Rhaglen Artistig Medi-Rhagfyr 2018 Pontio

Page 1

Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Bangor

Rhaglen Artistig Medi – Rhagfyr 2018

1


Croeso i Pontio Oriau Agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am-11.00pm Dydd Sul 12.00pm-8.00pm Bydd Pontio ar gau o Ddydd Llun 24 Rhagfyr ac yn ail agor Ddydd Mawrth 2 Ionawr 2019. Tocynnau Ar-lein www.pontio.co.uk 01248 38 28 28 Ymholiadau: info@pontio.co.uk

Caffi Cegin Lefel 3 Llun-Gwener 8.30am-6.00pm Ar gau ddydd Sadwrn a dydd Sul

Llinellau ffôn: 01248 38 28 28 Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10.00am-8.30pm Sul 12.00pm-6.00pm

Bwyty Gorad Llun 8.30am – 6.00pm Mawrth – Sadwrn 8.30am – archeb bwyd olaf 8pm Sul 12pm – archeb bwyd olaf 6pm

Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf ar www.pontio.co.uk

Bar Ffynnon Lefel 0 Llun - Sadwrn 11am-9.00pm (ar agor tan 11pm yn ystod perfformiadau nos) Sul 12.00pm- 6.00pm

Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, neu fersiwn glywedol, cysylltwch â ni ar 01248 38 28 28

Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu Rhif elusen gofrestredig: 1141565

Cynllun Seddi Theatr Bryn Terfel

llwyfan

d— dd— e— f— ff— g— ng— h— l— ll— m— balconi lefel 1 1a— 1b— balconi lefel 2 2a— 2b—

2

2ch—

c—

1dd— 1d—

r— ph—

n— p—

2c—

1c— 1ch—

a— b— ch—

*Mae Theatr Bryn Terfel yn ofod hyblyg, a gall cyfansoddiad y seddi newid yn dibynnu ar y perfformiad. Ewch i’r wefan i gael y wybodaeth am y perfformiad dan sylw.

@TrydarPontio PontioBangor pontio_bangor PontioBangor


Cipolwg Pontio Medi – Rhagfyr 2018 MEDI Iau 13 Gwener 14 Sadwrn 15 Gwener 21 Sadwrn 22 Mercher 26 Iau 27 Gwener 28 HYDREF Iau 4 Sadwrn 6 Mawrth 9 Mercher 10 Iau 11 Sadwrn 13 Sadwrn 13 Mawrth 16 Mawrth 16 Mercher 17 Iau 18 Sadwrn 20 Iau 25 Iau 25 Gwener 26 Gwener 26 Mercher 31 TACHWEDD Iau 1 Gwener 2 Sadwrn 3 Mawrth 6 Mercher 7 Iau 8 Gwener 9 Sadwrn 10 Mawrth 13 Mercher 14 Gwener 16 Sadwrn 17 Mawrth 20 Iau 22 Gwener 23 Sadwrn 24 Mercher 28 RHAGFYR Sadwrn 1 Sul 2 Llun 3 Mawrth 4 Mercher 5 Sadwrn 8 Sul 9 Mercher 12 Iau 13 Gwener 14 Mawrth 18 Mercher 19 Iau 20 Gwener 21 Sadwrn 22 Gwener 21 IONAWR Gwener 11

Amser 6.30pm 6.30pm 6.30pm 8pm 11.30am a 2.30pm 7pm 8pm 8pm

Circa Tsuica: Now or Never Circa Tsuica: Now or Never Circa Tsuica: Now or Never Cabaret Pontio: Banda Bacana gyda Mouton Teulu Pontio Family: Flying Atoms Iolo Williams, a career Clwb Comedi Cyngerdd Dathlu

Tud 6 6 6 8 9 10 11 14

6pm 10am - 4pm 3pm 7.30pm 7.30pm 11.30am a 2.30pm 8pm 7.30pm 7.30pm 7.30pm 8pm 8pm 7pm 8pm 8pm 8pm Drwy gydol y dydd

Cwrdd Carlam SYNTHESIS 2 Palas Hwyl Pontio This Incredible Life inTarsi Y Gadeirlan Dan y Dŵr Teulu Pontio Family: Yana and the Yeti Sgwrs gyda'r awdur John Boyne Theatr Bara Caws: Dwyn i Gof WNO: Rhondda Rips it Up! 山东大学民族乐团 Cerddorfa Tsieineaidd Prifysgol Shandong Rich Hall's Hoedown Gig Shwmae Su’mae Candelas, Fleur De Lys, Ffracas Public Service Broadcasting Clwb Comedi Cabaret Pontio: Jamie Smith's MABON Cwmni Theatr Invertigo: Derwen Caban Calan Gaeaf

16 17 18 19 20 21 22 23 24 26 27 28 30 31 32 33 34

7.30pm 1pm 11.30am a 2.30pm 7.30pm 7.30pm 7.30pm 8pm 8pm 7.30pm 7.30pm 7pm 3pm 7.30pm 8pm 7.30pm 8pm 7pm

Pedwarawd Llinynnol Allegri Pedwarawd Llinynnol Allegri Teulu Pontio Family: The Flying Bedroom Theatr Genedlaethol Cymru: Nyrsys Theatr Genedlaethol Cymru: Nyrsys Blodeugerdd Elinor Bennett (Telyn) Cabaret Pontio: FRIGG (Y Ffindir) Geraint Jarman gyda Mellt Suddenly Last Summer Suddenly Last Summer balletLORENT: Rumpelstiltskin balletLORENT: Rumpelstiltskin (hamddenol) Sieiloc Clwb Comedi BBC NOW: Xian Zhang yn arwain Beethoven Alys Williams gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC BLAS: Fi, Chdi a Chelwydd

35 35 36 37 37 38 39 40 41 41 42 42 44 45 48 49 51

7pm 7.30pm 12.45pm 10am, 12.45pm 10am, 12.45pm 2.30pm - 3.30pm 3pm 7.30pm 7.30pm 7.30pm 11.30am, 1.45pm 10am, 11.30am, 1.45pm 10am, 11.30am, 1.45pm 10am, 11.30am, 1.45pm 11.30am, 2.30pm 8pm

Ballet Cymru: A Child’s Christmas, Poems and Tiger Eggs Cerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor Branwen Branwen Branwen WNO: Dewch i Ganu... Carolau The Ensemble of St Luke's Y Siop Fach Arswydus Y Siop Fach Arswydus Y Siop Fach Arswydus Llew a'r Crydd Llew a'r Crydd Llew a'r Crydd Llew a'r Crydd Llew a'r Crydd Cabaret Pontio: FARA gyda Plu

52 53 54 54 54 55 56 57 57 57 58 58 58 58 58 59

7:30pm

WNO: Noson yn Fienna

60

1


Adborth Cynulleidfa o’r misoedd diwethaf… Ar ymweliad Shakespeare’s Globe

“Gwych gweld Theatr Bryn Terfel yn cael ei thrawsnewid neithiwr i efelychu y Globe. Awyrgylch grêt ac actio rhagorol - noson fythgofiadwy. Gobeithio daw’r cwmni yn ôl yn fuan!”

Ar gig Gwenno ac R.Seiliog

“Diolch Gwenno ac R.Seiliog am noson ffab neithiwr mewn lleoliad gwych”

Ar sioe a gweithdy A Tiger’s Tale i deuluoedd

“Roedd hwn yn wych! Nes i a fy mab fwynhau pob eiliad”

2


Dathlu, a thalent, talent a mwy o dalent.... Yn dilyn haf o heulwen braf rydym yn falch o gyhoeddi rhaglen hydrefol a fydd, fe hyderwn, yn cadw’r tymheredd yn uchel – ac fel tywydd yr haf yn eich annog i ddod draw. Ceir cyngherddau, dramâu, nosweithiau cabaret a nosweithiau yng nghwmni, gigs a sioeau teulu. Yn eu plith bydd Cyngerdd Dathlu doniau lleol, ynghyd â dathlu bwyty Gorad Pontio ar ei newydd wedd, ym mis Medi, pan groesawn ein hartist gwadd, Gruffydd Wyn Roberts (Britain’s Got Talent) i ganu gyda’r côr y bu’n aelod ohono ers yn hogyn bach: Côr Ieuenctid Môn. Yn ymuno â hwy bydd Côr Aelwyd JMJ (Neuadd John Morris-Jones) Prifysgol Bangor a Band Pres Llareggub. Bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn agor taith eu drama gerdd newydd, Nyrsys, gyda ni, i ddathlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed, a bydd Theatr Bara Caws yn llwyfannu drama olaf y dramodydd Meic Povey, Dwyn i Gof. Daw grwpiau cerdd o wahanol rannau o’r byd: Frigg o’r Ffindir, Banda Bacana, Mabon a Plu o Gymru a Fara o’r Alban, i godi blys dawnsio arnoch. ICronfa Datblygu Pontio IPontio Development Fund

Cynhelir Noson yng Nghwmni’r awdur Gwyddelig toreithiog, John Boyne, ddeng mlynedd ers rhyddhau ffilm o un o’i lyfrau enwocaf, The Boy in the Striped Pyjamas, a bydd grŵp unigryw Public Service Broadcasting yn cynnal eu hunig gig yn y gogledd yma ym Mangor. Cawn gyfle i fwynhau cyngerdd yn nodi canmlwyddiant marw’r cyfansoddwr Debussy, ynghyd â chyngherddau lu gan ensemblau’r Brifysgol. Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ymweld â ni eto eleni, a’r tro yma bydd y ddihafal Alys Williams yn perfformio gyda hwy. Yn ogystal, cawn fwynhau cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru, Rhondda Rips it Up, sy’n adrodd stori Margaret Haig Thomas o’r Rhondda a ymladdodd dros hawliau merched. Cynhyrchiad amserol iawn union ganrif ers sicrhau’r bleidlais i ferched.

3

Bydd sioeau a gweithdai TeuluPontio yn cyrraedd uchafbwynt gyda’n cyd-gynhyrchiad cyntaf gyda Theatr Clwyd ym mis Rhagfyr, sef Llew a’r Crydd, fydd yn rhoi llwyfan i actorion ifanc yr ardal. Byddwn hefyd yn cynnal ein diwrnod Palas Hwyl cyntaf un, ar y cyd gydag adran Arloesi ac Arlwyo Pontio, pan fydd drysau’r Stiwdio a’r Bocs Gwyn ar agor led y pen i’ch croesawu – wedi’r cyfan mae pob un ohonom yn artist a phob un yn wyddonydd. O’r gegin i’r theatr – mae’n poethi ... ac mae talentau lleol a chenedlaethol yn disgleirio! Elen ap Robert Cyfarwyddwr Artistig Pontio


sinema cinema

Darllediadau byw i ddod yn Sinema Pontio...

