4 minute read

Cymru a'r safon fyd-eang

Un o'r conservatoires gorau yn Ewrop

Cadarnhawyd bod CBCDC ymhlith conservatoires gorau Ewrop, yn dilyn adolygiad ansawdd annibynnol. Mae MusiQue yn gosod safonau rhyngwladol ym maes hyfforddiant conservatoire addysg uwch a dyma'r prawf pennaf o ansawdd mewn hyfforddiant conservatoire. Derbyniodd y Coleg y marciau uchaf drwy adolygiad cynhwysfawr gan gymheiriaid. Dyma'r tro cyntaf i sefydliad yn y Deyrnas Unedig gynnig ei hun i dderbyn y lefel hon o adolygiad, a hynny ar draws cerddoriaeth, drama a darpariaeth o dan 18 oed.

Advertisement

Y 5 Peth y Mae Angen i Chi Wybod Am Ansawdd CBCDC

1 Yn yr adolygiad ansawdd rhyngwladol diweddar gan MusiQue, dyfarnwyd y marciau uchaf i CBCDC.

2 CBCDC yw'r sefydliad cyntaf yn y DU i gyrraedd y safon aur hon o sicrwydd ansawdd ar draws Cerddoriaeth, Drama a Darpariaeth Dan 18 Oed.

3 Gwnaed argraff arbennig ar yr adolygwyr gan ymagwedd CBCDC at brofiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol.

4 Ar ôl edrych yn fanwl ar bob agwedd ar y Coleg, daeth yr adolygiad i'r casgliad bod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer orau ar draws conservatoires Ewrop.

5 Byddwn yn gwisgo'r anrhydedd hwn â balchder, yn adlewyrchiad o'r bobl eithriadol a'r gymuned unigryw sydd gennym yn CBCDC.

Derbyniodd y Coleg y marciau uchaf drwy adolygiad cynhwysfawr gan gymheiriaid

Dod â'r delyn adref i Gymru

Ar ôl blynyddoedd o gynllunio, cyrhaeddodd 14eg Cyngres Telynau'r Byd y Coleg yn Haf 2022. Fe'i cynhelir bob tair blynedd o amgylch y byd, ac mae'n cynrychioli'r delyn o dros 50 o wledydd. Ei nod yw hybu’r arfer o gyfnewid syniadau, ysgogi cyswllt, ac annog cyfansoddi cerddoriaeth newydd ar gyfer y delyn. Yn ystod yr wythnos, bu dros 800 o gynrychiolwyr o 37 gwlad yn cymryd rhan mewn datganiadau, dosbarthiadau meistr, gweithdai, cyngherddau a darlithoedd.

Artistiaid fel gwneuthurwyr

Ein hethos yw bod celfyddyd yn bodoli mewn llawer mwy na pherfformiad yn unig. Ein myfyrwyr yw'r gwneuthurwyr gwaith, gan anadlu posibiliadau newydd i bob math o ymarfer creadigol yn gyson. Mae'r posibiliadau hynny yn ddi-ben-draw, ac rydym yn ymdrechu i gynnig amgylchedd sy'n gwthio fel bod ein graddedigion yn gwneud marc pwerus ar y byd.

Mae Cerddorion fel Gwneuthurwyr mewn Cymdeithas, dan arweiniad Prifathro

CBCDC, yr Athro Helena Gaunt, yn gysyniad sy'n deillio o brosiect rhyngwladol pedair blynedd Cymdeithas Conservatoires Ewrop, Cryfhau Cerddoriaeth mewn Cymdeithas.

Wrth i ni symud ymlaen i ddulliau arloesol o addysgu cerddoriaeth, rydym yn creu mwy a mwy o waith ar draws ein disgyblaethau cerdd a drama. Mae hynny'n cynnig cyfleoedd newydd drwy gydweithio ac, yn bwysig, yn paratoi ein myfyrwyr at y gyrfaoedd sydd o'u blaenau.

Ffeithiau cyflym...

Mae CBCDC yn denu myfyrwyr o 40 o wledydd ledled y byd

Mae'r papur Musicians as Makers wedi derbyn mwy na

14,000 o olygon ar y platfform ymchwil Frontiers... mwy o olygon na 92% o'r holl erthyglau ar draws ystod eang o ddisgyblaethau academaidd

Ni oedd

Conservatoire Steinway’n Unig cyntaf y byd

Partneriaethau rhyngwladol newydd...

