WWW.RWCMD.AC.UK Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: Cipolwg ar Flwyddyn ROYAL WELSH COLLEGE OF MUSIC & DRAMA COLEG BRENHINOL CERDD A DRAMA CYMRU
2 Cynnwys Cyflwyniad 3 Ein strategaeth 5 Mae'n dechrau gyda'n myfyrwyr 6 Mae ein graddedigion yn 10 gwneud eu marc Rydym yn gweithio gyda 13 chymunedau Cysylltiadau diwydiant i 16 rymuso rhagoriaeth O Gymru ac o'r radd flaenaf 19 Rydym yn gofalu am bobl 22 Ein haddewid i 23 genedlaethau'r dyfodol Lle i bawb 25
Yr Athro
Helena Gaunt
Ein gweledigaeth yw newid bywydau, a thrawsnewid a chysylltu cymunedau drwy’r celfyddydau. Mae'n gyrru ein dull strategol, a dyma sy'n ein hysbrydoli i wneud y gwaith rydyn ni’n ei wneud. Yn yr adroddiad hwn, rydym yn cynnig cipolwg ar y gwaith rydyn ni wedi'i wneud ar draws blwyddyn academaidd (2021-22) er mwyn i ddarllenwyr ddeall yn well yr hyn rydyn ni'n ei wneud, sut rydyn ni'n ei wneud a pham, a'r gwahaniaeth mae'n ei wneud. Mae pobl yn aml yn dweud yn garedig wrthym sut maen nhw'n cael eu hysbrydoli gan y lle arbennig yma. Rydyn ni'n gweld ac yn clywed hyn at honno bob dydd, ar draws pob disgyblaeth.
Wrth i ni symud ymlaen, rydym am rannu ein lle arbennig hyd yn oed yn ehangach a meithrin cysylltiadau cryfach gyda phob
math o bobl. Credwn y bydd ymgysylltu dyfnach â chymunedau amrywiol ond byth yn ein cyfoethogi, yn sicrhau ein bod yn hygyrch, yn berthnasol ac yn cael ein mwynhau ac yn bwydo i safonau rhagoriaeth ym mhob rhan o'r sefydliad. Allwn ni fesur y gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud? Yn sicr, does gennym ni ddim darlun llawn eto, ond rydyn ni ar daith a byddwn yn parhau i rannu ein cynnydd gyda chi.
Wrth i chi ddarllen am y gwaith, rwy'n gobeithio y byddwch yn teimlo cysylltiad agosach â ni.
3
Cyflwyniad
Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama
Cymru yn denu'r doniau creadigol gorau o bedwar ban byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn sbarduno arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i dros 800 o actorion, cerddorion, dylunwyr, technegwyr a rheolwyr y celfyddydau o fwy na 40 o wledydd. Mae talent a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr yn cael eu hasio ag addysgu
eithriadol a chysylltiadau heb eu hail mewn diwydiant, i wireddu breuddwydion. Mae lle i bawb, uchelgais creadigol a chydweithio yn ganolog i'n rhagoriaeth.
Mae talent a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr yn cael eu hasio ag addysgu eithriadol a chysylltiadau heb eu hail mewn diwydiant, i wireddu breuddwydion.
Caiff ein myfyrwyr eu trwytho mewn amgylchedd diwydiant byw o'r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai o leoliadau mwyaf mawreddog Cymru, rydym yn cynnal canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen berfformio o weithwyr proffesiynol o'r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant y myfyrwyr.
Rydym yn meithrin ein darpar weithwyr proffesiynol fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych.
4
COLEG BRENHINOL CERDD A DRAMA CYMRU
Ein Strategaeth
Rydym yn gweithio ar sail strategaeth sy'n cael ei gyrru gan ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n pwrpas, ac mae wedi'i hategu gan ein gwerthoedd cyffredin. Mae'r strategaeth hon wedi'i chodi ar bum colofn strategol, sy'n dod â ffocws i'r newid rydym am ei gyflawni fel sefydliad.
Ein Gweledigaeth
I newid bywydau, a thrawsnewid a chysylltu cymunedau drwy’r celfyddydau
Rhagoriaeth a chyfle i bawb
Traddodiad artistig a gwaith newydd
Diwylliant Cymru a llwyfan byd-eang i gynrychioli Cymru fel grym unigryw, creadigol ar draws y byd
Ein Cenhadaeth
Addysg broffesiynol arloesol, drochi, rhagoriaeth greadigol a chymuned artistig barchus, gynhwysol a rhyngwladol
Graddau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol
Ymgysylltu
â'r cyhoedd yn arloesol
Se fyllfa fyd-eang
Ymchwil a menter integ redig
Model busnes cynaliadwy
Ein Gwerthoedd
Arbenigol a Chynhwysol
Cyfoes a Chydweithredol
Dyfeisgar a Chyfrifol
5
Mae'n dechrau gyda'n myfyrwyr Myfyrwyr yw anadl einioes y Coleg...
Ansawdd eithriadol eu profiadau yma yw'r hyn sy'n ein gyrru, gan anelu at ei wneud y gorau y gall fod.
Ar draws y flwyddyn, roedd campws y Coleg yn fyw o ben bore tan yn hwyr yn y nos wrth i fyfyrwyr CBCDC fwrw at eu gwaith. Aethpwyd i’r afael yn uniongyrchol â heriau Covid, a diolch i ymdrech ar draws y Coleg, parhaodd y gwaith ac roedd yr holl leoedd ar agor i fyfyrwyr bob bron dydd o'r flwyddyn.