NTLIVE: The Madness of George III 20 Tachwedd

NTLIVE: Julie 6 Medi ROHLIVE: Die Walküre 28 Hydref

NTLIVE: King Lear 27 Medi ROHLIVE: La Bayadère 13 Tachwedd

ROHLIVE: Mayerling 15 Hydref

Gweler y daflen sinema fisol am fanylion dangosiadau byw eraill nad ydynt wedi eu cyhoeddi eto a rhestr sinema lawn, neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01248 38 428 28

ROHLIVE: The Nutcracker 3 Rhagfyr

NTLIVE: Antony & Cleopatra 6 Rhagfyr


Nos Iau 4 Hydref 7.15pm Darllediad byw o Shakespeare's Globe, Llundain

Sinema £15/£12.50 dros 60 a myfyrwyr/ £10 dan 18 Blanche McIntyre, 2018, 180m (un egwyl) The Winter’s Tale yw drama fawr Shakespeare sy’n ymdrin â'r afresymegol a'r anesboniadwy, gan ddangos sut y gall emosiynau dilyffethair symud ar draws rhyw, gwlad, dosbarth ac oedran. Mae ei byd yn llawn o angenfilod, duwiau a thrychinebau naturiol, gyda'i maes eang yn cipio cynulleidfaoedd o awyrgylch swrth y llys yn Sisili i hwyl a llawenydd di-ymatal gŵyl ym Mohemia.

Sêr y cynhyrchiad newydd hwn a gyfarwyddir gan Blanche McIntyre, ac a lwyfennir yn theatr hardd ac eiconig y Globe yn Llundain, yw Will Keen (The Crown, Wolf Hall) fel Leontes, Priyanga Burford (W1A, Marcella) fel Hermione ac Annette Badland (EastEnders, Father Brown) fel Old Shepherd. Mae theatr y Globe, sy'n efelychiad o chwaraedy Elisabethaidd awyr agored ar lannau Afon Tafwys, wedi dod yn rhan bwysig o'r byd theatr 5

cenedlaethol a rhyngwladol, gan ddathlu dylanwad trawsffurfiol Shakespeare ar lenyddiaeth Saesneg. Gan barhau â’r gyfres boblogaidd Globe on Screen, bydd The Winter's Tale yn cael ei darlledu'n fyw i'r sinema.


Gostyngiad o 10% i grwpiau o 5 neu fwy gyda'r cod: NOW10 Nifer Cyfyn gedig

Nos Iau 13 Medi 6.30pm Nos Wener 14 Medi 6.30pm Nos Sadwrn 15 Medi 6.30pm

Now or Never Gan Circa Tsuica, sy'n dychwelyd i Fangor gyda Band Jazz Tryfan yn ymuno â nhw unwaith yn rhagor! Pabell Fawr! Cae Friars, Coleg Menai, Ffordd Ffriddoedd, Bangor

“Wild, lively and invigorating” Télérama

£15 / £12 gostyngiadau Dan do serennog y babell fawr mae criw bywiog o acrobatiaid a cherddorion rhyngwladol yn eich gwahodd i'w sioe syrcas wefreiddiol, Now or Never. Ymunwch yn y wledd wrth i acrobatiaid a cherddorion gymysgu, gwneud crempogau a'u rhannu, cyn ymroi i ffanffer

gwych o gerddoriaeth a syrcas. Yna gwyliwch hwy'n hedfan, taflu eu hunain ac ymdroelli ar draws eu pabell hardd ar drapîs, olwynion Cyr, beics triciau, trampolinau a si-sos i seiniau taranllyd offerynnau pres. Yn wallgo, lliwgar a di-drefn, mae Now or Never yn sioe na

6

ddylid ei cholli a hynny mewn pabell fawr ar dir Coleg Menai ar Ffordd Ffriddoedd ym Mangor. Profiad bythgofiadwy ac un rhyfeddol i'w rannu gyda theulu a ffrindiau! Addas i'r holl deulu dros 5 oed, 105 munud o hyd heb egwyl


Cyfle i gyfarfod â'r artist a sgwrsio am ei brosiect ymchwil diweddaraf rhwng 12-2pm ddydd Sadwrn 10 Tachwedd. Dim angen archebu – galwch draw.

13 Medi – 15 Tachwedd

Mark Eaglen Bylchu Sgrin Lefel 0 Beth yw swyddogaeth cyfrifiaduron yn ein bywydau? Beth yw ein perthynas gyda thechnoleg? Mae Bylchu Sgrin yn cyflwyno cyfnod o ymchwil i'r cysylltiadau rhwng y gofod digidol a'r gofod ffisegol. Mae gwaith arbrofol mewn cerflunwaith a chyfryngau yn seiliedig ar amser yn

archwilio'r ffin sy'n gynyddol aneglur rhwng sgriniau. Bydd yr arddangosfa yn Pontio yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ryngweithio ac adfyfyrio ar ein lle o fewn y tirweddau hyn sy'n esblygu. Mae Mark Eaglen yn artist amlddisgyblaethol sy'n archwilio'r cysylltiadau rhwng celf, gwyddoniaeth, technoleg a natur. 7

Gwireddwyd y cynllun drwy gefnogaeth garedig Cyngor Celfyddydau Cymru a Pontio. Darperir yr ymgynghoriaeth dechnegol a digidol gan Andrew Price.


Nos Wener 21 Medi 8pm Cabaret Pontio yn cyflwyno

Banda Bacana gyda Mouton

Theatr Bryn Terfel £12/£10 gostyngiadau Band 9 aelod o Ogledd Cymru ydi Banda Bacana ac maent wedi cael enw am lwyddo i dynnu pobl o'u seddi a'u cael ar y llawr i ddawnsio. Mae amrywiaeth eang o ddylanwadau ar eu cerddoriaeth, yn cynnwys Latin, Jas, Afro Beat, Ffync a Caribïaidd. Yn eu caneuon ceir curiadau cyson nodweddiadol wedi'u cydblethu ag alawon lleisiol a sacs hyfryd, a phatrymau gitâr a bas yn gwau drwy'i gilydd.

Erbyn hyn bu'r band gyda'i gilydd ers bron i 15 mlynedd, ac yn y gig yn Pontio byddant yn dathlu lansio eu halbwm newydd sbon a hir-ddisgwyliedig Stop the Planet. Ceir 14 trac o ddeunydd gwreiddiol ar yr albwm newydd, sy'n dangos yn glir pam maent yn cael eu hystyried yn un o'r combos dawns poethaf yn yr ardal.

8

Grŵp gwerin deinamig sydd hefyd yn hanu o Ogledd Cymru yw Mouton sy’n chwarae cerddoriaeth i ddawnsio iddi o Lydaw, Cymru, Galicia a Venezuela.

Mwynhewch ein platiad rhannu Cabaret newydd yn y Theatr, ar gael o far Ffynnon.


Dydd Sadwrn 22 Medi 11.30am a 2.30pm Dawns Powys Dance yn cyflwyno

Flying Atoms Stiwdio £6.50/£22 tocyn teulu a ffrindiau (4 o bobl, o leiaf un o dan 18) Mae Professor Gusto a Professor Hitch yn gweithio’n ddiwyd yn y labordy chwilfrydedd i ateb cwestiynau megis: sut mae adar yn aros yn yr awyr? I ble mae’r lleuad yn mynd yn ystod y dydd? Dim ond un peth sy’n sicr – mae’r bydysawd yn llawn rhyfeddodau ac nid yw popeth fel yr ymddengys.

Dyma sioe ryngweithiol, chwareus sy’n cynnwys symudiadau dawns aruchel, cerddoriaeth hudolus a dylunio syfrdanol.

Gweithdy creadigol AM DDIM gyda’r artist Nerys Jones yn dilyn pob sioe

Yn addas i bawb sy’n 6 oed neu’n hŷn. Sioe yn yr iaith Saesneg

9

Mae prydau plant ar gael ym mwyty Gorad o £4.25


Nos Fercher 26 Medi 7pm

Iolo Williams, a career Bydd holl elw y digwyddiad yn mynd tuag at y Sophie Williams Trust Darlithfa Lefel 5 (PL5), Pontio £10/£6 myfyrwyr a dan 18 Cawn wrando ar Iolo Williams yn dweud ei hanes am sut y symudodd ymlaen o fod yn naturiaethwr ifanc yn tyfu i fyny yng nghanolbarth Cymru i weithio i ddechrau i'r RSPB

cyn dod, yn y diwedd, yn gyflwynydd teledu digon cyndyn. Bydd y fyddin, eirth brithion a gorilaod mynydd i gyd yn ymddangos yn y sgwrs, yn ogystal â llu o gymeriadau eraill.

10

Caiff y sgwrs ei chynnal yn Saesneg


11


Croeso i f wy t y G o rad ar ei

ne wyd d wedd

Dros fisoedd yr haf rhoddir gwedd newydd a f f r e s i f w y t y G o r a d a c i ’c h d e n u y m h e l l a c h , o fis Awst* ymlaen bydd gennym f wydlen newydd f y d d y n l l a w n i ’r y m y l o n o g y n n y r c h l l e o l .

Ed r yc hwn ym lae n y n e iddg ar i’ch croesa w u!

* Bydd gwaith adnewyddu yn digwydd ym mis Gorffennaf ac yn gynnar y m m i s Aw s t f e l l y e w c h i w e f a n Po n t i o a m o r i a u a g o r G o ra d .

I a r c h e b u : b w y d a b a r @ p o n t i o . c o . u k / 0124 8 3 8 3 8 2 6 12


CERDDORIAETH

y n G ora d

Ym u n w c h â n i a m n o s o n h a m d d e n o l o f wyd gwych gyda cherddoriaeth f yw. M a e p o b u n o ’r d i g w y d d i a d a u h y n y n r h a d a c a m d d i m i b a w b s y ’n b w y t a y n G o ra d , g y d a p he r f f o r m i a d a u ’n p a ra t u a a w r.

GW E R I N Y N G O RA D

Meinir Gwilym

N o s We n e r 2 8 M e d i | 6 . 3 0 p m

O P E R A Y N G O RA D

Organ Prawang Rhodri Prys Jones Annette Bryn Parri N o s We n e r 19 H y d r e f | 7. 3 0 p m

J A Z Z Y N G O RA D

Tacla N o s We n e r 3 0 Ta c h w e d d | 7. 3 0 p m Archebwch yn gynnar i sicrhau eich bwrdd b w y d a b a r @ p o n t i o . c o . u k / 012 4 8 3 8 3 8 2 6 13


Nos Wener 28 Medi 8pm Yn ogystal â’r arlwy yn y Theatr bydd y gantores werin Meinir Gwilym yn perfformio ym mwyty Gorad cyn y cyngerdd. Digwyddiad am ddim. Archebwch fwrdd yn y bwyty i sicrhau eich lle.