Shanghai Conservatory of Music, Toronto University, Shanghai Theatre Academy, Central Academy of Drama Beijing a Xiamen School of Music

Daeth CBCDC yn 9fed o fwy na

200 o brifysgolion yn Edurank, traciwr perfformiad cyfryngau cymdeithasol addysg uwch

Rydym yn gofalu am bobl

Ein pobl yw'r hyn sy'n ein gwneud ni. Trwy flwyddyn

anodd o bandemig Covid, gwnaethom addasu ac arloesi ar gyfer y dyfodol..

Mae mwy na 70% o gydweithwyr wedi croesawu gweithio ystwyth, gan ryddhau mwy o le ar gyfer hyfforddiant.

Cafodd 80% o offer TG y Coleg ei ddisodli, gan ganiatáu i bawb weithio mewn ffordd ystwyth.

O ran hyfforddiant staff, mae 39 o weithwyr wedi'u hyfforddi mewn Ymarfer Adferol – 14 o’r rhain ar Lefel 2 – fel y gallant gynorthwyo i ddatrys gwrthdaro mewn gofod diogel.

Gwnaeth y tîm arlwyo mewnol newydd ymdrin â mwy na 120,000 o drafodion yn eu blwyddyn gyntaf o weithredu. Mae adborth myfyrwyr yn dangos bod y ddarpariaeth arlwyo’n cael ei gwerthfawrogi'n fwy nag erioed.

Ymunodd CBCDC â phrifysgolion eraill Caerdydd i lansio Gwasanaeth

Cyswllt y Prifysgolion ar gyfer Materion Iechyd Meddwl, gan gynnig atgyfeiriad uniongyrchol i fyfyrwyr i dderbyn cymorth iechyd meddwl heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu.

Er mai sefydliad bach ydyw, penderfynodd CBCDC fod yn ganolfan ddosbarthu ar gyfer pecynnau profi Covid, gyda mwy na 50,000 o becynnau profi yn cael eu defnyddio ledled y Coleg i gadw cynyrchiadau ar y trywydd iawn, a chadw staff a myfyrwyr yn ddiogel.

Mae 39 o weithwyr wedi'u hyfforddi mewn Ymarfer Adferol

Ein haddewid i genedlaethau'r dyfodol

Rydym yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd byd-eang ac ymunwn â'r nifer fawr o sefydliadau ledled y byd sy'n galw am weithredu brys i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Gwnaethom adduned y byddwn yn 100 % carbon niwtral erbyn

2040 – yn gynt os y gallwn

Rydym yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon i ddatblygu map ffordd i'n helpu i gyrraedd y nod hwnnw ac esbonio'r camau rydym yn eu cymryd.

Rydym hefyd wedi ymuno â Race to Zero, gan bwysleisio ein hymrwymiad i adferiad di-garbon iach a chydnerth.

Mae'n hanfodol ein bod yn ymdrechu i fod yn sefydliad cynaliadwy a llewyrchus, ac rydym yn benderfynol o leihau ein hôl troed amgylcheddol ac ymrwymo i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol. Ein adduned yw gweithredu ar y cyd dros amser i gefnogi'r achos byd-eang ar gyfer dyfodol gwell a gwyrddach i'n planed ac i bob un ohonom.

Yr Athro Helena Gaunt, Prifathro

Ein haddewid yw adeiladu Coleg cynaliadwy, carbon niwtral ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Ffeithiau cyflym...

Ar draws y flwyddyn, cafodd y Coleg ei bweru

100% gan ynni adnewyddadwy

Mae ein fflyd o gerbydau’n symud i hybrid a thrydan yn unig

Gwnaeth Balance, yr arddangosfa ddylunio eleni, leihau ei effaith amgylcheddol...

80% yn llai o dirlenwi a

38% yn llai o allyriadau CO2

LED effeithlon yw

70% o’r goleuadau

Ailgylchwyd

90% o'r deunydd a dynnwyd o waith cyfalaf yr Hen Lyfrgell yn haf 2022

Gosodwyd paneli solar i gyflenwi mwy na

40% o'n trydan ar y prif gampws

This article is from: