Sir Fynwy Canllaw Teithiau i Grwpiau

Page 1

Twristiaeth De

Sir Fynwy

Canllaw Teithiau i Grwpiau

nt u Gwe Blaena fon Blaena

gwr nt ar O o b y Pen li Caerffi ydd Caerd ful yr Tud h t r e M wy Sir Fyn

www.visitsouthernwales.org

wydd Casne Taf ynon C a d d Rhon nwg organ Bro M


Sir Fynwy yw Canolfan Bwyd Cymru ac mae gennym smorgasbord o atyniadau bwyd a diod gwych i ymweld â nhw. Ancre Hill Vineyard, Trefynwy, NP25 5HS Gyda’i meso-hinsawdd unigryw ei hun, ac wedi’i amgylchynu gan fryniau coediog, mae gwinllan Ancre Hill yn cynhyrchu gwinoedd o’r radd flaenaf mewn lleoliad delfrydol. Ewch ar daith tywys, mwynhau cinio o blatiaid caws Cymreig neu aros yn eu llety ar y safle. Cynigion: Llety, Teithiau Gwinllan, Siop Rhoddion, Cyfleoedd 01600 714152 www.ancrehillestates.co.uk info@ancrehillestates.co.uk Apple County Cider Co, ger Ynysgynwraidd. NP25 5NS. Ar gyrion Ynysgynwraidd, mae Apple County yn cynhyrchu seidrau premiwm un rhywogaeth o’r radd flaenaf a wneir gyda 100% sudd afal. Dewch i flasu seidrau o’r radd flaenaf gyda’r gwneuthurydd seidr Ben a phrynu jamiau cartref, diodydd ffrwyth, cwrw lleol, mêl a hufen iâ.. Cynigion: siop, arlwyo. 01600 750835 www.applecountycider.co.uk hello@applecountycider.co.uk Baa Brewery, Cas-gwent. NP16 5PF.. Mae gan ein bragwyr arbenigol dros 35 mlynedd o brofiad o’r diwydiant bragu ac yn ymroddedig i ddarparu cwrw crefft rhagorol i bawb eu mwynhau. Cynigion: Teithiau a chyfleoedd blasu (drwy apwyntiad). Cwrw ar werth. 01291 408240 www.baabrewing.com info@baabrewing.com Culinary Cottage, Y Fenni. NP7 8DL. Mae Culinary Cottage yn hafan ar gyfer bwyd-garwyr ac mae’n cynnig detholiad o gyrsiau coginio preswyl ac un-dydd addas ar gyfer myfyrwyr o bob gallu. Cynigion: Cyrsiau coginio Hanner Diwrnod, Diwrnod Llawn a Nifer o Ddyddiau 01873 890125 www.theculinarycottage.co.uk enquiries@theculinarycottage.co.uk Green & Jenks Gelato House, Trefynwy. NP25 3DY. Dewch i fwynhau hufen iâ cartref a gaiff ei gynhyrchu gyda chariad yn ein siop, yna ddarganfod sut y gwnawn ein gelato (o laeth Sir Fynwy) ar ein teithiau blasu.

Cynigion: Teithau a chyfleoedd blasu. Arlwyo. Te Prynhawn. Gelato Godidog. 01600 711657 www.greenandjenks.com hello@greenandjenks.com Humble by Nature, ger Trefynwy. NP25 4RP. Yn seiliedig ar fferm waith yn Nyffryn Gwy, anelwn arddangos sgiliau gwledig, coginio a dysgu. Mae gan ein cyrsiau coginio felly thema wledig gyda chwilota, charcuterie cartref, pobi bara a mwy. Cynigion: Dosbarthiadau coginio a sgiliau gwledig, gwledda preifat 01600 714 595 www.humblebynature.com info@humblebynature.com Kingstone Brewery, Tyndyrn, Ger Casgwent. NP165 7NX. Mae Kingstone Brewery yn angerddol am gwrw go iawn. Cwrw digyfaddawd, heb ei hidlo a hollol real. Cynigion: Cyfleoedd Blasu, Teithiau Bragdy. Prydau bwyd yn Tintern Taproom 01291 680 111 www.kingstonebrewery.co.uk info@kingstonebrewery.com Parva Farm Vineyard, Tyndyrn, ger Cas-gwent. NP16 6SQ.. Dewch i ymweld â gwinllan hynaf Cymru, yn edrych dros Dyndyrn hanesyddol yn Nyffryn Gwy. Gall ymwelwyr adael y torfeydd ar ôl a chrwydro ymysg y gwinwydd cyn ymlacio yn yr ardal profi gwin a blasu gwinoedd a enillodd wobrau. Cynigion: Teithiau Gwinllan, Siop Anrhegion, Cyfleoedd Blasu 01291 689936 www.parvafarm.com parvafarm@hotmail.com

Cynnwys 04

Cynigion: Cyfleoedd Blasu gyda Thiwtor (drwy apwyntiad), Siop Anrhegion, Digwyddiadau, Perllan Amgueddfa 01600 780258 www.raglancidermill.com info@raglancidermill.com Sugarloaf Vineyards, Y Fenni. NP77 7LA Mae’r winllan yma yn y bryniau crwn uchben y Fenni - cyfle i flasu a chael taith o amgylch y winllan mewn amgylchedd godidog tra’n gwrando ar sŵn nant. Mae llety ar gael ar y safle neu galwch heibio am deithiau a chyfleoedd blasu. . Cynigion:Llety, Teithiau o’r Winllan, Siop Anrhegion, Cyfleoedd Blasu 01873 853066 www.sugarloafvineyard.co.uk enquiries@sugarloafvineyard.co.uk

Trosolwg Rhanbarthol

08

The Abergavenny Baker, Y Fenni. NP7 7HE. Yn ei dosbarthiadau un-dydd, mae’r pobwr Rachael Watson yn rhannu ei gwybodaeth, gallu a brwdfrydedd am bobi bara bendigedig o bob rhan o’r byd. Uchafswm maint dosbarth o chwech. 07977 511337 www.abergavennybaker.co.uk abergavennybaker@gmail.com

Gweithgareddau

Atyniadau

10 Llety

12 Lleoedd i Gael Lluniaeth

13

White Castle Vineyard, Y Fenni. NP7 8RA Mae White Castle Vineyard yn cynhyrchu amrywiaeth o winoedd Cymreig safon uchel. Mae’r winllan 5 erw ar lethr bychan yn wynebu’r de, delfrydol ar gyfer tyfu gwinwydd ac aeddfedu grawnwin ar gyfer gwinoedd Cymreig. Ymwelwch a phrofi harddwch a thawelwch eu lleoliad gwledig. Cynigion: Teithiau Gwinllan, Siop Anrhegion, Cyfleoedd Blasu 01873 821443 www.whitecastlevineyard.com info@whitecastlevineyard.com

Darganfod Sir Fynwy

16

Raglan Cider Mill, Llanarth, Brynbuga. NP15 2LU. Ychydig tu allan i bentref gwledig Rhaglan, mae Raglan Cider Mill yn fusnes teuluol lle mai ansawdd yw’r brif flaenoriaeth. Mae’r Felin yn gartref i un o ddim ond dau Dŷ Seidr yng Nghymru lle gallwch flasu a phrynu cynnyrch i’w hyfed yn y fan a’r lle neu fynd â nhw adre gyda chi.