Cyngerdd Dathlu Theatr Bryn Terfel £14/£12 gostyngiadau I ddathlu agor bwyty Gorad ar ei newydd wedd a llwyddiant talentau lleol, byddwn yn cynnal cyngerdd arbennig yn Theatr Bryn Terfel yng nghwmni Côr Ieuenctid Môn, Gruffydd Wyn Roberts, cyn aelod o’r côr a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain’s Got Talent, Aelwyd JMJ Prifysgol Bangor a Band Pres Llareggub. Mae Côr Ieuenctid Môn yn perfformio ers dros ddeuddeg mlynedd. Erbyn heddiw, mae dros 150 o aelodau a thri chôr yn mwynhau canu o dan ymbarél gerddorol y côr, sef y Côr Iau, y Côr Ieuenctid a Coda. Mae’r côr wedi perfformio ar brif lwyfannau Cymru a thu hwnt, gan gynnwys Neuadd Albert, Llundain a Neuadd Symffoni Birmingham. Pinacl y blynyddoedd diweddar oedd dathlu eu deng mlwyddiant, canu gyda Bryn Terfel, dod yn Bencampwyr

Corau Ieuenctid Côr Cymru, a llwyddiannau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys eu coroni’n Gôr yr Ŵyl yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern, 2017. Roedd Gruffydd Wyn Roberts yn aelod brwd o’r côr ac maent yn edrych ymlaen yn arw at gael rhannu llwyfan gyda Gruff eto. Mae Pontio hefyd yn hynod falch o gael rhoi llwyfan i Gruff, sy’n aelod o staff y tîm Blaen Tŷ ac yn falch iawn o’i lwyddiant diweddar. Yn dilyn llwyddiant Aelwyd JMJ yn Eisteddfod yr Urdd Llanelwedd eleni, lle cawsant dri cyntaf, tri ail ac un trydydd, sef y llwyddiant mwyaf i’r Aelwyd ei gael erioed, byddant yn ymuno â ni i berfformio detholiad o’u rhaglen. Cysyniad gwreiddiol Owain Roberts yw Band Pres Llareggub, wrth iddo hiraethu am ei gynefin pan 14

yn byw yn Llundain bell. Yn tarddu o draddodiadau bandiau pres dalgylch Eryri, cewch glywed Band Pres Llareggub yn chwythu, gwaeddi, neidio a dawnsio eu ffordd i'ch clustiau drwy gyfuno arddulliau i gyflwyno profiad egnïol a chofiadwy. Gan gyfuno elfennau o Hip Hop, Drum’n’Bass, a Jazz New Orleans gydag emynau Cymraeg ac anthemau Dafydd Iwan, byddwch yn siŵr o brofi rhywbeth newydd yn eu perfformiadau byw!


15


Nos Iau 4 Hydref 6pm

Cwrdd Carlam SYNTHESIS 2

Dyddiad ca u derbyn ceis iadau SYNTHESIS 2: 28 Ionawr 2 019

Stiwdio Am ddim ond angen cofrestru Pontio yn galw ar wyddonwyr ac artisiaid! Yn dilyn llwyddiant y project SYNTHESIS cyntaf i annog dau bâr gwahanol o wyddonwyr ac artistiaid i ddatblygu syniadau gyda’i gilydd sy’n pontio’r ddau fyd, rydym yn chwilio am brojectau newydd. Gwahoddir ceisiadau ar y cyd am y gronfa o £2,000 y pâr. Dewch i gael mwy o wybodaeth am SYNTHESIS 2, sut i wneud cais ac efallai i gwrdd â phartner project mewn digwyddiad arbennig yn Stiwdio Pontio.

Bydd yr Athro a’r Gwyddonydd, Deri Tomos a Chyfarwyddwr Artistig Pontio, Elen ap Robert yn rhoi cyflwyniad i’r project ynghyd â chyfranwyr llwyddiannus y project SYNTHESIS cyntaf fydd yn rhoi blas o’u gwaith. Bydd cyfle hefyd i gwrdd ac i drafod syniadau gydag artistiaid a gwyddonwyr eraill. Bydd diodydd a lluniaeth ysgafn ar gael. Be all ddigwydd yn y gofod hwnnw rhwng moleciwlau a marimba ac arian byw?

16

Cysylltwch â Shari Llewelyn ar s.llewelyn@bangor.ac.uk neu 01248 382 179 i archebu lle neu am ragor o wybodaeth


Sadwrn 6 Hydref 10am-4pm

Palas Hwyl Pontio Lefel 2 Pontio Am ddim ac ar agor i bawb drwy’r dydd Celfyddyd i bawb, gyda phawb, gan bawb Mae pawb yn artist a phawb yn wyddonydd Rydym yn ymuno â’r ymgyrch Palasau Hwyl, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol ar hyd a lled Prydain, ac yn cynnal ‘Palas Hwyl’ ein hunain eleni! Dewch i’n helpu i greu Palas Hwyl cyntaf Pontio, fydd yn cynnig pob math o weithgareddau i bob oed ar themâu pêl-droed a dawns. Bydd adran Celfyddydau

Pontio yn cydweithio gydag adrannau Arloesi ac Arlwyo Pontio, Prifysgol Bangor a’r gymuned er mwyn creu diwrnod creadigol a hwyliog i bawb, a bydd y cyfan am ddim! Cadwch olwg ar ein cyfryngau cymdeithasol am ddatblygiadau wrth i ni , gydag eich help chi, weithio ar greu ein Palas Hwyl… I ddatgan diddordeb mewn cymryd rhan ac am fwy o wybodaeth cysylltwch â Shari Llewelyn ar s.llewelyn@bangor.ac.uk

17


Drama

Dydd Mawrth 9 Hydref 3pm Canoe Theatre a Theatrau Sir Gâr yn cyflwyno

This Incredible Life Stiwdio £12 gostyngiad o 10% i grwpiau o 10 neu fwy Mae Mab (Sharon Morgan) wedi treulio’i bywyd yn adrodd straeon. Straeon anhygoel. Roedd yn newyddiadurwr rhyngwladol, yn cofnodi straeon pobl mewn du a gwyn. Fel bachgen ifanc, roedd ei nai Robert, wrth ei fodd yn gwrando arni.

Nid yw’n gwrando rhagor. Mewn cyfnod lle mae newyddion ffug wedi dod yn gyffredin, a’r ffin rhwng ffaith a ffuglen yn aneglur, a yw’r gwir yn bwysig mwyach? Gadewch i gomedi diweddaraf Alan Harris eich swyno gyda cherddoriaeth fyw, ffilm a stori fydd yn codi’r ysbryd a llonni’ch calon, yn null MGM. 18

Bydd y digwyddiad yma sy’n Gyfeillgar i Ddementia yn cael ei gefnogi gan weithdai a gweithgareddau. Cysylltwch â canoe@ canoetheatre.co.uk am ragor o wybodaeth. Perfformiad dwyieithog gyda mwy o Saesneg na Chymraeg ac sy’n addas i rai di-Gymraeg


Syrcas

Nos Fercher 10 Hydref 7.30pm Cwmni Eia o Gatalwnia yn cyflwyno

inTarsi Theatr Bryn Terfel £14/£12 gostyngiadau Wedi teithio'n llwyddiannus ledled Ewrop, mae cwmni Eia o Gatalwnia yn dod â'u sioe theatr acrobatig in Tarsi, sydd wedi ennill sawl gwobr, drosodd i Brydain am y tro cyntaf. Mae hon yn sioe berffaith i'r teulu cyfan, gyda'i chyfuniad o sgiliau acrobataidd rhyfygus, digrifwch, hiwmor a choreograffi slic. Pedwar

o fechgyn sydd yma, yn herian, chwarae a chefnogi ei gilydd ar set hynod ddyfeisgar sy'n trawsnewid yn gyson yn dirweddau newydd. Weithiau maent yn gweithio gyda'i gilydd, dro arall yn erbyn ei gilydd, ond yn y diwedd maent yn cael eu cysylltu gan gwlwm cryf eu dynoliaeth gyffredin. Canllaw oed: 6+

19

“From the beginning to the end, a gift of circus beauty and good vibes” Jordi Jané at RECOMANA.CAT


Cerddoriaeth

Nos Iau 11 Hydref 7.30pm

Y Gadeirlan Dan y Dŵr Claude Debussy mewn cerddoriaeth, darluniau a geiriau Theatr Bryn Terfel £15/£13 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 Iwan Llewelyn-Jones piano Bethan Rhys Roberts cyflwynydd Teyrnged arbennig i un o gyfansoddwyr nodweddiadol yr ugeinfed ganrif, Claude Debussy, a chyfle i gynulleidfaoedd o bob oedran a chefndir gael profi ei weledigaeth gerddorol unigryw.

Darganfod Claude Cyflwynir Debussycerddoriaeth Debussy mewn cydSgwrs cyn y cyngerdd Stiwdio, 6.30pm Am ddim ond angen tocyn Dewch i wrando ar y pianydd Iwan LlewelynJones a’r Athro Chris Collins o Ysgol Gerddoriaeth, Prifysgol Bangor yn sgwrsio am fywyd a gwaith Debussy. Sgwrs ddwyieithog

Cyflwynir cerddoriaeth Debussy mewn cyddestun theatrig, sy’n cyfuno elfennau gweledol a llenyddol, gan ofyn pwy oedd y dyn arbennig hwn a phwy a beth oedd y prif ddylanwadau, o’r celfyddydol i’r cyffredin pob dydd, a’i hysgogodd i gyfansoddi rhai o weithiau mwyaf lliwgar a phoblogaidd yr ugeinfed ganrif, gyda

Project Ysgolion Fel rhan o ddathliadau Debussy bu Iwan Llewelyn-Jones a’r artist Catrin Williams yn ymweld ag Ysgol y Borth, Ysgol y Felinheli ac Ysgol Llanfairpwll i weithio ar broject cerdd a chelf fydd yn cael ei arddangos yng ngofodau cyhoeddus Pontio dros y misoedd nesaf. 20

theitlau fel ‘Clair de lune’, ‘Tân Gwyllt’, ‘Pysgodyn aur’ a’r ‘Gadeirlan dan y dŵr’. Bydd y pianydd Iwan Llewelyn-Jones yn perfformio croesdoriad eang o weithiau unawdol Debussy i’r piano. I gyd-fynd â hynny fe fydd y ddarlledwraig a’r cyflwynydd teledu, Bethan Rhys Roberts, yn rhoi mewnwelediad i’r cynnwys cerddorol gyda darlleniadau mewn Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg, ynghyd â darnau o ysgrifau Debussy ei hunan.


Dydd Sadwrn 13 Hydref 11.30am a 2.30pm

Yana and the Yeti Cyd-gynhyrchwyd gan Nordland Visual Theatre “Magical, beguiling, emotional and eyewideningly beautiful”

Stiwdio £6.50/£22 tocyn teulu a

Bristol 24/7

ffrindiau (4 o bobl, o leiaf un o dan 18)

Dychmygwch fod ymhell, bell o gartref ac ar eich pen eich hun bach, a chyrraedd pentref anghysbell ynghanol yr eira, gyda choedwig drwchus o'i amgylch a phob math o synau rhyfedd. Dyna sut mae stori Yana'n dechrau. Fedr hi ddim deall gair mae unrhyw un yn ei ddweud ac mae'r plant eraill yn ei phryfocio gyda straeon am angenfilod mytholegol o'r mynyddoedd. Yna, mae pethau'n dechrau mynd yn rhyfedd iawn ....

