gan Wyn Bowen Harries

Ar greigiau geirwon Eryri y triga Lili’r Wyddfa, un o’n blodau mwyaf prin. Dyma un rheswm pam y mae pob math o bobol wedi dod i grwydro llechweddau Eryri am dros 300 mlynedd a mwy.

Dewch i gyfarfod â’r tywyswyr mynydd cynnar a fu’n arwain y botanegwyr a chasglwyr planhigion, y daearegwyr, artistiaid a beirdd ar hyd y llethrau a’r copaon. Dyma sioe sy’n cyfuno drama, hiwmor, cerddoriaeth a dawns fertigol ar raffau!

Cawn gyfarfod â sawl ymwelydd, gan gynnwys rhai adnabyddus, drwy lygaid y bobl leol a gyflogwyd i'w tywys, pobol fel William Williams, neu ‘Wil Bŵts’ o Lanberis. Bydd y tywyswyr yn rhannu rhai o’u straeon, eu profiadau a’u campau a’r cystadlu rhyngddynt i ddiddanu,

bwydo a chysgodi’r ymwelwyr ar gopa’r Wyddfa. A oedden nhw’n gwerthfawrogi pwysigrwydd y planhigion prin sydd i’w cael ar y llechweddau, a beth yw dyfodol y Lili heddiw?

Hwn yw trydydd cynhyrchiad Cwmni

Pendraw. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn

cyfuno hanes a gwyddoniaeth mewn

ffyrdd creadigol ac annisgwyl, gan

ddefnyddio drama, cerddoriaeth, ac am y tro cyntaf, dawns fertigol.

Cydgynhyrchiad yw hwn gan Gwmni

Pendraw, Vertical Dance Kate

Lawrence a Pontio. Noddir gan Gyngor

Celfyddydau Cymru, Parc Cenedlaethol

Eryri a Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau.

Addas ar gyfer oedran 8+

CWMNI PENDRAW, VERTICAL DANCE KATE LAWRENCE A PONTIO YN CYFLWYNO

Cadwch lygad am ddigwyddiadau arbennig Creigiau Geirwon i’w cyhoeddi yn y misoedd nesaf!

MATILDA

Nos Iau 29 Mehefin, 7pm

Nos Wener 30 Mehefin, 7pm

Theatr Bryn Terfel

£15 / £12

Cynhyrchiad Ysgol Friars o'r sioe gerdd boblogaidd, Matilda! Nid yw gwrthryfel yn bell yn Matilda JR., sioe ffraeth a doniol yn llawn anarchiaeth plentyndod a grym dychymyg! Bydd y stori hon am ferch sy'n breuddwydio am fywyd gwell, a'r plant y mae'n eu hysbrydoli, yn cael cynulleidfaoedd i gefnogi’r "plant gwrthryfelgar" sydd am ddysgu gwers i'r oedolion.

SNEB YN

BECSO’ DAM!

Nos Fercher 5 Gorffennaf, 7.30pm

Nos Iau 6 Gorffennaf, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£12 / £7

“Dwi’m yn gwybod am be’ dwi’n chwilio – ond tydio ddim fan hyn”.

Sioe sy’n seiliedig ar ganeuon Edward H. Dafis. Lisa – y prif gymeriad - sy’n ysu i weld y byd. Caneuon o’r 70au, ond yr un ydy problemau pobl ifanc heddiw, yn gymysgedd o drasiedi a hiwmor.

YSGOL FRIARS YN CYFLWYNO YSGOL DAVID HUGHES YN CYFLWYNO

MYND I’R COED

Nos Wener 14 Gorffennaf, 7.30pm

Nos Sadwrn 15 Gorffennaf, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£15 / £12

Sioe liwgar, gerddorol, newydd sbon i’r teulu i gyd gan Cefin Roberts, Steven Evans a Sioned Webb, yn seiliedig ar deimladau’r disgyblion am lygredd a chynhesu byd eang.

CERDDORIAETH O’R GALON

Nos Fawrth 18 Gorffennaf, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£22.50 - £5

Gorfoleddwch yn rhai o alawon mwyaf rhamantus a pheraidd opera a ysgrifennwyd erioed.

Mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol

Cymru a’r arweinydd Matthew Kofi

Waldren yn ymuno â’r tenor Trystan Llŷr Griffiths a’r soprano Nadine Benjamin

mewn rhaglen wefreiddiol sy’n cynnwys

detholiad o ariâu godidog, deuawdau a

gweithiau cerddorfaol sy’n cyfleu dwyster cariad, chwant a thor-calon.

