Gwˆ yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Crynodeb Gweithredol y Cynllun Rheoli
Rhagair
ae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gwˆyr (AHNE) mewn sefyllfa ffodus gan mai dyma’r AHNE gyntaf i’w dynodi yn y DU ym 1956. Mae’n briodol felly bod y cynllun rheoli newydd hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod dathliadau 50fed Pen-blwydd yr achlysur hapus hwnnw.
M
Mae llawer wedi digwydd yn ystod y degawdau ers hynny a chafwyd llu o newidiadau: ym myd amaethyddiaeth; patrymau gwaith pobl; datblygiad y diwydiant twristiaeth; a phwysigrwydd cynyddol yr amgylchedd naturiol fel un o’n hasedau mwyaf gwerthfawr, i nodi ond ychydig. Mae’r ffaith fod ansawdd tirwedd Gwˆyr a’i harddwch naturiol wedi aros bron yn ddigyfnewid er gwaethaf y newidiadau yn deyrnged i arloeswyr cynnar yr AHNE a’r rheiny sydd wedi rheoli a gofalu am fro Gwˆyr er 1956. O ganlyniad i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 rhoddwyd grym statudol i gynlluniau rheoli’r AHNE am y tro cyntaf am ei bod yn ofynnol i awdurdodau AHNE lunio cynlluniau cyfoes. Mae’r Cynllun Rheoli a gyhoeddir yma yn gosod y sylfaen ar gyfer sicrhau tirwedd Gwˆyr, a diogelir ac amddiffynnir y rhinweddau penodol sy’n rhoi arbenigrwydd iddi. Mae’r cynllun yn ganlyniad i ymgynghori a chyfranogaeth eang â phartneriaid dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf mewn cyfarfodydd, grwpiau ffocws, ymweliadau safle, cyflwyniadau, ac ymgynghoriadau ffurfiol ac anffurfiol. Hoffwn ddiolch i bawb Crynodeb Gweithredol y Cynllun Rheoli
sydd wedi rhoi o’u hamser i gyfrannu at y ddogfen hon ac sydd wedi cyflwyno sylwadau neu adborth arall drwy gydol y broses. Mae’n dda cael nodi bod cynifer o sefydliadau ac unigolion yn gwerthfawrogi Gwˆyr ac yn awyddus i ddiogelu ei dyfodol. Ni ddylid ystyried cyhoeddi’r cynllun hwn fel diwedd y broses. Mae llawer o waith i’w wneud eto ac mae’r Cynllun Gweithredu’n nodi rhai o’r meysydd hyn. Bydd llwyddiant yn dibynnu ar bartneriaid y Cyngor a phawb sydd â diddordeb yn nyfodol Gwˆyr, yn gweithio gyda’i gilydd i gadw a gwella harddwch naturiol Gwˆ yr, ei chymunedau a’i threftadaeth adeileddol, a nodweddion neilltuol eraill, er mwyn cadw’r ardal fel lle arbennig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Y Cyng. John Hague, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd Mehefin 2006
Prif awdur: Richard Beale MRTPI, Prif Swyddog Polisi, Gwasanaethau Cynllunio, Adran yr Amgylchedd, Dinas a Sir Abertawe Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach am gynnwys y ddogfen hon, neu os hoffech ei chael mewn fformat arall neu gael copïau ychwanegol ohoni, neu os hoffech gyflwyno sylwadau yn ei chylch, anfonwch nhw at Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adran yr Amgylchedd, Dinas a Sir Abertawe, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PH. Ffôn 01792 635094 neu e-bost goweraonb@swansea.gov.uk Crynodeb Gweithredol y Cynllun Rheoli
Crynodeb Gweithredol
Rhosili A Phen Pyrrod
E.1. Dynodwyd penrhyn Gwˆ yr (ac eithrio’r gornel ogledd-ddwyreiniol) yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ym 1956 am ansawdd ac amrywiaeth y tirweddau a’r golygfeydd cysylltiedig a’r ffaith bod cymaint o’r amrywiaeth hwn yn digwydd mewn ardal mor fach. Mae safon uchel tirweddau arfordirol a golygfeydd morol y penrhyn yn cyfrannu at y morlun ac mae ei rhostiroedd tir comin yn cynnig golygfeydd gwych ar draws y tir amaethyddol a’r arfordir o gwmpas. E.2. Prif ddiben Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yw cadw a gwella harddwch naturiol yr ardal ddynodedig. Mae cadw planhigion ac anifeiliaid, tirwedd a daeareg pob AHNE yn ganolog i’r dynodiad ond mae patrymau anheddu lleol, nodweddion treftadaeth hynafol, ac arddulliau pensaernïol lleol hefyd yn elfen bwysig iawn o gymeriad Gwˆyr a’r ymdeimlad o le a hefyd y bobl sy’n byw ac yn gweithio yno a’r traddodiadau diwylliannol sydd wedi datblygu dros y cenedlaethau. Crynodeb Gweithredol y Cynllun Rheoli
E.3. Mae’r ardal ddynodedig yn cwmpasu 188 cilometr sgwâr (73 milltir sgwâr) ac mae 59 cilometr (37 milltir) o’r arfordir hefyd wedi’i ddynodi’n Arfordir Treftadaeth. Mae daeareg gymhleth yn creu amrywiaeth mawr o olygfeydd. Mae’n amrywio o glogwyni calchfaen garbonifferaidd ysblennydd arfordir y de rhwng Pen Pyrod a Bae Oxwich i’r morfeydd heli helaeth yn y gogledd a systemau twyni’r prif faeau yn Rhosili, Broughton, Porth Einon, ac Oxwich. Ym mherfedd gwlad yr hyn sydd fwyaf amlwg yw cefnau rhostiroedd tywodfaen Twyn Rhosili a Chefn Bryn. Rhyngddynt, wedi’u gwasgaru ar draws y penrhyn, ceir dyffrynnoedd afonydd diarffordd, traethau a chilfachau bychan, coetiroedd llydanddail cyfoethog, pentrefi tlws a chlytwaith o gaeau gyda’u nodweddion traddodiadol o furiau a chloddiau cerrig, a pherthi. E.4. Adlewyrchir ansawdd harddwch naturiol Gwˆyr gan y safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol niferus a ddynodwyd am resymau cadwraeth natur gan gynnwys 25 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, 5 Ardal Gadwraeth Arbennig, 1 Ardal Amddiffyn Arbennig, 1 safle Ramsar, 3 Gwarchodfa Natur Genedlaethol, a 3 Gwarchodfa Natur Leol. Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth eang o safleoedd bywyd gwyllt a daearegol pwysig. Er bod cryn dipyn o wybodaeth eisoes ar gael amdanynt, mae’r cynllun wedi nodi’r angen am gasglu mwy o wybodaeth am eu cyflwr.
Crynodeb Gweithredol y Cynllun Rheoli
E.5. Mae’r nodweddion diwylliannol (y dreftadaeth adeileddol) yn cynnwys 83 o henebion rhestredig, dwy ardal o dirweddau hanesyddol pwysig, pedwar parc a gardd hanesyddol, 126 adeilad cofrestredig, a 17 ardal gadwraeth. Mae’r rhain yn ymwneud â thraddodiadau diwylliannol megis addoliad crefyddol, adeileddau amddiffynnol, ffermio a’r ystadau lleol, a hefyd pysgota, gan gynnwys casglu cocos. Bu trigfannau a gweithgaredd dynol ym mro Gwˆyr er Oes y Cerrig ac mae llawer o dystiolaeth weledol o anheddu blaenorol ar gael. O gael y fath gyfoeth o nodweddion naturiol ac adeileddol nid yw’n syndod bod Gwˆyr yn boblogaidd ymhlith arlunwyr a ffotograffwyr a grwpiau astudiaethau maes. E.6. Mae’r cynllun rheoli’n ceisio cadw a chynnal y nodweddion cynhenid hyn am yr 20 mlynedd nesaf. Y rhain sy’n diffinio cymeriad Gwˆyr ac sy’n sylfaen i’r diwydiant twristiaeth llwyddiannus. Ar yr un pryd, mae gan y diwydiant amaethyddol a chymunedau lleol eu rhan sylweddol hefyd wrth reoli llawer o’r elfennau sy’n cyfrannu at yr ymdeimlad o le ym mro Gwˆyr. O gofio hyn ac yn dilyn proses o ymgynghori eang, cytunwyd ar weledigaeth 20 mlynedd ar gyfer yr AHNE ac mae’r cynllun rheoli’n ceisio sicrhau’r canlynol:
Crynodeb Gweithredol y Cynllun Rheoli
E.7. Bod trigolion ac ymwelwyr yn cydnabod Gw ˆ yr fel tirwedd o bwysigrwydd rhyngwladol sy’n cael ei hamddiffyn, lle mae’r berthynas rhwng pobl a natur dros amser wedi creu ardal o gymeriad unigryw lle ceir gwerth esthetig, ecolegol a diwylliannol, ac amrywiaeth biolegol sylweddol. Bydd ei harddwch naturiol yn cael ei gynnal drwy gadwraeth a gwella ei nodweddion naturiol arbennig, ac ar yr un pryd, yn cynnal economi leol gynaliadwy a chynnal cymunedau sy’n ddiwylliannol gyfoethog, a hynny wedi’i adlewyrchu gan safon a maint yr amgylchedd adeileddol. E.8. Mae’r Cynllun hefyd yn amlinellu Strategaeth a ddatblygwyd o’r weledigaeth, ac sydd wedi’i disgrifio ar draws y 14 thema ganlynol: 1. Bywyd gwyllt 2. Daeareg 3. Tirwedd a morlun 4. Treftadaeth ddiwylliannol 5. Adnoddau naturiol 6. Llonyddwch 7. Adnoddau hamdden 8. Diwydiannau sylfaen 9. Twristiaeth 10. Cludiant 11. Cyfleustodau a chysylltiadau 12. Datblygiad a gweithgareddau alltraeth 13. Tai, cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol 14. Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth Crynodeb Gweithredol y Cynllun Rheoli
Llwybr Yr Arfordir Uwchlaw Bae Oxwich E.9. Dan bob un o’r themâu hyn ceir gweledigaeth fanylach ar gyfer y thema honno, ac yna cyfres o bolisïau ac amcanion sy’n mynegi’r nodau tymor hir a’r targedau ar gyfer gweithredu penodol. Mae’r weledigaeth ym mhob thema’n cwmpasu cyfnod o 20 mlynedd tra bod y polisïau, yr amcanion a’r camau gweithredu yn y cynllun gweithredu yn cwmpasu cyfnod o 5 mlynedd hyd at 2009. Mae’r camau gweithredu manwl ym Mhennod 7 yn manylu ar yr amcanion ond nid ydynt wedi’u cynnwys yn y crynodeb gweithredol hwn er eglurder. Mae’r Cynllun Gweithredu’n esbonio sut, pryd a phwy fydd yn rhoi’r strategaeth ar waith, ac mae’n cynnwys camau gweithredu’r Cyngor a sefydliadau eraill er mwyn cyflawni’r amcanion. Y bwriad yw bod hwn yn ffurfio rhaglen dreigl hyd at 2009, a fydd yn cael ei hadolygu bob blwyddyn. Crynodeb Gweithredol y Cynllun Rheoli
E.10. Mae sawl her y bydd yn rhaid eu hwynebu os yw’r cynllun i lwyddo dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae llawer o’r camau gweithredu ar gyfer y pum mlynedd cyntaf yn hanfodol ac maent yn ceisio darparu gwybodaeth llinell sylfaen well er mwyn monitro camau gweithredu’r dyfodol yn effeithiol. Mae’r paragraffau canlynol yn crynhoi rhai o’r materion allweddol: E.11. Mae safon yr aer a’r dwˆr yn dda yn gyffredinol. Mae ansawdd dwˆr y môr yn cyrraedd neu’n rhagori ar safonau gofynnol y GE, a hynny wedi golygu ceisiadau llwyddiannus am y Faner Las a dyfarniadau’r Arfordir Glas. Gallai cynhesu byd-eang yn y dyfodol godi materion ynglyˆn â llifogydd lleol ac effaith bosib hynny ar gynefinoedd a chymunedau. E.12. Nodwyd bod Gwˆyr yn ardal gymharol heddychlon a thawel mewn astudiaethau cenedlaethol diweddar ond mae bygythiad llygredd golau a swˆn a threfoli cynyddol drwy ddatblygiadau ansensitif yn parhau. E.13. Mae hawliau tramwy a thir mynediad yn darparu adnodd hamdden pwysig a chyswllt â’r diwydiant twristiaeth. Dangoswyd pwysigrwydd a gwerth y mynediad hwn i gefn gwlad ledled yr AHNE yn glir yn ystod clwy’r traed a’r genau yn 2001. Ceir 383 cilomedr (235 milltir) o hawliau tramwy a 2,957 hectar (7,306 erw) o dir y gall y cyhoedd gael mynediad iddo. Mae Gwˆyr hefyd yn enwog am ei thraethau tywod: mae gan bedwar Wobrau’r Faner Las, a phedwar arall Wobrau’r Arfordir Glas (traethau mwy gwledig). Mae pwysigrwydd mynediad i gefn gwlad yn cynyddu ac mae materion mynediad wedi’u hamlygu yn dilyn y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. Crynodeb Gweithredol y Cynllun Rheoli
E.14. Amaethyddiaeth yw un o brif ddiwydiannau Gwˆyr o hyd er gwaethaf y dirywiadau diweddar yn y diwydiant. Mae gofalu a rheoli’r dirwedd yn y dyfodol, a’i ansawdd, yn dibynnu’n fawr ar weithgareddau ffermwyr. Mae’n bosib y bydd diwygiadau i Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE a ddaeth i rym yn 2005 yn helpu i gynnal ffermydd Gwˆyr ond gallai hefyd greu pwysau ac effeithio ar eu dichonolrwydd mewn ffyrdd na ellir eu rhagweld eto. Mae tir comin a choetiroedd yn nodweddion pwysig yn yr AHNE ac mae eu cyflwr a’u rheoli wedi’i gysylltu’n agos â ffermio a’r cynlluniau amaethamgylcheddol sy’n datblygu. E.15. Mae gweithgareddau twristiaeth a hamdden yn tyfu yn eu pwysigrwydd o ran cynnal yr economi leol. Gellir priodoli’r rhan fwyaf o’r gwariant twristiaeth (bron £238 miliwn) yn ardal Abertawe, a’r 4,700 o swyddi sy’n gysylltiedig â hynny i Gwˆyr ac atyniad ei nodweddion arbennig. Mae cysyniad twristiaeth gynaliadwy, sy’n ceisio cyfyngu ar yr effaith ar yr amgylchedd a’r diwylliant, ac ar yr un pryd yn helpu i gynhyrchu incwm, swyddi, a chadwraeth systemau ecolegol lleol, yn berthnasol iawn i’r AHNE. E.16. Gallai mastiau ffonau symudol, tyrbinau gwynt a gweithgareddau treillio alltraeth sy’n faterion dadleuol ar hyn o bryd effeithio ar yr AHNE. Mae penderfyniadau ynglyˆn â’r gweithgareddau hyn, a cheisiadau cynllunio, yn rhannol ddibynnol ar bolisïau’r llywodraeth, a bydd yn rhaid ysytyried nodweddion arbennig yr AHNE.
Crynodeb Gweithredol y Cynllun Rheoli
E.17. Mae gan drigolion lleol ac ymwelwyr farn ac uchelgeisiau eglur am ddyfodol yr AHNE. Yn arolwg ymwelwyr Gwˆyr, y traethau a’r cefn gwlad arfordirol oedd ar y brig o ran cyrchfannau ymwelwyr. Dywedodd 74% o’r bobl mai harddwch cyffredinol yr ardal oedd nodwedd bwysicaf Gwˆyr. Cafwyd yr un neges yn arolygon Lleisiau Abertawe yn 2000 a 2002, gyda 83% o’r bobl yn arolwg 2002 yn nodi bod ansawdd yr amgylchedd naturiol yn bwysig iawn i ansawdd eu bywyd. E.18. Cafwyd canlyniadau tebyg yn Arolwg Trigolion Gwˆyr 2005 (‘Gwˆyr Heddiw’): credai 87% o’r bobl a drigai yn yr AHNE bod ansawdd yr amgylchedd a’r dirwedd yn bwysig iawn i ansawdd eu bywyd. Yn yr un modd roedd 98% yn ymwybodol o ddynodiad Gwˆyr fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ar ben hynny, y tair nodwedd dirwedd a roddai ei chymeriad arbennig ac unigryw i Gwˆyr yn ôl y rhan fwyaf o drigolion oedd y traethau tywod (1af), y clogwyni (2il), a’r tiroedd comin (3ydd).
Machlud haul ym Mro Gw ˆ yr Crynodeb Gweithredol y Cynllun Rheoli