Rhaglenni newydd at anghenion y diwydiant
Lansiodd CBCDC ddwy garfan newydd i raglenni newydd a ddyluniwyd ar sail anghenion y diwydiant. Ymunodd myfyrwyr
BA Theatr Gerddorol o bob cwr o'r byd, tra bod myfyrwyr Gradd Sylfaen Adeiladu
Golygfeydd eisoes yn arddangos gwaith ar ddiwrnod cyntaf y tymor llawn, a hwythau wedi dechrau'r tymor chwe wythnos yn gynnar er mwyn adeiladu setiau ar gyfer tymor cyntaf y sioeau. Roedd nifer eisoes yn cael cynnig gwaith proffesiynol chwe wythnos yn unig ar ôl cychwyn.
Mae pob un tiwtor ar y cwrs hwn yn meithrin amgylchedd rhyfeddol o agored a diogel. Amgylchedd lle rydw i wir yn teimlo nad oes ateb anghywir. Rwy'n teimlo fy mod i wedi tyfu cymaint fel person yn barod.
Ritesh, Myfyriwr BA Theatr Gerddorol Blwyddyn 1
Every single tutor on this course fosters an incredibly open and safe environment. An environment where I truly feel like there is no wrong answer. I feel like I’ve grown so much as a person already.
Ritesh, Year 1 BA Musical Theatre student
6
Perfformiadau i ysbrydoli
Hyd yn oed cyn i'r cyfyngiadau’r symud gael eu codi, parhaodd myfyrwyr i gynnal cyngherddau byw trwy berfformiadau wedi'u ffrydio, fel AmserJazzTime bob nos Wener. Gyda chynulleidfaoedd yn dychwelyd, bu cefnogwyr ffyddlon cerddoriaeth jazz yn creu crysau-t arbennig i nodi eu gwerthfawrogiad.
Wedi'u castio i’r brif ran yn I, Joan tra'n dal i astudio yn CBCDC, gwnaeth Isobel Thom greu hanes fel actor anneuaidd yn nrama gwiar eiconig a phoblogaidd y Globe Theatre. Cyfarfu Charlie Josephine, dramodydd I, Joan, ag Isobel am y tro cyntaf yn CBCDC ar y cynhyrchiad Moon Licks — drama a gomisiynwyd ar gyfer tymor NEWYDD 2022 CBCDC.
Gwnaeth y gitarydd jazz Tom Harvey gymaint o argraff ar Gregory Porter fel iddo gael
ei wahodd i berfformio gydag
ef ar y llwyfan yn ei sioe yng
Nghaerdydd. Roedd y ddau wedi cychwyn sgwrs mewn bar gwesty y noson flaenorol, a gwnaeth Porter wefreiddio’r gynulleidfa pan gyflwynodd Tom fel ei westai arbennig.
Gwelais y dathliad theatrig
llawen hwn yr wythnos diwethaf. Wir, doeddwn i’n gwybod dim am @ isobelthom ar y pryd, ond gwnaeth rhwyddineb corfforol ac ieithyddol Izzy, ei swyn awelog, ei bwrlwm magnetig a’i dewrder emosiynol fy arwain i bwyso ymlaen a meddwl, 'Perfformiad CBCDC yw hwn. Mae'n rhaid mai perfformiad CBCDC yw hwn.' Wir i chi, mi wnes i ddawns o lawenydd pan ddysgais fy mod i’n iawn. Pob cymeradwyaeth i @ColegCerddDrama a da iawn Izzy. Gwaith hyfryd.
Rakie Ayola
Mwy na
400 o berfformiadau byw ar draws y flwyddyn
7
Gwaredu rhwystrau
Gan fanteisio’n llawn ar dechnoleg, cynigiwyd mwy na 2,500 o glyweliadau arlein eleni. Cyflwyno meddalwedd arbenigol
Acceptd yn lleihau costau teithio a llety i ymgeiswyr, gan ei gwneud hi’n haws i bawb gymryd rhan yn y cyfnod hollbwysig hwn.
Perfformiodd y bariton Mica
Smith y brif ran fel Figaro, eu prif ran gyntaf mewn opera lawn ers dod allan yn anneuaidd. A hwythau wedi’u cefnogi
drwy daith y Coleg gyda
Syndrom Asperger, Dyslecsia a Dyspracsia, dywed Mica fod dull cynhwysol CBCDC wedi caniatáu iddynt dyfu.
Enillodd Shuchen Xie, myfyriwr
12 oed yn y Conservatoire
Iau, gystadleuaeth Gwobr
Prif Gyfansoddwr Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd am ei phedwarawd llinynnol Rhapsody
in G Minor, sy'n golygu mai hi yw’r ieuengaf erioed i ennill prif wobr yn hanes yr Urdd.
Rwy mor falch o fod yn rhan o Goleg a dinas lle rwy'n teimlo
bod amrywiaeth yn cael ei chofleidio, lle gallaf fod yn rhydd i fod yn fi fy hun go
iawn, a lle mae fy ngallu a fy noniau yn cael eu cydnabod a'u dathlu.
Mica Smith
8
Ffeithiau cyflym...
