Rhaglen Artistig Mai - Awst 2019

Page 1

Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Bangor

Rhaglen Artistig

Mai – Awst 2019

COPI AM DDIM


Croeso i Pontio Bar Ffynnon Lefel 0 Llun - Gwener * 4.30pm – 9pm (Prynhawn dydd Mercher o 1.30pm) Sadwrn 10.30am-9pm Sul 12pm-6pm (Mae Bar Ffynnon ar agor tan 11pm ar gyfer perfformiadau theatr nos)

Oriau Agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am-11pm Dydd Sul 12.00pm-8pm Ewch i pontio.co.uk neu holwch y Swyddfa Docynnau am oriau agor Pasg Tocynnau Ar-lein www.pontio.co.uk 01248 38 28 28 Ymholiadau: info@pontio.co.uk

*Yn ystod gwyliau ysgol bydd Bar Ffynnon ar agor 10.30am Llun-Sadwrn

Cegin Lefel 2 Llun 8.30am - archebion bwyd olaf 6pm Mawrth - Sadwrn 8.30am archebion bwyd olaf 8pm Sul 12pm- archebion bwyd olaf 6pm

Llinellau ffôn 01248 38 28 28 Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am-8.30pm Sul 12pm-6pm

Cynllun Seddi Theatr Bryn Terfel

@TrydarPontio PontioBangor pontio_bangor PontioBangor

Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, neu fersiwn glywedol, cysylltwch ar 01248 38 28 28 Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu Registered Charity Number: 1141565

llwyfan

d— dd— e— f— ff— g— ng— h— l— ll— m— balconi lefel 1 1a— 1b— balconi lefel 2 2a— 2b—

2ch—

c—

1dd— 1d—

r— ph—

n— p—

2c—

1c— 1ch—

a— b— ch—

*Mae Theatr Bryn Terfel yn ofod hyblyg, a gall cyfansoddiad y seddi newid yn dibynnu ar y perfformiad. Ewch i’r wefan i gael y wybodaeth am y perfformiad dan sylw.

Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf ar pontio.co.uk


Cipolwg Pontio Mai – Awst 2019 Mai Sadwrn 4 Sadwrn 4 Mawrth 7 Gwener 10 Sadwrn 11 Mercher 15 Iau 16 Gwener 17 Sul 19 Mercher 22 Iau 23 Iau 30 Gwener 31

Amser 1.30pm a 6.30pm 7pm 7.30pm 7.30pm 2pm a 4pm 8pm 7pm 8pm 6pm 2pm 8pm 7.30pm 11.30am - 2pm

Sioe Haf Cerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) Lleuwen a’r band Yn y Golau Seann Walsh BLAS: Lleisiau’r Stryd Rhys Meirion yn dathlu’r 20ain Cyngerdd Blynyddol Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn Prynhawn Ffilm, Cacen a Chân Clwb Comedi Cyngerdd Gala Diwedd Blwyddyn Disgo Trac Sain

Tud 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 22 23

Mehefin Mawrth 4 Mercher 5 Gwener 7 Sadwrn 8 Sadwrn 8 Mawrth 18 Mercher 19 Iau 20 Sadwrn 22 Sul 23 Mawrth 25 Iau 27 Gwener 28 Sadwrn 29

7.30pm 7.30pm 8pm 8pm 10am - 4pm 10am a 1pm 10am 8pm 2 - 6pm 5pm 7.30pm 7pm 7pm 7.30pm

Romeo a Juliet Y Brain/Kargalar Gareth Bonello / Georgia Ruth / Toby Hay Sinema: Take That: Greatest Hits Live Diwrnod Hwyl i’r Teulu Rwtsh Ratsh Rala Rwdins Rwtsh Ratsh Rala Rwdins Clwb Comedi Synthesis Canu am Noddfa Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ’Sgrifennodd Honna? Legally Blonde The Musical JR. Legally Blonde The Musical JR. Cwmwl Tystion/Witness

24 26 28 30 32 36 36 37 38 39 40 41 41 42

Gorffennaf Mawrth 2 Iau 4 Gwener 5 Sadwrn 6 Sul 7 Sadwrn 13 Sul 14 Gwener 19 Sadwrn 20 Sul 21 Llun 22 Mawrth 23 Mawrth 23 Mercher 24 Iau 25

2pm 7.30pm 7.30pm 3pm a 7.30pm 6pm 7pm 2.30pm 7.30pm 7.30pm 3pm a 7.30pm 7.30pm 8.30pm 6pm 2.30pm a 7pm 8pm

Sistema Cymru - Codi’r To! Don Pasquale Globe ar Daith Globe ar Daith Globe ar Daith (profiad sefyll ar gael) Molly Mocha’s World of Candy Molly Mocha’s World of Candy Gwledd Syrcas Feast: Ethiopian Dreams Gwledd Syrcas Feast: Ethiopian Dreams Gwledd Syrcas Feast: Ethiopian Dreams Gwledd Syrcas Feast: Ethiopian Dreams Gwledd Syrcas Feast: Ethiopian Dreams Gwledd Syrcas Feast: Drudwen Gwledd Syrcas Feast: Drudwen Bardd

43 44 46

www.pontio.co.uk 01248 38 28 28

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf www.pontio.co.uk

DD

G W LE S SYRCA FEAST

GORFFENNAF

18-27

2019

y wefan Gweler nylion am fa pellach

48 48 52 52 52 52 52 54 54 55

@TrydarPontio

PontioBangor

Pontio_Bangor

PontioBangor

1


C Keith Morris

G W LE D D

FEAST

2019

NAF GORFFEN Y L 18-27 JUN ANGOR PO TIO B

Gwirfoddolwyr Pontio ac aelodau o’r gymuned yn dewis sioe ar gyfer gŵyl syrcas sydd i ddod! Mae Migrations, cwmni cymunedol di-elw o Ogledd Cymru, yn dod â chelf gyfoes ryngwladol i Gymru gan ddatblygu cynlluniau cydweithio arloesol, comisiynau a phartneriaethau yng Nghymru a thu hwnt. Yn ddiweddar sefydlodd Y Dewis Cymunedol, project sy’n ceisio sicrhau bod aelodau’r cyhoedd yn deall y prosesau y tu ôl i benderfyniadau artistig. Ym mis Ebrill 2018 ymunodd Migrations mewn partneriaeth â Pontio gan weithio gyda grŵp o wirfoddolwyr Pontio ac aelodau’r cyhoedd i drefnu digwyddiad ar gyfer Pontio.

2

Arweiniodd Migrations hwy drwy’r broses o ystyried nifer o berfformiadau posibl, gan drafod eu rhinweddau artistig, y potensial i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd presennol Pontio a rhai newydd, a’r cyd-destunau gorau posibl i’w cyflwyno, ymhlith pethau eraill. Maent wedi dewis Pelat gan yr artist o Sbaen, Joan Català, i’w gyflwyno fel rhan o Ŵyl Syrcas Pontio sydd i’w chynnal rhwng 18 - 27 Gorffennaf 2019. Cadwch lygad am amseroedd cynnal Pelat yn rhaglen y Wledd Syrcas, a gyhoeddir ddiwedd mis Mai.


Ymunwch â'n tîm o wirfoddolwyr! Oes gennych chi ...? -D diddordeb mewn theatr, cerddoriaeth fyw a ffilmiau

- Awydd i ddysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd

-F rwdfrydedd i roi gwasanaeth arbennig o dda i gwsmeriaid

- Ddymuniad i gyfarfod â phobl newydd ac adeiladu eich hyder

Credwn y dylai'r Celfyddydau fod yn gynhwysol ac felly rydym yn annog gwirfoddolwyr o bob cefndir i ymuno â ni - yr unig ofynion yw eich bod dros 16 oed, yn frwdfrydig, yn gyfeillgar ac yn ddibynadwy.

Oes gennych chi ddiddordeb? gwirfoddolwyr@pontio.co.uk 01248 382666

3


Cegin advert

Er mwyn darparu gwasanaeth gwell i chi bydd Cegin yn symud i lefel 2 Byddwn yn parhau i weini bagels ffres, wafflau cartref, cacennau blasus a bydd ein pitsas poblogaidd yn dychwelyd i’r fwydlen. Am fwy o wybodaeth ewch i’r dudalen bwyd a diod ar www.pontio.co.uk

Oriau agor: Dydd Llun 8.30am - archebion bwyd olaf 6pm Dydd Mawrth - Dydd Sadwrn 8.30am - archebion bwyd olaf 8pm Dydd Sul 12pm - archebion bwyd olaf 6pm

4

Bwyd a Diod Food & Drink


Anodd credu bod blwyddyn o’r bron ers i ni groesawu’r Globe i Theatr Bryn Terfel yma am y tro cyntaf – ac mae’n braf cael dweud eu bod yn dychwelyd y tymor hwn i Pontio gyda thair drama, Twelfth Night yn dilyn llwyddiant y llynedd, Comedy of Errors a’r Pericles llai cyfarwydd – gyda llu o sgyrsiau a gweithdai, bwyd a diod Shakespearaidd eu naws i chi fwynhau hefyd! Cawn ddod â bydoedd y celfyddydau a’r gwyddorau ynghyd ar gyfer project SYNTHESIS mewn modd hwyliog a hygyrch i bawb gael ei brofi, a bydd drama Lleisiau’r Stryd dan adain project BLAS yn cynnig llwyfan i’r lleisiau hynny sydd yn ceisio cael eu clywed. Bydd Gŵyl GWLEDD SYRCAS Pontio eleni yn dathlu’r ‘byd wrth ein traed’ – gyda chynhyrchiad gan gwmni syrcas o Ethiopia Circus Abyssinia a chynhyrchiad newydd sbon gan gwmni lleol Cimera – Drudwen, gan gynnig stori gyfarwydd ar y naill law a thechnegau syrcas cwbwl anghyfarwydd ac ysgytwol i chi o fewn yr

un wythnos. Hefyd bydd y dewis arferol o gomedi, cyngherddau, gigs a bale – a Diwrnod i’r Teulu i gyd yng nghwmni Dafydd Iwan, Casia Wiliam a Luned Rhys Parry... gan gynnwys ychydig o Babi Brahms ben bore! Peidiwch ag anghofio chwaith am y dangosiadau ffilm a darllediadau byw o operâu a dramâu yn ein sinema... mae Pontio yn disgwyl amdanoch... dewch i ymuno â ni!

