
1 minute read
Ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd
Dros y blynyddoedd, mae Archifau Gorllewin Morgannwg wedi gweithio gyda phartneriaid sefydliadol eraill ar nifer o brosiectau arloesol. Mae'r Gwasanaeth Archifau yn parhau i chwarae ei ran mewn prosiectau creadigol sy'n ysgogi'r meddwlac mae nifer o'n cydweithrediadau yn cael sylw yma.
Archif Ddarlledu Cymru
Advertisement
Fel yr adroddwyd y llynedd, bydd y Ganolfan HanesTeulu yn
Abertawe yn lleoliad ar gyfer

‘Corneli Clip’ neu’nbwynt mynediad i archifau sawl cwmni teledu Cymreig (BBC Cymru, S4C a HTV Cymru) trwy gyfrwng y partner arweiniol yn Llyfrgell
Genedlaethol Cymru, sydd â’r tapiau gwreiddiol.
Rhagwelir y bydd y cyfleuster hwn yn agor yn haf 2023 fel un o'r casgliad cyntaf o Gorneli Clip i gael ei agor ledled Cymru gan LlGC.
The World Reimagined


Wedi'i gynnal gan Gyngor Abertawe trwyei adran Gwasanaethau Diwylliannol, a’i noddi a'i gefnogi gan amrywiaeth o bartneriaid yn y ddinas ac ysgolion, roedd The World Reimagined yn brosiect celfyddydol arloesol a gynhaliwyd ddiwedd haf a hydref 2022. Gwelwyd set o globau a gomisiynwyd gan artistiaid yn cael eu gosod ar hyd llwybr trwy ganol Abertawe, pob un yn gysylltiedig â thema sy'n ein cysylltu â'r fasnach gaethweision trawsatlantig hanesyddol, â hanesion gwladychiaeth yn y gorffennol a'u hatseiniau yn y presennol.

Ochr yn ochr â sefydliadau diwylliannol a threftadaeth eraill y ddinas, roedd yr Archifau yn falch o fod yn rhan o’r prosiect partneriaeth hwn ac yn arbennig i helpu tîm y prosiect i greu’r naratif hanesyddol cysylltiedig.

Mae’r niferoedd sy’n defnyddio’r archifau yn
AbertaweaChastell-neddwedi parhauiwellaondnidydyntyn agosaty4,957agofnodwydyn
2019/20 ychydig cyn y pandemig.Foddbynnag,mae ffigur2022/3bronyndeirgwaith ffigur y llynedd o 679. Yn
2020/1 dim ond 98 o ymweliadauagofnodwyd.
Cyfanswmaelodau'r cyhoeddaymweloddâ'r
GwasanaethArchifauyn ystod2022-2023:1,962
2022/23 MEWN RHIFAU
42 ymholiadaudrwy'r post 127 niferytocynnaua roddwydargyfer darllenwyrnewydd
505 niferydisgyblionac athrawonoeddyn bresennolmewn sesiynauiysgolion
2,251 niferyre-bysta atebwyd
6,189 dilynwyrargyfryngau cymdeithasol
6,604 niferydogfennauyr ymgynghorwydânhw yneinhystafell ymchwilioyn
AbertaweaChastellnedd
83,150 niferytudalennaua welwydo'ncatalogau arwefanyrHwb
Archifau
251,442 cofnodionynein catalogar-lein
452,638 yniferaroddoddeu barnameincofnodion digidolarwefanhanes teulu Ancestry
Gangynnwys:
Abertawe 1,424
Castell-nedd 131 Ymweliadaugrŵp 407
Ar ddiwedd 2022, cymerodd yr Archifau ran unwaith eto yn yr Arolwg o Ymwelwyr ag Archifau’r DU, er nad yw’r canlyniadau ar gael eto. Mae hwn yn arolwg ansoddol o archifau Prydain, gan gofnodi profiad defnyddwyr a boddhad cwsmeriaid.
Gyda thranc arolwg ystadegol blynyddol
CIPFA, mae bron yn amhosibl cymharu


WGAS yn feintiol ag eraill.
Yn anecdotaidd, mae pob gwasanaeth ar draws y DU yn wynebu’r un heriau o golli o leiaf rhywfaint o’u sylfaen defnyddwyr sefydledig.
Y dudalen nesaf: detholiad o bostiadau cyfryngau cymdeithasol gennym ni ac amdanom yn ystod y flwyddyn