Cefnogodd y cwmni entrepreneuraidd mewnol REPCO 8 cynhyrchiad dan arweiniad myfyrwyr... gyda 140 o gyfranogwyr a mwy na 350 o aelodau cynulleidfa 9 Ymgeisiodd mwy na 4000 o bobl i astudio yn CBCDC am 343 o leoedd Ail-ddilyswyd 3 rhaglen radd MMus, MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau ac MA Cynllunio ar gyfer Perfformio Cyflogadwyedd 100% o’r myfyrwyr Rheolaeth yn y Celfyddydau gynnig swydd 8 achos o gydweithio agos rhwng Cerdd a Drama gan yrru ffyrdd newydd o weithio
6 wythnos yn unig a gymerodd i fyfyrwyr newydd Adeiladu Golygfeydd gael cynnig gwaith Cafodd 100% o'r actorion a arddangosodd yn Llundain ddiddordeb gan asiantau Roedd gan ein 810 o fyfyrwyr fynediad i'r campws am 100% o'r flwyddyn bandemig hon
Mae ein graddedigion yn gwneud eu marc
Roedd hon yn flwyddyn unigryw – ac nid yn unig am i dair carfan o fyfyrwyr
raddio o’r Coleg yn 2022.
Roedd y Coleg wedi addo y byddai’r myfyrwyr yn cael eu gwobrwyo â seremoni raddio go iawn, a chadwodd at ei air. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd wedi cynnal seremonïau graddio wyneb yn wyneb ar gyfer dosbarthiadau 2020, 2021 a 2022. Carfan 2022 oedd y mwyaf erioed.
Effaith ar draws diwydiant a'r byd
Chwaraeodd un o’n graddedigion, Amy Wadge, sydd hefyd yn Gymrawd er Anrhydedd ac yn gefnogwr parhaus i’r Coleg, ran greadigol allweddol yn llwyddiant hir-ddisgwyliedig y Deyrnas Unedig yn yr Eurovision Song Contest. Gwnaeth Amy gyfansoddi cynnig y DU ar y cyd â Sam Ryder, gan sicrhau bod yr Eurovision yn dychwelyd i'r DU yn 2023.
Aeth llwyddiant CBCDC o nerth i nerth eleni. Enwebwyd
Callum Scott Howells, a raddiodd yn 2020, am Bafta ac enillodd wobr yr Actor
Gorau yng Ngwobrau RTS am
ei ran fel Colin yn It's A Sin gan
Russell T Davies.
Sicrhaodd graddedigion Dylunio CBCDC chwech o'r deuddeg lle uchel eu bri yng Ngwobr Linbury am Ddylunio Llwyfan — gwobr fwyaf mawreddog y byd dylunio ar gyfer talent newydd. Dros bedair blynedd diwethaf Gwobr Linbury, mae hanner yr holl rai a gyrhaeddodd rownd derfynol wedi dod o CBCDC.
Enwebwyd Anjana Vasan am Bafta am y Perfformiad Benywaidd Gorau mewn
Rhaglen Gomedi, ar We Are Lady Parts ar Channel 4. Enillodd Callum ac Anjana wobrau'r Gymdeithas Deledu Frenhinol hefyd am yr un perfformiadau.
10
Effaith ar draws diwydiant a'r byd
Enillodd Gabriella Slade, y dylunydd – ac
enwebai Gwobr Olivier – Wobr Tony am y Dyluniad Gwisgoedd Gorau mewn Sioe Gerdd am ei dyluniadau syfrdanol ar gyfer y sioe gerdd boblogaidd Six. Enwebwyd Dominic Bilkey, sy’n diwtor yn CBCDC ac yn Bennaeth Sain a Fideo yn y National Theatre, am Wobr Tony am y Dyluniad Sain Gorau mewn Drama ar gyfer The Lehman Trilogy.
Cyfansoddodd Joanne Higginbottom, a raddiodd mewn cyfansoddi ac sydd bellach yn byw yn LA, gerddoriaeth ar gyfer Primal – cyfres a enillodd wobr Emmy. Heb unrhyw ddeialog, roedd y gerddoriaeth yn allweddol i adrodd y stori.
Cafodd Band Pres Preswyl y Coleg, Band Cory, eu coroni'n bencampwyr Bandiau Pres Ewrop unwaith eto yn 2022.
Ymunodd Toks Dada, a raddiodd mewn cerddoriaeth a rheolaeth yn y celfyddydau, â'r Southbank fel Pennaeth Cerddoriaeth
Rydw i mor ddiolchgar i Goleg
Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am bopeth a ddysgodd fy athrawon a'm
hyfforddwyr i mi yn ystod fy amser yno. Rwy wir yn teimlo bod popeth a gyflwynais i ran Colin, ac yn parhau
i’w cyflwyno i bob rhan rwy'n ei chwarae, wedi'u hymgorffori yn
yr holl wersi amhrisiadwy a gefais tra roeddwn i yno.
Callum Scott Howells
Glasurol, gan arwain y lleoliad i adlewyrchu cerddoriaeth glasurol heddiw, a'i gwneud yn fwy hygyrch.
Cyrhaeddodd Elena Zamudio, un o raddedigion MA Opera, ac enillydd Gwobr Syr Ian Stouzker, rownd derfynol gwobr Kathleen Ferrier, gan berfformio yn Neuadd Wigmore, Llundain. Perfformiodd Elena i'r Brenin Charles, Tywysog Cymru ar y pryd, pan ymwelodd â'r Coleg ddiwethaf.
Perfformiodd Cameron Cullen, a raddiodd mewn chwythbrennau, ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa St Luke's (NYC) yn Neuadd Carnegie.
