5 minute read
Rydym yn gweithio gyda chymunedau
Gan dynnu ar ddoniau a chreadigrwydd ein myfyrwyr, rydym yn datblygu gwaith newydd gydag amrywiaeth eang o bartneriaid cymunedol. Bob amser yn gweithio ar y cyd, rydym yn rhannu ein syniadau, ein sgiliau a'n gwybodaeth i greu cyfleoedd penodol ac rydym wedi ymrwymo i ddyfodol a fydd yn gweld ein myfyrwyr yn dod i'r amlwg yn bwerus fel gwneuthurwyr mewn cymdeithas.
Rhoi bywyd newydd i adeilad yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd
Advertisement
Roedd adeilad yr Hen Lyfrgell yng
Nghaerdydd yn chwilio am ei bwrpas pan wnaeth CBCDC gynnig rhoi bywyd newydd i'r hen le drwy gyfrwng bywiog cerddoriaeth a drama. O dan les hirdymor, bydd y Coleg yn ail-lunio’r gofod, gan weithio gyda chymunedau i’w ddwyn yn ôl i'w wreiddiau fel lle i rannu addysg.
Bedwar diwrnod yn unig ar ôl derbyn allweddi i'r adeilad, roedd y gofod mewnol wedi’i drawsnewid ac yn barod i'w ddefnyddio fel man addysgu ac ymarfer cwbl weithredol, gyda phum stiwdio wedi'u gosod â thechnoleg ac offer. Dros yr haf, fel rhan o waith sylweddol i adfer yr adeilad, crëwyd chweched stiwdio, gan ddefnyddio’r gofod mewn ffordd glyfar.
Sioe gyntaf y gofod fis Mehefin oedd perfformiad pypedwaith Now & Then a oedd yn adrodd stori liwgar a ffraeth am Gaerdydd ac roedd pob tocyn wedi’i werthu.
Cynhaliodd ein tiwtoriaid arbenigol a'n myfyrwyr ym maes pypedwaith a symud weithdy arbennig gydag 80 o blant Blwyddyn 5 o Ysgol Gynradd Mount Stuart, yn archwilio hanes cloddio glo trwy sgiliau perfformio. Ymgollodd y disgyblion yn frwdfrydig yn y sesiwn, a dywedodd yr ysgol wrthym ei fod wedi 'symud y dysgu yn ei flaen.'
Daeth 90 o blant i weld Now & Then gyda'u hysgolion cynradd, Santes y Forwyn Fair, Ysgol Gymraeg Pen-y-groes a St Paul's, ac ar ôl y sioe cafodd y plant gyfle i roi cynnig ar y pypedau.
Roedd y plant yn llawn cyffro wrth gerdded yn ôl i'r ysgol. Roedden nhw wir yn teimlo bod y profiad fel amgueddfa yn dod yn fyw. Roedd mor ddiddorol ac addysgiadol ond yn symud ar gyflymder perffaith lle'r oedd y plant yn gallu dilyn y stori. Hoffwn fynegi ein diolch a'n gwerthfawrogiad. Roedd wir yn wych ac yn rhywbeth y bydd y plant yn ei gofio am byth.
Ysgol Santes y Forwyn Fair, Butetown, Caerdydd
Sesiynau cerddoriaeth rhyngweithiol ledled Cymru
Er gwaethaf heriau cyfyngiadau Covid, cyrhaeddodd myfyrwyr cerddoriaeth bron i 2000 o gyfranogwyr ledled
Cymru drwy gynnal sesiynau ymgysylltu cymunedol rhyngweithiol, gan gynnwys gweithdai, perfformiadau a digwyddiadau. Cyrhaeddodd y gwaith hwn dros 70 o ysgolion a lleoliadau cymunedol ac roedd yn cwmpasu pob math o gerddoriaeth o opera i jazz. Ar gyfartaledd, darparwyd pob gweithgaredd i 30 o bobl ar y tro.
Mae hyn yn rhan o gynllun tymor hwy i roi lle canolog i weithgarwch cymunedol fel rhan bwysig o brofiad dysgu'r myfyrwyr, wedi'i anelu at ddull hyfforddi cyfannol ar gyfer graddedigion y dyfodol. Fel rhan o'r ethos hwn, bydd
CBCDC yn creu 40 o breswyliadau cerdd ar draws cymunedau yng Nghymru erbyn 2025.
Yn ystod y flwyddyn, bu’r Cyfarwyddwyr Cerdd a Drama hefyd ar daith o amgylch ysgolion uwchradd ledled Cymru, gan dargedu'r rheini mewn ardaloedd mwy difreintiedig, lle'r oedd ganddynt gysylltiadau personol.
Treuliodd y myfyrwyr Dylunio blwyddyn olaf, Jasmine Veiga de Araujo a Millie Lamkin, flwyddyn yn gwneud gweithdai wythnosol yng Nghanolfan Oasis Caerdydd, gan weithio gyda ffoaduriaid ar argraffu sgrin, gwnïo a sgiliau iaith. Roedd gan y cyfranogwyr reolaeth greadigol dros eu gwaith, a gafodd ei gynnwys yn rhan o fap mwy fel rhan o'r arddangosfa Balance yn Llundain a Chaerdydd. Bu tîm Oasis hefyd yn creu bagiau i'w gwerthu yn Ffair Gymunedol Sblot.
Ariannwyd tua 40% o'r gwaith ymgysylltu cymunedol drwy weithgaredd Campws Cyntaf, y rhaglen a ariennir gan CCAUC sydd â'r nod o ehangu mynediad a thargedu'r rhai yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf.
Nid yn aml mae gan ddisgyblion gysyniad o'r hyn sydd y tu hwnt i bedair wal yr ysgol, ond fe wnaethoch chi ddangos iddyn nhw beth sydd ar gael a chwalu sawl camsyniad! Fe wnaethoch chi ymestyn eu dychymyg, tanio eu hawch am greadigrwydd a'u hysbrydoli i fod yn well fersiwn ohonyn nhw eu hunain. Diolch am eu helpu i ffurfio eu breuddwyd!
Ysgol Sant Joseff
Port Talbot
Cysylltiadau diwydiant i rymuso rhagoriaeth
Bu CBCDC yn gwthio ffiniau newydd drwy weithio gydag artistiaid blaenllaw.
Gan ddod ag ystod ehangach o leisiau artistig i gynulleidfaoedd, cynhaliodd y Coleg gynyrchiadau mwy amrywiol ac uchelgeisiol nag erioed o'r blaen a defnyddiodd y cyfleoedd cydweithredol hyn i gyfoethogi’r dysgu. Mae ein gwaith hefyd o fudd i fusnesau'r diwydiannau creadigol sy'n cyflogi cyfran uchel o'n graddedigion.
Roy Williams OBE, un o ddramodwyr mwyaf poblogaidd ein hoes, oedd Awdur Preswyl CBCDC 2021/22. Ysgrifennwyd ei ddrama Freedom (March on Selma) yn arbennig ar gyfer y Coleg, fel un o'r pedair drama ar gyfer tymor NEWYDD a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Nghaerdydd cyn symud i The Yard Theatre, Llundain.
Mae e'n wedi creu darn o waith yn uniongyrchol gyda'r myfyrwyr ac ar eu cyfer, a mae hefyd yn helpu i fwydo DNA diwylliannol y Coleg, a hwyluso'r sgwrs a gawn ar hyn o bryd am ddramâu, awduron a'r repertoire rydym yn ei addysgu a'i raglennu.
Aeth gwaith y cyfansoddwr, y cerddor a’r Cymrawd
Anrhydeddus, Errollyn Wallen
CBE, Paradis Files, ag opera i lefelau newydd o hygyrchedd, gan ymgorffori Iaith Arwyddion
Prydain, capsiynau a disgrifiad sain yn greadigol yn y perfformiad gan Graeae, cwmni sy'n cynnwys artistiaid B/byddar ac anabl.
I CBCDC, dyma’r cynhyrchiad mwyaf uchelgeisiol o ran pa mor hygyrch oedd, a thaniodd awydd i wthio ymhellach yn y dyfodol. Ar 4ydd Tachwedd, mewn cyngerdd yn dathlu ei gwaith yn Neuadd
Dewi Sant, Caerdydd, croesawyd yr artist rhyngwladol ysbrydoledig yma yn Artist Preswyl y Coleg.
Roedd Shades of Blue gan y Brodyr Matsena yn cyfuno
A hwythau ymhlith Cymrodyr Anrhydeddus mwyaf newydd CBCDC, bu’r brodyr hefyd yn cydweithiodd ar Dream – drama
Midsummer Night's Dream Shakespeare ar ei newydd wedd, wedi’i chyfarwyddo gan
Cyfarwyddwr Perfformio (Drama) Jonathan Munby, a hwythau’n ei choreograffu gyda'u hegni unigryw.
Gweithiodd CBCDC ar y cyd â bron i 60 o artistiaid ac ensembles ar draws y flwyddyn, gyda phob un ohonynt yn cynnig ysbrydoliaeth newydd i brofiad y myfyrwyr, drwy gyfrwng her greadigol, dysgu a thwf.
Mae arferion prynu tocynnau wedi newid ers cyn y pandemig.
Eleni, archebwyd 78% ar-lein, 11% dros y ffôn a 10% wyneb yn wyneb.
Cyn Covid y ffigurau oedd 58% ar-lein, 19% dros y ffôn a 23% wyneb yn wyneb.
Aeth y prosiect cydweithredol dan arweiniad myfyrwyr, The Flying Bedroom, a’i waith ar daith. Wedi'i ddatblygu trwy bartneriaeth â Firefly Press, mae'r cwmni'n cyfuno pedwar myfyriwr perfformio BMus, cyfansoddwr BMus a dau fyfyriwr MA
Dylunio gan ddod â storïau plant yn fyw drwy gyfrwng pypedwaith a pherfformiad.
Aeth cwmni newydd y Flying Bedroom ar daith yng ngogledd Cymru gan gynnal wyth gweithdy gydag ysgolion ac wyth perfformiad mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerdd Theatr Clwyd.
Ffeithiau cyflym...
58 o artistiaid ac ensembles gwadd
25,929 o docynnau wedi'u gwerthu
Partneriaethau cydweithredol: BBC NOW, WNO, Manchester Collective, NOYO, Paines Plough, Open Door a llawer o rai eraill hefyd
Penodwyd 8
Cymrawd Anrhydeddus newydd...
Sarah Alexander, Nicola Benedetti, Paule Constable, Gareth Evans, Sarah Hemsley-Cole, Anthony Matsena, Kel Matsena, Dennis Rollins
54 o ddosbarthiadau meistr