Recipe: Cacennau cwpan | Ymestyn yn Ehangach | TEC Wales

Page 1

Cacennau Cwpan (Cupcakes) Cynhwysion      

100g o fenyn neu fargarîn wedi'i feddalu 150g blawd hunan-godi (self raising) 150g siwgr caster 3 llwy fwrdd o laeth 2 wy ½ llwy de o ddyfyniad fanila

Dull 1. Cynheswch eich popty i 180ºC/160ºC Fan/Nwy 4 2. Rhowch y casys cacennau mewn tre cacen neu myffin gyda deuddeg twll 3. Pwyswch y cynhwysion ar gyfer y cacennau cwpan, a hefyd thorrwch y menyn yn barod ar gyfer yr eisin menyn (gadewch y menyn i un ochr) 4. Curwch y margarîn neu'r menyn a'r siwgr mewn powlen fawr nes ei fod yn welw ac yn hufennog 5. Ychwanegwch yr wyau yn y bowlen a'u cymysgu 6. Ychwanegwch y dyfyniad fanila 7. Ychwanegwch y llefrith a'i gymysgu 8. Sifiwch a phlygwch y blawd i'r gymysgedd nes ei fod yn llyfn 9. Llenwch yr casys papur yn gyfartal, cofiwch sychu unrhyw gymysgedd a gollwyd oddi ar y tre 10. Pobwch yn y popty sydd wedi'i gynhesu ymlaen llaw am tua 20-25 munud nes ei bod wedi codi ac yn euraidd frown 11. Tynnwch o'r popty a'i adael i oeri yn llwyr ar rac oeri gwifren

'Mae Ymestyn yn Ehangach yn ariannu'r project hwn’


Cynhwysion ar gyfer yr eisin menyn • 100g o fenyn meddal wedi'i ddeisio • 225g siwgr eisin • ½ llwy de o ddyfyniad fanila

I wneud yr eisin menyn 1. Gan ddefnyddio bowlen lân, pwyswch a rhidyllwch y siwgr eisin 2. Ychwanegwch y menyn sydd wedi'i ddeisio (yr un a baratowyd gennych yn gynharach) a’r dyfyniad fanila a'i guro nes ei fod yn drwchus ac yn hufennog (gellir ychwanegu'r dyfyniad fanila ar unrhyw adeg) 3. Os yw'r gymysgedd yn galed, ychwanegwch ychydig o lefrith gan ddefnyddio llwy de, nes ei fod yn hufennog

Ychwanegu'r eisin menyn i'r cacennau cwpan • Ar y fideo, fe welwch nifer o wahanol ffyrdd i addurno'r cacennau cwpan gan ddefnyddio'r eisin menyn, gallwch ychwanegu ychydig o jamiau neu cwrd lemwn os dymunwch

'Mae Ymestyn yn Ehangach yn ariannu'r project hwn’


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.