Dewiswyd Constanca Sims, a raddiodd mewn arwain, i fod yn rhan o raglen Women Conductors (WOCO), mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol, y Royal Northern Sinfonia a Sage Gateshead.
11
Ffeithiau cyflym...
150 gradd Baglor wedi’u dyfarnu...
gan gynnwys 60
Anrhydedd Dosbarth Cyntaf
Croesawu bron i 300 o gyn-fyfyrwyr
70 gradd Meistr wedi’u dyfarnu...
gan gynnwys 32 Rhagoriaeth
3 Seremoni Raddio
12
Rydym yn gweithio gyda chymunedau
Gan dynnu ar ddoniau a chreadigrwydd ein myfyrwyr, rydym yn datblygu gwaith
newydd gydag amrywiaeth eang o bartneriaid cymunedol. Bob amser yn gweithio ar y cyd, rydym yn rhannu ein syniadau, ein sgiliau a'n gwybodaeth i greu cyfleoedd penodol ac rydym wedi ymrwymo i ddyfodol a fydd yn gweld ein myfyrwyr yn dod i'r amlwg yn bwerus fel gwneuthurwyr mewn cymdeithas.
Rhoi bywyd newydd i adeilad yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd
Roedd adeilad yr Hen Lyfrgell yng
Nghaerdydd yn chwilio am ei bwrpas pan wnaeth CBCDC gynnig rhoi bywyd newydd i'r hen le drwy gyfrwng bywiog cerddoriaeth a drama. O dan les hirdymor, bydd y Coleg yn ail-lunio’r gofod, gan weithio gyda chymunedau i’w ddwyn yn ôl i'w wreiddiau fel lle i rannu addysg.
Bedwar diwrnod yn unig ar ôl derbyn allweddi i'r adeilad, roedd y gofod mewnol wedi’i drawsnewid ac yn barod i'w ddefnyddio fel man addysgu ac ymarfer cwbl weithredol, gyda phum stiwdio wedi'u gosod â thechnoleg ac offer. Dros yr haf, fel rhan o waith sylweddol i adfer yr adeilad, crëwyd chweched stiwdio, gan ddefnyddio’r gofod mewn ffordd glyfar.
Sioe gyntaf y gofod fis Mehefin oedd perfformiad pypedwaith Now & Then a oedd yn adrodd stori liwgar a ffraeth am Gaerdydd ac roedd pob tocyn wedi’i werthu.
Cynhaliodd ein tiwtoriaid arbenigol a'n myfyrwyr ym maes pypedwaith a symud weithdy arbennig gydag 80 o blant Blwyddyn 5 o Ysgol Gynradd Mount Stuart, yn archwilio hanes cloddio glo trwy sgiliau perfformio. Ymgollodd y disgyblion yn frwdfrydig yn y sesiwn, a dywedodd yr ysgol wrthym ei fod wedi 'symud y dysgu yn ei flaen.'
Daeth 90 o blant i weld Now & Then gyda'u hysgolion cynradd, Santes y Forwyn Fair, Ysgol Gymraeg Pen-y-groes a St Paul's, ac ar ôl y sioe cafodd y plant gyfle i roi cynnig ar y pypedau.
Roedd y plant yn llawn cyffro wrth gerdded yn ôl i'r ysgol. Roedden nhw wir yn teimlo bod y profiad fel amgueddfa yn dod yn fyw. Roedd mor ddiddorol ac addysgiadol ond yn symud ar gyflymder perffaith lle'r oedd y plant yn gallu dilyn y stori. Hoffwn fynegi ein diolch a'n gwerthfawrogiad. Roedd wir yn wych ac yn rhywbeth y bydd y plant yn ei gofio am byth.
Ysgol Santes y Forwyn Fair, Butetown, Caerdydd
13
Sesiynau cerddoriaeth rhyngweithiol ledled Cymru
Er gwaethaf heriau cyfyngiadau Covid, cyrhaeddodd myfyrwyr cerddoriaeth bron i 2000 o gyfranogwyr ledled
Cymru drwy gynnal sesiynau ymgysylltu
cymunedol rhyngweithiol, gan gynnwys gweithdai, perfformiadau a digwyddiadau. Cyrhaeddodd y gwaith hwn dros 70 o ysgolion a lleoliadau
cymunedol ac roedd yn cwmpasu pob math o gerddoriaeth o opera i jazz. Ar gyfartaledd, darparwyd pob gweithgaredd i 30 o bobl ar y tro.
Mae hyn yn rhan o gynllun tymor hwy i roi lle canolog i weithgarwch cymunedol fel rhan bwysig o brofiad dysgu'r myfyrwyr, wedi'i anelu at ddull hyfforddi cyfannol ar gyfer graddedigion y dyfodol. Fel rhan o'r ethos hwn, bydd
CBCDC yn creu 40 o breswyliadau cerdd ar draws cymunedau yng Nghymru erbyn 2025.
Yn ystod y flwyddyn, bu’r Cyfarwyddwyr Cerdd a Drama hefyd ar daith o amgylch ysgolion uwchradd ledled Cymru, gan dargedu'r rheini mewn ardaloedd mwy difreintiedig, lle'r oedd ganddynt gysylltiadau personol.