Elen ap Robert Cyfarwyddwr Artistig

5


BARGEN FWYD

SINEMA

Pob Dydd Mercher ac yn ystod gwyliau ysgol* *Ac eithrio rhai perfformiadau gweler gwefan am fanylion

£6

TOCYN SINEMA

£12

TOCYN SINEMA :

bu I 6arche

Pitsa plentyn + diod meddal + popcorn

Pitsa 10” + diod*

(*naill ai gwydraid o win tŷ, potel o gwrw neu ddiod feddal)

Ffoniwch neu ewch i’n swyddfa docynnau ar 01248 382828

pontio.co.uk


7 DIWRNOD YR WYTHNOS AGORED I BAWB

1 Sgrin 3D 70 dangosiad y mis 15 ffilm newydd y mis 1 llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr fyw Mae rhaglen Sinema Pontio at gael ar-lein a thrwy gyhoeddiad misol a ddosberthir yn lleol ac yn y ganolfan. I dderbyn bwletinau e-bost wythnosol, crëwch gyfrif ar-lein yn www.pontio.co.uk gan roi tic wrth ymyl ‘Sinema’ yn y categori diddordebau. Dilynwch y newyddion ffilm diweddaraf ar Trydar @sinemapontio

7 DIWRNOD YR WYTHNOS - AGORED 7 DAYS A WEEK I BAWB - ALL WELCOME

SINEMA CINEMA

Ebrill • April, 2019

Archebwch ar pontio.co.uk 01248 38 28 28

PONTIO BA NGOR

Dumbo, Wild Rose, ROH Live, At Etern The White Crow, ity’s Gate, Girl, Life of Brian a llawer mwy! and much more!

@sinemapontio

7


Darllediadau byw yn Sinema Pontio...

ROH LIVE: MIXED TRIPLE BILL (Ballet) (Wedi’i Recordio) Nos Sul 19 Mai

ROH Live: ROMEO AND JULIET (Ballet) Nos Fawrth 11 Mehefin ROH LIVE: FAUST (Opera) Nos Fawrth 30 Ebrill

Yn fyw o Shakespeare’s Globe

NTLIVE:ALL MY SONS Nos Fawrth 14 Mai

Gweler y daflen sinema fisol am fanylion dangosiadau byw eraill nad ydynt wedi eu cyhoeddi eto a rhestr sinema lawn, neu cysylltwch â’r 8 Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28

THE MERRY WIVES OF WINDSOR Nos Iau 20 June

NTLIVE: SMALL ISLAND Nos Iau 27 Mehefin


Tymor Sinema Glyndebourne Mae Glyndebourne yn dychwelyd i sinemâu gyda thri chynhyrchiad o’i Ŵyl 2019. Ceir cyfle i wylio a gwrando ar rai o’r prif glasuron operatig gyda’u cerddoriaeth liwgar a grymus sy’n sicr o daenu eu hud a’u lledrith dros unrhyw gynulleidfa.

The Barber of Seville (Il barbiere di Siviglia) (Recordiwyd yn fyw yn 2016)

Dydd Sul 14 Gorffennaf 5.30pm Mae drygau ac anrhefn yn rhemp yng nghomedi fwyaf poblogaidd Rossini. Mae gan Figaro, Barbwr nodedig Seville, gyfrwystra dihysbydd. Daw ei egni chwareus yn fyw yng nghynhyrchiad disglair y cyfarwyddwr Annabel Arden. Mae hwn hefyd yn gyfle arall i ddal Danielle de Niese, sy’n chwarae’r Rosina benderfynol.

Cinderella (Cendrillon) (Yn Fyw) Dydd Sul 30 Mehefin 5.30pm Cynhyrchiad newydd sbon a gyfarwyddir gan yr actor a’r cyfarwyddwr o fri, Fiona Shaw (Harry Potter, Killing Eve). Dyma stori glasurol Cinderella yn cael ei hadrodd drwy sgôr synhwyrus a mawreddog y cyfansoddwr Massenet. Mae ffefryn Glyndebourne a’r seren ryngwladol, Danielle de Niese, yn chwarae’r brif ran yn yr opera ddisglair a lliwgar hon.

£15 oedolion £13 myfyrwyr a dros 60 £10 o dan 18 I archebu: www. pontio.co.uk 01248 38 28 28

The Magic Flute (Die Zauberflöte) (Yn fyw) Dydd Sul 4 Awst 5.30pm Mae comedi fwyaf hudolus Mozart, The Magic Flute, yn dychwelyd i Glyndebourne am y tro cyntaf ers dros ddegawd. Mae’r cynhyrchiad newydd hwn gan y ddeuawd cyfarwyddo/ dylunio enwog, Barbe & Douce, yn addo cymryd golwg ffres a chwareus ar wleidyddiaeth gender drafferthus yr opera. Mae Brindley Sherratt, y bas amlwg o Brydain, yn serennu fel Sarastro, ochr yn ochr â chantorion ifanc cyffrous, gan gynnwys Caroline Wettergreen, Sofia Fomina a Björn Bürger. 9


Dydd Sadwrn, 4 Mai 1.30pm a 6.30pm Theatr Bryn Terfel Dawns Prifysgol Bangor

Sioe Haf £5

£4 myfyrwyr a rhai o dan 18 Mae Dawns Prifysgol Bangor yn cynnal eu sioe derfynol o’r flwyddyn academaidd, a’r tro yma bydd yn fwy ac yn well nag erioed. Fel clwb maent wedi torri pob record flaenorol ac wedi bod yn gweithio fel yr andros i aros ar y brig drwy’r flwyddyn.

10

Cewch gyfle i weld eu dawnsiau rhyfeddol, sydd ymysg y gwylltaf eu harddull maent erioed wedi eu dysgu a’u llwyfannu. Maent wedi bod yn ymarfer mewn gweithdai proffesiynol drwy gydol y flwyddyn gan gynyddu eu medrusrwydd yn sylweddol. Dewch draw i’w cefnogi, hon fydd eu sioe fwyaf eto... peidiwch â’i cholli!


Nos Sadwrn, 4 Mai 7pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor Cerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor Côr ar y Bryn Côr Siambr Prifysgol Bangor £12/£10 i rai dros 60 £5 i fyfyrwyr a rhai o dan 18 Terence Ayebare a Andrew Powis unawdwyr Chris Collins arweinydd Alex Winberg arweinydd cynorthwyol J. S. Bach: Y Dioddefaint yn ôl Sant Mathew Bydd tri chôr yn dod ynghyd i berfformio un o gampweithiau cerddorol mawr y byd.

Mae’r Dioddefaint yn ôl Sant Mathew yn cyflwyno stori’r Pasg trwy ddilyniant o gerddoriaeth ogoneddus sydd, ar wahanol adegau, yn ddramatig, yn fyfyriol, yn ysgogi’r meddwl ac yn fawreddog. Fe’i perfformiwyd gyntaf yn Leipzig ar Ddydd Gwener y Groglith 1727, ac fe’i hystyrir yn gyffredinol fel un o weithiau mwyaf Bach, a’r mwyaf operatig o oratorios.

11


Nos Fawrth, 7 Mai 7.30pm Stiwdio Cyd-gynhyrchiad gan Carys Eleri a Canolfan Mileniwm Cymru

“Hilariously relatable, a really special intimate evening” Theatre Full Stop

Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) £12 £10 gostyngiadau Sioe gwyddoniaeth-comedicerddoriath-un-fenyw. Wedi’i chreu gan actores a chantores Gymraeg, Carys Eleri, mae Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) yn dod i Pontio yn syth o’r Adelaide Fringe Festival. Sioe uffernol o onest a doniol am niwrowyddoniaeth cariad ac unigrwydd. Trwy dynnu ar ei phrofiadau

12

personol, mae Carys yn cyfuno caneuon clyfar a gwirion (The Love Monger, Space and Time, Tit Montage) gyda straeon o’r galon am yr elfennau da, drwg a dryslyd mewn perthynas. Wrth ymchwilio i wyddoniaeth hormonau a pham y mae cariad wir i gyd am yr ymennydd, darganfyddwch sut mae cariad yn gweithio, pam bod e’n gwneud ni mor wallgof a pham mai cwtsho yw’r ateb.

16+ dylech ddisgwyl cynnwys sy’n addas i oedolion. Sioe yn Saesneg.


Nos Wener, 10 Mai 7.30pm Theatr Bryn Terfel

ung

yr Yo C Em

“This is an album of raw, rooted and radiant music” From the Margins

“Un o artistiaid mwyaf arwyddocaol Cymru” Elen Ap Robert

Lleuwen a’r band £13

Cywion Cranogwen yn cefnogi

£11 gostyngiadau Mae’n bleser gennym groesawu Lleuwen i Pontio ym mis Mai fel un o bedwar perfformiad ar y daith yma. Yn chwarae’n fyw gyda’i band, bydd hwn yn gyfle i chi wrando arni’n canu caneuon oddi ar ei halbwm ysgytwol ac ysbrydoledig, Gwn Glân a Beibl Budr, sydd allan rŵan gan Recordiau Sain.

