Chweched Rhifyn Chwefror 2015
C
Cynnal Lles 6
roeso i rifyn arbennig y flwyddyn newydd Cynnal Lles, cylchlythyr y Tîm cynaladwyedd am faterion
Cynaladwyedd a Lles
yn y Brifysgol! Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys golwg ar uchafbwyntiau cynaladwyedd 2014, mae’n cyhoeddi hyrwyddwyr cynaladwyedd y tymor ac yn rhoi’r holl newyddion am gerrig milltir i chi, gan gynnwys canlyniadau Blacowt y Nadolig. Mwynhewch ei ddarllen ac mae croeso i chi gysylltu â ni yn sustainability@abertawe.ac .uk neu galwch heibio’r swyddfa yn ystafell 6 ar lawr gwaelod y Techniwm Digidol.
Golwg ar Uchafbwyntiau Cynaladwyedd 2014
www.swan.ac.uk/sustainability/
Cerrig Milltir Canlyniadau Blacowt Mawr y NADOLIG Ar 5 Rhagfyr, gwnaeth 4 aelod staff ac 11 myfyriwr wirfoddoli ar gyfer Blacowt Mawr y NADOLIG fel rhan o ymdrech barhaus y Brifysgol i wella arferion arbed ynni.
Gwnaed gwaith gwych gan y gwirfoddolwyr a aeth ati i gofnodi a diffodd dyfeisiadau diangen lle bynnag yr oedd modd a gwobrwyo staff am arbed ynni drwy roi losin iddyn nhw. Byddai'r digwyddiad wedi bod yn amhosib heb ddiwydrwydd a chefnogaeth frwd ein gwirfoddolwyr a Gwasanaeth Arlwyo'r Campws a ddarparodd pizzas blasus i bawb a gymerodd ran! Er bod ein harchwilwyr yn ceisio cofnodi cymaint o wybodaeth â phosib, nid yw bob amser yn hawdd. Penderfynodd rhai adeiladau gymryd rhan yn annibynnol yn y Blacowt yn hytrach na bod yn rhan o'r archwiliad ac mae’r canlyniadau arbed ynni, ar sail mesuryddion, wedi'u cynnwys yn y graff isod. Mae'r wybodaeth a gasglwyd yn ddarlun pwyllog o arferion arbed ynni a'r potensial i arbed ynni mewn adeiladau amrywiol ar y campws. Bu archwilwyr y Blacowt wrthi'n ofalus i gofnodi goleuadau, cyfrifiaduron, monitorau, argraffwyr,
gwefryddion ayyb heb eu diffodd, i ganfod canran yr ynni y gellid ei arbed pe bai dyfeisiadau diangen yn cael eu diffodd yn rheolaidd. Mae canlyniadau'r archwiliad yn dangos bod lle sylweddol i wella. Cafwyd y perfformiad gorau yn Adeilad Richard Price gyda staff yn diffodd 78% o'r holl ddyfeisiadau a gafodd eu harchwilio. Mae'r data o'r mesuryddion yn yr Abaty yn dangos, pe bai dyfeisiadau diangen yn cael eu diffodd, gallai'r Abaty gyflawni gostyngiad enfawr o 63% yn yr ynni mae'n ei ddefnyddio. Mae'r graff isod yn dangos y canlyniadau amrywiol iawn ar gyfer yr adeiladau a gafodd eu harchwilio a chanlyniadau’r mesuryddion. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Garbon, gall mabwysiadu mesurau arbed ynni syml (h.y. diffodd dyfeisiadau ymysg pethau eraill) leihau biliau ynni hyd at 20%. Mae Canllawiau i Swyddfeydd o eiddo’r Ymddiriedolaeth Garbon yn darparu cyngor defnyddiol ar sut i leihau defnydd o ynni ac arbed arian. Yn seiliedig ar ostyngiad cyfartalog posib o 5% yn ei defnydd o ynni, gallai'r Brifysgol arbed tua £26,000 ar ei bil trydan blynyddol drwy ddiffodd dyfeisiadau diangen mewn adeiladau a swyddfeydd academaidd. Gydag ymdrech bendant gan yr holl staff, gallem arbed hyd yn oed mwy o arian!
Cyfradd ddiffodd
Cyfradd Arbed Ynni
Mae'r gyfradd ddiffodd yn dangos arferion arbed ynni, a chaiff ei chyfrifo fel canran yr holl ddyfeisiadau trydanol a gofnodwyd a oedd wedi'u diffodd gan 78% ddefnyddwyr adeilad.
Mae'r gyfradd arbed ynni'n seiliedig ar yr ynni a ddefnyddiwyd - yn ôl mesuryddion - yn ystod penwythnos y Blacowt o'i gymharu â meincnod y defnydd cyfartalog dros ddau benwythnos blaenorol. 63%
56%
53%
33% 19%
12% 4% Richard Price
1% Tŵr Vivian
8% Keir Hardie
2% Haldane
Abbey
Cyllid
Y Llyfrgell
Newyddion gwych! Cafodd Prifysgol Abertawe ddosbarth cyntaf unwaith eto yng nghanlyniadau Cynghrair Prifysgolion People and Planet. Mae'r holl waith caled a wnaed y llynedd wedi dwyn ffrwyth wrth i Brifysgol Abertawe symud 18 safle i fyny'r tabl i'r 21ain safle. Mae'r Brifysgol wedi cael sgôr lawn yn y categorïau canlynol: Polisi amgylcheddol, staff amgylcheddol, system archwilio a rheoli'r amgylchedd ac addysg. Dyma gamp wych a fydd yn sbarduno'r Brifysgol i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n dal i'w hwynebu, fel lleihau gwastraff a charbon a gwella ein gweithdrefnau buddsoddi moesegol. I weld dadansoddiad llawn o'r sgorau, ewch i dabl cynghrair People and Planet.
Rhagor o newyddion da! Fis Hydref diwethaf, cynhaliwyd archwiliad allanol o'r Brifysgol ac mae wedi ennill achrediad ISO 14001 a statws Platinwm EcoCampws am yr ail flwyddyn yn olynol. O ganlyniad i ymdrechion diwyd a chydweithredu gan adrannau ar draws y Brifysgol, mae gweithdrefnau cynaladwyedd yn cael eu gwreiddio ymhellach ac yn parhau i wella gweithrediadau.
Cyflawni gyda'n gilydd
Hyrwyddwyr Cynaladwyedd y Tymor
Ym mhob rhifyn rydym yn cydnabod staff am eu hymdrechion i wneud eu gweithle, eu bywyd a'u cymuned yn fwy cynaliadwy. Hoffem ddiolch i'r
Hyrwyddwyr
Cynaladwyedd
am eu
cyfraniadau a'u mentrau arbennig. Yn y rhifyn hwn o ‘Cynnal Lles hoffem DDIOLCH i
Les Carmichael (Rheolwr Arlwyo) am ei waith arwrol yn plannu coed ar Fynydd Cilfái ym mis Hydref diwethaf. Cafodd Les ei fagu yng nghymuned St Thomas ac aeth ati o'i ben a'i bastwn ei hun i gadw ac adfywio rhan helaeth o ardal Mynydd Cilfái. Gyda chymorth ei bartner busnes, Darganfod a'r Tîm Cynaladwyedd arweiniodd Les fenter i blannu 130 o goed. Rhodd garedig yr Athro Tariq Butt oedd y pinwydd ifanc, enghraifft o gydweithrediad gwych rhwng gwahanol adrannau'r Brifysgol.
cefnogi a hyrwyddo'r casgliadau hyn gan arbed costau gwaredu i'r Brifysgol. O ganlyniad i lefel wych o gydweithredu, cymorth dosbarthu gan Carillion ac ymateb da i alwadau am ragor o roddion gan adrannau a staff unigol, mae'r Tîm Cynaladwyedd yn ystyried dynodi mannau casglu cyfarpar TG diangen fel y bydd staff yn gallu eu rhoi drwy gydol y flwyddyn. Ydych chi'n adnabod neu'n gweithio gyda rhywun yn y Brifysgol a ddylai gael ei gydnabod am ei gyfraniad at gynaladwyedd? Rhowch wybod i ni!
Hoffem glywed am eich ffrind neu'ch cydweithiwr a diolch iddo am ei fenter. Rhowch ei enw a disgrifiad byr i'r Tîm Cynaladwyedd.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich enwebiadau!
Mae'n rhaid DIOLCH yn arbennig i'r hyrwyddwyr prysur hyn: Claudio
Donofrio (ASTUTE) a Dr Natascha Kljun (Daearyddiaeth) am sefydlu'r prosiect ‘Cyfrifiaduron i Affrica’. Hyd yn hyn, mae tua 650 o eitemau cyfarpar TG sy'n addas i'w hailddefnyddio wedi'u rhoi i'r elusen Brydeinig, IT Schools Africa, sy'n adnewyddu hen gyfrifiaduron ac yn eu dosbarthu i ysgolion yn Affrica. Dros y ddwy flynedd diwethaf, bu Claudio a Natascha yn chwarae rôl allweddol wrth drefnu,
Mae Lles yn y gweithle’n yn bwysig
Dros y misoedd diwethaf, cynhaliodd y Tîm Cynaladwyedd arolwg lles ymhlith staff y Brifysgol er mwyn creu darlun o les yn y gweithle. Cafwyd ymateb da i'r arolwg lles gydag oddeutu 550 o staff yn ymateb. Mae eich atebion bellach yn cael eu dadansoddi ar sail gorfforaethol a fesul coleg/adran (yn ddienw) a bydd yr holl reolwyr yn derbyn adroddiad am faterion sy'n berthnasol i'w meysydd penodol a'r
Brifysgol. Diolch yn fawr iawn i'r holl staff sydd wedi llenwi'r arolwg. Rydym yn gwerthfawrogi'ch adborth a bydd yn cyfrannu at greu amgylchedd gwaith ysgogol i chi a'ch cydweithwyr. I gael mwy o syniadau am yr hyn sy'n gwneud i ni deimlo'n dda am ein gwaith, gwyliwch y sgwrs TED ddifyr hon gan yr economegydd ymddygiadol Dan Ariely
Ar y gweill eithio Bydi Tw h 'c i d y a oh ert e Dewcihch hun yn Ab e
GWYLIWCH AM Y GWDIHŴ Ydych chi'n hoff o wylio adar neu oes gennych lygad da am adnabod pethau? Os ydych, dyma her i chi! Mae Adran y Biowyddorau'n recriwtio myfyrwyr a staff newydd i wella ar ganlyniad y llynedd pan enillodd wobr gyntaf am adnabod 113 o rywogaethau adar ar diroedd y Brifysgol! Drwy gofnodi rhywogaethau adar a welir ar Gampws Singleton neu Dwyni Crymlyn a'r cyffiniau, gallwch ennill gwobrau mewn sawl categori (yn unigol ac fel prifysgol). Dyma gyfle gwych i feithrin sgiliau tacsonomig, dysgu technegau arolygu pwysig, cyfrannu at gynllun casglu data cenedlaethol ar gyfer dinasyddion er mwyn helpu i warchod rhywogaethau penodol A rhyfeddu at nifer y rhywogaethau adar sydd i'w gweld ar y campws!
Wyddech chi? Gallwch arbed hyd at £1000 y flwyddyn drwy rannu car. Chiliwch am eich bydi teithio i ddechrau arbed nawr. Mae'n hawdd ...defnyddiwch Gynllun Bydi Teithio Prifysgol Abertawe sydd newydd gael ei lansio. Drwy fewngofnodi i'r wefan rhannu taith ar ei newydd wedd, gallwch ddod o hyd i'r bydi teithio perffaith i rannu car, beicio neu gerdded.
Ni waeth beth yw'ch disgyblaeth, mae croeso i chi gyfrannu! Mae'n hawdd cofnodi'r adar rydych yn eu gweld a gallwch gymryd rhan ni waeth beth yw'ch sgiliau adnabod adar. Bydd Adran y Biowyddorau yn falch i'ch helpu wella'ch sgiliau adnabod. I gymryd rhan yn yr her, cysylltwch ag Emma Cole neu Dr Dan Foreman.
CYNNIG
HYFFORDDIANT AM DDIM
Mae Pythefnos Masnach Deg ar y Trothwy!
> Cyfle i flasu Coffi Masnach Deg Eros mewn nifer o leoedd arlwyo > Ffrwythau Masnach Deg am ddim gyda phob salad sy'n cael ei brynu (y Venue) > Raffl Gwin Masnach Deg (y Venue) > Dangosiad 'Black Gold (Caffi Fusion)
MIS Y G LON YR HER 10 MUNUD
“Mae 78% o'r cyhoedd yn y DU yn adnabod nod MASNACH DEG.”
PYTHEFNOS MASNACH DEG 2015 23 Chwefror – 8 Mawrth
GWRANDEWCH AR EU STRAEON, RHENNWCH EU STRAEON, NEWIDIWCH RAGOR O FYWYDAU.
Mae enwau enillwyr yr Arolwg Teithio wedi’u cyhoeddi! Fe’ch hysbysir os byddwch wedi ennill un ai Pryd Carferi i ddau, un o’n cloeon beic solet, neu lyfr o ‘10 tocyn diwrnod ’ ar gyfer Taith Fws First Cymru (gwerth £50).
Cofrestrwch ar gyfer Hyfforddiant Hyrwyddwyr Teithio Cynaliadwy gyda Jayne Cornelius!
Mae'r pwyslais eleni ar dynnu sylw at straeon y bobl sy'n cynhyrchu cynifer o'r nwyddau Masnach Deg rydym yn eu prynu bob dydd, gan gynnwys te, siwgr a choco. I gynyddu ymwybyddiaeth o'r cynhyrchwyr Masnach Deg hyn bydd Gwasanaeth Arlwyo'r Campws yn darparu nifer o gynigion a mentrau arbennig gan gynnwys:
Serch hynny, mae llawer o waith i'w wneud i sicrhau bod yr holl farchnadoedd yn deg - dim ond 1.2% o goco a llai na 10% o de sy'n cae ei fasnachu yn ôl telerau teg yn fyd-eang. Helpwch ni i gyflawni'r nod!
ENILLWYR
16-27 Chwefror 2015 Mis Chwefror yw Mis y Galon, y cyfle perffaith i chi a'ch cydweithwyr ofalu am eich calonnau a chymryd rhan yn Her 10 Munud Mis y Galon.
Ewch ati i gadw'n heini neu gwnewch newidiadau yn eich deiet - camau bach sy'n gallu arwain at ffordd iachach o fyw a gwella'ch lles yn y gweithle. Mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi creu pecyn cymorth gyda phopeth mae ei angen arnoch i herio pawb yn eich gweithle i wneud newid bach bob dydd am 10 niwrnod. Gall y 'llun gorau' a'r 'astudiaeth achos' orau sy'n cael eu derbyn erbyn 6 Mawrth 2015
ennill talebau Love2Shop gwerth £20! Cofrestru ar gyfer yr her i dderbyn eich pecyn cymorth