Treuliodd y myfyrwyr Dylunio blwyddyn olaf, Jasmine Veiga de Araujo a Millie Lamkin, flwyddyn yn gwneud gweithdai wythnosol yng Nghanolfan Oasis Caerdydd, gan weithio gyda ffoaduriaid ar argraffu sgrin, gwnïo a sgiliau iaith. Roedd gan y cyfranogwyr reolaeth greadigol dros eu gwaith, a gafodd ei gynnwys yn rhan o fap mwy fel rhan o'r arddangosfa Balance yn Llundain a Chaerdydd. Bu tîm Oasis hefyd yn creu bagiau i'w gwerthu yn Ffair Gymunedol Sblot.
Ariannwyd tua 40% o'r gwaith ymgysylltu cymunedol drwy weithgaredd Campws Cyntaf, y rhaglen a ariennir gan CCAUC sydd â'r nod o ehangu mynediad a thargedu'r rhai yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf.
Nid yn aml mae gan ddisgyblion
gysyniad o'r hyn sydd y tu hwnt i bedair wal yr ysgol, ond fe wnaethoch chi ddangos iddyn nhw beth sydd ar gael a chwalu sawl camsyniad! Fe wnaethoch chi ymestyn eu dychymyg, tanio eu hawch am greadigrwydd a'u hysbrydoli i fod yn well fersiwn ohonyn nhw eu hunain. Diolch am eu helpu i ffurfio eu breuddwyd!
Ysgol Sant Joseff
Port Talbot
14
15 4
i baratoi'r
Bron i 2000 o gyfranogwyr 99 mlynedd... hyd les yr Hen Lyfrgell Mwy na 70 o leoliadau ysgol a chymunedol 6 stiwdio newydd wedi'u creu yn yr Hen Lyfrg
40% o’r
ym maes
wedi’i gynnal mewn
o
diwrnod...
Hen Lyfrgell ar gyfer addysgu ac ymarfer
Ffeithiau cyflym...
gwaith ymgysylltu cymunedol...
cerddoriaeth
ardaloedd
amddifadedd
Cysylltiadau diwydiant i rymuso rhagoriaeth
Bu CBCDC yn gwthio ffiniau newydd drwy weithio gydag artistiaid blaenllaw.
Gan ddod ag ystod ehangach o leisiau artistig i gynulleidfaoedd, cynhaliodd y Coleg gynyrchiadau mwy amrywiol ac uchelgeisiol nag erioed o'r blaen a defnyddiodd y cyfleoedd cydweithredol hyn i gyfoethogi’r dysgu. Mae ein gwaith hefyd o fudd i fusnesau'r diwydiannau creadigol sy'n cyflogi cyfran uchel o'n graddedigion.
Roy Williams OBE, un o ddramodwyr mwyaf poblogaidd ein hoes, oedd Awdur Preswyl CBCDC 2021/22. Ysgrifennwyd ei ddrama Freedom (March on Selma) yn arbennig ar gyfer y Coleg, fel un o'r pedair drama ar gyfer tymor NEWYDD a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Nghaerdydd cyn symud i The Yard Theatre, Llundain.
Mae e'n wedi creu darn o waith yn uniongyrchol gyda'r myfyrwyr ac ar eu cyfer, a mae hefyd yn helpu i fwydo DNA diwylliannol y Coleg, a hwyluso'r sgwrs a gawn ar hyn o bryd am ddramâu, awduron a'r repertoire rydym yn ei addysgu a'i raglennu.
Aeth gwaith y cyfansoddwr, y cerddor a’r Cymrawd
Anrhydeddus, Errollyn Wallen
CBE, Paradis Files, ag opera i lefelau newydd o hygyrchedd, gan ymgorffori Iaith Arwyddion
Prydain, capsiynau a disgrifiad sain yn greadigol yn y perfformiad gan Graeae, cwmni sy'n cynnwys artistiaid B/byddar ac anabl.
I CBCDC, dyma’r cynhyrchiad mwyaf uchelgeisiol o ran pa mor hygyrch oedd, a thaniodd awydd i
wthio ymhellach yn y dyfodol. Ar 4ydd Tachwedd, mewn cyngerdd yn dathlu ei gwaith yn Neuadd
Dewi Sant, Caerdydd, croesawyd yr artist rhyngwladol ysbrydoledig yma yn Artist Preswyl y Coleg.
16
Roedd Shades of Blue gan y Brodyr Matsena yn cyfuno
A hwythau ymhlith Cymrodyr Anrhydeddus mwyaf newydd CBCDC, bu’r brodyr
hefyd yn cydweithiodd ar Dream – drama
Midsummer Night's Dream Shakespeare ar ei newydd wedd, wedi’i chyfarwyddo gan
Cyfarwyddwr Perfformio (Drama) Jonathan Munby, a hwythau’n ei choreograffu gyda'u hegni unigryw.
Gweithiodd CBCDC ar y cyd â bron i 60 o artistiaid ac ensembles ar draws y flwyddyn, gyda phob un ohonynt yn cynnig ysbrydoliaeth newydd i brofiad y myfyrwyr, drwy gyfrwng her greadigol, dysgu a thwf.
Mae arferion prynu tocynnau wedi newid ers cyn y pandemig.
Eleni, archebwyd 78% ar-lein, 11% dros y ffôn a 10% wyneb yn wyneb.
Cyn Covid y ffigurau oedd 58% ar-lein, 19% dros y ffôn a 23% wyneb yn wyneb.
