5 minute read
COLEG BRENHINOL CERDD A DRAMA CYMRU
Ein Strategaeth
Rydym yn gweithio ar sail strategaeth sy'n cael ei gyrru gan ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n pwrpas, ac mae wedi'i hategu gan ein gwerthoedd cyffredin. Mae'r strategaeth hon wedi'i chodi ar bum colofn strategol, sy'n dod â ffocws i'r newid rydym am ei gyflawni fel sefydliad.
Advertisement
Ein Gweledigaeth
I newid bywydau, a thrawsnewid a chysylltu cymunedau drwy’r celfyddydau
Rhagoriaeth a chyfle i bawb
Traddodiad artistig a gwaith newydd
Diwylliant Cymru a llwyfan byd-eang i gynrychioli Cymru fel grym unigryw, creadigol ar draws y byd
Ein Cenhadaeth
Addysg broffesiynol arloesol, drochi, rhagoriaeth greadigol a chymuned artistig barchus, gynhwysol a rhyngwladol
Graddau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol
Ymgysylltu â'r cyhoedd yn arloesol
Se fyllfa fyd-eang
Ymchwil a menter integ redig
Model busnes cynaliadwy
Ein Gwerthoedd
Arbenigol a Chynhwysol
Cyfoes a Chydweithredol
Dyfeisgar a Chyfrifol
Mae'n dechrau gyda'n myfyrwyr Myfyrwyr yw anadl einioes y Coleg...
Ansawdd eithriadol eu profiadau yma yw'r hyn sy'n ein gyrru, gan anelu at ei wneud y gorau y gall fod.
Ar draws y flwyddyn, roedd campws y Coleg yn fyw o ben bore tan yn hwyr yn y nos wrth i fyfyrwyr CBCDC fwrw at eu gwaith. Aethpwyd i’r afael yn uniongyrchol â heriau Covid, a diolch i ymdrech ar draws y Coleg, parhaodd y gwaith ac roedd yr holl leoedd ar agor i fyfyrwyr bob bron dydd o'r flwyddyn.
Rhaglenni newydd at anghenion y diwydiant
Lansiodd CBCDC ddwy garfan newydd i raglenni newydd a ddyluniwyd ar sail anghenion y diwydiant. Ymunodd myfyrwyr
BA Theatr Gerddorol o bob cwr o'r byd, tra bod myfyrwyr Gradd Sylfaen Adeiladu
Golygfeydd eisoes yn arddangos gwaith ar ddiwrnod cyntaf y tymor llawn, a hwythau wedi dechrau'r tymor chwe wythnos yn gynnar er mwyn adeiladu setiau ar gyfer tymor cyntaf y sioeau. Roedd nifer eisoes yn cael cynnig gwaith proffesiynol chwe wythnos yn unig ar ôl cychwyn.
Mae pob un tiwtor ar y cwrs hwn yn meithrin amgylchedd rhyfeddol o agored a diogel. Amgylchedd lle rydw i wir yn teimlo nad oes ateb anghywir. Rwy'n teimlo fy mod i wedi tyfu cymaint fel person yn barod.
Ritesh, Myfyriwr BA Theatr Gerddorol Blwyddyn 1
Perfformiadau i ysbrydoli
Hyd yn oed cyn i'r cyfyngiadau’r symud gael eu codi, parhaodd myfyrwyr i gynnal cyngherddau byw trwy berfformiadau wedi'u ffrydio, fel AmserJazzTime bob nos Wener. Gyda chynulleidfaoedd yn dychwelyd, bu cefnogwyr ffyddlon cerddoriaeth jazz yn creu crysau-t arbennig i nodi eu gwerthfawrogiad.
Wedi'u castio i’r brif ran yn I, Joan tra'n dal i astudio yn CBCDC, gwnaeth Isobel Thom greu hanes fel actor anneuaidd yn nrama gwiar eiconig a phoblogaidd y Globe Theatre. Cyfarfu Charlie Josephine, dramodydd I, Joan, ag Isobel am y tro cyntaf yn CBCDC ar y cynhyrchiad Moon Licks — drama a gomisiynwyd ar gyfer tymor NEWYDD 2022 CBCDC.
Gwnaeth y gitarydd jazz Tom Harvey gymaint o argraff ar Gregory Porter fel iddo gael ei wahodd i berfformio gydag ef ar y llwyfan yn ei sioe yng
Nghaerdydd. Roedd y ddau wedi cychwyn sgwrs mewn bar gwesty y noson flaenorol, a gwnaeth Porter wefreiddio’r gynulleidfa pan gyflwynodd Tom fel ei westai arbennig.
Gwelais y dathliad theatrig llawen hwn yr wythnos diwethaf. Wir, doeddwn i’n gwybod dim am @ isobelthom ar y pryd, ond gwnaeth rhwyddineb corfforol ac ieithyddol Izzy, ei swyn awelog, ei bwrlwm magnetig a’i dewrder emosiynol fy arwain i bwyso ymlaen a meddwl, 'Perfformiad CBCDC yw hwn. Mae'n rhaid mai perfformiad CBCDC yw hwn.' Wir i chi, mi wnes i ddawns o lawenydd pan ddysgais fy mod i’n iawn. Pob cymeradwyaeth i @ColegCerddDrama a da iawn Izzy. Gwaith hyfryd.
Rakie Ayola
Mwy na
400 o berfformiadau byw ar draws y flwyddyn
Gwaredu rhwystrau
Gan fanteisio’n llawn ar dechnoleg, cynigiwyd mwy na 2,500 o glyweliadau arlein eleni. Cyflwyno meddalwedd arbenigol
Acceptd yn lleihau costau teithio a llety i ymgeiswyr, gan ei gwneud hi’n haws i bawb gymryd rhan yn y cyfnod hollbwysig hwn.
Perfformiodd y bariton Mica
Smith y brif ran fel Figaro, eu prif ran gyntaf mewn opera lawn ers dod allan yn anneuaidd. A hwythau wedi’u cefnogi drwy daith y Coleg gyda
Syndrom Asperger, Dyslecsia a Dyspracsia, dywed Mica fod dull cynhwysol CBCDC wedi caniatáu iddynt dyfu.
Enillodd Shuchen Xie, myfyriwr
12 oed yn y Conservatoire
Iau, gystadleuaeth Gwobr
Prif Gyfansoddwr Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd am ei phedwarawd llinynnol Rhapsody in G Minor, sy'n golygu mai hi yw’r ieuengaf erioed i ennill prif wobr yn hanes yr Urdd.
Rwy mor falch o fod yn rhan o Goleg a dinas lle rwy'n teimlo bod amrywiaeth yn cael ei chofleidio, lle gallaf fod yn rhydd i fod yn fi fy hun go iawn, a lle mae fy ngallu a fy noniau yn cael eu cydnabod a'u dathlu.
Mica Smith
Ffeithiau cyflym...
Mae ein graddedigion yn gwneud eu marc
Roedd hon yn flwyddyn unigryw – ac nid yn unig am i dair carfan o fyfyrwyr raddio o’r Coleg yn 2022.
Roedd y Coleg wedi addo y byddai’r myfyrwyr yn cael eu gwobrwyo â seremoni raddio go iawn, a chadwodd at ei air. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd wedi cynnal seremonïau graddio wyneb yn wyneb ar gyfer dosbarthiadau 2020, 2021 a 2022. Carfan 2022 oedd y mwyaf erioed.
Effaith ar draws diwydiant a'r byd
Chwaraeodd un o’n graddedigion, Amy Wadge, sydd hefyd yn Gymrawd er Anrhydedd ac yn gefnogwr parhaus i’r Coleg, ran greadigol allweddol yn llwyddiant hir-ddisgwyliedig y Deyrnas Unedig yn yr Eurovision Song Contest. Gwnaeth Amy gyfansoddi cynnig y DU ar y cyd â Sam Ryder, gan sicrhau bod yr Eurovision yn dychwelyd i'r DU yn 2023.
Aeth llwyddiant CBCDC o nerth i nerth eleni. Enwebwyd
Callum Scott Howells, a raddiodd yn 2020, am Bafta ac enillodd wobr yr Actor
Gorau yng Ngwobrau RTS am ei ran fel Colin yn It's A Sin gan
Russell T Davies.
Sicrhaodd graddedigion Dylunio CBCDC chwech o'r deuddeg lle uchel eu bri yng Ngwobr Linbury am Ddylunio Llwyfan — gwobr fwyaf mawreddog y byd dylunio ar gyfer talent newydd. Dros bedair blynedd diwethaf Gwobr Linbury, mae hanner yr holl rai a gyrhaeddodd rownd derfynol wedi dod o CBCDC.
Enwebwyd Anjana Vasan am Bafta am y Perfformiad Benywaidd Gorau mewn
Rhaglen Gomedi, ar We Are Lady Parts ar Channel 4. Enillodd Callum ac Anjana wobrau'r Gymdeithas Deledu Frenhinol hefyd am yr un perfformiadau.
Effaith ar draws diwydiant a'r byd
Enillodd Gabriella Slade, y dylunydd – ac enwebai Gwobr Olivier – Wobr Tony am y Dyluniad Gwisgoedd Gorau mewn Sioe Gerdd am ei dyluniadau syfrdanol ar gyfer y sioe gerdd boblogaidd Six. Enwebwyd Dominic Bilkey, sy’n diwtor yn CBCDC ac yn Bennaeth Sain a Fideo yn y National Theatre, am Wobr Tony am y Dyluniad Sain Gorau mewn Drama ar gyfer The Lehman Trilogy.
Cyfansoddodd Joanne Higginbottom, a raddiodd mewn cyfansoddi ac sydd bellach yn byw yn LA, gerddoriaeth ar gyfer Primal – cyfres a enillodd wobr Emmy. Heb unrhyw ddeialog, roedd y gerddoriaeth yn allweddol i adrodd y stori.
Cafodd Band Pres Preswyl y Coleg, Band Cory, eu coroni'n bencampwyr Bandiau Pres Ewrop unwaith eto yn 2022.
Ymunodd Toks Dada, a raddiodd mewn cerddoriaeth a rheolaeth yn y celfyddydau, â'r Southbank fel Pennaeth Cerddoriaeth
Rydw i mor ddiolchgar i Goleg
Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am bopeth a ddysgodd fy athrawon a'm hyfforddwyr i mi yn ystod fy amser yno. Rwy wir yn teimlo bod popeth a gyflwynais i ran Colin, ac yn parhau i’w cyflwyno i bob rhan rwy'n ei chwarae, wedi'u hymgorffori yn yr holl wersi amhrisiadwy a gefais tra roeddwn i yno.
Callum Scott Howells
Glasurol, gan arwain y lleoliad i adlewyrchu cerddoriaeth glasurol heddiw, a'i gwneud yn fwy hygyrch.
Cyrhaeddodd Elena Zamudio, un o raddedigion MA Opera, ac enillydd Gwobr Syr Ian Stouzker, rownd derfynol gwobr Kathleen Ferrier, gan berfformio yn Neuadd Wigmore, Llundain. Perfformiodd Elena i'r Brenin Charles, Tywysog Cymru ar y pryd, pan ymwelodd â'r Coleg ddiwethaf.
Perfformiodd Cameron Cullen, a raddiodd mewn chwythbrennau, ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa St Luke's (NYC) yn Neuadd Carnegie.
Dewiswyd Constanca Sims, a raddiodd mewn arwain, i fod yn rhan o raglen Women Conductors (WOCO), mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol, y Royal Northern Sinfonia a Sage Gateshead.
Ffeithiau cyflym...
150 gradd Baglor wedi’u dyfarnu...
gan gynnwys 60
Anrhydedd Dosbarth Cyntaf
Croesawu bron i 300 o gyn-fyfyrwyr gan gynnwys 32 Rhagoriaeth
70 gradd Meistr wedi’u dyfarnu...
3 Seremoni Raddio