1 minute read
Staff
Cyrhaeddodd Don Rodgers, a fu’n aelod o staff ers tro, oedran ymddeol ddiwedd mis Mawrth, gan adael ei swydd fel Cynorthwyydd Archifau, er y bydd yn parhau yn ei swydd arall fel Rheolwr Swyddfa gan weithio un diwrnod yr wythnos.
Roeddem wrth ein bodd, ar ôl bwlch o sawl blwyddyn, gallu recriwtio Hyfforddai Archif newydd, a dechreuodd Bethany Amos o’r Fenni gyda ni ym mis Mawrth. Mae hi wedi ysgrifennu erthygl hanes lleol ymhellach ymlaen yn yr adroddiad hwn.
Advertisement
Gyda thristwch mawr y mae’n rhaid imiadrodd am farwolaeth sydyn ac annisgwyl un o’n cynaelodau o staff, Rosemary Davies, ym mis Ionawr. Fel archifydd ag arbenigedd mewn hanes teulu, roedd Rosemary’n wyneb cyfarwydd y tu ôl i'r cownter i lawer o'n hymchwilwyr, yn enwedig y rhai oedd yn ymweld â'n lleoliadau archifau yng Nghastell-nedd a Phort Talbot.
Diolchiadau
Mae cadeirydd ac aelodau Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg wedi parhau i ddangos eu diddordeb a’u cefnogaeth i waith y Gwasanaeth yn ystod y flwyddyn, ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Hoffwn hefyd nodi fy niolch i Gymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd am gynorthwyo i ailagor Sefydliad Mecaneg Castell-nedd.
Kim Collis
Archifydd y Sir Gorllewin Morgannwg
Mai 2023
Aelod o staff archif wedi ymddeol Elizabeth Belcham yn y stondin gyfagos yn Ffair Hanes Lleol Abertawe ym mis Hydref. Daeth help ar gyfer stondin WGAS gan un arall o'n hymddeolwyr, Liza Osborne