Gyda cherddoriaeth wych, tirweddau Arctig a chast o bypedau rhyfeddol, mae Yana and the Yeti wedi'i hanelu at deuluoedd (5+). Mae hon yn stori dywyll, ddoniol a theimladwy am benderfyniad plentyn ifanc i gael ei deall a'i darganfyddiad y gall ffrindiau ddod yn y siapiau a'r meintiau mwyaf annisgwyl. Gwnaed y sioe hon yng ngogledd Norwy, uwchlaw Cylch yr Arctig, lle mae Yetis yn dal i fodoli! Sioe ddi-iaith, 5+ 21

Gweithdy creu pypedau AM DDIM gydag Eleri Jones yn dilyn pob sioe

Mae prydau plant ar gael ym mwyty Gorad o £4.25


Nos Sadwrn 13 Hydref 8pm

Sgwrs gyda’r awdur John Boyne Theatr Bryn Terfel £15/£13 dros 60/£10 myfyrwyr a dan 18 Mae John Boyne, un o awduron cyfoes gorau Iwerddon, yn ymuno â ni am noson o sgwrsio gyda Jon Gower. Mae'n awdur deg nofel i oedolion a phump i ddarllenwyr iau, yn cynnwys The Boy in the Striped Pyjamas, a wnaed yn ffilm hynod lwyddiannus ddeng mlynedd yn ôl. Y llynedd cyhoeddodd The Heart's Invisible Furies, a ddisgrifiwyd gan Simon Humphreys fel ‘Savvy, witty and achingly sad, this is a novelist at the top of his game.’

Mae John Boyne yn uchel ei barch ac fe'i hedmygir gan feirniaid a darllenwyr fel ei gilydd. Bydd yn siarad â Jon Gower am ei fywyd a'i waith, ac am ei lyfr diweddaraf, A Ladder to the Sky, nofel am uchelgais llenyddol a pha mor hawdd ydyw i gyflawni pethau mawr iawn os ydych yn fodlon aberthu eich enaid wrth wneud hynny. Bydd sesiwn holi ar ôl y sgwrs a bydd Palas Print yn gwerthu llyfrau John Boyne a sesiwn arwyddo ger bar Ffynnon. Canllaw oed: 11+ 22

Bydd dangosiad o addasiad ffilm The Boy in the Striped Pyjamas, ddeng mlynedd ers ei rhyddhau, yn y Sinema am 2pm ddydd Sul 14 Hydref: £5 i bawb.


Drama

Nos Fawrth 16 Hydref 7.30pm Theatr Bara Caws yn cyflwyno

Dwyn i Gof gan Meic Povey Stiwdio £13/£11 gostyngiadau

Mae Huw a Bet yn briod ers 40 mlynedd a Gareth, eu hunig fab, ar fin priodi Cerys. Mae trefniadau i’w cadarnhau. Mae Huw’n benderfynol o chwarae ei ran ond gyda’i gof yn araf ddadfeilio mae perygl i gyfrinachau hen a newydd gael eu datgelu. Ond pa mor fregus yw Huw mewn gwirionedd? Sut mae Bet yn ymdopi â’r sefyllfa? Oes rheswm gan Gareth i boeni am bechodau’r tadau, ac a yw Cerys yn gweld y tad yn y mab?

Mae Dwyn i Gof, gwaith olaf Meic Povey i Bara Caws, yn ddrama ddifyr a phryfoclyd sy’n cyfuno’r dwys a’r digrif wrth sôn am bwnc cyfredol, sydd ‘ar feddwl’ pawb y dyddiau hyn. Yng ngeiriau dihafal Meic ei hun, “Y rheswm esh i ati i sgwennu am y pwnc penodol yma ydi hyn: O'r holl bethau all ein lladd - ac fel dywedodd yr Americanwr adnabyddus, (sic) Anthony Hopkins unwaith, ‘nobody gets out of this alive' - yn bersonol, colli dy gof ydi'r cyflwr sy'n codi 23 mwya' o ofn arna’i.”

16+ yn cynnwys peth iaith gref


“I defy anyone not to be swept away by this rulebreaking production. It’s bursting with irreverent joy.”

The Times

The Guardian

The Times The Stage

Dewch i Ganu

Nos Fawrth 16 Hydref 7.30pm

16 Hydref, 6.30pm

Opera Cenedlaethol Cymru

Rhondda Rips It Up! Theatr Bryn Terfel

Ymunwch â merched Corws Cymunedol WNO ym mar Ffynnon dewch i ganu anthemau'r Swffragetiaid! Nid oes angen profiad o ganu, dim ond tueddiad gwrthryfelgar!

£18/£15 dros 60/£12 myfyrwyr a dan 18 Cyfarwyddwr Caroline Clegg Arweinydd Nicola Rose Foneddigion a Boneddigesau! Mae WNO yn eich gwahodd yn gynnes i fwynhau eu comedi gerddorol afieithus ac anfarwol o ddigrif Rhondda Rips It Up! Crëwyd yr adloniant tafod yn y boch hwn er eich pleser gan y ddisglair Ms Elena Langer (cyfansoddwr a swffragét) a’r ddihafal Ms Emma Jenkins (libretydd a swffragét). Mae’n bleser o’r mwyaf gennym fynd â chi ar daith fythgofiadwy drwy fywyd ac anturiaethau arwres anhysbys mudiad y

Swffragetiaid yng Nghymru, Margaret Haig Thomas, Isiarlles Rhondda. Yn Swffragét, ymgyrchydd ac entrepreneur, paratôdd Arglwyddes Rhondda y ffordd ar gyfer hawliau cyfartal i fenywod. Yn ogystal ag ymgyrchu’n ddiflino dros hawl menywod i bleidleisio, roedd yn fwch dihangol i ymdrechion merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, goroesodd drychineb suddo’r Lusitania a sefydlodd y cylchgrawn ffeministaidd radicalaidd Time and Tide. Cafodd ei hymdrechion diflino eu gwobrwyo o’r diwedd pan, yn 1918, etholfreiniwyd menywod dros 30 oed. 24

Mae’r daith fywiog a doniol hon drwy fyd etholfraint a chân yn cael ei hadrodd drwy gyfrwng y neuadd gerddoriaeth ac, yn addas iawn, menywod yn unig yw aelodau’r cast a’r tîm cynhyrchu. Tywysir y gynulleidfa drwy’r stori gan ein Emcee ni (Lesley Garret) ac mae’n olrhain anturiaethau Arglwyddes arglwyddas Rhondda (Madeleine Shaw) a’r fyddin ddewr o swffragetiaid wrth iddynt ymgiprys yn eofn ag Arglwyddi, gwleidyddion a blychau post yn eu hymdrech i sicrhau hawliau i ferched.


Gosodiad Digidol a Phrofiad Rhithwir Bocs Gwyn a thu allan i’r Stiwdio, Lefel 2 14 Hydref 4-6.00pm 15 Hydref 4-6.00pm 16 Hydref 5.30-7.30pm ac yn ystod yr egwyl

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno ei osodiad digidol diweddaraf, Rhondda Rebel. Dyma brofiad cerddorol digidol sy'n dod â'r swffragét, Margaret Haig Thomas, yn fyw drwy gyfuno realaeth estynedig gyda pherfformio a cherddoriaeth i greu profiad newydd cyffrous. Bydd cyfle hefyd i fwynhau Magic Butterfly, profiad rhithwir yn cynnwys 25 golygfeydd

wedi'u hail-ddychmygu o Madam Butterfly a The Magic Flute. Ceir awyrgylch theatraidd unigryw yma lle defnyddir cerddoriaeth glasurol, cipio symudiadau a thechnoleg.


Nos Fercher 17 Hydref 7.30pm Cerddorfa Tsieineaidd Prifysgol Shandong

山东大学民族乐团 Theatr Bryn Terfel £10/£8 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 Pleser gan Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yw cyflwyno Cerddorfa Tsieineaidd Prifysgol Shandong, a fydd yn perfformio rhaglen ddisglair o gerddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd yn Theatr Bryn Terfel. Mae’r gerddorfa, sy’n cynnwys athrawon a myfyrwyr o'r ysgol gerddoriaeth offerynnol draddodiadol ym Mhrifysgol Shandong, wedi ymrwymo

i gyflwyno etifeddiaeth ac arloesedd cerddoriaeth Tsieineaidd draddodiadol. Y cyfansoddwr Qu Xiang sy’n gweithio gyda hwy’n bennaf ac mae'r gerddoriaeth gan amlaf wedi’i seilio ar gerddoriaeth werin a gaiff ei chwarae ar Xiao (ffliwt bambŵ fertigol), Dizi (ffliwt bambŵ Tsieineaidd), Erhu (ffidil Tsieineaidd), Yangqin (dwlsimer Tsieineaidd), offeryn taro a Suona (corn). 26

Bydd bwydlen Tsieineaidd ar gael ym mwyty Gorad, wedi ei chreu gan Cymdeithas Myfyrwyr ac Ysgolheigion Tsieineaidd Prifysgol Bangor


Nos Iau 18 Hydref 8pm

Rich Hall’s Hoedown Theatr Bryn Terfel £17 Mae sioe newydd Rich Hall wedi derbyn cymeradwyaeth gan feirniaid wrth iddo ddechrau ail ran ei daith. Nid oes amser gwell i fod yn gomedïwr Americanaidd yn y DU ar hyn o bryd. Wrth siarad am berthynas fregus dwy wlad mae ei sylwadau mor gywir a pherthnasol ag erioed. Mae ei ddogfennau diweddar ar BBC Four, Rich Hall’s Countrier Than You a Rich Hall’s Presidential Grudge Match a chyfres BBC Radio 4 Rich Halls’ (US Election) Breakdown, wedi sicrhau dilyniant newydd iddo, yn ogystal ag ymddangosiadau ar Have I Got News For You a QI. Ond, os nad ydych wedi ei weld yn fyw eto, rydych wedi bod ar eich colled!

Mae Hoedown yn dechrau wrth drafod America Trump, ond yn diweddu fel dathliad o Americana. Gyda standyp, ambell i gân, a digon o chwerthin, byddwch yn siŵr o gael amser da! 14+ (canllaw i rieni) mae’n debygol y ceir iaith gref a chynnwys addas i oedolion

27

“Blissfully Funny” Guardian


Nos Sadwrn 20 Hydref 8pm Pontio ac UMCB yn cyflwyno

Gig Shwmae Su’mae Candelas, Fleur De Lys, Ffracas Theatr Bryn Terfel £12 tan 5 Hydref/£15 6 Hydref ymlaen Fel rhan o ddiwrnod Shwmae Su’mae, sy’n dathlu’r iaith Gymraeg a hybu’r syniad bod yr iaith yn perthyn i bawb, bydd Pontio ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) yn cynnal gig arbennig yn Theatr Bryn Terfel. Band o Ogledd Cymru sy'n chwarae cerddoriaeth roc amgen gydag awgrym o "blues" yw Candelas.

Mae’r band wedi ei sefydlu ers Haf 2009 a bellach yn un o fandiau mwyaf y sîn gerddoriaeth yng Nghymru. A hwythau newydd ryddhau eu trydydd albwm hirddisgwyliedig, Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae? dyma gyfle i weld un o fandiau mwyaf cyffrous Cymru yn ysgwyd y Theatr gyda’u deunydd newydd.