Ceir amrywiaeth eang yma, o’r gân syml ‘Bendigeidfran’, a ysgrifennodd i’w phlant y bore wedi pleidlais Brexit, i ganeuon yn ymdrin â dibyniaeth, ysbrydiaeth, twf trefol a chrebachu cefn gwlad: traffig lôn, traffig ffôn a thraffig meddwl. Mae Lleuwen hefyd yn troi at hen emynau – alawon a geiriau sydd yn 300 oed a hŷn - i’w helpu i fynegi pryderon cymdeithas heddiw a gwneud synnwyr ohonynt.

“Dyma albwm dywyll, ddirdynnol; mae’n gynnil ac yn treiddio i’ch cwsg, yn tarfu ar eich breuddwydion; mae’n gampwaith ac mi fydd yn glasur.” Angharad Penrhyn Jones, O’r Pedwar Gwynt

Mae’r albwm allan ar Recordiau SAIN. Bwydlen arbennig ar gael yn Cegin

13


Dydd Sadwrn, 11 Mai 2pm a 4pm Stiwdio Digwyddiad Rhannu:

Yn y Golau £5 Mae Yn y Golau yn broject ymchwil a datblygu i lunio perfformiad dawns fertigol newydd sbon i deuluoedd. Gan adeiladu ar gydweithio blaenorol rhwng y gwyddonydd ffotoneg Ray Davies a Kate Lawrence ar gyfer gwaith comisiwn Synthesis Pontio yn 2016, mae’r project yma’n gofyn rhai cwestiynau mawr fel: Sut allwch chi glywed golau? Sut ydych chi’n mesur y lleuad? Allwch chi glywed synau yn y gofod?

14

Yr uchelgais yw creu profiad synhwyraidd o rai ffenomenau golau naturiol, megis y ‘Glec Fawr’ (sydd, mewn gwirionedd, yn dawel), yr awrora a bioymoleuedd. Gan gydweithio â’r cyfansoddwr Guto Puw a’r dylunydd gwrthrychau Femke van Gent, gwahoddir y gynulleidfa i brofi sain, golau a mudiant drwy’r holl synhwyrau. Ni roddir unrhyw ddisgrifiad sain ar gyfer y perfformiad arbrofol hwn er mwyn darganfod faint o wybodaeth weledol y gellir ei chyfleu trwy ddulliau synhwyraidd eraill.

Yn dilyn perfformiad 20 munud, ceir trafodaeth a gweithdy lle caiff gwirfoddolwyr roi cynnig ar ddawns fertigol os hoffent. Mae’r perfformiad ymchwil hwn yn addas ar gyfer pob oedran ac rydym yn rhoi pob anogaeth i’r gynulleidfa ei drafod a rhoi sylwadau arno wedyn. Nifer cyfyngedig all ddod, felly archebwch le’n fuan rhag cael eich siomi. Rydym yn datblygu pecyn addysg a bydd cyfle i chi roi sylwadau arno yn y digwyddiad.


Nos Fercher, 15 Mai 8pm Theatr Bryn Terfel Off The Kerb Productions yn cyflwyno

AFTER THIS ONE, I’M GOING HOME £15 Enwebwyd Seann Walsh am Wobr Gomedi Caeredin ac yn ôl ei gyfaddefiad ei hun ef yw’r “Lie-In King”, ac mae The Guardian o’r farn mai Walsh yw “unquestionably the best observational comic of his generation”. Dychwelodd Seann Walsh yn ddiweddar o’i daith yn yr Unol Daleithiau, lle’r ymddangosodd ar y rhaglen deledu Conan, a bellach mae ar daith drwy wledydd Prydain. Mae’r creadur blêr, tanllyd a bywiog hwn, sydd eto’n hoff iawn o segura, yn cael ei gydnabod bellach yn un o’r comediwyr byw gorau i ddod o’r Deyrnas Unedig. Daeth Seann i’r amlwg gyntaf fel actor yn rhaglen gomedi Comedy Central, Big Bad World, ac yn fuan wedyn cafodd y brif ran yn Monks (BBC One). Aeth ati i ddefnyddio ei ddoniau comedi corfforol yng nghomedi ddi-eiriau Sky, Three Kinds of

Stupid, ac arweiniodd hynny at iddo gynhyrchu, ysgrifennu ac ymddangos yn ei gyfres gomedi ddi-eiriau ei hun ar y we, The Drunk. Hefyd ysgrifennodd a serennu yn ei ffilm fer ei hun ar gyfer Sky Arts ac yn awr mae’n cyd-serennu yng nghyfres gomedi newydd sbon Jack Dee, Bad Move (ITV one). Yn ddiweddar ymddangosodd am y tro cyntaf mewn ffilm hir fel nemesis y plant yn y ffilm i deuluoedd, 2:hrs. Mae Seann yn brysur ar ei ffordd i fod yn un o’r actorion comedi gorau ym Mhrydain. 14+ Bwydlen arbennig yn Cegin Cynnig byrgyr a chwrw ar gael

15


Nos Iau, 16 Mai 7pm Stiwdio Project cyfranogol celfyddydau BLAS

Lleisiau’r Stryd £3 - bydd cyfraniad o’r elw yn mynd tuag at Hostel y Santes Fair Darlleniad o “Lleisiau’r Stryd - Drama i Leisiau”, a gofnodwyd air am air gan fyfyrwyr o Ysgol Friars. Yn dilyn llwyddiant ein project ‘Lleisiau / Voices’ yn 2017 ac ‘Ein Lleisiau / Our Voices’ yn 2018, eleni rydym yn rhoi llais i bobl sydd wedi dod i’r sefyllfa o fod yn ddigartref. Dyma benllanw project sy’n pontio’r cenedlaethau. Cymerwyd rhan ynddo gan ddefnyddwyr gwasanaeth Hostel y Santes Fair, Bangor a Tai Gogledd Cymru, a myfyrwyr Drama ac Iechyd

16

a Gofal Cymdeithasol o Ysgol Friars, dan arweiniad BLAS, rhaglen gyfranogol celfyddydau Pontio i bobl ifanc.

Arweinir y noson arbennig hon gan y cyflwynydd Gwion Hallam, sydd wedi bod yn rhan o broject Lleisiau / Voices o’r dechrau un.

Rhoddwyd cyflwyniad i 10 o fyfyrwyr i waith Hostel y Santes Fair gan Reolwr yr Hostel, Hayley Owen, cyn iddynt ymweld â’r hostel a dod i adnabod rhai o’r gymuned yno dros gyfnod o bum wythnos. Recordiwyd y sgyrsiau a gafwyd yno a’u datblygu’n ddrama air am air gan y bobl ifanc dan gyfarwyddyd Branwen Davies, dramodydd ac ymarferwr theatr.

Bydd y noson yn cynnwys cyfweliadau gyda’r bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y project, gan fod taith y project hwn yr un mor bwysig â’r cynhyrchiad terfynol. Digwyddiad dwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer y drafodaeth banel.


Nos Wener, 17 Mai 8pm Theatr Bryn Terfel Pontio yn cyflwyno

Rhys Meirion yn dathlu’r 20ain

Gyda mawr ddiolch am eu nawdd i:

£15 £12 myfyrwyr ac o dan 18 Noson arbennig o gân a sgwrsio i ddathlu 20 mlynedd o ganu proffesiynol. Bydd Rhys Meirion yn rhannu’r llwyfan gyda rhai o’r artistiaid a ffrindiau sydd wedi chwarae rhan yn ei daith hyd yma.

Yn ymuno â Rhys ar y noson bydd: Nic Parry Côr Rhuthun a Robat Arwyn Elin Fflur Steffan Morris (sielo) Brian Hughes (piano) Elan Meirion Dylan Cernyw (telyn)

Mae Rhys Meirion yn gymrawd o Brifysgol Bangor ac yn ganwr preswyl yn Galeri, Caernarfon. Noson yn y Gymraeg. Bwydlen arbennig yn Cegin

17


Cyngerdd Blynyddol Gwasanaeth Cerdd Ysgolion GWYNEDD A MÔN

Annual Concert 19.5.2019 6pm Theatr Bryn Terfel, Pontio

Tocynnau/ Tickets: Oedolion/ Adults £5 Plant/ Children £3 Cysylltwch â/ Please contact: Pontio 01248 382828

Ensemble Chwythbrennau Hŷn Senior Woodwind Ensemble Arweinydd/ Conductor: Miss Rebecca Bateson Ensemble Chwythbrennau Iau Junior Woodwind Ensemble Arweinydd/ Conductor: Mrs Jane Parry Ensemble Llinynnol Hŷn Senior String Ensemble Arweinydd/ Conductor: Mr Alfred Barker Ensemble Llinynnol Iau Junior String Ensemble Arweinydd/ Conductor: Mrs Ffion Evans Côr Telyn Rhanbarth Meirionnydd Meirionnydd Area Harp Consort Arweinydd/ Conductor: Mr Dylan Rowlands + Gwahoddedigion eraill 18+ Other guests

Uned 13b, Llys Castan, Ffordd y Parc, Parc Menai, Bangor, LL57 4FH

www.cerdd.com

RHIF ELUSEN COFRESTREDIG / REGISTERED CHARITY NUMBER :1097614


Dydd Mercher, 22 Mai 2pm Sinema Pontio a Bar Ffynnon Pontio yn cyflwyno

Prynhawn Ffilm, Cacen a Chân: The King and I (U) £4.50 Ymunwch â ni yn Sinema Pontio ar gyfer un o brynhawniau poblogaidd Ffilm, Cacen a Chân. Bydd y prynhawn yn dechrau gyda dangos y clasur o ffilm gan 20th Century Fox, The King and I, gydag Yul Brynner a Deborah Kerr. Yna ceir adloniant byw yn yr egwyl am 3pm dan arweiniad dau o animeiddwyr lleisiol Opera

Cenedlaethol Cymru, Morgana Warren-Jones a Sioned Foulkes, gydag Annette Bryn Parri yn cyfeilio ar y piano. Mwynhewch de a chacen, cyn dychwelyd i’r sinema i fwynhau hanner olaf y ffilm.

“Prynhawn gwych. Edrych ymlaen at ddod yn ôl. ” “Hoffwn weld mwy o ddigwyddiadau fel hyn.” “Syniad ardderchog.” Sylwadau Cynulleidfa, 2018

Digwyddiad Dewch i Ganu Opera Cenedlaethol Cymru Wedi ei anelu at oedran 60+

19


20


Pryd Clwb Comedi

Byrgyr a Chwrw* Ar gael i bob digwyddiad Clwb Comedi

£10

*Neu wydriad 175ml o win tŷ neu ddiod ysgafn Byrgyr llysieuol ar gael Bwyd a Diod Food & Drink

burger.indd 4

14/03/2019 16:03:2

Archebwch eich diodydd ymlaen llaw yn y bar i'w mwynhau yn ystod yr egwyl. Bwyd a Diod

21 Food & Drink


Nos Iau, 30 Mai 7.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor

Cyngerdd Gala Diwedd Blwyddyn £12 £10 dros 60 £5 myfyrwyr a rhai o dan 18 Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor Côr Siambr a Chorws Symffoni Prifysgol Bangor Cerddorfa a Chôr Cymdeithas Gerdd Prifysgol Bangor

22

Band Pres Prifysgol Bangor Band Cyngerdd Prifysgol Bangor Cerddorfa Linynnol Prifysgol Bangor Band Jas Prifysgol Bangor

Wrth i ni gyrraedd diwedd blwyddyn brifysgol arall, mae’r gymuned fwyaf o gerddorion yng Ngogledd Cymru yn dod at ei gilydd ar gyfer ei dathliad blynyddol o gerddoriaeth y brifysgol. Ymunwch â ni i fwynhau cyngerdd hynod amrywiol a dyrchafol, gyda cherddoriaeth at ddant pawb!


Dydd Gwener, 31 Mai 11.30am-2pm

Disgo Trac Sain £1 Dewch i ymuno â ni i fwynhau FFILM boblogaidd a disgo trac sain yn y Stiwdio dros hanner tymor. Bydd y ffilm yn addas i’r teulu cyfan a dewch i ddawnsio a chael gwared ar rywfaint o egni cyn neu ar ôl y ffilm.

Adnodd ar gyfer dysgu, ymchwil, addysgu’r cyhoedd a mwynhad. Mae gan Ardd Fotaneg Treborth gwlâu planhigion, glaswelltir sy’n doreithiog mewn rhywogaethau, pyllau, gardd goed, gardd Tsieineaidd, choedir hynafol a chynefin creigiog ar lannau’r Fenai. Mae chwech tŷ gwydr yn cynnig awyrgylch arbenigol ar gyfer casgliadau planhigion trofannol a thymherus, tegeirianau a phlanhigion cigysol. Rydym yn trefnu sgyrsiau, sêl planhigion, gweithdai arbenigol, crefftau (a mwy!) yn rheolaidd.

Mae gwisgo fel eich hoff gymeriad ffilm yn cael ei annog yn fawr iawn! Gweler ein rhaglen sinema fisol neu’r wefan am fanylion pa ffilm fydd yn cael ei dangos ar y dyddiad hwn.

teulu family

Sesiynau gwirfoddoli rheolaidd phob dydd Mercher a dydd Gwener DIDDORDEB MEWN GWIRFODDOLI? CYSYLLTWCH Â NI Gardd Fotaneg Treborth Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ www.treborth.bangor.ac.uk treborth@bangor.ac.uk 01248 353398

23


Nos Fawrth, 4 Mehefin 7.30pm Theatr Bryn Terfel Ballet Cymru

Romeo a Juliet £13 £11 gostyngiadau Gostyngiad 10% i grwpiau o 10 neu fwy From forth the fatal loins of these two foes A pair of star-crossed lovers take their life Yn dilyn llwyddiant eu hymweliad diwethaf, mae Ballet Cymru, cwmni sydd wedi ennill gwobr y Critics’ Circle, yn cyflwyno addasiad rhyfeddol o gampwaith Shakespeare “Romeo and Juliet” unwaith eto yn Pontio. Trwy gyfrwng coreograffi dramatig a thelynegol ceir ymladd dwys, deuawdau angerddol a themâu bydeang. Mae gwisgoedd gwych a thafluniau fideo anhygoel yn 24 byd o berygl a chyffro lle creu

mae dau gariad ifanc yn cael eu dal mewn hen gweryl oesol. Mae Romeo a Juliet yn waith ar y cyd dynamig ac unigryw rhwng tri o sefydliadau celfyddydau amlycaf Cymru, Ballet Cymru, Coreo Cymru a Glan yr Afon yng Nghasnewydd. Yn Romeo a Juliet ceir gwisgoedd gan Georg MeyerWiel a astudiodd yn y Coleg Celf Brenhinol ac sydd wedi creu gwisgoedd i rai o gwmnïau mwyaf blaenllaw’r byd, gan gynnwys Cwmni Dawns Rambert a Theatr Ddawns Awstralia. Canllaw oed: 7+

Yn ystod eu hymweliad, bydd gwaith cymunedol yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Pontio


Cynhyrchiad Dawns Graddfa Fawr Gorau Wales Theatre Awards

C Sleepy Ro

bot

25


Nos Fercher, 5 Mehefin 7.30pm Stiwdio Cynhyrchiadau Be Aware

Y Brain/ Kargalar £10 £8 myfyrwyr a rhai o dan 18 Cyfarwyddir gan Memet Ali Alabora

Tem, sy’n siarad Cymraeg, yn anturus ac yn caru natur.

Perfformir gan Pınar Öğün, Rebecca Smith-Williams

Mae drama newydd Be Aware, a ysgrifennwyd gan Meltem Arikan, gydag elfennau Cymraeg gan Sharon Morgan, yn edrych ar faterion yn ymwneud â pherthyn, hunaniaeth ac iaith.

Ar ôl blynyddoedd o ormes a sensoriaeth, symudodd yr awdures Meltem Arikan i Gymru lle mae’n teimlo ymdeimlad dwfn o berthyn. Mewn cyflwr o argyfwng personol, mae Mel, y rhan ohoni sy’n siarad Twrceg ac yn teimlo dan orthrwm, yn cyfarfod am y tro cyntaf â’r rhan arall o’i chymeriad, sef

26

Mae hwn yn gynhyrchiad dwyieithog (Twrceg/ Cymraeg) gyda darpariaeth Saesneg ar gael. Canllaw oed: 11+


27


Nos Wener, 7 Mehefin 8pm Theatr Bryn Terfel Cabaret Pontio yn cyflwyno

Gareth Bonello Georgia Ruth Toby Hay £12 £10 gostyngiadau Gostyngiad 10% i grwpiau o 10 neu fwy

Yn y noson wych hon bydd tri o gerddorion cyfoes gorau Cymru yn cydweithio gan ddod â’u sioe fyw gyntaf i Pontio. Gan ddefnyddio deunydd gwreiddiol a thraddodiadol, bydd y triawd yn perfformio darnau newydd sy’n edrych ar y cwlwm arallfydol sy’n bodoli rhwng tirwedd a phobl Cymru. Disgwyliwch noson o ddarnau crefftus sy’n gwneud y ffiniau rhwng y Gymru gyfoes a mwyniannau arallfydol Annwn yn annelwig. 28


Toby Hay Mae Toby Hay yn gitarydd a chyfansoddwr sy’n byw ger Rhaeadr Gwy yng nghanolbarth Cymru. Wedi’i ysbrydoli gan hanes, pobl a thirwedd, mae Toby yn ysgrifennu darnau atgofus a hyfryd i’r gitâr sy’n cludo’r gwrandäwr yn ddiymdrech i fynyddoedd ac afonydd ei famwlad. Mae Toby, a enwebwyd ddwywaith am Wobr Cerddoriaeth Cymru, wedi teithio’n helaeth ym Mhrydain ac Iwerddon dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi meithrin enw iddo’i hun fel perfformiwr byw gwefreiddiol.

Georgia Ruth Cerddor o Aberystwyth yng Ngorllewin Cymru yw Georgia Ruth. Enillodd ei halbwm cyntaf, Week of Pines, Wobr Cerddoriaeth Cymru yn 2013 ac fe’i henwebwyd am ddwy o Wobrau Gwerin BBC Radio 2. Cyhoeddodd ei hail albwm, Fossil Scale, yn 2016. Gyda’i seiniau arloesol, cafodd ganmoliaeth gan The Independent am ei ‘wealth of sonic detail’. Roedd Georgia, sydd hefyd yn delynores a phianydd medrus, yn gantores wadd ar albwm Futurology y Manic Street Preachers, ac mae wedi teithio’n helaeth yn India fel rhan o grŵp Cymreig/Indiaidd Ghazal, Ghazalaw.

Gareth Bonello Cyfansoddwr caneuon o Gaerdydd yw Gareth Bonello ac mae’n perfformio dan yr enw llwyfan The Gentle Good. Enillodd ei albwm Ruins/Adfeilion Wobr Cerddoriaeth Cymru yn 2017 ac enillodd Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014 am Y Bardd Anfarwol. Mae Gareth yn ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn cael ei dynnu at berseinedd cynhenid y ddwy iaith. Mae Gareth, sy’n berfformiwr byw caboledig, wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd ac wedi gweithio’n helaeth gydag artistiaid yn Tsieina a Gogledd-ddwyrain India, ac agorodd Gŵyl Cymru-Tsienia gyntaf Pontio yn 2018.

