2 minute read
Lle i bawb
Fel cymuned, mae CBCDC yn disgwyl i bob aelod barchu ei gilydd. Mae hynny hefyd yn cwmpasu’r croeso a estynnwn i bawb, a'r ffordd yr heriwn ein hunain i fod yn well yn y dyfodol. Rydym ar daith i fod yn lle i bawb, ac rydym yn gwneud cynnydd.
Ymuno i wneud gwahaniaeth
Advertisement
Ym mis Gorffennaf 2022, lansiwyd
Canolfan NOYO Caerdydd gan Goleg
Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC), Cerddorfa Genedlaethol
Gymreig y BBC (BBC NOW) a'r Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (NOYO). Dyma bartneriaeth bwysig sy'n cynnig y llwybr dilyniant cyntaf i gerddorion anabl ifanc talentog yn y rhanbarth.
Gyda’r nod o ddatblygu sgiliau cerddorion anabl ifanc dawnus, a lleihau achosion
Nid oes cerddorfeydd ieuenctid eraill sydd mor angerddol am ddangos y gall pobl anabl chwarae ar yr un llwyfannau â phobl nad ydynt yn anabl. Mewn cyngerdd cerddoriaeth glasurol arferol, fyddech chi wir ddim yn cael llawer o'r gerddoriaeth rydyn ni'n ei chwarae – fyddai gennych chi ddim o’r offerynnau! Credwn ei bod yn well pe gall cerddorion anabl a rhai nad ydynt yn anabl integreiddio gyda'i gilydd, ac yna gallwn feddwl am syniadau newydd ffres a bod yn fwy creadigol, ac archwilio gwahanol rannau o gerddoriaeth.
Telynor NOYO, Holli Pandit ohonynt yn cael eu hallgáu’n gerddorol, bydd y bartneriaeth hefyd yn cynyddu cefnogaeth y sector i artistiaid. Fel ensemble ieuenctid cenedlaethol cyntaf y byd dan arweiniad pobl anabl sy'n agored i gerddorion ifanc anabl a cherddorion nad ydynt yn anabl, mae NOYO yn gosod y sylfeini ar gyfer sector cerddorfaol mwy amrywiol.
Targedu cymorth lle mae ei angen fwyaf
Mae cyfoeth a bywiogrwydd y celfyddydau perfformio yn ddibynnol ar sicrhau bod pobl ifanc eithriadol dalentog o gefndiroedd amrywiol yn cael y cyfle i ddatblygu, mynegi a chyfrannu eu lleisiau creadigol. Eleni, fe wnaethom aillunio ein dull o ymdrin ag ysgoloriaethau a bwrsariaethau. Mae ysgoloriaethau bellach yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer myfyrwyr talentog sydd yn yr angen mwyaf ariannol, o gefndiroedd cymdeithasol ac ethnig amrywiol a gyda nodweddion gwarchodedig. Fel symudiad pellach i alluogi'r mynediad ehangaf posibl i'n hyfforddiant, rydym ni wedi cyflwyno Cynllun Bwrsariaeth newydd sy'n arwain y sector ac sy'n gwneud gwobrau blynyddol
Pan ofynnom i'r derbynwyr pa wahaniaeth
roedd wedi'i wneud:
+ Roedd 100% o ymatebwyr yr arolwg yn cytuno'n gryf bod y fwrsariaeth wedi helpu i leddfu pwysau ariannol yn ystod eu hastudiaethau.
+ Dywedodd 67% o myfyrwyr ei fod yn ffactor wrth benderfynu derbyn eu lle yn y Coleg.
+ Roedd bron i 30% o fyfyrwyr newydd yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth awtomatig o £1200 am fod incwm eu cartref yn llai na £30,000. awtomatig i bob myfyriwr sy'n ymuno â
CBCDC o aelwyd sydd ag incwm is na'r cyfartaledd. Mae'r ddwy fenter yn ein helpu i gyflawni ein nodau o gyfoethogi ein cymuned drwy gynrychiolaeth ehangach ac ail-gydbwyso cyfle i sicrhau bod y rhai sydd â thalent a photensial yn gallu hyfforddi gyda ni.
Lle i bawb
Medd y myfyrwyr a gafodd fwrsariaeth wrthym...
Mae wedi lleihau’r pwysau o fod angen arian a gofyn am gymorth gan berthnasau. Gyda'r fwrsariaeth rwyf wedi gallu fy nghefnogi fy hun a pharhau i ganolbwyntio ar fy astudiaethau heb boeni am arian.
Roedd derbyn bwrsariaeth yn fy ngalluogi i fynd i'r brifysgol sy'n rhywbeth na fyddwn wedi'i gyflawni fel arall. Roeddwn yn hynod ddiolchgar i dderbyn hyn, oherwydd yn fy mlwyddyn gyntaf rwyf wedi ennill sgiliau a fydd yn fy ngalluogi i ffynnu mewn diwydiant anodd ac mae wedi fy ngalluogi i fwynhau’r brifysgol heb bryder o geisio byw heb gymorth ariannol. Yn lle hynny, gallaf roi fy holl egni i fy ngwaith, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fy mhrofiad a gallaf gael y gorau o'm haddysg.
Heb y cyllid hwn, ni chaiff llawer o bobl y cyfle i dderbyn yr un addysg â'r rhai o'u cwmpas oherwydd anawsterau ariannol, ond gall y cyllid ganiatáu iddynt weithio ar lefel debyg heb y straen o orfod eu cefnogi eu hunain yn ariannol.