28

Yn ymuno â Candelas bydd band Indi/Roc/Pop o Ynys Môn a Morfa Nefyn sef Fleur De Lys a Ffracas o ardal Pwllheli. Gyda DJ Dic Ben Gig sefyll 16+


Dangosiadau hamddenol yn Sinema Pontio Pnawn Mercher 24 Hydref 2pm Pnawn Ffilm, Cacen a Chân!

Mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru. Wedi ei anelu at 60+ Sinema Pontio a Bar Ffynnon £4 Ymunwch â ni yn Sinema Pontio am brynhawn o adloniant a chanu. Bydd y prynhawn yn dechrau gyda dangosiad arbennig o hen ffefryn wedi ei ddewis

gan aelodau o’r gymuned leol, gydag adloniant cerdd byw yn yr egwyl am 3pm gan animateurs lleisiol WNO gydag Annette Bryn Parri yn cyfeilio ar y piano. Mi fydd cyfle i roi tro ar ganu ar y cyd

hwyliog wrth fwynhau paned a chacen, cyn dychwelyd i’r sinema i fwynhau hanner olaf y ffilm. Digwyddiad Dewch i Ganu WNO

Boreau Sadwrn am 11.00am: 8 Medi, 6 Hydref, 10 Tachwedd, 8 Rhagfyr Dangosiadau ffilm hamddenol misol Wedi ei anelu at deuluoedd Sinema Pontio £5.50 i bawb Dewch i weld ffilm deuluol ddiweddar wrth i ni addasu tipyn ar y sinema – croeso i chi fynd a dod, mae’r lefelau sain wedi eu gostwng a’r

goleuadau ymlaen yn isel. Does dim hysbysebion a gallwch wneud sŵn ac eistedd lle bynnag yr hoffwch. 29

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â pha ffilm fydd yn cael ei dangos ewch i www.pontio.co.uk neu ffoniwch 01248 38 28 28


Bwyty Restaurant

Pryd Clwb Comedi

Byrgyr a Chwrw*

£10

Ar gael i bob digwyddiad Clwb Comedi

*Neu wydriad 175ml o win tŷ neu ddiod ysgafn Byrgyr llysieuol ar gael Bwyd a Diod

I archebu: 01248 383826 bwydabar@pontio.co.uk

yer.indd 4

Food & Drink

26/02/2018 16:21:24

Nos Iau 25 Hydref 7pm

Public Service Broadcasting Theatr Bryn Terfel £20 HOLL DOCYNNAU WEDI EU GWERTHU Cysylltwch â’r swyddfa docynnau os hoffech roi eich enw ar restr aros

Mae Public Service Broadcasting yn falch o gyhoeddi taith pum dyddiad ar hyd Cymru, lle recordiwyd ‘Every Valley’ yn gynnar yn 2017.

30

Gig sefyll 14+


31


Nos Wener 26 Hydref 8pm Cabaret Pontio yn cyflwyno

Jamie Smith’s MABON Theatr Bryn Terfel £14/£13 gostyngiadau Mae'r band 5 aelod hwn o gerddorion meistrolgar wedi dod i fri ac amlygrwydd drwy berfformio sioe sy'n "exhilarating, just exhilarating – a band that perform with such enjoyment, excitement, style and wit – no histrionics, just a show of originality, energy and integrity." (Jun-Lin Yeoh, Cyfarwyddwr Artistig, Rainforest World Music Festival, Borneo). Does ryfedd felly eu bod yn cael

eu clodfori'n gyson erbyn hyn fel un o fandiau Celtaidd eu gwreiddiau mwyaf arbennig Prydain. Mae Jamie Smith’s Mabon yn edrych ar ffurfiau ac arddulliau'r traddodiadau Celtaidd a'u gweithio o'r newydd. Mae'r gerddoriaeth yn arbennig ac unigryw - cyfuniad hudolus o gerddoriaeth fyd-eang a gwreiddiau Celtaidd, a honno'n llawn egni, llawenydd ac angerdd.

32

Gan gyfuno offerynnau traddodiadol gydag adran rhythm fodern, mae'r band yn perfformio cyfansoddiadau gwreiddiol gwych - yn offerynnol a lleisiol - wedi'u hysgrifennu a'u cyfansoddi gan mwyaf gan Jamie, eu chwaraewr acordion deinamig.

Mwynhewch ein platiad rhannu Cabaret newydd yn y Theatr, ar gael o far Ffynnon.


Drama

Nos Wener 26 Hydref 8pm Cwmni Theatr Invertigo yn cyflwyno

Derwen gan Tim Crouch Stiwdio £12/£10 gostyngiadau Mae tad yn colli ei ferch mewn damwain car. Mae’n teimlo fel petai mewn drama - heb wybod y geiriau na’r symudiadau cywir. Mae’r dyn oedd yn gyrru’r car yn hypnotydd llwyfan. Ers y ddamwain, mae ei sioe'n fethiant, mae wedi colli ei bŵer i ddylanwadu. Heno, am y tro cyntaf, bydd y ddau'n cyfarfod pan fydd y Tad yn gwirfoddoli i gymryd rhan yn sioe’r Hypnotydd.

Dau actor. Un actor yn chwarae’r Hypnotydd bob tro (Steffan Donnelly), a’r llall, y Tad, yn actor gwahanol bob nos - sy'n gwybod dim am y ddrama. Dyma brofiad unigryw, sy'n llawn cyfoeth theatraidd, hiwmor tywyll, a stori sy’n bachu’r dychymyg.

ICronfa Datblygu Pontio IPontio Development Fund

33

Cyfle i weld drama arobryn un o ddramodwyr blaenllaw Prydain, Tim Crouch, mewn addasiad Cymraeg, am y tro cyntaf erioed, gan Gwmni Theatr Invertigo (Y Tŵr, My Body Welsh) Cydgynhyrchiad gan Invertigo a Pontio Canllaw oed: 14+


Dydd Mercher 31 Hydref 10:30am-11.30am (perfformiad Cymraeg) 12pm-1pm (perfformiad Saesneg) 1:30pm-2.30pm (perfformiad Cymraeg) 3pm-4pm (perfformiad Saesneg)

Caban Calan Gaeaf

teulu family

Perfformiad a chrefftau arswydus Caban, tirwedd Pontio, Lefel 2 £5 i bawb Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae ysbrydion yn cadw eu gwisg mor lân ar gyfer Calan Gaeaf? Dewch i glywed yr hanes mewn perfformiad yn y Caban, sef ein celf cyhoeddus yn yr awyr agored, ac i gymryd rhan mewn gweithdy crefft i’r teulu cyfan.

Gwisgwch eich gwisg ffansi calan gaeaf a dewch â chôt i gadw'n gynnes. Mae hwn yn ddigwyddiad i’r teulu cyfan a bydd angen i rieni archebu tocyn hefyd ac aros gyda'u plant. Digwyddiad awr o hyd Canllaw oed: 4-7 oed

34

Mae prydau plant ar gael ym mwyty Gorad o £4.25


Nos Iau 1 Tachwedd 7.30pm Pnawn Gwener 2 Tachwedd 1pm

Pedwarawd Llinynnol Allegri mewn cysylltiad â The Radcliffe Trust Stiwdio 1 Tachwedd: £14/£12 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 2 Tachwedd: £12/£8 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18

Rhaglen 1 Tachwedd Haydn – Pedwarawd Llinynnol yn E feddalnod, Op 33 Rhif 2 ‘The Joke’ Debussy – Pedwarawd Llinynnol yn G leiaf, Op 10 Dvorak – Pedwarawd Llinynnol Rhif 12 yn F leiaf, ‘American’ Rhaglen 2 Tachwedd Haydn – Pedwarawd Llinynnol yn C fwyaf, Op 54 Rhif 2 Mendelssohn – Pedwarawd Llinynnol yn F leiaf, Op 80

Mae grŵp siambr hynaf Prydain, y Pedwarawd Allegri, yn 65 oed. Sefydlwyd y grŵp yn 1953 gan Eli Goren ac William Pleeth ac mae wedi chwarae rhan allweddol ym myd cerddorol Prydain yn gweithio gyda chyfansoddwyr fel Benjamin Britten, Michael Tippett, Elizabeth Maconchy, John Woolrich, Peter Fribbins, Anthony Payne, James MacMillan, Matthew Taylor ac Alec Roth yn fwyaf diweddar, gan arwain at gomisiynau a recordiadau newydd. 35

Mae gwahoddiadau rheolaidd i gymdeithasau, cyngherddau a neuaddau cyngherddau enwog yn sefyll ochr yn ochr â chysylltiadau newydd fel y Southbank Sinfonia a'u gŵyl yn Anghiari, yr Eidal, a theithiau ACE wedi eu lleoli yng Nghaergrawnt.


teulu family

Dydd Sadwrn 3 Tachwedd 11.30am a 2.30pm Little Light Dance a Digital Theatre

The Flying Bedroom yn seiliedig ar y llyfr i blant gan Heather Dyer Stiwdio £6.50/£22 tocyn teulu a ffrindiau (4 person, o leiaf un o dan 18) “Mae ystafell wely Elinor yn edrych yn gyffredin ond nid yw hynny’n wir. Pan fydd Elinor yn cysgu, gall ei hystafell wely hedfan." Ymunwch ag Elinor a’i hystafell wely ar antur i diroedd pell, o dan y môr ac i entrychion y gofod. Dewch i ddarganfod ffrindiau newydd, môr-ladron sy’n brwydro a gofodwyr anffodus.

Taith greadigol ac ysbrydoledig lle mae Elinor yn darganfod ei hunanhyder a chreadigrwydd ei hun. Mae Little Light a'r awdur arobryn Heather Dyer yn ymuno i gyflwyno'r stori antur glasurol drwy theatr ddawns, taflunio a phrofiadau synhwyraidd. Canllaw oed: 3 i 7 Sioe ddwyieithog 36

Bydd fformat y gweithdy ychydig yn wahanol y mis hwn… Bydd dewis o ddau weithdy AM DDIM ar ôl y sioe: gweithdy dawns neu weithdy digidol. Nifer cyfyngedig o lefydd felly mae’n rhaid archebu tocyn i’r gweithdy yn ogystal â’r sioe.


