![](https://assets.isu.pub/document-structure/230616161421-41b9048e0dbde0dde55cf005ce9efb50/v1/573dbb91c8911ba88a18940510d3991e.jpeg?width=720&quality=85%2C50)
4 minute read
Adeiladu a chadw eincasgliadau
Cofrestr plwyf sy’n aros am waith cadwraeth yn Archifau Gwynedd, rydym yn rhoi'r rhan fwyaf o'n gwaith cadwraeth ar gontract allanol iddynt. Mae'r lluniau canlynol yn dangos ei thrawsnewidiad.
Prif rôl y Gwasanaeth Archifau ywcadw ein treftadaeth ddogfennoler budd cenedlaethau'r dyfodol, gan dderbyn rhoddion ac adneuon ychwanegol o ddeunydd archif tra'n cynnal a datblygu'r graddau eithaf o fynediad i'r casgliadau sydd dan ein gofal. Mae sawlelfen i'r gwaith hwn gan gynnwys chwilio am dderbyniadau newydd o archifau a’u derbyn, glanhau, gosod mewn blychau a chadw yr hyn sydd gennym eisoes, yna catalogio a rhoi cyhoeddusrwydd i'n casgliadau. Mae'r rhan fwyaf o'n gwaith cadwraeth yn cael ei wneud dan gontract gydag uned gadwraeth Archifau Gwynedd yn eu prif bencadlys yng Nghaernarfon. Mae'r lluniau yn yr adran hon yn dangos sut mae gwaith cadwraeth yno ar ein casgliadau yn dod â'n dogfennau yn ôl i gyflwr defnyddiadwy.
Advertisement
Yn ystod y flwyddyn, mae'r Gwasanaeth Archifau wedi parhau i gasglu deunydd o werth archifol sy'n ymwneud â'n dwy ardal awdurdod lleol gan sefydliadau ac unigolion. Mae rhestr lawn o'r derbyniadau a dderbyniwyd yn 2022/23 i'wgweld isod yn Atodiad 2 ac mae nifer o'r derbyniadau mwyaf diddorol i'wgweld yn ein hadran isod sy'n cynnwys erthyglau hanes lleol. Dyma rai uchafbwyntiau allweddol.
Mae pandemig Covid wedi cael yr effaith anffodus o gau rhai o gapeli ein hardal leol yn gynt. Mae achlysuron o’rfath yn anorfod yn destun tristwch i weddillyr aelodau ac mae’n bwysig bod y cofnodion sy’n bodoli’n cael eu cadw, i gydnabod ymdrechion y gynulleidfa a lle’r capel yn ei gymuned, ac yn wyneb eu gwerth fel adnodd ideuluoedd a haneswyr lleol. Derbyniwyd dau gasgliad nodedig, gan Gorphwysfa yn Sgiwen (Methodistiaid Calfinaidd) a Bethel, Llansamlet (Annibynwyr Cymraeg), a ddisgrifir yn fanylach mewn erthygl gan AndrewDulley yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.
Yn 2018, i goffáu canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, gwnaeth y gwasanaeth ddigideiddio a mynegeio’r rhestrau anrhydeddau sydd ganddo. Mae hyn yn ei dro wedi arwain at gyfraniadau o lawer mwy o restrau anrhydeddau. Derbyniwyd tri yn ystod y flwyddyn adrodd, o Gorphwysfa, Sgiwen, Tabernacl yng Nghwmrhydyceirwa Bethania, Castell-nedd. Yn eu plith mae enghreifftiau gwych o galigraffia chelfyddyd, ac mae'r wybodaeth am y dynion o'u cynulleidfaoedd a aeth i ymladd yn y rhyfel yn amhrisiadwy. Maent yn cael eu hychwanegu at yr adnodd ar-lein, afydd yn cael ei ddiweddaru mewn pryd ar gyfer Sul y Cofio eleni.
Mae’n bosibl mai’r côr meibion lleolenwocaf a’r un sydd wedi teithio’n fwyaf helaeth ywCôr Orffews Treforys, a phleser mawr oedd i’r Gwasanaeth dderbyn archif sylweddol y côr, wedi’i gasglu a’i drefnu, yn gynharach eleni. Mae’r rhain yn cynnwys cofnodion, rhaglenni,ffotograffau a thoriadau ac yn gofnod cydlynol a hanfodol o un o eiconau diwylliannol y rhanbarth. Mae'r cofnodion wrthi’n cael eu rhestru a byddant ar gael maes o law.
![](https://assets.isu.pub/document-structure/230616161421-41b9048e0dbde0dde55cf005ce9efb50/v1/5f28d111ebf7a4e3d7bd8ead70457fb5.jpeg?width=720&quality=85%2C50)
Crybwyllwyd newidiadau i’rgyfraith mewn perthynas â chofrestru priodasau yn adroddiad y llynedd. Roedd y newid hwn yn gwneud yr hollgofrestrau priodas ffurf hir a ddefnyddiwyd, mewn rhywffurf neu’i gilydd, yn ddiangen ers 1837, ac yna dychwelwyd yr hollgofrestrau cyfredol i’r cofrestrydd lleol i’wcau, cyn eu cynnig naillai i’r periglor, gweinidog neu ysgrifennydd, neu i'r Gwasanaeth Archifau. O ganlyniad, ac yn dilyn ymgyrch ar y cyd, rydym wedi derbyn set lawn o gofrestrau priodas gan y rhan fwyaf o eglwysi a llawer o gapeli Rhanbarth Cofrestru Abertawe. Mae’r trafodaethau dilynol gydag aelodau o’r weinidogaeth wedi arwain at adneuo mathaueraill o gofrestrau hefyd, gan gynnwys cofrestr fedyddio Llangyfelach oedd ‘ar goll’tan nawr, a rannwyd am gyfnod gyda Threforys, a rhagor o gofnodion gan St James Abertawe, Ystumllwynarth ac Ystalyfera.
Mae rhai casgliadau ffotograffigpwysig hefyd wedi dod i law yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, albwm a luniwyd gan G. Elfed Jones o Gwmbwrla, sy'n dangos llawer o olygfeydd o'r dref nas gwelwyd o'r blaen, gan gynnwys gêm denis yn San Helen ym 1939,goleuadau i ddathlu coroni Siôr VI, a llun o’r tu mewn iWeithfeydd Cwmfelin. Mae’r casgliad hwn yn destun erthygl yn adroddiad eleni gan Emma Laycock.
Yn yr un modd, cawsom fwy o gasgliad Derek Gabriel, ffotograffydd amatur a ddogfennodd y newidiadau a welodd yn digwydd yng nghanol Abertawe a'i faestref enedigol, Sandfields, yn fedrus. Roedd wedi trefnu ei ffotograffau yn thematig yn gasgliad tair cyfrol o'r enw'Lovely Ugly Swansea', sy'n ymestyn o'r 1960au i'r1990au, cyfnod pan oedd gwaith ailadeiladu cychwynnol Abertawe ar ôl y Rhyfel wedi'i gwblhau, ond roedd gwaith pellach i resymoli a moderneiddio'r ddinas yn dal i fynd rhagddo. Mae yma ddelweddau o adeiladau cyn ac ar ôl eu dymchwel, panoramâu a golygfeydd o strydoedd, siopau eiconig, eglwysi ac adeiladau amlwg eraill, a hyd yn oed luniau o anifeiliaid syrcas, camelod ac eliffantod, yn cerdded arhyd Ffordd San Helen yn y 1970au.
O'r holl archifau ffotograffig a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn, efallai mai'r un bwysicaf yw Casgliad Ffotograffau Llyfrgell Abertawe. Mae'n helaeth acfe'i casglwyd dros sawl degawd. O ran cwmpas, mae’n debyg i’rcasgliad o ffotograffau a gasglwyd yn Archifau Dinas Abertawe (bellach yn Archifau Gorllewin Morgannwg), ac er bod disgwyl cryn ddyblygu, ychydig iawn sydd mewn gwirionedd, ac mae mwyafrif y lluniau’n newydd i ni. Cadwyd y drefn wreiddiol drwyddi draw: ceir golygfeydd o'rawyr, ffotograffau portread o enwogion a phobl leol bwysig, ffotograffau o adeiladau, dociau, parciau a gerddi, strydoedd (yn nhrefn yr wyddor), trafnidiaeth a'r Ail Ryfel Byd. Mae rhestr ar lefel ffeil, ond mae catalogmanwl ar lefel eitem yn y broses o gael ei baratoi i hwyluso mynediad.
![](https://assets.isu.pub/document-structure/230616161421-41b9048e0dbde0dde55cf005ce9efb50/v1/2a2c8fbfd7ab25212a36c51a4090efb6.jpeg?width=720&quality=85%2C50)
Rhoddwyd y cofnodion cynharaf a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn adrodd trwy garedigrwydd ymchwilydd a’u prynodd mewn arwerthiant ar-lein. Gweithredoedd teitl cynnar yw’r rhain, sydd â’u tarddiad yn aneglur, ond mae eu cyflwr cadwraeth a’r ardal ddaearyddol y maent yn dod ohoni yn awgrymu eu bod i gyd yn dod o’r un ffynhonnell, a allai fod wedi bod yn swyddfa cyfreithiwr. Gweithredoedd teitl eiddo amrywiol yng Nghastell-nedd a’r cyffiniau a rhan uchaf Cwm Tawe yw’r rhain, ac maent yn dyddio o gyfnod y Tuduriaid hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae eu hysgrifen bŵlyn cofnodi bywydau trigolion Castell-nedd a oedd yn bywadeg Elisabeth I ac nad yw eu henwau yn hysbys o gofnodion eraill. Bydd rhestru'r rhain yn cymryd llawer o amser, ond bydd y catalog gorffenedig yn cynnwys calendr traddodiadol o'r gweithredoedd, i helpu iddarparu mynediad iddynt.
Yn 2026 bydd canmlwyddiant y Ddeddf Mabwysiadu Plant gyntaf, a wnaeth fabwysiadu’n gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr, gan arwain at sefydlu asiantaethau ar gyfer mabwysiadu gan gynnwys llywodraeth leol yn ddiweddarach. Gan y bydd y cofnodion cynharaf hefyd yn 100 oed cyn bo hir,mae archifau ledled y wlad yn ymchwilio i oroesiad a lleoliad y cofnodion cynharaf hyn ac yn eiriol dros eu cadwmewn archifau lleol. Byddant o ddiddordeb i haneswyr teuluol a chymdeithasol. Bydd llwyddiant y prosiect yn dibynnu'n fawrar gydweithrediad a chefnogaeth ystod eang o weithwyr proffesiynol cadwcofnodion a gofal ar draws llywodraeth leol a'r sector annibynnol i sicrhau bod setiau data cenedlaethol o gofnodion mabwysiadu yn llawn ac yn gywir.