DIWRNOD SYRCAS!

Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf

Cadwch lygad am

gyhoeddiadau yn cynnwys

gweithdai, perfformiadau a llawer mwy i’r holl deulu!

CERDDORFA WNO YSGOL GLANAETHWY YN CYFLWYNO

CYNGERDD BLYNYDDOL GWASANAETH CERDD

YSGOLION GWYNEDD A MÔN

Nos Lun 3 Gorffennaf, 7pm

Theatr Bryn Terfel

£9 / £3

Ymunwch â Gwasanaeth Cerdd Ysgolion

Gwynedd a Môn i ddathlu gwaith yr

ensemblau traws-sirol. Mi fydd digon o

amrywiaeth mewn noson fendigedig yn

arddangos talentau cerddorol Ieuenctid

Gwynedd a Môn.

MAES -G SHOWZONE YN CYFLWYNO

Our BIG Variety Show 2023

Nos Sadwrn 29 Gorffennaf, 7pm

Theatr Bryn Terfel

£12

Mae criw MaesG ShowZone yn eich

gwahodd i ‘Our Big Variety Show’, noson hudol o ganu, dawnsio ac adloniant.

Dewch i deimlo gwefr y gerddoriaeth gyda

chaneuon poblogaidd a chlasuron Disney mewn noson i’w chofio!

BLAS yw rhaglen ieuenctid Pontio sy’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gael blas o’r celfyddydau

GWEITHDAI DRAMA WYTHNOSOL

Nos Lun

Blwyddyn 3 a 4 – 5-6pm

Blwyddyn 5 a 6 – 6.15-7.15pm

Nos Fercher

Blynyddoedd 7, 8 a 9 – 6.30-7.30pm

Blynyddoedd 10-13 – 7.45-8.45pm

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â

Mared Huws ar m.huws@bangor.ac.uk

Partneriaid 2023!

Dyma rhai o’r partneriaid yr ydym yn cydweithio â nhw yn 2023...

Ballet Cymru

Cymuned

Beddgelert

Parc

Cenedlaethol

Eryri

Cymuned

Hirael

Annedd Ni

Eisteddfod

Genedlaethol

Cymru

Castell

Penrhyn

TIWTORIAID DAN HYFFORDDIANT

Rhaglen hyfforddi sy’n cefnogi pobl ifanc i gysgodi

ymarferwyr a chwmnïau safonol sy’n gwneud

gwaith gwych yn y byd ymgysylltu celfyddydol. Dyma Manon a Buddug sydd yn rhan o’r rhaglen.

Buddug Roberts

Buddug Watcyn Roberts dw i, ac rwy’n fyfyrwraig 22 mlwydd oed yn dilyn cwrs PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol

Bangor. Law yn llaw â hyn dw i’n gweithio fel Tiwtor dan Hyfforddiant gyda Pontio, ac yn cael y fraint o weithio ar brosiectau amrywiol er enghraifft gyda chriw BLAS. Fy hoff beth am weithio gyda’r criw arbennig yma ydi cael y profiad o weld pobl ifanc yn meddiannu’r celfyddydau fel lle y medran nhw glywed eu lleisiau, a gwylio’r hyder hwnnw’n tyfu a datblygu wrth iddynt hawlio’u lle ar lwyfan bywyd.

Manon Gwynant

Manon Gwynant ydw i a dwi’n fyfyriwr PhD yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol

Bangor. Dwi wedi bod yn diwtor dan hyfforddiant gyda BLAS ers 2019 ac wedi cael cymaint o brofiadau amrywiol ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys cysgodi ymarferwyr proffesiynol, arwain sesiynau a gweithio ar ddatblygu a gwireddu syniadau ar gyfer prosiectau. Fy hoff atgof o weithio fel tiwtor dan hyfforddiant oedd gweithio ar y prosiect ‘Clwb Darllen’ a oedd yn brosiect ar y cyd â Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru. Roedd clywed syniadau’r criw a gweld eu syniadau a’u hyder yn datblygu o wythnos i wythnos yn anhygoel, a braf iawn oedd gweld yr holl waith caled ar ffurf llyfr newydd sbon ar ddiwedd y prosiect.