Nos Fawrth 6 Tachwedd 7.30pm (Rhagddangosiad) Nos Fercher 7 Tachwedd 7.30pm

Theatr Bryn Terfel Rhagddangosiad: £13/£11 dros 60/£7 myfyrwyr a dan 18 £14/£12 dros 60/£8 myfyrwyr a dan 18 Gan Bethan Marlow Caneuon gan Rhys Taylor a Bethan Marlow Syniad gwreiddiol gan Sara Lloyd a Bethan Marlow A hithau’n flwyddyn pan fo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70 oed, cawn gipolwg ar brysurdeb dyddiol ward canser mewn ysbyty yng Nghymru heddiw, gyda sgript a chaneuon wedi’u llunio o gyfweliadau â nyrsys ‘go iawn’. Mae’r ddrama newydd hon yn rhoi llwyfan i brofiadau nyrsys – yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu yn eu

gwaith o ddydd i ddydd, a’r direidi, y chwaergarwch, a’r teimlad o alwedigaeth sy’n eu cynnal. Dyma ddarlun o’r galon o fywyd a gwaith yr arwyr hyn sy’n gofalu amdanom ni ac am ein hanwyliaid mewn cyfundrefn iechyd dan bwysau parhaol. Cyfarwyddwr: Sara Lloyd Cyflwynir Nyrsys mewn cydweithrediad â Pontio. Canllaw oed: 11+ Bydd modd i’r di-Gymraeg ddilyn y perfformiad gydag ap Sibrwd. Manylion: theatr.cymru 37

Sgwrs cyn y sioe i rai’n dysgu Cymraeg Nos Fawrth 6 Tachwedd, 6.30pm Ystafell Cemlyn Jones, Lefel 2 Am ddim ond angen tocyn Sgwrs ar ôl y sioe Nos Fawrth 6 Tachwedd Theatr Bryn Terfel


Nos Iau 8 Tachwedd 7.30pm

Blodeugerdd Elinor Bennett (Telyn) Stiwdio £15/£8 myfyrwyr a rhai dan 18 Gan gychwyn yng nghyfnod y Baróc, bydd y cyngerdd hwn yn cwmpasu cerddoriaeth i’r delyn dros gyfnod o dair canrif wedi ei chyflwyno gan y delynores Elinor Bennett. Trawsgrifiwyd y Bourée enwog gan J.S Bach (16851750), a Sonata i’r harpsicord gan Domenico Scarlatti (1685-1757), gan y delynores Ffrengig, Henriette Renié, ddechrau’r 20fed ganrif. Ysgrifennodd eu cyfoeswr, John Parry (1710-1782), y bedair Lesson for the Harp or Harpsichord yn 1761.

Cynrychiolir cyfnod y rhamantiaid gan Bencerdd Gwalia, John Thomas, a rhai o’i trefniannau enwog o Alawon Cymru. Anafwyd y cyfansoddwr Ffrengig, Albert Roussel, yn y Rhyfel Mawr ac ysgrifennodd ei Impromptu i’r delyn yn Llydaw wrth iddo wella o’i glwyfau. Ar doriad yr Ail Ryfel Byd y cyfansoddodd Hindemith ei Sonata ef i’r delyn - a hynny pan oedd yn ffoi o’r Almaen i’r Unol Daleithiau i osgoi’r Natsïaid. 38

Mae gweddill y gerddoriaeth yn perthyn i Gymru – o’r caneuon gwerin a chanu penillion i gyfansoddiadau Grace Williams, William Mathias a John Metcalf.


“One of the most vibrant and exciting instrumental bands anywhere on the planet”

Nos Wener 9 Tachwedd 8pm

FRIGG (Y Ffindir) Seithawd o Ffidlau Ffinaidd poeth o diroedd oer Sgandinafia

Gweithdy Alawon Ffidl Ffinaidd Frigg Gwener 9 Tachwedd, 5.30-6.30pm Stiwdio £10 neu £20 am y cyngerdd a’r gweithdy

Theatr Bryn Terfel £16/£15 gostyngiadau £20 am y cyngerdd a’r gweithdy ffidl Mae Frigg, sy'n un o'r grwpiau amlycaf yn y sîn gerddoriaeth Sgandinafaidd, wedi gwefreiddio cynulleidfaoedd yn y Rainforest World Music Festival, WOMADelaide, Celtic Connections, The Scots Fiddle Festival, Fiddles On Fire, Cambridge Folk Festival, Orkney Folk Festival a llawer mwy. Mae eu seiniau Nordgrass unigryw ar y ffidlau - sy'n

Bruce MacGregor, BBC Radio Scotland’s Travelling Folk

gyfuniad o gerddoriaeth werin Nordig a bluegrass - yn cael gwerthfawrogiad brwd. Efallai mai hwn yw'r band mwyaf cyffrous, dyrchafol a chyfareddol yn Hemisffer y Gogledd ar hyn o bryd. Peidiwch â cholli'r storm eira hon o jigiau, riliau, polcas a dyfeisiadau bluegrass. Dyma Sgandogerddoriaeth ar ei gorau! Albwm newydd Frost on Fiddles www.frigg.fi

39

I holl chwaraewyr llinynnau. Mae aelodau'r band yn cynnig profiad o nifer o alawon Sgandinafaidd cynhyrfus - jigs, riliau, polcas, schottisches, waltsiau - a ddysgir drwy'r glust ond bydd sgoriau ar gael i gyfeirio atynt yn y dyfodol. Ar gyfer y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr, chwaraewyr canolig a phrofiadol. Mae croeso i chwaraewyr clasurol, traddodiadol, jas a gwerin!


Gig

Nos Sadwrn 10 Tachwedd 8pm

Geraint Jarman gyda Mellt Theatr Bryn Terfel £12.50 ymlaen llaw/£15 ar y diwrnod Nid oes unrhyw un tebyg i Geraint Jarman o ran ei effaith a'i ddylanwad enfawr a pharhaus ar gerddoriaeth Gymraeg dros yr hanner canrif ddiwethaf. Yn 2018 rhyddhaodd Jarman ei albwm diweddaraf (ei ail ar bymtheg!), sef Cariad Cwantwm, y mae dylanwad reggae yn amlwg arno. Roedd hyn union ddeugain mlynedd ar ôl iddo greu'r clasur Hen Wlad fy Nhadau yn 1978. Roedd hwn yn ddechrau cyfnod newydd yn sicr ac os oedd gan Cŵl Cymru fan cychwyn, roedd i'w gael o fewn rhigolau'r record hon.

“Geraint Jarman shows us why he's a legend of a scene he helped create. He remains a jerky, wiry performer, with an excellent band mixing over-driven rock guitars, reggae and tuneful punk snarl. When he equates Ethiopia and Cymru, you don't need to speak his language to know how he feels” The Independent (Adolygiad Gŵyl Rhif 6 2014)

Mae'r profiad o wrando ar Geraint Jarman yn fyw ar lwyfan yn gymysgedd tanbaid ac afieithus o'r hen seiniau clasurol a'r newydd arloesol gan bontio'r degawdau a rhoi inni roc, y don newydd, reggae, dub, pop a roc gwlad. Gig sefyll gyda nifer cyfyngedig o seddi 16+

40


Drama Myfyrwyr

Nos Fawrth 13 Tachwedd 7.30pm Nos Fercher 14 Tachwedd 7.30pm Cymdeithas Drama Saesneg Prifysgol Bangor yn cyflwyno

Suddenly Last Summer Theatr Bryn Terfel £8/£6 gostyngiadau £25 tocyn teulu a ffrindiau (4 person, o leiaf un o dan 18) Beth yn union ddigwyddodd yn Ewrop yr haf diwethaf? Catharine Holly yw'r unig dyst i farwolaeth erchyll ei chefnder. Nawr mae'n rhaid iddi ailadrodd y digwyddiadau wrth un Doctor Sugar rhag ofn i'w modryb ei chondemnio'n llwyddiannus i gael lobotomi. Ond a wnaiff unrhyw un gredu ei stori cyn ei bod yn rhy hwyr?

Mae Cymdeithas Drama Saesneg Bangor yn cyflwyno drama un act Tennessee Williams, Suddenly Last Summer, stori am aristocratiaid, delwedd, rhywioldeb a cholled. Mae'r cynhyrchiad newydd hwn yn un bywiog ac yn anadlu bywyd newydd i'r darn clasurol hwn na chaiff ei berfformio'n aml.

41


Dawns

Nos Wener 16 Tachwedd 7pm Sadwrn 17 Tachwedd 3pm (perfformiad hamddenol*) balletLORENT yn cyflwyno

Rumpelstiltskin Theatr Bryn Terfel £15.50/£13.50 dros 60/£10.50 myfyrwyr a dan 18 £45 tocyn teulu a ffrindiau (4 person, o leiaf un o dan 18) Mae tîm balletLORENT, a ddaeth â Snow White i chi, yn eu holau gydag addasiad gwreiddiol o stori boblogaidd Rumpelstiltskin. Cyfarwyddir y tîm, sydd wedi ennill sawl gwobr, gan Liv Lorent, ac ailadroddir y stori gan Carol Ann Duffy, Bardd y Frenhines. Stori am un sydd ar y cyrion ac yn cael ei ysgymuno am fod yn wahanol ydi un Rumpelstiltskin. Fo ydi'r siwpyr mwtant gwreiddiol, x-man straeon tylwyth teg.

'... roedd ysbryd ei fam efo fo bob amser... roedd ei chariad ato mor gryf fel y dysgodd y bachgen droi pethau cyffredin yn aur.' Dyma stori am gariad, obsesiwn, galar a chymod mewn sioe sydd yr un mor addas i oedolion ag ydyw i blant. Bydd 10 plentyn 4 i 9 oed a 5 unigolyn o’r genhedlaeth hŷn o’r ardal leol yn perfformio fel rhan o’r cynhyrchiad. Canllaw oed: 7+ *ewch i’r wefan am fwy o fanylion

42

Yn ystod yr egwyl ac ar ôl y sioe Mae Karolina Konior, a raddiodd mewn Celf Gain yn ddiweddar o Goleg Menai, yn cyflwyno gwaith newydd ar gyfer Wal Wen Pontio - gan ddogfennu y gwaith sy’n rhan o ymweliad cyfranogol balletLorent â Bangor.


43


Drama

Nos Fawrth 20 Tachwedd 7.30pm

"Best touring production in Welsh" Gwobrau theatr cymru 2018

Sieiloc Stiwdio £12/£10 gostyngiadau Awdur a Chyfarwyddwr Gareth Armstrong Cyfarwyddwr Cyswllt Rhian Morgan Perfformir gan Rhodri Miles Ai dihiryn ynteu ddioddefwr a gafodd ei drin yn hallt yw Sieiloc, y benthyciwr arian Iddewig o'r Marsiandiwr o Fenis? Mae drama un-dyn rymus Gareth Armstrong yn herio’r stereoteipiau hyn drwy lygaid unig ffrind Sieiloc –

ac unig Iddew arall holl waith Shakespeare - Tiwbal. Wrth ei ddyrchafu i ganol y llwyfan o’i rôl ymylol yn Y Marsiandiwr o Fenis, daw’n amlwg fod Tiwbal yn storïwr o fri, yn llawn o hiwmor, dichell a direidi. Dewch i ddathlu iaith unigryw a chyfoethog Shakespeare yn y driniaeth fanwl, hudol a doniol hon o Sieiloc a'i bobl. Cynhyrchiad yn yr iaith Gymraeg

44


45


Nos Sadwrn 24 Tachwedd £10 INFERNO UNSEEN + Sgôr electronig byw ROLLO SMALLCOMBE

Nos Wener 23 Tachwedd £8 The Films of Maya Deren + Perfformiad cerddorol byw gan ADWAITH

Mwy o fanylion a rhaglen lawn ar gael yn fuan

46


BARGEN FWYD

SINEMA

@

Bwyty Restaurant

Pob Dydd Mercher Ad Sinema

*Ac eithrio rhai perfformiadau gweler gwefan am fanylion

£10 £15 bu:

