Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Bangor
Rhaglen Artistig
Medi – Rhagfyr 2019
COPI AM DDIM
Croeso i Pontio Oriau Agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn 8.30am-11pm Dydd Sul 12.00pm-8pm
Bar Ffynnon Lefel 0 Llun - Gwener * 4.30pm – 9pm (Prynhawn dydd Mercher o 1.30pm) Sadwrn 10.30am-9pm Sul 12pm-6pm (Mae Bar Ffynnon ar agor tan 11pm ar gyfer perfformiadau theatr nos)
Byddwn yn cau Ddydd Sul 22 Rhagfyr ac yn ail agor ar Dydd Iau 2 Ionawr 2020. Tocynnau Ar-lein www.pontio.co.uk 01248 38 28 28 Ymholiadau: info@pontio.co.uk
*Yn ystod gwyliau ysgol bydd Bar Ffynnon ar agor 10.30am Llun-Sadwrn
Cegin Lefel 2 Llun - Sadwrn 8.30am archebion bwyd olaf 8pm Sul 12pm- archebion bwyd olaf 6pm
Llinellau ffôn 01248 38 28 28 Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am-8.30pm Sul 12pm-6pm
Cofrestrwch i gael y newyddion diweddaraf ar pontio.co.uk @TrydarPontio PontioBangor pontio_bangor PontioBangor
Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, neu fersiwn glywedol, cysylltwch ar 01248 38 28 28 Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu Rhif Elusen: 1141565
Clawr: Theatr Genedlaethol Cymru: Y Cylch Sialc Llun gan Kirsten McTernan
Cynllun Seddi Theatr Bryn Terfel
llwyfan
d— dd— e— f— ff— g— ng— h— l— ll— m— balconi lefel 1
*Mae Theatr Bryn Terfel yn ofod hyblyg, a gall cyfansoddiad y seddi newid yn dibynnu ar y perfformiad. Ewch i’r wefan i gael y wybodaeth am y perfformiad dan sylw.
1a— 1b— balconi lefel 2 2a— 2b—
2ch—
c— ch—
1dd— 1d—
r— ph—
n— p—
2c—
1c— 1ch—
a— b—
Cipolwg Pontio Medi – Rhagfyr 2019 Medi Iau 5 Gwener 20 Sadwrn 21 Iau 26 Gwener 27 Hydref Iau 3 Iau 3 Sadwrn 5 Mercher 9 Gwener 11 Sadwrn 12 Mawrth 15 Mercher 16 Iau 17 Gwener 18 Iau 17 Sadwrn 19 Mawrth 22 Mercher 23 Iau 24 Gwener 25 Gwener 25 Sadwrn 26 Sadwrn 26 Mercher 30 Iau 31 Tachwedd Sadwrn 2 Sul 3 Iau 7 Gwener 8 Gwener 8 Sadwrn 9 Sadwrn 9 Mercher 13 Iau 14 Gwener 15 Sadwrn 16 Mawrth 19 Iau 21 Gwener 22 Llun 22 Sadwrn 23 Gwener 29 Sadwrn 30 Rhagfyr Iau 5 Gwener 6 Sadwrn 7 Mercher 11 Iau 12 Gwener 13 Iau 12 Sadwrn 14 Mawrth 17 Mercher 18 Mercher 18 Iau 19 Gwener 20 Sadwrn 21 Sadwrn 21
Amser 7.30pm 8pm 11.30am a 2.30pm 8pm 7.30pm
Illuminate The TAPE FACE Show Hey Diddle Diddle Clwb Comedi Cyngerdd Dathlu
Tud 11 12 15 17 19
8pm 7.30pm 10am - 4pm 2pm 7.30pm 8pm 7.30pm 7.30pm 7.30pm 7.30pm 8pm 11.30am a 2.30pm 7.30pm 12.30pm a 7.30pm 8pm 10am 7pm 7pm 8pm 6.30pm 10:30am - 3pm
Suzi Ruffell: Dance Like Everyone's Watching Caredigrwydd a Marmalêd Palasau Hwyl Pontio P’nawn Ffilm, Cacen a Chân: Calamity Jane (U) Llŷr Williams Carwyn Ellis a Rio 18 Theatr Genedlaethol Cymru: Y Cylch Sialc Theatr Genedlaethol Cymru: Y Cylch Sialc Theatr Genedlaethol Cymru: Y Cylch Sialc Theatr Genedlaethol Cymru: Y Cylch Sialc Clwb Comedi Woodland Tales with Grandad Eye of the Storm Eye of the Storm James Acaster: Cold Lasagne Hate Myself 1999 Gŵyl Hanes: David Olusoga OBE Gŵyl Hanes: David Starkey CBE Gŵyl Hanes: Lucy Worsley OBE 9Bach O Iaith i Gân Caban Calan Gaeaf
20 21 22 24 25 26 28 28 28 28 30 31 31 31 32 33 33 33 34 36 37
11.30am a 2.30pm 3pm 8pm 7pm 7.30pm 7pm 7.30pm 7pm 7pm 8pm 8pm 8pm 7.30pm 8pm 8pm 8pm 7.30pm 7.30pm
Dygwyl y Meirw Ensemble Cymru: Wythawd Clwb Comedi Ockham’s Razor: THIS TIME Theatr Bara Caws: Lleu Llaw Gyffes Ockham’s Razor: THIS TIME Theatr Bara Caws: Lleu Llaw Gyffes ROSTRA: Twelfth Night ROSTRA: Twelfth Night Natacha Atlas Gig H a'r Band Thespianage Comedy Back in Bangor It's a Wonderful Life Cabaret Pontio: Talisk BBC NOW: Symffoni New World Dathlu Sain yn 50 Ballet Cymru: Triple Bill Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor
38 39 49 42 41 42 41 43 43 44 45 46 47 48 50 51 52 53
7.30pm 7.30pm 8pm 10am a 12.45pm 10am a 12.45pm 10am a 12.45pm 8pm 7.30pm 11.30am a 1.45pm 10am (hamddenol) 11.30am a 1.45pm 10am, 11.30am a 1.45pm 10am, 11.30am a 1.45pm 11.30am (hamddenol) a 2.30pm 7.30pm
Eric and Ern Christmas Show Eric and Ern Christmas Show Elephant Sessions Arwyr Arwyr Arwyr Clwb Comedi A Merry Little Christmas with Only Men Aloud Y Trol Wnaeth Ddwyn y ‘Dolig Y Trol Wnaeth Ddwyn y ‘Dolig Y Trol Wnaeth Ddwyn y ‘Dolig Y Trol Wnaeth Ddwyn y ‘Dolig Y Trol Wnaeth Ddwyn y ‘Dolig Y Trol Wnaeth Ddwyn y 'Dolig Nadolig Celtaidd yng Nghymru gyda Calan
54 54 55 56 56 56 57 58 60 60 60 60 60 60 61
www.pontio.co.uk 01248 38 28 28
Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf www.pontio.co.uk
@TrydarPontio
PontioBangor
Pontio_Bangor
PontioBangor
1
Synthesis
Diwrnod Hw
ulu
Diwrnod Hwyl i’r Te
Synthesis
2
yl i’r Teulu
Mae’n dymor o wahodd hen ffrindiau, cynnig y cyfarwydd ac ambell brofiad newydd yma yn Pontio, gan ddyfnhau’n perthynas gyda’n partneriaid creadigol, ein cymunedau lleol a myfyrwyr. Cynigiwn lwyfan unwaith yn rhagor i ffefryn y gynulleidfa, Cwmni syrcas Ockham’s Razor, sy’n addo profiad theatrig llawn tynerwch dynol. Croesawn ein Theatr Genedlaethol yn ôl, y tro hwn i gyflwyno addasiad Mererid Hopwood o ddrama Almaeneg Brecht, Y Cylch Sialc, gyda’r gantores Gwenno yn cyd-berfformio, ac fe gyflwynwn gynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, sef drama gignoeth newydd, Lleu Llaw Gyffes gan Aled Jones Williams, fydd yn sicr o’n hysgwyd a’n lleddfu. Croesawn gyn-fyfyrwyr cymdeithas gomedi y Brifysgol yn ôl gyda sioe broffesiynol i roi gwên ar ein hwynebau ac Aelwyd JMJ i rannu eu doniau lu â ni mewn Cyngerdd Dathlu arbennig gyda Chôr Seiriol a Chôr y Brythoniaid.
Hefyd cawn ffilmiau a darllediadau byw, gŵyl gyntaf Ysgol Hanes y Brifysgol, Diwrnod Palas Hwyl, cyngherddau clasurol, cerdd byd a chyfoes a ‘Noson yng Nghwmni’ awdur arbennig sydd wedi ennyn y parch mwyaf, Jan Morris. Bydd y cymeriadau digri ac annwyl, Cwilsyn a Metso, yn dychwelyd i fynd â ni a phlant y fro ar antur storïol mewn cydgynhyrchiad newydd arbennig gyda Theatr Clwyd. Ac ar drothwy’r Nadolig, bydd Only Men Aloud a Calan yn dychwelyd i’n paratoi ar gyfer yr ŵyl. Trwy’r tymor i ddod, a thu hwnt, boed i ddrysau Pontio fod yn agored i bawb o bob oed a chefndir, i ddarganfod, profi a rhannu gwefr y celfyddydau… ymlaen!