29


“Take That took it and smashed it out of the arena” The Telegraph

“Yet again, the Take That boys have produced the tour of the year” The Sun

30


Nos Sadwrn, 8 Mehefin 8pm Sinema Pontio

Take That: Greatest Hits Live Byddwch yn barod i bartïo yn Sinema Pontio wrth i Gary, Mark a Howard ddod â’u taith ddiweddaraf i’r sgrîn fawr yn FYW Ddydd Sadwrn 8 Mehefin am un noson yn unig! Wrth iddynt ddathlu deng mlynedd ar hugain, y daith hir-ddisgwyliedig hon fydd yr orau eto!

Eisteddwch yn ôl, wrth i Gary, Mark a Howard fynd ar daith hanes cerddorol anhygoel Take That. Gan berfformio rhai o’u caneuon enwocaf o’r tri degawd diwethaf yn ogystal â chaneuon o’u halbwm Odyssey, mae hon yn un i’r ffans! Byddwch yn barod am barti wnewch chi fyth ei anghofio!

“Gary and the boys still Rule the World” Metro (review for wonderland)

Amser: oddeutu 150 munud

31


Dydd Sadwrn, 8 Mehefin 10am – 4pm Ledled yr adeilad Teulu Pontio yn cyflwyno

Diwrnod Hwyl i’r Teulu I ddathlu Diwrnod Cefnforoedd y Byd, byddwn yn agor y drysau ar lawer o hwyl sy’n addas i’r teulu cyfan. Bydd digon i’w weld a’i wneud drwy gydol y dydd, o sesiynau canu Cwm Rhyd-y-Rhosyn gyda Dafydd Iwan i farddoniaeth gyda Bardd Cenedlaethol Plant Cymru, Casia Wiliam. Bydd hefyd ffilmiau i’w mwynhau, cyfle i wneud pethau bach blasus i’w bwyta a cherddoriaeth samba gyda’ch bwced a rhaw.

Sesiwn symud gyda’r babi gydag Angharad Harrop

Samba Bwced a Rhaw Gyda Codi’r To

Darlithfa 2, Lefel 2

Stiwdio, Lefel 2

10am, 1.45pm

10.15am, 10.45am, 11.15am, 11.45am, 12.15pm

£3 (1 oedolyn, 1 plentyn) Sesiynau symud i fabanod a’u hoedolion gan edrych ar bob un o’u synhwyrau. Hyd at oed cerdded. Dwyieithog.

32

AM DDIM ond mae angen tocyn Dewch â’ch bwced a’ch rhaw eich hun a byddwch yn barod i wneud tipyn o gerddoriaeth gyda Codi’r To. Pob oedran. Dwyieithog.

Gweithdy celf gyda Luned Rhys Parry Tu allan i’r Stiwdio, Lefel 2 Galwch heibio 10am 12.30pm, 1.30-3.30pm Dewch i greu ar themâu y môr a cherddoriaeth. Pob oedran. Dwyieithog.


Gweithdy Barddoniaeth Gyda Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru Caban 10am (Cymraeg), 11.30am (Saesneg) (Blynyddoedd Ysgol 3 a 4) 1.30pm (Cymraeg), 3pm (Saesneg) (Blynyddoedd Ysgol 5 a 6) £3 Ymunwch â ni am sesiwn fywiog o chwarae gyda geiriau ac ysgrifennu cerddi am y môr ar Ddiwrnod Cefnforoedd y Byd.

Clwb Minecraft Sinema 11am £1

Straeon o’r Môr Darlithfa 2, Lefel 2 11.45am (Cymraeg), 12.45pm (Saesneg) Addurnwch eich bisgedi ar thema’r môr gyda staff Cegin a’u mwynhau wrth wrando ar straeon o’r môr gyda Mared Elliw Huws. Pob oedran.

Cyngerdd Brahms i Fabis Pontio Lefel 0 12.45pm Hanner awr o gerddoriaeth glasurol fyw i fabis a’u teuluoedd. Mae rhyddid i’r babis fwydo, cropian a dawnsio i’r gerddoriaeth! 0-36 mis. Dwyieithog.

Ffilm Sinema Pontio 2pm Edrychwch ar raglen sinema mis Mehefin i weld pa ffilm a ddangosir.

Dafydd Iwan: Cwm Rhyd-yRhosyn Theatr Bryn Terfel 2.30pm £6.50 / £22 (pedwar o bobl, o leiaf un o dan 18 oed) Bydd Dafydd Iwan yn cyflwyno sesiwn o hwiangerddi Cymraeg a chaneuon cyfoes o’r gyfres boblogaidd Cwm Rhyd-yRhosyn. Digwyddiad Cymraeg sy’n addas i ddysgwyr. Yn fwyaf addas i rai dan 6 oed. Bwydlen arbennig yn Cegin

33


Rhaglen Pontio i ieuenctid yw BLAS ac mae’n rhoi blas o’r celfyddydau i blant a phobl ifanc. Rydym yn cynnal gweithdai drama wythnosol yn Stiwdio Pontio. Bob dydd Llun Blwyddyn 3 a 4 – 5-6pm Blwyddyn 5 a 6 – 6.15-7.15pm

I archebu lle yn y gweithdai wythnosol, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28, neu cysylltwch â Mared Elliw Huws, m.huws@bangor.ac.uk, am ragor o wybodaeth.

Bob dydd Mercher Blwyddyn 7, 8 a 9 – 6.30-7.30pm Blwyddyn 10-13 – 7.45-8.45pm

Yn ogystal â’r gweithdai, mae BLAS yn gweithio yn y gymuned a chydag ysgolion.

C Iolo Penri

34


Blas o’n gwaith diweddaraf balletLORENT Rumpelstiltskin

Fi, Chdi a Chelwydd

Daeth cwmni dawns balletLORENT yn ôl i Pontio gyda’u cynhyrchiad Rumpelstiltskin.

Ymunodd dau ddosbarth hŷn BLAS, Blwyddyn 7, 8 a 9 a Blwyddyn 10 - 13, i greu sioe wreiddiol. Comedi wirion bost yn dilyn helyntion noson agoriadol y ddrama Lies Spell Murder yn y Green Gable Manor gan Gwmni Theatr Ieuenctid S.A.L. Yn ystod anhrefn yr ymarferion munud olaf, datgelwyd cyfrinach pawb.

Gan ddilyn yr un drefn â’u sioe Snow White yn 2017, cynhaliodd y cwmni glyweliadau i blant lleol i fod yn rhan o’r cynhyrchiad. Roedd pedwar gweithdy, dau yn Ysgol Glancegin, un yn Ysgol Glanadda a Choed Mawr ac un clyweliad agored. Gwahoddwyd y cast ifanc o Snow White i ‘weithdy aduniad’, ac o’r gweithdy hwn dewiswyd un plentyn i chwarae’r Rumpelstiltskin Ifanc ac un i chwarae Merch Ifanc y Bugail. Yn ogystal â’r cast ifanc, roedd clyweliad agored hefyd i’r genhedlaeth hŷn, a dewiswyd pump o ferched arbennig iawn i fod yn rhan o’r sioe.

Ein Lleisiau Cyflwynodd Mared Huws, Cydlynydd Datblygu’r Celfyddydau yn Pontio, dystysgrifau yn Ysgol Friars i’r bobl ifanc a gymerodd ran yn y project Ein Lleisiau. Roedd hwn yn dathlu project llwyddiannus iawn a bontiodd y cenedlaethau.

Dangosiad cyntaf y ffilm ddogfen ‘Archwilio Hyder Merched’ Project Ymchwil Celfyddydau gydag Ysgol Llandygai. Daeth plant, staff a rhieni Ysgol Llandygai i Sinema Pontio i wylio dangosiad cyntaf y ffilm ddogfen ‘Archwilio Hyder Merched’. Dyma oedd canlyniad cyfnod preswyl celfyddydau 10 wythnos yn Ysgol Llandygai.

Diwrnod Cymryd Drosodd Plant mewn Amgueddfeydd Fe wnaeth cast ifanc balletLORENT gymryd Pontio drosodd fel rhan o ymarferiad technegol Rumpelstiltskin trwy ddawnsio ar lwyfan Theatr Bryn Terfel a dysgu am oleuo a chefn llwyfan.

Gyrfa Cymru Mae BLAS, ynghyd â thîm marchnata Pontio, wedi bod yn gweithio gyda Gyrfa Cymru i annog pobl ifanc i feddwl am y celfyddydau fel gyrfa ymarferol iddynt. Eleni, enillodd Pontio y wobr Arian gan Gyrfa Cymru am ein gwaith ymgysylltu.

Gweithdy Ballet Cymru Bu BLAS yn cefnogi Ballet Cymru i gynnal gweithdy bale yn Ysgol Glanadda a Choed Mawr a chydag Ysgol Ddawns Linzi Grace. Cynhaliodd BLAS hefyd nifer o weithdai mewn ysgolion ac yn Pontio fel rhan o’i rhaglen estyn allan. 35


Dydd Mawrth 18 Mehefin, 10am a 1pm Dydd Mercher 19 Mehefin, 10am Theatr Bryn Terfel Cwmni Theatr Arad Goch yn cyflwyno

Rwtsh Ratsh Rala Rwdins £10 oedolion £8 plant Mae Rala Rwdins yn dychwelyd i lwyfannau Cymru! Rwtsh Ratsh Rala Rwdins oedd y cynhyrchiad cyntaf i Arad Goch ei greu yn 1989, ac i ddathlu pen-blwydd Arad Goch yn 30 bydd y cwmni’n mynd â’r sioe ar daith unwaith eto! Ymunwch â’r antur yng nghwmni ein 36

ffrindiau o wlad y Rwla. Cawn glywed helyntion Rwdlan, Y Dewin Dwl a’r Llipryn Llwyd wrth iddynt geisio darganfod cyfrinach fawr y Dewin Dwl, heb anghofio triciau slei‘r hen Strempan. Wedi ei hysgrifennu gan Angharad Tomos a’i chyfarwyddo gan Jeremy Turner.