I arche

TOCYN SINEMA TOCYN SINEMA

Prif gwrs plentyn + diod feddal + popcorn Pitsa 12” + diod* (*naill ai gwydraid o win tŷ, potel o gwrw neu ddiod feddal)

Archebu ar lein www.pontio.co.uk Ffoniwch neu ewch i’n swyddfa docynnau ar 0124847382828

pontio.co.uk


Nos Wener 23 Tachwedd 7.30pm Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Xian Zhang yn arwain Beethoven Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor £15/£13.50 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 £20/£15 Tocynnau Teulu Beethoven Symffoni Rhif 1 Weber Concerto Rhif 1 i’r Clarinét Beethoven Symffoni Rhif 5 Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Clarinet Robert Plane Arweinydd Xian Zhang

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a'u Prif Arweinydd Gwadd, Xian Zhang, yn dychwelyd i Fangor gyda'r nesaf yn eu cyfres o gyngherddau a gynhelir ledled Cymru. Y tro yma byddant yn canolbwyntio ar weithiau cerddorfaol yr eiconig Ludvig van Beethoven. Yn dilyn eu rhaglen wefreiddiol o waith Beethoven yn Neuadd Prichard-Jones yn 2017, yn 48

Jam yn y bar Ymunwch â Dr Jazz ac Ensemble Cymru am rywbeth bach ychwanegol yn dilyn y cyngerdd am 9.30pm ym mar Ffynnon, Pontio. Digwyddiad am ddim. yr ymweliad hwn byddant yn paru symffoni gyntaf arbrofol y cyfansoddwr gyda'i bumed symffoni eiconig, sy'n adnabyddus o'r nodau cyntaf un. Rhwng y ddwy symffoni hyn chwaraeir perl i'r adran chwythbren, sef Concerto Weber i'r Clarinét, a berfformir gan Brif Glarinetydd y Gerddorfa, Robert Plane.


Nos Sadwrn 24 Tachwedd 8pm

Alys Williams gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Theatr Bryn Terfel £16/£14 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 £20/£15 Tocyn Teulu Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio gyda'r gantores-cyfansoddwraig caneuon nodedig Alys Williams, mewn cyngerdd ar y cyd arbennig i gynulleidfaoedd ym Mangor. Dyma gyfle unigryw i glywed y gantores wefreiddiol yn perfformio caneuon o'i repertoire fel nas clywsoch hwy erioed o'r blaen - wedi eu hail-lunio ar gyfer llais a cherddorfa.

Bydd cyfle i wrando ar ganeuon adnabyddus fel clasur Ryan a Ronnie, Pan Fo'r Nos yn Hir, ynghyd â chaneuon a ysgrifennwyd gan Alys ei hun, yn cynnwys Blodau Papur a fersiwn newydd o Gweld y Byd Mewn Lliw. Bydd y cyfan mewn trefniant hudolus newydd ar gyfer Alys a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

49

Meddai Alys Williams "Mae canu gyda cherddorfa lawn yn brofiad eithriadol a dyrchafol dros ben ... fedra i ddim disgwyl!" Cyhoeddir yn fuan pwy fydd yr act gefnogol.


BLAS yw rhaglen ieuenctid Pontio sy’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gael blas o’r celfyddydau. Rydym yn cynnal gweithdai drama wythnosol yn Stiwdio Pontio: Bob Dydd Llun Dosbarth Bl 3 a 4 - 5-6pm Dosbarth Bl 5 a 6 6:15-7:15pm

I archebu lle yn y gweithdai wythnosol, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01248 382828, neu cysylltwch â Mared Elliw Huws, m.huws@bangor. ac.uk, am ragor o wybodaeth.

Dosbarth Bl 7, 8 a 9 7:30-8:30pm Bob dydd Mercher Dosbarth Bl 10 i 13 7:30-8:30pm

Dyma flas o’r gwaith Yng Ngolau’r Lleuad

Y Byd Ben i Waered

Bu panel o arbenigwyr, Dr J. Elwyn Hughes, Betsan Llwyd, Carys Gwilym a Siôn Trystan, yn trafod nofel Caradog Pritchard Un Nos Ola Leuad ar gyfer myfyrwyr Lefel A sy'n astudio'r nofel a'r ddrama lwyfan. Perfformiwyd detholiadau o’r ddrama gan ddau actor o Gymdeithas Drama Gymraeg, Prifysgol Bangor a chafodd y myfyrwyr gyfle i holi'r panel.

Ymunodd dau ddosbarth BLAS, Dosbarth Blwyddyn 3 a 4 a Blwyddyn 5 a 6 i ddyfeisio sioe wreiddiol. Buont yn gweithio'n galed iawn gyda syniadau a chymeriadau gwahanol gan lunio stori a wnaeth droi eich byd ‘a’i ben i waered’. Perfformiwyd y sioe ar lwyfan Theatr Bryn Terfel.

50

Hefyd mae BLAS yn gweithio efo ysgolion a’r gymuned.


Nos Fercher 28 Tachwedd 7pm BLAS yn cyflwyno

Fi, Chdi a Chelwydd Theatr Bryn Terfel £6/£3 myfyrwyr a dan 18 Tocynnau yn mynd ar werth fis Hydref. Mae dosbarth blwyddyn 7, 8 a 9 yn ymuno eto gyda dosbarth blwyddyn 10 - 13 i greu perfformiad wedi'i

Ymchwilio i Hyder Merched - Project Ymchwil Celfyddydol gydag Ysgol Llandygai. Trwy ddefnyddio cerddoriaeth, dawns a drama, fe wnaethom ymchwilio i’r hyn a godwyd gan astudiaeth yn y Science Journal, a gyhoeddwyd 27 Ionawr 2017. Cafwyd cyfnod preswyl o 10 wythnos yn Ysgol Llandygai, gyda 3 ymarferydd tu hwnt o brofiadol yn chwarae gyda'r plant ym Mlwyddyn 1 a 2. Cofnodwyd y broses ar ffilm i weld a oedd yr hyn a gyhoeddwyd yn y Science Journal yn wir, ac os felly, a all y celfyddydau helpu i fynd i'r afael â'r 'materion' hyn.

ddyfeisio. Hoffwch dudalen Facebook BLAS, Pontio i weld sut mae'r sioe yn datblygu dros y misoedd nesaf.

Ein Lleisiau Derbyniodd disgyblion o Ysgol Friars hyfforddiant mewn dementia a sgriptio air am air cyn cychwyn ar gyfnod preswyl 5 wythnos yng Nghartref Gofal Glyn Menai, Fairways. Yn ystod eu hamser yno roeddent yn cynnal sgyrsiau gyda'r trigolion a threulio amser i ddod i’w hadnabod. Cofnodwyd y sgyrsiau hyn ac ysgrifennodd a pherfformiodd y disgyblion y ddrama air am air Ein Lleisiau yn Pontio. Hefyd, roedd BLAS yn cynnal nifer o weithdai mewn ysgolion ac y Pontio fel rhan o'n rhaglen ymgysylltu. 51


Dawns

Nos Sadwrn 1 Rhagfyr 7pm Ballet Cymru yn cyflwyno

A Child’s Christmas, Poems and Tiger Eggs Theatr Bryn Terfel £13/£11 gostyngiadau Bale newydd sbon gan y cwmni dawns Cymreig, Ballet Cymru, sydd wedi ennill sawl gwobr. Adroddir y testun gan Cerys Matthews. Mae Ballet Cymru'n cyflwyno dehongliad digyfnewid o glasur Dylan Thomas, A Child's Christmas in Wales, gyda cherddoriaeth gan Mason Neely a llefaru gan yr eicon Gymreig, Cerys Matthews. Camwch i mewn i ddychymyg athrylith a'n dilyn ar daith drwy eira, cathod a phruddglwyf. Gyda choreograffi gan Darius James, enillydd

Gwobr Cymru Greadigol, ac Amy Doughty, a gwisgoedd atgofus sy'n dweud cyfrolau, mae Ballet Cymru'n dod â'r stori hyfryd hon yn fyw gan ddefnyddio cymysgedd unigryw y cwmni o dechneg glasurol ac adrodd stori. Mae A Child’s Christmas, Poems and Tiger Eggs gan Dylan Thomas yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Ballet Cymru a Theatr Glan yr Afon. Dawns Ffrwydrol. Theatr Gorfforol. Bale Clasurol. Canllaw oed: 8+ 52

Dosbarth Meistr Ballet Cymru Theatr Bryn Terfel Sadwrn 1 Rhagfyr, 3-5pm Dosbarth meistr a gweithdy pas de deux gyda dawnswyr proffesiynol Ballet Cymru. Am ddim ond wedi ei docynnu, ac ar agor i rai gyda thocyn i 'A Child’s Christmas, Poems and Tiger Eggs' yn unig. I archebu lle ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01248 38 28 28 neu galwch draw. Lefel bale canolradd/uwch.


Nos Sul 2 Rhagfyr 7.30pm

Cerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor £12/£10 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 Chris Collins arweinydd Richard Craig (ffliwt) Gary O’Shea (piano) Mared Emlyn Porthor (Whistling Sands) Reinecke Concerto yn D fwyaf i'r Ffliwt Beethoven Choral Fantasy Brahms Symffoni Rhif 1 Ymunwch â Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor am gyngerdd o gerddoriaeth swynol ac

atgofus, yn cynnwys y gerdd symffonig hudolus Porthor, gan y gyfansoddwraig Gymreig, Mared Emlyn. Fe'i hysbrydolwyd i gyfansoddi'r darn hwn gan y traeth enwog ar benrhyn Llŷn gyda'i dywod sy'n chwibanu yn y gwynt. Bydd y prif ffliwtydd Richard Craig yn perfformio Concerto melodaidd Reinecke i'r Ffliwt, a bydd y pianydd Gary O'Shea a Chorws y Brifysgol 53

yn ymuno â'r Gerddorfa Symffoni ar gyfer Choral Fantasy unigryw Beethoven. Daw'r cyngerdd i ben gyda Symffoni Gyntaf fawreddog Brahms, a berfformir o'r golygiad beirniadol a wnaed gan Robert Pascall (1944-2018), cyn Bennaeth Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.


Pantomeim

Dydd Llun 3 Rhagfyr 12.45pm Dydd Mawrth 4 Rhagfyr 10am, 12.45pm Dydd Mercher 5 Rhagfyr 10am, 12.45pm Cwmni Mega yn cyflwyno pantomeim

Branwen Theatr Bryn Terfel £10 oedolion/£8 dan 18

Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i drafod archebion grŵp ac ysgolion 01248 38 28 28

Gan Huw Garmon Branwen Ferch Llŷr yw stori fwyaf adnabyddus Pedair Cainc y Mabinogi. Mae’n debyg mai’r cymeriadau sy’n deffro ein dychymyg – y cawr Bendigeidfran, ei chwaer hardd Branwen, a’r hanner brawd dieflig Efnisien. Ond mae daearyddiaeth y stori yn deffro’r dychymyg hefyd, Bendigeidfran yn eistedd ar graig Harlech ac yn syllu allan dros y môr, Matholwch, brenin Iwerddon, yn hwylio’r Môr Celtaidd i chwilio am

wraig, Llys Aberffraw yn cynnal neithior y briodas, ymgyrch y Cymry yn Iwerddon, ac wrth gwrs bedd Branwen ar lan afon Alaw ar Ynys Môn. Cawn weld Bendigeidfran y cawr yn cerdded ar draws y môr o Gymru i Iwerddon ac yna’n gorwedd ar draws afon er mwyn creu pont i’w fyddin allu croesi. Mae’r driniaeth annheg a roddir i Branwen pan yn garcharor yn Iwerddon yn codi arswyd.

