Seithfed Gyfrol
Cynnal Lles
Mehefin 2015
Croeso i seithfed rhifyn y cylchlythyr
Cynnal Lles sy’n cynnwys yr holl newyddion am gynaladwyedd a lles yn y Brifysgol! Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys trefniadau ailgylchu a chasglu gwastraff newydd y Brifysgol, gwybodaeth am deithio, y newyddion diweddaraf am y system reoli amgylcheddol a digwyddiadau sydd ar ddod. Mwynhewch ei ddarllen ac mae croeso i chi gysylltu â ni yn sustainability@abertawe.ac.uk neu galwch heibio ein swyddfa ar bedwerydd llawr Tŷ'r Undeb.
Gwobr Cynaladwyedd Myfyrwyr Hoffech chi hyrwyddo cynaladwyedd ar y campws? Drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau gwirfoddoli, byddwch yn cael profiad a sgiliau, yn ogystal â bodloni'r meini prawf i ennill Gwobr Cynaladwyedd y Brifysgol. Prosiectau sydd ar ddod: Cyfrifiaduron i Affrica Bwyd i fyfyrwyr llwglyd - Archwiliadau
EFFAITH WERDD MYFYRWYR Fel bob amser, roedd y myfyrwyr yn gymorth mawr, nid yn unig wrth gyflawni'r Effaith Werdd ar y cyd â'r staff, ond hefyd wrth archwilio timau staff ar y campws. Dechreuodd y diwrnod gyda chwrs hyfforddiant wedi'i gymeradwyo gan IEMA - 'Cyflwyniad i archwilio a gwerthuso newid mewn ymddygiad amgylcheddol'. Roedd yr hyfforddiant yn ymdrin â materion amgylcheddol mewn swyddfeydd, o ran defnydd ynni, rheoli gwastraff, caffael moesegol a chludiant cynaliadwy. Bu hefyd yn datblygu sgiliau archwilio proffesiynol, dadansoddi a meithrin perthnasoedd. Wedyn, cynhaliodd y myfyrwyr archwiliadau ar ran y Tîm Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd. Diolch yn fawr i'r holl fyfyrwyr hynny a gyfrannodd eu hamser ac am eu hagwedd broffesiynol.
Ailgylchu cynllun Papur, cardbord, papur newydd etc.
gwastraff ac ynni. Gallwch ennill gwahanol lefelau o'r wobr (Efydd, Arian ac Aur) bob blwyddyn academaidd. Mae'r cynllun ar agor i unrhyw fyfyriwr. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am hyn neu gofrestru ar gyfer y wobr, e-bostiwch sustainability@abertawe.ac.ukOs nad oes gennych ddiddordeb yn y wobr ond os hoffech chi gefnogi cynaladwyedd ar y campws ac oddi arno, gallwch gofrestru i fod yn Llysgennad Cynaladwyedd.
7
Poteli a chynwysyddi
Newyddion Da:
Cynyddodd ein cyfradd ailgylchu'r llynedd o 36% i 41% (2013/2014)
TARGED: ailgylchu 50% o'n gwastraff erbyn 2016. Ar y chwith gwelir y cynllun ailgylchu wedi'i ddidoli newydd ar gyfer Campws y Bae. Caiff y cynllun hwn ei g yflwyno fesul cam ar Gampws Singleton hefyd er mwyn i ni gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddiweddaraf. Bydd y broses hon yn dechrau gyda Thŷ'r Undeb, Tŷ Fulton a Gwyddor Data yn hwyrach yn 2015 a chaiff ei chyflwyno i ardaloedd eraill y campws fesul cam. Mae'r Brifysgol yn benderfynol o wella ei chyfraddau ailgylchu drwy ddidoli deunyddiau i ddechrau, yn hytrach na system 'ailgylchu cymysg'.