Addas i blant 3-8 oed a’u teuluoedd. Sioe yn yr iaith Gymraeg


37


Pontio yn cyflwyno

Dydd Sadwrn, 22 Mehefin 2-6pm Cronfa yw Synthesis i annog gwyddonwyr ac artistiaid sy’n gweithio yn y celfyddydau perfformio i ddod ynghyd i ddatblygu syniadau a phontio rhwng dau fyd gwahanol iawn i’w gilydd. Yn dilyn llwyddiant y project cychwynnol, gwahoddwyd ceisiadau eto yn gynharach eleni a bydd hwn yn gyfle i rannu’r ddau gynllun cydweithio celfyddydau/ gwyddoniaeth a ddewiswyd ac sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Carnifal ar Adenydd

Amser-araf

Colin Daimond (Pypedwaith, Celfyddydau a Dawns Carnifal) a Kris Crandell (Gwyddorau Adaraidd)

Rachel Rosen (Artist Rhyngddisgyblaethol) a Dr Vera Fitzsimmons-Thoss (Cemeg Gynaliadwy)

Stiwdio

Stiwdio

AM DDIM

AM DDIM

Gŵyl adar sy’n canolbwyntio ar wyddor hedfan, gan gynnwys gorsafoedd rhyngweithiol lluosog, perfformiad cyfranogol ac arddangosiad dawns proffesiynol. Nod y sesiwn hon yw ennyn diddordeb pawb yng ngwyddor hediad adar - ymsymudiad, anatomeg strwythurol, aerodynameg a phatrymau heidio - trwy berfformiad pypedwaith a dawns sy’n addas i gyfranogwyr ifanc a chynulleidfaoedd o bob oed.

Caiff crisialu a chyrydu gan halen eu trawsnewid o ran graddfa ac amser o’r microsgopig i osodiad rhyngweithiol macrosgopig.

38

Edrychwch ar y wefan am fanylion pellach. Bwydlen arbennig yn Cegin

Cewch olwg ar y broses gydweithredol sydd wrth wraidd Synthesis trwy ymweld â’r arddangosfa yn y cas gwydr a’r sgrin ar Lefel 0.


m

co

Dydd Sul, 23 Mehefin 5pm Theatr Bryn Terfel

os lo T

xfa /O

GB

ab CP

Sing for Sanctuary / Canu am Noddfa £15 £10 gostyngiadau Bydd Côr Cymunedol Bangor a Chôr Rygbi Gogledd Cymru yn ymuno â chorau eraill o’r ardal er budd dwy elusen sy’n gweithio gyda ffoaduriaid. Bydd pob côr yn eich diddanu gyda chaneuon o’u dewis cyn dod at ei gilydd ar gyfer diweddglo gorfoleddus.

Ers tair blynedd bellach, mae Pobl i Bobl wedi anfon deunydd a chymorth ariannol i ffoaduriaid yn Syria, Lebanon, Gwlad Groeg, Ffrainc a’r Rhohingya yn Bangladesh. Maent hefyd wedi cefnogi ffoaduriaid sy’n byw’n lleol.

Mae Croeso Menai ar hyn o bryd yn codi arian er mwyn galluogi teulu i adael gwersyll i ffoaduriaid a dod yma i fyw o dan gynllun Nawdd Cymunedol y llywodraeth. Digwyddiad dwyieithog.

39


Nos Fawrth, 25 Mehefin 7.30pm Stiwdio

Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ’Sgrifennodd Honna? Talwch faint a fynnwch Darlleniadau o ddramâu gan y dramodwyr lleol Sian Northey ac Elin Gwyn. Dyma benllanw cynllun Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru 2019, gyda chyfres o ddarlleniadau o ddramâu newydd gan y don nesaf o ddramodwyr Cymraeg. Mae hwn yn gyfle unigryw i weld canlyniad 10 mis o waith creu a datblygu, dan arweiniad Theatr Genedlaethol Cymru, gan rai o’r dramodwyr Cymraeg newydd mwyaf cyffrous o bob cwr o Gymru. Ym mhob digwyddiad ceir darlleniad o ddramâu newydd 40 gan ddau ddramodydd, gyda

sgwrs i ddilyn gyda’r dramodwyr, y cast a’r cyfarwyddwyr. I gael manylion gweddill y daith, a gwybodaeth bellach am y dramâu, ynghyd â gwybodaeth am y cast a’r cyfarwyddwyr, ewch i theatr.cymru Mae hwn yn gyflwyniad Cymraeg ei iaith. Mae’r Grŵp Dramodwyr Newydd yn cael ei gyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag S4C, Llenyddiaeth Cymru, Pontio, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatrau Sir Gâr, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr y Sherman.

Talwch faint a fynnwch Bydd y darlleniadau ar gyfer y Theatr Gen Creu ar Daith: Pwy ’Sgrifennodd Honna? yn gweithio ar system Talwch faint a fynnwch, sy’n golygu nad oes raid i chi dalu hyd nes byddwch wedi gweld y perfformiad. Bydd angen bwcio tocynnau ymlaen llaw fel arfer, ond does dim gorfodaeth arnoch i dalu hyd nes byddwch wedi gweld y sioe. Gallwch wedyn benderfynu ar bris sydd, yn eich barn chi, yn addas, yn seiliedig ar eich profiad.


Nos Iau, 27 Mehefin Nos Wener, 28 Mehefin 7pm Theatr Bryn Terfel Ysgol Friars

Legally Blonde The Musical JR. £10 Mae penfelen hyfryd Harvard yn hawlio’r llwyfan mewn storm binc ysblennydd yn yr addasiad hwyliog hwn o’r ffilm boblogaidd a’r sioe gerdd a gipiodd wobrau ar Broadway. Mae Legally Blonde The Musical JR. yn daith hwyliog o

ymrymuso ac ehangu gorwelion. Mae caneuon cyfarwydd y sioe yn llawn hiwmor, ffraethineb a sas - gan godi aelodau’r cast a chynulleidfaoedd fel ei gilydd i dir uwch!

41


Nos Sadwrn, 29 Mehefin 7.30pm Theatr Bryn Terfel

Cwmwl Tystion/ Witness £14/ £12 Tocyn bargen gynnar ar gael £12 / £10 cyn 31 Mai Tomos Williams trwmped Huw Warren piano Rhodri Davies telyn, electroneg Francesca Simmons ffidil, llif Huw V Williams bas Mark O’Connor drymiau Simon Proffitt delweddau byw Cwmwl Tystion / Witness Mae’r trwmpedwr, Tomos Williams, wedi casglu ynghyd gast o gerddorion gwych o Gymru i berfformio gwaith newydd sy’n adlewyrchu’r cyfnod eithriadol rydym yn byw ynddo.

42

Bydd y band yn perfformio cyfres newydd ei chyfansoddi sy’n cynnwys elfennau o jazz, yr avant-garde, gwaith byrfyfyr a cherddoriaeth werin Gymreig. Daw’r enw Cwmwl Tystion o gerdd gan y bardd mawr o Gymru, Waldo Williams, ac mae’r gerddoriaeth ‘yn tystio’ i’r amserau cymhleth ac anodd hyn. Hwn fydd y tro cyntaf i Huw Warren (Quercus) a Rhodri Davies (Hen Ogledd), arweinwyr yn eu maes a cherddorion o fri rhyngwladol, berfformio gyda’i gilydd, tra bo Mark O’Connor, Huw V Williams a Francesca

Simmons i gyd yn dod â chyfraniadau unigryw i’r project. Bydd Simon Proffitt hefyd yn cyfrannu at y perfformiadau gyda delweddau byw, gan ryngweithio â’r gerddoriaeth mewn amser real. Cyllidwyd ‘Y Gyfres Cwmwl Tystion’ gan Tŷ Cerdd, a gwnaed y daith yn bosibl trwy gefnogaeth ariannol hael Cyngor Celfyddydau Cymru.


Dydd Mawrth, 2 Gorffennaf 2pm Theatr Bryn Terfel

Sistema Cymru Codi’r To! £5/£2 Mae Sistema Cymru - Codi’r To yn broject cymunedol sy’n gweithio gydag ysgolion cynradd lleol a’u cymunedau i roi hyfforddiant cerddorol rheolaidd, gan weithio gyda grwpiau blwyddyn gyfan o blant. Seiliwyd y cynllun ar raglen

hynod lwyddiannus ac enwog El Sistema o Venezuela. Ymunwch â ni i ddathlu ein pen-blwydd yn bump oed gyda disgyblion Meithrin, Derbyn a Blwyddyn 1, 2 a 6 o Ysgol Glancegin wrth iddynt godi’r to efo’u côr, band pres a band Samba bywiog!

43


Nos Iau, 4 Gorffennaf 7.30pm Theatr Bryn Terfel

Don Pasquale Donizetti Gyda libreto newydd gan Daisy Evans Oedolyn £19 Henoed £16 Plentyn £12 Myfyrwyr £12

Opera Cenedlaethol Cymru sy’n cyflwyno fersiwn newydd derfysglyd o opera gomedi glasurol Donizetti, Don Pasquale. Wedi’i lleoli yn fan doner cebab Pasquale ac o’i chwmpas, mae’r cynhyrchiad cyfoes hwn yn gwneud y stori draddodiadol o rithdybiau rhamantus hen lanc a’r cariadon ifanc sy’n ei drechu yn gyfoes ar gyfer 2019. Rydym yn cyfarfod â chast o gymeriadau hynod fywiog, gan gynnwys nai ifanc Pasquale, Ernesto, sydd â’i fryd ar fod yn gerddor, a’i gariad Norina, yn ogystal â dyn lleol, Malatesta,

44

a’i fand teithiol sy’n ymgasglu y tu allan i fan cebab Pasquale ar ôl eu nosweithiau hirion o yfed. Mae’r Cyfarwyddwr Daisy Evans a’r Arweinydd Stephen Higgins wedi cydweithio i roi gosodiad modern i’r stori draddodiadol. Yn cael ei pherfformio gan 4 o gantorion ac ensemble sydd wedi’i leoli ar y llwyfan, ac sydd hefyd yn dod yn rhan o’r gweithredu, dyma fersiwn newydd arbennig o opera glasurol.