CELF

Mai - Medi 2023

CYMERWCH GIP AR EIN HARDDANGOSFEYDD

MANON DAFYDD

Arddangosfa amlddisgyblaethol yn cyfleu safbwyntiau amrywiol ar goed gan archwilio eu perthynas â phobl, bywyd gwyllt, a’r amgylchedd ehangach. Ewch i’n gwefan ar gyfer mwy o wybodaeth.

Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth.

Gwaith celf wedi ei ddatblygu gyda disgyblion Ysgol Pendalar mewn ymateb i berfformiad Ballet Cymru yma yn Pontio.

Nos Iau 4 Mai, 7pm - 9pm

Noson Ciosg Celf ar lwyfan y bar gyda

sgyrsiau a pherfformiadau gydag

artistiaid ‘At eich Coed’, yn cynnwys

Anthony Morris, Joe Roberts ac Utopias Bach.

CHWA O AWYR IACH

Gorffennaf - Medi

Arddangosfa aml-gyfrwng, chwareus

gyda gwaith celf gan Ella Jones, Esyllt Lewis, Mia Roberts a Gwenllian Spink.

Hyd at ddiwedd Mai 12 – 30 Mehefin

Gweithdai

Hedfan am Hanner Dydd

Bob yn ail ddydd Llun, 12pm

£6 / £40 am 8 sesiwn

16+

Caffi Babis

Gwener cyntaf pob mis, 10am

£3

Addas i blant hyd at 24 mis

Yoga gyda Ceri Lloyd

Nosweithiau Llun, 8pm

£8.50 / £30 am 4 sesiwn

Cynhelir y dosbarthiadau yn y Gymraeg

Dawnsio ar Gyfer

Parkinson's

Dydd Mawrth, 1.30pm

£3.50

Addas i unrhyw un sy’n byw gyda

Parkinson’s

Ymunwch â'n tîm o wirfoddolwyr!

Oes gennych chi...?

- Ddiddordeb mewn theatr, cerddoriaeth fyw a ffilmiau

- Brwdfrydedd i roi gwasanaeth arbennig o dda i gwsmeriaid

- Awydd i ddysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd

- Dymuniad i gyfarfod â phobl newydd ac adeiladu eich hyder

Credwn y dylai’r Celfyddydau fod yn gynhwysol ac felly rydym yn annog gwirfoddolwyr o bob cefndir i ymuno â niyr unig ofynion yw eich bod dros 16 oed, yn frwdfrydig, yn gyfeillgar ac yn ddibynadwy.

Diddordeb?

gwirfoddolwyr@pontio.co.uk

01248 382666

I ddod yn yr

Hydref!

HORRIBLE HISTORIES:

BARMY BRITAIN

Dydd Sadwrn 30 Medi, 2pm + 6pm

Tocynnau Teulu ar gael! Addas i’r holl deulu!

BRIDGET CHRISTIE

Nos Iau 28 Medi, 7.30pm

TRIALS OF CATO

Nos Wener 13 Hydref, 8pm

GWYBODAETH GYFFREDINOL

Archebion Grŵp

Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa

Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28.

Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www. pontio.co.uk/online/article/ termsandconditions

Tâl Postio

Codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post. Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn

hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref.

Teuluoedd

Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed, oni nodir yn wahanol.

Gostyngiadau

Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u

cynnwys yn y diffiniad

hwnnw: myfyrwyr a rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim.

Cerdyn Hynt

Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun.

Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.

Adnodd ar gyfer dysgu, ymchwil, addysgu’r cyhoedd a mwynhad

Mae gan Ardd Fotaneg Treborth welyau planhigion, glaswelltir naturiol sy’n doreithiog mewn rhywogaethau, pyllau, gardd goed, Gardd Feddyginiaethol Tsieineaidd, coetir hynafol, a chynefin creigiog ar lannau’r Fenai Mae chwe thŷ gwydr yn darparu amgylcheddau arbenigol ar gyfer casgliadau planhigion trofannol, tymherus, tegeirianau a phlanhigion cigysol

Rydym yn trefnu sgyrsiau, sêl planhigion, gweithdai arbenigol, crefftau (a mwy!) yn rheolaidd

CYSYLLTWCH Â NI www treborth bangor ac uk treborth@bangor ac uk 01248 388877
Sesiynau gwirfoddoli rheolaidd bob dydd Mercher a dydd Gwener

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.