Bangor Design Conference 2019

Page 1

CYNHADLEDD

CONFERENCE

5

BANGOR


5 5


ALUMNI BANGOR YN CEFNOGI MYFYRWYR HEDDIW! • Cyfleoedd ac offer chwaraeon • Ymchwil maes • Bwrsariaethau Caledi • Ariannu Clybiau a Chymdeithasau

PICTURES

CYFLAWNWYD Y GYNHADLEDD HON DRWY GRANT GAN GRONFA BANGOR

THIS CONFERENCE HAS BEEN MADE POSSIBLE THROUGH A GRANT FROM THE BANGOR FUND BANGOR ALUMNI SUPPORT TODAY’S STUDENTS! • Sports opportunities & equipment • Field trips research • Hardship bursaries • Clubs and Society’s funding

Mae’r rhain a llawer mwy yn cael eu darparu drwy alumni a rhoddion cyfeillion i Gronfa Bangor!

These and many more are provided through alumni and friends’ gifts to The Bangor Fund!

I ddysgu mwy am

To learn more about

Cronfa Bangor:

The Bangor Fund:

www.bangor.ac.uk/giving/how-to-give Ffôn: 01248 382594

www.bangor.ac.uk/giving/how-to-give Tel: 01248 382594


CYNHADLEDD CONFERENCE

5

BANGOR


Mae Cynhadledd Dylunio Bangor yn ddigwyddiad ar gyfer gweithwyr creadigol proffesiynol, gwneuthurwyr newid ac egin ddylunwyr. Profwch athroniaeth dylunio sydd ar flaen y gad, wrth i’n graddedigion, ffrindiau, a’r rhai sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ddarparu gweledigaeth a rhannu eu syniadau ar gyfer dylunio yn y dyfodol a sut i alluogi newid. Yn cyd-fynd ag agoriad Sioe Radd Dylunio Prifysgol Bangor mae’r gynhadledd yn ddechrau wythnos o ddathlu dylunio – yn amser i fwynhau llwyddiant myfyrwyr a mentrau cydweithredol. Mae llwyddiant dylunio yn dibynnu ar wybod beth sy’n digwydd yn y byd, bydd ein siaradwyr gwadd yn rhannu gyda ni, yn ein herio, ac yn ein hysbrydoli i anelu at wneud gwahaniaeth – byddant yn dangos i ni sut i weithredu, sut gall dylunio ddylanwadu ar fywydau a sut y gall broses ddylunio dda sy’n cael ei weithredu â gofal, ymrwymiad a chreadigrwydd lywio newid emosiynol, diwylliannol ac ymddygiadol.

Ymlaciwch, gwrandewch ac ymgysylltwch â Chynhadledd Dylunio Bangor eleni!

Bangor Design Conference is an event for creative professionals, change makers and budding designers. Experience leading edge design philosophy, as our home grown, best friends and internationally acclaimed visionaries share their insights for future design and how to make change happen. Timed to coincide with the opening of the Bangor University Design Degree Show the conference kicks off a weeklong festival of design celebration – a time to enjoy student success and collaborative ventures. Design success relies on knowing what’s happening out there in the world, our guest speakers, once again, share with us, challenge us, inspire us to aspire to make a difference – they show us how it’s done, how it influences lives and how good design process implemented with care, commitment and creativity drives emotional, cultural and behavioural change.

Sit back, switch on and engage with this year’s Bangor Design Conference! Aled Williams Product Design lecturer

Aled Williams Darlithydd Cylunio Cynnyrch


09:15 - 9:25

09:25 - 09:55

10:00 - 10:30

11:05 - 11:35 11:40 - 12:10 12:15 - 12:45 12:50 - 13:20

Jude Pullen BBC Big Life Fix cyn | ex Dyson nawr | now of LEGO Paola Dyboski-Bryant DrZigs Dion Turner Didsbury Engineering PANED - PL2

Rocio Trigo Mendez DCA Design International Becky Hayes-Kidd & Debbie Neely Unilever Jon Rowlandson EveryFriday

