Arweiniad i ...
Wasanaethau'r Cyngor i Fyfyrwyr Prifysgol yn Abertaw e
Croeso i Abertawe Mae gan Abertawe lawer i'w gynnig i fyfyrwyr. O'r ardaloedd siopa ac adloniant bywiog yng nghanol y ddinas i Benrhyn Gŵyr hyfryd, rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser yma. I'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar fywyd yn Abertawe, mae'r Gwasanaeth Tai ac Amddiffyn y Cyhoedd wedi creu'r arweiniad hwn i wasanaethau a ddarperir gan y cyngor. Mae'r wybodaeth wedi'i dylunio er mwyn helpu i sicrhau cyfnod diogel a phleserus i chi, myfyrwyr eraill a thrigolion Abertawe. Os oes angen rhagor o gyngor ar yr wybodaeth yma arnoch, gallwch ddod i'n gweld yn y Ganolfan Ddinesig ar Heol Ystumllwynarth, ffonio Canolfan Alwadau'r Amgylchedd ar 01792 635600 neu e-bostio evh@swansea.gov.uk neu transportation.engineering@swansea.gov.uk Mae llawer o wybodaeth a chyngor defnyddiol ar ein gwefan hefyd . www.abertawe.gov.uk

Gŵyr
Parcio
Oherwydd ei harfordir clasurol a'i hamgylchedd naturiol eithriadol, Gŵyr oedd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) gyntaf i gael ei dynodi ym 1956.
Mae'n bosib y bydd trwyddedau parcio i breswylwyr ar gael i fyfyrwyr sy'n byw yn Abertawe. Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais sydd ar gael o'r Ganolfan Ddinesig neu o www.abertawe.gov.uk/parking.
Gellir gweld gwybodaeth am yr AoHNE ar ein gwefan, www.abertawe.gov.uk/aonb. Mae taflenni 'Mynd i Gerdded ar y Bws’ ar gael ar gyfer Langland a Caswell, Felindre a Chronfa Ddŵr Lliw Isaf, Rhosili, Penmaen a Llanmadog. Mae pob taith gerdded tua 2 filltir o hyd ac mae llwybr bysus o ganol dinas Abertawe yn eu cysylltu. Felly, gall hyd yn oed y rhai sydd heb gar fwynhau taith gerdded iachus ar benrhyn Gŵyr! Mae copïau o'r teithiau cerdded ar gael yn y Ganolfan Croeso neu gellir eu lawrlwytho o www.dewchifaeabertawe.com. Mae amserlenni bysus Gŵyr ar gael yn www.abertawe.gov.uk/transport. Yn ogystal â cherdded, gall ymwelwyr fwynhau Gŵyr ar y bws, ar y beic, ar gefn ceffyl neu hyd yn oed wrth syrffio'r tonnau. Gyda llawer o weithgareddau eraill yn cael eu cynnig, mae'n anodd peidio â mwynhau eich hun yma.
Oriel
Mae'n rhaid mai chi sy'n gyrru ac yn berchen
ar y cerbyd rydych yn bwriadu cael trwydded ar ei gyfer. Mae'n rhaid i chi gyflwyno dogfen cofrestru'r cerbyd A thrwydded yrru gyfredol. Mae'n rhaid bod y ddwy ddogfen hyn yn dangos enw cywir yr ymgeisydd, ynghyd â'r cyfeiriad yn Abertawe lle bwriedir defnyddio'r drwydded barcio.
Cludiant Cyhoeddus Mae’r cyngor yn gweithredu 3 safle Parcio a Theithio, yng Nglandŵr (ger Stadiwm Liberty), Ffordd Fabian a Fforestfach (Heol Caerfyrddin). Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys mapiau, ar gael ar ein gwefan, www.abertawe.gov.uk/parkandride. Mae Cyngor Abertawe, Veolia a bysus First i gyd yn gweithredu gwasanaethau yn yr ardal.
Langland
Bae'r Tri Chlogwyn
Cronfa Ddŵr Lliw Isaf
Mae Metro Abertawe'n teithio rhwng Ysbyty Treforys ac Ysbyty Singleton gan alw yn Stadiwm Liberty, yr Orsaf Drenau, canol y ddinas a Phrifysgol Abertawe. Gellir cael gwybodaeth am wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys y rhai sy'n mynd i benrhyn Gŵyr, ynghyd â dolenni i ddarparwyr gwasanaethau bysus a threnau yn www.abertawe.gov.uk/transport.
Rhosili
Pen Pyrod
y Mwmbwls

Tacsis
Ailgylchu a Sbwriel
Gofalwch eich bod bob amser yn defnyddio tacsi trwyddedig. Yn Abertawe, mae pob cerbyd hacni'n ddu gyda phlât ar y cefn a sticeri ar yr ochr. Mae pob cerbyd hurio preifat (ac mae'n rhaid eu hurio ymlaen llaw, nid eu stopio yn y stryd) yn wyn gyda phlât ar y cefn a sticeri ar yr ochr hefyd.
Rydym yn cynnig casgliad ymyl y ffordd ar gyfer ailgylchu a gwastraff cartref. Rhennir casgliadau'n wythnosau gwyrdd ac wythnosau pinc. Mae'r wythnos werdd ar gyfer gwastraff cegin, papur a cherdyn, caniau a gwydr a gwastraff gardd.
Mae'n rhaid i yrwyr feddu ar drwydded gan y cyngor a gwisgo bathodyn adnabod â llun bob adeg pan fyddant yn gweithio. Dylai teithwyr sicrhau bod y gyrrwr yn gwisgo bathodyn adnabod a bod y dyddiad arno'n ddilys o hyd. Dylai ail fathodyn gael ei arddangos mewn man amlwg yn y cerbyd. Os ydych yn teithio mewn cerbyd hacni du neu mewn cerbyd hurio preifat gwyn, bydd bathodynnau'n felyn neu'n wyn. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys prisiau cyfredol Cerbydau Hacni a lleoliad y safleoedd, ar gael yn www.abertawe.gov.uk/taxi.
Beicio Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn cysylltu llawer o ardaloedd yn Abertawe â chanol y ddinas. Mae rheseli beiciau ar gael mewn mwy na 30 o leoliadau yng nghanol y ddinas ac yn y Ganolfan Ddinesig hefyd. Ewch i www.abertawe.gov.uk/cycling neu www.dewchifaeabertawe.com am ragor o fanylion.
Cadw'ch beic yn ddiogel
Dylech bob amser glymu'ch beic yn ddiogel wrth wrthrych parhaol, rhesel feiciau o ddewis. Peidiwch â chreu rhwystr i eraill. Sicrhewch fod gennych glo neu gloeau diogel ac, os oes modd, clymwch bob rhan o'r beic y gellir ei symud (e.e. olwynion, sedd) â chlo wrth y rhesel feiciau.
Mae'r wythnos binc ar gyfer gwastraff cegin, plastig a gwastraff cartref.
Defnyddiwch sachau du ar gyfer sbwriel, sachau gwyrdd ar gyfer gwydr, caniau, papur a cherdyn, sachau pinc ar gyfer plastig, bagiau gwyn ar gyfer gwastraff gardd a blychau bach ar gyfer gwastraff cegin. Gallwch gasglu sachau a bagiau ychwanegol mewn mwy nag 80 o leoliadau ar draws Abertawe, gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe ac ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. I gael gwybod ble mae'ch lleoliad agosaf, ewch i www.abertawe.gov.uk/morebags. Rhowch eich sachau/biniau y tu allan i'ch tŷ, naill ai ar y palmant neu wrth ymyl y ffordd, cyn 7am ar eich diwrnod casglu. Mae'n rhaid rhoi popeth yn y sachau cywir ac ni ddylent fod yn rhy drwm na chynnwys eitemau miniog. Os ydych yn gadael sbwriel ar y palmant caiff hyn ei ystyried yn dipio anghyfreithlon a gallech wynebu dirwy o hyd at £20,000. Rydym yn cynnig casgliad gwastraff swmpus ar gyfer eitemau cartref mawr a chodir tâl o £16.50 am hyd at dair eitem. Ffoniwch 01792 635600 i drefnu casgliad. Mae llawer o wybodaeth a chyngor ychwanegol ar ailgylchu ar ein gwefan yn www.abertawe.gov.uk/recycling. I wybod eich diwrnod casglu ailgylchu a sbwriel, ewch i'r wefan www.abertawe.gov.uk/recyclingsearch.