Aeth y prosiect cydweithredol dan arweiniad myfyrwyr, The Flying Bedroom, a’i waith ar daith. Wedi'i ddatblygu trwy bartneriaeth â Firefly Press, mae'r cwmni'n cyfuno pedwar myfyriwr perfformio BMus, cyfansoddwr BMus a dau fyfyriwr MA
Dylunio gan ddod â storïau plant yn fyw drwy gyfrwng pypedwaith a pherfformiad.
Aeth cwmni newydd y Flying Bedroom ar daith yng ngogledd Cymru gan gynnal wyth gweithdy gydag ysgolion ac wyth perfformiad mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerdd Theatr Clwyd.
17
protest a pherfformio i wneud i gynulleidfaoedd feddwl go iawn.
Ffeithiau cyflym...
58
o artistiaid ac ensembles gwadd
25,929 o docynnau wedi'u gwerthu
Partneriaethau cydweithredol: BBC NOW, WNO, Manchester Collective, NOYO, Paines Plough, Open Door a llawer o rai eraill hefyd
Penodwyd 8
Cymrawd Anrhydeddus newydd...
Sarah Alexander, Nicola Benedetti, Paule Constable, Gareth Evans, Sarah Hemsley-Cole, Anthony Matsena, Kel Matsena, Dennis Rollins
54 o ddosbarthiadau meistr
18
Cymru a'r safon fyd-eang
Un o'r conservatoires gorau yn Ewrop
Cadarnhawyd bod CBCDC ymhlith conservatoires gorau Ewrop, yn dilyn adolygiad ansawdd annibynnol. Mae MusiQue yn gosod safonau rhyngwladol ym maes hyfforddiant conservatoire addysg uwch a dyma'r prawf pennaf o ansawdd mewn hyfforddiant conservatoire. Derbyniodd y Coleg y marciau uchaf drwy adolygiad cynhwysfawr gan gymheiriaid. Dyma'r tro cyntaf i sefydliad yn y Deyrnas Unedig gynnig ei hun i dderbyn y lefel hon o adolygiad, a hynny ar draws cerddoriaeth, drama a darpariaeth o dan 18 oed.
Y 5 Peth y Mae Angen i Chi Wybod Am Ansawdd CBCDC
1 Yn yr adolygiad ansawdd rhyngwladol diweddar gan MusiQue, dyfarnwyd y marciau uchaf i CBCDC.
2 CBCDC yw'r sefydliad cyntaf yn y DU i gyrraedd y safon aur hon o sicrwydd ansawdd ar draws Cerddoriaeth, Drama a Darpariaeth Dan 18 Oed.
3 Gwnaed argraff arbennig ar yr adolygwyr gan ymagwedd CBCDC at brofiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol.
4 Ar ôl edrych yn fanwl ar bob agwedd ar y Coleg, daeth yr adolygiad i'r casgliad bod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer orau ar draws conservatoires Ewrop.
5 Byddwn yn gwisgo'r anrhydedd hwn â balchder, yn adlewyrchiad o'r bobl eithriadol a'r gymuned unigryw sydd gennym yn CBCDC.
Derbyniodd y Coleg y marciau
uchaf drwy adolygiad cynhwysfawr gan gymheiriaid
Strategic Equality Plan: Our Progress 2021-22 19
Dod â'r delyn adref i Gymru
Ar ôl blynyddoedd o gynllunio, cyrhaeddodd 14eg Cyngres Telynau'r Byd y Coleg yn Haf 2022. Fe'i cynhelir bob tair blynedd o amgylch y byd, ac mae'n cynrychioli'r delyn o dros 50 o wledydd. Ei nod yw hybu’r arfer o gyfnewid syniadau, ysgogi cyswllt, ac annog cyfansoddi cerddoriaeth newydd ar gyfer y delyn. Yn ystod yr wythnos, bu dros 800 o gynrychiolwyr o 37 gwlad yn cymryd rhan mewn datganiadau, dosbarthiadau meistr, gweithdai, cyngherddau a darlithoedd.
Artistiaid fel gwneuthurwyr
Ein hethos yw bod celfyddyd yn bodoli mewn llawer mwy na pherfformiad yn unig. Ein myfyrwyr yw'r gwneuthurwyr gwaith, gan anadlu posibiliadau newydd i bob math o ymarfer creadigol yn gyson. Mae'r posibiliadau hynny yn ddi-ben-draw, ac rydym yn ymdrechu i gynnig amgylchedd sy'n gwthio fel bod ein graddedigion yn gwneud marc pwerus ar y byd.
Mae Cerddorion fel Gwneuthurwyr mewn Cymdeithas, dan arweiniad Prifathro
CBCDC, yr Athro Helena Gaunt, yn gysyniad sy'n deillio o brosiect rhyngwladol pedair blynedd Cymdeithas Conservatoires Ewrop, Cryfhau Cerddoriaeth mewn Cymdeithas.
Wrth i ni symud ymlaen i ddulliau arloesol o addysgu cerddoriaeth, rydym yn creu mwy a mwy o waith ar draws ein disgyblaethau cerdd a drama. Mae hynny'n cynnig cyfleoedd newydd drwy gydweithio ac, yn bwysig, yn paratoi ein myfyrwyr at y gyrfaoedd sydd o'u blaenau.
20
Ein nod yw gwthio ffiniau fel bod ein graddedigion yn gwneud eu marc ar y byd
Ffeithiau cyflym...