13:25 - 14:10

CINIO / LUNCH - PL2

14:15 - 15:00

Richard Seale seymourpowell

Gwahoddir pawb ar ôl y gynhadledd i ymuno yn agoriad swyddogol y Sioe radd Dylunio yn y Bocs Gwyn Following the conference everybody is invited to the official opening of the Design Degree Show in the White Box

DYLUNIO CYNNYRCH PRODUCT DESIGN

10:35 - 11:05

CROESO

5-8.06.19 PONTIO_Bocs Gwyn | White Box

AGORIAD SWYDDOGOL OFFICIAL OPENING EVENT 6/6/19 _16:00 – 1 9:00 5/6/19 _09:30 – 19:00 7/6/19 _09:30 – 19:00 8/6/19 _09:30 – 19:00


JUDE PULLEN

BBC Big Life Fix cyn | ex Dyson nawr | now of LEGO

Mae Jude yn beiriannydd dylunio arobryn gydag awydd heb ei ail i ymchwilio i unrhyw bwnc y daw ar ei draws. Mae’n awyddus i bontio rhwng disgyblaethau sy’n ymddangos yn wahanol iawn a chaiff ei hudo gan heriau dylunio newydd, boed yn rhai dynol, mecanyddol neu rithwir. Mae’n eithriadol o fedrus wrth greu prototeipiau ffisegol, mae’n defnyddio’r modelau hyn i archwilio syniadau dylunio, boed yn gysyniadau i Dyson, dyfais feddygol i’r GIG, robot ymladd tân neu bod gofod bach. Fel Pennaeth Ymchwil, Datblygu a Thechnoleg (2013-17) gyda Sugru, cwmni cychwynnol yn Llundain, mae wedi cael ei ganmol am ei allu rhagorol i ddefnyddio syniadau dylunio yn ei ddull rheoli, tra’n arwain fformiwleiddiadau newydd ‘plentyn-ddiogel’ arloesol wedi eu patentu. Mae nawr yn gweithio yn Lab Chwarae Creadigol LEGO, yn gweithio gyda sgowtiaid technoleg ac arloesi. Mae Jude yn ymddangos yn rheolaidd mewn digwyddiadau corfforaethol fel siaradwr, arweinydd gweithdai ac anogwr ffyrdd newydd o ddylunio. Gweithiodd gyda Phlant mewn Angen, ac roedd yn un o’r saith dylunydd a gafodd sylw ar raglen “The Big Life FIX gyda Simon Reeve” ar BBC2, yn helpu ffotograffydd ifanc, sydd wedi colli defnydd o’i ddwylo, i dynnu lluniau unwaith eto.

Jude is an award-winning Design Engineer with an unparalleled appetite to investigate each subject matter that crosses his path. With a passion for bridging seemingly disparate disciplines, he is fascinated by fresh design challenges, be they human, mechanical or virtual. Exceptionally skilled at creating physical prototypes, he uses these models to explore design ideas, be they concepts for Dyson, a medical device for NHS, a fire-fighting robot or a mini space-pod. As Head of Research, Development and Technology (2013-17) at London start-up Sugru, he has been praised for his outstanding ability to apply design thinking to his management approach, while leading ground-breaking new patented ‘child-safe’ formulations. Since then, he now works at LEGO’s Creative Play Lab - to work with technology scouting and innovation. Jude regularly appears in corporate and startup events as a speaker, workshop leader, or provocateur of new ways of approaching design. He has worked with Children in Need and was one of the seven featured designers on BBC Two’s “The Big Life Fix with Simon Reeve”, helping a young photographer, who has lost the use of his hands, take pictures once again.


PAOLA DYBOSKIBRYANT

Dr.Zigs

Dechreuwyd Dr Zigs gan Paola ar fwrdd ei chegin yma yng Ngogledd Cymru wyth mlynedd yn ôl. Bellach mae ganddi uned weithgynhyrchu benodol gyda theganau swigod anferthol Dr Zigs yn cael eu gwerthu ledled y byd. Yn ei swyddogaeth fel y prif grewr swigod yn Dr Zigs, mae Paola yn defnyddio ei phrofiad o’i chefndir mewn cadwraeth forol, gweithio gyda llwythau cynhenid ym Mhanama, fel morwr proffesiynol ac oes o weithredu. Mae hyn i gyd wedi cyfrannu at greu cynhyrchion sy’n adrodd stori, sy’n llawer mwy na theganau syml, ac sydd hefyd gyda’r gorau yn y byd yn eu maes. Mae ethos Dr Zigs i hyrwyddo cynaliadwyedd drwy’r brand a chynhyrchion wedi ennill sawl gwobr i’r cwmni. Yn 2018 roedd Dr Zigs ar y rhestr fer am wobr Arweinyddiaeth Amgylcheddol gan ddod yn ail i Ikea. Bellach mae Cit Synhwyraidd newydd Dr Zigs wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Ddylunio yr Almaen 2019. Ar hyn o bryd, Dr Zigs yw’r unig gynnyrch swigod cynaliadwy yn y diwydiant teganau yn fyd-eang. Ysbrydolwyd y busnes gan fab ifanc Paola, Ziggy, sydd bellach yn 10 oed ac yn bennaeth y busnes, ac yn sicrhau bod dyluniad a defnyddioldeb y teganau yn cael eu cadw’n ffres.

Paola started Dr Zigs at her kitchen table here in North Wales 8 years ago, now with a dedicated manufacturing unit, Dr Zigs Giant Bubble toys are sold across the world. In her role as ‘Bubbler in Chief’ at Dr Zigs, Paola draws experience from a background in marine conservation, work with indigenous tribes in Panama, that of a professional sailor and a lifetime of activism. All of this has contributed to creating products that tell a story, that are about much more than simple toys, and are also world leading in their field. Dr Zigs’ ethos to promote sustainability through the brand and products has earned the company several awards. In 2018 Dr Zigs was shortlisted for Environmental Leadership and came second to Ikea. Now Dr Zigs’ new Sensory Kit has been nominated for the German Design Award 2019. Currently, Dr Zigs is the only sustainable bubble product in the global toy industry. The business was inspired by Paola’s young son Ziggy, he is now 10, and the boss of the business, making sure both the design and the usability of the toys are kept fresh.

www.drzigs.com


DION RHYS TURNER

Didsbury Engineering

Mae Dion yn beiriannydd dylunio projectau newydd manwl ar gyfer Didsbury Engineering yn gweithio yn y diwydiant hedfan, ac mae wedi datblygu obsesiwn i fod yn ddylunydd mewn nifer o feysydd gwahanol. Mae ei brofiad yn amrywio o ddylunio graffigol, pensaernïaeth a dylunio gwaith dur yn ogystal â chynhyrchion i ddefnyddwyr. Yn ystod ei yrfa gymharol fer, mae wedi cael y cyfle i weithio gyda chwmnïau fel; Toyota, Cyngor Ynys Môn, BAE a Char Brew. “Yn fy ngyrfa hyd yn hyn, rwyf wedi dysgu bod cymhwyso’r hyn rwyf wedi’i ddysgu yn fy swyddi blaenorol, boed hynny o safbwynt dylunio strwythurol neu mewn swyddi oedd yn delio’n fwy uniongyrchol â chleientiaid tra yn rhannu’r wybodaeth honno gydag eraill yn eithriadol o bwysig ac yn rhoi boddhad mawr i mi. Mae dylunio yn ateb problemau, boed hynny yn gynnyrch graffigol neu’n gynhyrchion ffisegol, ar raddfa bach neu fawr. Mae’r cyffro y mae’n ei roi i mi pan fyddaf yn gallu chwarae rôl yn datrys problem ddylunio yn debyg i’r un arall ac yn fy ngyrru ymlaen. Drwy ddefnyddio’r teimlad hwn i ddatrys problemau byddaf bob amser yn awyddus i ddylunio a bydd hynny yn fy ysgogi am y dyfodol”

A Detailed and Driven New Project Design Engineer for Didsbury Engineering, working within the Aviation Industry. Dion has developed an obsession with becoming an all rounded designer. His experience ranges from Graphical Design, Architecture & Steelwork Design through to Consumer Facing Products. During his relatively short career, he has had the opportunity to work with companies such as; Toyota, Anglesey Council, BAE & Char Brew. “In my career so far, I have learnt that applying what I have learnt in my previous roles, whether that be at a structural design standpoint or a more client facing role to new design context whilst also sharing that knowledge with others is extremely important and rewarding. Continually developing your skills is also of high importance. Design is a solution to a problem, whether it be a graphical or a physical product, be it on a small or a large scale. The buzz that it gives me when I am able to play a role in solving a design problem is like no other and drives me forward. By using this drive to solve problems I will always have the desire to design and that will keep the fire inside of me going”.