Cysylltiadau Tenantiaeth Nid oes angen i rentu gan landlord preifat fod yn brofiad gwael. Mae llawer o landlordiaid da yn Abertawe sy'n cynnig llety o safon, diogel a fforddiadwy i fyfyrwyr. Dylai pob eiddo fod mewn cyflwr da ac os oes cyfarpar nwy (boeleri, tanau, gwresogyddion etc.), mae'n rhaid eu harchwilio'n flynyddol. Bydd landlordiaid yn gallu dangos tystysgrif tân i ddarpar denantiaid i gadarnhau hyn.
Tai Amlbreswyl (TAB) Tai Amlbreswyl (TAB) yw'r rhan fwyaf o dai lle mae myfyrwyr yn byw. Ystyr hyn yw bod pobl nad ydynt yn perthyn i'w gilydd yn byw mewn eiddo a adeiladwyd yn wreiddiol ar gyfer aelwyd sengl, h.y. teulu. Mae angen trwydded ar rai Tai Amlbreswyl, gan gynnwys pob un yn wardiau'r Castell ac Uplands. Gallwch weld y gofrestr gyhoeddus yn www.abertawe.gov.uk/hmos.
Ar ôl i chi lofnodi cytundeb tenantiaeth, byddwch fel arfer yn atebol
Beth mae landlordiaid yn disgwyl i denantiaid ei wneud? Rhoi gwybod yn brydlon am unrhyw
Rhagofalon tân mewn TAB Mae'r risg o dân yn llawer mwy mewn TAB na mewn cartref teulu, felly mae'n rhaid i landlordiaid roi rhagofalon tân ychwanegol ar waith, er enghraifft, synwyryddion mwg a gwres trydan, drysau sy'n gwrthsefyll tân a chyfarpar ymladd tân. Mae hyn yn berthnasol i bob TAB, ni waeth beth yw ei faint na'i leoliad.
Cytundebau tenantiaeth Mae cytundeb tenantiaeth yn ddogfen gyfreithiol, felly mae'n bwysig eich bod yn ei ddeall cyn i chi ei lofnodi. Sicrhewch eich bod yn cael cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig. Peidiwch â llofnodi unrhyw beth nes eich bod wedi gweld yr eiddo. Peidiwch â llofnodi cytundeb ar yr amod y caiff atgyweiriadau eu gwneud cyn i chi symud i mewn. Mae'n bosib na chaiff yr addewidion hyn eu cadw.
am dalu'r rhent am gyfnod cyfan y contract, hyd yn oed os byddwch yn symud allan. Os ydych yn talu ernes, sicrhewch fod y landlord yn nodi'n glir, yn ysgrifenedig, yr hyn mae'r ernes hon yn berthnasol iddo (h.y. difrod, rhent heb ei dalu etc). Os ydych yn talu tâl cadw dros yr haf, gofynnwch a oes hawl gennych i aros yn yr eiddo. Beth bynnag sy'n cael ei gytuno, sicrhewch fod hyn wedi'i gynnwys yn eich cytundeb tenantiaeth neu'n cael ei ychwanegu ato. Sicrhewch fod eich cytundeb yn glir ynghylch pwy sy'n gyfrifol am dalu biliau cyfleustodau. Os ydych yn byw yn yr un eiddo â'ch landlord, bydd gennych lai o hawliau ac, yn y rhan fwyaf o achosion, gall y landlord eich troi allan heb fynd i'r llys. Trwyddedai fyddwch, nid tenant.
atgyweiriadau angenrheidiol a chaniatáu i'r landlord, neu ei asiant, gael mynediad rhesymol at ddibenion archwilio ac atgyweirio. Ymddwyn mewn modd rhesymol a chwrtais, gan fod yn ystyriol o'r cymdogion a phreswylwyr eraill yr ardal. Bod yn ymwybodol o anghenion y gymuned maent yn byw ynddi. Sicrhau nad oes unrhyw dwrw afresymol, yn enwedig gyda'r nos. Gofalu am yr eiddo, ei gelfi a'i gyfarpar. Trin cyfarpar darganfod ac ymladd tân mewn modd cyfrifol. Rhoi sbwriel cartref ac ailgylchu mewn sachau a'u gadael i'w casglu yn y man priodol, ar y diwrnod priodol. Cadw'r eiddo'n lân ac yn daclus, gan gynnwys yr ardd a'r iard.
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, ffoniwch 01792 635600 neu ebostiwch evh@swansea.gov.uk. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar ein gwefan hefyd: www.abertawe.gov.uk/privaterentedhousing.
Cysylltiadau Tenantiaeth Nid oes angen i rentu gan landlord preifat fod yn brofiad gwael. Mae llawer o landlordiaid da yn Abertawe sy'n cynnig llety o safon, diogel a fforddiadwy i fyfyrwyr.
Ar ôl i chi lofnodi cytundeb tenantiaeth, byddwch fel arfer yn atebol
Dylai pob eiddo fod mewn cyflwr da ac os oes cyfarpar nwy (boeleri, tanau, gwresogyddion etc.), mae'n rhaid eu harchwilio'n flynyddol. Bydd landlordiaid yn gallu dangos tystysgrif tân i ddarpar denantiaid i gadarnhau hyn.
Tai Amlbreswyl (TAB)
Tai Amlbreswyl (TAB) yw'r rhan fwyaf o dai lle mae myfyrwyr yn byw. Ystyr hyn yw bod pobl nad ydynt yn perthyn i'w gilydd yn byw mewn eiddo a adeiladwyd yn wreiddiol ar gyfer aelwyd sengl, h.y. teulu. Mae angen trwydded ar rai Tai Amlbreswyl, gan gynnwys pob un yn wardiau'r Castell ac Uplands. Gallwch weld y gofrestr gyhoeddus yn www.abertawe.gov.uk/hmos.
Beth mae landlordiaid yn disgwyl i denantiaid ei wneud? Rhoi gwybod yn brydlon am unrhyw
Rhagofalon tân mewn TAB Mae'r risg o dân yn llawer mwy mewn TAB na mewn cartref teulu, felly mae'n rhaid i landlordiaid roi rhagofalon tân ychwanegol ar waith, er enghraifft, synwyryddion mwg a gwres trydan, drysau sy'n gwrthsefyll tân a chyfarpar ymladd tân. Mae hyn yn berthnasol i bob TAB, ni waeth beth yw ei faint na'i leoliad.
Cytundebau tenantiaeth Mae cytundeb tenantiaeth yn ddogfen gyfreithiol, felly mae'n bwysig eich bod yn ei ddeall cyn i chi ei lofnodi. Sicrhewch eich bod yn cael cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig. Peidiwch â llofnodi unrhyw beth nes eich bod wedi gweld yr eiddo. Peidiwch â llofnodi cytundeb ar yr amod y caiff atgyweiriadau eu gwneud cyn i chi symud i mewn. Mae'n bosib na chaiff yr addewidion hyn eu cadw.
am dalu'r rhent am gyfnod cyfan y contract, hyd yn oed os byddwch yn symud allan. Os ydych yn talu ernes, sicrhewch fod y landlord yn nodi'n glir, yn ysgrifenedig, yr hyn mae'r ernes hon yn berthnasol iddo (h.y. difrod, rhent heb ei dalu etc). Os ydych yn talu tâl cadw dros yr haf, gofynnwch a oes hawl gennych i aros yn yr eiddo. Beth bynnag sy'n cael ei gytuno, sicrhewch fod hyn wedi'i gynnwys yn eich cytundeb tenantiaeth neu'n cael ei ychwanegu ato. Sicrhewch fod eich cytundeb yn glir ynghylch pwy sy'n gyfrifol am dalu biliau cyfleustodau. Os ydych yn byw yn yr un eiddo â'ch landlord, bydd gennych lai o hawliau ac, yn y rhan fwyaf o achosion, gall y landlord eich troi allan heb fynd i'r llys. Trwyddedai fyddwch, nid tenant.
atgyweiriadau angenrheidiol a chaniatáu i'r landlord, neu ei asiant, gael mynediad rhesymol at ddibenion archwilio ac atgyweirio. Ymddwyn mewn modd rhesymol a chwrtais, gan fod yn ystyriol o'r cymdogion a phreswylwyr eraill yr ardal. Bod yn ymwybodol o anghenion y gymuned maent yn byw ynddi. Sicrhau nad oes unrhyw dwrw afresymol, yn enwedig gyda'r nos. Gofalu am yr eiddo, ei gelfi a'i gyfarpar. Trin cyfarpar darganfod ac ymladd tân mewn modd cyfrifol. Rhoi sbwriel cartref ac ailgylchu mewn sachau a'u gadael i'w casglu yn y man priodol, ar y diwrnod priodol. Cadw'r eiddo'n lân ac yn daclus, gan gynnwys yr ardd a'r iard.
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, ffoniwch 01792 635600 neu ebostiwch evh@swansea.gov.uk. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar ein gwefan hefyd: www.abertawe.gov.uk/privaterentedhousing.
Sŵn Gallwch wneud nifer o bethau i helpu i leihau niwsans sŵn. Peidiwch â gosod seinyddion ar waliau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu clywed cloch y drws uwchlaw'r gerddoriaeth neu'r teledu. Cadwch y sŵn yn isel gyda'r nos. Ewch i'r ardd neu'r stryd i wrando ar y gerddoriaeth - os gallwch ei chlywed, mae'n rhy uchel! Dywedwch wrth eich cymdogion os ydych yn bwriadu cael parti. Peidiwch â defnyddio'r peiriant golchi, y peiriant sychu neu'r sugnwr llwch gyda'r nos. Os byddwch yn creu sŵn ac os bydd rhywun yn cwyno, dyma beth fydd yn digwydd: Os bydd swyddogion y cyngor yn dystion i niwsans sŵn, cyflwynir hysbysiad atal i bawb sy'n gyfrifol, h.y. Pob aelod o'r aelwyd oni bai y gallwch brofi i'r gwrthwyneb. Os ydych yn cydymffurfio â'r hysbysiad, ni chymerir unrhyw gamau pellach. Os nad ydych yn cydymffurfio, cymerir camau pellach yn eich erbyn. 1. Mae'n debygol y caiff rhybuddiad ffurfiol ei gynnig i chi. Os ydych yn derbyn hwn, dyna ddiwedd ar y mater, oni bai eich bod yn tramgwyddo eto. 2. Os ydych yn gwrthod y rhybuddiad ffurfiol, neu os ydych yn tramgwyddo eto, cewch eich erlyn yn Llys yr Ynadon. 3. Os ydych yn parhau i dramgwyddo mae gan y cyngor y pŵer i fynd â'r holl gyfarpar sy'n debygol o gyfrannu at y niwsans, e.e. setiau teledu; chwaraewyr DVD/Blu-ray; cyfarpar stereo; radios; gemau cyfrifiadur a chyfrifiaduron. Bydd y cyngor yn cadw'r rhain nes daw'r achos llys i ben.
4. Os bernir eich bod yn ddieuog o'r tramgwydd, rhoddir y cyfarpar yn ôl i chi. 5. Fodd bynnag, os bernir eich bod yn euog bydd y cyngor yn cyflwyno cais i'r llys i gadw'r cyfarpar a chael gwared arno. 6. Yn ogystal, bydd gennych gofnod troseddol a byddwch yn wynebu dirwy o hyd at £5000 ar y mwyaf. Gall cofnod troseddol gael effaith ddifrifol ar eich bywyd. Bydd unrhyw ddarpar gyflogwr sy'n cyflwyno cais am wiriad o'r cofnodion troseddol yn cael ei hysbysu amdano. Gall hefyd effeithio ar geisiadau am gyllid neu gredyd ariannol ymysg pethau eraill.
Gofalwch rhag clybiau nos swnllyd! Gall gwrando ar gerddoriaeth eithriadol o swnllyd am oriau bob penwythnos fod yn niweidiol i'ch clyw. Mae'n anodd sylwi ar niwed a achosir gan sŵn nes ei bod yn rhy hwyr ac mae'r niwed yn barhaol. Cofiwch fod seiniau'n rhy uchel os... Nad oes modd siarad â rhywun dau fetr oddi wrthych heb weiddi oherwydd sŵn yn y cefndir. Rhowch hoe i'ch clustiau - ewch i fan tawelach. Bydd parhau i fod yng nghanol y lefelau hyn o sŵn am gyfnod hir yn niweidio'ch clyw. Nad ydych yn gallu clywed yn iawn am ychydig oriau, neu os oes gennych sŵn canu yn eich clustiau ar ôl gwrando ar lefelau uchel o sŵn. Dyma arwydd bod y sŵn yn ddigon uchel i niweidio'ch clyw.
Os ydych yn defnyddio clustffonau Peidiwch â throi'r sain i fyny i foddi'r sŵn yn y cefndir. Gall troi'r sain i lawr ychydig wneud gwahaniaeth mawr i'r risg o niweidio'ch clyw. Rhowch hoe i'ch clustiau a pheidiwch â defnyddio clustffonau drwy'r amser. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.abertawe.gov.uk/noise.

Bwyd
Cerdyn Ffyddlondeb Canol y Ddinas
Mae llawer o fathau o facteria'n gallu achosi gwenwyn bwyd. Gall dilyn yr awgrymiadau hyn eich helpu i osgoi profiad cas.
Gallwch arbed arian mewn mwy na 100 o fusnesau yng nghanol dinas Abertawe gyda'n cerdyn ffyddlondeb.
1. Os prynwch fwyd o'r oergell neu'r rhewgell, ewch ag ef adref yn gyflym. 2. Cadwch fwyd amrwd a bwyd sy'n barod i'w fwyta ar wahân - cadwch fwyd amrwd (e.e. cig, pysgod) ar waelod yr oergell - ar blât sydd orau. 3. Sicrhewch fod yr oergell a'r rhewgell yn gweithio'n iawn. Sicrhewch fod yr oergell yn oerach na 5°C a'r rhewgell islaw -18° . 4. Defnyddiwch fwyd erbyn y dyddiad a nodir ar y pecyn, yn enwedig y dyddiadau "DEFNYDDIO ERBYN" (USE BY). 5. Golchwch eich dwylo'n drylwyr cyn paratoi bwyd. Mae dŵr poeth, sebon a thywelion glân, sych yn hanfodol. 6. Cadwch eich cegin yn lân - golchwch arwynebau gwaith ac offer gan sicrhau eu bod yn lân cyn eu defnyddio. Lluniwch rota lanhau a glynwch wrthi. 7. Rhaid dadrewi bwyd yn drylwyr yn yr oergell a'i goginio'n dda, yn enwedig wyau, dofednod a chynhyrchion cig megis byrgers a selsig. 8. Dylech bob amser aildwymo gweddillion nes eu bod wedi'u twymo'n drylwyr cyn eu bwyta. 9. Peidiwch â gadael sbwriel yn y gegin. 10. Cadwch yr ystafell ymolchi a'r toiled yn hollol lân ar bob adeg - ond peidiwch â defnyddio'r un offer glanhau yn y gegin! 11. Ewch i weld eich meddyg os bydd gennych symptomau megis dolur rhydd, chwydu a phoen yn y bol. Gallwch gael gyngor ar fwyta'n iach ar ein gwefan, www.abertawe.gov.uk/healthyeating. Os yw'n well gennych fynd allan i fwyta, rydym yn cyhoeddi canlyniadau archwiliadau bwytai a chaffis. Ewch i www.food.gov.uk/ratings neu cadwch lygad am y sticeri a'r tystysgrifau yn eich hoff fwyty, siop cludfwyd, caffi neu dafarn. Gallwch hefyd lawrlwytho app yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel y gallwch weld sgôr pob lleoliad yn y fan a'r lle.
Gallwch gael cerdyn am ddim yn Swyddfeydd Rheoli Canol y Ddinas ar Stryd Plymouth (ar bwys Wilkinson) a Theatr y Grand neu yn swyddfeydd yr Evening Post, y Llanelli Star a'r Carmarthen Journal. Gallwch hefyd lawrlwytho'r cerdyn ffyddlondeb am ddim ar unrhyw ffôn clyfar neu ddyfais android gan ddefnyddio app Big Local Abertawe. Ar ôl i chi ei lawrlwytho, cliciwch ar logo Calon Fawr Abertawe (Big Heart of Swansea) ar y dudalen lanio, yna cliciwch ar ‘Talebau’ ('Vouchers') a dangoswch y cerdyn ar sgrîn eich ffôn i'r cynorthwy-ydd er mwyn elwa o'r cynnig. Am wybodaeth gyffredinol am y cerdyn a'r cynigion sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i ‘Mwy o Wybodaeth ('More Info'). Mae mwy o wybodaeth ar gael am y cerdyn ffyddlondeb yn www.calonfawrabertawe.co.uk neu gallwch lawrlwytho rhestr lawn o gynigion o www.canolyddinasabertawe.com/shopping/loyalty-card I lawrlwytho'r app yn syth i'ch ffôn neu'ch tabled, sganiwch y codau ymateb cyflym hyn.