4 minute read

Cysylltu Pobl a Hanes

Roedd yn bleser croesawu criw ffilmio Ancestry eto ym mis Medi, y tro hwn i ail-ddigideiddio ein cofrestrau plwyf mewn manylder a lliw. Bydd casgliad cofrestrau plwyf Cymru yn cael ei ail-lansio ar Ancestry unwaith y byddan nhw wedi gorffen y prosiect ar draws holl archifdai Cymru

Cynhelir Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe a Chastellnedd Port Talbot er mwyn cadwmynediad at eu harchifau ac i gasgliadau archif eraill y mae wedi'u derbyn a'u casglu ar eu rhan. Mae preswylwyr y ddwy ardal awdurdod lleol ac ymchwilwyr o bob rhan o'r DU a thramor yn cael mynediad at ein casgliadau archif, ar-lein ac yn bersonol, er mwyn cynnal amrywiaeth eang o waith ymchwil.

Advertisement

Ers rhai blynyddoeddmae'r archifau wedi wynebu goblygiadau'r bwriad i gau Canolfan Ddinesig Abertawe. Mae’r penderfyniad (a gafodd ei ffurfioli ym mis Rhagfyr 2021) i symud yr archifau i Hyb wedi’i lleoli yn yr hen British Home Stores arStryd Rhydychen yng nghanol y ddinas yn un sy’n cyflwyno cyfleoedd yn ogystal â heriau i’rGwasanaeth. Ar y naill law, bydd yr archifau’n elwa o leoliad mwy canolog yn Abertawe a rhwyddineb o ran mynediad yn union ochr yn ochr â’r Llyfrgell Astudiaethau Lleol: ar y llawarall, bydd angen i’rcyfleuster newydd ffitio i mewn i adeilad amlbwrpas ac mae hyn wedi gofyn am gryn dipyn o ofal a sylwi sicrhau bod yr ardal storio archifol yn cyrraedd y safon BS 4971 gofynnolar gyfer cadwraeth a gofalu am gasgliadau llyfrgelloedd archifau.

Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae prosiect Hyb Canol y Ddinas wedi pasio Cam 3 RIBA, sy’n ymwneud â chydgysylltiad gofodol o fewn yr adeilad. Mae cynllun llawr manwl wedi'i ddatblygu sy'n gosod ystafell chwilio'r archifau ar y llawr cyntaf ac ystafell ddiogel yr archifdy ar yr ail lawr (uchaf), y ddwy wedi'u cysylltu gan lifft dogfennau. Mae gan yr ystafell chwilio newydd seddi ar gyfer deg o bobl wrth fyrddau dogfennau, tri yn eistedd wrth ddesgiau PC ac un yn defnyddio darllenydd microffilm. Mae derbynfa gyda loceri, lle i gofrestru darllenwyr a siop fechan.

Mae Cam 4 RIBA yn ymwneud â dylunio technegol, ac mae nifer o heriau wedi’u codi ac wedi mynd i’rafael â nhw o ran sut y bydd ystafell ddiogel yr archifdy yn cadw sefydlogrwydd amgylcheddol yn unol â BS 4971. Bydd y dyluniad yn ymgorffori uned dadleithio er mwyn atal gormod o leithder rhagdatblygu yn yr ystafellddiogel newydd aerglos. Bydd y drysau wedi'u selio'n dynn a bydd gan bob mynedfa (gan gynnwys y lifft dogfennau) lobi sy'n gweithredu fel clo aer. Bydd y tymheredd yn cael ei reoli drwy wal geudod neu wyntyll blenwm a gaiff ei hoeri pan fo angen yn ystod cyfnodau poeth o dywydd yr haf, neu os bydd gwres mewnol yr adeilad yn y gaeaf yn treiddio i fyny'r grisiau i'r ystafell ddiogel. Mae’r ardal storio archifau wedi’idylunio gyda 25 mlynedd o le i ehangu ar gyfer y casgliadau, sef y disgwyliad oes safonol ar gyfer adeilad o’r fath. Bydd y symudiad yn gyfle da i'r Gwasanaeth dderbyn derbyniadaumawr o ddeunydd archif unwaith eto, rhywbeth nad yw wedi gallu ei wneud ers rhaiblynyddoedd oherwydd diffyg lle yn ei ystafelloedd diogel. Mae Hyb Stryd Rhydychen yn fuddsoddiad sylweddol gan Gyngor Abertawe i adfywio canol y ddinas. Mae’r buddsoddiad hefyd wedi bod yn bosibl drwy grant gan gronfa

‘Trawsnewid Trefi’ Llywodraeth Cymru. Uno amodau cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect yr Hyb yw y bydd y Cyngor, ar yr un pryd, yn cynnal astudiaeth o'r posibilrwydd o greu un storfa archifau 'addas i'r diben' yn Abertawe, afydd yn gallu bod yn gartref i nifer o bartneriaid a all, ar y cyd, sicrhau mynediad i’n treftadaeth gyda buddion hirdymor ar gyfer cenedlaethau nawr a’r dyfodol. Y partneriaid sy'n cymryd rhan ywein dau riant awdurdod lleol a'r ddwy brifysgol yn Abertawe.

Yn y sector archifau, nid dim ond Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg (WGAS) sy’n brwydro i adfer ei sylfaen defnyddwyr cyn-2020, ac mae’n ymddangos mai’r consensws ymhlith cydweithwyr yng Nghymru a Lloegr ywmai haneswyr teulu yw’r grŵp sydd leiaf tebygol o ddychwelyd i ddefnyddio archifau, o ystyried bod y rhan fwyaf o adnoddau hanes teulu bellach ar gael ar-lein ar sail tanysgrifio neu dalu-fesul-tro. Tanysgrifiodd llawer mwy o bobl yn ystod y cyfnodau clo Covid ac nid ydynt wedi dychwelyd atom. Fodd bynnag, mae'n amhosib gwrthod y symudiad i’r byd digidol, ac mae'r datblygiad mewn adnoddau ar-lein i'wgroesawu i'r llu o bobl sy'n byw yn rhy bello'r ardal i ymweld yn bersonol. Bydd yn rhaid i ni ddysgu i werthfawrogi defnyddio’r archifau o bellcymaint ag yr ydym yn gwerthfawrogi mynediad corfforol iddynt.

Ail-agorodd Man Mynediad Archifau Castell-nedd i’r cyhoedd ar 25 Ebrill 2022 ar ôl bwlch o ddwy flynedd

Yn gwella adnodd ar-lein presennol, roedd y cwmni gwefan Ancestry yn yr archifau yn ystod yr hydref i ail-ddigideiddio ein cofrestrau plwyf mewn manylder uwch a lliwllawn. Nid digideiddio cofnodion papur a memrwn yw’r unig ffordd mae’r Gwasanaeth Archifau yn ymateb i’r symudiad i ddigidol ac mae’n dod yn fwy o fater brys i’r Gwasanaeth greu ystorfa ddigidol ar gyfer cofnodion digidol o’r dechrau (cofnodion sydd ddim ond erioed wedi bodoli ar ffurf electronig). Yn ystod y flwyddyn mae gwaith wedi symud ymlaen tuag at ddull consortiwm o ymdrin â hyn ledledCymru, ac mae’r Gwasanaeth Archifau yn chwarae rhan adeiladol yn y broses hon, sy’n cael ei harwain gan Archifau Morgannwg. Dylid sôn hefyd am wirfoddolwyr o Gymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg(CHTM) sydd wedi dychwelyd ar ôl dwyflynedd i barhau â’r gwaith o fynegeio rhai o’n harchifau eraill sy’n gyforiog o enwau sydd oddiddordeb i achyddion. Ar ôl cyfnod mor hir, mae’n bleser croesawu hen ffrindiau yn ôl yn ogystal â chenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr. Yn fwy diweddar mae Cangen Abertawe o CHTM wedi bod yn cynnal eu cyfarfodydd misol yn ein Canolfan Hanes Teulu, rheswm arall i ddathlu ac adnewyddu ein cysylltiadau agos â’r gymuned o haneswyr teulu.

Ymweliad disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, mis Mawrth

This article is from: