
1 minute read
Ein gwaith gydag ysgolion
Un o’r arwyddion mwyaf calonogol o adferiad eleni fu dychwelyd sesiynau addysg wyneb yn wyneb yn ystafell chwilio’r archifau, ar ôl sawl blwyddyn o weithgarwch ar-lein yn unig gydag ysgolion.
Yr ysgol gyntaf i ymweld â’r archifau ers y pandemigoedd Ysgol Gynradd Tre-gŵyr a archebodd bedair sesiwn ym mis Hydref a Thachwedd i astudio trychineb Glofa Elba ym 1905, a laddodd unar ddeg o ddynion Tre-gŵyr. Ar wahân i Dre-gŵyr, mae'r ysgolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth eleni wedi cynnwys Bryn Tawe, Clydach, Cwmrhydyceirw, Pen-y-bryn, St Thomas, Tirdeunawa Townhill.
Advertisement


Ymgysylltodd cyfanswm o 505 o ddisgyblion â’rgwasanaeth yn 2022/23.

Ailedrych ar ein catalogau
Ymunodd y Gwasanaeth
Archifau â chais Cymru gyfan am arian o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon
CymruWrth-hiliol, a fu'n llwyddiannus. Bydd ygwaith yn cynnwys dwy ffrwd waith –chwilio am derminoleghen ffasiwn yn ein catalogau a chodi ymwybyddiaeth staff o hiliaeth. Yn anffodus, methodd trydedd ffrwd waith ar gyfer digideiddio a gwe-osod deunydd archifol yn ymwneud â chysylltiadau Cymru â’r fasnach gaethweision drawsatlantig hanesyddol sicrhau cyllid.

Gweithio gyda chwricwlwm newydd Cymru
Mae staff yr archifau hefyd wedi bod yn rhan o drafodaethau am y defnydd o archifau i ddiwallu anghenion y Cwricwlwm newydd i Gymru wrth addysgu disgyblion sut i ymchwilio i’whardal leol. Bydd cam cyntaf y prosiect hwn yn cynnwys ysgolion cynradd dethol yn defnyddio adnoddau archifol WGAS i ddatblygu cwestiwn ymchwil a dechrau eu hymchwil. Bydd WGAS yn cynhyrchu fideo iddynt ar sut i ddechrau. Yn yr ail gam, rhagwelir y bydd yr ysgolion cynradd yn gweithio gyda'u hysgolion uwchradd cysylltiedigi ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'u hardal leol a sut mae wedi datblygu dros amser. Yn y trydydd cam, bydd yr ysgolion yn cynhyrchu fideo neu gofnod arall o'u taith gydweithredol ysgol gynradd/uwchradd.
Andrew Dulley yn croesawu ymweliad gan aelodau Eglwys