27.05.22
Cynhadledd Arddangos Dylunio Cynnyrch a Dylunio Prifysgol Bangor
Siarad Dylunio yn Fyw 2022
Pontio Bangor 09:00>16:00
Cliciwch y symbol i weld fidio
Croeso i Siarad Dylunio yn fyw 2022 Does dim byd yn aros yn ei unfan, mae popeth yn newid!
Newid rhif 1
Ysgol Newydd Mae’r cwrs israddedig Dylunio Cynnyrch a’r radd Meistr mewn Dylunio Arloesi Cymhwysol wedi dod o hyd i gartref a theulu newydd ers mis Medi 2021. Rydym bellach yn rhan o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig. Diolch i’r holl staff a myfyrwyr a’n croesawodd i’w plith. Rydym yn gyffrous am fod yn rhan o’r ysgol ac yn edrych ymlaen at gydweithio a datblygu pellach.
Newid rhif 2
Lleoliad newydd yn fuan Mae cynlluniau ar y gweill i symud ein gweithdy i leoliad mwy canolog. Ni allwn ddweud llawer mwy na hyn ar hyn o bryd - ond bydded hysbys.
Newid rhif 3
enw newydd ‘Siarad Dylunio yn Fyw’. Mae’r hen Gynhadledd Ddylunio Bangor bellach wedi’i aileni fel
Mae’r hen Gynhadledd Ddylunio Bangor bellach wedi’i aileni fel ‘Siarad Dylunio yn Fyw’. Ar ôl addasu ein cynhadledd i gyfres o sgyrsiau ar-lein oherwydd digwyddiad a’n cadwodd ni i gyd yn ein cartrefi am ychydig dros y blynyddoedd diwethaf (mae’r rhan fwyaf ar gael ar ein sianel You Tube (mae’r rhan fwyaf ar gael ar ein sianel YouTube) roeddem yn meddwl y byddai’n syniad da cadw’r enw ar gyfer y digwyddiad hwn.
Beth sydd heb newid
Beth yw diben heddiw? Tra bod newid yn digwydd ym mhobman, gallwn fod yn hyderus bod cenhadaeth a diben y digwyddiad hwn yn parhau’n gyson. Mae Siarad Dylunio yn Fyw yn ddigwyddiad ar gyfer gweithwyr proffesiynol creadigol, ysgogwyr newid a darpar ddylunwyr. Cewch brofi athroniaeth ddylunio flaengar, wrth i’n doniau a feithrinwyd yma gartref, ein cyfeillion gorau a’n gweledyddion o fri rhyngwladol rannu eu syniadau ynghylch dyluniadau’r dyfodol a sut i greu newid. Mae’r gynhadledd yn cyd-daro ag agoriad Sioe Radd Ddylunio Prifysgol Bangor, ac mae’n gychwyn ar ŵyl benwythnos o ddathlu dylunio - cyfle i fwynhau llwyddiant myfyrwyr a mentrau cydweithredol. Mae llwyddiant dylunio yn dibynnu ar wybod beth sy’n digwydd yn y byd, a bydd ein siaradwyr gwadd, unwaith eto, yn rhannu gyda ni, yn ein herio, yn ein hysbrydoli i anelu at wneud gwahaniaeth - maen nhw’n dangos sut mae mynd ati, sut mae dylanwadu ar fywydau a sut y gall proses ddylunio a weithredir gyda gofal, ymrwymiad a chreadigrwydd sbarduno newid emosiynol, diwylliannol ac ymddygiadol.
Eisteddwch, byddwch barod a chymerwch ran eleni yn
Siarad Dylunio yn Fyw!
