Caerffili Canllaw Teithiau i Grwpiau

Page 1

Twristiaeth De

Caerffili

Canllaw Teithiau i Grwpiau

nt u Gwe Blaena fon Blaena

gwr nt ar O o b y Pen li Caerffi ydd Caerd ful yr Tud h t r e M wy Sir Fyn

www.visitsouthernwales.org

wydd Casne Taf ynon C a d d Rhon nwg organ Bro M


Castell Caerffili

Cynnwys 04

Atyniadau

Trosolwg Rhanbarthol

08 Gweithgareddau

06

10 Llety

12 Lleoedd i Gael Lluniaeth

13 Darganfod Caerffili

16 Lleoedd Parcio i Goetsis

Caerffili

15 Uchafbwyntiau Digwyddiadau

17 Tywyswyr Teithiau

18 Mapiau a Gwybodaeth am Deithio

3


….. r u jo on B . … e a m w h S o… ll e H it u d ia D o… ll a H . … g a T Guten Croeso i Dde Cymru Efallai bod gennych chi syniad eisoes beth i’w ddisgwyl o daith i Dde Cymru. Mae’r rhanbarth wedi’i rannu i ddeg ardal wahanol, pob un â’i chymeriad a’i swyn ei hun. Mae ardaloedd Blaenau Gwent, Blaenafon, Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn adnabyddus am eu hanes a’u treftadaeth. Mae Sir Fynwy gerllaw yn fwy gwledig ac yn enwog am ei bwydydd a diodydd rhagorol. Mae Casnewydd a Chaerdydd yn ddinasoedd llewyrchus sydd ag atyniadau gyda’r gorau yn y byd. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg ceir cymysgedd o leoedd gwyliau glan môr, trefi marchnad a chefn gwlad hardd. Mae gennym ddigonedd o gestyll ac amgueddfeydd, ond hefyd mae gennym Barc Cenedlaethol, dechrau Llwybr Arfordir Cymru ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae gennym hefyd rai pethau na fyddwch, efallai, yn eu cysylltu â ni. Mae olion amffitheatr a barics Rhufeinig, gwinllannoedd sy’n cynhyrchu gwinoedd arobryn a cherflun anferth, sy’n ymestyn 20 metr i’r wybren ac yn gwarchod y Cymoedd islaw.

Darganfod Caerffili Gyda hanes sy’n mynd yn ôl i oes y Rhufeiniaid, mae Caerffili bob amser yn lle poblogaidd i aros ar unrhyw daith yn Ne Cymru. I gael mwy o wybodaeth ewch i’n gwefan www.visitsouthernwales.org neu cysylltwch â’r tîm Digwyddiadau a Marchnata: ffôn - +44 (0)1443 866394 e-bost - waltesa@caerphilly.gov.uk I archebu llyfrynnau teithiau i grwpiau ar gyfer ardaloedd eraill yn Ne Cymru ffoniwch +44 (0)845 6002639 neu anfonwch neges e-bost at brochure@southernwales.com

von Blaena nt Gwe wpiau Group Travel Guide nau Blae Teithiau i Gr

Twristiaeth

Twristia

eth De

De

ar Ogwr Pen-y-bont iau

Grwp Canllaw Teithiau i

Taf Rhondda Cynon Twristiaeth De

Group Travel Guide

Casnewydd

y Sir Fynw piau dful yr Tu iau Canllaw Teithiau i Grw MerthTeithiau i Grwp Twristiaeth

Twristiae

th De

Canllaw

Caerdydd

Canllaw Teithio Grŵp

Twristiaeth De

Caerffili

Canllaw Teithiau i Grwpiau Canllaw Teithiau i Grwpiau

De

ent au Gw Blaen ent n Gw avo Blaen enau Bla n end wr enafo Bridg Og Bla t ar on hilly y-b Caerp Penff fili Cardi fil Caerf Tyd ydd rthyr Me ul hire Caerd Tudf ouths hyr nm Mo Mert y ort Fynw n Taf Newp Sir Cyno ent ydd f Gw dda ew n n Ta Rhon enau rga no Casn Bla mo Cy n dda of Gla afo le on wg en Va Rh Ogwr Bla gann nt ar Mor -bo Bro Pen-y fili Caerf ydd l Caerd dfu yr Tu rth Me y Fynw Sir