ROCIO TRIGO MENDEZ

DCA Design International

Mae Rocio yn Ymchwilydd Dylunio sydd â chwilfrydedd am ddysgu am y byd, ymddygiad dynol a’r cymhellion sy’n gorwedd o dan yr wyneb. Gyda deng mlynedd o brofiad yn gweithio mewn arloesi ochr y cleient mewn ymgynghoriaethau dylunio yn Ewrop a’r DU, mae Rocio yn frwd dros ddarganfod problemau cudd a diffinio cyfleoedd i arloesi mewn cynnyrch, gwasanaeth a busnes. Yn ei barn hi, dylai’r rhain fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth fanwl o anghenion pobl. Fel ymchwilydd dylunio yn DCA, mae’n gyfrifol am ddylunio a chynnal amrywiaeth o astudiaethau timau defnyddwyr, budd-ddeiliaid a thraws-swyddogaethol sy’n cyd-fynd ag amcanion mewnol gyda gwybodaeth am ddefnyddwyr i lywio prosesau a strategaethau dylunio. Gan ddilyn dull dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl, mae’n defnyddio dulliau a etifeddodd o’i chefndir mewn dylunio cynnyrch a graffig i gyfleu canlyniadau dulliau ymchwil ansoddol yn effeithiol. Mae Rocio yn ymdrechu i sicrhau bod yr hyn a ddysgir am ymddygiad dynol yn cael ei droi’n weithredoedd sy’n greiddiol i ddylunio seiliedig ar dystiolaeth.

Rocio is a Design Researcher with curiosity for learning about the world, human behaviour and the motivations that lie beneath the surface. With 10 years of experience working in front-end innovation in design consultancies in Europe and the UK, Rocio is passionate about discovering latent problems and defining opportunities for product, service, and business innovation. She believes these should be based on an in-depth understanding of people’s needs. As a Design Researcher at DCA, she is responsible for designing and conducting a range of consumer, stake holder and crossfunctional team’s studies that align internal objectives with consumer insights to ultimately inform design processes and strategies. Following the human-centred design approach, she utilises tools inherited from her background in product and graphic design to effectively communicate the outcomes of qualitative research methods.

www.dca-design.com

Rocio strives to ensure the learnings around human behaviour are translated in to actions which form the core of evidence-based design.


REBECCA HAYES-KIDD

Unilever

Wedi ei hyfforddi fel dylunydd diwydiannol, mae Becky yn defnyddio dulliau dylunio sy’n cael eu gyrru gan emosiwn a chanolbwyntio ar bobl yn yr holl waith mae’n eu gwneud. Ymdrecha Becky i ddod â phrofiadau pwrpasol a dymunol i bobl, gan ysbrydoli’r rhai sydd o’i chwmpas i weithredu’r un peth drwy ddefnyddio grym meddylfryd dylunio. Mae Becky wedi treulio ei gyrfa yn Unilever yn plethu dulliau meddylfryd dylunio i brosiectau arloesedd, fframweithiau strategol ac ymddygiad sefydliadol. Yn dyddiol mae hi hefyd yn gweithio gyda rhai o frandiau mwyaf y byd sydd i’w gweld yng nghartrefi y rhan fwyaf ohonom fel Dove, SURE, Lynx, Persil, TREsemme, Magnum a PG Tips! Mae swydd bresennol Becky yn Unilever yn golygu cynnwys arferion dylunio arloesol sy’n rhoi mantais yn weithredol ac yn y farchnad, gan gyflawni’r uchelgais uwch ar gyfer dylunio yn effeithlon, gan gydweddu’n gadarn â’r holl swyddogaethau cysylltiedig ar draws y busnes. Yn bennaf oll mae Becky yn cael ei hegni wrth newid pobl, wrth gynorthwyo’r rhai o’i chwmpas i ail-fframio problemau i fod yn berson canolog er mwyn gwireddu datrysiadau sy’n well ac o fudd i bobl, y blaned ac elw.

An industrial designer by training with an emotionally driven, people-centred approach to everything she does. Becky strives to bring purposeful and desirable experiences to real people, inspiring action in those around her to do the same via the power of design thinking methodologies. Becky has spent the entirety of her career to date at Unilever driving design thinking approaches into innovation projects, strategic frameworks and organisational behaviour. She also gets to spend every day working with some of the world’s biggest brands that the majority of us will find in our kitchens, bedrooms or bathrooms such as Dove, Sure, Lynx, Persil, TRESemmé, Magnum and PG Tips! Becky’s current role serves the Deodorant category and involves embedding cutting-edge design practices that deliver operational and in-market advantage, effectively and efficiently realising the higher-level ambition for design, in rigorous alignment with all related functions across the business. Above all Becky’s energy lies in changing people, helping those around her frame human centred problems to realise solutions that better benefit people, planet and profit.


DEBBIE NEELY

Unilever

Dylunydd Diwydiannol yw Debbie sydd ag ysfa i greu a datrys. Mae’n mynd i’r afael ag amrywiaeth o ddisgyblaethau technegol a swyddogaethol a daw â chreadigrwydd at broblemau o bob math drwy ddefnyddio methodolegau dylunio. Yr hyn sy’n sbarduno Debbie yw deall y cymhellion dyfnach sydd wrth wraidd penderfyniadau ac mae’n awyddus i ddefnyddio’r ddealltwriaeth honno i wella profiadau pobl. Drwy gydol ei gyrfa yn Unilever mae Debbie wedi mwynhau edrych yn fanwl ar bob cam o’r broses o ddatblygu deunyddiau pacio. Bu’n dal nifer o wahanol swyddi gan gynnwys cynllunio ar yr ochr flaen a datblygu deunyddiau pacio technegol a drwy gydol y daith honno bu’n angerddol ynglŷn ag ymwneud dylunio â phobl. Mae’n deall sut i gynnau sbarc creadigol mewn pobl a’u hysgogi i beintio eu campwaith eu hunain. Mae Debbie wedi gweithio ar gynnyrch i frandiau sy’n adnabyddus ledled y byd megis Trésemme, Sunsilk, Dove a Smile. Mae gweithio’n fyd-eang yn gofyn am empathi a dealltwriaeth ddofn o’n defnyddwyr, sydd mor amrywiol yn ddiwylliannol, ac sy’n esblygu ac yn chwilio am ragor o brofiadau trwy’r amser. Ar hyn o bryd, hi sy’n gyfrifol am sbarduno dylunio yng nghategori gofal y geg sy’n golygu creu cyfleoedd gyda thimau traws-swyddogaethol i ddiwallu anghenion defnyddwyr, busnesau a’r blaned.

Debbie is an Industrial Designer with an appetite to create and solve. Tackling a range of technical and functional disciplines, she injects creativity through design methodologies into problems at any scale. Understanding the deeper motivations behind decision making drives Debbie, with a passion to translate insights into enhanced experiences. Throughout the duration of her career, exclusively at Unilever, Debbie has enjoyed exploring all stages within the packaging development process. During a range of front end design to technical packaging development roles, she recognises a consistent human-centred passion throughout; understanding how to light the creative spark in people, providing them with the stimulus they need to paint their own masterpiece. Debbie has worked on globally recognised brands including Trésemme, Sunsilk, Dove and Smile. The global reach requires a deep understanding and empathy with our culturally rich consumer base which is ever more evolving and striving for greater experiences. Currently, she is responsible for driving design in the Oral Care category which involves crafting opportunities with crossfunctional teams to meet consumer, business and planet needs.