Am fwy o gynhyrchwyr, tafarndai, bwytai a digwyddiadau bwyd fel Gŵyl Fwyd y Fenni, ewch i www.visitmonmouthshire.com/food-and-drink

06

Lleoedd Parcio i Goetsis

Sir Fynwy

15 Uchafbwyntiau Digwyddiadau

17 Tywyswyr Teithiau

18 Mapiau a Gwybodaeth am Deithio

3


….. r u jo on B . … e a m w h S o… ll e H it u d ia D o… ll a H . … g a T Guten Croeso i Dde Cymru Efallai bod gennych chi syniad eisoes beth i’w ddisgwyl o daith i Dde Cymru. Mae’r rhanbarth wedi’i rannu i ddeg ardal wahanol, pob un â’i chymeriad a’i swyn ei hun. Mae ardaloedd Blaenau Gwent, Blaenafon, Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn adnabyddus am eu hanes a’u treftadaeth. Mae Sir Fynwy gerllaw yn fwy gwledig ac yn enwog am ei bwydydd a diodydd rhagorol. Mae Casnewydd a Chaerdydd yn ddinasoedd llewyrchus sydd ag atyniadau gyda’r gorau yn y byd. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg ceir cymysgedd o leoedd gwyliau glan môr, trefi marchnad a chefn gwlad hardd. Mae gennym ddigonedd o gestyll ac amgueddfeydd, ond hefyd mae gennym Barc Cenedlaethol, dechrau Llwybr Arfordir Cymru ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae gennym hefyd rai pethau na fyddwch, efallai, yn eu cysylltu â ni. Mae olion amffitheatr a barics Rhufeinig, gwinllannoedd sy’n cynhyrchu gwinoedd arobryn a cherflun anferth, sy’n ymestyn 20 metr i’r wybren ac yn gwarchod y Cymoedd islaw. Mae arweiniad i bob un o’n hardaloedd. Felly bodiwch trwy hwn ac yna edrychwch ar yr arweiniadau eraill a chyn bo hir byddwch yn cynllunio’ch taith i Dde Cymru.

Darganfod Sir Fynwy

I gael mwy o wybodaeth ewch i’n gwefan www.visitsouthernwales.org neu cysylltwch â’r t tîm twristiaeth: ffôn - +44 (0)1633 644842 e-bost - groups@monmouthshire.gov.uk I archebu llyfrynnau teithiau i grwpiau ar gyfer ardaloedd eraill yn Ne Cymru ffoniwch +44 (0)845 6002639 neu anfonwch neges e-bost at brochure@southernwales.com von Blaena nt Gwe wpiau Group Travel Guide nau Blae Teithiau i Gr

Twristiaeth

Twristia

eth De

De

ar Ogwr Pen-y-bont iau

Grwp Canllaw Teithiau i

Taf Rhondda Cynon Twristiaeth De

Group Travel Guide

Casnewydd

y Sir Fynw piau dful yr Tu iau Canllaw Teithiau i Grw MerthTeithiau i Grwp

Twristiaeth De

Twristiaeth De

Twristiaeth

th De

Canllaw

Caerffili

Canllaw Teithiau i Grwpiau Canllaw Teithiau i Grwpiau

De

ent au Gw Blaen ent n Gw avo Blaen enau Bla n end wr enafo Bridg Og Bla t ar on hilly y-b Caerp Penff fili Cardi fil Caerf Tyd ydd rthyr Me ul hire Caerd Tudf ouths hyr nm Mo Mert y ort Fynw n Taf Newp Sir Cyno ent ydd f Gw dda ew n n Ta Rhon enau rga no Casn Bla mo Cy n dda of Gla afo le on wg en Va Rh Ogwr Bla gann nt ar Mor -bo Bro Pen-y fili Caerf ydd l Caerd dfu yr Tu rth Me y Fynw Sir

Twristiaeth De

ent u Gw Blaena fon r Blaena ar Ogw ont Pen-y-b

dd Caerdy ful r Tud Merthy

ent u Gw Blaena fon Blaena Ogwr t ar -y-bon Pen rffili Cae rdydd Cae ful yr Tud Merth

wy Sir Fyn ydd Casnew

on Taf a Cyn ndd Rho g nnw Morga Bro

ar Pen-y-bont

Gwent Blaenau

new Cas

Taf non a Cy ndd Rho g rgannw Bro

Mo

Casnew

on Taf a Cyn Rhondd rgannwg Bro Mo

Caerdydd Tudful Merthyr Sir Fynwy Gwent Blaenau Blaenafon

Ogwr

d Casnewyd Taf Cynon Rhondda annwg

Casnewydd Cynon Rhondda

Taf

nnwg 18/09/2015 Bro Morga

Mo Bro Morg Bro www.visitsouthernwales.org rg itsouthernwales.org www.visitsouth ernwales.owww.vis ernwales.org .org .visitsouth wales www uthern isitso www.v

4

Ogwr

Caerffili

Bridgend y Caerphill thshire nt Monmou Gwe Blaenau Newport n Taf Blaenafo r Cynon ndda ar Ogw e4438 Cardiffont Council artwork for SW Rho Guide v3.indd 1 Pen-y-b

www.visitsouthernwales.org wales.org www.visitsouthernwales.org -bont ar Pen-y rg .visitsouthern s.owww Caerffili rnwale d Caerffili southe Caerdyd s.org w.visit Tudful Caerdydd wale ww Merthyr hern Tudful sout Merthyr wy wy visit Sir Fyn Sir Fyn y www. ydd ydd Sir Fynw ydd f ew n Ta Casn Cyno dda Rhon nnwg rga

Bro Morgan nwg

Canllaw Teithiau i Grwp iau

Gwent Blaenau Blaenafon

i Caerffil

17:04

gorau Cymru. Yn cael ei hadnabod fel Canolfan Bwyd Cymru, mae gan Sir Fynwy bedair gwinllan (i gyd yn cynnig theithiau a chynigion blasu) yn ogystal â dewis eang o leoedd bwyta safon uchel - yn cynnwys tafardai gwledig a chaffes traddodiadol yn ogystal â gwestai yn enwog am eu te.