Twristiaeth De

ent u Gw Blaena fon r Blaena ar Ogw ont Pen-y-b

dd Caerdy ful r Tud Merthy

ent u Gw Blaena fon Blaena Ogwr t ar -y-bon Pen rffili Cae rdydd Cae ful yr Tud Merth

wy Sir Fyn ydd Casnew

on Taf a Cyn ndd Rho g nnw Morga Bro

ar Pen-y-bont

Gwent Blaenau

new Cas

Taf non a Cy ndd Rho g rgannw Bro

Mo

Casnew

on Taf a Cyn Rhondd rgannwg Bro Mo

Caerdydd Tudful Merthyr Sir Fynwy Gwent Blaenau Blaenafon

Ogwr

d Casnewyd Taf Cynon Rhondda annwg

Casnewydd Cynon Rhondda

Taf

nnwg 18/09/2015 Bro Morga

Mo Bro Morg Bro www.visitsouthernwales.org rg itsouthernwales.org www.visitsouth ernwales.owww.vis ernwales.org .org .visitsouth wales www uthern isitso www.v

4

Ogwr

Caerffili

Bridgend y Caerphill thshire nt Monmou Gwe Blaenau Newport n Taf Blaenafo r Cynon ndda ar Ogw e4438 Cardiffont Council artwork for SW Rho Guide v3.indd 1 Pen-y-b

www.visitsouthernwales.org wales.org www.visitsouthernwales.org -bont ar Pen-y rg .visitsouthern s.owww Caerffili rnwale d Caerffili southe Caerdyd s.org w.visit Tudful Caerdydd wale ww Merthyr hern Tudful sout Merthyr wy wy visit Sir Fyn Sir Fyn y www. ydd ydd Sir Fynw ydd f ew n Ta Casn Cyno dda Rhon nnwg rga

Bro Morgan nwg

Canllaw Teithiau i Grwp iau

Gwent Blaenau Blaenafon

i Caerffil

17:04

Blaenau Gwent Blaenafon ar Ogwr Pen-y-bont Caerffili Caerdydd Merthyr Tudful Sir Fynwy Casnewydd Rhondda Cynon

Taf

nwg Bro Morgan

www.visitsouthernwales.org

Yn yr ardal hefyd cynhelir nifer o ddigwyddiadau mawr trwy gydol y flwyddyn. Castell Caerffili yw’r cefndir godidog i’n prif ŵyl, sef y Caws Mawr, bob haf. Mae’r Ŵyl Fwyd yn y gwanwyn a’r Ffair Nadolig hefyd yn atyniadau o bwys.

Atyniad hanesyddol gwych arall yn yr ardal yw Maenordy Llancaiach Fawr. Camwch drwy’r drysau ac yn ôl mewn amser i’r 17eg ganrif, lle bydd y Cyrnol Prichard a’i weision a’i forynion yn eich cyfarch ac yn dweud wrthych chi sut maen nhw’n byw ac yn gweithio. Dywedir hefyd mai’r maenordy yw’r tŷ â’r mwyaf o ysbrydion yng Nghymru ac yma profwyd llawer o ddigwyddiadau anesboniadwy.

Canllaw

Twristiaeth De

Mae arweiniad i bob un o’n hardaloedd. Felly bodiwch trwy hwn ac yna edrychwch ar yr arweiniadau eraill a chyn bo hir byddwch yn cynllunio’ch taith i Dde Cymru.

Canolbwynt yr ardal, wrth gwrs, yw’r castell enfawr 800 mlwydd oed. Saif ar safle 30 erw, a hwn yw’r castell mwyaf ond un ym Mhrydain. Hefyd mae ganddo dŵr sydd ar ongl fwy na’r tŵr enwocach yn Pisa. Gwelwyd y castell ar lawer o raglenni teledu, gan gynnwys Doctor Who a Merlin.

Gyda chymaint o hanes, mae’n werth ymweld ag amgueddfa’r ardal. Saif Amgueddfa’r Tŷ Weindio ar safle hen lofa ac mae’n cynnig darlun o holl hanes bwrdeistref sirol Caerffili mewn arddangosfa barhaol, yn ogystal ag arddangosfa sy’n newid.

Caerffili

5


Atyniadau Mae toreth o hanes yng Nghaerffili, gyda chastell, amgueddfa a maenordy llawn ysbrydion. Ceir yma hefyd gefn gwlad syfrdanol ac un neu ddau o bethau annisgwyl. Castell Caerffili

Canolfan Ymwelwyr a Ffordd Goedwig Cwmcarn

Castell eiconig o’r 13eg ganrif, y mwyaf ond un ym Mhrydain. Mae yma ddehongliad rhyngweithiol newydd a mynediad i dyrrau â grisiau tro, nad oedd y cyhoedd yn gallu eu gweld o’r blaen.