Siaradwyr y diwrnod Siaradwr Cwmni Croeso Eleanor Beer Jude Pullen Stephen Griffiths Paned Victoria Rushton Sam Guest Daniel Andrews Cinio Sam Gwilt Jon Marshall
Sketch artist AYD Gerallt Evans Metalcraft Protolabs Flare audio Sam Does Design Pentagram
Yn dilyn y digwyddiad, bydd pawb yn cael gwahoddiad i agoriad swyddogol i Sioe Radd Dylunio yn PL2
Eleanor Beer
eleanorbeer.com
Sketch artist Mae Eleanor Beer yn Hwylusydd Graffeg Rhyngwladol sy’n gweithio yn ne Cymru. Mae hi’n arbenigo mewn darparu datrysiadau gweledol a gwasanaethau hyfforddi i ystod o gleientiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Ei nod craidd yw symleiddio cyfathrebu trwy adrodd straeon gweledol, gan helpu sefydliadau i feddwl a chydweithio yn fwy effeithlon a chreadigol. Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, mae Eleanor wedi cefnogi brandiau byd-eang ar draws tri chyfandir, o Williams F1, Siemens a Sefydliad Iechyd y Byd, i elusennau bach ar lawr gwlad, mentrau gofal cymdeithasol a grwpiau cymunedol lleol. Yr un nod craidd sydd gan y brandiau i gyd: rhoi pobl wrth galon popeth a wnânt. Fel arbenigwraig cyfathrebu gweledol, mae Eleanor yn cyfuno ei sgiliau lluniadu a gwrando gweithredol – ynghyd â’i phrofiad hwyluso - i gofnodi negeseuon allweddol mewn digwyddiadau a chynadleddau ar ffurf graffeg. Trwy weithio gyda’i thîm o gymdeithion, mae hi hefyd yn helpu cwmnïau i gyfathrebu eu strategaethau a’u teithiau gan ddefnyddio cyfoeth o luniau digidol. Mae Eleanor yn rhugl yn y Gymraeg ac yn darparu ei holl wasanaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hefyd yn mwynhau hyfforddi unigolion a sefydliadau ar sut i feddwl a gweithio’n fwy gweledol trwy ei gweithdai rhyngweithiol, person-ganolog.
Jude Pullen
judepullen.com
Enillydd Gwobr “Imagineering” Alastair Graham-Bryce 2020 (IMechE), mae Jude yn ffynnu mewn cydweithrediadau risg uchel, ansicrwydd a phwysau - gan dynnu o rwydweithiau a phrofiadau byd-eang i gyflawni ymgyrchoedd proffil uchel a chynhyrchion digidol/corfforol. Mae ei waith masnachol yn gymysgedd o fewnwelediadau, strategaeth a phrofion beta cyflym mewn marchnadoedd newydd. Yn ddiweddar, ef oedd curad Gyfres Weminar uchelgeisiol, a Hacathon Hyfforddi mewn cydweithrediad â ProtoLabs ar Ddylunio a Chynaliadwyedd, gan cynnwys dron ugain o ddarlithoedd, a dadleuon byd-eang - a ddewiswyd i’w cynnwys yn COP26. Mae Jude, sy’n Arbenigwr Technolegydd Creadigol / Materol blaenllaw, wedi gweithio i’r GIG, Dyson, LEGO, a nifer o fusnesau newydd. Mae’n un o’r wyth dyfeisydd a gafodd sylw yng nghyfres ddogfen Big Life Fix ar BBC Dau sy’n helpu pobl ag anableddau drwy dechnoleg a dylunio. Mae hefyd wedi gweithio ochr yn ochr â Syr David Jason - gan weithgynhyrchu copïau o ‘Great British Inventions’ o ddeunyddiau cartref, a rocedi hedfan ar gyfer Channel 4. Mae ei RadioGlobe wedi derbyn llawer o wobrau, o Core77 i FastCo.
STEPHEN GRIFFITHS
ayd.uk.com
AYD Ltd. Global Height Safety Solutions Esblygodd AYD o’i chwaer gwmni sy’n dyddio’n ôl i 1984 i fod yn arweinydd wrth ddylunio diogelwch uchder, gan ymgorffori offer disgynnol ac achub ar gyfer cynulleidfa’r byd.Mae Peirianwyr, Dylunwyr a Thechnegwyr AYD yn mwynhau’r her o ddatblygu datrysiadau a chymryd hynny o’r cysyniad cychwynnol, drwy prototeipio a phrofi i gynnyrch a weithgynhyrchwyd. Mae AYD yn parhau i fuddsoddi mewn pobl, technoleg ac adnoddau er mwyn cynnal ein safle fel arloeswr blaenllaw o gynhyrchion, er mwyn sicrhau byd mwy diogel i’n holl gleientiaid a defnyddwyr. Yn AYD, credwn, drwy fabwysiadu dull o weithgynhyrchu a rhoi hyn wrth wraidd y broses ddylunio, ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ar bob cam. Gan gwmpasu ein gallu argraffu a modelu 3D mewnol, profi mewnol ar gyfer perfformiad statig a deinamig ar y cyd â dyluniad mewnol arall, gallwn ddarparu’r ateb cyflawn.