Mae CBCDC yn denu myfyrwyr o 40 o wledydd ledled y byd
Mae'r papur Musicians as Makers wedi derbyn mwy na
14,000
o olygon ar y platfform ymchwil Frontiers... mwy o olygon na 92% o'r holl erthyglau ar draws ystod eang o ddisgyblaethau academaidd
Ni oedd
Conservatoire Steinway’n Unig cyntaf y byd
Partneriaethau
rhyngwladol newydd...
Shanghai Conservatory of Music, Toronto University, Shanghai Theatre Academy, Central Academy of Drama Beijing a Xiamen School of Music
Daeth CBCDC yn 9fed o fwy na
200
o brifysgolion yn Edurank, traciwr perfformiad cyfryngau cymdeithasol addysg uwch
21
Rydym yn gofalu am bobl
Ein pobl yw'r hyn sy'n ein gwneud ni. Trwy flwyddyn
anodd o bandemig Covid, gwnaethom addasu ac arloesi ar gyfer y dyfodol..
Mae mwy na 70% o gydweithwyr wedi croesawu gweithio ystwyth, gan ryddhau mwy o le ar gyfer hyfforddiant.
Cafodd 80% o offer TG y Coleg ei ddisodli, gan ganiatáu i bawb weithio mewn ffordd ystwyth.
O ran hyfforddiant staff, mae 39 o weithwyr wedi'u hyfforddi mewn Ymarfer Adferol – 14 o’r rhain ar Lefel 2 – fel y gallant gynorthwyo i ddatrys gwrthdaro mewn gofod diogel.
Gwnaeth y tîm arlwyo mewnol newydd ymdrin â mwy na 120,000 o drafodion yn eu blwyddyn gyntaf o weithredu. Mae adborth myfyrwyr yn dangos bod y ddarpariaeth arlwyo’n cael ei gwerthfawrogi'n fwy nag erioed.
Ymunodd CBCDC â phrifysgolion
eraill Caerdydd i lansio Gwasanaeth
Cyswllt y Prifysgolion ar gyfer Materion Iechyd Meddwl, gan gynnig atgyfeiriad uniongyrchol i fyfyrwyr i dderbyn
cymorth iechyd meddwl heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu.
Er mai sefydliad bach ydyw, penderfynodd CBCDC fod yn ganolfan
ddosbarthu ar gyfer pecynnau profi Covid, gyda mwy na 50,000 o becynnau profi yn cael eu defnyddio
ledled y Coleg i gadw cynyrchiadau ar y trywydd iawn, a chadw staff a myfyrwyr yn ddiogel.
Mae 39 o weithwyr wedi'u hyfforddi mewn Ymarfer Adferol
Ein haddewid i genedlaethau'r dyfodol
Rydym yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd byd-eang ac ymunwn â'r nifer fawr o sefydliadau ledled y byd sy'n galw am weithredu brys i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Gwnaethom
adduned y byddwn yn 100 % carbon niwtral erbyn
2040 – yn gynt os y gallwn
Rydym yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon i ddatblygu map ffordd i'n helpu i gyrraedd y nod hwnnw ac esbonio'r camau rydym yn eu cymryd.
Rydym hefyd wedi ymuno â Race to Zero, gan bwysleisio ein hymrwymiad i adferiad di-garbon iach a chydnerth.
Mae'n hanfodol ein bod yn ymdrechu i fod yn sefydliad cynaliadwy a llewyrchus, ac rydym yn benderfynol o leihau ein hôl troed amgylcheddol ac ymrwymo i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol. Ein adduned yw gweithredu ar y cyd dros amser i gefnogi'r achos byd-eang ar gyfer dyfodol gwell a gwyrddach i'n planed ac i bob un ohonom.
Yr Athro Helena Gaunt, Prifathro
Ein haddewid yw
adeiladu Coleg cynaliadwy, carbon
niwtral ar gyfer
cenedlaethau'r dyfodol
23
Ffeithiau cyflym...
Ar draws y flwyddyn, cafodd y Coleg ei bweru
100% gan ynni adnewyddadwy
Mae ein fflyd o gerbydau’n symud i hybrid a thrydan yn unig
Gwnaeth Balance, yr arddangosfa ddylunio eleni, leihau ei effaith amgylcheddol...
80% yn llai o dirlenwi a
38% yn llai o allyriadau CO2
LED effeithlon yw
70% o’r goleuadau
Ailgylchwyd
90% o'r deunydd a dynnwyd o waith cyfalaf yr Hen Lyfrgell yn haf 2022
Gosodwyd paneli solar i gyflenwi mwy na
40%
o'n trydan ar y prif gampws
24
Lle i bawb
Fel cymuned, mae CBCDC yn
disgwyl i bob aelod barchu ei gilydd. Mae hynny hefyd yn cwmpasu’r croeso a estynnwn i bawb, a'r ffordd yr heriwn ein hunain i fod yn well yn y dyfodol. Rydym ar daith i fod yn lle i bawb, ac rydym yn gwneud cynnydd.
Ymuno i wneud gwahaniaeth
Ym mis Gorffennaf 2022, lansiwyd
Canolfan NOYO Caerdydd gan Goleg
Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC), Cerddorfa Genedlaethol
Gymreig y BBC (BBC NOW) a'r Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (NOYO). Dyma bartneriaeth bwysig sy'n cynnig y llwybr dilyniant cyntaf i gerddorion anabl ifanc talentog yn y rhanbarth.