Os ydych chi’n chwilio am y man perffaith i gael picnic neu farbeciw, coed deiliog i gerdded trwyddynt neu lannau afonydd i grwydro ar hyd-ddynt, Coedwig Cwmcarn yw’r lle i chi. Mae caffi Raven yn y Ganolfan Ymwelwyr yn cynnig lluniaeth a chinio i grwpiau.

ffôn: +44 (0)2920 883143 e-bost: cadw@wales.gsi.gov.uk gwe: www.cadw.wales.gov.uk

ffôn: +44 (0)1495 272001 e-bost: cwmcarn-vc@caerphilly.gov.uk gwe: www.cwmcarnforest.co.uk

Maenordy Llancaiach Fawr

Neuadd Goffa Trecelyn

Maenordy hanesyddol lle mae cymeriadau yng ngwisgoedd yr 17eg ganrif yn eich tywys o gwmpas y safle. Dywedir hefyd mai hwn yw’r tŷ â’r mwyaf o ysbrydion yng Nghymru. Mae cyfraddau a theithiau i grwpiau ar gael.

Cewch fwynhau’r ‘Profiad Treftadaeth’ – taith ymdrochol trwy amser, sy’n adrodd hanes cread, dirywiad ac adferiad un o’r adeiladau mwyaf eiconig yng Nghymru, Neuadd Goffa Trecelyn, adeilad rhestredig Gradd II*.

Saif mewn mwy na 100 erw o dir dôl ac ynghudd yng nghymoedd syfrdanol de-ddwyrain Cymru Gwesty â 42 o ystafelloedd gwely 30 munud o ganol dinas Caerdydd Mewn man hwylus ar gyfer traffordd yr M4 WI-FI am ddim Aerdymheru a rheoli hinsawdd Man cysylltu â’r rhyngrwyd Teledu LCD Cyfleusterau gwneud te a choffi Ffôn deialu uniongyrchol Goleuadau darllen Haearn a bwrdd smwddio ar gais Cawod nerthol Sychwr gwallt Sêff yn yr ystafell Taclau ymolchi am ddim

Bwyta a digwyddiadau

ffôn: +44 (0)1443 412248 e-bost: llancaiachfawr@caerphilly.gov.uk gwe: www.llancaiachfawr.co.uk

ffôn: +44 (0)1495 243 252 e-bost: enquiries@newbridgememo.co.uk gwe: www.newbridgememo.co.uk

Gardd Goffa Senghenydd

Amgueddfa’r Tŷ Weindio

Mae’r Ardd Goffa yn Senghenydd yn coffáu pawb yng Nghymru a fu farw o ganlyniad i’r diwydiant glo. Caiff pob trychineb mewn glofa ei choffau ar gyfres o gerrig palmant ceramig sy’n rhan o’r ‘Llwybr Coffa’ o gwmpas yr ardd.

Mae amrywiaeth o greiriau a chyfres o arddangosfeydd yn dod â hanes yn fyw. Mae’r Peiriant Weindio Fictoraidd trawiadol yn dod yn fyw ar rai dyddiau yn ystod y flwyddyn a gellir bwcio hyn ymlaen llaw i grwpiau.

ffôn: +44 (0)2920 830445 e-bost: senghen.heritage@btconnect.com gwe: www.visitcaerphilly.com

ffôn: +44 (0)1443 822666 e-bost: windinghouse@caerphilly.gov.uk gwe: www.windinghouse.co.uk

6

Safle golff a sba 4* moethus ac unigryw

www.visitsouthernwales.org

Bwyty Blas a Bar Winners 5 ystafell ddigwyddiadau i hyd at 350 o bobl Digwyddiadau adloniant trwy gydol y flwyddyn Ciniawau cabaret y Nadolig a gwyliau byr rhwng y Nadolig a’r Calan

Bar chwaraeon Winners a chyfleusterau golff Cwrs pencampwriaeth 6021 llath par 71 Cwrs 9 twll i ddechreuwyr / gwellhawyr Stiwdio pytio dan do Efelychydd golff Siop offer golff Bar Winners gyda 6 sgrin teledu gan gynnwys sgrin plasma manylder uchel 50” sy’n dangos chwaraeon yn fyw Dec haul sy’n wynebu’r de ac yn edrych dros y 10fed a’r 11eg ffordd deg a’r ffynnon Bwrdd pŵl, dartiau a difyrion Bwydlen byrbrydau

Sba a Chlwb Hamdden Fusion Pwll nofio 18 metr Sawna, ystafell stêm ac ystafell aromatherapi Jacuzzi a hydrosba Campfa o’r math diweddaraf 4 ystafell driniaeth Seremoni ystafell llaid raswl Caiff y gyrrwr Ystafell ymlacio

Cyn lleied â £55 y pen am ginio, gwely a brecwast Cyn lleied â £40 y pen am wely a brecwast

brynmeadows.co.uk

reservations@brynmeadows.co.uk

aros am ddim Caiff y tywysydd aros am ddim Telerau ac amodau’n berthnasol*

01495 225 590


Gweithgareddau Cewch newid llesol wrth fynd i gefn gwlad i fwynhau un o’r gweithgareddau gwych hyn.