Wedi’i lleoli ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, bu ymladd ffyrnig am yr ardal hon yn y gorffennol. Diolch byth mae’n fwy heddychlon heddiw er fod pethau i’n hatgoffa o gythrwfl y gorffennol gyda naw castell yn y bryniau.

Gyda bwyd mor wych ar gael, nid yw’n unrhyw syndod y cynhelir Gŵyl Fwyd y Fenni mis Medi bob blwyddyn.

Mae digonedd o adeiladau hanesyddol eraill hefyd, yn cynnwys olion rhamantus Abaty Tyndyrn a Neuadd y Sir a adferwyd yn Nhrefynwy, lle cynhaliwyd yr achos llys yn erbyn y Siartwyr yn 1840.

Caerdydd

Canllaw Teithio Grŵp

Canllaw

Twristiae

Yn nythu rhwng Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Ardal Harddwch Naturiol Dyffryn Gwy, bydd y tirlun godidog yn eich syfrdanu. Felly hefyd y cestyll mawreddog, yr awyr serennog dywyll, llwybrau cerdded mynyddig, bwyd bendigedig a golygfeydd 360°.

Blaenau Gwent

Edrychwch hefyd am emau cudd, yn cynnwys Gerddi Dewstow (a gladdwyd dan dunelli o bridd am dros 50 mlynedd nes cawsant eu hailddarganfod a’u hadfer), Ysgubor y Degwm, cartref Tapestri y Fenni ac Eglwys Priordy Santes Fair gyda’i chofebion hanesyddol a cherfiadau o’r canol oesoedd.

Blaenafon ar Ogwr Pen-y-bont

Ni fedrwch ymweld â’r ardal hon heb flasu rhai o fwydydd a diodydd

Caerffili Caerdydd Merthyr Tudful Sir Fynwy Casnewydd Rhondda Cynon

Taf

nwg Bro Morgan

www.visitsouthernwales.org

Sir Fynwy

5


Atyniadau Mae llawer o bethau i’w gweld a’u gwneud yn y gornel hon o dde Cymru. Cestyll, abatai, amgueddfeydd a pharciau gwledig hyfryd mewn golygfeydd gwirioneddol odidog. Pysgota Rhwydi Gafl y Graig Ddu

Tref Rufeinig Caerwent

Cestyll Sir Fynwy

Amgueddfeydd Sir Fynwy

Ymwelwch â Physgotwyr Gafl y Graig Ddu ar Lwybr Arfordir Cymru wrth iddynt ymarfer eu crefft hynafol. Edrychwch arnynt yn pysgota am eog yng nghysgod Pont Hafren, sgwrsio gyda nhw am eu crefft a darganfod eu hanes yn y safle treftadaeth.

Prifddinas llwyth y Silwriaid (Venta Silurum) yng nghyfnod y Rhufeiniaid, wedi’i hamgau mewn muriau 17 troedfedd o’r 4edd Ganrif. Olion tai, fforwm-basilica a theml RhufeinigBrydeinig hefyd. Maes parcio, mynediad gwastad i gyfleusterau toiled a phaneli dehongli.

Mae hanes Sir Fynwy wedi arwain at gestyll gwych i’w hymchwilio a’u darganfod. Dyma rai o’n goreuon: Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Grysmwnt, Trefynwy, Rhaglan, Ynysgynwraidd, Brynbuga a Chastell Gwyn.

Ymwelwch â’n amgueddfeydd yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy lle daw straeon eu trefi yn fyw drwy gelf, arddangosiadau, gwisgoedd, arteffactau, modelau ac amrywiaeth o arddangosfeydd.

Ffôn: +44 (0)1633 880494 E-bost: lavenets4wales@msn.com Gwefan: www.blackrocklavenets.co.uk

Ffôn: +44 (0)1443 336000 E-bost: cadw@wales.gsi.gov.uk Gwefan: http://cadw.gov.wales/daysout/caerwent-roman-town

Ffôn: +44 (0)1291 623772 E-bost: Chepstow.tic@monmouthshire.gov.uk Gwefan: www.visitmonmouthshire.com/castles

Ffôn: +44 (0)1873 854282 E-bost: a bergavennymuseum@monmouthshire.gov.uk Gwefan: www.visitmonmouthshire.com/museums

Castell Cil-y-coed

Cae Rasio Cas-gwent

Hen Orsaf, Tyndyrn

Neuadd y Sir, Trefynwy

Teithiwch drwy amser o gastell canoloesol i blasty Fictoraidd. Mae’r castell mewn 55 erw o dir parc hardd gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau (yn cynnwys gwleddau canoloesol) ac ystafell te.

Dewch i ddiwrnod gwych mas ym mhrif gae rasio Cymru, cartref y Coral Welsh Grand National blynyddol. Gyda chalendr llawn rasio a digwyddiadau eraill, mae bob amser rywbeth i’w wneud ac i’w wneud.

Galwch heibio am de a theisen yn y safle 10 erw hyfryd yma ar lannau’r Afon Gwy. Mewn gorsaf reilffordd Fictoraidd, mae’r Hen Orsaf yn cynnig troeon, arddangosfeydd, digwyddiadau a’r man perffaith i gael seibiant yn Nyffryn Gwy.

O dreialon y Siartwyr i deithiau goruwchnaturiol, mae Neuadd y Sir yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau mewn adeilad Sioraidd rhestredig. Hefyd dewch i ddarganfod hanes Trefynwy a Phont a Phorthdy Mynwy unigryw gyda teithiau’n cychwyn yn Neuadd y Sir.

Ffôn: +44 (0)1291 420241 E-bost: caldicotcastle@monmouthshire.gov.uk Gwefan: www.visitmonmouthshire.com/caldicotcastle

Ffôn: +44 (0)1291 622260 E-bost: info@chepstow-racecourse.co.uk Gwefan: www.chepstow-racecourse.co.uk

Ffôn: +44 (0)1291 689566 E-bost: oldstationtintern@monmouthshire.gov.uk Gwefan: www.visitmonmouthshire.com/oldstationtintern

Ffôn: +44 (0)1600 775257 E-bost: enquiries@shirehallmonmouth.org.uk Gwefan: www.visitmonmouthshire.com/shirehallmonmouth

Gerddi Dewstow

Priordy Llanddewi Nant Hodni

Eglwys Priordy ac Ysgubor y Degwm Santes Fair

Àbaty Tyndyrn

Dewch i ddarganfod gardd goll hardd gyda thwnneli, pyllau dŵr, nentydd a drysfa o ogofau danddaear y credir iddynt fod ar goll am hanner canrif.