3
Cegin advert
Ar agor 7 diwrnod yr wythnos, yn gweini amrywiaeth o bagels ffres, pitsas wedi’u coginio gartref, wafflau cartref a chacennau blasus. Am fwy o wybodaeth ewch i’r tudalennau bwyd a diod www.pontio.co.uk
Oriau agor Dydd Llun - Dydd Sadwrn 8.30am – archebion bwyd olaf 8pm Dydd Sul 12pm – archebion bwyd olaf 6pm
4
Bwyd a Diod Food & Drink
M W Y N H E WC H EIN BWYDLEN DIGWYDDIADAU ARBENNIG Ar gael cyn perfformiadau penodol. Gweler y wefan am fanylion.
I Ddechrau Cawl cartref y dydd gyda bara crystiog cynnes a menyn (Figan, DG ar gael) - £4.50 Brithyll mwg a salad tatws newydd, crème fraiche dil, caprys a berwr dŵr (DG) - £5.75 Tarten betys a nionod wedi’u carameleiddio gyda salad berwr a thomatos bychain (Ll) - £5.50
Y Prif Gwrs Bourguignon cig eidion Cymreig gyda stwnsh seleriac, blodfresych rhost, moron enfys a chêl wedi’i ffrio’n ysgafn (DG) - £13.95 Lwyn penfras rhost wedi’i lapio mewn ham Serrano, brocoli ac asbaragws wedi’u stemio, tatws newydd wedi’u lled-stwnsio a saws tomato a phupur coch (DG) - £13.95 Wellington madarch, brie a llugaeron, saws madarch, llysiau tymhorol gwyrdd a moron chanteney rhost (Ll) - £12.50 Byrgyr 6oz cig eidion gwartheg duon Cymreig gyda chaws a nionod wedi’u carameleidddio, sglodion trwchus, colslo a salad (Dewis llysieuol ar gael) - £10.95
Pwdinau Mousse siocled dwbl a rym Barti Ddu Cymreig, mefus ffres a hufen Chantilly (Ll) - £5.50 Paflofa mafon a grandila gyda coulis mango a ffrwythau ffres (DG, Ll) - £5.50 Dewis o gawsiau Cymreig, grawnwin, siytni cwrw Cymreig a bisgedi (Ll) - £5.95
Mae’r fwydlen uchod ar gael yn ystod mis Medi a mis Hydref, ewch i’r tudalennau bwyd a diod www.pontio.co.uk am fanylion y fwydlen mis Tachwedd a mis Rhagfyr
5
6
7 DIWRNOD YR WYTHNOS AGORED I BAWB
1 Sgrin 3D 70 dangosiad y mis 15 ffilm newydd y mis 1 llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr fyw Mae rhaglen Sinema Pontio ar gael ar-lein a thrwy gyhoeddiad misol a ddosberthir yn lleol ac yn y ganolfan. I dderbyn bwletinau e-bost wythnosol, crëwch gyfrif ar-lein yn www.pontio.co.uk gan roi tic wrth ymyl ‘Sinema’ yn y categori diddordebau. Dilynwch y newyddion ffilm diweddaraf ar Trydar @sinemapontio
Archebwch ar pontio.co.uk 01248 38 28 28
7
Dangosiadau byw i ddod yn Sinema Pontio…
NTLIVE:ONE MAN, TWO GUVNORS Iau 26 Medi
Angela Carter’s WISE CHILDREN Iau 3 Hydref Gweler ein rhaglen sinema fisol am fanylion dangosiadau byw eraill nad ydynt wedi eu cyhoeddi eto a rhestr sinema lawn, neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 8 ar 01248 38 28 28
ROH LIVE: DON GIOVANNI(Opera) Mawrth 8 Hydref
NTLIVE: A MIDSUMMER NIGHT’S DREAM Iau 17 Hydref
ROH LIVE: DON PASQUALE (Opera) Iau 24 Hydref
ROHLIVE: CONCERTO/ ENIGMA VARIATIONS/ RAYMONDA(Ballet) Mawrth 5 Tachwedd
ROHLIVE: COPPELIA(Ballet) Mawrth 10 Rhagfyr
NTLIVE: HANSARD Iau 7 Tachwedd ROHLIVE: THE NUTCRACKER (Ballet) Mawrth 17 Rhagfyr
NTLIVE: PRESENT LAUGHTER Iau 28 Tachwedd
I archebu: www. pontio.co.uk 01248 38 28 28 9
4 Medi 24 Hydref Lefel 0
Celf
Susan Williams Olrhain Mae Olrhain yn edrych yn weledol ar sut mae dynoliaeth wedi newid ymddangosiad gweledol tirwedd Gogledd Cymru. Gan ddefnyddio fideograffeg o’r awyr fel deunydd ffynhonnell, mae Susan yn llunio delweddau digidol a laser sy’n ymgorffori lluniadu a phaentio.
chwarelyddol Gogledd Cymru, gan gynnwys Mynydd Parys a’r Gogarth. Yn Olrhain, mae Susan yn ailymweld â’r wythïen gyfoethog hon o destunau gweledol a throsiadol, gan wthio ei hiaith weledol a’i syniadau ymhellach trwy ddefnyddio technolegau digidol.
Mae’r project yn adeiladu ar waith cynharach, Drawing from the Land, a ddisgrifiodd yn weledol dirwedd
Mae Olrhain yn broject Ymchwil a Datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda’r nod o alluogi Susan i
10
arbrofi gyda thechnolegau digidol i newid ei dull arferol o baentio. Mae Susan wedi defnyddio cyfleusterau fabLAB Arloesi Pontio i wireddu ei syniadau. Dewch i gwrdd â’r artist a thrafod canfyddiadau ei phroject gyda hi rhwng 12-2pm ddydd Sadwrn 7 Medi. Does dim angen archebu lle, dim ond dod draw.
Nos Iau 5 Medi 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Illuminate £12 £5 myfyrwyr a rhai o dan 18 Yn y cyngerdd hwn bydd Illuminate Women’s Music yn cyflwyno Pedwarawd Llinynnol Illuminate gyda’r soprano Soul Zisso, y perfformwyr preswyl ar gyfer eu hail dymor o 2019. Byddant yn cyflwyno rhaglen o chwe pherfformiad cyntaf o weithiau gan gyfansoddwyr benywaidd a gomisiynwyd gan Illuminate. Y cyfansoddwyr hyn yw Caroline Bordignon, Soul Zisso, Joanna Ward, a chyfansoddwyr preswyl Illuminate, Angela Elizabeth Slater, Sarah Westwood a Blair Boyd. Bydd y gweithiau
newydd hyn yn ymddangos ochr yn ochr â chyfoeth o weithiau hanesyddol gan gyfansoddwyr fel Rebecca Clarke, Barbara Strozzi, Vivian Fine a Ruth Crawford Seeger, gan roi cyd-destun cyfoethog i draddodiad cryf cerddoriaeth merched, maes sydd wedi’i esgeuluso gwaetha’r modd. Perfformwyr Tymor II: Soul Zisso (soprano) a Phedwarawd Llinynnol Illuminate: Clarice Rarity (ffidil), Christine Cornwall (ffidil), Katherine Clarke (fiola) a Cecilia Bignall (sielo)
Sgwrs cyn y cyngerdd 6.45 - 7.15pm Bydd Angela Elizabeth Slater, sefydlwr Illuminate Women’s Music, yn sgwrsio gyda’r cyfansoddwr a’r beirniad Steph Power. Cefnogir cyngherddau tymor II 2019 Illuminate Women’s Music gan Ambache Charitable Trust a RVW Trust. Mae’r cyngerdd yn rhan o’r Ail Gynhadledd Ryngwladol ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth, Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor 2019.
11
Jôcs Newydd, Props Newydd, Yr Un Tâp 12
Nos Wener, 20 Medi 8pm Theatr Bryn Terfel Gag Reflex a Kilimanjaro yn cyflwyno
The TAPE FACE Show
“Simply joyous” The Times
“Edinburgh Fringe superstar” The Guardian
£18 £16 myfyrwyr a rhai o dan 18 Ar ôl taranu drwy America a chael ei gweld gan 51 miliwn o bobl arlein, mae TAPE FACE yn ôl ar dir Prydain ac eisoes ar y ffordd.
Fel y gwelwyd ar: America’s Got Talent The Royal Variety Performance
Cipiwch docyn a byddwch yn barod am storm arall. Fydd rhoi eich esgidiau am eich traed fyth yr un fath ar ôl gweld y sioe yma.
Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
Canllaw oedran: 10+
13
Ymunwch â'n tîm o wirfoddolwyr! Oes gennych chi ...? - Ddiddordeb mewn theatr, cerddoriaeth fyw a ffilmiau
- Awydd i ddysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd
- Frwdfrydedd i roi gwasanaeth arbennig o dda i gwsmeriaid
- Ddymuniad i gyfarfod â phobl newydd ac adeiladu eich hyder
Credwn y dylai'r Celfyddydau fod yn gynhwysol ac felly rydym yn annog gwirfoddolwyr o bob cefndir i ymuno â ni - yr unig ofynion yw eich bod dros 16 oed, yn frwdfrydig, yn gyfeillgar ac yn ddibynadwy.