Cyfarwyddwr Daisy Evans Arweinydd Stephen Higgins Dylunydd Loren Elstein Dylunydd Golau Jake Wiltshire Dylunydd Sain Max Pappenheim Cast: Don Pasquale Andrew Shore Ernesto Nico Darmanin Norina Harriet Eyley Malatesta Quirijn de Lang wno.org.uk/pasquale #WNOpasquale Bwydlen arbennig yn Cegin


45


Dydd Gwener 5 Gorffennaf Dydd Sul 7 Gorffennaf Theatr Bryn Terfel Globe Shakespeare

Cadwch olwg am goctêls Shakespeare ym mar Ffynnon a bwydlen Shakespearaidd ar Lefel 2

GLOBE AR DAITH THE COMEDY OF ERRORS / TWELFTH NIGHT / PERICLES £7.50 yn sefyll

5 Gorffennaf 7.30pm Dewis y Gynulleidfa a sesiwn holi ac ateb ar ôl y sioe

£10.50-£18.50 yn eistedd £10.50 dan 18 oed Bydd Globe Shakespeare yn dychwelyd i Pontio i gyflwyno tair drama sy’n ymdrin â themâu lloches ac ymfudo. Gan chwarae sawl cymeriad ym mhob un o’r tair drama, bydd y cwmni’n cyflwyno’r straeon oesol hyn am rai sydd wedi croesi moroedd a cholli eu teuluoedd, ac sy’n darganfod beth mae perthyn yn ei wir olygu iddynt.

46

Sut brofiad ydi mynd i’r theatr a pheidio â gwybod beth fyddwch yn ei weld? Cymerwch ran yn arbrawf theatraidd democrataidd Globe Shakespeare i gael gwybod! Bydd i fyny i chi bleidleisio dros ba un o’r tair drama sydd ar gael yr hoffech ei gweld. Mae’r rheolau’n syml: y gweiddi uchaf sy’n ennill, ac mae’r actio’n dechrau ar unwaith.

6 Gorffennaf 3pm The Comedy of Errors 7.30pm Dewis y Gynulleidfa 7 Gorffennaf 6pm Dewis y Gynulleidfa (tocynnau sefyll ar gael ar gyfer y perfformiad hwn yn unig)


Digwyddiadau’n ymwneud ag ymweliad Globe Shakespeare â Bangor Treuliwch dipyn mwy o amser yn mwynhau’r awyrgylch trwy fynd i rai o’r digwyddiadau yr ydym wedi’u cynllunio i gyd-fynd ag ymweliad y Globe.

No More Cakes and Ale? Food, Festivity and Shakespeare

How Shakespeare tempests our brain to seize our heart

Sadwrn, 6 Gorffennaf

Sadwrn, 6 Gorffennaf

Stiwdio

12.00pm

6.00pm

Stiwdio

Stiwdio

AM DDIM ond mae angen tocyn

AM DDIM ond mae angen tocyn

AM DDIM ond mae angen tocyn

Ymunwch â ni am ddarlleniadau o weithiau Shakespeare ar fwynhad a pheryglon yfed a bwyta. 1 awr

Gyda Dr Guillaume Thierry, Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor

Shakespeare Now (and Then) Dydd Sul, 7 Gorffennaf 2.00pm

Globe yn Y Glôb! Ychydig cyn ymweliad y Globe â Bangor, bydd Pontio yn cynnal sesiwn o ganu Shakespearaidd anffurfiol a hwyliog yn nhafarn enwog Y Glôb ym Mangor Uchaf. I gael rhagor o fanylion cysylltwch â m.huws@bangor.ac.uk

Yn y sgwrs hon bydd Guillaume Thierry yn edrych ar weithgaredd yr ymennydd dynol yn ymateb i’r newidiadau swyddogaeth a welir yng ngwaith Shakespeare. Roedd hon yn ddyfais o ran arddull a ddefnyddid yn benodol yn ystod oes Elisabeth lle roedd statws gramadegol geiriau yn cael ei newid i greu pwyslais - er enghraifft, enwau’n cael eu defnyddio fel berfau ac ansoddeiriau fel enwau. Pa effaith yr oedd un o’r meddyliau llenyddol mwyaf a welwyd erioed yn ceisio’i gyflawni drwy hyn? Syndod? Dryswch? Y naill neu’r llall, neu’r ddau? Dewch draw i gael gwybod! 1 awr, 12+

Gyda’r Athro Helen Wilcox a Dr Michael Durrant, Prifysgol Bangor Sut oedd dramâu Shakespeare yn cael eu perfformio yn eu cyfnod? Sut brofiad oedd mynd i theatr yn oes Elisabeth? Ymunwch â Helen a Michael o Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth, Prifysgol Bangor wrth iddynt drafod arwyddocâd gwaith, bywyd a gwaddol Shakespeare, yn y byd modern yn ogystal â’r cyfnod modern cynnar.

Globe yn Y Glôb!

47


Dydd Sadwrn, 13 Gorffennaf, 7pm Dydd Sul 14 Gorffennaf, 2.30pm Theatr Bryn Terfel GSDPAC @ Westend Academy

Molly Mocha’s World of Candy £14 Oedolion £12 Plant (dan 18) Dyma sioe gerdd llawn danteithion gyda stori i’r rheini ohonoch gyda hiwmor melys. Dinas Pleasantville yw cartref “Molly Mocha’s World of Candy”, ffatri ble mae breuddwydion plant yn cael eu gwireddu fel danteithion melys a cherddoriaeth hyfryd. Tref fechan yw Wham Town sy’n llawn cymeriad cerddorol. Ar ddiwrnod olaf tymor yr haf yn Ysgol Pleasantville, mae’r 48 plant yn edrych ymlaen at

ymweliad arbennig gan Molly Mocha ei hun! Ar eu noson allan i ddathlu diwedd y tymor ym mar Karaoke Rock ‘n’ Roll, mae’r rhieni a’r athrawon yn penderfynu bod y plant angen ‘Ysgol Haf’ i’w diddanu dros y gwyliau. A phwy gwell i’w chynnal na ‘Rock’ a ‘Roll’, y brawd a’r chwaer, sy’n dod â phrofiad Rock ‘n’ Roll i’r plant, tra bo Molly Mocha yn cynnig bag o fferins am ddim i’r holl blant sy’n dod!

Ond, ym mhump o’r bagiau mae tocynnau VIP ar gyfer taith o amgylch Molly Mocha’s World of Candy! Pwy fydd yn ennill y tocynnau â phwy fydd y plant yn cwrdd â hwy ar eu taith VIP arbennig? Dewch draw a gwyliwch sioe swynol felys i’r holl deulu. Byddwch yn canu, dawnsio a byw stori y byddwch yn ei chofio am byth gan ‘Academi Westend Academy’, sy’n dod â’r celfyddydau perfformio’n fyw ym Mangor.


G W LE D D

FEAST

2019

NAF GORFFEN Y L U 18-27 J N ANGOR PO T I O B

Mae PONTIO yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Gwledd Syrcas Feast yn dychwelyd yn haf 2019 gyda’r thema...

Y BYD WRTH EIN TRAED! FFORD

D YMA

...

49


50


Mae syrcas gyfoes wedi cael lle amlwg yn rhaglen artistig Pontio ers blynyddoedd lawer. O’r BIANCO hyfryd gan No Fit State nôl yn 2013 (a aeth ymlaen wedyn i deithio’r byd) i FLOWN gan Pirates of the Carabina yn 2015, ac ACELERE ysblennydd gan griw o Colombia yn 2017, rydym wedi ceisio dod â’r sioeau gorau ym maes syrcas gyfoes i chi.

Y tro hwn, rydym yn croesawu Circus Abyssinia o Ethiopia gyda’u cynhyrchiad syrcas gwefreiddiol, Ethiopian Dreams. Gellwch ddisgwyl sioe deulu llawn hwyl gyda phob math o feiddgarwch a dawns acrobatig - ffordd berffaith o ddechrau gwyliau’r haf. Gweler y dudalen nesaf am ragor o fanylion am ein prif sioe.

Cadwch olwg am y rhain yn rhaglen Gwledd Syrcas ‘19 - Box-Inverted - Comisiynau Articulture - Jam Syrcas - Gweithdai syrcas mewn jyglo, awyrol, hwps ac acrobateg - Pelat: Joan Català - Cerddoriaeth fyw - Syrcas yn cymryd drosodd

s yn ysbrydoli tri Bydd y Wledd Syrca y graddedigion artist preswyl; bydd Coleg lfaen Dylunio a Chelf diweddar o gwrs Sy ymarferion , au i weld perfformiad Menai yn cael y cyfle di fno go t yn fle unigryw idd a gweithdai, gan roi cy oes. gyf s ca syr t loe sb lywedol bwrlwm gweledol a ch wydr t gis y cael ei arddangos yn Bydd y gwaith celf yn od y yst yn o, nti au cyhoeddus Po ac ar y sgrin ym mann mis Awst. wledd a thrwy gydol

itter, Edrychwch ar ein gwefan, Tw y Facebook ac Ins tag ram i gael nâ newyddion diweddaraf ynglŷ adwch rhaglen y wledd syrcas... a ch y dyddiad yn eich dyddiadur!