Yng nghwm hardd ac anghysbell Euas, mae Priordy Llanddewi Nant Hodni yn safle i ysbrydoli pawb sy’n ei ddarganfod. Mae Gwesty’r Priordy ar y safle yn cynnig bwyd a diod i’w mwynhau yn y lleoliad godidog hwn.

Yn cael ei hadnabod fel ‘Abaty Westminster Cymru’ am ei chasgliad gwych o gofebion hanesyddol a cherfiadau, mae Priordy Santes Fair yn em hanesyddol yng nghanol y Fenni.

Ysbrydoliaeth ar gyfer artistiaid a beirdd drwy’r canrifoedd, Abaty Tyndyrn yw canolbwynt Dyffryn Gwy. Mae’n gofeb ganol-oesol wedi ei gadw’h wych, mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.

Ffôn: +44 (0)1291 431020 E-bost: info@dewstowgardens.co.uk Gwefan: www.dewstowgardens.co.uk

Ffôn: +44 (0)1443 336000 E-bost: cadw@wales.gsi.gov.uk Gwefan: cadw.gov.wales/daysout/llanthonypriory

Ffôn: +44 (0)1873 858787 E-bost: manager@stmarys-priory.org Gwefan: www.stmarys-priory.org

Ffôn: +44 (0)1291 689251 E-bost: cadw@wales.gsi.gov.uk Gwefan: cadw.gov.wales/daysout/tinternabbey

6

www.visitsouthernwales.org

Sir Fynwy

7


Gweithgareddau Ewch allan i fwynhau’r awyr agored yn y gornel hyfryd hon o Dde Cymru. Mae opsiynau dirifedi yn cynnwys llwybrau i’w cerdded, golff, cychod ar y gamlas, campau dŵr a dringo. Beacon Park Boats

Celtic Trails

Canolfan Canwïo a Gweithgaredd Trefynwy

Cyrsiau Golff Sir Fynwy

Gwyliau cwch cul moethus ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae eu tripiau cwch camlas yn cynnig golygfeydd ysblennydd ar draws Sir Fynwy, drwy drefi marchnad tlws a chefn gwlad heddychlon.

Mae Celtic Trails yn trefnu gwyliau cerdded a heicio o’r safon uchaf. Chi sydd i benderfynu pa mor gyflym y dymunwch symud drwy ddilyn ein nodiadau llwybrau a mapiau rhwydd eu dilyn. Mwynhewch y teimlad llwyr o ryddid a ddaw yn sgil teithio ar droed.

Mwynhewch olygfeydd ysblennydd Dyffryn Gwy o’r dŵr gyda’n dewis modern o ganŵs a chaiaciau. Padlwch hyd at 100 milltir drwy’r Gelli Gandryll, Henffordd, Trefynwy a Thyndyrn.

Dewch i fwynhau ‘golff fel y dylai fod’ yn Sir Fynwy gyda saith o gyrsiau gwych. Cymysgedd o gyrsiau, pellter ac anhawster ar draws y sir, o fryniau’r Fenni i wastatir Gwent ger Cas-gwent.

Ffôn: +44 (0)1873 858277 E-bost: enquiries@beaconparkboats.com Gwefan: www.beaconparkboats.com

Ffôn: +44 (0)1291 689774 E-bost: info@celtic-trails.com Gwefan: www.celtic-trails.com

Ffôn: +44 (0)1600 716083 E-bost: monmouthcanoe@hotmail.com Gwefan: www.monmouthcanoe.co.uk

Gwefan: www.visitmonmouthshire.com/golf

Cei Goetre

Canolfannau Awyr Agored Parc Hilston a Gilwern

South Wales Mountain & Water

Way2Go Adventures

Hyb gweithgaredd ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Llogwch gwch camlas am y dydd, mynd am dro neu seiclo wrth ochr y gamlas neu ymlacio drwy bysgota. Bwyd a diod yn ein caffe a bar coffi ar y safle.

Rhowch gynnig ar ganwïo, saethyddiaeth, dringo, ogofa, heicio a mwy yn ein dwy ganolfan awyr agored yng nghefn gwlad Sir Fynwy. Rydym mewn lleoliad delfrydol ar gyfer Dyffryn Gwy a Bannau Brycheiniog gyda llety ar y safle.

Padlwch ganŵs ar hyd afon droellog; ymchwilio ogofeydd dan dŵr; dringo creigiau; abseilio i lawr raeadrau; rhuthro ar raeadrau mewn caiac; edrych ar fywyd gwyllt neu astudio treftadaeth gyfoethog Cymru ar droed, ar feic, caiac neu ganŵ.

Yn seiliedig yn harddwch Dyffryn Gwy, cynigiwn deithiau tywys, canwio, caiacio a chaiacio môr gan ddarparu ar gyfer teuluoedd, grwpiau, unigolio a phartïon.

Ffôn: +44 (0)1873 880516 E-bost: abclg@goytrewharf.com Gwefan: www.goytrewharf.com

Ffôn: +44 (0)1600 752000 E-bost: info@gwentoutdoorcentres.org.uk Gwefan: www.gwentoutdoorcentres.org.uk

Ffôn: +44 (0)1873 831825 E-bost: enquiries@mountainandwater.co.uk Gwefan: www.mountainandwater.co.uk

Ffôn: +44 (0)1594 800908 E-bost: active@way2goadventures.co.uk Gwefan: www.way2goadventures.co.uk

Inspire2Adventure

Cronfa Ddŵr Llandegfedd

Mewn lleoliad perffaith ar gyfer ymwelwyr i’r Fenni, Trefynwy a Dyffryn Gwy, rydym yn darparu ar gyfer teuluoedd, grwpiau ieuenctid, grwpiau iâr a hydd, digwyddiadau adeiladu tîm, grwpiau coleg/ysgol ac oedolion.

Dihangwch rhag prysurdeb bywyd modern yng Nghronfa Ddŵr Llandegfedd sy’n 434 erw. Mwynhewch gaiacio, hwylio a chwaraeon dŵr eraill, cerdded y 2 filltir o lwybrau troed neu fwynhau’r golygfeydd gyda theisen yn ein canolfan ymwelwyr newydd.

Ffôn: +44 (0)1600 891515 E-bost: info@inspire2adventure.com Gwefan: www.inspire2adventure.com

Ffôn: +44 (0)1633 373401 E-bost: llandegfedd@dwrcymru.com Gwefan: www.llandegfedd.co.uk Dechrau / Gorffen Llwybr Arfordir Cymru, Cas-gwent

8

www.visitsouthernwales.org

Sir Fynwy

9


Mae Sir Fynwy yn lwcus i gael cynifer o erddi gwych i ymweld â nhw, cyfleoedd rhagorol i brynu planhigion a lleoedd i aros gyda gerddi hardd.