Oes gennych chi ddiddordeb? gwirfoddolwyr@pontio.co.uk 01248 382666
14
Sadwrn 21 Medi 11.30am a 2.30pm Stiwdio
“Funny and beautiful… dazzling” The Guardian
Goblin Theatre
Hey Diddle Diddle £6.50 £22 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf 1 dan 18) Antur ddoniol tu hwnt gan y cwmni ddaeth a Peter and the Wolf i ni. Pan fydd y lleuad lawn yn disgleirio’n llachar, mae hudoliaeth yn yr awyr, a’r holl anifeiliaid yn dod allan i chwarae. Arhoswch ar eich traed yn hwyr gyda’r gwartheg sy’n hedfan, y cathod cerddorol a’r llestri sy’n mynd i bob man, wrth i ni neidio a jeifio i’r gerddoriaeth yn yr addasiad gwych yma o’r hwiangerdd glasurol.
Ydych chi erioed wedi meddwl sut y gwnaeth buwch neidio dros y lleuad? Neu pam y rhedodd y plât i ffwrdd gyda’r llwy? Gyda chaneuon gwreiddiol yn cael eu chwarae’n fyw ar y llwyfan, pypedwaith gwych a llawer o chwerthin, mae’r sioe wyllt a cherddorol newydd hon yn dathlu pwysigrwydd dychymyg.
Gweithdy Creadigol AM DDIM gyda’r artist Nerys Jones yn dilyn pob sioe Bocs bwyd a pitsa plant ar gael yn Cegin
3+
15
Pryd Clwb Comedi
Byrgyr a Chwrw* Ar gael i bob digwyddiad Clwb Comedi
£10
*Neu wydriad 175ml o win tŷ neu ddiod ysgafn Byrgyr llysieuol ar gael Bwyd a Diod Food & Drink
burger.indd 4
14/03/2019 16:03:29
Archebwch eich diodydd ymlaen llaw yn y bar i'w mwynhau yn ystod yr egwyl. Bwyd a Diod
16
Food & Drink
17
AD PRIFYSGOL
DYDDIAU AGORED 2019 Dydd Sul, Hydref 13 Dydd Sul, Hydref 27 Dydd Sadwrn, Tachwedd 9
• World-leading research (REF 2014)
• Gold Award for ‘outstanding teaching’ (TEF 2017) • Top 10 in the UK for student Ff: 01248 383561 satisfaction (NSS 2017)
/ 01248 382005 E: diwrnodagored@bangor.ac.uk •18 Award-winning www.bangor.ac.uk/diwrnodagored accommodation, clubs and societies
www.bangor.ac.u
Gwener 27 Medi 7.30pm Theatr Bryn Terfel Pontio yn cyflwyno
Cyngerdd Dathlu CÔR AELWYD JMJ, CÔR SEIRIOL, CÔR Y BRYTHONIAID £10 Cyflwynydd: Anni Llŷn Unawdwyr: Gwen Elin a Cai Fôn Ymunwch â ni am noson o gerddoriaeth leisiol i godi’r croen gwydd! Does dim amau llwyddiant Aelwyd JMJ yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019. Fe gafodd Aelwyd Urdd JMJ, sef aelwyd neuadd Gymraeg Prifysgol Bangor, Eisteddfod yr Urdd i’w chofio eleni gan iddynt ennill medal mewn chwe chystadleuaeth leisiol: yr ensemble lleisiol, y côr cerdd dant, y parti merched, y parti bechgyn, y côr hyd at 40 a’r côr dros 40 mewn nifer – y gamp lawn! Heno fe gewch chi’r cyfle i’w clywed nhw i gyd.
Yn ymuno â nhw bydd corau lleol adnabyddus, sydd wedi ennill gwobrau lu eu hunain dros y blynyddoedd. Croesawn Côr Seiriol dan arweiniad Gwennant Pyrs, côr sydd wedi ennill prif wobr yr Ŵyl Gerdd Dant dros ddeg o weithiau i gyd. Yn ymuno â nhw bydd Côr Meibion y Brythoniaid o ardal Blaenau Ffestiniog, côr a enillodd brif wobrau corawl Gŵyl Mrs Sutherland yn Huddersfield ym mis Chwefror eleni dan arweiniad John Eifion. Daw’r ddau gôr at ei gilydd i greu Llechan Lân sy’n siŵr o godi’r to yn Theatr Bryn Terfel!
Gyda Chystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019 ar y gorwel, mae’n briodol iawn ein bod hefyd yn cynnig llwyfan i gyn fyfyrwraig o Fangor a chyn enillydd y Wobr, Gwen Elin, ac un o ddarparymgeiswyr eleni – Cai Fôn, sydd ar ei ail flwyddyn yn astudio Cymraeg a Cherdd ym Mhrifysgol Bangor ac a fydd yn mynd i lawr am y Barri gystadlu ym mis Hydref. Mae gwledd o ganu a dathlu yn eich disgwyl... Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
19
Iau 3 Hydref 8pm Stiwdio Suzi Ruffell
Dance Like Everyone’s Watching £14 £12 gostyngiadau Wrth wneud i gynulleidfa chwerthin am ben ei thrasiedi a’i phryder, mae Suzi Ruffell wedi creu dipyn o enw iddi ei hun. Eleni, mae’n wirioneddol hapus. Mae’r sioe yn ateb y cwestiwn: ydi pob stand-yp ar eu gorau pan yn annifyr? Cawn obeithio ddim! Wrth gwrs, mae’r byd yn dal i fod yn f**ked – felly peidiwch â phoeni, fydd y sioe ddim yn rhy hapus! Digon o straeon, sylwadau, rhywfaint o wleidyddiaeth gymdeithasol a sgwrs fechan am smear test. Mae gan y sioe hon bob dim.
20
Mae wedi bod yn flwyddyn a hanner i Ruffell; taith anhygoel o amgylch Prydain, nifer o ymddangosiadau teledu, Live at the Apollo, Hypothetical, 8 Out of 10 Cats ac mae bellach yn gwybod sut i wneud y gacen lemwn berffaith. Dewch i weld am beth mae’r holl stŵr! 14+
@Richard Whitehead / National Portrait Gallery, London (1994)
Iau 3 Hydref 7.30pm Theatr Bryn Terfel @A ndy Mo rga n
Pontio yn cyflwyno
Caredigrwydd a Marmalêd Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
£15 £12 myfyrwyr a dan 18 Gohebydd tramor, milwr, dringwr Everest, teithiwr, awdur mwy na 40 llyfr ac un sy’n enaid rhydd, mae Jan Morris wedi bod yn un o groniclwyr mwyaf ein byd, ac o Gymru, am dros hanner canrif.
Ymunwch â ni ar gyfer sgwrs yn Saesneg rhwng Jan Morris a’i mab Twm Morys, gyda chyfraniadau gan Gwyneth Glyn a gair yn Gymraeg am y cyd-destun Cymreig gan Yr Athro Angharad Price
Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Bangor. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. 12+
21
Sadwrn 5 Hydref 10am-4pm Lefel 0-2 Pontio
Palas Hwyl Pontio Am ddim ac yn agored i bawb drwy’r dydd
Yn dilyn llwyddiant ein Palas Hwyl cyntaf erioed yma ym Mangor y llynedd, mae Pontio’n ymuno â’r digwyddiadau ledled gwledydd Prydain eto eleni, a’n thema fydd RHANNU. 22
DEWCH DRAW A BOD YN RHAN O’R RHANNU MAWR: Dewch â’ch hen luniau a rhannwch eich atgofion ar draws y cenedlaethau. Dewch i ddysgu sut i wau. Dewch i fod yn greadigol mewn gweithdy bwyd. Dewch i rhannu gwefr symud a dawnsio. Cymerwch ran mewn sesiynau theatr a sgiliau perfformio gyda BLAS, project cyfranogol ieuenctid Pontio. Cadwch lygad ar safleoedd Pontio ar Twitter, Instagram a Facebook i gael gwybod am ddatblygiadau pellach wrth i ni ddatblygu’r hyn y gallwn ei RANNU gyda’n gilydd…
Mae ymgyrch y Palasau Hwyl yn hyrwyddo diwylliant yng nghalon y gymuned a’r gymuned wrth wraidd diwylliant. Yn ystod y penwythnos hwn o weithgaredd ledled gwledydd Prydain defnyddir cyfuniad o weithgareddau celfyddydau, crefft, gwyddoniaeth, technoleg, digidol, treftadaeth a chwaraeon, a arweinir gan bobl leol ar gyfer pobl leol. Mae’r rhain yn rhannu eu diddordebau a’u sgiliau i ysgogi trawsnewid cymunedau, gan annog pobl o bob oed i gymryd rhan weithredol.