LH Escape Blackwood

Beicio Mynydd yng Nghoedwig Cwmcarn

Ceir yma lawer o ystafelloedd dianc gwefreiddiol fydd yn gwneud i’ch ymennydd weithio ac i’ch calon guro. Cewch fwynhau prynhawn hwyliog gyda’ch ffrindiau neu’ch teulu yn Escape Blackwood, y gweithgaredd perffaith i gael profiad bythgofiadwy.

Mae gan y llwybrau bopeth dringfeydd ymestynnol, disgyniadau sy’n plymio a darnau technegol anodd. Cewch reidio 15.5km o lwybr sy’n untrac bron i gyd trwy dirwedd a oedd unwaith wedi’i chreithio gan gloddio am lo ond a ystyrir erbyn hyn yn un o berlau cudd Cymru.

ffôn: +44(0) 7568 446 442 e-bost: info@escapeblackwood.co.uk gwe: www.escapeblackwood.co.uk

ffôn: +44 (0)1495 272001 e-bost: cwmcarn-vc@caerphilly.gov.uk gwe: www.cwmcarnforest.co.uk

Canolfan Farchogaeth Rockwood

Rock UK Summit Centre

Saif ar Fynydd Caerffili ar 250 erw o dir preifat. Mae gwersi i unigolion a grwpiau ar gael. Cymeradwy gan yr ABRS. Arena dan do gyda man gwylio.

Mae gan y ganolfan system o ogofâu o waith dyn gyda’r gorau yn y byd, gyda rhaeadr a rhai o’r waliau dringo dan do uchaf yn Ne Cymru! Mae mwy na 120 o lwybrau yn ogystal â belai awtomatig, man bowldro a wal tramwyo.

ffôn: +44 (0)2920 866281 e-bost: alisondas@talktalk.net gwe: www.visitcaerphilly.com

ffôn: +44 (0)1443 710090 e-bost: summit.centre@rockuk.org gwe: www.rockuk.org

LLECHWEN HALL G W E ST Y A B W Y T Y

AA ROSETTE

FINE DINING CINIO | £5.95 * TE’R PRYNHAWN | £9.95 * GOSTYNGIADAU AR GAEL I GRWPIAU

Beiciau Cwad a Chanolfan Gweithgareddau Cwm Taf Canolfan Gweithgareddau a redir gan deulu, sy’n arbenigo mewn teithiau ar feiciau cwad trwy gefn gwlad ar fferm mynydd 360 erw. Hefyd mae sesiynau blasu saethyddiaeth a saethu colomennod clai ar gael.

M W Y NH E WC H E I C H BW Y D ffôn: +44 (0)2920 831658 e-bost: hopkinsmith@btconnect.com gwe: www.adventurewales.co.uk

#llechwen #welsheats

WWW.LLECHWENHALL.CO.UK *Te le ra u a c a mo d a u’n b e rth n a so l.

8

www.visitsouthernwales.org


Llety Gyda dewis o arhosfan pedair seren, gwesty gwledig, gwesty mewn pentref a gwestai adnabyddus Premier Inn, croesewir a darperir ar gyfer grwpiau ym mwrdeistref sirol Caerffili. Gwesty Golff a Sba Bryn Meadows

Gwesty Neuadd Llechwen

Arhosfan foethus bedair seren yw Bryn Meadows sy’n cynnig golff, gwesty a sba. Bydd yr ystafelloedd gwely â’u cyfarpar helaeth a’u golygfeydd dros y wlad o amgylch yn eich galluogi i ymlacio’n llwyr.

Mae Gwesty Neuadd Llechwen yn westy gwledig hanesyddol sydd o dan berchnogaeth breifat. Mae ganddo olygfeydd godidog, bwyd eithriadol o dda ac amgylchiadau steilus. Mae cyllid wedi’i gyhoeddi i ychwanegu sba a chyfleuster hamdden moethus a mwy o ystafelloedd gwely erbyn canol haf 2019.

ffôn: +44 (0)1495 225590 e-bost: reservations@brynmeadows.co.uk gwe: www.brynmeadows.co.uk

ffôn: +44 (0)1443 742050 e-bost: enquiries@llechwenhall.co.uk gwe: www.llechwen.co.uk

Premier Inn

Y lle perffaith ar gyfer...

Crossways Caerffili Parc Busnes Crossways Caerffili

Lôn Corbets Caerffili Caerffili

ffôn: +44 (0)871 527 8184 gwe: www.premierinn.com

ffôn: +44 (0)871 527 8182 gwe: www.premierinn.com

Hanes yn dod yn fyw Teithiau Ysbryd Cinio a Swper Te Hufen

The perfect place for... Caerffili visitcaerphilly.com

I gael mwy o wybodaeth o ran grwpiau a theithiau coetsis ym mwrdeistref sirol Caerffili, gan gynnwys amserlenni teithio, cynigion i yrwyr coetsis a llety, ewch i ddarn y fasnach teithio ar:

www.visitcaerphilly.com @visitcaerphilly VisitCaerphilly 10

• • • • • • • •

History brought vividly to life Ghost tours Lunches & Dinners Cream Teas

Banbury Photography

01443 412248 • Gelligaer Road, Nelson, CF46 6ER www.visitsouthernwales.org

www.llancaiachfawr.co.uk


Lleoedd i Gael Lluniaeth

Darganfod Caerffili

Cymerwch hoe ar eich taith i fwynhau ychydig o ginio neu gwpanaid adfywiol yn un o’r llu o gaffis, tafarnau neu fwytai ledled y rhanbarth.

Taith 1 Diwrnod

Bwyty Blas yng Ngwesty Golff a Sba Bryn Meadows

Bella Capri Italian Restaurant Bwyty a Bar Coctel Casa Mia

Gwesty Neuadd Llechwen

Ewch am dro o gwmpas Caerffili. Castell enfawr, tŷ llawn ysbrydion a chofeb deimladwy. Cewch orffen y diwrnod gyda hufen iâ lleol blasus yng nghanol cefn gwlad hardd.

Arhosfan 1 – Castell Caerffili Mae bwyty Blas yn Bryn Meadows yn defnyddio’r cynhwysion gorau oddi wrth gyflenwyr lleol, i greu seigiau modern gyda thema Gymreig. Coed Duon, NP12 2RB www.brynmeadows.co.uk/dining

Bwyty a bar coctel Mediteranaidd a redir gan deulu sydd â golygfeydd gwych! Cewch fwynhau amrywiaeth fawr o fwydydd o tapas i basta a pizza, stêcs a griliau.

Caiff bwyd gourmet a gwinoedd rhagorol eu gweini yn y tŷ hir swynol hwn o’r 17eg ganrif, â’i drawstiau a’i rosét gan yr AA. Gwasanaeth ardderchog a bwydlenni i grwpiau ar gael.

Caerffili, CF83 1JL www.casamiacaerphilly.co.uk

Nelson, CF37 4HP www.llechwen.co.uk

Castell eiconig o’r 13eg ganrif a’r mwyaf ond un ym Mhrydain. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys tŵr sydd ar ongl fwy na’r tŵr yn Pisa a’r neuadd fawr odidog, lle cynhaliwyd llawer o achlysuron ffurfiol ar hyd y canrifoedd. www.cadw.wales.gov.uk Arhosfan 2 – Gardd Goffa Senghenydd

Maenllwyd Inn

The Malcolm Uphill

The Rock Inn

Mae gan yr hen ffermdy hwn, sy’n 400 mlwydd oed, fwydlen dymhorol flasus mewn awyrgylch clud gyda lleoedd tân agored a thrawstiau traddodiadol.

Mae’r Malcolm Uphill yn dafarn boblogaidd o eiddo cadwyn Wetherspoon yng nghanol Caerffili lle mae detholiad helaeth o fwydydd a diodydd ar gael pob dydd.

Rhydri, CF83 3EB www.chefandbrewer.com

Caerffili, CF83 1FQ www.jdwetherspoon.co.uk/home/ pubs/the-malcolm-uphill

Bwydlen ardderchog ar gyfer cinio canol dydd a gyda’r nos mewn awyrgylch swynol. Dodrefn o ansawdd da a phethau cofiadwy llawn cymeriad ar y waliau. Darperir ar gyfer grwpiau sy’n bwcio ymlaen llaw.