VICTORIA RUSHTON
Gerallt Evans Metalcraft Mae Victoria yn gyfarwyddwr cwmni Gerallt Evans Metalcraft - cwmni saernïo metel o fri sy’n asio gwaith metel traddodiadol â thechnoleg a gweithgynhyrchu modern i greu eitemau coeth, cwbl bwrpasol. Enw blaenorol y cwmni oedd Tan Lan Metalworks, ac fe’i dechreuwyd yn 2004 gan Gerallt Evans y mae ei waith i’w weld ar hyd a lled Gogledd Cymru, o’r cleddyf yn Llanberis, y cawr ym Mharc Coedwig y Gelli Gyffwrdd, a chasgliad mawr o weithiau yng ngorsaf Betws y Coed, i enwi dim ond detholiad bychan iawn. Yn 2021 newidiwyd enw’r busnes o Tan Lan Metalworks i gwmni newydd Gerallt Evans Metalcraft Ltd. Mae’r cwmni yn angerddol am greu cynhyrchion pwrpasol o ansawdd uchel gyda chynaliadwyedd yn greiddiol iddynt - cynnyrch sy’n arddangos creadigrwydd a medrusrwydd, ac wedi eu gwneud yma yng Ngogledd Cymru! Mae’r cwmni’n dylunio, yn cynllunio ac yn saernïo eitemau coeth, pwrpasol sy’n para am oes gyda’r nod o leihau gwastraff a hyrwyddo cylchoedd bywyd hir i gynhyrchion.
Samuel Guest
protolabs.co.uk
PROTOLABS Gyda chefndir mewn peirianneg, gwerthu a gweithgynhyrchu, mae Sam yn aelod annatod o’r Tîm Rheoli Cynnyrch Ewropeaidd yn Protolabs. Mae’n gyfrifol am esblygu’r cynnig mowldio chwistrellu yn barhaus fel y gall Protolabs gynorthwyo defnyddwyr terfynol drwy ddarparu gwasanaeth gorau posibl. Mae arbenigedd Sam yn ymestyn y tu hwnt i’r gwasanaethau craidd ac mae’n berthnasol i ddatblygu ac integreiddio cymwysiadau ehangach, gan wella’r gyfres o gynnig Protolabs.
DANIEL ANDREWS
FLARE AUDIO LTD Graddiais yn 2020 o raglen Dylunio Cynnyrch Prifysgol Bangor. Ers graddio rwyf wedi ceisio gwella fy sgiliau fel dylunydd, boed hynny trwy gymryd cyfleoedd llawrydd neu wneud tasgau dylunio ar-lein wythnosol. Arweiniodd y penderfyniad hwn i ddatblygu fy sgiliau at gael fy swydd ddylunio gyntaf yn Flare Audio fel dylunydd cynnyrch.
SAM GWILT
samdoes.design
SAM DOES DESIGN Mae Sam yn ddylunydd diwydiannol gyda chyfuniad dethol o sgiliau. Graddiodd o Brifysgol Brunel Llundain a gweithiodd i Paul Cocksedge Studio, gan arbenigo mewn gosodiadau goleuo pwrpasol ac arddangosfeydd yn rhyngwladol. Bu’n gweithio i gwmni dylunio ymgynghorol Precipice Design am dair blynedd cyn trosglwyddo’n ddiweddar i LAYER. Mae hefyd yn rhedeg sianel Instagram a YouTube - sam_does_ design - lle mae’n rhannu awgrymiadau o’r diwydiant gyda’r gymuned ddylunio.
JON MARSHALL
pentagram.com
PENTAGRAM
Dylunydd diwydiannol yw Jon Marshall ac mae ei waith yn cyfuno dylunio cynnyrch â strategaeth, brandio, pecynnu a phrofiadau digidol. Graddiodd o’r Coleg Celf Brenhinol yn 1996 a dechreuodd ei yrfa broffesiynol yn gweithio i Ross Lovegrove cyn symud i Pentagram, lle bu’n gweithio fel dylunydd i Daniel Weil. Yn 2003 ymunodd â Barber Osgerby fel Cyfarwyddwr Stiwdio a datblygodd rai o ddyluniadau dodrefn a chynnyrch eiconig y stiwdio gan gynnwys Ffagl Olympaidd Llundain 2012. Yn 2012, ar y cyd â Barber & Osgerby, fe gyd-sefydlodd a chyfarwyddodd yr ymgynghoriaeth dylunio diwydiannol Map, lle creodd gynhyrchion a phrofiadau defnyddwyr ar gyfer rhai o gwmnïau mwyaf arloesol y byd gan gynnwys brandiau byd-eang fel Google, Virgin Atlantic, Honda ac IBM yn ogystal â busnesau newydd uchelgeisiol fel Kano, BleepBleeps a Sam Labs. Yn 2018 ymunodd â swyddfa Pentagram yn Llundain fel partner lle mae ei waith yn gorgyffwrdd â dylunio graffeg, brandio a gwaith celf partneriaid eraill Pentagram. Mae projectau nodedig yn cynnwys dylunio arddangosfa drochi ar gyfer Diwrnod LifeWear UNIQLO, dylunio caledwedd cynhyrchiol ar gyfer cwmni lled-ddargludyddion Graphcore a dylunio Yoto Player, siaradwr rhyngweithiol i blant, a restrwyd fel un o ddyfeisiadau gorau Time Magazine yn 2020. Mae ganddo ddiddordeb mewn gweithio gyda thechnolegau haniaethol a datblygol, gan greu profiadau hygyrch i ddefnyddwyr a chynaliadwyedd.
ROBERT CHIVERS ©
I MYFYRWYR SYDD O DDIFRI AM FUSNES! Wyddoch chi fod Prifysgol Bangor yn berchen ar Barc Gwyddoniaeth? Mae’n le i bobl gychwyn a rhedeg eu busnes neu i archwilio syniad. ▶ Cewch y cefnogaeth i datblygu’ch syniad chi. ▶ Digwyddiadau i bawb, o berchennog busnes i myfyrwyr, i ddysgu a rhwydweithio. ▶ Ystafell desgiau Dros-dro; desgiau y medrwch ddefnyddio’n y tymor byr. ▶ Wi-Fi AM RHIM (gan gynnwys eduroam). ▶ Cefnogaeth Busnes ar gae am ddim am 6 mis. ▶ Cysylltiadau i ystafell Santander; gofod desg am ddim drwy’r cynllun B-Enterprising. ▶ Swyddfeydd a Labordai i gwmnïau llogi.
Da ni’n gwybod eich bod chi eisiau gwybod fod person go iawn yn siarad hefo chi. Mae M-SParc yn cael ei redeg gan dîm bach o 6 berson, ac Emily Roberts, ein Swyddog Marchnata, sydd wedi gwneud y pamffled yma. Dyma hi, a medrwch gysylltu emily@m-sparc.com
▶ Gofod gwneud yn agor yn fuan; bydd Ffiws yn M-SParc i chi cael tincran gyda unrhyw beth ‘da chi’n gweithio arno.
Prif nod M-SParc ydi helpu creu, datblygu a cefnogi mentrau newydd. Os ydych chi’n entrepreneur newydd, yn berson busnes, neu’n ‘dechnolegol’, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, beth am gysylltu â M-SParc a gweld beth allwn ni ei wneud? Rydym yma i chi!
post@m-sparc.com
/ MenaiSciencePark
@m-sparc
@m_sparc
EISIAU DATBLYGU BUSNES NEU FENTER GYMDEITHASOL NEU GWEITHIO AR LIWT EICH HUNAIN? Gallwch gael lleoliad hunangyflogaeth taliadwy, desg am ddim yn y man deori yn M-SParc, mentora arbenigol a chael cyllid i ddatblygu eich syniad. Efo lwfans o £1,300, mae lleoliadau hunangyflogaeth B-Fentrus wedi eu cynllunio i helpu rhoi sicrwydd ariannol i fyfyrwyr a graddedigion entrepreneuraidd fel chi tra eich bod ar gychwyn eich siwrna entreprenuraidd a dechra datblygu eich syniad busnes cyffrous. Gallwch hefyd dderbyn cefnogaeth arbenigol gan ein mentoriaid a ymgeisio i gael desg am ddim yn y man deori yn M-SParc, yn ogystal chyllid ychwanegol a help efo brandio.
Cysylltwch efo ni i ddod a’ch breuddwyd entrepreneuraidd yn fyw!
Gwnewch eich syniadau yn fyw efo B-FENTRUS b-fentrus@bangor.ac.uk B_Fentrus Bangor
@B_Fentrus
@B_Enterprisingbangor
2022