Bocs bwyd a pitsa plant ar gael yn Cegin
23
Mercher 9 Hydref 2pm Sinema Pontio a Bar Ffynnon Pontio yn cyflwyno
P’nawn Ffilm, Cacen a Chân
“Mi fuaswn i’n licio mwy ohonyn nhw diolch” “Am bnawn hyfryd, gadewch i ni wybod pryd fydd y nesaf” “Mi wnes i wir fwynhau” Adborth o’r gynulleidfa
Calamity Jane (U) £4.50 Ymunwch â ni yn Sinema Pontio ar gyfer un o brynhawniau poblogaidd Ffilm, Cacen a Chân. Bydd y prynhawn yn dechrau gyda dangosiad o ffilm gan Warner Bros. Calamity Jane (1953), gyda’r diweddar Doris Day a Howard Keel. Yna ceir adloniant byw yn yr egwyl
24
am 3pm dan arweiniad dau o animeiddwyr lleisiol Opera Cenedlaethol Cymru, Morgana Warren-Jones a Sioned Foulkes, gydag Annette Bryn Parri yn cyfeilio ar y piano. Mwynhewch baned a chacen, cyn dychwelyd i’r sinema i fwynhau hanner olaf y ffilm.
Digwyddiad Dewch i Ganu Opera Cenedlaethol Cymru Wedi ei anelu at oedran 60+
Gwener 11 Hydref 7.30pm Theatr Bryn Terfel
Llŷr Williams Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
£16 £5 myfyrwyr a dan 18 Mae’r pianydd o Gymro, Llŷr Williams, yn cael ei edmygu’n fawr am ei ddeallusrwydd cerddorol dwfn, ac am natur fynegiadol a chyfathrebol ei ddehongliadau. Mae wedi dod i fri arbennig fel perfformiwr gwaith Beethoven gan gyflwyno nifer o gylchoedd sonata cyflawn, yn fwyaf diweddar yn Neuadd Wigmore a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal â chylch concerto gyda Cherddorfa Siambr yr Alban.
Yn ystod tymor 2019-20 mae Llŷr Williams yn parhau i gydweithio â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Choral Fantasy Beethoven, yn ogystal ag ymddangos am y tro cyntaf gyda’r Orchestre Symphonique de Bretagne. Mae Llŷr hefyd yn dychwelyd i Ŵyl Caeredin ym mis Awst 2019 ac, yn ystod tymor dathlu dau ganmlwyddiant a hanner geni Beethoven, bydd yn cynnig cylch cyflawn o sonatâu yn y Festival Cultural de Mayo yn Guadalajara, Mecsico, a chylchoedd rhannol yn Moscow a Saint Petersburg.
Adlewyrchir repertoire wych Llŷr yn ei gryno-ddisgiau nodedig. Dyfarnwyd ei set o 12 CD ‘Beethoven Unbound’, o gylch Beethoven Neuadd Wigmore (Signum Records) yn ‘Recording of the Month’ gan BBC Music Magazine yn Awst 2018. Mae Llŷr Williams yn gynArtist Cenhedlaeth Newydd y BBC ac yn enillydd Gwobr Ymddiriedolaeth BorlettiBuitoni, yn gymrawd Prifysgol Bangor a cherddor preswyl yn Galeri Caernarfon.
25
Sadwrn 12 Hydref 8pm Theatr Bryn Terfel
Carwyn Ellis a Rio 18 £12 £10 myfyrwyr a dan 18
Mae Joia! yn gasgliad lliwgar, arloesol a beiddgar o ganeuon yn y Gymraeg wedi’i blethu gyda dylanwadau amlwg pop a Lladin America gyda blas o arddulliau Bossa Nova, Cumbia, Samba a Tropicalismo. Dyma waith unigol cyntaf Carwyn Ellis o dan ei enw ei hun. Yn enwog am fod yn brif ganwr Colorama, mae Carwyn wedi treulio mwyafrif y ddwy flynedd ddiwethaf yn teithio’r byd yn cefnogi’r Pretenders, a Chrissie Hynde ei hun sylwodd sawl record oedd Carwyn yn eu prynu tra ar daith yn Ne
26
America yn gynnar yn 2018 ac awgrymodd y dylai wneud albwm iaith Gymraeg gyda dylanwadau Lladin. Cafodd ei gyflwyno i Kassin, y cerddor amryddawn a chynhyrchydd o Frasil. Cyfarfu’r ddau yn Llundain yn haf 2018, ac awgrymodd Kassin bod Carwyn ag yntau yn teithio i Rio i weithio ar yr albwm, ynghyd â rhai o gerddorion gorau Rio. Dychwelodd Carwyn i Gymru wedi’r recordio er mwyn ychwanegu rhywfaint o hud Cymreig iddynt. Joiwch! Oedran: 16+ neu gydag oedolyn
Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
27
Mawrth 15 Hydref, 7.30pm Mercher 16 Hydref, 10am a 7.30pm Iau 17 Hydref, 10am a 7.30pm* Gwener 18 Hydref, 7.30pm Theatr Bryn Terfel Theatr Genedlaethol Cymru
Y Cylch Sialc £16 £14 gostyngiadau Tocynnau Bargen Gynnar: £12 (tan 28 Gorffennaf - nifer cyfyngedig) Der kaukasische Kreidekreis (The Caucasian Chalk Circle) gan Bertolt Brecht Trosiad i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood gyda cherddoriaeth wreiddiol fyw gan Gwenno Mewn cydweithrediad â Theatrau Sir Gâr Mae chwyldro ar droed a’r ddinas ar dân. Yn y dryswch, mae babi’n cael ei adael ar ôl. Mae merch ifanc yn aberthu popeth er mwyn achub y plentyn. Â’r wlad dan warchae a milwyr yn eu herlid, mae hi’n benderfynol o’i warchod, doed a ddelo. Ond mewn byd llygredig, a yw cariad yn ddigon? Am y tro cyntaf erioed, mae Theatr Genedlaethol Cymru 28troedio i fyd Bertolt Brecht yn
gyda throsiad newydd i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood a cherddoriaeth wreiddiol yn cael ei pherfformio’n fyw gan Gwenno. Mewn cynhyrchiad newydd trawiadol, mae’r clasur hwn o’r ugeinfed ganrif yn byrlymu â cherddoriaeth, hiwmor tywyll a chymeriadau bywiog; stori epig am wneud daioni mewn byd sy’n llawn drygioni. Yn cynnwys iaith gref Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am brisiau arbennig i ysgolion.
Mercher 16 Hydref 2pm Stiwdio Gweithdy drama ymarferol ar arddull Brecht dan arweiniad Sarah Bickerton, Cyfarwyddwr Y Cylch Sialc.
Sgyrsiau cyn sioe Iau 17 Hydref, 6.30pm Bar Ffynnon Sgwrs i ddysgwyr Cymraeg.
*Iaith Arwyddion Prydain – BSL Yn ystod y perfformiad hwn, bydd dehonglwr hyfforddedig ar y llwyfan yn dehongli deialog y perfformwyr drwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) wrth i’r perfformiad fynd yn ei flaen.
Mercher 16 Hydref, 6pm Ystafell Cemlyn Jones Sgwrs cyn sioe am Bertolt Brecht gan Mererid Hopwood, awdur trosiad Y Cylch Sialc i’r Gymraeg.
AP SIBRWD Bydd Sibrwd, yr ap mynediad iaith, ar gael ym mhob perfformiad. Manylion: theatr.cymru
Ffotograffiaeth ar y Wal Wen ar noson pob perfformiad Anogodd Brecht ei gynulleidfaoedd i feddwl - doedd o ddim eisiau iddyn nhw ‘hongian eu
hymennydd gyda’u hetiau yn yr ystafell gotiau’. Mae sioe o ffotograffiaeth gyfoes gan fyfyrwyr o Goleg Llandrillo yn ceisio gwneud yr un peth, gan ymateb i themâu sy’n deillio o’r cynhyrchiad, megis ‘grym’, ‘anghyfiawnder’, ‘hawliau’ ac ‘eiddo’. Bydd y sioe hon o ffotograffiaeth yn cael ei thaflunio ar Wal Wen
enfawr Pontio ar nosweithiau perfformiadau fel rhan o’r Northern Eye Photography Festival Fringe. Curadwyd gan Mererid Hopwood, Paul Sampson (Northern Eye Photography Festival) a Tim Williams (Coleg Llandrillo).
29
30
Sadwrn 19 Hydref 11.30am a 2.30pm Stiwdio
Woodland Tales with Grandad £6.50
Gweithdy creadigol AM DDIM gyda’r artist Eleri Jones yn dilyn pob sioe
£22 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf un dan 18) Mae rhywbeth ar droed yn y goedwig, clywir lleisiau, ac arogl metel yn yr aer. Mae peiriannau yn casglu gerllaw a chlywir sŵn rhyfedd ar draws y dyffryn. A fydd y dieithryn yn eu helpu?
Gyda chast o bypedau anghyffredin, a neges bwysig a chyfredol am yr amgylchedd – mae’r sioe deuluol hwyliog yma yn siŵr o’ch diddanu! Oedran 3+
Mawrth 22 Hydref, 7.30pm Mercher 23 Hydref, 12.30pm a 7.30pm Theatr Bryn Terfel Theatr Na nÓg yn cyflwyno
Eye of the Storm £14 £10 myfyrwyr a rhai o dan 18 Y Sioe orau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc – Gwobrau Theatr Cymru 2018 Mae Theatr na nÓg, sydd wedi ennill llu o wahanol wobrau yn cyflwyno drama gerddorol wreiddiol sy’n siŵr o gyfareddu’r galon a’r meddwl. Lleolir y ddrama yng
Nghymoedd Cymru ac mae iddi gerddoriaeth fywiog, sy’n tynnu ar elfennau Americanaidd gan yr enillydd Gwobrau Grammy, Amy Wadge (Thinking Out Loud gydag Ed Sheeran, Un Bore Mercher) ac sydd yn cael ei pherfformio’n fyw, ar lwyfan gan gast o 8 o actorion a cherddorion dawnus.
Mae’r digwyddiad theatrig hwn llawn dewrder, penderfyniad a charedigrwydd yn siŵr o ysbrydoli plant ac oedolion o bob oed. Cynhyrchiad Saesneg Oedran 8+
31
WEDI U TH GWER N! ALLA
C
e or Mo rd a w Ed
Nos Iau, 24 Hydref 8pm Theatr Bryn Terfel Little Wander mewn cydweithrediad â PBJ Management yn cyflwyno:
James Acaster
COLD LASAGNE HATE MYSELF 1999 £18.50 Unwaith, fe brynais lasagne o’r archfarchnad, ei g’nesu a bwyta rhywfaint ohono er nad oedd yn neis iawn. Felly mi roddais o yn yr oergell – am ei fod yn teimlo’n rong i roi cymaint o lasagne yn y bin. Yn nes ymlaen fe wnes i fwyta llwyaid o’r lasagne oer
32
gan mod i wedi meddwi ac roedd o’n hynod o flasus. Roedd hi’n 4 o’r gloch y bore. Wedyn mi wnes i newid enw grŵp WhatsApp roeddwn yn perthyn iddo i COLD LASAGNE HATE MYSELF 1999, achos roeddwn i wedi bod yn meddwl llawer am 1999 – sef
blwyddyn orau fy mywyd, a hefyd faint dwi’n casáu fy hun weithiau. Y diwrnod wedyn gofynnwyd i mi enwi fy sioe newydd. Dewch draw! Canllaw oed 14+ Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
25-26 Hydref 2019 Pontio, Prifysgol Bangor
lio i w h Arc yw r g i n nU o i s e dig e i Han t l l sy don, y h C rd a , Iwe u gr Cymr an a Lloe b yr Al
Siaradwyr Gwadd
David Olusoga OBE Slavery, Empire and Historical Amnesia Dydd Gwener, 25 Hydref, Theatr Bryn Terfel, 10:00am
Am ddim
David Starkey CBE Henry VIII and Brexit Dydd Gwener, 25 Hydref, Theatr Bryn Terfel, 7:00pm
£5
Lucy Worsley OBE Queen Victoria: Daughter, Wife, Mother, Widow Dydd Sadwrn, 26 Hydref, Pontio PL5, 7:00pm
£5
Tocynnau ar gael yn pontio.co.uk fournations.bangor.ac.uk fournations@bangor.ac.uk Noddir yr Ŵyl yn hael trwy Waddol Tom a Raj Parry Jones
33
Sadwrn 26 Hydref 8pm Theatr Bryn Terfel
9Bach £14 £12 myfyrwyr a dan 18 Bydd ail-ryddhau’r albwm “9Bach” (Real World Records) wedi ei ail-gymysgu yn ddiweddarach y flwyddyn hon yn gyfle i weld 9Bach yn teithio gyda’u halbwm arobryn am y tro cyntaf. Bydd yr albwm, sy’n ailgyflwyno caneuon traddodiadol Cymreig ar gynfas rhithiol a chyda naws arbennig, yn fodd i’w gweld ar lwyfannau ar hyd a lled Prydain, gan gynnig cyfle prin i gynulleidfaoedd weld y grŵp arbennig yma yn fyw.
34
Cafodd 9Bach ei ffurfio gan Martin Hoyland (Pusherman) a Lisa Jên (sydd wedi cydweithio’n lleisiol gyda Gruff Rhys/Public Service Broadcasting) wedi i Martin glywed Lisa yn canu yn ei chegin! Gig cyntaf y grŵp oedd yn Greenman yn 2005 a’r person cyntaf i ofyn am CD oedd Bonnie Prince Billy. Ers hynny maent wedi cydweithio ag artistiaid eraill dros y byd i gyd, wedi cael adolygiadau gwych ac wedi chwarae ar lwyfannau byd-eang.
“Cool exquisite vocals dominate the album” The Guardian
“Lisa Jên has a voice of mountain-brook purity” Metro
Yn ystod yr egwyl Bydd gwaith comisiwn newydd, a ysbrydolwyd gan elfennau o gerddoriaeth 9bach, yn cael ei ddangos am y tro cyntaf ar Wal Wen Pontio. Maent hefyd wedi cydweithio’n agos gyda Pontio i greu cywaith unigryw Llechi. Dyma ganeuon sy’n mynd a chi i mewn i dirlun gogledd Cymru, yn llawn emosiwn wrth i enaid pob cân gael ei ddatgelu drwy’r naratif lleisiol hynod. Mae lleisiau arallfydol a bîts ‘dub’ yn cyfuno gyda’r delyn, gitâr harmoniwm a threfniadau clyfar dros ben. Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
35
Mercher 30 Hydref 6.30pm Stiwdio
O Iaith i Gân £3 Y sioe gymunedol fawr Gyda pherfformiadau gan Mr Phormula Martin Daws 8starmusic Byddwn yn cyhoeddi’r artistiaid cefnogi drwy’r cyfryngau cymdeithasol
36
Nôl yn 2017, sefydlodd 8starmusic a’r tîm broject yn y gymuned o’r enw “Letters Grow”. Nod y project hwn oedd helpu i hwyluso creadigrwydd mewn cymunedau, meithrin hyder pobl ifanc a’u cadw oddi ar y stryd.
Gan weithio ochr yn ochr â sefydliadau megis Invest Local, Maes Ni, Partneriaeth Maesgeirchen Partnership, Cerddoriaeth Gymunedol Cymru a Mantell Gwynedd, a chyda chefnogaeth Pontio, maent yn anelu at ehangu’r project rhyfeddol hwn.
Iau 31 Hydref 10.30am (Cymraeg) 12pm (Saesneg) 1.30pm (Cymraeg) 3pm (Saesneg) Caban a PL2
Caban Calan Gaeaf
Perfformiad a chrefftau arswydus £5 i bawb
Mae Calan Gaeaf yn amser prysur iawn i Mari, sy’n ffermio’r pwmpenni gorau ar gyfer creu llusernau! Dewch i glywed be’ sy’n gwneud ei phwmpenni mor arbennig a straeon am ei ffrindiau o’r ochr draw mewn perfformiad yn y Caban. Hefyd fe fydd cyfle i addurno pwmpen eich hun yn barod ar gyfer Calan Gaeaf!
Gwisgwch wisg ffansi Calan Gaeaf a dewch â chôt i gadw’n gynnes.
Bocs bwyd a pitsa plant ar gael yn Cegin
Digwyddiad i’r holl deulu bydd angen i oedolion aros gyda’u plant a chael tocyn 4-7 oed
37
Sadwrn 2 Tachwedd 11.30am a 2.30pm Stiwdio
Dygwyl y Meirw £6.50 £22 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf un dan 18) “Tydi Taid ddim yma mwyach – ond, yng nghistiau’r atig, mae ei straeon yno’n disgwyl i gael eu darganfod.” Wrth i’r plant gyrraedd y neuadd yn eu gwisgoedd Calangaea, mae troliau sioe bypedau symudol Taid yn troi’n ffair o fynwentydd dychrynllyd, cysgodion iasoer a chypyrddau o ysbrydion swnllyd; a’r plant yn setlo i wrando ar stori o’r enw... DYGWYL Y MEIRW!
38
Sioe i blant yw DYGWYL Y MEIRW sy’n ddathliad o chwedlau ein hynafiaid, o gylch bywyd, ac o sut mae hogan fach yn dod i delerau a marwolaeth ei Thaid. Drwy gymeriadau traddodiadol Cymreig fel yr Hwch Ddu Gota, y Ladi Wen a Jac y Lantarn, mae Gwen yn darganfod bywyd newydd yn straeon ei Thaid, a dyfodol fel storïwr ei hun. Drwy fiwsig, hiwmor, goleuadau iasoer, triciau theatrig, pypedau cysgod
Gweithdy AM DDIM Bydd gweithdy pypedau AM DDIM yn dilyn pob sioe ac ysbrydion hedegog, mae’r sioe yn gorffen ar nodyn hapus, gobeithiol. Sioe Gymraeg Oed 4-12 Bocs bwyd a pitsa plant ar gael yn Cegin
Sul 3 Tachwedd 3pm Theatr Bryn Terfel Ensemble Cymru
Wythawd John Metcalf Franz Schubert £15 £14 dros 60 £6 myfyrwyr a dan 18 Dathliad o alawon gan y meistri telynegol Franz Schubert (1797 – 1828) a John Metcalf o Gymru (a ysbrydolwyd gan un o alawon gwerin prydferth Cymru) a berfformir gan wyth o unawdwyr o ensemble cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru. Wythawd – Franz Schubert Wythawd (2018) – John Metcalf
“All the players distinguished themselves in the characterful nature of their delivery” Seen and Heard (2018)
“An excellent 11-strong Ensemble Cymru” The Stage (2019)
“This small ensemble included a harp and produced a glorious entry to the work” Seen and Heard (2019)
39
40
Nos Wener 8 Tachwedd Nos Sadwrn 9 November 7.30pm Stiwdio Theatr Bara Caws
Lleu Llaw Gyffes £13 / £11 gostyngiadau gan Aled Jones Williams. Rhyw dduw-ceiniog-a-dima yw Lleu bellach, ac yn y ddrama eiconoclastig yma mae Aled yn archwilio’r syniad o fyth, ac os yw myth yn chwalu oes rhywbeth yn dal yno sy’n parhau yn werthfawr?