Gyda’r nod o ddatblygu sgiliau cerddorion anabl ifanc dawnus, a lleihau achosion
Nid oes cerddorfeydd ieuenctid eraill sydd mor angerddol am ddangos y gall pobl anabl chwarae ar yr un llwyfannau â phobl nad ydynt yn anabl. Mewn cyngerdd cerddoriaeth glasurol arferol, fyddech chi wir ddim yn cael llawer o'r gerddoriaeth rydyn ni'n ei chwarae – fyddai gennych chi ddim o’r offerynnau! Credwn ei bod yn well pe gall cerddorion anabl a rhai nad ydynt yn anabl integreiddio gyda'i gilydd, ac yna gallwn feddwl am syniadau newydd ffres a bod yn fwy creadigol, ac archwilio gwahanol rannau o gerddoriaeth.
Telynor NOYO, Holli Pandit
ohonynt yn cael eu hallgáu’n gerddorol, bydd y bartneriaeth hefyd yn cynyddu cefnogaeth y sector i artistiaid. Fel ensemble ieuenctid cenedlaethol cyntaf y byd dan arweiniad pobl anabl sy'n agored i gerddorion ifanc anabl a cherddorion nad ydynt yn anabl, mae NOYO yn gosod y sylfeini ar gyfer sector cerddorfaol mwy amrywiol.
25
Targedu cymorth lle mae ei angen fwyaf
Mae cyfoeth a bywiogrwydd y celfyddydau perfformio yn ddibynnol ar sicrhau bod pobl ifanc eithriadol dalentog o gefndiroedd amrywiol yn cael y cyfle i ddatblygu, mynegi a chyfrannu eu lleisiau creadigol. Eleni, fe wnaethom aillunio ein dull o ymdrin ag ysgoloriaethau a bwrsariaethau. Mae ysgoloriaethau bellach yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer myfyrwyr talentog sydd yn yr angen mwyaf ariannol, o gefndiroedd cymdeithasol ac ethnig amrywiol a gyda nodweddion gwarchodedig. Fel symudiad pellach i alluogi'r mynediad ehangaf posibl i'n hyfforddiant, rydym ni wedi cyflwyno Cynllun Bwrsariaeth newydd sy'n arwain y sector ac sy'n gwneud gwobrau blynyddol
Pan ofynnom i'r derbynwyr pa wahaniaeth
roedd wedi'i wneud:
+ Roedd 100% o ymatebwyr yr arolwg yn cytuno'n gryf bod y fwrsariaeth wedi helpu i leddfu pwysau ariannol yn ystod eu hastudiaethau.
+ Dywedodd 67% o myfyrwyr ei fod yn ffactor wrth benderfynu derbyn eu lle yn y Coleg.
+ Roedd bron i 30% o fyfyrwyr newydd yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth
awtomatig o £1200 am fod incwm eu cartref yn llai na £30,000.
awtomatig i bob myfyriwr sy'n ymuno â
CBCDC o aelwyd sydd ag incwm is na'r cyfartaledd. Mae'r ddwy fenter yn ein helpu i gyflawni ein nodau o gyfoethogi
ein cymuned drwy gynrychiolaeth
ehangach ac ail-gydbwyso cyfle i sicrhau bod y rhai sydd â thalent a photensial yn gallu hyfforddi gyda ni.
26
Lle i bawb
Medd y myfyrwyr a gafodd fwrsariaeth wrthym...
Mae wedi lleihau’r pwysau o fod angen arian a gofyn am gymorth gan
berthnasau. Gyda'r fwrsariaeth rwyf wedi gallu fy nghefnogi fy hun a pharhau i ganolbwyntio ar fy astudiaethau heb boeni am arian.
Roedd derbyn bwrsariaeth yn fy ngalluogi i fynd i'r brifysgol sy'n rhywbeth na fyddwn wedi'i gyflawni
fel arall. Roeddwn yn hynod ddiolchgar i dderbyn hyn, oherwydd yn fy mlwyddyn
gyntaf rwyf wedi ennill sgiliau a fydd yn fy ngalluogi i ffynnu mewn diwydiant anodd ac mae wedi fy ngalluogi i fwynhau’r brifysgol heb
bryder o geisio byw heb gymorth ariannol. Yn
lle hynny, gallaf roi fy holl egni i fy ngwaith, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fy mhrofiad a gallaf gael y gorau o'm haddysg.
Heb y cyllid hwn, ni chaiff llawer o bobl y cyfle i dderbyn yr un addysg â'r rhai o'u cwmpas oherwydd
anawsterau ariannol, ond gall y cyllid ganiatáu iddynt weithio ar lefel debyg heb y straen o orfod eu cefnogi eu hunain yn ariannol.
27
Diolch am ddarllen ein Cipolwg ar Flwyddyn. Os hoffech ddysgu mwy am ein gwaith, cysylltwch â ni a info@rwcmd.ac.uk
Rydym hefyd yn diolch i bawb sy'n gwneud CBCDC y lle arbennig ydyw – ein cymuned o gydweithwyr a myfyrwyr yn ogystal â'r cyrff cyhoeddus, unigolion, ymddiriedolaethau, sefydliadau a noddwyr sy'n ein cefnogi, gan
gynnwys aelodau o Cyswllt, Cyswllt
Cyfeillion a Chylch '49, a'r Rhoddwyr Gwobrau blynyddol.
Gyda'n gilydd
rydym yn gwneud
gwahaniaeth.
ROYAL WELSH COLLEGE OF MUSIC & DRAMA
www.rwcmd.ac.uk
COLEG
CERDD A DRAMA CYMRU
BRENHINOL