Mae’r Ardd Goffa yn Senghenydd yn coffáu pawb yng Nghymru a fu farw o ganlyniad i’r diwydiant glo. Caiff pob trychineb mewn glofa ei choffáu ar gyfres o gerrig palmant ceramig sy’n rhan o’r ‘Llwybr Coffa’ o gwmpas yr ardd. www.visitcaerphilly.com Arhosfan 3 – Maenordy Llancaiach Fawr Maenordy hanesyddol lle mae cymeriadau yng ngwisgoedd yr 17eg ganrif yn eich tywys o gwmpas y safle. Cewch wybod sut oedd bywyd iddyn nhw yn ystod y rhyfel cartref. Dywedir hefyd mai hwn yw’r tŷ â’r mwyaf o ysbrydion yng Nghymru.www. llancaiachfawr.co.uk

Coed Duon, NP12 1DD D www.therockblackwood.co.uk

Arhosfan 4 4 – Amgueddfa’r Tŷ Weindio Y Ganolfan Ymwelwyr The Visit Caerphilly Centre Caerffili

Gallwch brynu olwyn o Gaws Caerffili ac aros i gael coffi neu gacen yn y siop goffi hyfryd, â’i golygfeydd godidog dros Gastell Caerffili. Caerffili, CF83 1JL www.visitcaerphilly.com

12

Traveller’s Rest

Volare Italian Dining & Bistro

Tafarn wledig mewn man perffaith i grwpiau aros am bryd o fwyd rhwng Caerffili a Chaerdydd. Cynigir bwyd tymhorol a chyrfau y gofelir amdanynt yn ofalus.

Mae’r bwyty, sy’n deillio o’r brwdfrydedd dros fwyd sydd gan ddau o Calabria, yn cynnig blas o’u cartref, ynghyd â thraddodiadau a choginio o Gymru.

Draenen Pen-y-graig, CF83 1LY www.vintageinn.co.uk/ thetravellersrestcaerphilly

Caerffili, CF83 1FQ www.volare.co.uk

www.visitsouthernwales.org

Amgueddfa sy’n adrodd hanes Caerffili a’r cyffiniau. Mae amrywiaeth o greiriau a chyfres o arddangosfeydd sy’n cylchdroi yn dod â hanes yn fyw. Gwyliwch am y peiriant weindio Fictoraidd anferth sy’n dod yn fyw ar rai dyddiau penodol yn ystod y flwyddyn. www.windinghouse.co.uk

Caerffili

13


Darganfod y Rhanbarth – Amserlen Teithio 2 Ddiwrnod

Diwrnod 2 (parhad)

Gyda chymaint i’w wneud gall fod yn her gwybod ble i ddechrau. Rydym ni wedi llunio amserlen teithio ddau ddiwrnod enghreifftiol ichi, gan roi ichi gyfle i ymweld â rhai o’r atyniadau gorau yn y rhanbarth.

Arhosfan 3 – Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg Yng Ngerddi Dyffryn, sy’n fwy na 55 erw, ceir casgliad syfrdanol o ystafelloedd gardd clud, gan gynnwys gardd rosod a gardd Bompeiaidd, a gardd goed helaeth ac ynddi goed o bob cwr o’r byd. www.nationaltrust.org.uk/dyffryn-gardens Arhosfan 4 – Safle Nwyddau Dylunwyr McArthurGlen, Pen-y-bont ar Ogwr Saif y ganolfan siopa dan do wrth ochr cyffordd 36 ar draffordd yr M4. Mae ganddi fwy na 90 o siopau sy’n gwerthu nwyddau siopau’r stryd fawr a brandiau dylunwyr am brisiau gostyngol. www.bridgenddesigneroutlet.com

Diwrnod 1 Arhosfan 1 – Maenordy Llancaiach Fawr, Caerffili Maenordy o’r 17eg ganrif ger Caerffili yw Llancaiach Fawr. Ewch am dro o gwmpas y tŷ i gyfarfod â’r gweision a’r morynion a fydd yn dweud wrthych chi sut oedd bywyd iddyn nhw yn 1645. www.llancaiachfawr.co.uk

Arhosfan 5 - Canolfan Ymwelwyr y Bathdy Brenhinol, Rhondda Cynon Taf Cymerwch olwg y tu ôl i’r llenni yn y sefydliad gweithgynhyrchu hynaf ym Mhrydain. Cewch weld drosoch eich hun y bobl a’r prosesau sy’n rhoi ceiniogau a phunnoedd yn eich pocedi. www.royalmint.com/en/the-royal-mint-experience

Arhosfan 2 – Parc ac Amgueddfa Cyfarthfa, Merthyr Tudful Castell trawiadol a adeiladwyd yn 1824 ac ynddo amgueddfa gyda chasgliad o gelfyddyd gain ac eitemau sy’n dangos hanes cymdeithasol. www.visitmerthyr.co.uk/attractions/cyfarthfa-park-museum.aspx