Drama ddifyr, ddeifiol a chignoeth am golli ffydd ac am bosibilrwydd y tynerwch dynol all oroesi. Cast: Carwyn Jones Siôn Pritchard Dyfan Roberts Cyfarwyddwr: Betsan Llwyd 14+
Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
41
Nos Wener 8 Tachwedd Nos Sadwrn 9 Tachwedd 7pm Theatr Bryn Terfel
Ockham’s Razor a gynhyrchir gan Turtle key Arts yn cyflwyno
THIS TIME £15 £13 gostyngiadau Croesawn gwmni syrcas Ockham’s Razor yn ôl i Pontio gyda sioe wefreiddiol sy’n ymdrin ag amser, oed a straeon personol. Gyda chast yn amrywio o ran oedran o 13 i 60, yn This Time gwelir cyfres o fframiau arbennig sydd wedi’u codi o’r llawr i’r nenfwd. Mae’r pedwar perfformiwr yn codi, gwthio a siglo ei gilydd trwy fyd o ffenestri, trothwyon a silffoedd. Tua 70 munud (dim egwyl)
42
Cyfarwyddwyd gan Charlotte Mooney ac Alex Harvey Ockham’s Razor Cynhyrchwyd gan Alison King Turtle Key Arts Dyfeisiwyd a pherfformiwyd gan Lee Carter, Alex Harvey, Faith Fahy a Charlotte Mooney Cyfansoddi Cerddorol gan Max Reinhardt a Chioma Uma Cynllunio Gwisgoedd gan Tina Bicat
Gweithdy Syrcas Sadwrn 9 Tachwedd 10.30am Theatr Bryn Terfel Archebwch le mewn gweithdy syrcas gyda Ockham’s Razor (nifer cyfyngedig) Gweler y wefan am fanylion Cynllunio Goleuo gan Phil Supple Cynllunio Offer a Chysyniad Sioe gan Ockham’s Razor Cyd-gomisiynwyd gan London International Mime Festival, New Theatre Royal Portsmouth a The Lowry, Salford. Cefnogir gan Dance City & artsdepot. Cyllidir gan Arts Council England. Oed 8+ Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
Mercher 13 Tachwedd Iau 14 Tachwedd 7pm Theatr Bryn Terfel ROSTRA yn cyflwyno
Twelfth Night £7 £6 myfyrwyr a dan 18 Mae myfyrwyr o gymdeithas ddrama Prifysgol Bangor, ROSTRA yn cyflwyno comedi anhygoel Shakespeare am gamgymryd rhwng pobl, cariad nas dychwelir a hosanau melyn enbyd. Dilynwch Viola sy’n galaru am ei brawd Sebastian, wrth
iddi fynd i wasanaethu’r Dug Orsino rhamantus. Mae tri dyn mewn cariad ag Olivia. Mae Olivia mewn cariad â Cesario (sy’n Viola mewn gwirionedd), ac mae Viola mewn cariad ag Orsino, sy’n credu mai Caesario ydi hi. Beth allai fynd o’i le?
Dewch i fwynhau noson hwyliog o giamocs a rhialtwch. Cyfarwyddir gan Siân Billington a Calee Sears. Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
43
Gwener 15 Tachwedd 8pm Theatr Bryn Terfel
Natacha Atlas £20 £18 myfyrwyr a dan 18 Andy Hamill bass Liam Noble piano Asaf Sirkis drymiau Shanti Jayasinha trwmped Samy Bishai ffidil / MD Ystyrir yr artist Natacha Atlas, sydd wedi ennill bri rhyngwladol, yn un o leisiau mwyaf nodedig y byd. Gyda medrusrwydd eithriadol mae wedi datblygu cerddoriaeth unigryw sy’n cyfuno traddodiadau lleisiol y gorllewin a’r dwyrain canol. Yn ei gwaith
44
diweddaraf mae Natacha wedi gwthio ei ffiniau lleisiol a cherddorol hyd yn oed ymhellach drwy wau traddodiadau jas i mewn yn ddiymdrech i’w cherddoriaeth nodedig. Bydd Natacha Atlas a’i band yn perfformio traciau o’i halbwm newydd Strange Days, a ryddhawyd ym mis Medi 2019, yn ogystal â deunydd o Myriad Road ac albymau blaenorol. www.natachaatlasofficial.com
Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
Sadwrn 16 Tachwedd 8pm Theatr Bryn Terfel Pontio ac UMCB yn cyflwyno
Gig H a’r Band £12 tan 31 Hydref £15 1 Tachwedd ymlaen Bu Bangor a’r cyffiniau yn un o gadarnleoedd Edward H Dafis ar ddechrau’r 1970au ac yn rhan bwysig o’r gylchdaith o gigs coleg yr arferai’r band chwarae’n gyson yn ystod y degawd hwnnw. Mae ‘na gyfeiriad at fyfyrwyr Bangor yn un o ganeuon cynharaf y grŵp, ‘Cân y Stiwdants’; “Wyt ti wedi bod ym Mangor mewn trwy’r ‘Foltie’ mas trwy’r ‘Glôb’?
Heno drwy wahoddiad UMCB a Pontio byddant yn perfformio ar lwyfan Theatr Bryn Terfel! Ffurfiwyd ‘H’ a’r band’ yn 2013 gan Cleif ‘H’ Harpwood, prif leisydd band Cymraeg eiconig y 1970au Edward H Dafis. Bryd hynny, roedd y band yn cynnwys pedwar o aelodau gwreiddiol Edward H Dafis, sef Hefin Elis, Charles Britton, John Griffiths a Cleif ei hun.
Er mawr dristwch, bu farw John y gitarydd bas ffyddlon, yn sydyn yn 2018 ac felly dim ond tri o’r Edward H gwreiddiol fydd yn ymddangos ar lwyfan Pontio. Ond mae gan H a’r band bedwar aelod arall, sef Wyn Pearson ar gitar, Pwyll ap Siôn ar yr allweddellau ac Elain Llwyd a Glesni Fflur yn lleisio. Noson wrth eich bodd yn sŵn y 1970au a’r ’Hen Ffordd Gymreig o fyw’! Gig sefyll 18+
45
“This up and coming Improv group is one to watch... Do not miss the next opportunity to see this side-splitting company of “Lisa Jen has a voice of hilarious comedians” mountain-brook purity” MCRFringeReview, 2018 Metro
Mawrth 19 Tachwedd 8pm Stiwdio Rhan o De-stresstival Undeb Bangor
Thespianage comedy: Back in Bangor £10.50 £8.50 gostyngiadau Mae Thespianage Productions, sy’n gyn-fyfyrwyr o Fangor, yn dychwelyd i’r ddinas i gynnal sioe arbennig o ddigri i ddathlu degawd ers eu sefydlu!
46
Mae Thespianage yn creu golygfeydd gogleisiol, sgetsys gwirion bost a chymeriadau gwallgof wedi’u selio ar eich awgrymiadau chi! Felly, os ydych chi eisiau gweld artist trosleisio Sat Nav ar ddêt dall, neu pam bod rhyw gydag un
perfformiwr fel Jeremy Corbyn (i’r mwyafrif, nid y lleiafrif!), stori ramantus rhwng gwahanol finiau ailgylchu neu’r stori Beauty and the Beast yn cael ei hailhadrodd yn drychinebus o wael – dyma’r sioe i chi! 16+
Iau 21 Tachwedd 7.30pm Stiwdio
“This is a fresh and inventive way of reconnecting with a classic story of love and redemption” Chicago Sun Times
Lighthouse Theatre yn cyflwyno cyd-gynhyrchiad gyda Canolfan Celfyddydau Pontardawe
It’s a Wonderful Life £14 £12 gostyngiadau Wedi’i hysbrydoli gan y ffilm glasurol Americanaidd, caiff It’s a Wonderful Life: a live radio play ei pherfformio fel darllediad radio byw o’r 1940au o flaen cynulleidfa stiwdio. Gyda chymorth ensemble o chwe actor ac artist byw yn creu effeithiau sain, mae’r stori am George Bailey, dyn pur ddelfrydgar, yn datblygu wrth
iddo ystyried dod â’i fywyd i ben ar un Noswyl Nadolig dyngedfennol. Bydd angen cymorth gan angel hoffus o’r enw Clarence i wneud i George newid ei feddwl a deall gwir ysbryd y Nadolig. Gyda cherddoriaeth fyw a chast o chwe actor yn dod â stiwdio recordio radio a thref Bedford Falls yn fyw,
mae Lighthouse Theatre a Chanolfan Celfyddydau Pontardawe yn llwyfanu’r clasur tymhorol hwn a fydd yn sicr o’ch gwefreiddio. 8+
47
Gwener 22 Tachwedd 8pm Theatr Bryn Terfel
Talisk Bargen gynnar tan 8 Tachwedd £12 / £11 gostyngiadau £14 / £13 gostyngiadau (ar ôl 8 Tachwedd) Yn eu pum mlynedd, mae’r band o’r Alban, Talisk, wedi derbyn nifer o wobrau gan gynnwys Band Gwerin y Flwyddyn 2017 yng ngwobrau BBC Alba Scots Trad Music a BBC Radio 2 Folk Award, am eu sain sy’n llawn egni ond wedi’i blethu’n gelfydd. Mae Mohsen Amini (Cerddor y Flwyddyn 2018 yn y BBC Radio 2 Folk Awards), Hayley Keenan a Graeme Armstrong yn cyfuno’r concertina, ffidil a’r gitâr er mwyn cynhyrchu
48
sain aml-haenog a swynol sydd wedi swyno cynulleidfaoedd o’r Unol Daliaethau i Awstralia, a thrwy Brydain.
derbyn y ganmoliaeth uchaf gan gyfryngau gwerin a cherddoriaeth byd ac wedi meithrin dilyniant selog.