Llety Mae plastai mawreddog, bythynnod gwledig clyd a gwestai annibynnol safon uchel yn golygu fod digon o ddewis i chi. Gwestai Cwrt Bleddyn

Hampton by Hilton

Gofalu’n wych am westeion ers y 16fed ganrif. Dros 45 ystafell en-suite gyda golygfeydd gwych dros yr ardal wledig o amgylch. Hafan dawel i ffwrdd o brysurdeb bywyd modern.

Mae’r gwesty newydd hwn mewn lleoliad cyfleus ger yr M4 yn nhref hyfryd Magwyr. Mae canol dinas Casnewydd gerllaw a Chaerdydd 25 milltir i ffwrdd.

Ffôn: +44 (0)1633 450521 E-bost: bookings@cwrtbleddyn.co.uk Gwefan: www.cwrtbleddyn.co.uk

Ffôn: +44 (0)1633 749999 Gwefan: hamptoninn3.hilton.com

Gwesty Llansantffraed Court

Gwesty a Pharc Gwledig St. Pierre Marriott

Gwesty gwledig a bwyty 4 Seren annibynnol a chroesawgar, gydag enw da am fwyd lleol gwych a lletygarwch. Wedi’i leoli yn y gyrchfan orau i fwydgarwyr yn Sir Fynwy wledig.

Yn nythu mewn 400 erw o gefn gwlad, bu’r gwesty unwaith yn faenordy o’r 14eg ganrif. Mewn lleoliad delfrydol yng Nghasgwent, mae mewn lle perffaith ar gyfer ymchwilio Dyffryn Gwy, Sir Fynwy a gweddill De Cymru.

Ffôn: +44 (0)1873 840678 E-bost: reception@llch.co.uk Gwefan: www.llch.co.uk

Ffôn: +44 (0)1291 625261 E-bost: stpierre.events@marriotthotels.co.uk Gwefan: www.marriott.com

Gwesty Abergavenny

Gwesty’r Angel

Mae Gwesty Abergavenny yn adeilad Fictoraidd hyfryd yn agos at ganol tref farchnad hanesyddol y Fenni. Mae ganddo 20 o ystafelloedd i westeion a bar eclectig lle gweinir brecwast cyfandirol.

Tafarn coets hanesyddol a bwthyn â gwasanaeth gyda bwyty cain. Agos at gastell y Fenni, y farchnad a siopau annibynnol. Enillodd wobr ‘Gwesty Dinas a Gwledig Gorau’ yr Urdd Te am De Prynhawn Agos at y Walnut Tree, bwyty seren Michelin Shaun Hill.

Ffôn: +44 (0)1873 859050 E-bost: info@angelabergavenny.com Gwefan: www.abergavennyhotel.com

10

Ffôn: +44 (0)1873 857121 E-bost: info@angelabergavenny.com Gwefan: www.angelabergavenny.com

www.visitsouthernwales.org

Gerddi i ymweld â nhw Gerddi ac Ogofannau Dewstow, Caerwent, ger Cas-gwent Y lle rhyfeddol hwn yw gardd goll Sir Fynwy. Dyma safle mwyaf a phwysicaf Pulham yng Nghymru ac mae’r ardd hynod gyda rhestriad Gradd 1 yn llawer mwy helaeth a chymhleth nag a gredid yn wreiddiol. Ffôn: +44 1291 430444 E-bost: info@dewstowgardens.co.uk Gwefan: www.dewstowgardens.co.uk High Glanau, Lydart, ger Trefynwy Yr ail o erddi Celf a Chrefft Sir Fynwy a gafodd ei gosod allan gan H Avbray Tipping yn 1922. Mae’r nodweddion gwreiddiol yn cynnwys terasau carreg trawiadol gyda golygfeydd pellgyrhaeddol dros Dyffryn Wysg i’r Blorens, Ysgyryd, Pen-y-fál a Bannau Brycheiniog. Ffôn: +44 (0)1600 860005 Gerddi Agored Llan-ffwyst Mae Llan-ffwyst yn bentref amrywiol, yn llawn hanes ond yn cynnwys llawer sy’n fodern ac yn newid drwy’r amser. Mae mewn lleoliad godidog rhwng mynyddoedd Pen-y-fál a’r Blorens i’r de orllewin o’r Fenni. Cynhelir eu digwyddiad gerddi agored ddechrau Mehefin bob blwyddyn.

Brynbuga yn ei Blodau Enillydd Cymru yn ei Blodau am 37 mlynedd yn olynol, yn 2018 trechodd Brynbuga gystadleuaeth fyd-eang i ennill cystadleuaeth ryngwladol Cymunedau yn eu Blodau. Dewch i ddarganfod tref llawn blodau a gwyrddni. Gwefan: www.uskinbloom.org.uk Penwythnos Gerddi Agored Brynbuga Mae Penwythnos Gerddi Agored Brynbuga, a gynhelir fel arfer ar benwythnos olaf mis Mehefin, yn caniatau ymwelwyr i weld dros 20 o erddi preifat. Mae gwirfoddolwyr Brynbuga yn ei Blodau wedi ennill eu categori Cymru yn eu Blodau am dros 30 mlynedd. Mae un o’r gerddi mwyaf ysblennydd o amgylch castell canoloesol Brynbuga - ymweliad hanfodol unrhyw amser o’r flwyddyn. Gwefan: www.uskopengardens.com Veddw House, Devauden, ger Casgwentw Cafodd yr ardd ramantus fodern hon ei chreu gan yr awdur garddio Anne Wareham a’r ffotograffydd Charles Hawes a rhoddwyd sylw iddi mewn llawer o gylchgronau garddio. Un o hoff rannau ymwelwyr yw’r pwll adlewyrchol dramatig. Ffôn: +44 (0)1291 650836 E-bost: anne@veddw.co.uk Gwefan: www.veddw.co.uk

Gardd Llanofer Mae wyth cenhedlaeth wedi byw yn Llanofer, yn gofalu am yr ardd a’r planhigion byth ers 1792 pan gafodd ei chreu gan Benjamin Waddington, tad Arglwyddes Llanofer (hyrwyddwr popeth Cymreig yn cynnwys traddodiadau, yr iaith, cerddoriaeth, hanes a da byw).

Gardd Gerfluniau Dyffryn Gwy, Tyndyrn, ger Cas-gwent Dewch i fwynhau cyfres o gerfluniau wedi’u lleoli’n gydnaws o amgylch yr ardd heddychlon hon ar lethr heulog yn Nyffryn Gwy Isaf. Mae borderi blodau toreithiog, adal coetir, perllan a dolydd yn rhoi cynefin cyfoethog ar gyfer bywyd gwyllt.