Beth sy’n digwydd yn Ne Cymru Arhosfan 3 – Cofeb Glowyr y Gwarcheidwad, Six Bells Yn uchel uwchben pentref Six Bells mae’r Gwarcheidwad, Cofeb y Glowyr. Cafodd y gofeb, sy’n coffáu trychineb glofa Six Bells yn 1960, ei dadorchuddio yn 2010. www.guardianwales.info Arhosfan 4 – Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, Blaenafon Yn y Ganolfan ceir ystafell ysgol Fictoraidd ryngweithiol, ffilm ac arddangosfeydd amlgyfryngol sy’n rhoi i ymwelwyr olwg unigryw ar arwyddocâd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, a hefyd yn eu cyflwyno i’r llu o atyniadau yn yr ardal. www.visitblaenavon.co.uk

Os byddwch yn amseru’ch ymweliad yn iawn, nid yn unig y cewch lety gwych, blasu bwyd gwych ac ymweld ag atyniadau o’r radd flaenaf, cewch hefyd fwynhau ambell ddigwyddiad penigamp. Rydym ni wedi nodi nifer o’r rhai mwyaf poblogaidd yma, ond cynhelir cannoedd mwy drwy gydol y flwyddyn. I weld rhestr lawn o ddigwyddiadau yn y rhanbarth, ewch i www.visitsouthernwales.org

Arhosfan 5 - Neuadd y Sir, Trefynwy Mae hanes hynod i’r adeilad gosgeiddig hwn, a adeiladwyd yn 1724. Bu unwaith yn ganolbwynt masnach a llywodraethiant yn y dref, ond bu hefyd yn llysty.www. shirehallmonmouth.org.uk

Gŵyl Steelhouse, Blaenau Gwent

Rasys Nos Galan, Aberpennar

Ynys Tân, Bro Morgannwg

Gŵyl Fwyd y Fenni

Y Sblash Mawr, Casnewydd

Diwrnod 2 Arhosfan 1 – Tŷ Tredegar, Casnewydd Saif y tŷ hwn o’r 17eg ganrif mewn 90 erw o barcdir hardd ar gyrion Casnewydd. Erbyn hyn mae dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a gall ymwelwyr glywed am hanes y tŷ a’i gyn-berchnogion ecsentrig a gweld y casgliad o weithiau celf.www. nationaltrust.org.uk/tredegar-house

Sioe Flodau yr RHS, Caerdydd

Arhosfan 2 – Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd Fel rhan o ymweliad â’r Ganolfan, cynigir teithiau y tu ôl i’r llenni lle gallwch ddarganfod dirgelion yr adeilad amlwg a dysgu beth sydd o dan yr arysgrif. Mae bargeinion arbennig ar gael i grwpiau ac mae digonedd o le i barcio coetsis gerllaw. www.wmc.org Gwrthryfel Merthyr

14

www.visitsouthernwales.org

Caerffili

Y Caws Mawr, Caerffili

Gŵyl Elvis, Porthcawl

Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon, Blaenafon

15


Lleoedd Parcio i Goetsis

Tywyswyr Teithiau

Cewch wybod ble i ollwng eich teithwyr neu barcio’ch coets yn rhai o’n prif drefi ac atyniadau.

Gwnewch yn siŵr y cewch y mwyaf o’ch ymweliad â’r rhanbarth trwy drefnu gwasanaethau tywysydd teithiau. Aelodau o Gymdeithas Tywyswyr Teithiau Swyddogol Cymru yw’r unig dywyswyr a gydnabyddir yn swyddogol fel rhai a all dywys yng Nghymru. Gall ddarparu Tywyswyr Bathodyn Glas hyfforddedig, proffesiynol a phrofiadol, a fydd yn helpu i ddod â’ch taith yn fyw.

Caerffili Mae cyfleusterau parcio coetsis Caerffili mewn man delfrydol i wneud y gorau o ymweliad â’r dref, boed i ymweld â’r castell neu bori yn y siopau. Man Gollwng Teithwyr Canolfan Siopa Cwrt y Castell, CF83 1NU (gyferbyn â’r castell)

Maes Parcio Coetsis Crescent Road, CF83 1XY

Mae dwsinau o dywyswyr, pob un â’i arbenigeddau, diddordebau a sgiliau iaith ei hun. Gall Tywyswyr Bathodyn Glas fynd â chi i bob cwr o’r rhanbarth, ac mae Tywyswyr Bathodyn Gwyrdd yn cynnig gwybodaeth fwy arbenigol a lleol.