GWASTRAFF BWYD: Alwminiwm a thun, tuniau bwyd (wedi'u golchi)
Poteli a jariau gwydr
Am y tro cyntaf, bydd gwastraff bwyd yn cael ei gasglu ym Mhrifysgol Abertawe, gan ddechrau yn hwyrach yn 2015. Caiff biniau a blychau gwastraff bwyd eu gosod yn yr holl fannau arlwyo ac yn y prif ardaloedd cymunedol. Ar hyn o bryd, mae gwastraff bwyd ar y campws yn cael ei friwio neu ei anfon i safle tirlenwi. Gyda'r cynllun newydd, caiff gwastraff bwyd ei gompostio, yn unol ag arfer gorau. Yn dilyn llwyddiant y cynllun casglu gwydr yn y neuaddau, bydd y Brifysgol yn ychwanegu rhagor o fannau casglu gwydr ar draws ardaloedd eraill y campws. Yn dilyn llwyddiant y cynllun casglu gwydr yn y neuaddau, bydd y Brifysgol yn ychwanegu rhagor o fannau casglu gwydr ar draws ardaloedd eraill y campws.
www.swan.ac.uk/sustainability/
Cerrig Milltir HYRWYDDWY
Ar ddiwrnod rhyngwladol Bioamrywiaeth, trefnwyd taith gerdded dywys ar Gampws Singleton gan Dîm y Gwasanaethau Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd a Thîm Ymchwil Ecoleg Abertawe i gynyddu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth ar y campws a'i heffaith ar les dynol. Daeth staff
Mae'n
bleser gennym gyhoeddi mai'r Coleg Peirianneg yw hyrwyddwr y chwarter hwn. Mae symud i Gampws y Bae yn her fawr i'r Coleg ac maent wedi rhoi rhai trefniadau gwych ar waith i leihau eu heffaith. Elusen Llyfrau: Drwy sêl lyfrau myfyrwyr, llwyddodd y Coleg, nid yn unig i gael gwared ar hen lyfrau, ond i godi £90 i Bartneriaeth Abertawe-Siavonga drwy roddion gwirfoddol. Bydd
o bob rhan o'r campws i archwilio'r amgylchedd. Y Feithrinfa'n edmygu bioamrywiaeth: Aeth plant o feithrinfa Undeb y Myfyrwyr ar daith addysgol i'r Tŷ Gwydr a'r twnnel polythen yng ngerddi botaneg y Brifysgol.
Book Harvest yn casglu llyfrau dieisiau eraill. Celfi:Maen nhw'n
cael gwared ar gelfi diangen mewn modd moesegol a chynaliadwy drwy weithio gyda grwpiau ieuenctid, eglwysi a sefydliadau elusennol lleol. Cyfrifiaduron: Caiff cyfrifiaduron dieisiau eu rhoi i ysgolion lleol a hefyd i ysgolion yn Affrica. Ailgylchu CDs: Mae CDs a DVDs dieisiau yn cael eu casglu i'w hailgylchu gan Polymer Recycling Ltd. Mae'r disgiau'n cael eu hailgylchu drwy ddull heb gemegau sy'n cael gwared ar y paent, yr alwminiwm a'r data fel y gellir eu hailddefnyddio fel deunydd inswleiddio. Caiff y disgiau glân eu gronynnu, eu cymysgu a'u cyfuno i greu polycarbonad o ansawdd uchel ar gyfer mowldio chwistrell.
Llongyfarchiadau i'r Coleg Peirianneg a diolch yn fawr i Dr Miles Willis am ddarparu'r wybodaeth
TEITHIO Roedd mis Mai yn fis pwysig i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Cyhoeddwyd y trefniadau teithio i fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn astudio 15/16 yng nghylchgrawn Waterfront a thrwy gyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd marchnata. Dyma ffaith ddefnyddiol i fyfyrwyr a fydd yn teithio rhwng y ddau gampws. Llosgwch Galorïau i Arbed Carbon: Y pellter rhwng y campysau yw 6 milltir. Eisiau manteisio i'r eithaf ar hyn? Llosgwch galorïau ac arbedwch allyriadau carbon drwy feicio'r ddwy ffordd! Os ydych yn beicio'r pellter hwn 5 niwrnod yr wythnos, byddwch yn llosgi tua 5606 o galorïau! Mae hynny'n cyfateb i 14.02 o oriau yn y gampfa. Drwy beidio â defnyddio'r car, byddwch yn arbed tua 428 kg o CO2 mewn blwyddyn.