51


Nos Wener 19 Gorffennaf, 7.30pm Nos Sadwrn 20 Gorffennaf, 7.30pm (gyda sgwrs ar ôl y sioe) Dydd Sul 21 Gorffennaf, 3.00pm a 7.30pm Nos Lun, 22 Gorffennaf, 7.30pm Nos Fawrth, 23 Gorffennaf, 8.30pm Theatr Bryn Terfel Circus Abyssinia

Ethiopian Dreams £15 £10 myfyrwyr a dan 18 Prynwch docyn i Drudwen (23 a 24 Gorff) a chewch £2 oddi ar docyn Ethiopian Dreams Mae Circus Abyssinia yn dathlu diwylliant anhygoel Ethiopia ac yn cyflwyno breuddwydion ei chast drwy gampau trawiadol o feiddgarwch a dawns acrobatig. Mae’r sioe, a ysbrydolwyd gan stori dau jyglwr go iawn, Bibi a Bichu, yn dweud hanes dau frawd bach o Ethiopia a freuddwydiodd am gael syrcas

52

mewn gwlad oedd heb yr un. Pan mae’r Dyn yn y Lleuad yn gwireddu dymuniad y bechgyn, mae llu o ffigyrau yn ymuno â hwy ar daith hudolus. Mae rhai’n llawn llawenydd, rhai’n gyfareddol, eraill yn fygythiol a rhyfedd, ond maent i gyd yn ‘freuddwydwyr’ syrcas sydd, gyda’i gilydd, yn deffro traddodiad newydd anhygoel yn Ethiopia.


“‘One of the best acts ever seen... fun for all the family” The Mail on Sul

“‘‘This circus is the hottest in town” Reviews Hub

53


G W LE D D

FEAST

2019

NAF GORFFEN Y L 18-27 JUN ANGOR PO TIO B

Nos Fawrth 23 Gorffennaf, 6pm Dydd Mercher 24 Gorffennaf, 2.30pm a 7pm Stiwdio Cimera

Drudwen £10.50 £8.50 myfyrwyr a rhai o dan 18 oed Prynwch docyn i Drudwen (23 a 24 Gorff) a chewch £2 oddi ar docyn Ethiopian Dreams Ysgrifennwyd gan Kate Driver Jones Cyfarwyddwyd gan Gwen Scott Mae syrcas, theatr gorfforol, y gair llafar a cherddoriaeth yn dod ynghyd yma mewn stori dylwyth teg fodern, dywyll a gaiff ei hadrodd yn Gymraeg a Saesneg.

54

Mae Drudwen yn stori o drawsnewid, dewis a chanlyniadau. Mae dewines yn dod ar draws gefeilliaid sydd wedi cael eu gadael yn y goedwig… Mae Drudwen yn symud yn gyflym, yn ddoniol ac ychydig yn wyrdroedig, a stori ydyw sy’n edrych ar y cymhellion cymhleth sydd wrth wraidd perthynas pobl â’i gilydd a sut y

gall dyheadau personol achosi canlyniadau enbydus. Argymhelliad oedran 7+ Mae’r cynhyrchiad hwn mewn partneriaeth â Pontio, gyda chefnogaeth gan Cyngor Celfyddydau Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru. Cynhyrchiad dwyieithog


Nos Iau, 25 Gorffennaf 8pm Stiwdio Pontio yn cyflwyno

£8 £6 gostyngiadau Mae Ymdoddiad Cerddoriaeth Fyd-eang Ddwyieithog Unigryw Bardd yn mynd â’r gynulleidfa ar daith o Wreiddiau Barddol Cymru i Ddisgo Ffync Rhyddid lle mae pawb yn cael digonedd o sbri. Yn y digwyddiad arbennig hwn cymerir rhan fel triawd gan Martin Daws (Bardd Pobl Ifanc Cymru 2013-16), Ed Holden/Mr Phormula (Pencampwr Beatbox Cymru Ddwywaith) a Henry Horrell.

Mae Bardd yn datblygu eu sain o amgylch ailadroddiadau Kalimba Martin, sydd fel telyn, a disgleirdeb technegol Beatbox Dynol Mr Phormula, a gyfnerthir gan Henry Horrell, sy’n arbenigwr nodedig ar sawl offeryn. Dywed Bardd mai eu nod yw “dod â phopeth yr ydym at ei gilydd i un rhigol hyfryd: ein gwahanol offerynnau, ein gwahanol ieithoedd, ein gwahanol arddulliau

cerddorol, Hip Hop, Jazz, Celtaidd, Disgo, Reggae mae’r cyfan yna yn cael hyd i’r tir cyffredin, ac yn gweithio allan y gwahaniaethau gyda’n gilydd.”

55


Mae Pontio yn falch o fod yn bartner yn Y Tylwyth, sioe ddiwylliannol newydd gyffrous gan yr Eisteddfod Genedlaethol, gan weithio mewn partneriaeth â Fidget Feet, cwmni syrcas o Iwerddon. Wedi’i hysgrifennu gan yr artistiaid Cymreig, Gwyneth Glyn, Twm Morys a Myrddin ap Dafydd, mae’n syrcas gerddorol gyfoes wreiddiol sy’n

56

dod â rhai o chwedlau Cymru yn fyw trwy gân, straeon gwerin a rhyfeddodau acrobatig. Mae hon yn fenter ryngwladol ddeinamig sy’n rhoi llwyfan delfrydol i ddathlu llais dilys Cymru gyda’r byd. Mae hefyd yn broject cydweithredol Celtaidd artistig pwysig rhwng Cymru ac Iwerddon, gan rannu straeon, tirweddau ac ieithoedd traddodiadol a chyfoes, gyda’r

artistiaid Cymreig yn pwyso ar arbenigedd acrobatig a dylanwadau Gwyddeleg Fidget Feet a’u cyfoedion. Derbyniwyd cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Cadwch lygad am wybodaeth bellach am y cynhyrchiad ar eisteddfod.cymru


Nos Wener, 20 Medi 8pm Theatr Bryn Terfel

Fel y gwelwyd ar: America’s Got Talent The Royal Variety Performance

Gag Reflex a Kilimanjaro yn cyflwyno

The TAPE FACE Show £18 £16 myfyrwyr a rhai o dan 18 Jôcs Newydd, Props Newydd, yr Un Tâp

Cipiwch docyn a byddwch yn barod am storm arall.

Ar ôl taranu drwy America a chael eu gweld gan 51 miliwn o bobl ar-lein, mae TAPE FACE yn ôl ar dir Prydain ac eisoes ar y ffordd.

Fydd rhoi eich esgidiau am eich traed fyth yr un fath ar ôl gweld y sioe yma. Canllaw oedran: 10+

“Simply joyous” The Times

“Edinburgh Fringe superstar” The Guardian

57


@Richard Whitehead / National Portrait Gallery, London (1994)

Nos Iau, 3 Hydref 7.30pm Theatr Bryn Terfel Pontio yn cyflwyno

Caredigrwydd a Marmalêd

@A ndy Mo rga n

I ddod yn fuan Noson yng nghwmni Jan Morris, Twm Morys a Gwyneth Glyn Gohebydd tramor, milwr, dringwr Everest, teithiwr, awdur mwy na 40 llyfr ac un sy’n enaid rhydd, mae Jan Morris wedi bod yn un o groniclwyr mwyaf ein byd, ac o Gymru, am dros hanner canrif.

58

Mae Pontio’n falch iawn o wahodd Cymrawd i Brifysgol Bangor, Jan Morris, sydd erbyn hyn yn ei nawdegau, am noson arbennig yn Theatr Bryn Terfel ble, drwy sgwrs gyda’i mab, y bardd a’r canwr Twm Morys, bydd yn edrych yn ôl ar fywyd llawn teithio a geiriau. Bydd y noson yn

cynnwys darlleniadau a theyrnged gerddorol i Jan gan Twm a’r gantores Gymraeg Gwyneth Glyn. Rhagor o wybodaeth yn ein rhaglen Medi-Rhagfyr 2019 neu ewch i pontio.co.uk


WEDI U TH GWER N! ALLA

C

e or Mo rd a w Ed

Nos Iau, 24 Hydref 8pm Theatr Bryn Terfel Little Wander mewn cydweithrediad â PBJ Management yn cyflwyno:

James Acaster

COLD LASAGNE HATE MYSELF 1999 £18.50 Unwaith, fe brynais lasagne o’r archfarchnad, ei g’nesu a bwyta rhywfaint ohono er nad oedd yn neis iawn. Felly mi roddais o yn yr oergell – am ei fod yn teimlo’n rong i roi cymaint o lasagne yn y bin. Yn nes ymlaen fe wnes i fwyta llwyaid o’r lasagne

oer gan mod i wedi meddwi ac roedd o’n hynod o flasus. Roedd hi’n 4 o’r gloch y bore. Wedyn mi wnes i newid enw grŵp WhatsApp roeddwn yn perthyn iddo i COLD LASAGNE HATE MYSELF 1999, achos roeddwn i wedi bod yn meddwl

llawer am 1999 – sef blwyddyn orau fy mywyd, a hefyd faint dwi’n casáu fy hun weithiau. Y diwrnod wedyn gofynnwyd i mi enwi fy sioe newydd. Dewch draw! Canllaw oed 14+

59


Gwybodaeth Gyffredinol Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28. Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www.pontio.co.uk/ Online/term Tâl Postio Codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post.Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref.

60

Teuluoedd Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed. Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim. Cynllun Mynediad Hynt Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofynion mynediad penodol, yn aml gall mwynhau ymweliad â theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo.

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae Pontio yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg. Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.