Ffôn: +44 (0)7753423635 E-bost: elizabeth@llanover.com Gwefan: www.llanovergarden.co.uk

Ffôn: +44 (0)1291 689253 www.wyevalleysculpturegarden.co.uk

Canolfannau Garddio a Meithrinfeydd Canolfan Arddio Brynbuga www.uskgardencentre.co.uk (bwyty ar y safle) Border Nurseries www.bordernurseries.com Canolfan Arddio Rhaglan www.raglangardencentre.co.uk (bwyty Sugarloaf ar y safle) Canolfan Arddio Nantyderry www.nantyderrygc.co.uk Canolfan Arddio Cas-gwent www.chepstowgardencentre.co.uk (Bwyty a Chaffe The Garden ar y safle) Meithrinfa a Gweithdy Blodau Crown Hill www.crownhillnursery.co.uk Secret Garden www.thesecretgardenwales.co.uk (Sally’s Tea Rooms) Canolan Arddio The Willows www.willowsgardencentre.co.uk

Ysgolion a Chyrsiau Garddio Arne Maynard dylunydd gardd Sioe Flodau RHS Chelsea www.arnemaynard.com Ysgol Arddio Llanofer Gwahoddir arbenigwyr mewn planhgion ac awduron gerddi i arwain cyrsiau www.llanovergarden.co.uk

Penpergwm Lodge, ger y Fenni Cyfle unigryw i brofi heddwch a thawelwch gardd hardd a argymhellir gan yr RHS yn tarddu o’r cyfnod Edwardaidd yn Sir Fynwy wledig. Ffôn: +44 (0)1873 840208 E-bost: boyle@penpergwm.co.uk Gwefan: www.penplants.com Gardd Nelson Yn guddiedig yng nghanol Trefynwy mae gardd tref furiog fach yr ymwelodd yr Arglwydd Nelson â hi yn 1802. www.visitmonmouthshire.com/gardens

I gael mwy o wybodaeth yn cynnwys dyddiadau ac amserau agor ewch i www.visitmonmouthshire.com/gardens


Lleoedd i Gael Lluniaeth

Darganfod Sir Fynwy

Cymerwch seibiant o’ch taith i fwynhau tamaid o ginio neu de neu goffi blasus yn un o’r llu o gaffes, tafarndai neu fwytai ym mhob rhan o’r rhanbarth.

Taith 1 Diwrnod

Bwyty Abbey Mill, Tyndyrn

Ystafelloedd Te Castell Cil-y-coed

Caffe Canolfan Arddio Cas-gwent

Mae llawer i’w wneud a’i weld yn Sir Fynwy. P’un ai mwynhau’r awyr agored, darganfod hanes neu ychydig bach o faldod sy’n mynd â’ch bryd, mae rhywbeth ar eich cyfer i gyd ar y daith un diwrnod yma Arhosfan 1 – Castell Cil-y-coed

Dewch i fwynhau teisennau cartref a Phastai Dreigiau® Tyndyrn (a wneir o ddreigiau a dyfwyd yn lleol) ar lannau’r afon Gwy, yn safle melin wreiddiol Abaty Tyndyrn.

Lle gwych i ymlacio gyda the a choffi yn ogystal â siocled twym, gwin, cwrw a mwy. Ymlacio, sgwrsio gyda’n staff cyfeillgar ac efallai brynu rhywbeth i gofio am eich ymweliad.

Tyndyrn, NP16 6SE www.abbeymill.com

Cil-y-coed, NP26 4HU www.caldicotcastle.co.uk

Green & Jenks Gelato House

Morris’ Restaurant yng Nghanolfan Arddio Brynbuga

Dechreuwch y diwrnod yng Nghastell Cil-y-coed. Wedi’i adeiladu gan y Normaniaid, daeth y castell wedyn yn gartref teuluol yn oes Victoria. Mae 55 erw o barc gwledig hyfryd o amgylch y castell. www.visitmonmouthshire.com/caldicotcastle

Cymerwch gyfle i orffwys ac ymlacio dros cappuccino a theisen yn ein caffe neu fwynhau pryd o fwyd yn y bwyty yn edrych dros yr ardd.

Cas-gwent, NP16 6LF www.chepstowgardencentre. co.uk/restaurant-cafe-bar

Arhosfan 2 – Hen Orsaf, Tyndyrn Mae’r Hen Orsaf, Tyndyrn yn barc gwledig hardd yn Nyffryn Gwy. Mwynhewch y golygfeydd gyda theisennau, brechdannau a hufen iâ blasus yn y caffe, hen orsaf docynnau rheilffordd Fictoraidd. www.visitmonmouthshire.com/oldstationtintern

Ystafell Te Red Castle

Arhosfan 3 – Neuadd y Sir, Trefynwy

Yn cynnig hufen iâ arddull Eidalaidd o gynnwys lleol, gyda brechdannau cartref, teisennau, coffi a mwy, mae Green & Jenks yn fan delfrydol i gael hoe.

Bwyty yn y ganolfan arddio yn defnyddio cynnyrch lleol a Chymreig lle bynnag sydd modd. Cynnig lleoedd eistedd dan do neu awyr agored gyda mynediad i’r anabl.

Ystafell te deuluol hardd ac anghyffredin yng nghefn gwlad hyfryd Sir Fynwy. Lle perffaith i gael egwyl a mwynhau’r awyrgylch gwledig.

Trefynwy. NP25 3DY www.greenandjenks.com

Brynbuga, NP15 1TG www.uskgardencentre.co.uk

www.facebook.com/RedCastleTeaRoom

Sally’s Tea Rooms yn Secret Garden, Mamhilad

Sugarloaf Café yng Nghanolfan Arddio Rhaglan

Mae Neuadd y Sir yn adeilad rhestredig Gradd I hanesyddol, a lleoliad yr achosion llys enwog yn erbyn y Siartwyr yn 1840. Dewch i weld y llys barn a mynd lawr i’r celloedd lle cadwyd y diffinyddion. www.visitmonmouthshire.com/shirehallmonmouth Arhosfan 4 – Gwinllan White Castle, Y Fenni

Cross Ash, NP7 8PB

Mae croeso cynnes i ymwelwyr yng Ngwinllan White Castle brofi harddwch a thawelwch y lleoliad gwledig yma. www.whitecastlevineyard.com

The Court Cupboard Café yn Llandeilo Bertholau

Arhosfan 5 – Te prynhawn yng Ngwesty’r Angel Mwynhewch de prynhawn ysblennydd yng Ngwesty’r Angel yn y Fenni, sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau dros y blynyddoedd. Mae detholiad eang o fathau te, brechdannau a theisennau. www.angelabergavenny.com

Lle hyfryd i fwyta ac yfed. Cynigir diodydd poeth ac oer a snaciau yn ogystal â phrydau llawn, ciniawau dydd Sul hyfryd a The Hufen.