1
Gostyngiad o £90 ar bris presennol tocyn bws! Bydd tocyn y Flwyddyn Academaidd i fyfyrwyr sy'n teithio yn Abertawe a rhwng campysau bellach yn costio £300
5
Gellir prynu tocynnau bws o'r Siop Deithio yn Nhŷ Fulton neu drwy ap 'mTicket' First Cymru sydd ar gael i'w lawrlwytho o Google Play neu'r App Store.
2
Bydd gwasanaethau bysus yn rhedeg yn fwy aml hefyd. Bydd y bysus yn dechrau o 6.30am gyda'r gwasanaeth olaf am 23.30 yn ystod y tymor a bydd gwasanaethau ychwanegol tan 02.00am yn cysylltu Singleton, Hendrefolan a Champws y Bae ddydd Mercher, dydd Iau , dydd Gwener a dydd Sadwrn (darperir y gwasanaeth ar sail arbrawf - os na chaiff ei ddefnyddio, caiff ei dynnu'n ôl)
4
Mae'r ddau gampws wedi'u cysylltu gan lwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a gaiff ei weddnewid cyn i Gampws y Bae agor.
3
Bydd beiciau ar gael i'w benthyca am ddim gan BayCycle am hyd at 3 awr ar Gampws Singleton a bydd y gwasanaeth hwn ar gael hefyd ar Gampws y Bae.
Ar Ddod Archwiliadau Mewnol
Effaith Breswyl
Cynhelir trydydd cylch archwiliadau mewnol y System Reoli Amgylcheddol rhwng mis Mehefin a mis Medi 2015. Gallwch gael y dyddiadau ar gyfer eich Coleg/Adran gan eich cydlynydd amgylcheddol.
Mae ein preswylfeydd yn trefnu casgliad elusennol parhaus drwy gydol y flwyddyn ar gyfer myfyrwyr mewn neuaddau preswyl. Mae man casglu ychwanegol ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan, y tu allan i'r dderbynfa (tŷ 40) a'r tu allan i Breseli rhwng mis Mai a mis Awst. Casgliadau bwyd: o wythnos gyntaf mis Mehefin, bydd man casglu bwyd yn nerbynfeydd Preseli a Phentref Myfyrwyr Hendrefoelan: mae'n rhaid ei fod yn fwyd na fydd yn pydru, y pecyn heb ei agor, a'r dyddiad defnyddio heb ddarfod. Caiff yr eitemau eu rhoi i hostel Prosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe, Drws Agored, ac i loches Cymorth i Fenywod leol.
Hyfforddiant cynnal a chadw beic Beth: Sesiynau hyfforddiant beic un i un ar gyfer staff Pryd: 15 Mehefin, gan ddechrau am 10:00am gyda sesiynau dilynol yn dechrau bob awr [11,12... ] a’r un olaf am 17:00. Ble: O flaen Tŷ Fulton Bydd pob sesiwn yn para tua 45 munud a chaiff ei haddasu yn ôl dewis a gallu'r unigolyn. Bydd pob sesiwn yn un i un yn hytrach na mewn parau. I gael manylion pellach am yr hyfforddiant cynnal a chadw beic, ewch i'r dudalen hon http://www.cycletrainingwales.org.uk/maintenance/
Ffarwel i'r Effaith Werdd! Eleni oedd y tro olaf i ni gynnal rhaglen yr Effaith Werdd. SHE yn gweithio ar gynllun newydd ac ehangach o ymgysylltu â staff dros y misoedd nesaf. Dros y tair blynedd diwethaf, rydym yn amcangyfrif bod timau'r Effaith Werdd wedi arbed tua £75,358 a 271 o dunelli o garbon i'r Brifysgol. Ar 5 Mehefin 2015 dathlodd y timau Effaith Gwyrdd yr effaith gadarnhaol y buont yn rhan ohoni, gyda BBQ yn yr ORACLE yn y gerddi botanegol. Dyma gipolwg.
Cyfrifiaduron dros ben? Cyfrifiaduron i Affrica Oes gennych gyfrifiaduron dros ben yr hoffech gael gwared arnynt? Rhowch wybod i ni drwy e-bostio: sustainability@abertawe.ac.uk Cadwch ddyddiad yn eich dyddiadur i gael gwared ar gyfrifiaduron dieisiau sy'n dal i weithio. Byddwn yn eu casglu yng nghanol mis Mehefin.