54

Trwy ddod â’r stori’n fyw yn nychymyg y gynulleidfa, y gobaith yw y byddant yn perchnogi ac uniaethu gyda stori sy’n rhan bwysig o’u treftadaeth ddiwylliannol. Gobeithir hefyd ddeffro diddordeb a chwilfrydedd cynulleidfa newydd i archwilio a darganfod diwylliant hynafol Cymru drostynt hwy eu hunain.


Tocyn Anrheg Pontio Anrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur Gydag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar gael yn Pontio, o ddrama i syrcas, cerddoriaeth byd a gigs i bale, panto, ffilm a mwy, prynwch docyn anrheg am £10, £20 neu £50.

Gallwch archebu oddi ar ein gwefan, www.pontio.co.uk, dros y ffôn ar 01248 38 28 28 neu ewch draw i’n Swyddfa Docynnau – bydd rhywbeth at ddant bawb.

Pontio a thîm Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno

Dewch i Ganu... Carolau Dydd Sadwrn 8 Rhagfyr 2.30 - 3.30pm, Bar Ffynnon Fel rhan o ddathliadau Nadoligaidd Bangor mewn awyrgylch anffurfiol a hwyliog. Gyda Jenny Pearson, cantores opera a hwylusydd lleisiol

Annette Bryn Parri, repetiteur / piano Mins peis a gwin poeth ar gael i'w prynu. 55


Pnawn Sul 9 Rhagfyr 3pm

The Ensemble of St Luke’s Stiwdio £12/£10 dros 60/£5 myfyrwyr a dan 18 Bydd ensemble llai Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, The Ensemble of St Luke’s, yn dychwelyd i Pontio, gyda rhaglen yn cynnwys uchafbwyntiau o repertoire y pedwarawd llinynnol. Bydd rhywbeth i bawb yn y rhaglen hon, o fynychwyr cyngherddau cyson i wrandawyr newydd chwilfrydig, na fyddant erioed o'r blaen wedi clywed seiniau cynnes pedwarawd llinynnol byw efallai. Bydd y gerddoriaeth yn pontio'r canrifoedd, gyda gweithiau gan Mozart,

Beethoven, Dvorak a The Beatles, yn ogystal ag ambell i syrpreis Nadoligaidd. Cyflwynir y cyfan yn argyhoeddiadol gan Gethyn Jones, sielydd yr ensemble. Dewch draw a mwynhewch eich hun! Sefydlwyd The Ensemble of St Luke's yn 1992, pan fu i grŵp o ffrindiau, pob un yn aelodau o Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, benderfynu perfformio nifer o gyngherddau siambr i godi arian at wahanol elusennau. Oddi ar hynny, mae wedi perfformio'n rheolaidd 56

mewn clybiau a gwyliau cerddoriaeth ar draws Cymru a gogledd Lloegr.

Ar ddiwrnod y cyngerdd bydd aelodau Ensemble of St Luke’s yn ymweld â chartref gofal Bryn Seiont, Caernarfon i berfformio a chyfarfod y preswylwyr, eu teuluoedd a staff.

Bydd bwydlen Nadoligaidd ar gael ym mwyty Gorad.


Nos Fercher 12 Rhagfyr 7.30pm Nos Iau 13 Rhagfyr 7.30pm Nos Wener 14 Rhagfyr 7.30pm Ysgol Tryfan yn cyflwyno

Y Siop Fach Arswydus Theatr Bryn Terfel £10/£7.50 gostyngiadau I drigolion Skid Row, mae bywyd yn llawn breuddwydion, ond mewn gwirionedd yn un heb ddyfodol. Ond mae gobaith ar y gorwel i gynorthwywr y siop flodau, Seymour, pan mae’n darganfod planhigyn newydd dirgel gyda photensial annisgwyl. A fydd

ei enwogrwydd a'i ffortiwn newydd yn ennill sylw Audrey, ei gariad o bell? A fydd yn gallu torri'n rhydd a bod yn hapus ... beth bynnag fo’r canlyniadau?

57


Dydd Mawrth 18 Rhagfyr 11.30am, 1.45pm Dydd Mercher 19 Rhagfyr 10am (perfformiad hamddenol*), 11.30am, 1.45pm Dydd Iau 20 Rhagfyr 10am, 11.30am, 1.45pm Dydd Gwener 21 Rhagfyr 10am, 11.30am, 1.45pm Dydd Sadwrn 22 Rhagfyr 11.30am (perfformiad hamddenol*), 2.30pm

Llew a’r Crydd Stiwdio Perfformiadau yn ystod yr wythnos: £6/£20 tocyn teulu Perfformiadau dydd Sadwrn: £6.50/£22 tocyn teulu Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i drafod archebion grwp ac ysgolion 01248 38 28 28

Mae dau frawd yn teithio’r byd yn casglu straeon rhag iddynt fynd ar goll. Un noson, pan yn methu mynd i gysgu, maen nhw’n dweud stori am fachgen o’r enw Llew, crydd cybyddlyd cas, coblyn bach hudolus a thywysoges sydd eisiau gwneud dim ond dawnsio... Ymunwch â ni ar antur hudolus, digon o straeon, cerddoriaeth fyw a phypedau od iawn yr olwg…

Cynhyrchiad ar y cyd gan Pontio a Theatr Clwyd. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Emyr John Cynlluniwyd gan Heledd Rees Cast: Siôn Emyr a Siôn Eifion Cynhyrchiad Cymraeg Addas ar gyfer plant 4 i 7 oed *ewch i’r wefan am fwy o fanylion

Bydd dylunydd y sioe a’r artist Heledd Rees yn cynnal gweithdai AM DDIM ar ôl y perfformiadau ar dydd Sadwrn. 58


Nos Wener 21 Rhagfyr 8pm

FARA gyda Plu Theatr Bryn Terfel £14/£13 gostyngiadau Yn dilyn rhyddhau eu halbwm cyntaf, Cross the Line, yn 2016, mae FARA, pedwarawd gwerin o Ynysoedd Erch (Orkney), yn dychwelyd i Fangor fel rhan o’u taith drwy Brydain i gyd-fynd â rhyddhau eu hail albwm ym mis Hydref 2018. Gyda chaneuon gwreiddiol ganddynt hwy eu hunain a thraciau offerynnol, bydd FARA yn dathlu'r gymuned a wnaeth eu hysbrydoli i ddod yn gerddorion. Mae'r albwm wedi'i wreiddio yn ysbryd Ynysoedd Erch a'u pobl, gan gyfuno traddodiad ffidl unigryw yr ynysoedd gyda chaneuon ac alawon cyfoes a gwreiddiol.

Gyda chenhadaeth i greu rhywbeth cwbl newydd ac ar y cyd, mae pedwar aelod FARA wedi cyd-ysgrifennu llawer o'r alawon sydd ar yr albwm, gan wneud i'r pedwar llais cerddorol gwahanol ymdoddi i'w gilydd. Mae'r caneuon yn cynnwys geiriau gan rai o feirdd Ynysoedd Erch: George McKay Brown, Edwin Muir a Christina Costie. Mae delweddaeth oesol Ynysoedd Erch yn cyniwair drwy'r caneuon hyn, ynghyd ag alawon newydd sy'n gyforiog o draddodiad yr ynysoedd ond sydd hefyd yn arwain i gyfeiriadau newydd. 59

Ffurfiwyd Plu - sef y ddwy chwaer Elan a Marged a'u brawd Gwilym Rhys - yn haf 2012. Maent yn chwarae cymysgedd o gerddoriaeth bop a gwerin Gymraeg, gyda harmonïau clos tair rhan yn asgwrn cefn i'w set amrywiol.

Mwynhewch ein platiad rhannu Cabaret newydd yn y Theatr, ar gael o far Ffynnon.


Nos Wener 11 Ionawr 7.30pm Cerddorfa WNO

Noson yn Fienna Theatr Bryn Terfel £17/£16 dros 60 /£5 myfyrwyr o dan 18 Yn cynnwys gwydriad o Prosecco: £19.50/£18.50 dros 60/£7.50 myfyrwyr*

* Bydd angen cerdyn adnabod

Yn dilyn cyngerdd a gafodd groeso eithriadol yn 2018, mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i Fangor ym mis Ionawr gyda chyngerdd Blwyddyn Newydd poblogaidd arall. Yn ein rhaglen eleni mae gennym nid yn unig ein cerddorfa ddawnus, ond hefyd ddimensiwn newydd a phriodol caneuon, a fydd yn sicr o ddod ag ysbryd Fienna

a'i neuaddau cyngerdd yn fyw. Dan gyfarwyddyd medrus ein Blaenwr ac Arweinydd Cerddorfa, David Adams, mae'r cyngerdd yn agor gydag ynni anorchfygol Agorawd Oberon gan Weber. Yna cawn fwynhau David fel unawdydd yn chwarae gweithiau cain a meistrolgar gan Fritz Kreisler. Yn unol â thraddodiad blynyddoedd maith, bydd y Gerddorfa wedyn yn eich 60

arwain drwy ddetholiad hyfryd o waltsiau, polcas a chaneuon Fiennaidd sy'n adnabyddus a hoff gan lawer ledled y byd. Bydd Cân Chwerthin Strauss, Csárdás, Vilja o waith Lehar, y Blue Danube fytholwyrdd a’r Radetsky March cynhyrfus yn sicr o wneud hon yn Flwyddyn Newydd Dda Iawn i chi gan Opera Cenedlaethol Cymru!


Byddwch yn rhan bwysig o’n tîm Cwrdd ag ystod eang o bobl Dysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd

Derbyn cydnabyddiaeth am y sgiliau yr ydych yn eu datblygu a phwyntiau XP ar gyfer Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

Diddordeb? gwirfoddolwyr@pontio.co.uk 01248 382666

“Mae’n lle gwych ac yn ffordd ragorol o wybod beth sy’n digwydd ym myd y celfyddydau, yn ogystal â gwella fy Nghymraeg” Wendy, Gwirfoddolwr

"Dwi wrth fy modd yn gwirfoddoli fel ffordd o gyfarfod â phobl newydd" 61

Michael, Gwirfoddolwr


Gwybodaeth Gyffredinol Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28. Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www.pontio.co.uk/ Online/term Tâl Postio Ni chodir ffi pan fyddwch yn prynu tocynnau, ond codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post. Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref.

Teuluoedd Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed. Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim. Cynllun Mynediad Hynt Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofynion mynediad penodol, yn aml, gall mwynhau ymweliad â theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo.

62

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae Pontio yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg. Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.