Cymhellion i yrwyr coetsis Cwpanaid o de/coffi a chacen am ddim i yrwyr coetsis yng Nghanolfan Croeso Caerffili www.visitcaerphilly.com Cysylltwch â’r Tîm Cyrchfannau a Digwyddiadau: +44 (0)1443 866394 neu e-bost waltesa@caerphilly.gov.uk

16

Twristiaeth De

Mae cymaint i’w wneud yn Ne Cymru, nid oedd modd inni sôn amdano i gyd mewn un llyfryn. Edrychwch ar ein gwefan i gael mwy o syniadau ar gyfer eich ymweliad grŵp. www.visitsouthernwales.org

www.visitsouthernwales.org

I ddod o hyd i dywysydd fydd yn addas at eich anghenion, ewch i visit www.walesbestguides.com


Mapiau a Gwybodaeth am Deithio Mae’n hawdd cyrraedd Mae’n syndod o hawdd cyrraedd yma. Dim mwy nag ychydig o oriau o bob rhan o Gymru ydym ni, rhyw ddwy awr o Lundain a rhyw awr o orllewin Canolbarth Lloegr.

Scotland

Felly ymhen dim o dro gallech fod yma, yn mwynhau’r hyn sydd gennym i’w gynnig ac efallai’n cael cyfle i ymarfer eich Cymraeg. Croeso! Manchester

Os nad yw’n fawr, mae’n ddigon – a does dim yn haws na theithio o gwmpas y rhanbarth. Mae system ffyrdd gynhwysfawr yn cysylltu’r holl drefi mawr, ac mae llawer o’r trefi a’r pentrefi’n cael gwasanaeth da gan rwydwaith trenau lleol sy’n cysylltu â gorsafoedd y prif linellau. .

Wales

Birmingham

England London

Twristiaeth De

Er y gwnaethpwyd pob ymdrech i sicrhau bod y cyhoeddiad hwn yn fanwl gywir, ni all Twristiaeth De Cymru dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriadau, gwallau neu hepgoriadau, nac am unrhyw fater sydd mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â chyhoeddi, neu’n deillio o gyhoeddi, y wybodaeth a geir yn y llyfryn hwn. Ni cheir atgynhyrchu’r llyfryn yn rhannol nac yn gyfan heb ganiatâd y cyhoeddwr ymlaen llaw. Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn Saesneg.

18

www.visitsouthernwales.org

www.visitcaerphilly.com @Visitcaerphilly Visit Caerphilly @Visitcaerphilly

Cyhoeddwyd gan: Twristiaeth De Cymru Ffotograffau: Hoffai Twristiaeth De Cymru ddiolch i Mike Chapman, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Visit Britain © Hawlfraint y Goron Croeso Cymru am gael defnyddio eu lluniau yn y cyhoeddiad. Map © Collins Bartholomew Ltd. Dyluniad: Mediadesign

Twristiaeth De


Mae gan fwrdeistref sirol Caerffili raglen flynyddol o ddigwyddiadau a chynhelir gwyliau gwych mewn gwahanol drefi. Uchafbwynt y rhaglen digwyddiadau yw’r Caws Mawr sy’n denu mwy na 70,000 o ymwelwyr pob blwyddyn. Mae’n cynnig marchnad bwyd a diod enfawr, stondinau crefftau, adloniant, ffair bleser a phentref canoloesol sy’n cael ei ailgreu ar diroedd Castell Caerffili. GORFF

Y penwythnos olaf ym mis Gorffennaf

Mae Ffair Nadolig Caerffili wedi tyfu dros y deng mlynedd ddiwethaf ac erbyn hyn mae’n denu mwy na 90 o stondinau. Mae’r ffair yn dathlu’r Nadolig ledled y dref a’r tu mewn i Gastell Caerffili.

RHAG

Yr ail benwythnos ym mis Rhagfyr

Mae Gŵyl Fwyd Caerffili ym mis Mai wedi dod yn ffefryn, gydag amrywiaeth o gyflenwyr bwyd a diod, llawer ohonyn nhw’n lleol, ynghyd ag arddangosiadau coginio.

MAI

Mis Mai

Anfonwch neges e-bost atom i gael ffurflen bwcio grŵp/coets ar gyfer unrhyw un o’n digwyddiadau. Rhoddir ichi le parcio am ddim am gyfnod y digwyddiad, ynghyd â thocyn cinio a bag rhoddion i yrrwr y goets. events@caerphilly.gov.uk

I weld rhestr lawn o ddigwyddiadau, ewch i’n gwefan visitcaerphilly.com

Caerffili visitcaerphilly.com


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.