JON ROWLANDSON

Cyfarwyddwr Creadigol yn Creative Director at

EveryFriday

(Gynt o / formerly of DesignStudio)

Yn ystod y tair blynedd ar ddeg ddiwethaf mae Jon wedi bod yn gweithio mewn rhai o’r stiwdios dylunio a brandio mwyaf adnabyddus yn Llundain (Proud Creative, NB Studio, Wolff Olins, DesignStudio). Mae ei brofiad gyda phrojecau yn fwriadol amrywiol, ar ôl gweithio gyda busnesau mewn sawl maes - yn cynnwys gorsafoedd teledu, theatrau, cyrff llywodraethu, busnesau newydd a chorfforaethau byd-eang. Dros y blynyddoedd diwethaf, rhai o uchafbwyntiau gyrfa Jon yw helpu i lansio tîm Fformiwla 1 cyntaf America mewn 30 mlynedd, ail-lunio logo Tinder ac ailfrandio Cynghrair Pencampwyr UEFA i raddau helaeth yn 2018. Dangoswyd ei waith yn UDA Today, The Guardian, Newyddion y BBC, D&AD, Creative Review a chylchgrawn F1 Racing (mae wrth ei fodd gyda’r olaf).

Over the past thirteen years Jon has practised at some of the most widely recognised design and branding studios in London (Proud Creative, NB Studio, Wolff Olins, DesignStudio). His project experience is deliberately eclectic, having worked with businesses in many fields – from TV stations, theatres, governing bodies, start-ups and global corporations. In recent years, Jon’s highlights have been helping launch Formula 1’s first American team in 30 years, redrawing the Tinder logo and the extensive rebrand of the UEFA Champions League in 2018. His work has been seen in USA Today, The Guardian, BBC News, D&AD, Creative Review and F1 Racing magazine (no one cares about this last one except for him).

www.jonrowlandson.com


RICHARD SEALE

seymourpowell

Fel prif ddylunydd modurol yng nghwmni dylunio ac arloesi byd-enwog Seymourpowell, mae Richard wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ehangu’r is-adran drafnidiaeth i gynnwys persbectif modurol. Ers ymuno â’r asiantaeth ddylunio flaenllaw yn 2010, mae wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella eu darpariaeth trafnidiaeth, ar ôl cyflwyno ystod eang o brojectau i gleientiaid fel Ford, British Airways a Jaguar Land Rover. Yn fwyaf diweddar, mae Richard wedi helpu seymourpowell i chwyldroi’r broses ddylunio modurol trwy ddatblygu RealityWorks: eu hoffer dylunio rhithwir arloesol - fel y gwelwyd ar CNN ac yn FastCompany, Dezeen a TEDx Llundain (Design is dead, long live design).Yn benodol, mae ei waith hefyd wedi cynnwys cysyniadu cerbydau i archwilio dyfodol symudedd, o ddarnau profiad gweledol defnyddwyr modurol i gerbydau ymreolaethol. Mae Richard hefyd wedi gweithio ar brojectau cerbydau trydan o’r syniad dechreuol i’w cynhyrchu. Dros y blynyddoedd, mae Richard wedi datblygu profiad helaeth mewn dylunio allanol a mewnol ar gyfer y diwydiannau modurol a rheilffyrdd, yn ogystal â dylunio mewnol awyrennau masnachol. Er enghraifft, mae wedi gweithio i helpu ffurfio dyfodol profiadau teithwyr ar gyfer Zodiac Aerospace ac roedd yn aelod o’r tîm a ailddyluniodd Flytoget, trên cyflym newydd Maes Awyr Oslo. Er ei fod yn gweithio gyda’r tîm i ragweld dyfodol cludiant yn ei swydd o ddydd i ddydd, mae gan Richard ddiddordeb brwd mewn ceir a beiciau modur clasurol, ac mae’n treulio llawer o’i amser hamdden yn eu reidio a’u hadfer.

As lead automotive designer at world renowned design and innovation company Seymourpowell, Richard has been crucial to the expansion of the transport division in incorporating an automotive perspective. Since joining the world leading design agency in 2010, he has played a significant role in the enhancement of their transport offering, having delivered a wide range of projects to clients such as Ford, British Airways and Jaguar Land Rover. Most recently, Richard has helped seymourpowell revolutionise the automotive design process through the development of RealityWorks: their cutting-edge virtual reality design tool – as featured on CNN and in FastCompany, Dezeen and TEDx London (Design is dead, long live design). Notably, his work has also involved conceptualising vehicles to explore the future of mobility, from automotive user experience vision pieces to autonomous vehicles. Richard has also worked on electric vehicle projects from conception to production. Over the years, Richard has developed a breadth of experience in exterior and interior design for the automotive and rail industries, as well as in commercial aircraft interior design. He has for example, worked to help shape the future of passenger experiences for Zodiac Aerospace and was a member of the team that redesigned Flytoget, Oslo Airport’s new express train.

www.seymourpowell.com

Although working with the team to predict the future of transportation in his day job, Richard has a passion for classic cars and motorcycles, and spends much of his spare time running and restoring them.


MSc DYLUNIO ARLOESI CYMHWYSOL GELLIR NEWID Y BYD TRWY GYMHWYSO SGILIAU MEDDYLFRYD DYLUNIO. Mae’r cwrs hwn yn cynnig llwybr i unigolion sy’n dymuno arwain ym maes arloesi trwy gyfrwng creadigrwydd a meddylfryd dylunio cymhwysol, mewn amrywiaeth o ddiwydiannau cysylltiedig. Mae’r cwrs yn cynnwys projectau sydd wedi’u seilio ar ddylunio; astudiaeth academaidd; a lleoliad diwydiannol proffesiynol sy’n canolbwyntio ar ymchwil, gan arwain at broject ymchwil annibynnol, terfynol. Gall y project ymchwil terfynol ddilyn tri llwybr, gyda ffocws ar ddarpariaeth fasnachol, entrepreneuriaeth neu ymgynghoriaeth fasnachol, a hynny ar sail dyheadau gyrfaol a maes diddordeb yr unigolyn.

MSc APPLIED INNOVATION DESIGN Rhennir y modiwlau cynnwys yn fodiwlau craidd, sy’n cynnig dealltwriaeth fanwl o’r offer a thechnegau a ddefnyddir i roi syniadau dylunio arloesol ar waith, a modiwlau dewisol sy’n cynnig cyfleoedd i ddilyn meysydd cysylltiedig o ddiddordeb mewn mwy o fanylder.

MODIWLAU CRAIDD »» Meddylfryd Dylunio Proses a Hwyluso »» Meddylfryd Dylunio - Strategaeth »» Dulliau Ymchwil ar gyfer Dylunio »» Project Dylunio »» Traethawd Hir MSc (gyda llwybrau ar sail Ymchwil, Arteffact ac Adroddiad, a Chynllunio Strategol)

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i gynnig astudiaeth uwch mewn dylunio arloesi, gyda phwyslais ar gymhwyso creadigrwydd ac offer arloesi, ochr yn ochr â’r sgiliau sydd eu hangen i arwain, cydweithio a hwyluso mewn meysydd lle mae angen arloesi.

MODIWLAU DEWISOL

Bydd myfyrwyr yn cyrraedd â chefndir neu ddiddordeb yn swyddogaeth syniadau dylunio ac arloesi, ac yn ymgymryd ag amrediad o heriau dylunio, a fydd yn eu galluogi i lywio, ymarfer ac arbrofi â gweithgareddau arloesi a chyfeiriad strategol.

»» Graffeg Ddigidol Gymhwysol

»» CAD Parametrig gyda Modelu Arwyneb Uwch »» Dadansoddiad Elfen Feidraidd CAD ar gyfer Diwydiant »» Hwb a Newid Ymddygiad »» Seicoleg Defnyddwyr: Theori »» Seicoleg Defnyddwyr Gymhwysol

DESIGN THINKING CAN BE EMPLOYED TO CHANGE THE WORLD. This course offers a pathway for individuals who wish to lead innovation through creativity and applied design thinking, in a variety of related industries. The course includes design based projects; academic study; and a professional, research focused industrial placement, leading to a final, stand-alone research project. The final research project can follow three paths, with a focus on commercial delivery, entrepreneurship or commercial consultancy, based on an individual’s career aspirations and area of interest. The course is designed to offer advanced study in innovation design, with an emphasis on application of creativity and innovation tools, alongside the skills needed to lead, collaborate and facilitate in areas which require innovation. Students arrive with a background or interest in the role of design thinking and innovation, and embark on a range of design challenges, enabling them to steer, row and rock the boat in relation to innovation activities and strategic direction.

Content modules are split between core modules, which provide an in-depth understanding of tools and techniques used to apply innovative design thinking, whilst optional modules offer opportunities to pursue related areas of interest in more depth.

CORE MODULES »» Design Thinking Process and Facilitation »» Design Thinking - Strategy »» Research Methods for Design »» Design Project »» MSc Dissertation (with Research based, Artefact & Report, and Strategic Planning routes)

OPTIONAL MODULES »» Parametric CAD with Advanced Surface Modelling »» CAD Finite Element Analysis for Industry »» Applied Digital Graphics »» Nudge and Behaviour Change »» Consumer Psychology: Theory »» Applied Consumer Psychology

YN RECRIWTIO AR GYFER MEDI 2019

RECRUITING FOR SEPTEMBER 2019

DDYSGU MWY: DYLUNIOCYMHWYSOL@BANGOR.AC.UK

DISCOVER MORE: APPLIEDDESIGN@BANGOR.AC.UK


ROBERT CHIVERS ©

I MYFYRWYR SYDD O DDIFRI AM FUSNES! FOR STUDENTS WHO MEAN BUSINESS! Wyddoch chi fod Prifysgol Bangor yn berchen ar Barc Gwyddoniaeth? Mae’n le i bobl gychwyn a rhedeg eu busnes neu i archwilio syniad.

Did you know that Bangor University owns a Science Park, called M-SParc? It’s a place for people to start up and run their businesses or to explore an idea.

»» Cewch y cefnogaeth i datblygu’ch syniad chi.

»» Get the support to develop that idea that you have.

»» Digwyddiadau i bawb, o berchennog busnes i myfyrwyr, i ddysgu a rhwydweithio.

»» Events for anyone from business owners to students to learn and network.

»» Ystafell desgiau Dros-dro; desgiau y medrwch ddefnyddio’n y tymor byr.

»» Hot-Desking space; desks you can rent on a short term basis.

»» Wi-Fi AM RHIM (gan gynnwys eduroam).

»» FREE Wi-Fi (including eduroam).

»» Cefnogaeth Busnes ar gae am ddim am 6 mis.

»» Business Support available at no cost for 6 months.

»» Cysylltiadau i ystafell Santander; gofod desg am ddim drwy’r cynllun B-Enterprising.

»» Links to Santander start-up room; free desk space through this B-Enterprising scheme.

»» Swyddfeydd a Labordai i gwmnïau llogi.

»» Office and Laboratory space for companies to rent.

»» Gofod gwneud yn agor yn fuan; bydd Ffiws yn M-SParc i chi cael tincran gyda unrhyw beth ‘da chi’n gweithio arno.

»» Opening maker space soon; Ffiws will be at M-SParc for you to tinker with anything you’re working on.

Prif nod M-SParc ydi helpu creu, datblygu a cefnogi mentrau newydd.

M-SParc’s main aim is to help create, develop and support new ventures.

Os ydych chi’n entrepreneur newydd, yn berson busnes, neu’n ‘dechnolegol’, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, beth am gysylltu â M-SParc a gweld beth allwn ni ei wneud? Rydym yma i chi!

If you’re a budding entrepreneur, business person, or ‘techy’, and you don’t know where to start, why not contact M-SParc and see what we can do? We’re here for you!

Cysylltwch hefo ni, da ni’n hoffi siarad | Contact us, we like to talk: E-bost | Email post@m-sparc.com

/ MenaiSciencePark

Da ni’n gwybod eich bod chi eisiau gwybod fod person go iawn yn siarad hefo chi. Mae M-SParc yn cael ei redeg gan dîm bach o 6 berson, ac Emily Roberts, ein Swyddog Marchnata, sydd wedi gwneud y pamffled yma. Dyma hi, a medrwch gysylltu emily@m-sparc.com

@m-sparc

@m_s parc

We know that you want to know a real person is speaking to you. M-SParc is run by a small team of 6 people, and Emily Roberts our Marketing Officer made this leaflet. This is her, and you can contact her on emily@m-sparc.com

Emily Roberts


CYNHADLEDD BANGOR CONFERENCE

06.06.19


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.