Mamhilad, NP40JE www.thesecretgardenwales.co.uk

12

Bwyty’n cynnig bwydydd cartref yn defnyddio’r cynnyrch lleol gorau., Mwynhewch olygfeydd godidog p’un yn eistedd ar ein teras neu yn yr ardal fwyta ar ei newydd wedd.

Rhaglan, NP15 2BH www.raglangardencentre.co.uk

Dewch i fwynhau coffi a theisen ymysg cymuned ffyniannus o artistiaid lleol, i gyd yn yr ardal wledig hyfryd tu allan i’r Fenni.

Y Fenni, NP7 8AU www.courtcupboardgallery.co.uk

www.visitsouthernwales.org

Sir Fynwy

13


Darganfod y Rhanbarth – Amserlen Teithio 2 Ddiwrnod

Diwrnod 2 (parhad)

Gyda chymaint i’w wneud gall fod yn her gwybod ble i ddechrau. Rydym ni wedi llunio amserlen teithio ddau ddiwrnod enghreifftiol ichi, gan roi ichi gyfle i ymweld â rhai o’r atyniadau gorau yn y rhanbarth.

Arhosfan 3 – Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg Yng Ngerddi Dyffryn, sy’n fwy na 55 erw, ceir casgliad syfrdanol o ystafelloedd gardd clud, gan gynnwys gardd rosod a gardd Bompeiaidd, a gardd goed helaeth ac ynddi goed o bob cwr o’r byd. www.nationaltrust.org.uk/dyffryn-gardens Arhosfan 4 – Safle Nwyddau Dylunwyr McArthurGlen, Pen-y-bont ar Ogwr Saif y ganolfan siopa dan do wrth ochr cyffordd 36 ar draffordd yr M4. Mae ganddi fwy na 90 o siopau sy’n gwerthu nwyddau siopau’r stryd fawr a brandiau dylunwyr am brisiau gostyngol. www.bridgenddesigneroutlet.com

Diwrnod 1 Arhosfan 1 – Maenordy Llancaiach Fawr, Caerffili Maenordy o’r 17eg ganrif ger Caerffili yw Llancaiach Fawr. Ewch am dro o gwmpas y tŷ i gyfarfod â’r gweision a’r morynion a fydd yn dweud wrthych chi sut oedd bywyd iddyn nhw yn 1645. www.llancaiachfawr.co.uk

Arhosfan 5 - Canolfan Ymwelwyr y Bathdy Brenhinol, Rhondda Cynon Taf Cymerwch olwg y tu ôl i’r llenni yn y sefydliad gweithgynhyrchu hynaf ym Mhrydain. Cewch weld drosoch eich hun y bobl a’r prosesau sy’n rhoi ceiniogau a phunnoedd yn eich pocedi. www.royalmint.com/en/the-royal-mint-experience

Arhosfan 2 – Parc ac Amgueddfa Cyfarthfa, Merthyr Tudful Castell trawiadol a adeiladwyd yn 1824 ac ynddo amgueddfa gyda chasgliad o gelfyddyd gain ac eitemau sy’n dangos hanes cymdeithasol. www.visitmerthyr.co.uk/attractions/cyfarthfa-park-museum.aspx Arhosfan 3 – Cofeb Glowyr y Gwarcheidwad, Six Bells Yn uchel uwchben pentref Six Bells mae’r Gwarcheidwad, Cofeb y Glowyr. Cafodd y gofeb, sy’n coffáu trychineb glofa Six Bells yn 1960, ei dadorchuddio yn 2010. www.guardianwales.info Arhosfan 4 – Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, Blaenafon Yn y Ganolfan ceir ystafell ysgol Fictoraidd ryngweithiol, ffilm ac arddangosfeydd aml-gyfryngol sy’n rhoi i ymwelwyr olwg unigryw ar arwyddocâd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, a hefyd yn eu cyflwyno i’r llu o atyniadau yn yr ardal. www.visitblaenavon.co.uk

Beth sy’n digwydd yn Ne Cymru Os byddwch yn amseru’ch ymweliad yn iawn, nid yn unig y cewch lety gwych, blasu bwyd gwych ac ymweld ag atyniadau o’r radd flaenaf, cewch hefyd fwynhau ambell ddigwyddiad penigamp. Rydym ni wedi nodi nifer o’r rhai mwyaf poblogaidd yma, ond cynhelir cannoedd mwy drwy gydol y flwyddyn. I weld rhestr lawn o ddigwyddiadau yn y rhanbarth, ewch i www.visitsouthernwales.org

Arhosfan 5 - Neuadd y Sir, Trefynwy Mae hanes hynod i’r adeilad gosgeiddig hwn, a adeiladwyd yn 1724. Bu unwaith yn ganolbwynt masnach a llywodraethiant yn y dref, ond bu hefyd yn llysty. www.shirehallmonmouth.org.uk

Gŵyl Steelhouse, Blaenau Gwent’

Rasys Nos Galan, Aberpennar

Ynys Tân, Bro Morgannwg

Gŵyl Fwyd y Fenni

Y Sblash Mawr, Casnewydd

Diwrnod 2 Arhosfan 1 – Tŷ Tredegar, Casnewydd Saif y tŷ hwn o’r 17eg ganrif mewn 90 erw o barcdir hardd ar gyrion Casnewydd. Erbyn hyn mae dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a gall ymwelwyr glywed am hanes y tŷ a’i gyn-berchnogion ecsentrig a gweld y casgliad o weithiau celf. www.nationaltrust.org.uk/tredegar-house

Sioe Flodau yr RHS, Caerdydd

Arhosfan 2 – Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd Fel rhan o ymweliad â’r Ganolfan, cynigir teithiau y tu ôl i’r llenni lle gallwch ddarganfod dirgelion yr adeilad amlwg a dysgu beth sydd o dan yr arysgrif. Mae bargeinion arbennig ar gael i grwpiau ac mae digonedd o le i barcio coetsis gerllaw. www.wmc.org Gwrthryfel Merthyr

14

www.visitsouthernwales.org

Sir Fynwy

Y Caws Mawr, Caerffili

Gŵyl Elvis, Porthcawl

Diwrnod Treftadaeth y Byd Blaenafon, Blaenafon

15


Lleoedd Parcio i Goetsis

Tywyswyr Teithiau

Gwybodaeth ar le i ollwng eich teithwyr, parcio eich coets neu gael mwy o wybodaeth am ein prif drefi.

Gwnewch yn siŵr y cewch y mwyaf o’ch ymweliad â’r rhanbarth trwy drefnu gwasanaethau tywysydd teithiau. Aelodau o Gymdeithas Tywyswyr Teithiau Swyddogol Cymru yw’r unig dywyswyr a gydnabyddir yn swyddogol fel rhai a all dywys yng Nghymru. Gall ddarparu Tywyswyr Bathodyn Glas hyfforddedig, proffesiynol a phrofiadol, a fydd yn helpu i ddod â’ch taith yn fyw.

Y Fenni Wedi’i hamgylchynu gan 7 mynydd, mae’r Fenni mewn cefn gwlad godidog. Mae’r uchafbwyntiau yn y dref yn cynnwys Amgueddfa a Chastell y Fenni, Priordy ac Ysgubor Degwm Santes Fair ac adeilad hanesyddol Neuadd y Farchnad. Gollwng o Goetsis a Pharcio Gorsaf Bysus y Fenni, Heol Trefynwy, NP7 5HF

Cas-gwent Cartref un o’r cestyll cyntaf i’w godi yng Nghymru a phont hanesyddol sy’n nodi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae gwasanaethau Cwrdd a Chyfarch ar gael o Ganolfan Croeso Cas-gwent. Ffoniwch 01291 623372 i drefnu. Man Gollwng Coetsis Stand Parcio Bysus 5, Gorsaf Bysus, Stryd Thomas, NP16 5DH

Parcio Coetsis Maes Parcio’r Castell, Stryd y Bont, NP16 5EY

Trefynwy

Mae dwsinau o dywyswyr, pob un â’i arbenigeddau, diddordebau a sgiliau iaith ei hun. Gall Tywyswyr Bathodyn Glas fynd â chi i bob cwr o’r rhanbarth, ac mae Tywyswyr Bathodyn Gwyrdd yn cynnig gwybodaeth fwy arbenigol a lleol.

Canolfan Croeso y Fenni

Canolfan Croeso Cas-gwent

Dewch i ddarganfod popeth sydd angen ei wybod am y Fenni a’r Mynyddoedd Du yng Nghanolfan Croeso y Fenni, o fewn yr Ysgubor Degwm ym Mhriordy Santes Fair.

Gyda lleoedd parcio bysus gyferbyn â Chastell Cas-gwent, ffoniwch i archebu lle (parcio am ddim); ar gyfer gwasanaeth cwrdd a chyfarch; am gymorth i gynllunio taith; neu i dderbyn talebau siopau a mapiau o ganol tref Casgwent. Mae hefyd gyfleusterau te/coffi ac ystafell orffwys am ddim i yrrwyr. Mwy o wybodaeth ar visitmonmouthshire.com/groups

Ffôn: +44 (0)1873 853254 E-bost: abergavennyic@breconbeacons.org Cod Post: NP7 5ND

Ffôn: +44 (0)1291 623772 E-bost: Chepstow.tic@monmouthshire.gov.uk Cod Post: NP16 5EY

Tref hanesyddol ar y ffin gydag uchafbwyntiau sy’n cynnwys Neuadd y Sir, pont enwog Mynwy a strydoedd yn llawn manwerthwyr annibynnol. Man Gollwg a Pharcio Bysus Stryd Blestium, NP25 3EQ

16

www.visitsouthernwales.org

I ddod o hyd i dywysydd fydd yn addas at eich anghenion, ewch i www.walesbestguides.com

Sir Fynwy

17


Mapiau a Gwybodaeth am Deithio Mae’n hawdd cyrraedd Mae’n syndod o hawdd cyrraedd yma. Dim mwy nag ychydig o oriau o bob rhan o Gymru ydym ni, rhyw ddwy awr o Lundain a rhyw awr o orllewin Canolbarth Lloegr.

Scotland

Felly ymhen dim o dro gallech fod yma, yn mwynhau’r hyn sydd gennym i’w gynnig ac efallai’n cael cyfle i ymarfer eich Cymraeg. Croeso! Manchester

Os nad yw’n fawr, mae’n ddigon – a does dim yn haws na theithio o gwmpas y rhanbarth. Mae system ffyrdd gynhwysfawr yn cysylltu’r holl drefi mawr, ac mae llawer o’r trefi a’r pentrefi’n cael gwasanaeth da gan rwydwaith trenau lleol sy’n cysylltu â gorsafoedd y prif linellau.

Wales

Birmingham

England London

Twristiaeth De

Er y gwnaethpwyd pob ymdrech i sicrhau bod y cyhoeddiad hwn yn fanwl gywir, ni all Twristiaeth De Cymru dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriadau, gwallau neu hepgoriadau, nac am unrhyw fater sydd mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â chyhoeddi, neu’n deillio o gyhoeddi, y wybodaeth a geir yn y llyfryn hwn. Ni cheir atgynhyrchu’r llyfryn yn rhannol nac yn gyfan heb ganiatâd y cyhoeddwr ymlaen llaw. Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn Saesneg.

18

www.visitsouthernwales.org

www.visitmonmouthshire.com @visit_mon visitmonmouthshire

Cyhoeddwyd gan: Twristiaeth De Cymru Ffotograffau: Hoffai Twristiaeth De Cymru ddiolch i Mike Chapman, Cyngor Sir Fynwy, Visit Britain a © Hawlfraint y Goron Croeso Cymru am gael defnyddio eu delweddau yn y cyhoeddiad. Map © Collins Bartholomew Cyf. Dyluniad: Mediadesign

Twristiaeth De


Hanesion Agincourt

Mae’r Brenin Harri V yn fwyaf adnabyddus am ei fuddugoliaeth dros fyddinoedd Ffrengig llawer mwy yn Agincourt, brwydr a anfarwolwyd gan William Shakespeare. Mae teithiau ‘Hanesion Agincourt’ yn darparu ar gyfer cymdeithasau hanesyddol, y farchnad addysg neu grwpiau gyda rhywfaint o ddiddordeb. Dewch i ymchwilio’r tirlun lle ganwyd Harri V, lle profodd ei dactegau milwrol ac o lle cafodd gefnogaeth hollbwysig ar gyfer ei ymgyrch yn Ffrainc. Dewch i ddarganfod sut y cafodd y teyrngarwch hwnnw ei wobrwyo, wrth i fonedd Cymru dyfu mewn cyfoeth a statws, wrth i ni symud tuag at enedigaeth y llinach Tuduraidd.

Uchafbwyntiau yn cynnwys: • Trefynwy • Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog • Cadeirlan Aberhonddu • Castell a Chwrt Tretŵr • Y Fenni - Priordy ac Ystafell Degwm Santes Fair • Castell Rhaglan • ‘Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol’ Dyffryn Gwy • Fforest y Ddena

I gael manylion llawn y daith ewch i www.visitmonmouthshire.com/legendsofagincourt


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.