Drwy nifer o ymddangosiadau mewn gwyliau blaengar ym mhedwar ban byd – o Ŵyl Gwerin Caergrawnt i Tønder Denmarc, WOMAD y DU a Las Palmas, Gŵyl Gwerin Philadelphia, Celtic Colours, Gŵyl Wyddelig Milwaukee a phump ymddangosiad yn Celtic Connections Glasgow – mae’r tri wedi
Rhyddhawyd eu hail albwm hirddisgwyliedig yn Hydref 2018, a gafodd ymateb pum seren gan Songlines, wrth iddynt ganmol y band fel “incredibly infectious and endearing … fresh, invigorating, accomplished and playfully frisky.” Digwyddiad hamddenol, ar ddull Cabaret.
Rhaglen Pontio i ieuenctid yw BLAS ac mae’n rhoi blas o’r celfyddydau i blant a phobl ifanc. Rydym yn cynnal gweithdai drama wythnosol yn Stiwdio Pontio. Bob dydd Llun Blwyddyn 3 a 4 – 5-6pm Blwyddyn 5 a 6 – 6.15-7.15pm
I archebu lle yn y gweithdai wythnosol, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01248 382828, neu cysylltwch â Mared Elliw Huws, m.huws@bangor.ac.uk, am ragor o wybodaeth.
Bob dydd Mercher Blwyddyn 7, 8 a 9 – 6.30-7.30pm Blwyddyn 10-13 – 7.45-8.45pm
Sioe BLAS Hŷn Tachwedd 27 Theatr Bryn Terfel 7pm £6 / £4 dan 18 Yn ystod y ddau dymor diwethaf mae criw BLAS wedi bod yn brysur yn dysgu sgiliau perfformio gan ganolbwyntio ar waith corfforol a masgiau wrth gael hwyl! Yn ystod tymor yr hydref, fe fydd dosbarthiadau BLAS yn brysur ddod â’u sgiliau newydd ynghyd i ddyfeisio eu sioe eu hunain.
Yr hyn a welwch ar y llwyfan fydd syniadau’r plant a phobl ifanc yn unig. Dewch i gefnogi camau cyntaf actorion, sgriptwyr a chyfarwyddwyr y dyfodol. Tocynnau ar werth 18 Hydref.
Mae BLAS hefyd yn gweithio gydag ysgolion ac allan yn y gymuned. Ewch i’r wefan am ragor o fanylion ynglŷn â’r gwaith pwysig yma: www.pontio.co.uk neu dilynwch ni ar Facebook. BLAS Pontio. Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
49
Gwener 22 Tachwedd 7.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor BBC NOW
Symffoni New World
Sgwrs cyn y cyngerdd 6.30pm
£15 £13.50 dros 60
Darganfod mwy: From protégé to friend Dvořák and Brahms
£5 myfyrwyr a dan 18 Tocyn Teulu: £15/£20 Arweinydd Clemens Schuldt Ffidil Aleksey Semenenko Brahms Concerto Ffidil yn D Fwyaf Dvořák Symffoni Rhif 9 ‘From the New World’ Mae Brahms a Dvořák yn dod â chariad at y gorffennol a chwilfrydedd am y newydd i weithiau sy’n eu cynrychioli ar eu gorau.
50
Mae concerto Brahms i’r ffidil yn llawn goleuni a chynhesrwydd wrth iddo gael ei ysbrydoli gan haul yr Eidal a’r dawnsfeydd bywiog y bu’n chwarae ynddyn nhw, ac yntau yn ei ugeiniau, gyda’i ffrind o Hwngari a oedd yn chwarae’r ffidil. Ar y llaw arall, mae Dvořák yn cychwyn ar antur orau ei fywyd yn Efrog Newydd, yn mwynhau seiniau newydd America, ond fyth yn anghofio harddwch ei Fohemia annwyl. Mae’r ddau fyd yn cyfoethogi ei symffoni olaf.
Dr Jonathan James a gwestai Roedd Brahms yn cefnogi Dvořák pan oedd y cyfansoddwr o Fohemia yn dal yn weddol anadnabyddus. Ac o’r foment honno, blagurodd cyfeillgarwch a wnaeth bara am oes. Byddwn yn archwilio’r hyn a oedd yn rhwymo eu cerddoriaeth a beth oedd yn gwneud eu cerddoriaeth yn wahanol, gan gael safbwyntiau’r chwaraewyr hefyd.
Sadwrn 23 Tachwedd 8pm Theatr Bryn Terfel
Dathlu Sain yn 50 £16 £14 dros 60 £5 myfyrwyr a dan 18 Tocyn Teulu: £15/£20 Daw BBC NOW, Band Pres Llareggub a gwesteion arbennig at ei gilydd i nodi hanner can mlynedd o Recordiau Sain - sy’n adnabyddus am eu cyfraniad unigryw i gerddoriaeth boblogaidd Cymraeg. Bydd Owain Roberts arweinydd
y band, yn eich arwain drwy noson o draciau o archif Sain, a fydd yn cael eu darlledu’n fyw ar BBC Radio Cymru, wrth i Gerddorfa Genedlaethol y BBC ddathlu’r artistiaid a’r gerddoriaeth hynny a gynhyrchwyd ers y sengl gyntaf yn 1969.
Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
51
Gwener 29 Tachwedd 7.30pm Theatr Bryn Terfel Ballet Cymru yn cyflwyno
Triple Bill £14 £12 gostyngiadau Mae Ballet Cymru, cwmni sydd wedi ennill y Critics’ Circle Award, yn cyflwyno tri gwaith newydd eithriadol, sy’n cynnwys rhai o’r artistiaid benywaidd mwyaf cyffrous sy’n gweithio ym myd dawns. Mae Charlotte Edmonds, a ddechreuodd fel coreograffydd ifanc gyda’r Royal Ballet, yn cyflwyno gwaith newydd sbon gyda gwisgoedd a setiau trawiadol gan y dylunydd o Fryste, Eleanor Bull a sgôr newydd gan y cyfansoddwr o Los Angeles, Katya Richardson. Patricia Vallis yw coreograffydd Divided We Stand, a berfformir i gerddoriaeth wefreiddiol Purcell. Ysgogwyd y gwaith hwn gan y rhaniadau a welir yn ein cymdeithas o ran barn wleidyddol, gender a chrefydd. Mae Celtic Concerto yn deyrnged gan Ballet Cymru i’r telynor, cyfansoddwr a noddwr y cwmni, Catrin 52 Finch. Mae ei cherddoriaeth
hudolus wedi ei chydblethu â symudiad syfrdanol a grëwyd gan Gyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru, Darius James OBE a’r Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol, Amy Doughty. Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i fwynhau rhai o’r dawnsiau gorau yng Nghymru, ac a wnaed yng Nghymru. Mae Ballet Cymru yn gwmni bale teithiol rhyngwladol i Gymru. Mae wedi ymrwymo i gynhwysiad ac arloesi mewn dawns a bale clasurol, ac i’r safon uchaf o gydweithio. Mae’r cwmni’n cynhyrchu perfformiadau dawns proffesiynol gwreiddiol wedi’u seilio ar dechneg bale ac yn mynd ar deithiau cenedlaethol a rhyngwladol. Nod ei raglen Mynediad ac Estyn Allan helaeth yw cael gwared ar rwystrau a gwneud y celfyddydau’n hygyrch i bawb. Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
Sadwrn 30 Tachwedd 7.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor £12 £10 dros 60
Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
£5 myfyrwyr a dan 18 Chris Collins arweinydd Edmund Robinson ffidil Tchaikovsky: Francesca da Rimini Amanda Maier: Concerto yn D leiaf i’r Ffidil Bartók: Concerto i Gerddorfa
Wedi’i seilio ar bennod o Inferno Dante, mae cerdd symffonig gyffrous Tchaikovsky yn agor noson wych o gerddoriaeth gan un o gerddorfeydd gorau Gogledd Cymru, sydd wedi hen ennill ei phlwyf. Yna ceir cyfle i glywed darn nas chwaraeir yn aml, sef Concerto i’r Ffidil
gan y cyfansoddwr o Sweden, Amanda Maier (1853-1894), a fydd yn interliwd delynegol cyn perfformiad o un o’r gweithiau mwyaf trawiadol yn y repertoire symffonig: sef y Concerto i Gerddorfa lliwgar a bywiog o waith Bartók, lle mae pob offeryn yn seren y sioe.
53
Iau 5 Rhagfyr Gwener 6 Rhagfyr 7.30pm Theatr Bryn Terfel
Eric and Ern Christmas Show £18 Noson yng nghwmni sêr y sioe wefreiddiol o’r West End, Eric & Little Ern, sydd wedi cael cymaint o ganmoliaeth a’i henwebu am Wobr Olivier. Mae hon yn sioe sy’n deyrnged wych i’r holl sgestys doniol hynny a fu’n cynnig gymaint o difyrrwch i bobl, ac mae’n taro’r holl nodau iawn! O goncerto Grieg i’r Piano i 54 “Arsenal!” Mr Memory.
Dyma sioe sy’n llawn o hoff gampau, caneuon a sgetsys Morcambe and Wise, a chwmni gwestai cerddorol wrth gwrs. Bydd y sioe wefreiddiol hon yn sicr o ddwyn atgofion yn ôl o’r adeg pan fyddai teuluoedd cyfan yn ymgasglu rownd y teledu ar nosweithiau Sul. Addas i bawb 0-100!
“You have the giddy out of time illusion that you are watching the legendary double-act live.” Independent
Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
Sadwrn 7 Rhagfyr 8pm Theatr Bryn Terfel
Pontio yn cyflwyno
Elephant Sessions £14 £12 gostyngiadau Mae’n nhw’n ôl! Mae Elephant Sessions, sy’n dod o Ucheldiroedd yr Alban, yn croesi ffiniau ac yn ysgwyd disgwyliadau i’w seiliau. Ffrwydrodd y band ar y sîn indie gwerin mewn ffordd ryfeddol gyda’u halbwm diwethaf All We Have Is Now ac ers hynny maent wedi ymddangos yn rhai o leoliadau a gwyliau mwyaf nodedig y byd. Gwelwyd y tyrfaoedd yn
heidio i’w perfformiadau a lloriau pebyll mawr yn torri dan bwysau’r dawnswyr eiddgar. Mae’r albwm diweddaraf What Makes You yn addo adeiladu ar y llwyddiant hwn gyda sŵn arweiniol y mandolin a’r ffidil yn gwthio eu terfynau ymhellach, gan gyd-fynd â rhythm ergydiol drymiau, bas a gitâr, ac ymdoddi â churiadau dawns electronig.
Dyma gerddoriaeth draddodiadol wedi’i throi ar ei phen, ailddyfeisio disgwyliadau a sain newydd sbon. Dewch i brofi’r cyffro! 16+ Gig Sefyll Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
55
Mercher 11 Rhagfyr, 10am a 12.45pm Iau 12 Rhagfyr, 10am a 12.45pm Gwener 13 Rhagfyr, 10am a 12.45pm Theatr Bryn Terfel Cwmni Mega yn cyflwyno
Arwyr £10 oedolion £8 plant Ymunwch yn yr hwyl a sbri, y canu a’r dawnsio yn Ysgol Aberarwr ymysg cewri’r Mabinogi’r Nadolig hwn. Ysgol mewn pentre’ bach lle mae’r tywydd bob amser yn braf a phawb yn wên o glust i glust. Mae disgybl mwya’ drygionus, doniol a llawen yr ysgol, Bobi
56
Bach yn bendant o godi gwên ac mi fydd Mr Gittins yn eich swyno a’ch diddanu gyda’i driciau hud a lledrith. Ond ynghanol yr holl hapusrwydd, mae’r cwmwl duaf oll yn nesáu, Casandra Bigfain. Beth sydd ar fin digwydd? Dewch i weld.
Awdur a chyfansofwr: Hywel Gwynfryn Caryl Parry Jones Cysylltwch â’r swyddfa docynnau am gynigion i ysgolion. Addas i bawb.
57
Sadwrn 14 Rhagfyr 7.30pm Theatr Bryn Terfel
A Merry Little Christmas with Only Men Aloud £27 Yn dilyn llwyddiant eu Gala yn dathlu degawd yn Nghanolfan Mileniwm Cymru a’u taith o amgylch Prydain y llynedd, mae Only Men Aloud yn mynd ar daith eto y gaeaf hwn er mwyn dathlu’r Nadolig gyda’u ffans yng Nghymru. Yn ymuno â hwy i berfformio yn
Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
58
Pontio bydd Sophie Evans, sy’n wreiddiol o Donypandy, yn syth o’i chyfnod yn chwarae rhan Glinda yn Wicked yn West End Llundain. Rhaid i blant dan 14 fod gydag oedolyn.
59
Mawrth 17 Rhagfyr, 11.30am + 1.45pm Mercher 18 Rhagfyr, 10am (hamddenol) Mercher 18 Rhagfyr, 11.30am + 1.45pm Iau 19 Rhagfyr, 10am, 11.30am + 1.45pm Gwener 20 Rhagfyr, 10am, 11.30am + 1.45pm Sadwrn 21 Rhagfyr, 11.30am (hamddenol), 2.30pm Stiwdio
Y Trol Wnaeth Ddwyn y ‘Dolig £6.50 £22 Tocyn Teulu a Ffrindiau (4 person, o leiaf 1 dan 18) Mae’r Nadolig wedi’i ganslo! Mae trol yn rhydd yn y mynyddoedd ac mae’n fwli mawr cas. Dim ond merch fach a’i iâr anwes fedr achub pawb. Wedi’r cyfan, bod yn ddewr, disglair a beiddgar sy’n bwysig... Stori lawn antur yn y Gymraeg ar gyfer y teulu cyfan! Cysylltwch â’r swyddfa docynnau am gynigion i ysgolion. 4 -7 oed
Bocs bwyd a pitsa plant ar gael yn Cegin
60
Bydd gweithdy creadigol AM DDIM ar ôl y perfformiadau ar dydd Sadwrn
Sadwrn 21 Rhagfyr 7.30pm Theatr Bryn Terfel
“…there’s nowt as dear as folk – especially when played with the grace, daring and sheer joy this multi- instrumental five-piece bring to a winning selection of reels, jigs and hornpipes” THE MIRROR
Nadolig Celtaidd yng Nghymru gyda Calan £16
Bwydlen cyn Theatr ar gael yn Cegin
£14 gostyngiadau Dathlwch dymor y Nadolig gyda bagbibau, ffidlau a dawnsio stepio. Mae’r band rhyngwladol hwn o Gymru, sy’n enillwyr sawl gwobr, yn ôl ar y ffordd gyda’u rhythmau heintus a’u dawnsio egnïol i ddathlu gŵyl y Nadolig. Cawn fwynhau eu seiniau
ffres a bywiog sy’n rhoi gwedd a gwisg newydd i hen draddodiadau. Mae’r sioe’n cynnwys canu Plygain traddodiadol - ffurf ar ganu sydd wedi bod yn boblogaidd ers canrifoedd yn eglwysi a chapeli Cymru.
Yn y sioe ceir llawer o alawon a chaneuon tymhorol yr ydym i gyd mor hoff o’u clywed yn cael eu chwarae ar offerynnau traddodiadol, gan gynnwys ffidlau, chwibanau, bagbibau Cymreig (!) a dawnsio step gan bencampwr yn y maes hwnnw.
61
I DDOD YN 2020 DYDDIADAU I’W NODI
Taith i Fienna Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru
Gwener 10 Ionawr, 2020 7.30pm Theatr Bryn Terfel £5 - £19.50
The Fureys Mercher 19 Chwefror, 2020 7.30pm Theatr Bryn Terfel £20
62
Royal Liverpool Philharmonic Orchestra Gwener 3 Ebrill, 2020 7.30pm Theatr Bryn Terfel £20 £16.50 dros 60 £10 myfyrwyr a dan 18
Adnodd ar gyfer dysgu, ymchwil, addysgu’r cyhoedd a mwynhad. Mae gan Ardd Fotaneg Treborth gwlâu planhigion, glaswelltir sy’n doreithiog mewn rhywogaethau, pyllau, gardd goed, gardd Tsieineaidd, choedir hynafol a chynefin creigiog ar lannau’r Fenai. Mae chwech tŷ gwydr yn cynnig awyrgylch arbenigol ar gyfer casgliadau planhigion trofannol a thymherus, tegeirianau a phlanhigion cigysol. Rydym yn trefnu sgyrsiau, sêl planhigion, gweithdai arbenigol, crefftau (a mwy!) yn rheolaidd.
Sesiynau gwirfoddoli rheolaidd phob dydd Mercher a dydd Gwener DIDDORDEB MEWN GWIRFODDOLI? CYSYLLTWCH Â NI Gardd Fotaneg Treborth Bangor, Gwynedd, LL57 2RQ www.treborth.bangor.ac.uk treborth@bangor.ac.uk 01248 353398
63
Gwybodaeth Gyffredinol Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28. Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www.pontio.co.uk/ Online/term Tâl Postio Codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post.Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau eu bod yn eich cyrraedd mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref.
64
Teuluoedd Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed. Gostyngiadau Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros 60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim. Cynllun Mynediad Hynt Mae celf a diwylliant i bawb. Ond os oes gennych nam neu ofynion mynediad penodol, yn aml gall mwynhau ymweliad â theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo.
Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae Pontio yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg. Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.